Tag: Iechyd

Beth sydd yn eich cwpwrdd moddion chi? Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn i Rheoli Meddyginiaethau

A oes gennych bryderon am nifer yr eitemau ar eich presgripsiwn amlroddadwy?

Blog Header CY

A ydych chi wedi wynebu anawsterau o ran cael y feddyginiaeth gywir gan fferyllydd? Ydych chi wedi cael unrhyw broblemau yn yr ysbyty gyda siartiau cyffuriau anghyflawn sy’n golygu eich bod yn cael y feddyginiaeth anghywir?

Nid dyma ond ambell un o’r materion y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn eu hystyried fel rhan o’i ymchwiliad i Reoli Meddyginiaethau.

Gyda dros £800 miliwn yn cael ei wario ar feddyginiaethau a dros 79.5 miliwn o feddyginiaethau yn cael eu dosbarthu yng Nghymru bob blwyddyn, mae GIG Cymru yn defnyddio meddyginiaethau ar raddfa sylweddol. Yn y deng mlynedd diwethaf, bu cynnydd o 46 y cant yn nifer yr eitemau a ddosbarthwyd. Yn wyneb y galw cynyddol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn annog presgripsiynu doeth, a hynny er mwyn optimeiddio meddyginiaethau fel bod cleifion yn cael y canlyniadau gorau posibl a bod y GIG yn sicrhau gwerth am arian o feddyginiaethau.

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar reoli meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd ar 15 Rhagfyr 2016. Roedd yr adroddiad hwn yn trafod a yw GIG Cymru yn rheoli meddyginiaethau yn effeithiol mewn gofal sylfaenol, mewn gofal eilaidd ac yn y rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod trefniadau corfforaethol cyrff iechyd ar gyfer rheoli meddyginiaethau, fel cynllunio strategol a chynllunio’r gweithlu, proffil materion sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau yng nghyfarfodydd byrddau a phwyllgorau, a threfniadau ar gyfer monitro perfformiad cyrff iechyd o ran meddyginiaethau.

Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol:

  • Mae lle i wneud presgripsynu yn fwy diogel, gan sicrhau mwy o werth am arian, ym maes gofal sylfaenol;
  • Mae yna risgiau o ran diogelwch ac aneffeithlonrwydd sy’n gysylltiedig â rheoli meddyginiaethau wrth i bobl fynd a dod o ysbytai;
  • Mae yna broblemau mewn ysbytai o ran storio meddyginiaethau, diffyg gwybodaeth am feddyginiaethau a rhwystredigaeth oherwydd oedi yn y broses o roi presgripsiynau electronig ar waith.

Trafododd y Pwyllgor nifer o’r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru yn ein cyfarfod ym mis Mawrth 2017.

Nododd y Pwyllgor bod y ffaith ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gyflwyno presgripsiynau electronig (trafodwyd hyn yn gyntaf yn 2007, ond nid yw’n debygol o fod ar waith hyd nes 2023) yn destun pryder.

Maes arall yr oedd y Pwyllgor yn teimlo y gellid ei wella oedd datblygu system ganolog ar gyfer meddyginiaethau drud iawn nad ydynt yn gyffredin yn hytrach na bod gan bob bwrdd iechyd stôr o’r meddyginiaethau hyn.

Roedd presgripsiynau amlroddadwy yn destun pryder arbennig i’r Pwyllgor. Roedd aelodau’r Pwyllgor hefyd am wybod a yw’r holl feddyginiaethau a roddir i gleifion yn cael eu defnyddio neu a yw cleifion yn cronni meddyginiaethau sydd dros ben oherwydd anawsterau o ran newid presgripsiwn. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod arian yn cael ei wastraffu bob dydd oherwydd bod cleifion yn cael meddyginiaethau nad oes angen arnynt mewn gwirionedd. Eglurodd y Llywodraeth i’r Pwyllgor fod tair rhan i’r mater hwn, gyda chyfrifoldeb ar ysgwyddau’r claf, y fferyllfa a’r sawl sy’n presgripsiynu.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed eich profiadau o’r materion hyn, neu unrhyw ran arall o reoli meddyginiaeth – hoffem glywed eich profiadau drwy Twitter yn @SeneddArchwilio neu drwy anfon e-bost at seneddarchwilio@cynulliad.cymru.

Y camau nesaf:

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan fyrddau iechyd a fferyllwyr ym mis Mehefin i drafod i ba raddau y mae arferion gorau yn cael eu rhannu ac i glywed eu hymateb i rai o bryderon y Pwyllgor.

