Tag: Pobl Hŷn

Beth all Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd.  Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

strip

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda’r galon.

Felly mae’n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth – mae modd profi’r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i’r gwrthwyneb.

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r broblem yn flaenoriaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei ‘nodau lles’ ac un ohonynt yw monitro ‘canran y bobl sy’n unig’.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a’r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.

Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i’r afael â’r broblem helpu unigolion i deimlo’n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i’w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter – @SeneddIechyd.

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy’n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed.

Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw.

Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma.

Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n nodi sut y bydd yn helpu’r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod.

BBC NEWS#

ITV NEWS

GUARDIAN

Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.

Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar

Beth yw dementia?

Mae’r gair dementia yn disgrifio set o symptomau a all gynnwys colli cof ac anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith. Nid yw’n glefyd ynddo’i hun ac nid yw’n rhan naturiol o heneiddio. Mae dementia yn digwydd pan fydd yr ymennydd yn cael ei niweidio gan glefydau, fel clefyd Alzheimer neu gyfres o strociau. Mae dementia yn glefyd lle bydd y symptomau yn gwaethygu’n raddol.

Cewch wybod mwy am ddementia drwy ymweld â gwefan Cymdeithas Alzheimer neu drwy wylio ei fideo byr ‘Beth yw Dementia?‘.

Mae dementia yn effeithio ar dros 750,000 o bobl yn y DU ac mae 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.

Beth yw goblygiadau’r Cynulliad yn dod yn sefydliad dementia-gyfeillgar?

Mae’r Cynulliad yn sefydliad dementia-gyfeillgar sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith Aelodau’r Cynulliad a chymuned ehangach y Cynulliad.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: “Drwy sicrhau bod mynediad cyfartal i bobl sy’n byw gyda dementia, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod croeso i bobl â dementia gymryd rhan mewn bywyd dinesig a bod ganddynt y gallu i wneud hynny”.

Bydd y Cynulliad yn:

  • Hyrwyddo hawliau’r 45,000 o bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru, a’r rhai sy’n gofalu amdanynt;
  • Sicrhau bod sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer yn cael eu darparu i staff sy’n cyfathrebu â’r cyhoedd fel bod ganddynt y sgiliau priodol i ymateb i ymwelwyr allanol sy’n byw gyda dementia;
  • Sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yng nghyd-destun pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer’s; a
  • Darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau’r Cynulliad, eu staff, staff Comisiwn y Cynulliad, a chontractwyr sy’n gweithio ar yr ystâd, er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu etholwyr a phobl y maent yn cyfathrebu â hwy sy’n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner Aelodau’r Cynulliad eisoes yn Gyfeillion Dementia.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer’s yng Nghymru:

“Rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn. Mae ei addewid yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas Alzheimer’s i annog cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill i weithio tuag at y nod o fod yn fwy dementia-gyfeillgar, ac yn helpu’r broses o greu amgylcheddau gwell i bobl i fyw yn dda gyda dementia cyhyd ag y bo modd. Yn awr, mae angen i bawb wneud newidiadau er mwyn grymuso pobl sydd â dementia a’u helpu i fyw’n dda yn eu cymunedau.”

Dwy fenyw o flaen stondin yn dal gwobrau