Tag: Digidol

Deialog â’n democratiaeth

Ugain mlynedd yn ôl i fis Medi eleni, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain.

Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio i’w gael erioed. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyfnhau ei berthynas â phobl Cymru drwy ddulliau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.

tasglu-digidol-cyfryngau-cymdeithasol-yng-nghynulliad-cenedlaethol-cymru

Mae ein ffocws wedi bod ar y dinesydd Cymreig, sef defnyddiwr posibl llwyfan a gwasanaethau’r Cynulliad.

Ein man cychwyn yw y dylai pob gohebiaeth y Cynulliad gael ei chynllunio gyda buddiannau dinasyddion / defnyddwyr yn ganolog iddi, a dylai’r wybodaeth ynddi fod yn agored, er mwyn ceisio datblygu perthynas hirdymor â dinasyddion Cymru.

Yn ein hadroddiad rydym yn dangos sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio’r sianelau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol modern i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl ac yn poeni amdano, i gasglu tystiolaeth, gwybodaeth a barn, i gymryd rhan mewn amser real â phobl mewn cymunedau lleol a chymunedau o ddiddordeb.

Yna gall yr un cyfryngau ganiatáu i’r Cynulliad rannu gyda hwy yn uniongyrchol sut y mae eu cynrychiolwyr etholedig, yn unigol ac ar y cyd, yn ceisio ymateb i’r materion hynny.

Mewn rhai meysydd mae ein cynigion yn radical.

Rydym am i’r Cynulliad, ei Aelodau a’i staff, ddeall eu bod yn creu cynnwys: mae’r Cynulliad yn blatfform cynnwys sy’n casglu ffeithiau, gwybodaeth, data, sylwebaeth, barn, a dadansoddiadau, yn ysgrifenedig ac yn glyweledol, sydd naill ai’n arwain at weithredu neu weithiau – yn fwriadol – at beidio â gweithredu.

diwrnod-hacio-yn-y-senedd-bae-caerdydd

Senedd Lab (Diwrnod Hacio), fforio sut y gall arloesiad Digidol gwella’r ffordd mae’r Cynulliad yn ymgysylltu efo’r cyhoedd.

O’i drefnu’n iawn, mae hwn yn lle digidol dwys, gwerthfawr a democrataidd sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r genedl am y materion hynny sydd o’r pwys mwyaf iddi. Dylai fod yn arloesol, yn greadigol, ac yn ennyn ysbrydoliaeth.

Roedd ein grŵp yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau perthnasol, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, cynnwys digidol a datblygiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ein galluogi i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithredu.

Mae ein hargymhellion yn amrywiol.

Maent yn cynnwys yr awgrymiadau hyn:

  1. Dylai’r Cynulliad arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill (fel cylchlythyrau e-bost pwrpasol) i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.
  2. Dylai’r Cynulliad roi pobl, yn hytrach na’r sefydliad a’i brosesau, wrth wraidd straeon newyddion amserol ac anelu at wneud cysylltiad emosiynol â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
  3. Dylai’r Cynulliad greu cynnwys sy’n helpu pobl i ddeall y cysylltiadau, y gwahaniaethau a’r berthynas waith rhwng y Cynulliad a sefydliadau allweddol eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael â’r diffyg o ran gwybodaeth ddemocrataidd.
  4. Rhaid i Senedd TV fod yn haws ei ddefnyddio, gyda dull syml o alluogi pobl i ganfod a chlipio ffilmiau’n gyflym er mwyn eu cynnwys mewn pecynnau fideo neu eu mewnblannu ar dudalennau Aelodau’r Cynulliad, gwefannau allanol a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dylid mabwysiadu dulliau clyfar ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod sgyrsiau a chymunedau ar-lein, a chaniatáu i’r Cynulliad gymryd rhan ynddynt.
  6. Rhaid i’r Cynulliad fanteisio ar bob opsiwn amgen yn lle datganiad i’r wasg fel ffordd o hyrwyddo’i waith. Mae gan fapiau, ffeithluniau, blogiau, a chrynodebau byr y potensial i gyfleu negeseuon anodd mewn ffordd gofiadwy.
  7. Dylid cael adran benodedig hawdd ei defnyddio ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blatfform Hwb, gydag adnoddau ar gyfer addysgu sy’n gysylltiedig ag anghenion y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  8. Dylai’r Cynulliad feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i’w gwneud yn haws ymgysylltu â’r Cynulliad ac archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) am ei waith.
  9. Dylid mabwysiadu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf addas i ymgysylltu â phobl ifanc a dysgwyr. Dylai’r Cynulliad groesawu’r potensial ar gyfer ymgysylltu digidol gan ddefnyddio platfformau eraill fel Skype, Facetime, realiti rhith neu realiti estynedig.
  10. Dylid meddwl mwy am brofiad ymwelwyr yn ystâd y Cynulliad – y tu allan a’r tu mewn yn y Senedd a’r Pierhead – gan gynnwys tafluniadau, waliau fideo, realiti rhith a realiti estynedig ar yr ystâd.

Rydym hefyd yn argymell bod dathlu 20 mlynedd, yn 2019, ers sefydlu’r Cynulliad yn cael lle canolog mewn ymgyrch i hyrwyddo straeon datganoli, ac  yn argymell i’r Llywydd y dylai ystyried trefnu Gŵyl Ddemocratiaeth Cymru i gyd-fynd â’r pen-blwydd hwnnw.

person-yn-defnyddio-iphone-am-gyfryngau-cymdeithasol

Wrth bleidleisio dros Gynulliad Cenedlaethol ugain mlynedd yn ôl, creodd pobl Cymru sefydliad democrataidd newydd sy’n gweithredu, mae’n deg dweud, mewn byd cyhoeddus darniog.

Er i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau    pan oedd ein cyfryngau yn datblygu dulliau digidol, aethom ati mewn gwirionedd i greu llywodraeth gyhoeddus newydd yng Nghymru heb fod gan Gymru fyd cyhoeddus cydgysylltiedig. Nid ein gwaith ni fel grŵp oedd ystyried y cyfryngau yng Nghymru a’u heriau strwythurol – mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn ystyried hynny eu hunain.

Ein tasg ni oedd helpu’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu sut orau i feithrin deialog ddwys, ddiffuant a pharhaus gyda phobl Cymru.

Dyma’n hadroddiad. Ymlaen â’r drafodaeth!

lawrlwytho-adroddiad-tasglu-digidol

Mae datganoli digidol wedi cyrraedd – rhowch help llaw wrth inni fynd i’r afael â dyfodol digidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae datganoli digidol wedi cyrraedd – rhowch help llaw wrth inni fynd i’r afael â dyfodol digidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma farn Claire Scantlebury, pennaeth y Tîm Cyfathrebu Digidol, pam y byddai gweithio i’r Cynulliad yn berffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn digidrwydd.

Rwy’n ystyried fy hun yn dipyn o anorac o ran ymgysylltu digidol, ac mae’n deg dweud bod holl botensial y byd digidol yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi.

Ystyriwch y posibiliadau o ran y gynulleidfa, ymgysylltu mewn amser real, llunio deunydd gwreiddiol, sgwrsio dros y we, ennyn emosiynau, datblygiadau anhygoel technoleg, trendiau, platfformau, yr hyn sy’n dal sylw cynulleidfaoedd, data enfawr, gwybodaeth agored i bawb, profiad y defnyddiwr…mae’r rhestr yn ddiddiwedd!  Rwy’n deall yn iawn mor lwcus ydw i’n cael gweithio bob dydd ar rywbeth sy’n rhoi cymaint o bleser i mi.

Mae mwynhau’r gwaith yr ydw i’n ei wneud yn un peth, ond mae’n well byth gwybod fy mod yn chwarae fy rhan ar gyfer sefydliad mor arbennig a phwysig.  Â minnau’n aelod newydd o staff yn y Cynulliad, ac wedi imi fod yn gweithio yn y sector preifat yn flaenorol, rwy’n credu mai dyma’r amser mwyaf cyffrous i fod yn rhan o’r byd gwlidyddol ym Mhrydain. Ond tra bo pobl yn ddigon parod i ymgysylltu yn nemocratiaeth ein gwlad yn sgil rhai pynciau (awn ni ddim ar ôl yr hen air hwnnw ‘Brexit’ yn fan hyn!), mae ymgysylltu â gwleidyddiaeth yng Nghymru yn rhywbeth sy’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

untitled-design-1

Mae’r byd gwleidyddol sydd ohoni ynghyd â’r ffordd y mae pobl yn darllen gwybodaeth yn her newydd, cyffrous ac mae’r byd digidol yn bwysig iawn yn hynny o beth.  Mae rôl sefydliadau gwleidyddol yn newid yn gyson.  Mae’r rheolau’n newid, mae’r ffiniau’n newid ac mae’r cyfleoedd a ddaw yn sgil e-ddemocratiaeth a’i botensial yn fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas wrth inni geisio ymgysylltu â phobl nad ydynt yn ymwneud rhyw lawer â gwleidyddiaeth.

Mae bod yn rhan o’r tîm digidol yma yn y Cynulliad yn gyfle i ni gyfrannu er lles Cymru trwy arloesi a defnyddio gwahanol foddau o ymgysylltu’n greadigol.  Mae’n swydd mor gyffrous a llawn o fwynhad, ond mae’r llwyth gwaith yn cynyddu’n gyson…felly, dyma benderfynu recriwtio dau Reolwr ar y Cyfryngau Digidol i fod yn rhan o’n tîm.

At hynny, mae’r iaith Gymraeg wedi hen ennill ei phlwy yn yr oes ddigidol. Dyna pam rydym yn recriwtio arbenigwyr digidol i arwain y ffordd o ran arloesedd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer ceisio am un o’r swyddi hyn, wrth inni weithio er lles Cymru a’r iaith Gymraeg.

Os oes angen rheswm arall arnoch i weithio i’r Cynulliad, ni chewch chi lefydd gwell i weithio ynddynt na’r Senedd a’r Pierhead ym Mae Caerdydd.

Beth yw’r rôl?

Rydym yn dîm newydd yn y Cynulliad, ac rydym yn gweithio i lywio presenoldeb y Cynulliad ar y we wrth inni ddangos i bobl Cymru beth rydym yn ei wneud yma ym Mae Caerdydd, gan ysbrydoli pobl yn sgil hynny.

Rwy’n chwilio am weithwyr proffesiynol digidol sy’n frwdfrydig dros ymgysylltu ar-lein â phobl Cymru  Dylech fod yn hyderus i lunio deunydd a’i rannu ar sawl platfform digidol, a bod yn ymwybodol o’r dull gorau ar gyfer gwahanol dasgau drwy eich gwybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu dysgu trwy brofiadau mewn rolau eraill a oedd yn ymwneud â marchnata digidol a chynnwys digidol.

Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi fod yn arloesol, gwthio ffiniau a helpu gosod y Cynulliad ymysg sefydliadau digidol gorau’r byd, gwnewch gais ar unwaith!