Tag: Deisebau

Mae codi ymwybyddiaeth yn allweddol i ganfod diabetes Math 1 yn gynnar mewn plant a phobl ifanc.

Erthygl gwestai gan David Rowlands AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad.

Dydd Gwener 13 Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ein hadroddiad ar ddeiseb sy’n galw am driniaeth well ar gyfer diabetes Math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cyflwynwyd y ddeiseb gan y teulu Baldwin, a gollodd eu mab/brawd 13 oed, Peter, a fu farw o ganlyniad i beidio â chael ei drin yn effeithiol ar gyfer diabetes Math 1.

diabetes

Mae’r deisebwyr yn ceisio cael gwell cydnabyddiaeth o symptomau Diabetes Math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo i gael diagnosis a thriniaeth gyflym ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â’r cyflwr. Mae hyn yn hollbwysig oherwydd, os na wneir y diagnosis, gall y cyflwr ddatblygu’n gyflym yn fygythiad i fywyd yr unigolyn. Yn drist iawn, dyma oedd yr achos gyda Peter Baldwin.

Yn benodol, mae’r teulu am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at offer profi gwaed drwy bigo bys, a all roi syniad ar unwaith ynghylch a all plentyn fod yn ddiabetig. Mae hefyd yn hanfodol bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau mwyaf cyffredin diabetes Math 1 – y Pedwar T (Toiled, Blinder, Syched a Theneuo).

Codi ymwybyddiaeth gyda gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae oddeutu 1,400 o blant â diabetes yng Nghymru, gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt (96 y cant) â diabetes math 1.

Trwy ystyried y dystiolaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, canfuwyd fod rhywfaint o’r hyn y gallwn ei alw’n ddiffyg adnabod symptomau diabetes Math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn benodol, roedd peth tystiolaeth nad oedd staff rheng flaen yn edrych yn arbennig am ddiabetes Math 1 ac nad oedd y clefyd yn ffactor wrth geisio canfod yr hyn oedd yn bod ar gleifion.

Y broblem, wrth gwrs, yw bod llawer o’r symptomau sy’n gysylltiedig â diabetes math 1 hefyd yn gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd eraill. Golyga hyn, pan fydd claf yn mynd i weld meddyg teulu, efallai y bydd yn cyflwyno nifer o wahanol symptomau a allai fod yn gysylltiedig â diabetes Math 1, ond gallai hefyd fod yn ddangosyddion ar gyfer cyflyrau eraill, felly mae gan y Pwyllgor rywfaint o gydymdeimlad â meddygon teulu yn hynny o beth.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys 10 argymhelliad, ond pe baem am dynnu sylw at yr hyn yr ydym ni’n ei deimlo yw’r ffactor pwysicaf, hwnnw fyddai hyfforddi staff rheng flaen i gydnabod canllawiau NICE. Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol fod yn ymwybodol iawn, pan fydd cleifion yn cyflwyno’r symptomau hyn, y gallai fod yn arwydd o ddiabetes Math 1. Gall canlyniadau methu â chanfod a thrin y clefyd o fewn cyfnod byr iawn o amser, fel yr ydym wedi’i weld yn achos trist iawn Peter Baldwin, fod yn gwbl drasig.

Troi craffu’n weithredu

Yn achos y ddeiseb arbennig hon, gan ein bod wedi cyhoeddi ein hadroddiad a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, dyna cyn belled ag y gallwn fynd am y tro. Bellach Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu beth i’w wneud nesaf a byddem yn gobeithio y bydd yn gweithredu ar ein hargymhellion

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod dewrder y teulu Baldwin. Drwy ddod â’r ddeiseb hon atom, roedd yn rhaid iddyn nhw ail-adrodd a chofio amgylchiadau trasig iawn eu profiad gryn amser ar ôl iddo ddigwydd mewn gwirionedd. Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gefnogol iawn i’r cynigion a gyflwynwyd ganddynt yn eu deiseb.

Y peth da am y Pwyllgor Deisebau yw ei fod yn borth i bobl gael mynediad uniongyrchol at Gynulliad Cymru. Mae hynny’n golygu os oes gan bobl bryderon neu anawsterau y maen nhw am eu cyflwyno, drwy’r broses ddeisebau, caiff ei ystyried gyda chryn waith craffu.

Er na fydd pob deiseb yn arwain at ddadl yn y Siambr, mae’r broses o ymgysylltu â deisebwyr, ysgrifennu at Ysgrifenyddion perthnasol y Cabinet, cael yr atebion, ysgrifennu at randdeiliaid eraill ac ati yn golygu bod llawer iawn yn digwydd. Efallai na fydd yn amlwg ar unwaith i’r cyhoedd yn gyffredinol ond gallaf eich sicrhau bod y lefel uchel o graffu ar gael ar gyfer unrhyw ddeiseb a ddaw gerbron y pwyllgor deisebau.

Gwnaethom ofyn i Beth sut y teimlai am yr adroddiad:

Darllenwch yr adroddiad llawn: Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (PDF)

David Rowlands AC yw Cadeirydd Pwyllgor Deisebau‘r Cynulliad. Mae’r pwyllgor yn ystyried yr holl ddeisebau a gyflwynir i’r Cynulliad gydag o leiaf 50 o lofnodion.

Deisebu’r Cynulliad yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y gall aelod o’r cyhoedd godi materion sy’n peri pryder gyda’r Cynulliad, neu awgrymu polisïau newydd a gwahanol ffyrdd o wneud pethau.

Gallwch ganfod mwy am sut i ddeisebu’r Cynulliad yn cynulliad.cymru/deisebau a gallwch ddilyn Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad ar Twitter yn @SeneddDeisebau.

 

 

Blog gwadd – Ymweliad y Pwyllgor Deisebau ag Ysgol Uwchradd Prestatyn

Ysgrifennwyd gan Daisy Major – disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.

Ddydd Llun 11 Tachwedd, bu i aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymweld â’r ysgol. Siaradodd rhai disgyblion â’r Aelodau Cynulliad am ddeiseb ynghylch recriwtio i’r fyddin. Fel uwch ddisgybl, cefais wahoddiad i arsylwi’r cyfarfod a gynhaliwyd yn y llyfrgell. Gyda’r disgyblion eraill a oedd yn cymryd rhan, gwnaethom wrando ar y Pwyllgor yn trafod deisebau o dan ystyriaeth a deisebau newydd gan ddeisebwyr.

Roedd y diwrnod yn ddiddorol, gan fod gennyf ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd oherwydd dysgais am y problemau y mae rhai rhannau o’r wlad yn eu hwynebu. Teimlaf hefyd, pe bai rhywbeth yn bod yn fy ardal i, gallwn siarad gerbron y Pwyllgor Deisebau a gwneud cais iddo gael ei newid. Y rhan mwyaf diddorol yn fy marn i oedd pan ddaeth y deisebwyr i mewn i siarad am broblemau a oedd ganddynt mewn perthynas ag ysbytai. Roedd yn hynod o ddiddorol clywed am faterion yn ymwneud ag ambiwlansys, a’r ffaith na ellir sicrhau gwasanaeth o fewn yr awr aur (yr awr gyntaf wedi’r anaf, pryd y gellir rhoi’r driniaeth fwyaf effeithiol) yn eu cymuned hwy gan ei bod yn cymryd mor hir i’r ambiwlansys eu cyrraedd ar ôl galwad 999.

Deiseb olaf y diwrnod oedd ‘Atal recriwtio i’r fyddin mewn ysgolion’. Cawsom ein gwahodd gan Gadeirydd y Pwyllgor i roi tystiolaeth am y mater hwn, os oedd gennym farn. Wedyn, trafododd aelodau’r Pwyllgor y ffaith eu bod yn credu mai’r fyddin yw’r unig wasanaeth cyhoeddus sy’n cael mynediad i ysgolion. Cynigiais wybodaeth am sut y mae gwasanaethau cyhoeddus eraill wedi cael mynediad i’n hysgol ni, gan gynnwys yn ystod diwrnod gyrfaoedd a diwrnod ‘Crucial Crew’, pan gafwyd cyfle i gwrdd â gweithwyr o nifer o wahanol sefydliadau’r sector gyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaeth tân.

Mwynheais y cyfle i siarad a lleisio fy marn, gan fy mod wedi gwylio dadleuon a chyfarfodydd y Llywodraeth o’r blaen ar ymweliadau â’r Cynulliad a’r Senedd Ewropeaidd. Mwynheais fod yn rhan o gyfarfod ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr iawn.