Tag: Rhwydweithiau Staff

‘Anableddau Anweladwy’- Nid yw pob anabledd yn weladwy

Not every disability is visible image
Llun o berson â chysgod person mewn cadair olwyn,gyda’r pennawd’Not every diability is visible.’

Pan fydd pobl yn meddwl am anableddau maent yn meddwl am rywun mewn cadair olwyn fel arfer, ond, mewn gwirionedd, yn ôl Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Lloegr yn 2014, dim ond oddeutu 1.2 miliwn o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn sydd yn y DU, sef 2 y cant o boblogaeth y DU yn fras. Y realiti yw, nid yw person bob amser yn ‘edrych’ yn sâl pan fydd yn ymdopi â phroblem iechyd. Er gwaetha’r gred boblogaidd, nid yw’r mwyafrif o namau yn weladwy. O’r miliynau o bobl anabl sy’n byw yn y DU, dim ond canran fach sydd â salwch y gellir ei weld. Mae gweddill y bobl yn byw gydag anabledd anweladwy.

Beth yw ystyr anabledd anweladwy?

Mae anabledd anweladwy yn cyfeirio at amrywiaeth eang o gyflyrau ac afiechydon nad ydynt yn amlwg ar unwaith neu’n weladwy. Maent yn cynnwys: aflwyddau gwybyddol; anafiadau i’r ymennydd; anawsterau dysgu; epilepsi; canser; diabetes, clefyd y crymangelloedd, ffibromyalgia; HIV; AIDS; problemau gastroberfeddol; enseffalopathi myalgig neu enseffalomyelitis myalgig (ME); cyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â nam ar y clyw neu nam ar y golwg, sy’n ddim ond rhai enghreifftiau posibl. Mae’n werth nodi y gall person sydd â nam gweladwy neu sy’n defnyddio dyfais gynorthwyol fel cadair olwyn, teclyn cymorth cerdded neu ffon hefyd fod ag anabledd anweladwy, er enghraifft, gall person sy’n defnyddio cadair olwyn fod â chyflwr iechyd meddwl hefyd.

Beth yw’r heriau sy’n deillio o fod ag anabledd anweladwy?

Not all disabilities look like this image
Llun o berson a person mewn cadair olwyn gyda’r pennawd ‘Not all disabilities look like this. Some disabilities look like this.’

Fel unrhyw berson anabl, gall person sydd ag anabledd anweladwy wynebu stigma, allgau a gwahaniaethu, ynghyd â’r dasg o herio camsyniadau am eu cyflwr yn gyson. Fodd bynnag, efallai na fydd pobl ag anableddau anweladwy bob amser yn profi gwahaniaethu yn yr un ffordd â rhywun sydd ag anabledd amlwg. Gallant hefyd wynebu rhwystrau, fel cael eu cyhuddo o gamddefnyddio toiledau hygyrch, mannau parcio i bobl anabl, a chyfleusterau eraill.

Dywedodd Sam Cleasby, Ymgyrchydd Anabledd: “Pan na fydd person yn edrych yn sâl, mae’n hawdd iawn gwneud y dybiaeth ei fod yn berson diog neu’n gybydd, neu nad yw’n meddwl am bobl eraill. Ond pan fyddaf fi’n mynd i’r toiledau hygyrch mae hyn oherwydd bod gen i fag colostomi, ac mae angen ychydig mwy o le arnaf a dŵr sy’n rhedeg.”

Mae gan unigolyn sydd ag anabledd anweladwy hawl i beidio â chael ei orfodi i egluro ei salwch wrth bobl dieithr. Mae angen i ni ddeall, i lawer o bobl, nid yw defnyddio toiledau hygyrch neu fannau parcio i’r anabl yn rhywbeth moethus neu’n fraint. Mae’n hanfodol er mwyn iddynt fyw eu bywydau.

Yn sicr, nid yw’r rhai sy’n barnu yn gwneud hynny oherwydd malais, ond yn hytrach o awydd gwirioneddol i amddiffyn hawliau pobl sydd mewn angen gwirioneddol, a chred eu bod yn gwneud hynny. Ond hyd yn oed os yw’r barnu yn deillio o garedigrwydd mae’n well peidio â gwneud tybiaethau. Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn gwneud y peth iawn, ond gallech fod yn gwneud pethau’n waeth i rywun sy’n cael pethau’n anodd eisoes.

Anableddau Anweladwy a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel cyflogwr, rydym yn cydnabod, yn ôl Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth NOMIS ym mis Mawrth 2013, bod gan 20.8 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio yn y DU (8.3 miliwn o bobl) anabledd. Deallwn fod annog ceisiadau gan bobl anabl yn effeithiol ar gyfer busnes. Gall ein helpu i:

  • gynyddu nifer yr ymgeiswyr o safon uchel sydd ar gael;
  • greu gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o gwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu a’r gymuned yr ydym yn byw ynddi, a
  • dod â sgiliau ychwanegol i’r busnes, fel y gallu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a allai arwain at arbedion mawr. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud addasiadau rhesymol i hwyluso pethau i weithwyr anabl yn aml yn isel. Fel arfer, mae’r manteision o gadw gweithiwr profiadol, medrus sydd wedi cael nam fel arfer yn fwy na chostau recriwtio a hyfforddi staff newydd. Mae hefyd yn beth da i’r unigolyn.
  • Dyna pam mae’r Cynulliad, fel cyflogwr, wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i staff y Comisiwn, i Aelodau’r Cynulliad, i’w staff ac i bobl Cymru. Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynhwysol sy’n gwerthfawrogi pawb sy’n gweithio yma, ynghyd â’u safbwyntiau amrywiol, eu sgiliau a’u cefndiroedd amrywiol. I’r perwyl hwnnw, rydym yn falch o gael:
  • Amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle i sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch: gan gynnwys cyfres o wahanol gyfleusterau toiled fel toiledau niwtral o ran rhyw, toiledau hygyrch, toiled Changing Places gyda theclyn codi i oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd. I gael gwybod rhagor am ein cyfleusterau hygyrch, ewch i Canllaw Euan, sef gwefan sy’n adolygu mynediad i bobl anabl.
  • Polisïau da, fel gweithio hyblyg, sy’n cynnwys seibiant gyrfa, gweithio rhan-amser, rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor, gweithio oriau cywasgedig a gwyliau arbennig.

    positive about disabled people
    Logo tic Yn gadarn o blaid pobl anabl
  • Rydym wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ‘Positif am Anabledd’. Cynllun yw hwn sy’n dangos i bobl ein bod yn gadarnhaol ynghylch cyflogi a chadw pobl anabl. Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi ymrwymo i’r cynllun gwarantu cyfweliad dau dic. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau y caiff pobl sydd ag anableddau gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion sylfaenol y swydd.
  • Rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle yn y Cynulliad sy’n agored i staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u staff, gan gynnwys Embrace – Ein rhwydwaith anabledd. Mae’r rhwydweithiau hyn yn darparu: cefnogaeth cymheiriaid anffurfiol a chyngor ar amrywiaeth, materion cynhwysiant a chydraddoldeb a rhannu gwybodaeth yn ymwneud â chydraddoldeb; hyrwyddo materion cydraddoldeb sy’n ymwneud â’u grŵp; gwella datblygiad gyrfa a dilyniant ar gyfer staff, gan gynnwys cyfleoedd mentora; a nodi materion sy’n effeithio ar staff, gan gynnwys, cynghori Comisiwn y Cynulliad ar faterion sy’n effeithio ar staff drwy asesu effaith polisïau.
Embrace logo image
Logo Rhwydwaith Anabledd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a Lles a’r Tîm Iechyd Galwedigaethol yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo gweithwyr i reoli eu hiechyd a’u lles. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnodau o absenoldeb, a gwasanaethau cwnsela a chymorth, drwy‘r Rhaglen Cymorth i Weithwyr.

Y prif bethau i‘w cofio am anableddau anweladwy:

  • Nid yw pawb sydd ag anabledd yn defnyddio cadair olwyn nac ag anabledd corfforol.
  • Mae pobl sydd ag anableddau anweladwy, yn ddyddiol, yn cael eu beirniadu am ddefnyddio cyfleusterau fel toiledau hygyrch a mannau parcio i bobl anabl, oherwydd ni all pobl weld eu cyflwr. Peidiwch â gwneud tybiaethau a pheidiwch byth â chodi ffrae na bod yn ymosodol gyda hwy.
  • Nid oes yn rhaid iddynt roi eglurhad i ddieithriaid ac ni ddylid gwneud iddynt wneud hynny.
  • Gyda‘r gefnogaeth gywir gall llawer o bobl anabl weithio, ac maent yn barod i wneud hynny.

Y Cynulliad yn disgleirio yn Sparkle

Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, gyda Craig Stephenson, Cyfarwyddwr y Cynulliad a Chadeirydd ein rhwydwaith staff LGBT, es i a stondin i Swansea Sparkle i siarad â’r cyhoedd am waith y Cynulliad a sut y gallent gymryd rhan.

Cafodd Swansea Sparkle ei drefnu gan Tawe Butterflies a Heddlu De Cymru, ac roedd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Y nod oedd chwalu’r rhwystrau rhwng y cyhoedd a’r gymuned Drawsrywiol drwy ddod â sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r DU at ei gilydd i arddangos y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i’r gymuned.

Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn a chawsom lawer yn dangos diddordeb yn y Cynulliad. Roedd llawer o bobl nad oeddynt yn ymwybodol bod ganddynt bum Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am eu cynrychioli yn y Cynulliad, felly roedd yn gyfle perffaith i’w cyflwyno i Archwilio’r Cynulliad: Eich Aelodau Cynulliad Chi a sgwrsio am pa faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau. Daeth dau o Aelodau’r Cynulliad at y stondin i ddweud helo a chael tynnu eu lluniau gyda ni – Julie James (Etholaeth Gorllewin Abertawe) a Peter Black (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) – roedd yn wych cael eu cefnogaeth yn y digwyddiad.

Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â pherson ifanc sy’n trawsnewid ar hyn o bryd. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn fod yr unigolyn yma wedi rhannu ei stori gyda mi, ac yr oedd yn ddiddorol clywed am y profiadau y mae wedi’u cael – yr hapus a’r trist. Cymerwyd camau mawr i sicrhau bod lleisiau’r gymuned Drawsrywiol yn cael eu clywed, ond mae’n amlwg iawn bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Fe wnes yr ymdrech i sicrhau bod y person ifanc yn gwybod am yr holl ffyrdd gwahanol y gall gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, hyd yn oed pa mor galed mae’r Cynulliad yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu yn amrywiol ac yn hollol gynrychioliadol o gymunedau Cymru. Roedd yn wych cael adborth ar beth arall roedd yn credu y gallai’r Cynulliad weithio arno, a chaiff hyn ei gyfleu i’n Tîm Cydraddoldeb rhagorol.

Esboniais hefyd pwy yw Comisiynydd Plant Cymru a beth yw ei swydd, felly os bydd yn teimlo bod angen help rhywun yn y dyfodol, mae rhywun arall y gall gysylltu â hi. Mae’n bwysig i holl bobl ifanc Cymru wybod am y Comisiynydd Plant.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod ardderchog – wedi’i drefnu’n dda ac yn groesawgar iawn! Alla i ddim aros i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall
Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall

Y Cynulliad yn cynnal y digwyddiad cyntaf i Rwydweithiau Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff
Selina Moyo yn siarad â chynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff

Gan Selina Moyo, Cydlynydd Cynllun Gweithredu Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig.

Ar 24 Mehefin, daeth cynrychiolwyr o wahanol Rwydweithiau Staff BME at ei gilydd ym Mae Caerdydd i sefydlu fforwm lle y gall Rwydweithiau Staff BME o sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru:

  • rannu syniadau, adnoddau ac arfer da;
  • dysgu am wahanol fentrau i gefnogi datblygiad staff BME, ac
  • ystyried materion sy’n berthnasol i staff a rhwydweithiau BME a mynd i’r afael â nhw.

Agorwyd y digwyddiad gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a ddymunodd longyfarchiadau i’r rhwydweithiau staff am ddod at ei gilydd a’u hannog i barhau i weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau newidiadau yn eu gweithleoedd a’u cymunedau.

“Ni allwn symud ymlaen fel cenedl oni bai fod pob aelod o’n cymdeithas yn cael eu cefnogi’n llawn ac yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwasanaethau cyhoeddus … Mae cyfleoedd rhwydweithio o’r fath yn rhoi cyfle i ni weld sut orau y gallwn ymgysylltu’n well â’n gilydd a chefnogi’r cymunedau yr ydym yn gweithio iddynt.”

Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff
Y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr yn y digwyddiad BME i staff

Roedd llawer yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd y siaradwyr yn cynnwys: Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd; Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Cynulliad a Hyrwyddwr BME; Sanjiv Vedi, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Uned Gwynion Llywodraeth Cymru; Yangi Vundamina, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Tola Munro o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Heddlu Gwent.

Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar rôl Rhwydweithiau BME wrth gefnogi datblygiad staff yn y gweithle.

Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol i sefydlu fforwm a chyfarfod yn rheolaidd, i roi mwy o gyfle iddynt drafod y themâu a gododd yn ystod y digwyddiad. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Diverse Cymru a Chyngor Hil Cymru eisoes wedi cefnogi’r syniad o gael rhagor o gyfarfodydd.

Roedd y digwyddiad yn ddechrau ar broses o ymgysylltu a fydd yn sefydlu perthnasoedd yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cefnogi datblygiad staff BME, gan sicrhau bod sefydliadau yn cynrychioli pawb y maent yn eu gwasanaethu.

Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o brosiect Cynllun Gweithredu BME parhaus y Cynulliad, sydd â’r nod o fynd i’r afael â chynrychiolaeth BME ymhlith gweithlu’r sefydliad ac i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflogwr sy’n croesawu amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gweithredu BME, cysylltwch â selina.moyo@cynulliad.cymru.

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – hyrwyddo cydraddoldeb trawsryweddol

Er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae angen i ni ystyried pa beth a olygwn wrth hunaniaeth o ran rhywedd a chydraddoldeb trawsrywedd, a sut y gallwn gefnogi pobl drawsryweddol yn well.

Ystyr hunaniaeth o ran rhywedd yw a ydych yn ystyried eich bod yn fachgen neu’n ferch, yn ddyn neu’n fenyw. Mae a wnelo hyn â’r nodweddion y mae ein diwylliant yn disgwyl iddynt berthyn i’r naill rywedd neu’r llall. Fodd bynnag, nid yw pawb yn uniaethu â’r disgrifiad o’r naill ryw neu’r llall. Efallai eu bod yn uniaethu â’r rhyw sy’n wahanol i’r hyn a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni, neu efallai eu bod yn uniaethu â rhannau o’r naill ryw a’r llall.

Yn aml, defnyddir termau deuaidd, du a gwyn i ddisgrifio rolau rhywedd – gwryw a benyw, dyn a menyw, gwrywaidd a benywaidd – ond nid yw gwneud hyn yn cydnabod ehangder yr amrywiaeth yn hunaniaeth pobl o ran rhywedd a mynegi rhywedd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r gair Traws fel term cyffredinol ar gyfer yr amrywiaeth hon.

Defnyddir trawsryweddol (a dalfyrrir yn aml yn ‘traws’ neu ‘traws*’) fel term cynhwysol i ddisgrifio pobl sy’n teimlo nad yw’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni yn eu disgrifio neu fod y disgrifiad yn un anghyflawn. Mae’r term hwn yn cynnwys pobl sydd:

  • yn drawsrywiol (sef rhai sy’n gweld eu bod yn perthyn i’r rhyw arall o’r ddeuryw, yn hytrach na’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni)
  • yn rhyngrywiol (sef pobl y mae eu cyrff yn wahanol i’r diffiniad o nodweddion corff gwrywaidd neu gorff benywaidd)
  • y tu allan i’r ffurfiau deuaidd benywaidd/gwrywaidd.
  • yn mynegi eu rhywedd yn wahanol i’r hyn sy’n gysylltiedig fel arfer â’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni.

Mae’n werth cofio bod y derminoleg yn datblygu o hyd, felly mae’n bosibl y bydd diffiniadau yn newid.

Gall y bydd rhai pobl drawsrywiol yn dewis newid eu cyrff drwy hormonau, llawdriniaeth neu gyfuniad o’r ddau. Yr enw am hyn yw ailbennu rhywedd neu drawsnewid, ac mae fel arfer yn broses gymhleth sy’n digwydd dros gyfnod hir. Nid yw bod yn drawsrywiol yn dibynnu ar weithdrefnau meddygol, a dylid cydnabod hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd ni waeth a ydyw wedi ailbennu rhywedd o dan y gyfraith ai peidio.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gwneud y fideos canlynol o bobl drawsryweddol yn rhannu eu profiadau: Mae Jenny-Anne Bishop yn egluro am ei bywyd fel menyw drawsrywiol yng Nghymru ac yn sôn am y profiadau gafodd hi o ganlyniad i’w thrawsnewid, ac mae Stephen Whittle siarad am ei drawsnewid a’i brofiadau ef (Saesneg yn unig).

Rhagor o wybodaeth:

  • Gofynnodd llinyn gair rhydd BBC Three, Free Speech, i grŵp o bobl drawsryweddol ymateb i gwestiynau sydd gyda’r mwyaf cyffredin, y mwyaf rhyfedd a’r mwyaf anghwrtais y mae pobl yn gofyn iddynt: Trans People Respond To The Most Annoying Questions They Get Asked (Saesneg yn unig)
  • Mae Buzzfeed hefyd wedi creu fideo o’r enw ‘Why Pronouns Matter for Trans people’ (Saesneg yn unig)
  • Mae GLAAD wedi cynhyrchu Geiriau o gyngor i Gyfeillion Pobl Drawsrywiol (Saesneg yn unig). Pan ddewch yn gyfaill i bobl drawsryweddol, bydd eich gweithredoedd yn helpu i newid y diwylliant, gan wneud y gymdeithas yn lle gwell a mwy diogel i bobl drawsrywiol – ac i bawb (yn drawsrywiol ai peidio) nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau o ran rhywedd.
  • Mae Stonewall hefyd yn cynrychioli pobl drawsryweddol bellach.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi cydraddoldeb trawsryweddol yn llwyr. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau yn y gweithle, megis Urddas yn y Gwaith. Nid ydym yn goddef trawsffobia, a ddiffinnir fel aflonyddu ar bobl drawsrywiol a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Rydym wedi gweithio gydag eiriolwyr trawsryweddol i ddatblygu Polisi Ailbennu Rhywedd gyda’r bwriad o gefnogi staff sydd wedi bod drwy broses ailbennu rhywedd neu sy’n bwriadu ymgymryd â’r broses honno.

Mae OUT-NAW, sef ein rhwydwaith cefnogi staff LGBT, yn agored i staff LGBT y Cynulliad. Mae’n cefnogi staff LGBT ac yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT trwy gymryd rhan yn Pride,  Mis Hanes LGBT a Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.

Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar

Beth yw dementia?

Mae’r gair dementia yn disgrifio set o symptomau a all gynnwys colli cof ac anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith. Nid yw’n glefyd ynddo’i hun ac nid yw’n rhan naturiol o heneiddio. Mae dementia yn digwydd pan fydd yr ymennydd yn cael ei niweidio gan glefydau, fel clefyd Alzheimer neu gyfres o strociau. Mae dementia yn glefyd lle bydd y symptomau yn gwaethygu’n raddol.

Cewch wybod mwy am ddementia drwy ymweld â gwefan Cymdeithas Alzheimer neu drwy wylio ei fideo byr ‘Beth yw Dementia?‘.

Mae dementia yn effeithio ar dros 750,000 o bobl yn y DU ac mae 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.

Beth yw goblygiadau’r Cynulliad yn dod yn sefydliad dementia-gyfeillgar?

Mae’r Cynulliad yn sefydliad dementia-gyfeillgar sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith Aelodau’r Cynulliad a chymuned ehangach y Cynulliad.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: “Drwy sicrhau bod mynediad cyfartal i bobl sy’n byw gyda dementia, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod croeso i bobl â dementia gymryd rhan mewn bywyd dinesig a bod ganddynt y gallu i wneud hynny”.

Bydd y Cynulliad yn:

  • Hyrwyddo hawliau’r 45,000 o bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru, a’r rhai sy’n gofalu amdanynt;
  • Sicrhau bod sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer yn cael eu darparu i staff sy’n cyfathrebu â’r cyhoedd fel bod ganddynt y sgiliau priodol i ymateb i ymwelwyr allanol sy’n byw gyda dementia;
  • Sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yng nghyd-destun pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer’s; a
  • Darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau’r Cynulliad, eu staff, staff Comisiwn y Cynulliad, a chontractwyr sy’n gweithio ar yr ystâd, er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu etholwyr a phobl y maent yn cyfathrebu â hwy sy’n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner Aelodau’r Cynulliad eisoes yn Gyfeillion Dementia.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer’s yng Nghymru:

“Rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn. Mae ei addewid yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas Alzheimer’s i annog cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill i weithio tuag at y nod o fod yn fwy dementia-gyfeillgar, ac yn helpu’r broses o greu amgylcheddau gwell i bobl i fyw yn dda gyda dementia cyhyd ag y bo modd. Yn awr, mae angen i bawb wneud newidiadau er mwyn grymuso pobl sydd â dementia a’u helpu i fyw’n dda yn eu cymunedau.”

Dwy fenyw o flaen stondin yn dal gwobrau

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – sicrhau bod Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli yn ein gweithlu

Fy enw i yw Selina Moyo. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect y Cynllun Gweithredu ynghylch Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i gynyddu nifer yr aelodau staff o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig y mae’r Cynulliad yn eu recriwtio, a sicrhau bod yr aelodau staff hyn yn cael eu cadw a’u bod yn cael cyfle i ddatblygu yn eu swyddi

Un o’r heriau sydd gennym fel sefydliad yw sicrhau bod ein staff yn cynrychioli’r cymunedau a wasanaethir gennym fel y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell i bawb. Drwy ein dadansoddiad blynyddol o gydraddoldeb, nodwyd bod angen gweithio i gynyddu nifer y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y sefydliad.

Er nad ydym wedi cyrraedd y nod yn gyfan gwbl hyd yma, rwy’n meddwl y gallwn ni ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cymryd y cam cyntaf i sicrhau ein bod yn sefydliad sy’n cynrychioli’r holl bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru.

Beth rydym wedi ei wneud hyd yn hyn?

Rydym wedi gwneud ein hunain yn fwy gweladwy i’r cymunedau a wasanaethir gennym. Rwyf wedi ymgysylltu â chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth well o’n rôl fel Cynulliad ac, yn bwysicach, pwy ydym fel cyflogwr a’r cyfleoedd sydd gennym i’w cynnig.  Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi cymryd rhan mewn ffeiriau swyddi a digwyddiadau eraill a gynhelir gan bartneriaid allanol, rhywbeth nad ydym wedi’i wneud o’r blaen.

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i wneud ein proses ymgeisio yn fwy hygyrch, drwy ddarparu hyfforddiant sylfaenol ar y broses o wneud cais yn ogystal â chymorth un-i-un i unigolion.

Gwnaethom dreialu rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ ar gyfer sefydliadau partner er mwyn inni allu datblygu ‘llysgenhadon swyddi’ ar gyfer ein sefydliad. Rydym yn gobeithio y gall hyn barhau, fel bod mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o sut i ddefnyddio’r broses ymgeisio sydd gennym.

Rydym wedi sefydlu ffyrdd mwy amrywiol o hysbysebu ein swyddi ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid sy’n darparu cyngor cyflogaeth arbenigol i sicrhau bod mwy o sefydliadau ac unigolion yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac yn hysbysebu ein swyddi drwy ‘rwydweithiau cyfeillgar i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig’.

Rwy’n aelod o nifer o bwyllgorau llywio sy’n gweithio ar rymuso pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth well o faterion sy’n effeithio arnynt a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi prosesau i gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Rydym wedi gwrando ar ein partneriaid ac, o ganlyniad i’w cyfraniadau, rydym wedi egluro’r broses o lenwi’r ffurflen Monitro Cydraddoldeb drwy ddarparu taflen ffeithiau ar y ffurflen fonitro i bob ymgeisydd.

Rydym yn sylweddoli bod helpu ein staff presennol i ddatblygu yn hanfodol mewn unrhyw ymdrechion i ddatblygu ein gweithlu o ran pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. I’r perwyl hwn, rydym yn gweithio ar raglenni i sicrhau bod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cefnogi drwy eu datblygiad personol a’u bod yn gallu gwneud cynnydd yn y sefydliad, os ydynt yn dymuno.

Er mwyn cefnogi cysylltiadau ymhlith ein staff, rydym wedi datblygu nifer o daflenni ffeithiau i’w defnyddio gan yr holl staff. Er enghraifft, mae ein Taflen ffeithiau ar amrywiaeth ddiwylliannol ar gael i’n holl staff, i’w defnyddio wrth gefnogi ymgysylltu mewnol ac allanol gyda grwpiau amrywiol ledled Cymru.

Llynedd, cymerodd ein Rhwydwaith Staff i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ran mewn digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon a’r digwyddiad MELA ym mis Medi, er mwyn inni fod yn fwy amlwg yn y gymuned.

Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i sefydlu’r cysylltiadau allanol hyn, ac eleni byddwn unwaith eto yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo ein gwaith hyd yn oed yn fwy.

Beth sydd ar ôl i’w wneud?

Mae angen inni gadarnhau ein perthynas â phartneriaid allanol fel y gallwn ddod yn gyflogwr o ddewis i fwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Rydym am weld pobl ifanc yn ymuno â ni drwy brofiad gwaith, fel eu bod yn deall yn well yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Hefyd, rydym am weld mwy o ymgeiswyr o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a byddwn yn parhau gyda’n hymdrechion o ran ymgysylltu.

Rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed gan y gwahanol gymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig nad ydym o bosibl wedi’u cyrraedd hyd yn hyn er mwyn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ein proses ymgeisio yn hygyrch ac yn dryloyw. Os ydych am wybod mwy am ein prosiect, cysylltwch â selina.moyo@cynulliad.cymru.

Selina and Abi at WMC for BHM2014

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2015

Yr wythnos hon, byddwn yn rhannu cyfres o erthyglau blog fel rhan o’n Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, digwyddiad yr ydym yn ei gynnal bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â chydraddoldeb. Yn yr erthygl gyntaf, fe rown flas o sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad.

Rŷm ni’n ymdrechu i fod yn gyflogwr cynhwysol sy’n cefnogi anghenion pawb sy’n gweithio yma. Mae gennym nifer o dimau, polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’n staff, i sicrhau y gallan nhw fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial. Un ffordd dda o ddweud mwy wrthych chi am beth rŷm ni’n ei wneud yw i adael i rai o’n staff ddweud wrthych eu hunain.

Cael cefnogaeth, bod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial.

“Mi gymrodd dair blynedd i fi ddod ‘allan’ yn fy swydd flaenorol; mi gymrodd lai na thair wythnos i mi deimlo’n ddigon cyfforddus i wneud yr un peth yma. Roedd yn amlwg ar unwaith fod pawb yn derbyn pawb arall am bwy ydyn nhw. Roedd yn bosib i mi ddod yma fel y dyn newydd, nid y dyn hoyw newydd.”

“Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan fyddaf yn dod i’r gwaith, gan fy mod yn cael fy nhrin gyda pharch ac mae fy sgiliau yn cael eu gwerthfawrogi.”

Ein Polisi Cam-drin Domestig

“Doeddwn i ddim yn deall pam fod cam-drin domestig yn fater ar gyfer y gweithle. Roedd clywed gan rywun oedd wedi goroesi cam-drin domestig yn bwysig gan ei fod yn gwneud y polisi’n berthnasol.”

Ein trefniadau gweithio hyblyg

“Ers i mi ddod yn rhiant, mae fy mhatrwm gwaith wedi ei addasu er mwyn i mi gael y cydbwysedd iawn rhwng fy ngwaith a fy mywyd personol, gan gynnwys wythnos waith o 32 awr dros bedwar diwrnod, dim gweithio’n hwyr yn y nos, a gweithio yn ystod y tymor yn unig. Mae’r patrwm gwaith hwn yn golygu fy mod ar gael bob nos ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae pob un o’r addasiadau hyn wedi bod yn hynod o werthfawr.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael gweithio’n hyblyg. Rwy’n byw cryn bellter o Gaerdydd ac wedi cywasgu fy oriau er mwyn fy ngalluogi i weithio yng Nghaerdydd am bedwar diwrnod hir bob wythnos. Hefyd, oherwydd y pellter, gallaf weithio o gartref o bryd i’w gilydd.”

“Rwy’n rhiant sengl sydd â chyfrifoldebau gofal ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod yn gallu gweithio llai o oriau. Mae hyn yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd iach rhwng fy mywyd personol a’r gwaith.”

Addasiadau rhesymol a wnaed

“Fel aelod staff byddar, rwy’n cael cefnogaeth dda yn fy rôl. Mae cydweithwyr yn y swyddfa wedi addasu eu harferion gwaith ac rwyf wedi cael yr offer angenrheidiol i fy ngalluogi i wneud y mwyaf o fy sgiliau. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud cyfraniad llawn i’r tîm.”

“Mae cefnogaeth barhaus y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi ei gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith”.

“Rwyf yn awr yn defnyddio cadair ergonomaidd, sy’n cael effaith anhygoel ar fy nghefn a’n asgwrn cefn…mae fy nghefn yn teimlo’n ‘gryfach’ ers defnyddio’r gadair.”

Ein hymgysylltiad â’r rhwydweithiau Staff

“Mae parodrwydd y Cynulliad wrth ymgysylltu ag Embrace, ein rhwydwaith staff anabl, wedi gwneud mi i deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a fy mhrofiadau fel aelod staff anabl.  Rwy’n falch o fod yn aelod o’r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff.”

Astudiaeth Achos – lleoliadau profiad gwaith Stonewall

“Cefais wythnos wych yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae awyrgylch ac ethos y sefydliad yn glod i bob aelod o’r staff. Nid wyf yn credu y gallai Stonewall Cymru fod wedi dod o hyd i enghraifft well o weithle lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain, dathlu gwahaniaeth, a chyflawni canlyniadau gwych: dyma’r argraff a gewch o’r funud y cerddwch i mewn i Dŷ Hywel, pan welwch dystysgrif Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru ar y wal.”

Christian Webb, a ddaeth i’r Cynulliad fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith Stonewall Cymru. Mae’r cynllun yn ceisio rhoi’r profiad i bobl gael gweithio mewn gweithleoedd sy’n gyfeillgar i’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Darllenwch ei flog llawn yma .

Rŷm ni’n falch o fod wedi derbyn y meincnodau a’r achrediadau canlynol sy’n dathlu ein gweithle cynhwysol:

  • Pedwerydd ar restr Stonewall o Gyflogwyr Gorau’r DU ar gyfer pobl LGBT, a’r Cyflogwr Sector Cyhoeddus Gorau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ogystal, mae ein grŵp rhwydwaith wedi cael canmoliaeth uchel;
  • Ar restr y 30 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio yn ystod 2014;
  • Ar restr y 50 o Gyflogwyr Gorau gan The Times ar gyfer Menywod yn ystod 2014;
  • Wedi cadw’n hymrwymiad i ymgyrchoedd Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl a Hyrwyddwr Oedran;
  • Wedi cadw ein Marc Siartr ‘Yn Uwch na Geiriau’ elusen Action on Hearing Loss.
  • Wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol; ac
  • Wedi cadw ein Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl.

equality week