Tag: Diwylliant

#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog

blogheaderfinalcy

Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:

Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer  marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?

COLLAGE

Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?

Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:

Twitter Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Facebook Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Email E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru
Youtube Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Instagram Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Wordpress Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama

Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’

Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Continue reading “#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych”

Digwyddiad pêl-droed 24.5.12 – Stebonheath, Llanelli

http://vimeo.com/43106737

Digwyddiad pêl-droed 24.5.12 – Stebonheath, Llanelli

Ddydd Iau 24 Mai, cynhaliodd aelodau o un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn meic agored yn Stebonheath, Llanelli, er mwyn gwrando ar sylwadau pobl am Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd y digwyddiad yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch Gynghrair Cymru.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor: “Roedd yn braf cael mynd allan a chyfarfod pobl sydd â diddordeb yn Uwch Gynghrair Cymru ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y gynghrair a’u clybiau yn llwyddiannus.
Clywsom nifer o bwyntiau pwysig am sut y gellir datblygu Uwch Gynghrair Cymru, a byddwn yn cyflwyno’r pwyntiau hyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru pan fydd aelodau’r gymdeithas yn dod i siarad â ni yn y Senedd.
Byddwn yn cwrdd â rhagor o gefnogwyr Uwch Gynghrair Cymru cyn bo hir, pan fyddwn yn ymweld â chlwb pêl-droed Llandudno (http://www.pitchero.com/clubs/llandudno/), ac rydym yn gobeithio clywed gan gefnogwyr ledled gogledd Cymru.”
Mae’r fideos isod yn cynnwys eitemau gan Colin Staples o Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Nigel Richards o glwb pêl-droed Llanelli, sy’n sôn am y prif faterion a drafodwyd yn ystod y digwyddiad.

Diolch i Nigel ac i bawb yng nghlwb pêl-droed Llanelli am gynnal y digwyddiad. Cynhelir y digwyddiad yng nghlwb pêl-droed Llandudno ar 31 Mai am 19.30. Cliciwch ar y linc a ganlyn i gael rhagor o wybodaeth: http://www.pitchero.com/clubs/llandudno/news/welsh-premier-league-open-foru-589890.html

Cyfranogiad yn y Celfyddydau

Cofio - Celfyddydau Cymunedol RhCT

Yn ddiweddar, mae’r Tîm Allgymorth wedi bod yn gweithio gyda nifer o grwpiau celfyddyd lleol ar draws y wlad i glywed eu barn ar ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau.

Mae cyfranogwyr a chynrychiolwyr o Gelfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Grefft Rhuthun, Y Galeri, Celf o Gwmpas, Arts Alive, Arts 4 Wellbeing a’r Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobl Croenddu Cymru oll wedi bod ynghlwm â chyfres o grwpiau ffocws a gafodd eu hwyluso gan Kevin Davies, Lowri Williams a Cheri Kelly; Rheolwyr Allgymorth De Orllewin Cymru, Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, yn ôl eu trefn.

Roedd dros 190 o bobl ynghlwm wrth yr ymgynghoriad, a fydd yn cyfrannu at waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf gyda phrosiect Cofio Celfyddydau Cymunedol RhCT; cynhyrchiad theatr dawns i oedolion hŷn am hel atgofion a sefydlwyd gan Gelfyddydau Cymunedol RhCT ym mis Mai 2012. Mae’r prosiect ar gyfer oedolion hŷn, rhwng 60 a 94 oed, sy’n byw yng nghymunedau’r Maerdy, Glynrhedynog, Tylorstown, Stanleytown, Ynys-hir a Threbanog.

Isod mae dyfyniadau gan bobl a gymerodd ran yn y sesiwn:
“Mae bod ynghlwm wrth Cofio wedi cael effaith dwys a pharhaol – rydym wedi datblygu sgiliau newydd sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar ein hyder, gweithgarwch corfforol, gallu deallusol, emosiynau, sgiliau cymdeithasu a’n cof.” (Eva)

“Mae agwedd gymdeithasol Cofio a’r rhyngweithio creadigol gydag eraill yn rhoi teimlad o les a phwrpas i chi – cerrig milltir ac atgofion yn cael eu rhannu drwy adrodd ein straeon drwy ddawns a drama.” (Iris)

“Rwy’n swil iawn, ond mae mynd i Cofio yn golygu fy mod yn gadael y tŷ bob wythnos, yn cwrdd â phobl a dod i’w hadnabod yn well, ac mae hefyd yn helpu fy symudedd. Mae’r rhyngweithio cymdeithasol gydag eraill wedi fy helpu i siarad mwy – nid wyf mor swil bellach.” (Pam)