Tag: Digwyddiadau

Y Sioe Frenhinol 2017

Y Sioe Frenhinol 2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 24-27 Gorffennaf gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau, a chyfle i’r cyhoedd gyfarfod ag Aelodau a staff y Cynulliad a chael gwybod mwy am ein gwaith. Byddwn yn y Pafiliwn Gwyrdd, ac mae croeso i bawb ymweld â’n stondin i roi eich barn ac opsiynau ar ein gwaith.

Yn digwydd drwy gydol yr wythnos

Ar y stondin

P’un a ydych yn gyfarwydd â’n gwaith ai peidio, erbyn diwedd eich ymweliad â stondin y Cynulliad byddwch wedi dysgu rhywbeth newydd amdanom ni a’r hyn rydym yn ei wneud. Mwynhewch baned a dysgu am eich Aelodau Cynulliad, sut y maent yn eich cynrychioli chi a sut y gallwch gysylltu â hwy i fynegi eich barn a’ch pryderon. Gallwch gael gwybod mwy am ein hymholiadau presennol a’n gwaith sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi neu eich cymuned.

I blant

Tra bod rhieni yn cael hoe, gall plant gymryd rhan mewn gwahanol gemau a gweithgareddau o amgylch y stondin i’w helpu i ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddant yn gallu dod i wybod am ddeddfu a rhoi cynnig ar bleidleisio dros y diddordebau a’r gweithgareddau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae yna hefyd gemau i’w chwarae a lliwio ar gyfer ymwelwyr iau.

Dywedwch wrthym beth sy’n eich gwneud yn falch o Gymru

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwlad. Ein hanes, ein diwylliant, ein harwyr, ein hiaith, ein tir – ein cartref. Yn bennaf oll rydym yn falch i’ch cynrychioli chi, bobl Cymru, ac i wneud penderfyniadau a chreu deddfau a fydd yn llunio dyfodol bywyd Cymru. Rydym am i chi ddweud wrthym beth ydych yn ei garu fwyaf am fywyd yng Nghymru a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n falch. Rhannwch eich barn gyda ni ar y stondin neu dywedwch wrthym ar Twitter gan ddefnyddio #fyNghymru.

Sesiynau a Digwyddiadau

Dydd Mercher 26 Gorffennaf

09.00-10.00 Digwyddiad Brecwast Llais Cryfach i Gymru i Randdeiliaid (Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol), stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y cyfansoddiad i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol. Mae Aelodau y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn edrych ar sut mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill ac yn awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau sydd â phrofiad o roi tystiolaeth ar lefel y DU a Chymru a pha rwystrau y gallant fod wedi’u hwynebu. Trwy ofyn y cwestiynau hyn a chlywed eu profiadau, bydd y Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o weithio i’r dyfodol.

 

Dydd Iau 27 Gorffennaf

10.30-11.30 Lansio Ymchwiliad i Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru (Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig), Neuadd Bwyd a Diod

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd a diod yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn? Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyfarfod â stondinwyr i lansio a thrafod ei ymchwiliad newydd i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Drwy gyfarfod â chynhyrchwyr ac arddangoswyr bwyd mae’r Pwyllgor yn gobeithio dysgu mwy am sut y gallai Cymru greu diwydiant bwyd arloesol sy’n cynnal swyddi o ansawdd uchel, a dod yn gyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy’n hoff o fwyd.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn Sioe Frenhinol Cymru. Dilynwch ni ar Facebook, Twitter a Instagram drwy gydol yr wythnos am y newyddion diweddaraf o’r Cynulliad o faes y sioe.

 

 

 

 

Hwyl yr Haf yn y Senedd

 

Gareth Coombes, rheolwr teithiau tywys yn y Senedd, yn sôn am bleserau a heriau’r gwaith o drefnu penwythnos o Hwyl i’r Teulu yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.

Y peth cyntaf a ddaw i’r meddwl, mae’n debyg, wrth feddwl am y Senedd yw’r Cyfarfod Llawn, y cyfarfod lle mae’r 60 o Aelodau’r Cynulliad yn gwneud deddfau yng Nghymru, yn trafod materion Cymru, yn holi’r Prif Weinidog ac yn gwneud yn siwr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith. Yr ail beth y byddech yn meddwl amdano, o bosibl, yw’r tywysydd golygus sy’n gweithio yno (haha!), ond efallai mai’r peth olaf y byddech yn ei ddychmygu yw y gallai’r Senedd hefyd droi’n fan chwarae enfawr ar gyfer plant a phobl ifanc.

Capture

 

Wel, dyna’n union a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf! I ddathlu Gŵyl Harbwr Bae Caerdydd ac fel parhad o ddathliadau 10fed pen-blwydd y Senedd eleni, cynhaliwyd penwythnos o Hwyl i’r Teulu i gyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys chwarae meddal, gorsaf Lego, sgitls, paentio wynebau ac ardal gwneud crefftau.

Y diwrnod cynt, roeddwn i’n nerfus iawn, yn meddwl na fyddai neb yn dod i’r digwyddiad ac y byddwn i’n chwarae Lego ar fy mhen fy hun drwy’r dydd! Bûm yn cadw’n brysur drwy osod yr holl weithgareddau, gwneud yn siŵr bod y teganau yn y lle cywir, bod gan y paentwyr wynebau fyrddau a bod y cacennau cri yn ddigon blasus (cymerais y swydd hon yn ddifrifol iawn, a blasu llawer ohonynt, dim ond i wneud yn siŵr eu bod yn iawn wrth gwrs!) a bod popeth arall yn iawn. Y noson cynt, pan oedd pawb bron wedi mynd adref, cerddais o gwmpas i gael cip olaf yr hyn yr oeddem wedi’i greu yn yr adeilad, a theimlwn yn gyffrous am y dyddiau a oedd i ddod.

Dechreuodd y penwythnos yn dawel, ac roedd y tywydd yn ddigon diflas. Cyn gynted ag y daeth yr haul i’r golwg, fodd bynnag, gwyddwn y byddai Bae Caerdydd yn prysuro, ac wrth gwrs, fe ddaeth heidiau o bobl yma!

FullSizeRender (2)

Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd dros y penwythnos (ac am reswm da) oedd y pwll peli yng nghanol yr ystafell. Un o’n cyfrifoldebau ni’r staff oedd sicrhau nad oedd y peli yn rholio’n rhy bell, a’u rhoi’n ôl yn y pwll peli. Gwaith digon anodd ac ailadroddus, cofiwch! Ar ddiwrnod ola’r penwythnos, fe es ati i dacluso’r pwll peli am y tro olaf, a rhoi dwy neu dair pêl ar y tro yn ôl yn eu priod le, pan welais, o gornel fy llygaid, fachgen bach yn rhedeg mor gyflym ag y gallai tuag at y man chwarae meddal o ben draw’r ystafell. Roedd popeth, ar yr adeg hon, yn digwydd fel cyfres o symudiadau araf. Roedd y bachgen bach yn agosáu, nid oedd dim y gallwn i ei wneud, a chyn y gallwn ymateb o gwbl, fe neidiodd, mor uchel ag y gallai, a glanio, fel neidiwr mewn cystadleuaeth naid hir yn y Gemau Olympaidd, yng nghanol y pwll peli. Eto, fel pe baent mewn ffilm wedi’i harafu, gwelwn oddeutu 50 o beli yn tasgu allan o’r pwll i bob cyfeiriad posibl ar y llawr llechi Cymreig, a chan wybod fy mod wedi colli’r frwydr, ‘doedd dim i’w wneud ond rhoi fy mhen yn fy nwylo, gorffwys ar y man chwarae meddal, a chwerthin!

IMG_3520Ar gyfer hunluniau amrywiol, defnyddiwyd #SeneddSelfie ar Twitter ac Instagram drwy gydol y penwythnos, fel y gallai ein gwesteion rannu eu profiadau gyda ni a phawb. Tynnwyd lluniau gwych, ac roedd yn hyfryd gweld pawb yn gwenu’n braf ynddynt. Dringodd nifer o bobl i’r gadair lan môr enfawr y tu allan i’r Senedd, a gwelwyd lluniau gwych o blant gyda’u hwynebau wedi’u paentio, yn Llewod a glöynnod byw rif y gwlith!

Yn gyffredinol roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr, gyda thros 3,500 o bobl yn ymweld â’r Senedd dros y tri diwrnod! Roedd yn ymddangos bod pawb yn mwynhau cymaint ag y gwnes i.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am ddod draw – welwn ni chi eto y flwyddyn nesaf!

 


Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos, ac mae ei dyluniad unigryw a’i phensaernïaeth anhygoel yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac yn 2015 dyfarnwyd Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i’r adeilad.

Mae teithiau o amgylch y Senedd ar gael am ddim bob dydd, ac mae dewis o ddiodydd a lluniaeth ar gael i’w prynu o Gaffi’r Oriel.

Gallwch hefyd gael gwybod pwy yw eich Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli eich buddiannau yn y Senedd. Os byddwch yn ymweld yn ystod yr wythnos byddwch hyd yn oed yn gallu gwylio’r gweithgareddau gwleidyddol yn datblygu, fel y maent yn digwydd, o Oriel Gyhoeddus y Siambr, sef siambr drafod y Senedd.

Os hoffech drefnu taith (ni allaf warantu mai gyda Gareth y bydd y daith), ffoniwch 0300 200 6565, anfonwch neges e-bost at cysylltuâ@cynulliad.cymru neu galwch heibio’r Senedd i gael rhagor o fanylion.

Mae’r Senedd ar agor:

Dyddiau’r wythnos – yn ystod tymor y Cynulliad

Dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30, dydd Mawrth a dydd Mercher 8.00 – tan ddiwedd busnes

Dyddiau’r wythnos – yn ystod y toriad

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30 – 16.30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

 (Noder, bydd yr ymwelwyr olaf yn dod i mewn 30 munud cyn yr amser cau)

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i rai â chyflwr ar y sbectrwm awtistig i’w gweld ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored Cadw 2016

Beth yw Drysau Agored?

Ar 10 Medi 2016, bydd cyfle i ymweld ag adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gynllun Drysau Agored Cadw.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Senedd, Pierhead

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead
Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma lle mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd
Mae’r Senedd yn ddeg oed eleni, a dyma galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyma’r stop olaf ar y daith, ac i ddathlu pen-blwydd y Senedd yn ddeg oed, bydd paned o de neu goffi ar gael i am ddim yn y caffi yn Oriel y Senedd i ymwelwyr Drysau Agored eleni.

Coffi yn y Senedd

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?
10 Medi 11:00am

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 10 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

 Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

 

Pierhead, Drysau Agored Cadw

 

Pride Cymru 2016

Blog Pride Cymru 2016 gan gyd-gadeiryddion OUT-NAW, rhwydwaith gweithle LHDT Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Wel, oni wnaeth Cymru gynnig sioe wych o amrywiaeth a chynhwysiant LHDT ar gyfer penwythnos Pride Cymru? Gyda theithiau beic elusennol, twrnamaint rygbi 7 bob ochr, lleoliadau yn cynnal corau LHDT, baneri enfys ar hyd a lled y ddinas, gorymdaith enfawr trwy ganol dinas Caerdydd ac, unwaith eto, dilynwyd hyn gan y prif ddigwyddiad ar Faes Coopers.  Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Pride Cymru yn ddigwyddiad mwy a gwell ac rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o ddathliad sydd wedi datblygu’n un o brif ddigwyddiadau blynyddol Caerdydd.

Fel y byddai’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn disgwyl, chwaraeodd y Cynulliad Cenedlaethol ei ran unwaith eto. Yn ogystal â mynd â’n bws allgymorth i Faes Coopers a chwifio’r baneri enfys ar draws ein hystâd, eleni roeddem yn hynod falch o allu goleuo’r Senedd gyda lliwiau’r enfys drwy gydol y penwythnos.

Gwnaethom gymryd rhan yn yr orymdaith hefyd, a hynny am y tro cyntaf. Gydag aelodau’r rhwydwaith, cynghreiriaid, modelau rôl, aelodau’r Bwrdd Rheoli, partneriaid ac aelodau teuluoedd yn ymuno â ni, ni fyddem wedi gallu disgwyl mwy o gefnogaeth. Un o’r rhai cyntaf i wirfoddoli oedd ein Prif Weithredwr, Claire Clancy, sy’n eiriolwr gwych dros gydraddoldeb ac amrywiaeth.  Roeddem i gyd yn falch o sefyll gyda’n gilydd ar yr  orymdaith i ddangos ein hymrwymiad i greu Cymru ddiogel, teg a chynhwysol.

NAfW at Pride
Aelodau OUT-NAW yng ngorymdaith Pride Cymru
Pride Banner etc
Aelodau OUT-NAW a’r cyhoedd yng ngorymdaith Pride Cymru

Wrth gwrs, roedd yn rhaid i’n cyfraniad ar Faes Coopers gysylltu rywsut â democratiaeth, ond eleni gwnaethom sicrhau ei fod yn llawer mwy o hwyl. Gwnaeth llawer o bobl ddod i gael tynnu eu lluniau yn ffrâm hunlun y Senedd, a buom yn trydar y rhain drwy gydol y dydd.  Roeddem yn falch iawn o weld aelod newydd o’r rhwydwaith, Hannah Blythyn AC, cyn iddi siarad ar y prif lwyfan.  Yn ychwanegol at ein hymgyrch #AdnabodEichAC a’r ymgynghoriad ar gyfer ein cynllun amrywiaeth newydd, gwnaeth lawer o bobl ifanc gymryd rhan yn frwdfrydig yn ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wasanaethau ieuenctid.  Bydd eu barn yn rhan o ystyriaethau’r Pwyllgor, a dyma’n union yw bwriad ein strategaeth ymgysylltu â phobl ifanc – gosod barn pobl ifanc wrth wraidd ystyriaethau’r Cynulliad.

Iestyn on bus
Pobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Fel gweithle gorau Stonewall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran bod yn LHDT-gynhwysol, rydym wedi cynorthwyo sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt gyda chyngor, adnoddau, hyfforddiant a mentora unwaith eto. Dyna’r hyn y dylem ei wneud i helpu i greu mwy o weithleoedd mwy cynhwysol lle gall staff LHDT fod yn nhw eu hunain ac mae’n bwysig i ni ein bod yn parhau i wneud hynny. O bwys eleni yw bod llawer o sefydliadau y tu hwnt i Gymru wedi cysylltu â ni. Rydym yn credu ei fod yn gyffrous iawn bod eraill yn sylwi ar yr hyn y mae Cymru’n ei wneud, ac rydym bob amser yn hapus i helpu’r rhai sy’n ceisio cael eu cynnwys ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, neu wella eu perfformiad oddi mewn iddo.

Yr hyn sydd wedi bod yn wahanol eleni yw datblygu ein rhwydweithiau y tu hwnt i’r disgwyl. Mae aelodau o OUT-NAW, ein rhwydwaith LHDT yn y gweithle, bellach yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i helpu eraill. Boed hynny gyda’r Sgowtiaid sydd bellach yn bresennol yn Pride Cymru trwy ymdrechion un o aelodau’n rhwydwaith, un o’n cynghreiriaid yn ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Chwarae Teg, pwyllgorau LHDT yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr neu undebau cenedlaethol, neu wneud cysylltiadau â gwaith elusennol Côr Meibion Hoyw De Cymru (SWGMC). Mae tri aelod o OUT-NAW yn gwirfoddoli gyda Out and Proud, prosiect ar gyfer pobl ifanc LHDT+ yn Ne Cymru.  Wedi clywed am waith Out and Proud, a sylweddoli eu bod yn gweithredu ar gyllideb fach iawn ac yn methu â goroesi heb wirfoddolwyr parod, penderfynwyd cymryd camau drwy ddefnyddio ein cysylltiadau cymdeithasol ein hunain, a nhw nawr sy’n elwa o fod yn elusen enwebedig SWGMC.

Mae gwneud y cysylltiad rhwng ein gwahanol rwydweithiau wedi gweld manteision ehangach i’r gymuned LHDT ac mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Mae’r bobl ifanc eu hunain yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi nid yn unig gan ein gwirfoddolwyr, ond gan y gymuned LHDT ehangach hefyd.  Roedd yn brofiad hyfryd ac emosiynol i’w gweld nhw wedi’u grymuso i siarad am faterion rhyw a rhywioldeb mewn cyngerdd diweddar gan Gorws Dynion Hoyw De Cymru, lle y codwyd cannoedd o bunnoedd.  Roedd yr un mor ysbrydoledig i’w gweld ar fws allgymorth y Cynulliad yn ystod Pride Cymru ac yn cymryd rhan mewn prosesau democrataidd drwy ein hymgynghoriad ar wasanaethau ieuenctid.  Mae arnom angen i bobl ifanc fwydo eu barn i mewn i wraidd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gwneud hynny o safbwynt lleiafrifol mor bwysig.  Wedi’r cyfan, mae’r Cynulliad yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, felly mae amrywiaeth o safbwyntiau yn helpu i greu darlun llawn a chynhwysfawr o’r materion dan sylw.

Felly, daw hyn â ni i ddiwedd blwyddyn brysur i OUT-NAW. Er ein bod yn falch iawn o fod wedi cyflwyno toiledau niwtral o ran rhyw ar gyfer staff ac ymwelwyr ar draws ein hystâd ym Mae Caerdydd eleni, mae yna bob amser fwy i’w wneud i helpu i lunio democratiaeth gynhwysol.  Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.

Yn dilyn blwyddyn wych arall, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau OUT-NAW, ein cynghreiriaid, arweinyddiaeth wleidyddol y Cynulliad, ein Bwrdd Rheoli a’r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn enwedig Ross Davies am ei egni, ei benderfyniad, ei sgiliau a’i brofiad o amrywiaeth LHDT. Mae’n ffynhonnell gyson o gyngor ac arweiniad, gan sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir tuag at weithle mwy cynhwysol.

Jayelle Robinson-Larkin & Craig Stephenson

Cyd-Gadeiryddion

Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad
Logo’r OUT-NAW

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Betty Campbell (MBE) yn annerch staff y Cynulliad fel rhan o’r Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi gweithle cynhwysol, lle y mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi.

Mae’r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yma yn y Cynulliad yn trefnu digwyddiadau yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth ac i ysgogi trafodaeth ynglŷn â materion amrywiol, a byddwn yn cymryd rhan yn yr Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant bob blwyddyn.

Betty Campbell photo
Darlun o Betty Campbell

Ar 8 Gorffennaf 2016 gwahoddwyd Betty Campbell (MBE) i siarad â staff yn y Cynulliad gan INSPIRE, y rhwydwaith menywod, a REACH, y rhwydwaith i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Gwahoddodd y rhwydweithiau Betty i’r Cynulliad fel rhan o fenter ar y cyd ganddynt, fel y gallent glywed ei hanes yn ei geiriau ei hun. Er y dywedwyd wrth Betty pan oedd hi’n ferch ifanc y byddai cyflawni ei breuddwyd o ddod yn athrawes “bron yn amhosibl”, ni wnaeth hyn ei rhwystro ac aeth ymlaen i oresgyn nifer o rwystrau i ddod y pennaeth ysgol du cyntaf yng Nghymru yn ystod y 1970au.

Mae hi’n parhau’n uchel ei pharch yng nghymuned Butetown, lle y bu yn bennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart, a chaiff ei chydnabod bellach fel awdurdod academaidd a phwysig ym maes addysg.

Mae Betty yn wir yn fodel rôl ar gyfer pobl dduon a menywod, a dyna pam y mae dau o’n rhwydweithiau staff yn teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i glywed ei stori yn bersonol. Roedd y sesiwn holi ac ateb gyda Betty yn arbennig o boblogaidd, yn wir, cawsom gynifer o gwestiynau, fe ddaeth yr amser i ben cyn i Betty fedru ateb pob un ohonynt!

Roeddem yn ddigon ffodus i recordio cyfweliad gyda Betty yn ystod ei hymweliad â’r Cynulliad, felly gallwch chwithau hefyd rannu ei stori.

Dyma ei stori, yn ei geiriau ei hun: Beth ysbrydolodd hi; yr hyn sydd wedi’i helpu i gyflawni ei nodau; yr ysbrydoliaeth y mae’n ei roi i eraill sy’n wynebu rhwystrau tebyg iddi hi a’i chyngor i bobl sydd hwythau’n wynebu eu rhwystrau eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth

Yn falch o fod yn gorymdeithio gyda’r Cynulliad yn Pride Cymru

gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Ffotograff o Claire Clancy yn gwisgo coron o flodau’r enfys i baratoi ar gyfer Pride Cymru
Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru

Ddydd Sadwrn, byddaf yn ymuno â chyd-gyfeillion ac aelodau o OUT-NAW, ein rhwydwaith LGBT yn y gweithle, wrth orymdeithio yng ngorymdaith Pride Cymru drwy Gaerdydd. Er ein bod yn mynychu Pride ers blynyddoedd lawer, dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad fod yn rhan o’r orymdaith ac rwyf wrth fy modd o gael ymuno â chydweithwyr i hyrwyddo ac annog cydraddoldeb ym maes LGBT.

Credaf ei bod yn bwysig i’r Cynulliad gael ei gynrychioli mewn digwyddiadau fel hyn er mwyn dangos ein bod wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cynhwysol. Rydym yn falch iawn o’n llwyddiant ym Mynegai Gweithleoedd Stonewall, lle’r ydym yn drydydd ar y rhestr o sefydliadau mwyaf cynhwysol y DU o safbwynt LGBT.

Bydd aelodau eraill o’r Bwrdd Rheoli, yn ogystal â staff o bob rhan o’r sefydliad, yn ymuno â mi yn yr orymdaith.

Os ydych yng nghanol y ddinas ond na allwch ymuno â ni ar gyfer yr orymdaith, cofiwch godi llaw i’n cefnogi. Hefyd, os ydych yn mynd i’r digwyddiad Pride cofiwch ymweld â bws allgymorth y Cynulliad.

Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i dîm rygbi’r Cynulliad y penwythnos hwn, yn y pencampwriaeth 7 bob ochr cynhwysol, Enfys 7s. Rwy’n siŵr y byddent yn ddiolchgar am eich cefnogaeth y penwythnos hwn.

Mae datganiad i’r wasg y Llywydd yn rhoi mwy o wybodaeth am ein dathliadau ar gyfer Pride Cymru.

Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru

#HoliLlywydd – Y Llywydd, Elin Jones AC, yn ateb eich cwestiynau

Ar 2 Awst, bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn sgwrsio â’r newyddiadurwraig Catrin Hâf Jones am yr heriau a chyfleoedd unigryw y mae’n eu hwynebu yn y Pumed Cynulliad. Bydd y Llywydd hefyd yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa a chwestiynau a ofynnir drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

1W

Gellir gofyn cwestiwn ymlaen llaw neu ar y diwrnod, naill ai drwy ddefnyddio #HoliLlywydd / #AskLlywydd ar Twitter, neu drwy gyfathrebu ar dudalen Facebook y Cynulliad, lle y caiff y sesiwn ei darlledu’n fyw am 11.00.

Sut gallaf wylio?

Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook:

Facebook Cynulliad Cymru

Facebook Assembly Wales

Hefyd, gallwch wylio’r cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau.

Sut gallaf gyflwyno cwestiwn?

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn i’r Llywydd:

  • Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ateb unrhyw drydariadau sy’n ymwneud â’r pwnc hwn, neu defnyddiwch y hashnod #HoliLlywydd. Hefyd, mae croeso i chi anfon Neges Uniongyrchol atom os hoffech ei chadw yn gyfrinachol.
  • Ar Facebook – Hoffwch Dudalen Facebook y Cynulliad a gadael sylw ar statws perthnasol. Os na allwch weld statws perthnasol, gadewch sylw ar y dudalen gyda’r hashnod #HoliLlywydd.
  • E-bost – Gallwch anfon eich cwestiynau drwy’r e-bost at: cyfathrebu@cynulliad.cymru
  • Ar Instagram – Os gallwch fynegi barn mewn ffordd weledol a chreadigol, byddem wrth ein bodd o’i gweld. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu defnyddiwch yr hashnod #HoliLlywydd. Fel arall, gadewch sylw ar un o’n heitemau ar Instagram, eto gyda’r hashnod #HoliLlywydd
  • Ar YouTube – Beth am i chi ffilmio eich hunan yn gofyn eich cwestiwn ac yna anfon y linc atom drwy un o’r sianeli uchod?
  • Sylwadau – Gallwch adael sylw ar y blog hwn yr eiliad hon!

Angen syniadau?

Gall Cynulliad Cymru ddeddfu mewn 21 o feysydd datganoledig:

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygu economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Gwasanaethau tân ac achub a diogelwch rhag tân
  • Bwyd
  • Iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Trethiant
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Y Gymraeg

Dyma ragor o lincs a all fod yn ddefnyddiol:

Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad – Yn y cyhoeddiad hwn mae detholiad o faterion sy’n debygol o fod o bwys yn y Pumed Cynulliad, o’r diwydiant dur i ddyfodol deddfu yng Nghymru.

Cymru a’r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru? – Mae ein Gwasanaeth Ymchwil yn egluro’r hyn a all ddigwydd yng Nghymru yn dilyn y bleidlais i Adael.

Comisiwn newydd y Cynulliad yn cychwyn arni gyda strategaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad – Erthygl newyddion am y strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Swyddogaeth y Llywydd – Gwybodaeth am swyddogaeth y Llywydd.

Rhagor am Elin Jones AC, y Llywydd

Elin Jones AC yw Llywydd presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Llywydd yw’r awdurdod pennaf yn y Cynulliad. Mae’n cadeirio cyfarfod y 60 Aelod Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Mae’r Llywydd hefyd yn weithredol o ran cynrychioli buddiannau’r Cynulliad a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Y Llywydd yw cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, sef y corff sy’n sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad y staff a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rolau yn effeithiol ar ran pobl Cymru.

Prif swyddogaethau y Llywydd yw:

  • cadeirio’r Cyfarfod Llawn;
  • penderfynu ar faterion ynglŷn â dehongli neu gymhwyso Rheolau Sefydlog;
  • cynrychioli’r Cynulliad mewn trafodaethau ag unrhyw gyrff eraill, pa un a ydynt y tu mewn i’r Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi, mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y Cynulliad.

Gweler hefyd:

Y Llywydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad – Newidiadau y mae’r Llywydd yn awyddus i’w gwneud i Fil Cymru.

Elin Jones yn egluro’r hyn y mae am ei gyflawni fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol – Cyfweliad â Wales Online ar yr hyn y mae’r Llywydd am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Y camau nesaf

Ar ôl casglu eich holl gwestiynau ynghyd, caiff rhai eu dewis i’r Llywydd eu hateb ar y dydd.

Byddwn yn coladu’r rhain ac yn eu rhannu â Catrin Hâf Jones cyn y cyfweliad. Bydd hi yn ei thro yn eu defnyddio yn ei sgwrs ag Elin Jones AC, y Llywydd. Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch ddod i wylio’r cyfweliad yn fyw; fel arall gallwch ei wylio yn fyw ar ein tudalennau Facebook. Wedyn, bydd y sgwrs ar gael ar-lein ar Senedd.TV. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os caiff eich cwestiwn ei ateb.

Cynhelir sgwrs rhwng y Llywydd a Catrin Hâf Jones ar 2 Awst am 11.00 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook:

Facebook Cynulliad Cymru

Facebook Assembly Wales

Hefyd, gallwch weld y cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau.

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg