Tag: Sector Cyhoeddus

GovCampCymru 2015 #gccy15, Pierhead

Eleni, cynhaliodd GovCampCymru ei ail ddigwyddiad yn y Pierhead, sy’n rhan o ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.

Mae GovCamp yn ddigwyddiad lle mae pobl yn dod at ei gilydd i drafod, i greu ac arloesi, ac i edrych yn benodol ar sut y gall technoleg, syniadau modern a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.

Cynhelir y digwyddiad GovCamp ar sail ‘anghynhadledd’, lle y penderfynir ar yr agenda gan bobl sy’n cynnig pynciau ar gyfer gweithdai neu drafodaethau ar y diwrnod.

Mae’r digwyddiad yng Nghymru yn cael ei gydlynu gan y Satori Lab, gyda chymorth ugeiniau o wirfoddolwyr a noddwyr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trosolwg o’r hyn a drafodwyd ar y diwrnod, edrychwch ar Nodiadau’r Sesiwn Google Doc .

Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus a bod diddordeb gennych mewn cadw’r fflam arloesi a thrafodaeth i danio rhwng digwyddiadau blynyddol, mae Satori Lab wedi trefnu Sesiwn Bara Brith (a ddeilliodd o ganlyniad i un o’r sesiynau).

Roedd nifer o staff y Cynulliad yn bresennol yn y digwyddiad eleni – pob un â diddordeb mewn agweddau gwahanol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma eu sylwadau am y diwrnod.

 

Dean George, Rheolwr y Cyfryngau Digidol

150926-GovCampCymru-144

Dyma fy mhrofiad cyntaf o ‘anghynhadledd’, ac fe wnes i fwynhau rhyddid y drafodaeth sydd ar gael i bawb sydd yno yn fawr. Mae’n sicrhau mai dim ond pobl sydd â gwir ddiddordeb sy’n cynnal deialog â chi a’ch bod, o ganlyniad, yn cael rhai syniadau rhyfeddol. Y peth gwych am anghynhadledd yw y gall y sgyrsiau gorau ddigwydd rhwng sesiynau, efallai wrth siarad dros baned o goffi. Nid yw’r rhain yn ‘seibiannau rhwydweithio’ a gaiff eu gorfodi, ond maent yn hamddenol braf ac yn ddadleuon difyr, ysgogol y bydd yn rhaid eich tynnu i ffwrdd oddi wrthynt ar adegau. Mae’n werth nodi hefyd bod pobl sy’n aberthu eu dydd Sadwrn yn sicr o deimlo rhywfaint o angerdd dros yr achos hwn.

Treuliais sesiwn y bore yn siarad am dechnoleg lleferydd-i-destun Cymraeg. Cysylltwch â Gareth Morlais (@melynmelyn) os oes gennych syniadau am hyn. Hefyd bûm yn gwrando ar sesiwn, dan arweiniad y Cynulliad, ar sut y gallem wneud cynnyrch pwyllgorau’r Cynulliad yn fwy deniadol i gynulleidfa ehangach. Mae’n ymddangos fod cael cyfrifon ar wahân ar gyfer Pwyllgorau gyda gwahanol gylchoedd gwaith ar Twitter yn cael ei groesawu’n fawr, ond mae angen i ni wneud rhagor i wneud yr ochr gofnodi hyd yn oed yn fwy deniadol. Efallai bod ein hadroddiadau yn y Llechen yn gam yn y cyfeiriad cywir.

Yn bendant mae ‘anghynhadledd’ o’r math hwn yn ffordd dda o wneud yn fawr o’ch amser i ffwrdd o’r ddesg, a byddwn i’n hoffi ei weld yn cael ei fabwysiadu’n eang ar draws y sector cyhoeddus. Beth am ddefnyddio’r dull ar gyfer eich diwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf i staff!

 

Helia Phoenix, Uwch Reolwr y Cyfryngau Digidol

150926-GovCampCymru-121

Hwn oedd fy nhrydydd digwyddiad GovCamp. Rydw i wedi bod i un yn Llundain a dau yng Nghymru. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond mae wedi bod yn llawer gwell gen i’r cynadleddau a gynhaliwyd yng Nghymru. Roedd cynnwys y digwyddiadau yn ddigon amrywiol i annog pobl i fynychu sesiynau ar bethau efallai na fyddant yn gwybod amdanynt, ac yn ogystal maent, wrth gwrs, yn ymdrin â’r cyd-destun Cymreig, sy’n eu gwneud yn wahanol i gynadleddau GovCamp yn Lloegr/y DU.

Mae siarad am sut i wella pethau, gyda phobl o Gymru a thu hwnt, yn ffordd wych o dreulio’r diwrnod!

Bûm yn bresennol mewn sesiynau diddorol drwy gydol y dydd, a sesiwn arbennig eleni oedd yr amser a dreuliwyd yn y dafarn ar ôl y sesiynau ffurfiol, yn cael eglurhad ar y blockchain gan Sym Roe o’r Clwb Democratiaeth a James Cattell o Swyddfa’r Cabinet.

Kevin Davies, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd

150926-GovCampCymru-273

Aeth Helia a minnau i GovCampCymru y llynedd, a’i hoffi’n ddigon, nid yn unig i fynd eto, ond roeddem yn teimlo hefyd y byddai’n fuddiol iawn i gynnal GovCamp yn y Cynulliad Cenedlaethol, a chael mwy o bobl o’r Cynulliad i fod yn rhan o’r diwrnod. Y tro hwn, ymunodd un neu ddau o bobl o’r tîm ar-lein a thîm y cyfryngau cymdeithasol yn ein hadran, a chynrychiolwyr o’r timau Cyfieithu a Chofnodi, a Deddfwriaeth.

Roedd yn wych i fod yn rhan o’r digwyddiad unwaith eto. Y peth a oedd yn fy nharo y llynedd oedd pa mor wych ydoedd i gael cynifer o bobl gadarnhaol a gwybodus yn yr un ystafell ar yr un pryd, pobl a oedd yn ddigon angerddol i roi o’u hamser ar ddydd Sadwrn. Mae’n ffordd wych o rannu syniadau ymarferol – yn ogystal ag o fynd i ddadleuon ideolegol enfawr! Roedd yr awyrgylch yr un fath eleni, ac fel y llynedd, cafodd cymysgedd da iawn o faterion eu trafod, gan gynnwys hygyrchedd cynnyrch cofnodi pwyllgorau, sut i wneud cynnydd o ran yr agenda digidol yng Nghymru, hyrwyddo etholiadau, a dyfodol democratiaeth … llawer o bethau i fynd i’r afael â hwy mewn gweithdai a barodd gwta bedair awr!

Tom Jackson, Clerc Tîm Cymorth Craffu

150926-GovCampCymru-199

Roeddwn i’n cynnal gweithdy ar ‘Gofnodi Gwell? Gwella hygyrchedd o ran cynnyrch pwyllgorau. ‘ Nod gwreiddiol y sesiwn hon oedd ceisio cael amrywiaeth o syniadau ynglŷn â sut y gallem sicrhau bod cynnyrch craffu pwyllgorau yn fwy hygyrch / deniadol /yn haws ei ddefnyddio, gyda ffocws arbennig ar ffyrdd mwy arloesol o gyhoeddi gwybodaeth, a sut y mae llwyddiant y dulliau hynny’n cael eu gwerthuso. Fodd bynnag, yn unol â natur GovCamp, ni ddilynodd y drafodaeth y trywydd hwn yn benodol. Yn hytrach, un o themâu’r sesiwn oedd, mai problem fwy ar gyfer y Cynulliad oedd sut yr ydym yn dewis deunydd ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, yn hytrach na sut y byddwn yn ei gyflwyno.

Awgrymodd y rhai a oedd yn bresennol bod tair cynulleidfa wahanol ar gyfer cynnyrch pwyllgorau:

  1. Gweinidogion y Llywodraeth / Gweision Sifil, y mae angen iddynt gael eu hargyhoeddi ynghylch dilysrwydd argymhellion (gyda thystiolaeth o’u plaid / yn eu herbyn);
  2. Pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, sydd eisiau gwybod pa wahaniaeth y mae eu tystiolaeth / fewnbwn wedi’i wneud i gasgliadau’r Pwyllgor. Gall fod yn werth gofyn i bobl o’r fath sut y maent am i’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno. Efallai y bydd rhai pobl am gael y wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn fformat Hawdd i’w Ddarllen;
  3. Y cyhoedd yn ehangach – a allai fod â mwy o ddiddordeb gwybod ‘beth sy’n digwydd nesaf,’ na gwybod am yr hyn yr argymhellodd/ adroddodd y Pwyllgor. Bydd y bobl hyn yn gweld bod jargon yn anodd iawn i’w ddeall. Eu prif ddiddordeb fydd darganfod sut y gall ymatebion y Llywodraeth i waith craffu pwyllgor effeithio ar eu bywydau hwy. Efallai y bydd ateb y cwestiwn hwn yn gofyn am well rhwydwaith / cyswllt rhwng “y bobl sy’n ysgrifennu adroddiadau” a’r “bobl sy’n cyflawni’r argymhellion.”

 

Gruffydd Jones, Dirprwy Reolwr Newid a Gwella Busnes, yr Adran Gyfieithu a Chofnodi

O ran technoleg iaith, cynhaliwyd sesiwn ddiddorol gan Gareth Morlais o Lywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o weithredu’r syniad o dorfoli ar gyfer y dechnoleg lleferydd-i-destun.

O ystyried ein gwaith ar dechnoleg iaith a’r diddordeb parhaus yn y maes, rydym mewn sefyllfa dda yn y Cynulliad i gymryd rhan mewn unrhyw ddatblygiadau o ran technoleg lleferydd-i-destun yn y dyfodol, a byddem yn awyddus i edrych sut y gallem gymryd rhan mewn unrhyw brosiectau torfoli.

 

Alison Flye, Cynorthwy-ydd Gwybodaeth Ddigidol

150926-GovCampCymru-224

Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o “anghynhadledd” ac rwy’n credu bod y fformat yn gweithio’n dda. Yn y sesiynau y bûm i ynddynt roedd pawb yn ymddiddori’n llwyr yn y pynciau dan sylw ac roedd y brwdfrydedd yn heintus – roedd cyffro mawr yn yr adeilad. Cymerodd cynadleddwyr GovCamp feddiant o adeilad eiconig y Pierhead am y diwrnod, felly roedd digon o le i 100 o bobl mewn 20 o weithdai.

Roedd fy sesiwn gyntaf i’n ymwneud ag ymgyrchoedd dinasyddion gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol. Mae pobl yn gwybod sut i gwyno am broblemau gyda’u sbwriel neu’u parciau, ond nid am faterion digidol. Ond sut y gallwn ni newid y sefyllfa? (Rhan o’r broblem, mewn gwirionedd, yw nad yw llawer o bobl yn gwybod o hyd sut i fynd at eu cynghorau a’u cynghorwyr, hyd yn oed am barciau, ond mae hynny’n fater i’w drafod mewn gweithdy arall.) Ar ôl hynny, euthum i sesiwn Dave McKenna (@localopolis) ar Greu Democratiaeth sy’n Fwy Tebyg i Roc a Rôl. Mae hon yn ddelfryd deilwng iawn, a chafwyd sesiwn wych ac roedd syniadau defnyddiol yn cael eu cyflwyno. Mae Dave wedi casglu mewnbwn pawb at ei gilydd, ac eisoes wedi blogio am y pwnc.

***

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trosolwg o’r hyn a drafodwyd ar y diwrnod, edrychwch ar Nodiadau’r Sesiwn Google Doc .

Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus a bod diddordeb gennych mewn cadw’r fflam arloesi a thrafodaeth i danio rhwng digwyddiadau blynyddol, mae Satori Lab wedi trefnu Sesiwn Bara Brith (a ddeilliodd o ganlyniad i un o’r sesiynau).

150926-GovCampCymru-107

150926-GovCampCymru-225

150926-GovCampCymru-311

150926-GovCampCymru-350

150926-GovCampCymru-264

150926-GovCampCymru-300

150926-GovCampCymru-239

150926-GovCampCymru-324

150926-GovCampCymru-221

150926-GovCampCymru-271

150926-GovCampCymru-164

150926-GovCampCymru-123

Rhoi cynnig ar fformat adroddiad newydd: Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Ystyried Pwerau: adroddiad ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Eleni, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi bod yn edrych ar bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mai 2015.

Mae tuedd i adroddiadau swyddogol pwyllgorau fod yn eithaf hir ac yn llawn tystiolaeth gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn ar wefanau’r Pwyllgor perthnasol.

Mae’r fersiwn swyddogol o unrhyw adroddiad yn bwysig gan ei bod yn cynnwys holl dystiolaeth a holl argymhellion/canfyddiadau’r Pwyllgor, ac mae’n modd o ddarparu tryloywder.

Mewn ymgais i wneud canfyddiadau adroddiadau yn fwy hygyrch i bobl a allai fod â diddordeb yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddwyd adroddiad cipolwg ar yr ymchwiliad i bwerau’r Ombwdsmon ochr yn ochr â’r adroddiad swyddogol. Cafodd hyn ei gynllunio fel y gellir ei darllen trwy fodio drwyddo ar dabled neu ffôn, neu trwy sgrolio trwyddo ar gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Er mwyn gwneud yr adroddiad yn fwy hygyrch, mae llai o eiriau, mae’r iaith yn symlach, ychwanegwyd delweddau, a chynhwysywd dyfyniadau o gyfarfodydd y Pwyllgor er mwyn i’r darllenydd gael darlun cyffredinol o adroddiad y Pwyllgor.

Dyma’r fersiynau terfynol:

Dyma’r fersiwn gryno o’r adroddiad: Adroddiad Cryno.

ADRODDIAD LLAWN: A dyma fersiwn lawn yr adroddiad: Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PDF, 605KB)

Os oes gennych amser i ddarllen y ddau, a’u cymharu, byddem yn croesawu unrhyw adborth: anfonwch at cyfathrebu@cynulliad.cymru

Y Cynulliad yn cynnal y digwyddiad cyntaf i Rwydweithiau Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff
Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff

Gan Selina Moyo, Cydlynydd Cynllun Gweithredu Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig.

Ar 24 Mehefin, daeth cynrychiolwyr o wahanol Rwydweithiau Staff BME at ei gilydd ym Mae Caerdydd i sefydlu fforwm lle y gall Rwydweithiau Staff BME o sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru:

  • rannu syniadau, adnoddau ac arfer da;
  • dysgu am wahanol fentrau i gefnogi datblygiad staff BME, ac
  • ystyried materion sy’n berthnasol i staff a rhwydweithiau BME a mynd i’r afael â nhw.

Agorwyd y digwyddiad gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a ddymunodd longyfarchiadau i’r rhwydweithiau staff am ddod at ei gilydd a’u hannog i barhau i weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau newidiadau yn eu gweithleoedd a’u cymunedau.

“Ni allwn symud ymlaen fel cenedl oni bai fod pob aelod o’n cymdeithas yn cael eu cefnogi’n llawn ac yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwasanaethau cyhoeddus … Mae cyfleoedd rhwydweithio o’r fath yn rhoi cyfle i ni weld sut orau y gallwn ymgysylltu’n well â’n gilydd a chefnogi’r cymunedau yr ydym yn gweithio iddynt.”

Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff
Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff

Roedd llawer yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd y siaradwyr yn cynnwys: Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd; Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Cynulliad a Hyrwyddwr BME; Sanjiv Vedi, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Uned Gwynion Llywodraeth Cymru; Yangi Vundamina, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Tola Munro o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Heddlu Gwent.

Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar rôl Rhwydweithiau BME wrth gefnogi datblygiad staff yn y gweithle.

Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol i sefydlu fforwm a chyfarfod yn rheolaidd, i roi mwy o gyfle iddynt drafod y themâu a gododd yn ystod y digwyddiad. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Diverse Cymru a Chyngor Hil Cymru eisoes wedi cefnogi’r syniad o gael rhagor o gyfarfodydd.

Roedd y digwyddiad yn ddechrau ar broses o ymgysylltu a fydd yn sefydlu perthnasoedd yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cefnogi datblygiad staff BME, gan sicrhau bod sefydliadau yn cynrychioli pawb y maent yn eu gwasanaethu.

Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o brosiect Cynllun Gweithredu BME parhaus y Cynulliad, sydd â’r nod o fynd i’r afael â chynrychiolaeth BME ymhlith gweithlu’r sefydliad ac i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflogwr sy’n croesawu amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gweithredu BME, cysylltwch â selina.moyo@cynulliad.cymru.