Tag: Menywod

Menywod Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

 

Blog gwadd gan Dr Dinah Evans

Dr Dinah Evans
Dr Dinah Evans

Eleni bydd y Cynulliad yn croesawu Dr Dinah Evans i gyflwyno ein Darlith Goffa flynyddol ar bwnc ‘Ymateb Menywod Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf’.

Roedd Dr Dinah Evans yn dysgu Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Bangor tan 2016. Mae’n aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddwy ryfel byd ar Gymru a’i chymdeithas.

Cyhoeddwyd ei gwaith ymchwil ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod Cymru yn un o benodau’r llyfr ‘Creithiau’ yn 2016, ac ar hyn o bryd mae’n paratoi i gyhoeddi gwaith ymchwil yn gynnar yn 2019 ar ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel.

Yma mae’n cyflwyno rhai o’r materion a drafodir yn ei darlith, gan edrych ar rôl a chyfraniad menywod Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod.

Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n deall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan mai dim ond wedyn y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a’u haberth.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfle i lawer o bobl ledled y wlad ganolbwyntio ar erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd nifer o ysgolion fynd â’u disgyblion i Ffrainc a Gwlad Belg i ymweld â mynwentydd enfawr yno fel y gallent werthfawrogi maint yr aberth a wnaed. Mae realiti creulon y rhyfel hefyd wedi’i gyflwyno’n fanwl mewn arddangosfeydd, rhaglenni dogfen a ffilmiau. Mae seremonïau wedi cael eu cynnal ac mae arddangosfeydd mawr i gynrychioli’r caeau o babis wedi cael eu codi ledled y wlad.

Mae llawer o’r sylw wedi canolbwyntio ar brofiad dynion yn ystod y rhyfel; roedd llawer ohonynt prin yn fwy na bechgyn ar y pryd. Ond roedd gan y milwyr, y morwyr a’r awyrluwyr hyn famau, gwragedd, chwiorydd a merched, ac mae eu hanes hwy yn ystod y rhyfel yn bwysig iawn hefyd. Er gwaetha rhwystrau’r adeg o ran dosbarth cymdeithasol a grŵp oedran, chwaraeodd menywod eu rhan yn yr ymgyrch hefyd. Roedd rhai yn gweithio er mwyn rhyddhau’r dynion i fynd i’r gad ac eraill yn trefnu ysbytai ategol neu’n codi arian.  Yn achos nifer o fenywod, roedd eu profiad o waith yn ystod y rhyfel yn beryglus iawn. Roedd miloedd o fenywod a merched yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau ledled Cymru, gan beryglu eu hiechyd a’u bywydau wrth lenwi sieliau â ffrwydron (fel arfer â llaw). Hyfforddwyd menywod ifanc eraill o Gymru fel nyrsys, gan deithio wedyn i gadfeysydd ledled Ewrop mor bell ag Alexandria yn yr Aifft a Mesopotamia (Irac heddiw), lle roeddent yn nyrsio milwyr a oedd yn sâl ac yn marw, yn aml o dan amodau erchyll a chan beryglu eu bywydau.

Dim ond drwy ddeall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod ym mhob agwedd ar ymgyrch y rhyfel y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a’u haberth, ar faes y gad ac yma yng Nghymru.

O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918
O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918

Ar ôl y Ddarlith Goffa bydd sesiwn holi ac ateb wedi’i chadeirio gan Dr Elin Royles. Mae Dr Elin Royles yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr Adran yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2019 hefyd, gan iddi gael ei sefydlu’n fuan ar ôl diwrnod y cadoediad fel ffordd o ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ddarlith yn rhad ac am ddim i’w mynychu ond bydd angen cofrestru i gadw lle. Ewch i’r dudalen Eventbrite neu ffoniwch 0300 200 6565.

Bydd derbyniad byr a chyfle i weld y ddwy arddangosfa sy’n ategu ein Darlith Goffa:

Arddangosfa ‘Y Mudiad i roi’r Bleidlais i Fenywod yng Nghymru’ a ‘The Soldier’s Own Diary’ gan Scarlet Raven a Marc Marot.

"A Soldiers Own Diary"
“A Soldiers Own Diary”

Steddfod yn y Senedd

Yn ystod mis Awst 2018, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o chwarae rhan hanfodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni drwy gynnal amrywiaeth o arddangosfeydd, trafodaethau a digwyddiadau a oedd yn ymdrin â bywyd Cymru.

Wedi’i galw’n Eisteddfod heb ffens, daeth y Senedd yn gartref i’r Lle Celf a Phafiliwn y Cymdeithasau.

Eisteddfod yn y Senedd

Mae’r Eisteddfod wedi cynnal arddangosfa celf a chrefft ar ryw ffurf ers 1865. Y dyddiau hyn, mae’r Lle Celf yn cynnwys arddangosfa aml-gyfrwng o gelfyddyd gain a chelfyddyd gymhwysol gyfoes, a dathliad o bensaernïaeth yng Nghymru.

Ymysg yr arddangosion eleni oedd serameg ddeniadol Jin Eui Kim, enillydd Gwobr Tony Globe 2018, paentiadau Philip Watkins o fywyd y cymoedd a darnau seramig a phren Zoe Preece, enillydd Medal Aur 2018 a gwobr Dewis y Bobl, ynghyd â llawer o ddarnau eraill a oedd yn ysgogi meddwl.

Gan orchuddio llawer o lawr y Senedd, gallwch wylio gosodiad enfawr André Stitt yn cael ei adeiladu yn y fideo treigl amser hwn:

Cynhaliodd Pafiliwn y Cymdeithasau yn y Cynulliad drafodaethau ar faterion a oedd yn cynnwys cyni, rôl menywod ym maes gwleidyddiaeth, pleidleisio yn 16 oed, democratiaeth a’r celfyddydau, diwygio etholiadol a chyfiawnder yng Nghymru.

Os gwnaethoch eu colli y tro cyntaf, gallwch eu gwylio eto yma:

Democratiaeth a’r Celfyddydau: effaith y naill ar y llall
Mae Democratiaeth a’r Celfyddydau yn chwarae rôl ganolog ym mywydau pobl Cymru – ond sut maent yn effeithio ar ei gilydd?
Cadeiriodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, banel trafod yng nghwmni Bethan Sayed AC, sef Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad, yr arlunydd Elin Meredydd, ac Eddie Ladd, cyflwynydd ac artist dawnsio a pherfformio blaenllaw.

Mae democratiaeth a'r celfyddydau

Barod am y bleidlais?
Digwyddiad mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol yw hwn, yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau yng Nghymru. Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru, yng nghwmni’r panelwyr: Elin Jones AC, y Llywydd; Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a phobl ifanc gan gynnwys Ethan Williams, Is-lywydd Urdd Gobaith Cymru ac Is-gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, Fforwm Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.

Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth
Nodwyd 100 mlynedd ers yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau’r bleidlais i fenywod, ac ymunodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Dr Elin Jones yr hanesydd, i drafod dylanwad menywod ar wleidyddiaeth yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol. Bethan Rhys Roberts, y newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu, oedd yn cadeirio.

Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth

Aeth 6,948 o bobl i ddigwyddiadau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos.

I bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, daeth y Pierhead yn gartref i Shw’mae Caerdydd – y ganolfan i gael gwybodaeth am y Gymraeg – yn ystod yr ŵyl. Roedd y sesiynau’n cynnwys trafodaeth am dafodieithoedd Cymru, yn ogystal â gweithdai o ddawnsio’r glocsen i wneud hetiau.

Ddydd Gwener 10 Awst, roedd Elin Jones, y Llywydd, ymhlith y rhai a anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd, yn ogystal â Jamie Roberts, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a Geraint Jarman, y cerddor, a chyflwynwyd y wisg las iddi am ei gwasanaeth i’r wlad.

Y Lle Celf yn y Senedd, Barod am y bleidlais? Gorsedd y Beirdd

Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn y Senedd yn ystod yr wythnos oedd y cyfle i ymweld â Siambr drafod y Cynulliad lle, am y tro cyntaf, y gallai ymwelwyr gael llun ohonynt eu hunain yn sedd y Llywydd. Manteisiodd mwy na 5,595 o bobl ar y cyfle unigryw hwn i gymryd rôl y Llywydd dros dro, a phrofi sut beth y gallai goruchwylio trafodion yn y Siambr fod.

 

 

 

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cynhaliwyd digwyddiad hefyd i groesawu Geraint Thomas adref, gan ddathlu ei gyflawniad rhyfeddol o fod y Cymro cyntaf erioed i ennill y Tour de France.

Cafodd Geraint ei groesawu gan Elin Jones, y Llywydd, yn ei derbyniad blynyddol yn yr Eisteddfod, cyn cael ei gyfarch gan Catrin Heledd, Band Pres Llareggub, y band Siddi ac, yn olaf, y miloedd o gefnogwyr cyffrous a oedd wedi ymgynnull ar risiau’r Senedd.

Geraint-Thomas-Senedd

Yn ystod yr Eisteddfod, croesawyd mwy na 18,000 o ymwelwyr i’r Senedd, ac nid oedd mwy na hanner ohonynt wedi ymweld â’r Cynulliad o’r blaen, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael ag ychydig mwy o wybodaeth am sut y mae datganoli yng Nghymru yn gweithio.

Diolch yn fawr i’n partneriaid, sef y Comisiwn Etholiadol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Academi Morgan, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac, wrth gwrs, yr Eisteddfod am wneud y digwyddiadau yn ystod yr wythnos mor llwyddiannus.

Fe’ch gwelwn yn Llanrwst!

 

Artistiaid Y Lle Celf eleni oedd: Justine Allison, Billy Bagilhole, Jo Berry, Kelly Best, Zena Blackwell, Steve Buck, Ray Church, Nerea Martinez de Lecea, Cath Fairgrieve, Mark Houghton, Gethin Wyn Jones, Jin Eui Kim, Anna Lewis, Laura Lillie, Gweni Llwyd, James Moore, Marged Elin Owain, Zoe Preece, Glyn Roberts, John Rowley, André Stitt, Caroline Taylor, Jennifer Taylor, Sean Vicary, Adele Vye, Philippa Watkins a Casper White

 

Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant – Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydlynydd y Rhwydweithiau

Beth yw Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle?

Fel Cydlynydd y Rhwydweithiau rwy’n gweld y Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle (WENs) fel lle i bobl sy’n uniaethu â grŵp â nodwedd warchodedig a / neu sydd â diddordeb mewn maes amrywiaeth penodol (h.y. ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd / cred, oedran, beichiogrwydd / mamolaeth, rhyw, priodas / partneriaeth sifil ac anabledd), i ddod ynghyd i:

  • rhoi a derbyn gofal bugeiliol;
  • rhannu gwybodaeth yn ymwneud â chydraddoldeb; hyrwyddo materion cydraddoldeb sy’n ymwneud â’u grŵp;
  • cael mynediad at gyfleoedd dysgu i feithrin sgiliau a fydd yn helpu unigolion i ddatblygu’n bersonol ac i ddatblygu yn eu gyrfa, ac
  • gweithredu fel asiantau hanfodol ar gyfer newid yn y sefydliad.

I bwy y mae’r Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn agored iddynt?

Mae’r rhwydweithiau yn agored i bawb, Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth, staff y Comisiwn a gweithwyr ein contractwyr ar y safle i ymuno naill ai fel aelodau neu fel cynghreiriaid, gan eu bod yn cydnabod y gall unrhyw un, nid pobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn unig, fod â diddordeb mewn mater cydraddoldeb penodol. Gall y diddordeb hwn fodoli am nifer o resymau, gan gynnwys oherwydd y cysylltiad â rhywun yr effeithir arnynt e.e. plentyn, priod neu berthynas neu oherwydd y gred ei fod ‘yn beth da’. Mae croeso i gynghreiriaid hefyd, oherwydd mae cyflawni Amrywiaeth a Chynhwysiant gwirioneddol yn gofyn am ymdrech ar y cyd sy’n cynnwys pawb.

Beth yw manteision y Rhwydweithiau i’r unigolyn?

I’r unigolyn, gall y rhwydweithiau:

  • Darparu cefnogaeth a chyngor anffurfiol gan gynghreiriaid.
  • Cynnig llwyfan ar gyfer trafod materion sy’n effeithio ar aelodau o’r rhwydweithiau.
  • Gwella datblygiad gyrfa a dilyniant ar gyfer staff, drwy amrywiol raglenni, gan gynnwys cyfleoedd mentora.
  • Creu cyfleoedd i rwydweithio.
  • Rhoi cyfle i aelodau nodi a chynghori Comisiwn y Cynulliad ar y materion sy’n effeithio ar staff, drwy asesu effaith polisïau.

Beth yw manteision y Rhwydweithiau i’r sefydliad?

Oherwydd eu mewnwelediad, ac am eu bod yn agored i bawb, gall y rhwydweithiau hyn ein helpu i:

  • Deall gwerth wrth reoli a datblygu potensial gweithlu cynyddol amrywiol.
  • Recriwtio a chadw’r bobl fwyaf dawnus.
  • Darparu’r gwasanaeth gorau i randdeiliaid.
  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiwylliant gwaith y Cynulliad.

Maent yn gwneud hyn oherwydd bod deallusrwydd cyfunol y Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn:

  • Ei gwneud yn bosibl i ni ddeall sut beth yw gweithio yn yr amgylchedd o safbwynt yr aelodau.
  • Ein galluogi ni i ddeall defnyddwyr amrywiol ein gwasanaethau.
  • Gwasanaethu fel cyrff ymgynghori a chynghori mor effeithiol ar faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth.

Mae’r rhwydweithiau’n cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau gwell sy’n arwain at weithwyr hapusach a all fod yn onest â nhw’u hunain, gan arwain at sefydliad sy’n perfformio’n well ac a all felly ddenu a chadw’r dalent orau’n well.

Mae’r Cynulliad yn cydnabod bod y rhwydweithiau’n allweddol i’r sefydliad yn ei nod o sicrhau amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol ac amrywiol i bawb. Mae’n cefnogi’r rhwydweithiau ac yn annog Aelodau’r Cynulliad, Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad, staff y Comisiwn a gweithwyr ein contractwyr ar y safle i gyd i gefnogi a galluogi eu staff i ymgysylltu a chymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhwydwaith.

Mae ein rhwydweithiau presennol yn cynnwys:

Embrace logo imageEMBRACE – ein rhwydwaith i bobl anabl Mae’n agored i bobl anabl, y rhai sy’n cefnogi pobl anabl a phobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i bobl anabl. O fewn Embrace mae is-grwpiau dyslecsia a grwpiau poen cronig. Cadeirydd y Rhwydwaith yw   

                                                                     Abi Phillips

 INSPIRE logoINSPIRE – ein rhwydwaith i fenywod. Mae’n agored i ddynion a menywod. Caiff ei gyd-gadeirio gan Sarah Crosbie a Janette Iliffe

 

Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y CynulliadY rhwydwaith i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae’n agored i bobl LGBT fel aelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i bobl LGBT. Caiff ei gyd-gadeirio gan Craig Stephenson a Jayelle Robinson-Larkin

TEULU logoTeulu – Mae ein rhwydwaith i Rieni sy’n Gweithio a Gofalwyr yn rhwydwaith rhithwir sy’n gweithredu yn bennaf ar-lein ar hyn o bryd. Mae croeso i aelodau a chynghreiriaid newydd i’r rhwydwaith bob amser. Caiff ei gyd-gadeirio gan Holly Pembridge a Joel Steed

 

REACH logoY rhwydwaith Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol yw’r rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). Mae’n agored i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel aelodau ac i bobl sy’n cefnogi cydraddoldeb hiliol fel cynghreiriaid. Caiff ei gyd-gadeirio gan Abi Lasebikan a Raz Roap

 

Mae’r Rhwydweithiau wedi cyfrannu at ac wedi codi proffil y sefydliad mewn amrywiaeth o ffyrdd. Maent wedi:

  • Cyfrannu at lawer o asesiadau o effaith polisïau a phrosiectau, fel y polisi Maes Parcio Hygyrch, Polisi Penodiadau y Rhoddir Blaenoriaeth Iddynt yr Adran Adnoddau Dynol, prosiectau ailwampio yr Adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau, ac ati.
  • Bod yn bresennol mewn digwyddiadau fel: ‘Pride and Sparkle’, Gwobrau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall Cymru, Cynhadledd Cydraddoldeb Hiliol Flynyddol Cymru Gyfan, Mela, ac ati.
  • Cymryd rhan mewn cymhellion cymunedol, fel casglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd.
  • Cynhyrchu amrywiaeth o flogiau, taflenni gwybodaeth a chanllawiau ar amrywiaeth o bynciau, fel: Ramadan, Amrywiaeth Ddiwylliannol, Anableddau Anweledig, Ymwybyddiaeth Ddeurywiol, Iechyd Meddwl, ac ati.
  • Gweithio’n agos gyda sefydliadau sector cyhoeddus eraill, fel Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.

Nid yw hyn ond blas ar lwyddiannau trawiadol y rhwydweithiau. Cewch ragor o wybodaeth am y rhwydweithiau ar fewnrwyd yr Aelodau: http://members/networks

Hyrwyddo’r Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle

Mae uwch-hyrwyddwr yn rhywun sy’n cefnogi’r Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle’n agored ar y lefel uchaf yn y sefydliad. Mae’n llafar am yr hyn a gyflawnir gan y rhwydweithiau a sut y maent o fudd i’r sefydliad, ac yn barod i ddefnyddio’i rôl arweiniol i hyrwyddo’r rhwydweithiau. Rwy’n falch o ddweud bod Dave Tosh a Craig Stephenson ill dau, nid yn unig yn hyrwyddwyr materion BME a LGBT yn y drefn honno, ond wedi cytuno i hyrwyddo materion cydraddoldeb yn gyffredinol ar y Bwrdd Rheoli.

Dywedodd Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau a Hyrwyddwr Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig: “Fel Hyrwyddwr BME, rwy’n gweithredu fel llais ar lefel y Cyfarwyddwyr ac yn gweithio gyda’r rhwydwaith i helpu i gefnogi staff o’r cymunedau hyn er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n effeithio arnynt.”

Gall yr Hyrwyddwyr hefyd fod yn esiampl i eraill bod y Cynulliad yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol sy’n cydnabod talent, ni waeth a yw’r person yn perthyn i grŵp nodwedd warchodedig neu beidio:

Dywedodd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn: “Mae’n bwysig iawn bod yna bobl LGBT weladwy ar bob lefel o fewn y sefydliad, a hefyd bod pobl yn gweld nad yw gallu’r bobl hyn wedi’i lesteirio o fod yn aelod o grŵp lleiafrifol i gyrraedd lefelau uwch. Yn bersonol, rwy’n credu, os ydych wedi cyrraedd sefyllfa sy’n rhoi gwelededd i chi, os gallwch ysbrydoli rhywun arall, ac os gallwch arwain drwy esiampl, y

Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol: Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi gosod llwybr i eraill ei ddilyn

Black History Month Wales logoMis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, yr adeg o’r flwyddyn pan fydd diwylliant, hanes a llwyddiannau cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn cael eu cydnabod a’u dathlu.

Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi gallu cyfrannu at ddatblygiad cymdeithas, technoleg, yr economi a diwylliant ym Mhrydain drwy gyfraniad y dynion a’r menywod dewr hynny a osododd lwybr iddynt. Nhw arweiniodd y ffordd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill, fel modelau rôl ac esiamplau o’r hyn yr oedd modd ei gyflawni.

Mae Cymdeithas Hanes Pobl Dduon Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Unsain Cymru, Radio Cardiff a’r Prince’s Trust Cymru, wedi cyhoeddi mai’r thema eleni fydd ‘Menywod Duon Dylanwadol, Ddoe a Heddiw’. Yn unol â’r thema honno, dyma 12 o fenywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol sydd wedi gosod y llwybr i eraill ei ddilyn:

1.  Mary Prince: Y fenyw ddu gyntaf i ysgrifennu a chyhoeddi  hunangofiant ‘The History of Mary Prince: A West Indian Slave’,  hanes am erchyllterau bywyd o gaethwasiaeth ar y planhigfeydd,  a gyhoeddwyd ym Mhrydain oddeutu 1831. Mary Prince oedd y fenyw gyntaf hefyd i  gyflwyno deiseb gwrth-gaethwasiaeth i’r Senedd.

2.  Una Marson: Darlledwraig fenywaidd ddu gyntaf y BBC o 1939  i 1946.

3.  Elisabeth Welch: Un o’r bobl dduon gyntaf i gael chyfres radio ei hun ar y BBC  ym 1935, ‘Soft  Lights and Sweet Music’, a’i gwnaeth hi’n  enw cyfarwydd iawn ym Mhrydain.

4.  Sislin Fay Allen: WPC du cyntaf Prydain, gan ymuno â’r Heddlu Metropolitan  ym 1968.

5.  Lilian Bader: Un o’r menywod cyntaf yn yr Awyrlu Brenhinol i gymhwyso i  atgyweirio offerynnau, ar ôl ymuno â’r Awyrlu Ategol i Fenywod. Ewch i  flog  y Weinyddiaeth Amddiffyn i gael gwybod mwy am bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y lluoedd arfog.

6.  Moira Stuart, OBE: Y ddarllenwraig newyddion gyntaf o dras Affricanaidd-Caribïaidd  ar deledu Prydain.

7. Diane Abbott, AS: Yr Aelod Seneddol benywaidd du cyntaf adeg ei hethol i Dŷ’r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1987.

8.  Betty Campbell: Yn yr 1970au, hi oedd pennaeth du cyntaf y wlad, a hynny yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd.

9/10.  Y Farwnes Valerie Amos: Y gweinidog cabinet benywaidd du gyntaf a’r   fenyw ddu gyntaf     i fod yn arglwyddes, ochr yn ochr â’r Farwnes Patricia Scotland.

11. Y Fonesig Jocelyn Barrow: Y fenyw ddu gyntaf i fod yn un o Lywodraethwyr y BBC.

12. Claudia Jones:  Sylfaenydd papur newydd wythnosol du cyntaf Prydain “The   West Indian Gazette”, oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel mam Carnifal Notting Hill .

Blog #SeneddWrecsam: Wythnos prysur iawn yn Wrecsam

Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau #SeneddWrecsam. Yma, mae Lowri Lloyd Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru yn rhedeg drwy ddigwyddiadau’r wythnos.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru bws

Dydd Llun 23 Mawrth 2015

Mi ddechreuodd #SeneddWrecsam gyda bws y Cynulliad wedi ei pharcio yn Sgwâr y Frenhines, ble cafwyd nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd. Mr Pugh oedd ein hymwelwr cyntaf, galwodd heibio ar ei ffordd i nôl llaeth i’w wraig i nodi materion yn ymwneud a thrafnidiaeth.  Roedd Mr Pugh yn poeni am gyflwr arwynebedd y ffordd yn ogystal ag effeithiau’r gwaith ar yr A55 ar yr ardal.  Roedd costau parcio hefyd yn bwynt yr hoffai Mr Pugh ei godi gyda’r Cynulliad.

Materion eraill a nodwyd yn ystod y dydd oedd cyflymder band llydan, codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad a materion yn ymwneud ag iechyd, yn benodol gwasanaethau cancr y fron.

Yn ogystal daeth Andrew Atkinson a Alex Jones o Grŵp Busnes Wrecsam i’r bws i drafod materion ynglŷn â threthi busnes.  Dyma fideo a gynhyrchwyd yn nodi eu pryderon.

Ymwelwyd â’r bws hefyd gan Dr Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  a John Gallenders, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a oedd yn annog eu staff i gymryd rhan yng ngweithgareddau #SeneddWrecsam.

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015

Yr ail ddiwrnod o #SeneddWrecsam ac roedd bws y Cynulliad yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, a phobl Wrecsam yn manteisio ar gael y Cynulliad yn eu hardal, ac yn parhau i ymweld â ni gyda digon o gwestiynau, sylwadau a materion i’w codi.

Roedd iechyd unwaith eto yn bwnc poblogaidd gydag amseroedd aros, gwasanaethau trawsffiniol a phresgripsiwn am ddim yn bynciau a drafodwyd.   Cyfeiriwyd y bobl a chododd y materion hyn at eu Haelodau Cynulliad i drafod y materion ymhellach ac i edrych ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Roedd yn bleser cael ymweliad gan fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru St Christopher’s School, Wrecsam yn ystod y bore. Yn dilyn cyflwyniad byr ynglŷn â’r Cynulliad, fe gafwyd dadl ynglŷn â gostwng yr oedran bleidleisio i 16 mlwydd oed fel rhan o ymgynghoriad Pleidleisio@16? Gellwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad ymaRoedd y bobl ifanc yn credu y dylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth a dylai Aelodau Cynulliad ymrwymo i gael pobl ifanc yn eu cysgodi.

Ysgol St. Christophers

Pobl ifanc St Christopher School, Wrexham yn mwynhau ar y bws.

Yn dilyn hyn, daeth Lynn Morris a Yvonne McCarroll o Grŵp Tenantiaid  Wrecsam ymlaen ar y bws i holi ynglŷn â ffyrdd y gallai tenantiaid gymryd rhan a dweud eu dweud ar faterion sydd yn effeithio arnynt.  Fel aelod o’r tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, mi roddodd hyn gyswllt newydd i ni yn ardal Wrecsam y gellir cysylltu wrth weithio ar ymgynghoriadau gyda Phwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.

Tra roedd rhai o’r tîm ar fws y Cynulliad, roedd eraill yn y Foyer Wrecsam yn siarad ag aelodau’r clwb brecwast.   Roeddynt yn awyddus i glywed pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant fynegi eu pryderon. Roeddynt hefyd yn awyddus i ddysgu am y broses bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio.  Gellwch glywed Courtney ag Amy yn siarad amdano yma:

Nos Fawrth aethom i weld bobl ifanc yn y Vic yn Wrecsam i gynnal sesiwn oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth yw’r Cynulliad, pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut maent yn eu cynrychioli. Roedd aelodau eraill o’r tîm gyda Dynameg Wrecsam yn cynnal sesiwn ryngweithiol debyg.

Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

Roeddem wedi trefnu i gael presenoldeb y Cynulliad yn adeilad Galw Wrecsam ar gyfer #SeneddWrexham dydd Mercher ac fe gymerodd pobl y cyfle i siarad â staff y Cynulliad wrth iddynt ymweld â Chyngor Wrecsam ar gyfer materion eraill.

Rydym gennym hefyd bresenoldeb yn siop Info Wrecsam i roi cyfle i bobl ifanc gwblhau’r Ymgynghoriad Pleidleisio@16.  Cawsom gyfarfod gyda phobl ifanc hynod ddiddorol oedd a safbwyntiau a barn gref am y pwnc.  Treuliwyd cryn amser gyda Lacey, 22, o Wrecsam, sydd yn erbyn gostwng yr oed pleidleisio gan nad yw pobl ifanc yn derbyn digon o addysg ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio.

Ymwelwyd hefyd â BAWSO yn ystod y bore i gynnal sesiwn yn egluro’r meysydd sy’n effeithio ar eu bywyd y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant godi materion gyda’r Cynulliad.

Sesiwn BAWSO

Sesiwn gyda BAWSO

Parhau gyda’r sesiynau wnaeth y tîm ar brynhawn dydd Mercher gan ymweld â sefydliad Chymorth i Fenywod Cymru yn Wrecsam gan gynnal sesiwn ar ddealltwriaeth ac ymgysylltu â’r Cynulliad.  Roedd yn sesiwn diddorol gyda digon o drafodaeth yn codi o’r pwyntiau a godwyd. Dyma’r hyn oedd gan Alison Hamlington i ddweud yn dilyn y sesiwn:

Dydd Iau 26 Mawrth 2015

Pedwerydd diwrnod #SeneddWrecsam ac roedd y gweithgareddau a’r digwyddiadau  yn parhau ym mhob rhan o’r dref.  Roeddem yn Coleg Cambria ble roedd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16 drwy’r dydd. Cafodd dros 300 o holiaduron ymgynghori eu cwblhau yn ystod y dydd. Ewch i’n gwefan Dy Gynulliad am ddiweddariad o ddatblygiad y gwaith hwn.

Yn ogystal, roeddem wedi sefydlu gorsaf ffilmio yn llyfrgell Coleg Cambria, ble roedd myfyrwyr cyfryngau yn cyfweld a’u cyfoedion yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16.  Roedd y myfyrwyr yn gwneud yr holl ffilmio eu hunain, ac roedd cyfle i drafod materion eraill hefyd, gan gynnwys a ddylid gwneud pleidleisio yn orfodol i bobl ifanc ac yw pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth.  Gallwch weld fideos hyn drwy’r rhestr chwarae yma:

Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd awenau ein gwefan Dy Gynulliad hefyd, gan sicrhau bod cynnwys y wefan sy’n anelu at bobl ifanc. Gallwch weld lluniau o’r diwrnod yn ein halbwm Flickr.

Draw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ystod y prynhawn, roedd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC yn cwrdd â phobl ifanc ardal Wrecsam i drafod y sgwrs genedlaethol Pleidleisio@16. Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Senedd yr Ifanc Wrecsam.

Mi wnaethom hefyd lwyddo i wasgu mewn dau sesiwn ymgysylltu arall- un ag  aelodau staff Cyngor Wrecsam ac un arall gyda grŵp Jig-so Parc Caia ble ymunodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC a ni.

Daeth y diwrnod i ben gyda derbyniad #SeneddWrecsam gyda thua 70 o bobl lleol yn bresennol i ddathlu gwaith Hyrwyddwyr Cymunedol Wrecsam.  I sain gerddorion Coleg Cambria fe gafwyd ddigon o rwydweithio rhwng gwleidyddion, arweinwyr dinesig ac arweinwyr cymunedol yn ystod y noson.

Dydd Gwener 27 Mawrth 2015

A dyma gyrraedd diwrnod olaf #SeneddWrexham gyda diwrnod prysur arall i’r tîm.

Dechreuodd Dydd Gwener gydag ein swyddogion addysg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ble roedd dros 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr  ymgynghoriad Pleidleisio@16. Dilynwyd y sesiwn hyn â sesiwn gyda Chyngor yr Ysgol, ble ymunodd y Dirprwy Lywydd David Melding AC â’r cyfarfod i drafod materion yr oeddynt wedi ymdrin â nhw o fewn y cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ysgol Uwchradd Rhosnesi

Y Cyngor Ysgol yn nodi eu barn i Pleidleisio@16.

Ar ôl treulio’r bore ar ein stondin ym Mhrifysgol Glyndŵr, treuliais y prynhawn gyda grŵp Hafal yn Wrecsam gan gynnal gweithdy olaf yr wythnos.  Yr oedd yn sesiwn ryngweithiol gyda digon o drafodaeth ac ymunodd Aled Roberts AC a ni i siarad am ei rôl fel Aelod Cynulliad.

Cyflwyniad Grwp Hafal

Criw Hafal ar ôl y cyflwyniad.

Yn y cyfamser, draw ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Phrifysgol Caerdydd yn cwrdd â myfyrwyr,  blogwyr lleol a newyddiadurwyr.  Roedd y digwyddiad yn rhan o waith Diffyg Democrataidd y Llywydd, i geisio helpu newyddiadurwyr cymunedol o amgylch Cymru i gael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad yn haws.

Mae’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC wedi ymrwymo i weithio tuag at fynd i’r afael a’r “Diffyg Democrataidd” sydd wedi ei achosi gan y nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n darllen neu’n gwylio newyddion a materion cyfoes gan ddarlledwyr a sefydliadau cyfryngau’r DU sydd yn aml yn anwybyddu’r gwahaniaethau ym mholisi cyhoeddus Cymru o’i gymharu â Lloegr.

Cafodd newyddiadurwyr, gan gynnwys llawer o’r Ysgol Newyddiaduraeth Glyndŵr y cyfle i gyfweld â’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd.  Fe gafwyd hefyd gyfle i fynychu digwyddiad ar ffurf arddull gynhadledd i’r wasg gyda’r Llywydd.

Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â ni yn ystod yr wythnos ac am y croeso cynnes a gawsom yn Wrecsam.

Mae roedd yn wythnos wych gyda llawer o waith a chysylltiadau da wedi eu gwneud yn yr ardal.

Gallwch weld lluniau o’r wythnos yn ein halbwm Flickr.

Os hoffech chi i ddysgu mwy am waith y tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, yna gallwch gysylltu â’r Cynulliad ar 0300 200 6565 neu cysylltu@cynulliad.cymru.