Gellir gwylio’r cyfarfod cyfan a gynhaliwyd ym mis Mawrth ar Senedd TV a gellir gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod, ynghyd â’r holl dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi dod i law’r Pwyllgor hyd yn hyn, ar dudalen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Bydd y cyfarfod ym mis Mehefin hefyd ar gael ar Senedd TV.

Beth all Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd.  Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

strip

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda’r galon.

Felly mae’n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth – mae modd profi’r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i’r gwrthwyneb.

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r broblem yn flaenoriaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei ‘nodau lles’ ac un ohonynt yw monitro ‘canran y bobl sy’n unig’.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a’r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.

Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i’r afael â’r broblem helpu unigolion i deimlo’n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i’w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter – @SeneddIechyd.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Tatŵio, addasu’r corff a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, blog Pigion

Ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015 bydd y Cynulliad yn cynnal ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd yn gyfrifol am graffu’r cynnig ddeddf, eu Adroddiad ar y Bil wythnos diwethaf â oedd yn cynnig nifer o argymhellion a gwelliannau.

Ar ddechrau’r ymgynghoriad, cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad holiadur cenedlaethol er mwyn gofyn i bobl Cymru beth oedd eu barn ar gynnigion Llywodraeth Cymru ar deddfu e-sigaréts, triniaethau arbennig a tyllu man personol o’r corff.

Mae llawer o’r sylw ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi bod ar e-sigaréts. Fodd bynnag, mae rhan ddiddorol arall o’r Bil yn ymwneud â thriniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff (Rhannau 3 a 4 o’r Bil).

Triniaethau arbennig

Bydd y Bil fel y cafodd ei ddrafftio yn creu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru. Y triniaethau arbennig sydd ynddo ar hyn o bryd yw aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio, ond byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr hon drwy is-ddeddfwriaeth.

Yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd llawer o randdeiliaid fod diffyg sylweddol ar hyn o bryd o ran rheoli ansawdd yn y diwydiannau tatŵio a thyllu. Clywodd y Pwyllgor adroddiadau brawychus fod llawer o driniaethau’n cael eu rhoi gan bobl sydd ag ychydig, os o gwbl, o wybodaeth am anatomeg, rheoli heintiau neu brosesau iachau.

Hefyd, tynnodd rhanddeiliaid sylw at driniaethau ychwanegol a ddylai fod yn rhan o’r Bil yn eu barn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys addasu’r corff (creithio, mewnblaniadau croen, llosgnodi a hollti’r tafod), pigiad o hylif i mewn i’r corff (botox neu lenwyr croen), a thriniaethau laser (cael gwared ar datŵ neu gael gwared ar flew).

Gwnaeth tîm Allgymorth y Cynulliad fideo byr am driniaethau arbennig drwy gyfweld ag ymarferwyr ledled Cymru:

Mae artistiaid tatŵ yn y fideo yn mynegi pryder yn arbennig am frandio, creithio, addasu eithafol o’r corff (fel hollti’r tafod a hollti’r pidyn) a mewnblaniadau croen. Maent yn egluro bod creithio (lle caiff rhan o’r croen ei dynnu i adael craith) yn aml yn digwydd mewn ffordd beryglus.

Mae’r tatwyddion hefyd yn dweud bod brandio yn cael ei wneud gyda lampau llosgi, bachau hongian dillad a heyrn sodro sydd wedi’u haddasu, ac yn sôn am bryderon ynghylch mewnblaniadau croen, fel gosod cyrn a sêr o dan y croen:

Dyw gosod gwrthrychau yn eich corff ddim yn beth da heb ryw fath o bwysau deddfwriaethol tu ôl iddo i ddweud, ‘Dyw hynny ddim yn ddiogel’, neu ‘A yw’r deunydd yn ddiogel?’ neu ‘Oes rhywun wedi’i archwilio?’; ‘A yw’n gwbl lân? Ydych chi wedi’i awtoclafio cyn i chi ei roi mewn yna? O ble mae’n dod? Ydy hwn wedi dod allan o beiriant pêl pum ceiniog rownd y gornel?’

Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Mae’r Bil yn cynnig gosod trothwy oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Mae’n diffinio’r rhannau personol o’r corff fel yr anws, y fron, y folen, rhych y pen ôl, y pidyn, y perinëwm, y mons pubis, y ceillgwd a’r fwlfa.

Er bod cefnogaeth i’r egwyddor o osod trothwy o’r fath, mae llawer o randdeiliaid yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol yn achos mannau personol. Er enghraifft, mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol, gan fod hyn yn cyd-fynd â’r oedran isaf ar gyfer tatŵio, ac yn adlewyrchu’r aeddfedrwydd sydd ei angen i wneud penderfyniadau o’r fath. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn rhesymu bod unigolyn 16 oed yn dal i dyfu ac felly bod mwy o risg o niwed i’r croen. Nodwyd hefyd fod rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn gofyn am safon uwch o ôl-ofal na thatŵs, gan ei fod o bosibl yn fwy agored i haint.

Mae Dr Ncube yn cefnogi trothwy oedran uwch, gan nodi bod goblygiadau hirdymor yn sgil tyllu’r organau cenhedlu. Rhoddodd enghraifft o astudiaeth achos o dad â thwll mewn organ cenhedlu, a oedd yn chwarae gyda’i ferch. Cafodd ei gicio’n ddamweiniol gan ei ferch.

Arweiniodd y trawma a achoswyd gan y tyllu at fadredd (gangrene) yn ei bidyn. Cyflwr Fournier yw’r enw ar hyn. Oherwydd hynny, cafodd greithiau sylweddol. Felly, mae risgiau sylweddol ynghlwm â thyllu organau cenhedlu, sy’n golygu bod goblygiadau hirdymor tyllu yn bwysig, yn ogystal â’r tyllu ei hun.

Cafwyd neges gref hefyd gan randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dylid cynnwys tyllu’r tafod yn y Bil, gyda thystion yn nodi risg uchel o gymhlethdodau, niwed a haint.

Dadl Cyfarfod Llawn

Bydde chi’n gallu gwylio’r ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fyw ar  senedd.tv neu dal lân yn hwyrach ymlaen. Am ragor o wybodaeth ar waith y Pwyllgor, ewch i wefan y Pwyllgor ar www.cynulliad.cymru/seneddiechyd.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Llysgennad ar gyfer Slate

Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth mewn ffordd gyffrous ac arloesol. Eleni, dechreuom ddefnyddio rhaglen o’r enw Slate (gan Adobe) i greu crynodebau o’r adroddiadau a lunnir gan ein pwyllgorau.

Mae ein deunydd ar Slate wedi bod yn llwyddiannus iawn – yn gymaint felly nes i Adobe ein gwneud ni’n Llysgennad ar gyfer Slate!

Alcohol slate screenshot

Beth yw Slate?

Platfform sy’n galluogi sefydliadau i greu a rhannu adroddiadau, gwybodaeth a chyflwyniadau rhyngweithiol yw Slate. Mae ganddo ryngwyneb hygyrch ac mae modd ei ddefnyddio ar sawl platfform. Mae’r Cynulliad wedi defnyddio Slate i rannu gwaith helaeth a chymhleth pwyllgorau’r Cynulliad mewn fformat difyr sy’n hawdd ei ddefnyddio.

 

Ombwdsmon slate screenshotLlwyddiant Slate

Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar i Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau yng Nghymru, roedd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad am rannu ei ganfyddiadau. Defnyddiodd y Cynulliad Slate i greu crynodeb o waith y pwyllgor. Gan ddefnyddio delweddau trawiadol a chynnwys addysgiadol, crëwyd adroddiad amlblatfform a chanddo ryngwyneb cyfeillgar.

“Mae’n anhygoel gweld y pethau gwych y mae pobl (fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn eu gwneud gyda’r adnodd” – Tîm Rhaglen Slate

Bellach, mae Slate wedi ei ddefnyddio i gyflwyno canfyddiadau nifer o bwyllgorau’r Cynulliad gan gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid a oedd yn ystyried a ddylai’r Ombwdsmon gael rhagor o bwerau ac ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sut y gellir lleihau tlodi yng Nghymru.

 

Dysgwch ragor am waith pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: edrych yn ôl dros y pum mlynedd ddiwethaf

DavidReesAM

David Rees ydw i, ac rwy’n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn grŵp o 10 Aelod Cynulliad o bob rhan o Gymru sy’n cynrychioli’r pedair plaid wleidyddol sy’n ffurfio’r Cynulliad. Ers 2011, rydym wedi bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gan y bydd gwaith y Pwyllgor yn dod i ben cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf (pan fydd pobl yng Nghymru yn dewis pwy fydd yn eu cynrychioli dros y pum mlynedd nesaf), rydym yn edrych yn ôl dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym eisiau gwybod beth yw eich barn.

Hoffem glywed sylwadau gan bawb; y rhai sydd wedi gweithio’n agos gyda ni, y rhai nad ydynt erioed wedi ymgysylltu â ni, a phawb yn y canol.

Rydym yn casglu barn pobl ledled Cymru ar y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ein ffordd o weithio, y gwaith rydym wedi’i wneud, a’r effaith a gafodd ein gwaith. Rydym hefyd yn awyddus i glywed am yr heriau allweddol ar gyfer maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y pum mlynedd nesaf.

Ar sail hynny, gan feddwl am y pum mlynedd diwethaf:

  • Sut rydym wedi cael effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
  • Beth fu ein cyflawniad mwyaf?
  • Pe gallem fod wedi gwneud un peth yn wahanol, beth fyddai hwnnw?
  • A ydym wedi taro cydbwysedd cywir rhwng craffu ar bolisi, cyllid a deddfwriaeth?

Gan feddwl ymlaen at y pum mlynedd nesaf:

  • Beth yn eich barn chi fydd y tair her mwyaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Felly, os oes gennych farn ar y cwestiynau hyn, mae ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad  ar gael ar-lein, neu e-bostiwch SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru.

Rydym am glywed gan bobl o bob rhan o Gymru. Drwy rannu eich barn gyda ni, fe allwn ystyried ein gwaith, a pha effaith a gafodd ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwnewch yn siŵr fod eich ymateb gyda ni cyn 25 Medi 2015.

Beth fydd yn digwydd wedyn?

Byddwn yn ystyried pob ymateb pan fyddwn yn trafod ein hetifeddiaeth, a byddwn yn cyhoeddi ein casgliadau cyn diwedd y Cynulliad.

Ble allwch chi gael rhagor o wybodaeth?

Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar

Beth yw dementia?

Mae’r gair dementia yn disgrifio set o symptomau a all gynnwys colli cof ac anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith. Nid yw’n glefyd ynddo’i hun ac nid yw’n rhan naturiol o heneiddio. Mae dementia yn digwydd pan fydd yr ymennydd yn cael ei niweidio gan glefydau, fel clefyd Alzheimer neu gyfres o strociau. Mae dementia yn glefyd lle bydd y symptomau yn gwaethygu’n raddol.

Cewch wybod mwy am ddementia drwy ymweld â gwefan Cymdeithas Alzheimer neu drwy wylio ei fideo byr ‘Beth yw Dementia?‘.

Mae dementia yn effeithio ar dros 750,000 o bobl yn y DU ac mae 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.

Beth yw goblygiadau’r Cynulliad yn dod yn sefydliad dementia-gyfeillgar?

Mae’r Cynulliad yn sefydliad dementia-gyfeillgar sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith Aelodau’r Cynulliad a chymuned ehangach y Cynulliad.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: “Drwy sicrhau bod mynediad cyfartal i bobl sy’n byw gyda dementia, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod croeso i bobl â dementia gymryd rhan mewn bywyd dinesig a bod ganddynt y gallu i wneud hynny”.

Bydd y Cynulliad yn:

  • Hyrwyddo hawliau’r 45,000 o bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru, a’r rhai sy’n gofalu amdanynt;
  • Sicrhau bod sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer yn cael eu darparu i staff sy’n cyfathrebu â’r cyhoedd fel bod ganddynt y sgiliau priodol i ymateb i ymwelwyr allanol sy’n byw gyda dementia;
  • Sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yng nghyd-destun pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer’s; a
  • Darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau’r Cynulliad, eu staff, staff Comisiwn y Cynulliad, a chontractwyr sy’n gweithio ar yr ystâd, er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu etholwyr a phobl y maent yn cyfathrebu â hwy sy’n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner Aelodau’r Cynulliad eisoes yn Gyfeillion Dementia.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer’s yng Nghymru:

“Rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn. Mae ei addewid yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas Alzheimer’s i annog cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill i weithio tuag at y nod o fod yn fwy dementia-gyfeillgar, ac yn helpu’r broses o greu amgylcheddau gwell i bobl i fyw yn dda gyda dementia cyhyd ag y bo modd. Yn awr, mae angen i bawb wneud newidiadau er mwyn grymuso pobl sydd â dementia a’u helpu i fyw’n dda yn eu cymunedau.”

Dwy fenyw o flaen stondin yn dal gwobrau

Blog y Cadeirydd: Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

DavidReesAM

Prif nod y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yw sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal nyrsio diogel i gleifion drwy’r amser. Cafodd ei gyflwyno gan Kirsty Williams AC ym mis Rhagfyr 2014 ac mae wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod misoedd cyntaf 2015. Gwnaethom adrodd ar y Bil ym mis Mai 2015:

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)

Bydd y Cynulliad yn ystyried y Bil hwn yn @SeneddSiambr ar 3 Mehefin. Ar ddiwedd y ddadl ar y Bil, gofynnir i Aelodau’r Cynulliad benderfynu a ddylid caniatáu iddo symud i’r camau nesaf o’r broses graffu ai peidio.

Beth mae’r Bil yn cynnig ei wneud?

Diben y Bil yw ei gwneud yn ofynnol bod cyrff gwasanaethau iechyd yn sicrhau’r canlynol:

  • bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal diogel i gleifion drwy’r amser; a
  • bod y gwaith o reoli a chynllunio’r gweithlu o nyrsys yng Nghymru yn dda, yn ddiogel ac yn effeithlon.

Beth oeddem yn ei feddwl o’r Bil?

Ein gwaith fel Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r nodau a bennir gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu a oes ffyrdd gwell o wneud hynny.

Er mwyn ein helpu i gael ateb i’r cwestiwn hwn, gwnaethom ofyn am gymaint o safbwyntiau â phosibl. Cawsom 34 o ymatebion ysgrifenedig ac estynnwyd gwahoddiad i 32 o unigolion, gan gynnwys Kirsty Williams AC a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu tystiolaeth lafar yn y Senedd.

Ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys gwybodaeth gan feddygon, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a chleifion, daethom i’r casgliad y gallai deddfwriaeth helpu i wella lefelau diogel staff nyrsio yng Nghymru. Er ein bod yn unfryd o blaid amcan y Bil, rydym wedi gwneud 19 o argymhellion y credwn y dylid eu rhoi ar waith cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Mae llawer o’n hargymhellion yn canolbwyntio ar ein pryderon y gallai’r Bil achosi nifer o ganlyniadau anfwriadol. Un o’r rheini ydy’r risg y gallai staff nyrsio gael eu symud o un maes ysbyty i faes arall er mwyn cynnal y lefelau staffio. Rydym hefyd yn pryderu y gallai prinder nyrsys fod yn rhwystr sylweddol i allu gweithredu’r Bil yn llwyddiannus.

Ymhlith ein hargymhellion roedd y canlynol:

  • sicrhau nad yw cydymffurfiad cyrff iechyd â chymarebau staffio mewn “wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai acíwt” yn cael effaith andwyol ar lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau eraill y GIG yng Nghymru;
  • gofyn i’r Gweinidog sicrhau bod canllawiau ar waith i ddiogelu yn erbyn y canlyniadau anfwriadol posibl a ddaw yn sgil y ddeddfwriaeth hon;
  • sicrhau cydbwysedd rhwng y defnydd o staff parhaol a staff dros dro wrth gydymffurfio â’r cymarebau staffio;
  • ystyried cynnwys cyfeiriad ar wyneb y Bil at drefniadau ar gyfer cynllunio’r gweithlu’n gynhwysfawr, i sicrhau bod digon o nyrsys hyfforddedig ar gael yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol; a
  • darparu eglurder ynghylch y lleoliadau lle bydd y Bil yn gymwys.

Gallwch ddarllen ein rhestr lawn o argymhellion, a’r dystiolaeth sy’n tanategu’r casgliadau rydym wedi’u llunio, yn ein hadroddiad:

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)

Addroddiad - Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1

Beth nesaf?

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 3 Mehefin, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 2. Bydd Cyfnod 2 yn dechrau ar 4 Mehefin. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd aelodau’r pwyllgor yn ystyried pob llinell o’r Bil ac yn cynnig unrhyw welliannau y mae angen eu gwneud i’w wella, yn eu barn hwy. Caiff y gwelliannau hyn eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor, sydd wedi’i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer 9 Gorffennaf 2015.

Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd y ddeddfwriaeth yn methu ac ni chymerir unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Bil.

Os hoffech ddysgu mwy am sut y caiff deddfwriaeth ei hystyried gan y Cynulliad, mae gwybodaeth am y broses ar gael ar ein tudalennau gwe ar ddeddfwriaeth.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor