Tag: Deyrnas Unedig

Tuag at Senedd sy’n Gweithio i Gymru

Cyflwynodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, darlith flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru (Prifysgol Caerdydd) ddydd Mercher, 6 Rhagfyr, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.

Mae fideo llawn o’r ddarlith ar YouTube neu gallwch ddarllen y trawsgrifiad isod…

Mae’n bleser gen i fod gyda chi heno ac rwy’n ddiolchgar i chi, Canolfan Llywodraethiant Cymru, am y gwahoddiad a’r cyfle i draddodi’r ddarlith hon wrth i dymor arall ac yn wir blwyddyn arall ddirwyn i ben.

Tymor anodd

Nid yw’r misoedd diwethaf wedi bod yn hawdd, â dweud y lleiaf. Mae’r tristwch a ddaeth i’r Cynulliad yng ngoleuni marwolaeth Carl Sargeant wedi dod ag ystod lawn o emosiynau, cwestiynau ac adweithiau a fydd, yn sicr, yn parhau am nifer o fisoedd i ddod.  A thrwy hynny oll, fel Llywydd, bu’n ddyletswydd arnaf i sicrhau bod ein Cynulliad yn trin teulu Carl gyda’r parch y maent yn ei haeddu, a bod ein Haelodau wedi gallu nodi colli cydweithiwr agos â’r urddas a ddisgwylir gan ein deddfwrfa ddemocrataidd genedlaethol.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod ein siambr gylchog berffaith fach ni yn rhoi cryfder i’n gwleidyddion – ar adegau craffu pan fyddant am herio, gwrthdaro neu ddadlau, neu ar yr achlysuron prin hynny, pan fyddwn ni am uno – weithiau i herio, ond hefyd i fynegi galar a balchder.  Yn ystod y cyfnodau hyn yr wyf yn fwyaf balch o fod yn Llywydd – pan fydd ein sefydliad democrataidd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer mynegiant cenedlaethol ar y cyd.  Ac yn ystod yr amseroedd anodd, mae’r Cynulliad yn dangos gwir wytnwch a dygnwch.

I mi, oedd yn aelod o ddosbarth ’99 y Cynulliad, ac yn ddigon hen i gofio siom ’79, mae’r gwytnwch hwn yn parhau i fod yn ffenomen ryfeddol.  I rai yma heno, dyma’r hyn y maent wedi bod yn ymwybodol ohono erioed  ac wedi dod i’w dderbyn a’i ddisgwyl gennym ni.

Cenhedlaeth Brett a Wil

Mae yna rai myfyrwyr gwleidyddiaeth ifanc blwyddyn gyntaf yn y gynulleidfa heno sydd wedi gwneud cryn argraff arnaf dros yr wythnosau diwethaf – efallai y byddwch wedi gweld Geneva, Aisha, Brett a Wil ar y Sunday Politics Show yn ddiweddar, gan siarad yn huawdl ynghylch sut y gallwn ni wneud gwleidyddiaeth a’r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru yn well ar gyfer y genhedlaeth nesaf.  Dyma’r genhedlaeth sy’n eiddgar ac yn barod i gymryd y baton i mewn i ganol y ganrif hon – os nad cyn hynny.

Roedd Brett a Wil eisoes wedi sicrhau prif rôl ar y teledu ychydig wythnosau’n gynharach pan aethant nerth eu traed, yn llawn cyffro, i Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ar ôl clywed bod yna ail-drefnu ar y gweill.  Fe wnaethon nhw ddatgan hyn ar Twitter – rwy’n credu fy mod wedi ail-drydaru un ohonynt – a chael eu cyfweld gan ITV Cymru yn ddiweddarach.  Ac yn ystod trafodaeth gyda’r gohebydd Rob Osborne, dywedant, er mawr syndod, nad oedd ganddynt unrhyw gof o gwbl o adeg pan nad oedd Jane Hutt yn Weinidog y Llywodraeth.

Wrth wrando arnyn nhw’n siarad, dechreuais feddwl am eu hoedran, yr wyf wedi cael cadarnhad ohono ers hynny, a gweithiais allan yr oeddwn yn ymgyrchu fel ymgeisydd yn  etholiad cyntaf erioed Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan oedd pob un o’r myfyrwyr hyn – neu ‘pundits’ gwleidyddol, fel yr wyf yn siwr yr hoffen nhw gael eu galw erbyn hyn – yn cael eu geni, sef rhwng mis Gorffennaf 1998 a mis Chwefror 1999.

Fel un a ystyriwyd yn un o’r ‘to ifanc’ a dderbyniwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf hwnnw, mae’n beth digon dychrynllyd i sylweddoli eich bod wedi bod yn Aelod etholedig trwy gydol oes cenhedlaeth newydd gyfan.  I fynd â hi gam ymhellach, nid yw Wil, sydd o Aberystwyth, erioed wedi cael Aelod Cynulliad arall ar wahân i Elin Jones. Hir oes i hynny felly!

Dyma’r genhedlaeth sy’n ystyried Rhodri Morgan a Carwyn Jones fel enwau adnabyddus bob dydd. Mae Brett yn adrodd stori ddoniol am sut y bu ar wyliau unwaith mewn carafán ar yr un safle â Rhodri Morgan.  Iddo ef roedd yn beth arferol, naturiol i wersylla mewn cae glaswellt wrth ymyl arweinydd llywodraeth eich gwlad.

I Brett, Wil, Aisha a Geneva – dyma’r Gymru maen nhw’n ei hadnabod, dyma pwy ydym ni.  Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gymaint o ran o hunaniaeth y genedl hon â Chalon Lân, Parc y Sgarlets neu Gareth Bale.

Bellach mae tair cenhedlaeth o ddatganolwyr Cymreig – yr ymladdwyr, y sylfaenwyr a’r dyfodol:

  • Yr ymladdwyr yw’r rhai a dreuliodd y rhan fwyaf o’u bywydau yn brwydro am hunan-lywodraeth, dim ond i lwyddo ac yna ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf
  •  Y sylfaenwyr yw’r rhai ohonom sydd wedi bod â’r ddyletswydd i ymgorffori lle a statws y Cynulliad ym meddylfryd y genedl ac i gadarnhau’r sylfeini y cafodd ei adeiladu arnynt.
  • Ac yna mae’r dyfodol, y genhedlaeth nesaf – y rheini sydd am gydio yn y peth a gwneud iddo ffynnu. A dydw i ddim ond yn sôn am ein gwleidyddion y dyfodol.  Mae hyn yn berthnasol i’n harweinwyr y dyfodol mewn meysydd eraill hefyd, sy’n cyfrannu at wleidyddiaeth Cymru y tu allan i’r maes etholedig: yr academyddion, yr economegwyr, y gwneuthurwyr polisi, yr ystadegwyr, yr etholiadegwyr a’r sylwebyddion.  I’r bobl hyn – yn wir i holl bobl Cymru, p’un a oes ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ai peidio – mae gennym ddyletswydd i gryfhau craidd ein sefydliad democrataidd.

Continue reading “Tuag at Senedd sy’n Gweithio i Gymru”

Llais Cryfach i Gymru mewn Prydain sy’n Newid

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr cyfansoddiadol i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut y mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill: y berthynas rhyngddynt, pa mor dda y maent yn cydweithio ac yn rhannu syniadau. Drwy ddeall y berthynas bresennol a’r berthynas yn y gorffennol, byddai’r Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o ran gweithio yn y dyfodol.

Different legislature buildings

Ond pa fath o berthynas y mae pobl Cymru am i’n sefydliad ei chael â seneddau a llywodraethau eraill?

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn cynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn canolbwyntio ar yr heriau cyfansoddiadol mwyaf dwys, yn ei marn ef, mae pobl Cymru wedi eu hwynebu ers sawl cenhedlaeth, fel gwlad – Cymru – ac fel teulu o wledydd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y ffordd mae Cymru yn ymateb i’r heriau hynny yn brawf diffiniol o’n cenhedlaeth ni.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs, yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig traddodiadol, y celfyddydau a’r iaith, ond mae hefyd yn fan lle caiff hunaniaeth Cymru a’i phobl ei dychmygu dro ar ôl tro. Mae hefyd yn fan lle mae gwleidyddiaeth a chyfansoddiad Cymru – a Chymru o fewn y Deyrnas Unedig – wedi cael eu trafod a’u dadlau’n frwd dros y degawdau, ar y Maes ac oddi arno.

Mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio trafod ffordd allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Lloegr wedi drysu ynghylch ei hunaniaeth – neu’r sawl hunaniaeth sydd ganddi – ac maen arbrofi â ffurfiau gwahanol o ddatganoli yn Llundain a bellach yn ei dinasoedd metropolitan a rhanbarthau mawr. Pleidleisiodd yr Alban mewn un refferendwm i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, mae ei llywodraeth yn chwarae â’r syniad o gael ail refferendwm, ond wedi rhoi’r syniad i’r neilltu – am y tro o leiaf. Ac mae sefydliadau Gogledd Iwerddon yn ei hunfan yn stond ac yn wynebu’r bygythiad o Reolaeth Uniongyrchol. Mae gan Gymru Fodel Cadw Pwerau yn debyg i’r Alban o’r diwedd, ond mae rhai sylwebwyr arbenigol – ac yn wir, Llywodraeth Cymru ei hun – yn dadlau bod perygl y bydd Deddf Cymru, ynghyd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn gam yn ôl i’r broses ddatganoli.

‘Ni ddylai Cymru ofni arwain y ffordd o ran datblygu cyfraith glir, gryno a dealladwy’

Yn yr amgylchedd tymhestlog a newidiol hwn, mae’n gwbl briodol i ofyn y cwestiwn sylfaenol: sut y gallwn sicrhau llais cryf i Gymru nawr, a llais cryfach yn y dyfodol? Ymysg yr holl stŵr, mae’n gwbl angenrheidiol sicrhau’r llais cryfaf posibl i Gymru yn yr undeb hon o wledydd.

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni

Dydd Llun 7 Awst

Pabell y Cymdeithasau 2

11.30 – 12.30

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn sôn am ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Llais Cryfach i Gymru’.

Yna, bydd cyfle i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor i drafod y materion hyn a fydd yn arbennig o bwysig wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.

#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog

blogheaderfinalcy

Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:

Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer  marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?

COLLAGE

Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?

Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:

Twitter Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Facebook Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Email E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru
Youtube Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Instagram Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Wordpress Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama

Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’

Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Continue reading “#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych”