Tag: LHDT

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – hyrwyddo cydraddoldeb trawsryweddol

Er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae angen i ni ystyried pa beth a olygwn wrth hunaniaeth o ran rhywedd a chydraddoldeb trawsrywedd, a sut y gallwn gefnogi pobl drawsryweddol yn well.

Ystyr hunaniaeth o ran rhywedd yw a ydych yn ystyried eich bod yn fachgen neu’n ferch, yn ddyn neu’n fenyw. Mae a wnelo hyn â’r nodweddion y mae ein diwylliant yn disgwyl iddynt berthyn i’r naill rywedd neu’r llall. Fodd bynnag, nid yw pawb yn uniaethu â’r disgrifiad o’r naill ryw neu’r llall. Efallai eu bod yn uniaethu â’r rhyw sy’n wahanol i’r hyn a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni, neu efallai eu bod yn uniaethu â rhannau o’r naill ryw a’r llall.

Yn aml, defnyddir termau deuaidd, du a gwyn i ddisgrifio rolau rhywedd – gwryw a benyw, dyn a menyw, gwrywaidd a benywaidd – ond nid yw gwneud hyn yn cydnabod ehangder yr amrywiaeth yn hunaniaeth pobl o ran rhywedd a mynegi rhywedd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r gair Traws fel term cyffredinol ar gyfer yr amrywiaeth hon.

Defnyddir trawsryweddol (a dalfyrrir yn aml yn ‘traws’ neu ‘traws*’) fel term cynhwysol i ddisgrifio pobl sy’n teimlo nad yw’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni yn eu disgrifio neu fod y disgrifiad yn un anghyflawn. Mae’r term hwn yn cynnwys pobl sydd:

  • yn drawsrywiol (sef rhai sy’n gweld eu bod yn perthyn i’r rhyw arall o’r ddeuryw, yn hytrach na’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni)
  • yn rhyngrywiol (sef pobl y mae eu cyrff yn wahanol i’r diffiniad o nodweddion corff gwrywaidd neu gorff benywaidd)
  • y tu allan i’r ffurfiau deuaidd benywaidd/gwrywaidd.
  • yn mynegi eu rhywedd yn wahanol i’r hyn sy’n gysylltiedig fel arfer â’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni.

Mae’n werth cofio bod y derminoleg yn datblygu o hyd, felly mae’n bosibl y bydd diffiniadau yn newid.

Gall y bydd rhai pobl drawsrywiol yn dewis newid eu cyrff drwy hormonau, llawdriniaeth neu gyfuniad o’r ddau. Yr enw am hyn yw ailbennu rhywedd neu drawsnewid, ac mae fel arfer yn broses gymhleth sy’n digwydd dros gyfnod hir. Nid yw bod yn drawsrywiol yn dibynnu ar weithdrefnau meddygol, a dylid cydnabod hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd ni waeth a ydyw wedi ailbennu rhywedd o dan y gyfraith ai peidio.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gwneud y fideos canlynol o bobl drawsryweddol yn rhannu eu profiadau: Mae Jenny-Anne Bishop yn egluro am ei bywyd fel menyw drawsrywiol yng Nghymru ac yn sôn am y profiadau gafodd hi o ganlyniad i’w thrawsnewid, ac mae Stephen Whittle siarad am ei drawsnewid a’i brofiadau ef (Saesneg yn unig).

Rhagor o wybodaeth:

  • Gofynnodd llinyn gair rhydd BBC Three, Free Speech, i grŵp o bobl drawsryweddol ymateb i gwestiynau sydd gyda’r mwyaf cyffredin, y mwyaf rhyfedd a’r mwyaf anghwrtais y mae pobl yn gofyn iddynt: Trans People Respond To The Most Annoying Questions They Get Asked (Saesneg yn unig)
  • Mae Buzzfeed hefyd wedi creu fideo o’r enw ‘Why Pronouns Matter for Trans people’ (Saesneg yn unig)
  • Mae GLAAD wedi cynhyrchu Geiriau o gyngor i Gyfeillion Pobl Drawsrywiol (Saesneg yn unig). Pan ddewch yn gyfaill i bobl drawsryweddol, bydd eich gweithredoedd yn helpu i newid y diwylliant, gan wneud y gymdeithas yn lle gwell a mwy diogel i bobl drawsrywiol – ac i bawb (yn drawsrywiol ai peidio) nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau o ran rhywedd.
  • Mae Stonewall hefyd yn cynrychioli pobl drawsryweddol bellach.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi cydraddoldeb trawsryweddol yn llwyr. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau yn y gweithle, megis Urddas yn y Gwaith. Nid ydym yn goddef trawsffobia, a ddiffinnir fel aflonyddu ar bobl drawsrywiol a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Rydym wedi gweithio gydag eiriolwyr trawsryweddol i ddatblygu Polisi Ailbennu Rhywedd gyda’r bwriad o gefnogi staff sydd wedi bod drwy broses ailbennu rhywedd neu sy’n bwriadu ymgymryd â’r broses honno.

Mae OUT-NAW, sef ein rhwydwaith cefnogi staff LGBT, yn agored i staff LGBT y Cynulliad. Mae’n cefnogi staff LGBT ac yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT trwy gymryd rhan yn Pride,  Mis Hanes LGBT a Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2015

Yr wythnos hon, byddwn yn rhannu cyfres o erthyglau blog fel rhan o’n Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, digwyddiad yr ydym yn ei gynnal bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â chydraddoldeb. Yn yr erthygl gyntaf, fe rown flas o sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad.

Rŷm ni’n ymdrechu i fod yn gyflogwr cynhwysol sy’n cefnogi anghenion pawb sy’n gweithio yma. Mae gennym nifer o dimau, polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’n staff, i sicrhau y gallan nhw fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial. Un ffordd dda o ddweud mwy wrthych chi am beth rŷm ni’n ei wneud yw i adael i rai o’n staff ddweud wrthych eu hunain.

Cael cefnogaeth, bod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial.

“Mi gymrodd dair blynedd i fi ddod ‘allan’ yn fy swydd flaenorol; mi gymrodd lai na thair wythnos i mi deimlo’n ddigon cyfforddus i wneud yr un peth yma. Roedd yn amlwg ar unwaith fod pawb yn derbyn pawb arall am bwy ydyn nhw. Roedd yn bosib i mi ddod yma fel y dyn newydd, nid y dyn hoyw newydd.”

“Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan fyddaf yn dod i’r gwaith, gan fy mod yn cael fy nhrin gyda pharch ac mae fy sgiliau yn cael eu gwerthfawrogi.”

Ein Polisi Cam-drin Domestig

“Doeddwn i ddim yn deall pam fod cam-drin domestig yn fater ar gyfer y gweithle. Roedd clywed gan rywun oedd wedi goroesi cam-drin domestig yn bwysig gan ei fod yn gwneud y polisi’n berthnasol.”

Ein trefniadau gweithio hyblyg

“Ers i mi ddod yn rhiant, mae fy mhatrwm gwaith wedi ei addasu er mwyn i mi gael y cydbwysedd iawn rhwng fy ngwaith a fy mywyd personol, gan gynnwys wythnos waith o 32 awr dros bedwar diwrnod, dim gweithio’n hwyr yn y nos, a gweithio yn ystod y tymor yn unig. Mae’r patrwm gwaith hwn yn golygu fy mod ar gael bob nos ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae pob un o’r addasiadau hyn wedi bod yn hynod o werthfawr.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael gweithio’n hyblyg. Rwy’n byw cryn bellter o Gaerdydd ac wedi cywasgu fy oriau er mwyn fy ngalluogi i weithio yng Nghaerdydd am bedwar diwrnod hir bob wythnos. Hefyd, oherwydd y pellter, gallaf weithio o gartref o bryd i’w gilydd.”

“Rwy’n rhiant sengl sydd â chyfrifoldebau gofal ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod yn gallu gweithio llai o oriau. Mae hyn yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd iach rhwng fy mywyd personol a’r gwaith.”

Addasiadau rhesymol a wnaed

“Fel aelod staff byddar, rwy’n cael cefnogaeth dda yn fy rôl. Mae cydweithwyr yn y swyddfa wedi addasu eu harferion gwaith ac rwyf wedi cael yr offer angenrheidiol i fy ngalluogi i wneud y mwyaf o fy sgiliau. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud cyfraniad llawn i’r tîm.”

“Mae cefnogaeth barhaus y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi ei gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith”.

“Rwyf yn awr yn defnyddio cadair ergonomaidd, sy’n cael effaith anhygoel ar fy nghefn a’n asgwrn cefn…mae fy nghefn yn teimlo’n ‘gryfach’ ers defnyddio’r gadair.”

Ein hymgysylltiad â’r rhwydweithiau Staff

“Mae parodrwydd y Cynulliad wrth ymgysylltu ag Embrace, ein rhwydwaith staff anabl, wedi gwneud mi i deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a fy mhrofiadau fel aelod staff anabl.  Rwy’n falch o fod yn aelod o’r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff.”

Astudiaeth Achos – lleoliadau profiad gwaith Stonewall

“Cefais wythnos wych yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae awyrgylch ac ethos y sefydliad yn glod i bob aelod o’r staff. Nid wyf yn credu y gallai Stonewall Cymru fod wedi dod o hyd i enghraifft well o weithle lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain, dathlu gwahaniaeth, a chyflawni canlyniadau gwych: dyma’r argraff a gewch o’r funud y cerddwch i mewn i Dŷ Hywel, pan welwch dystysgrif Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru ar y wal.”

Christian Webb, a ddaeth i’r Cynulliad fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith Stonewall Cymru. Mae’r cynllun yn ceisio rhoi’r profiad i bobl gael gweithio mewn gweithleoedd sy’n gyfeillgar i’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Darllenwch ei flog llawn yma .

Rŷm ni’n falch o fod wedi derbyn y meincnodau a’r achrediadau canlynol sy’n dathlu ein gweithle cynhwysol:

  • Pedwerydd ar restr Stonewall o Gyflogwyr Gorau’r DU ar gyfer pobl LGBT, a’r Cyflogwr Sector Cyhoeddus Gorau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ogystal, mae ein grŵp rhwydwaith wedi cael canmoliaeth uchel;
  • Ar restr y 30 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio yn ystod 2014;
  • Ar restr y 50 o Gyflogwyr Gorau gan The Times ar gyfer Menywod yn ystod 2014;
  • Wedi cadw’n hymrwymiad i ymgyrchoedd Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl a Hyrwyddwr Oedran;
  • Wedi cadw ein Marc Siartr ‘Yn Uwch na Geiriau’ elusen Action on Hearing Loss.
  • Wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol; ac
  • Wedi cadw ein Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl.

equality week

Mis Chwefror yw Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)

Stonewall-twitter-w

Yn y DU, caiff Mis Hanes LGBT ei nodi a’i ddathlu yn ystod mis Chwefror i gyd-fynd â diddymu  Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988, yn 2003 a oedd yn gwahardd “hyrwyddo gwrywgydiaeth” i blant dan oed.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol ymhlith y rhai a fydd yn nodi Mis Hanes LGBT. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn falch iawn o gael ei restru’n bedwerydd ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2015 ymhlith y sefydliadau mwyaf cyfeillgar tuag at bobl LGB yn y DU. Rydym hefyd yn falch iawn o gael ein henwi fel y Cyflogwr gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer pobl LGB am yr ail flwyddyn yn olynol.

 

LGBT History Month Photocall

Mae rhwydwaith staff LGBT y Cynulliad Cenedlaethol wedi paratoi’r erthygl hon i dynnu sylw at y ffordd  y mae hawliau pobl LGBT yn y DU wedi esblygu ers 1988.

 

Dyma wyth rheswm pam bod y sefyllfa’n well i bobl LGBT yn 2015:

  • Diddymwyd Adran 28 yn 2003 ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn yr Alban yn 2000;
  • Mae pobl hoyw wedi gallu gwasanaethau yn y lluoedd arfog ers 2000;
  • Yn 2001 cyflwynwyd oedran cyfartal o gydsyniad rhywiol yn y DU;
  • Ers 2003 mae wedi bod yn groes i’r gyfraith i gyflogwr ddiswyddo person am fod yn hoyw;
  • Ers 2005 mae pobl trawsrywiol wedi cael cydnabyddiaeth gyfreithiol fel aelodau o’r rhyw sy’n briodol i’w rhywedd, gan ganiatáu iddynt gael tystysgrif geni newydd a chydnabyddiaeth lawn o’r rhywedd hwn mewn perthynas â deddfau eraill;
  • Ers 2005 mae wedi bod yn bosibl i gyplau hoyw fabwysiadu plant ar y cyd. Ers 2009, gall cwpl lesbaidd sydd â phlentyn roi enw’r fam naturiol a’i phartner ar y dystysgrif geni;
  • Ers 2007 mae wedi bod yn anghyfreithlon i siop, gwesty neu fusnes arall eich gwahardd rhag cael eich gwasanaethu oherwydd eich bod yn hoyw;
  • Ers 2014 mae wedi bod yn bosibl i gyplau o’r un rhyw briodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

 

Er bod gwaith i’w wneud o hyd, yn 1988 mae’n siŵr y byddai wedi bod yn anodd dychmygu y gallai pobl LGB wasanaethau yn y lluoedd arfog, fabwysiadu plant ar y cyd a phriodi. Ychwanegwch at hynny ddatblygiadau eraill, fel ymestyn y Ddyletswydd Cydraddoldeb gyhoeddus sengl i gynnwys pobl LGBT yn 2010, ac mae 2015 a thu hwnt yn edrych fel lle gwell.

LGBThistorymonth

OUT-NAW

 

Stonewall Cymru: Modelau Rôl

 

Caiff dau aelod o staff y Cynulliad eu cynnwys yng nghanllaw modelau rôl LGBT Stonewall Cymru:

StonewallCraig

“Mae’n hollbwysig bod yna bobl LHDT gweladwy yn y sefydliad, bod pobl yn gweld nad yw bod o grŵp lleiafrifol wedi rhwystro pobl rhag cyrraedd lefelau uwch … Os ydych chi wedi cyrraedd safle o lwyddiant, os gallwch chi ysbrydoli rhywun arall, os gallwch chi arwain drwy esiampl, fe ddylech chi wneud hynny.”

Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn a Phrif Gynghorydd y Llywydd

 

StonewallRhys

“Mae’n bwysig bod â modelau rôl amrywiol; dyw un unigolyn ddim yn gallu cynrychioli holl amrywiaeth y profiad hoyw … nid dim ond mater o fod yn weladwy i bobl syth yw e, ond hefyd ymhlith y gymuned hoyw. Allwn ni ddim disgwyl i bobl ein derbyn ni a chymeradwyo ein hamrywiaeth ni, os na allwn ni dderbyn ni ein hunain.”

Rhys Morgan, Cyfieithydd a Golygydd

Darllenwch pam mae bod yn fodel rôl yn bwysig iddynt, ynghyd â modelau rôl LGBT eraill Cymru yma:
http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/yn_y_gwaith/modelau_rl/default.asp

 

Diwrnod Gwelededd Deurywiol, 23 Medi 2014

Nid yw’n ffaith hysbys i bawb mai pobl ddeurywiol yw’r rhan helaethaf o’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Yn anffodus, pan ddaw’n fater o siarad am broblemau pobl LHDT, anaml y caiff profiadau’r grŵp hwn eu cynrychioli neu’u hystyried o gwbl. Dyna pam y mae’r Diwrnod Gwelededd Deurywiol mor bwysig.

Nodir y diwrnod ers 1999, pan ddaeth grŵp bychan o ymgyrchwyr ymroddedig at ei gilydd i wyntyllu barn am faterion deurywiol. Roedd y grŵp yn gweithio’n galed i ddileu’r rhwystrau y mae pobl deurywiol yn eu hwynebu, gan gynnwys rhagfarn o fewn cymunedau LHDT, yr her o orfod egluro eich rhywioldeb dro ar ôl tro wrth ffrindiau a phartneriaid, ac yn syml, y broblem o gael eich anwybyddu, ac maent yn parhau i wneud hynny. Ond roeddent hefyd yn awyddus i ddathlu, a bod yn falch o garu pwy y maent yn ei garu.

BiPlacards

(Llun o Stonewall Cymru)

“Yr hyn y mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu i mi” – safbwyntiau aelod o’n rhwydwaith staff LHDT.

Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith allan o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’

Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro.

Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaed gan rywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?’ – Beth allwn i’i ddweud?!

Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwn gefnogi ein staff deurywiol ar gael yng nghanllaw Stonewall ar y gweithle – Pobl ddeurywiol yn y gweithle: Cyngor ymarferol i gyflogwyr. Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i bobl ddeurywiol gan Bi Cymru.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael ei restru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall fel y Cyflogwr Sector Cyhoeddus gorau yng Nghymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. I gael rhagor o wybodaeth am ein rhwydwaith staff LGBT cysylltwch â Craig Stephenson.

 

Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT): Gêm Rygbi Elusennol

Rugby

Clwb Rygbi Llewod Caerdydd 15 – 31 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daeth Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol i ben gyda gornest rygbi rhwng tîm y Cynulliad Cenedlaethol a’r tîm rygbi cyntaf o chwaraewyr hoyw, a’r unig dîm hyd y gwyddom, yng Nghymru.

Roedd tîm rygbi’r Cynulliad ar faes y gad ddydd Sadwrn, 23 Chwefror mewn gêm rygbi elusen yn erbyn Clwb Rygbi Llewod Caerdydd. Cynhaliwyd y gêm i godi arian ar gyfer Bowel Cancer UK.

Roedd hi’n gêm gyfeillgar a hwyliog. Gan mai ychydig iawn o gemau y mae’r Llewod wedi’u colli dros y pum mlynedd ddiwethaf, gwyddai ein tîm ni fod yn rhaid iddynt fod ar eu gorau i ennill y gêm hon. Enillwyd y gêm ar ôl ymdrech galed, a dangoswyd digon o sgiliau amddiffynnol a symudiadau ymosodol o safon uchel yn ystod y chwarae.

Bydd Llewod Caerdydd yn awyddus i ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn y gêm hon ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn tîm cwmni Cardiff Bus. Pob lwc i’r Llewod yn y gêm honno.

Edrychwn ymlaen at ein gêm nesaf yn erbyn y Llewod ym mis Ebrill, a fydd unwaith eto’n codi arian ar gyfer Bowel Cancer UK.

Cardiff Lions RFC: Facebook a Twitter

Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)

Ym mis Chwefror bob blwyddyn, bydd y Cynulliad yn nodi Mis Hanes LGBT. Eleni bydd ein rhwydwaith staff LGBT, OUT-NAW, yn arddangos Arwyr o blith pobl LGBT yn y Senedd drwy gydol mis Chwefror, gan ganolbwyntio ar bobl LGBT dylanwadol ac ysbrydoledig. Gall y rheini sy’n methu ag ymweld â’r Senedd glicio yma i weld copi o’r cyflwyniad.

Fel un o’r sefydliadau mwyaf cyfeillgar tuag at bobl LGBT yn y DU, byddwn hefyd yn cyhwfan baner yr enfys uwchben ein hystâd ym Mae Caerdydd ac ym Mae Colwyn o 7 Chwefror. Mae hon yn ffordd gyhoeddus iawn o ddangos ein hymrwymiad i’n staff LGBT ac i bobl LGBT yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed o ran cael cydraddoldeb i bobl LGBT a’r heriau sy’n parhau i fodoli. Cliciwch yma i weld datganiad i’r wasg am gyhwfan y faner dros gydraddoldeb i bobl LGBT.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid ledled De Cymru i hyrwyddo Mis Hanes LGBT i’n staff ac i bobl Cymru.

  • Arddangosfa Portreadau Pinc yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd
    Mae Portreadau Pinc yn gyfres o bortreadau o bobl broffesiynol lesbiaidd a hoyw, llwyddiannus sy’n gweithio yn y diwydiant ffilmiau, gan y ffotograffydd enwog Donald MacLellan. Mae’r arddangosfa’n cynnwys unigolion nodedig fel Syr Ian McKellan, Stephen Fry a Berwyn Rowlands. Bydd yr arddangosfa hon ar agor i’r cyhoedd rhwng 1 a 10 Chwefror a rhwng 25 a 28 Chwefror ar ail lawr Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
  • Arddangosfa o lyfrau yn Llyfrgell Ganolog, Caerdydd
    Dathliad o lenyddiaeth Pobl LGBT, ac awduron LGBT. Cynhelir yr arddangosfa hon ar ail lawr Adran Hamdden y Llyfrgell Ganolog drwy gydol mis Chwefror.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT