Tag: Senedd

Steddfod yn y Senedd

Yn ystod mis Awst 2018, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o chwarae rhan hanfodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni drwy gynnal amrywiaeth o arddangosfeydd, trafodaethau a digwyddiadau a oedd yn ymdrin â bywyd Cymru.

Wedi’i galw’n Eisteddfod heb ffens, daeth y Senedd yn gartref i’r Lle Celf a Phafiliwn y Cymdeithasau.

Eisteddfod yn y Senedd

Mae’r Eisteddfod wedi cynnal arddangosfa celf a chrefft ar ryw ffurf ers 1865. Y dyddiau hyn, mae’r Lle Celf yn cynnwys arddangosfa aml-gyfrwng o gelfyddyd gain a chelfyddyd gymhwysol gyfoes, a dathliad o bensaernïaeth yng Nghymru.

Ymysg yr arddangosion eleni oedd serameg ddeniadol Jin Eui Kim, enillydd Gwobr Tony Globe 2018, paentiadau Philip Watkins o fywyd y cymoedd a darnau seramig a phren Zoe Preece, enillydd Medal Aur 2018 a gwobr Dewis y Bobl, ynghyd â llawer o ddarnau eraill a oedd yn ysgogi meddwl.

Gan orchuddio llawer o lawr y Senedd, gallwch wylio gosodiad enfawr André Stitt yn cael ei adeiladu yn y fideo treigl amser hwn:

Cynhaliodd Pafiliwn y Cymdeithasau yn y Cynulliad drafodaethau ar faterion a oedd yn cynnwys cyni, rôl menywod ym maes gwleidyddiaeth, pleidleisio yn 16 oed, democratiaeth a’r celfyddydau, diwygio etholiadol a chyfiawnder yng Nghymru.

Os gwnaethoch eu colli y tro cyntaf, gallwch eu gwylio eto yma:

Democratiaeth a’r Celfyddydau: effaith y naill ar y llall
Mae Democratiaeth a’r Celfyddydau yn chwarae rôl ganolog ym mywydau pobl Cymru – ond sut maent yn effeithio ar ei gilydd?
Cadeiriodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, banel trafod yng nghwmni Bethan Sayed AC, sef Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad, yr arlunydd Elin Meredydd, ac Eddie Ladd, cyflwynydd ac artist dawnsio a pherfformio blaenllaw.

Mae democratiaeth a'r celfyddydau

Barod am y bleidlais?
Digwyddiad mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol yw hwn, yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau yng Nghymru. Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru, yng nghwmni’r panelwyr: Elin Jones AC, y Llywydd; Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a phobl ifanc gan gynnwys Ethan Williams, Is-lywydd Urdd Gobaith Cymru ac Is-gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, Fforwm Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.

Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth
Nodwyd 100 mlynedd ers yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau’r bleidlais i fenywod, ac ymunodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Dr Elin Jones yr hanesydd, i drafod dylanwad menywod ar wleidyddiaeth yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol. Bethan Rhys Roberts, y newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu, oedd yn cadeirio.

Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth

Aeth 6,948 o bobl i ddigwyddiadau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos.

I bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, daeth y Pierhead yn gartref i Shw’mae Caerdydd – y ganolfan i gael gwybodaeth am y Gymraeg – yn ystod yr ŵyl. Roedd y sesiynau’n cynnwys trafodaeth am dafodieithoedd Cymru, yn ogystal â gweithdai o ddawnsio’r glocsen i wneud hetiau.

Ddydd Gwener 10 Awst, roedd Elin Jones, y Llywydd, ymhlith y rhai a anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd, yn ogystal â Jamie Roberts, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a Geraint Jarman, y cerddor, a chyflwynwyd y wisg las iddi am ei gwasanaeth i’r wlad.

Y Lle Celf yn y Senedd, Barod am y bleidlais? Gorsedd y Beirdd

Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn y Senedd yn ystod yr wythnos oedd y cyfle i ymweld â Siambr drafod y Cynulliad lle, am y tro cyntaf, y gallai ymwelwyr gael llun ohonynt eu hunain yn sedd y Llywydd. Manteisiodd mwy na 5,595 o bobl ar y cyfle unigryw hwn i gymryd rôl y Llywydd dros dro, a phrofi sut beth y gallai goruchwylio trafodion yn y Siambr fod.

 

 

 

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cynhaliwyd digwyddiad hefyd i groesawu Geraint Thomas adref, gan ddathlu ei gyflawniad rhyfeddol o fod y Cymro cyntaf erioed i ennill y Tour de France.

Cafodd Geraint ei groesawu gan Elin Jones, y Llywydd, yn ei derbyniad blynyddol yn yr Eisteddfod, cyn cael ei gyfarch gan Catrin Heledd, Band Pres Llareggub, y band Siddi ac, yn olaf, y miloedd o gefnogwyr cyffrous a oedd wedi ymgynnull ar risiau’r Senedd.

Geraint-Thomas-Senedd

Yn ystod yr Eisteddfod, croesawyd mwy na 18,000 o ymwelwyr i’r Senedd, ac nid oedd mwy na hanner ohonynt wedi ymweld â’r Cynulliad o’r blaen, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael ag ychydig mwy o wybodaeth am sut y mae datganoli yng Nghymru yn gweithio.

Diolch yn fawr i’n partneriaid, sef y Comisiwn Etholiadol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Academi Morgan, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac, wrth gwrs, yr Eisteddfod am wneud y digwyddiadau yn ystod yr wythnos mor llwyddiannus.

Fe’ch gwelwn yn Llanrwst!

 

Artistiaid Y Lle Celf eleni oedd: Justine Allison, Billy Bagilhole, Jo Berry, Kelly Best, Zena Blackwell, Steve Buck, Ray Church, Nerea Martinez de Lecea, Cath Fairgrieve, Mark Houghton, Gethin Wyn Jones, Jin Eui Kim, Anna Lewis, Laura Lillie, Gweni Llwyd, James Moore, Marged Elin Owain, Zoe Preece, Glyn Roberts, John Rowley, André Stitt, Caroline Taylor, Jennifer Taylor, Sean Vicary, Adele Vye, Philippa Watkins a Casper White

 

Dathlu Ymrwymiad y Cynulliad i Gynaliadwyedd ar gyfer Awr Ddaear

‘Gwnewch addewid i’r blaned’ yw’r thema ar gyfer Awr Ddaear eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn 24 Mawrth rhwng 20:30 a 21:30. Bydd y Cynulliad yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni drwy ddiffodd goleuadau’r Senedd, Ty Hywel a’r Pierhead. Mae llawer o’n Haelodau hefyd wedi gwneud addewid i WWF (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd) i gefnogi’r ymgyrch.

Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni yn y Cynulliad, ac rydym wedi gosod cyfrifoldeb i ni leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol yn ein holl weithgareddau. Darllenwch fwy am sut yr ydym yn ymdrechu i wneud y Cynulliad yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Sut rydym yn sicrhau bod y Senedd yn gynaliadwy

Gwresogi

System gwresogi geothermig sy’n cael ei defnyddio i helpu i wresogi’r Senedd. Mae dŵr yn cael ei bwmpio 100 metr i lawr drwy 27 o dyllau turio lle mae gwres naturiol y ddaear yn ei dwymo. Yna, caiff y dŵr ei bwmpio yn ôl i help i yn ein system gwresogi. Cefnogir y broses hon gan boeler biomas sy’n defnyddio pren sy’n gynaliadwy o bob cwr o’r DU i ddarparu ffynhonnell tanwydd gymharol garbon niwtral.

Ym misoedd twymaf y flwyddyn, mae’r system yn gweithio fel arall. Wrth i’r dŵr gael ei bwmpio i lawr, mae’r ddaear yn gweithredu fel dalfa gwres. Yna, bydd y dŵr oer yn cael ei bwmpio’n ôl i oeri’r adeilad.

Casglu dŵr glaw

Mae system casglu dŵr glaw y Senedd yn cael ei defnyddio yn y toiledau ac i lanhau’r adeilad. Mae hyn yn gweithio mor dda bod yr adeilad angen gwerth tua £40 o ddŵr y prif gyflenwad yn unig bob mis.

Caiff dŵr glaw sy’n disgyn ar do’r Senedd ei sianelu i du blaen yr adeilad. Yna mae dwy bibell yn ei gludo i danc lle mae’n cael ei hidlo trwy oleuadau uwchfioled (UV). Yna mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y toiledau neu i lanhau’r ffenestri.

Mae rhagor o wybodaeth am ein harferion cynaliadwy ar gael yma.

Ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig

Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae defnyddio llai o blastig yn fater byd-eang pwysig ac mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cwpanau coffi plastig ar ystâd y Cynulliad, tra’n ymrwymo i gael gwared â phlastigau tafladwy eraill dros y 6 mis nesaf lle bynnag y bo modd.

Prif bwyntiau cynaliadwyedd y Senedd

  • Dyfarnwyd safon ardderchog BREEAM i’r Senedd am ei nodweddion amgylcheddol yn y cyfnod dylunio.
  • Caiff y Senedd ei gwresogi gan gyfuniad o bwmp gwres o’r ddaear a sglodion pren a geir yn gynaliadwy, gyda nwy wrth gefn.
  • Mae’r pwmp gwres o’r ddaear yn y Senedd yn cynnwys 27 o dyllau turio wedi’u drilio 100m i’r ddaear – maent yn caniatáu i ni dynnu rhywfaint o wres ar ddiwedd yr haf, a gwrthdroi’r broses i helpu i oeri’r adeilad yn y gwanwyn.
  • Mae’r system casglu dŵr glaw yn golygu bod angen prynu gwerth tua £40 o ddŵr o’r prif gyflenwad yn unig bob mis.
  • Mae defnyddio’r system gwresogi biomas wedi arbed mwy na 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu cynhyrchu ers adeiladu’r Senedd.
  • Mae’r Senedd yn cael ei hawyru’n naturiol; mae’r ffenestri’n agor eu hunain i newid tymheredd yr aer neu roi mwy o ocsigen i’r ystafelloedd.
  • Mae’r cwfl ar do’r Senedd yn creu gwasgedd aer negyddol. Mae hyn yn caniatáu i awyr iach gael ei dynnu i fyny drwy’r adeilad, ac yn golygu nad oes angen ei oeri’n artiffisial yn ystod y misoedd cynhesach.
  • Mae gosod goleuadau LED yn lle llawer o hen oleuadau’r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi arbed mwy na 50 tunnell o CO2.
  • Mae’r ffaith bod llawer o wydr ac arwynebau adlewyrchol yn y Senedd yn golygu bod angen llai o oleuadau artiffisial. Os edrychwch i fyny pan fyddwch chi’n ymweld â’r Neuadd neu’r Oriel, ac mae’n eithaf tebygol y gwelwch fod y goleuadau i ffwrdd yn ystod y dydd.

Rydym wedi cael gwared â chwpanau coffi tafladwy, ac rydym yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy gan gynnwys biomas, pwmp gwres ddaearol, ac yn fuan yn newid i drydan tariff gwyrdd.

Rydym yn gosod pwyntiau codi cerbydau trydan yr wythnos hon, ac yn archwilio’r posibilrwydd o gar pwll trydan.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r plastig tafladwy yn raddol lle bynnag y bo modd dros y 6 mis nesaf, a chompostio ein holl wastraff bwyd, gan gynnwys hynny o ddigwyddiadau.

Ymunwch â’r sgwrs yn ystod Awr Ddaear eleni gan ddefnyddio #AwryDdaear / #EarthHourWales a chadwch lygad am y diffodd byd-eang am 8.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr agweddau amgylcheddol ar waith y Cynulliad, ewch i dudalennau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG.

Sudan yn cwrdd â Chymru: Beth y gall Senedd Sudan ei ddysgu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru?

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â menter pwrpas cymdeithasol, Global Partners Governance (GPG), i rannu arfer gorau â Senedd Sudan. Fel rhan o’r berthynas hon, penderfynwyd y byddai ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru o fudd i grŵp bach o Aelodau Seneddol a staff o Sudan.

img_2168

Paratowyd rhaglen diwrnod a hanner o hyd ar gyfer y cynrychiolwyr. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau ar y meysydd pwnc canlynol:

Datblygiad Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad

Hyd yn hyn, nid yw Senedd Sudan wedi sefydlu Gwasanaeth Ymchwil. Atgyfnerthodd y sesiwn hon werth cael Gwasanaeth Ymchwil diduedd i gefnogi Aelodau’r Cynulliad yn eu rôl. Roedd gan y cynrychiolwyr ddiddordeb mawr yn y templedi a’r ‘rheolau euraid’ y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn eu defnyddio yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Defnyddiwyd enghreifftiau yn y sesiwn hon i ddangos sut y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth y Pwyllgorau i gefnogi ei waith. Roedd y cynrychiolwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am hyn a dangoswyd diddordeb mawr ym mhob agwedd ar y sesiwn.

Sut mae’r Cynulliad yn ymgysylltu â Dinasyddion Cymru a Chysylltu Ymgysylltiad Cyhoeddus â Busnes y Cynulliad

Dangosodd y sesiwn hon pa mor bwysig yw ymgysylltu â’r cyhoedd a chanfyddiad y cyhoedd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a pha ddulliau sy’n cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd targed.

Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Roedd hwn yn gyfle i gael ymweliad addysgol ac i gwrdd â phlant ysgol sy’n cymryd rhan. Rhoddwyd trosolwg hefyd iddynt o Wasanaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad. Dangoswyd diddordeb arbennig yn y gwaith o sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn cymryd rhan.

Continue reading “Sudan yn cwrdd â Chymru: Beth y gall Senedd Sudan ei ddysgu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru?”

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored

Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead


Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma le mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd


Yn adeilad dirnod eiconig  ym Mae Caerdydd, y Senedd yw galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?

Mae dwy daith yn cael eu cynnal ar 30 Medi am 11:00 a 14.00.

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Mae’r daith am 11:00 yn LLAWN ond mae llefydd ar gael ar y daith 14.00.

Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 30 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i’r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae’r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw’r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o’r tu mewn a’r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae’r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae’n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch:

“Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai’r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio’u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau’r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy’r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o’r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i’r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi’r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio’r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi’r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o’r Bae drwy ffenestri’r Senedd. Y drws nesaf i’r caffi mae siop y Senedd, sy’n cynnwys detholiad o’r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy’n gysylltiedig â’r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​

Nid oes tâl i fynd i mewn i’r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio’ch penwythnos yma. Ewch i’r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Dechreuwch eich gyrfa mewn diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i’n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.

Swyddogion Diogelwch

Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’n ymweld ag ef a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r ystad.

Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael, cysylltwch â ni.

A oes gennych ddiddordeb? 

Ein Swyddogion Diogelwch Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle i chi.

Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?

“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy’n hoffi siarad â’r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane

“Mae’n wych i deuluoedd ac mae’r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol.”
Dean

Agoriad swyddogol y pumed Cynulliad

Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru – y Senedd a’r Pierhead – a gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio i’r Cynulliad?

“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy’r amser.”
Shane

Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Olympiaid a pharalympiaid Cymreig

Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?

Yn ogystal â monitro’r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae’r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau Trip Advisor a Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:

“… swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr …”

 “… swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog …”

“Mae’r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw’n dweud “Croeso i adeilad Cynulliad Cymru … ” gyda gwên gyfeillgar y mae’n cael effaith dda.”

 Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?

“Yr Agoriad Brenhinol – bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog”. Dean

“Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae’n un o fy arwyr”. Shane

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am y swydd?

“Mae’r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein Tudalennau Recriwtio.

 

Recriwitio ar gyfer Swyddogion Diogelwch ar hyn o bryd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.

Cor meibion yn y Senedd