Tag: Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sicrhau Dyfodol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru

Erthygl gwadd gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gostwng bron 10 y cant mewn termau real, tra bod y Llywodraeth wedi galw ar y sector i ddibynnu llai ar wariant cyhoeddus.

Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ac fel Pwyllgor, roeddem yn teimlo mai dyma’r amser cywir i gynnal ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau i weld pa mor ymarferol yw galwad y Llywodraeth, ac i nodi camau ymarferol a fyddai’n galluogi’r sector i ymateb yn effeithiol iddo.

Mae angen cyllid ar y celfyddydau er mwyn sicrhau eu dyfodol, ond sut y gellir sicrhau’r cyllid hwnnw?

Pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach

Ni ellir gwadu pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach. Mae’r celfyddydau yn goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau, ac felly maent yn rhan anhepgor o gymdeithas iach. Mae manteision y celfyddydau ar gyfer unigolion a’r gymdeithas gyfan bellach yn cael eu cydnabod yn eang. O’r effaith economaidd i fanteision ym myd addysg, dylai llunwyr polisi gydnabod, hyrwyddo a manteisio ar botensial y celfyddydau o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y gymdeithas.

Cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru

Yn gynnar iawn yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau unigryw, amrywiol ac anodd iawn wrth geisio sicrhau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Oherwydd bod llawer o’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn fach o ran maint ac wedi’u lleoli’n bell o ganolfannau poblogaeth mawr, mae’n anodd iddynt godi arian nad yw’n refeniw cyhoeddus. Yn benodol, o edrych ar y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddyfernir ledled y DU, mae’n syfrdanol gweld faint o’r cyllid hwnnw a ddyfernir yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Canfu astudiaeth yn 2013 fod cyfraniadau gan unigolion a busnesau i’r celfyddydau yn Llundain yn cyfrif am 85 y cant o’r cyllid cyffredinol a ddyfarnwyd ledled Lloegr.  Er nad oedd Cymru’n rhan o’r astudiaeth, mae’n debyg nad yw ein sefyllfa ni’n wahanol i ranbarthau Lloegr y tu allan i Lundain.

Hyd nes i ni gydnabod a mynd i’r afael â’r sefyllfa anghytbwys hon, mae’n amhosibl gweld sut y gellir gwella’r sefyllfa’n ddigonol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod maint a lleoliad mor bwysig i gynhyrchu refeniw masnachol yn cymhlethu’r sefyllfa ymhellach, gan ei gwneud hi’n anoddach i sefydliadau godi refeniw y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr.

Mae’r rhain yn anawsterau sy’n benodol i Gymru, sy’n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu lefel ddigonol o gymorth effeithiol i gefnogi’r hyn y mae wedi gofyn i’r sector ei wneud.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymddiriedolaethau a sefydliadau’r DU o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd yna yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y sector yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol i alwad y Llywodraeth. Roedd prinder sgiliau priodol yn y sector yn thema gyffredin yn y dystiolaeth a gyflwynwyd. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu adnodd sy’n cynnig arbenigedd ar godi arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol bach, yn debyg i’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru.

Fel y gellid ei ddisgwyl, gwelsom fod sefydliadau mwy o faint yn fwy tebygol o lwyddo wrth wneud cais am grantiau gan fod ganddynt well fynediad at sgiliau priodol (er enghraifft, o ran ysgrifennu ceisiadau effeithiol). O ystyried cyn lleied o’r cyllid sydd ar gael ledled y DU a ddyfernir y tu allan i Lundain a’r de-ddwyrain, mae’n ddealladwy bod yna gystadlu ffyrnig am yr arian sy’n weddill.

Yn y fath hinsawdd, nid yw’n syndod bod sefydliadau llai yn ei chael hi’n anodd cystadlu.

Mae hyn yn pwysleisio’r angen am gymorth sydd wedi’i deilwra, sy’n cydnabod anghenion a galluoedd gwahanol y sefydliadau celfyddydol ledled Cymru.

Nid yw hynny’n golygu na ddylai’r rheini sy’n rhan o’r sector archwilio pob cyfle i gynyddu eu hincwm nad yw’n gyllid cyhoeddus. Cawsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth wneud ceisiadau am gyllid.

Roeddem yn falch o glywed am effaith cenhadaeth fasnachu Llywodraeth Cymru i Tsieina, a oedd yn cynnwys dirprwyaeth ddiwylliannol a drefnwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cwmni theatr sy’n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu yw Hijinx, a dywedodd wrthym fod y daith hon wedi agor drysau i deithiau rhyngwladol a chydweithio yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil ar farchnadoedd rhyngwladol sy’n cynnig potensial o ran twf i artistiaid Cymru, a lle bo modd, i gynnwys elfen ddiwylliannol ar deithiau masnach, ochr yn ochr â strategaeth i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol.

Ar ôl galw ar y sector celfyddydol i ddibynnu llai ar gyllid cyhoeddus, yr hyn sy’n glir yw bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig lefel briodol o gymorth goleuedig sydd wedi’i deilwra os yw’n disgwyl i’w galwad gael effaith gadarnhaol yn y sector.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor a’i argymhellion yma.

Dilynwch Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Twitter @SeneddDGCH

Dathlu Ymrwymiad y Cynulliad i Gynaliadwyedd ar gyfer Awr Ddaear

‘Gwnewch addewid i’r blaned’ yw’r thema ar gyfer Awr Ddaear eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn 24 Mawrth rhwng 20:30 a 21:30. Bydd y Cynulliad yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni drwy ddiffodd goleuadau’r Senedd, Ty Hywel a’r Pierhead. Mae llawer o’n Haelodau hefyd wedi gwneud addewid i WWF (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd) i gefnogi’r ymgyrch.

Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni yn y Cynulliad, ac rydym wedi gosod cyfrifoldeb i ni leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol yn ein holl weithgareddau. Darllenwch fwy am sut yr ydym yn ymdrechu i wneud y Cynulliad yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Sut rydym yn sicrhau bod y Senedd yn gynaliadwy

Gwresogi

System gwresogi geothermig sy’n cael ei defnyddio i helpu i wresogi’r Senedd. Mae dŵr yn cael ei bwmpio 100 metr i lawr drwy 27 o dyllau turio lle mae gwres naturiol y ddaear yn ei dwymo. Yna, caiff y dŵr ei bwmpio yn ôl i help i yn ein system gwresogi. Cefnogir y broses hon gan boeler biomas sy’n defnyddio pren sy’n gynaliadwy o bob cwr o’r DU i ddarparu ffynhonnell tanwydd gymharol garbon niwtral.

Ym misoedd twymaf y flwyddyn, mae’r system yn gweithio fel arall. Wrth i’r dŵr gael ei bwmpio i lawr, mae’r ddaear yn gweithredu fel dalfa gwres. Yna, bydd y dŵr oer yn cael ei bwmpio’n ôl i oeri’r adeilad.

Casglu dŵr glaw

Mae system casglu dŵr glaw y Senedd yn cael ei defnyddio yn y toiledau ac i lanhau’r adeilad. Mae hyn yn gweithio mor dda bod yr adeilad angen gwerth tua £40 o ddŵr y prif gyflenwad yn unig bob mis.

Caiff dŵr glaw sy’n disgyn ar do’r Senedd ei sianelu i du blaen yr adeilad. Yna mae dwy bibell yn ei gludo i danc lle mae’n cael ei hidlo trwy oleuadau uwchfioled (UV). Yna mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y toiledau neu i lanhau’r ffenestri.

Mae rhagor o wybodaeth am ein harferion cynaliadwy ar gael yma.

Ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig

Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae defnyddio llai o blastig yn fater byd-eang pwysig ac mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cwpanau coffi plastig ar ystâd y Cynulliad, tra’n ymrwymo i gael gwared â phlastigau tafladwy eraill dros y 6 mis nesaf lle bynnag y bo modd.

Prif bwyntiau cynaliadwyedd y Senedd

  • Dyfarnwyd safon ardderchog BREEAM i’r Senedd am ei nodweddion amgylcheddol yn y cyfnod dylunio.
  • Caiff y Senedd ei gwresogi gan gyfuniad o bwmp gwres o’r ddaear a sglodion pren a geir yn gynaliadwy, gyda nwy wrth gefn.
  • Mae’r pwmp gwres o’r ddaear yn y Senedd yn cynnwys 27 o dyllau turio wedi’u drilio 100m i’r ddaear – maent yn caniatáu i ni dynnu rhywfaint o wres ar ddiwedd yr haf, a gwrthdroi’r broses i helpu i oeri’r adeilad yn y gwanwyn.
  • Mae’r system casglu dŵr glaw yn golygu bod angen prynu gwerth tua £40 o ddŵr o’r prif gyflenwad yn unig bob mis.
  • Mae defnyddio’r system gwresogi biomas wedi arbed mwy na 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu cynhyrchu ers adeiladu’r Senedd.
  • Mae’r Senedd yn cael ei hawyru’n naturiol; mae’r ffenestri’n agor eu hunain i newid tymheredd yr aer neu roi mwy o ocsigen i’r ystafelloedd.
  • Mae’r cwfl ar do’r Senedd yn creu gwasgedd aer negyddol. Mae hyn yn caniatáu i awyr iach gael ei dynnu i fyny drwy’r adeilad, ac yn golygu nad oes angen ei oeri’n artiffisial yn ystod y misoedd cynhesach.
  • Mae gosod goleuadau LED yn lle llawer o hen oleuadau’r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi arbed mwy na 50 tunnell o CO2.
  • Mae’r ffaith bod llawer o wydr ac arwynebau adlewyrchol yn y Senedd yn golygu bod angen llai o oleuadau artiffisial. Os edrychwch i fyny pan fyddwch chi’n ymweld â’r Neuadd neu’r Oriel, ac mae’n eithaf tebygol y gwelwch fod y goleuadau i ffwrdd yn ystod y dydd.

Rydym wedi cael gwared â chwpanau coffi tafladwy, ac rydym yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy gan gynnwys biomas, pwmp gwres ddaearol, ac yn fuan yn newid i drydan tariff gwyrdd.

Rydym yn gosod pwyntiau codi cerbydau trydan yr wythnos hon, ac yn archwilio’r posibilrwydd o gar pwll trydan.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r plastig tafladwy yn raddol lle bynnag y bo modd dros y 6 mis nesaf, a chompostio ein holl wastraff bwyd, gan gynnwys hynny o ddigwyddiadau.

Ymunwch â’r sgwrs yn ystod Awr Ddaear eleni gan ddefnyddio #AwryDdaear / #EarthHourWales a chadwch lygad am y diffodd byd-eang am 8.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr agweddau amgylcheddol ar waith y Cynulliad, ewch i dudalennau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG.

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, rydym yn dathlu Dydd Miwsig Cymru (Welsh Language Music Day), sef digwyddiad blynyddol a gynhelir ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth o Gymru. Eleni, bydd aelodau o staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, a hynny fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad. Drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, mae dysgwyr Cymraeg yn y Cynulliad wedi bod yn dysgu’r geiriau i Hen Wlad fy Nhadau, sef yr anthem genedlaethol.

Rhestr o hoff ganeuon Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel rhan o’n dathliadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi creu rhestr o’i hoff ganeuon Cymraeg er mwyn rhoi blas o’r arlwy cyfoethog sy’n bodoli yn y diwydiant.

1. Ethiopia Newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
2. Tyrd Olau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog
3. Sebona Fi – Yws Gwynedd
4. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff
5. Cwcwll – Beganifs
6. Rhedeg i Paris – Yr Anhrefn
7. Harbwr Diogel – Elin Fflur
8. Julia Gitar – Jess
9. Cân i Gymry – Datblygu
10. Coffi Du – Gwibdaith Hen Frân

Wrth siarad am ei detholiad, dywedodd y Llywydd:

“Rwy’n hynod falch o gefnogi’r ymdrech hon i sicrhau y gall pobl Cymru glywed y gerddoriaeth amrywiol sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Tyfais i fyny yn gwrando ar fandiau Cymraeg, ac rwyf wedi llunio detholiad o’m hoff gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys rhai o’r caneuon yr oeddwn yn gwrando arnynt pan oeddwn yn ifanc iawn, a rhai o’r caneuon mwy diweddar yn niwydiant bywiog cerddoriaeth bop Cymru”.

Y Senedd yn paratoi i gynnal gig arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi


Gan barhau â thema Dydd Miwsig Cymru, rydym yn cyfri’r dyddiau tan 1 Mawrth, pan fydd y Senedd yn cynnal gig arbennig iawn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd GDSD yn gyfle gwych i ddathlu talent gerddorol orau Cymru, gyda pherfformiadau gan:

Adwaith
Hannah Grace
Mellt
Reuel Elijah a Mace
Roughion (set DJ)

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â phrosiect Horizons y BBC a’r Selar.

I gael rhagor o wybodaeth am y gig, cliciwch yma.

Bydd mynediad i’r gig yn RHAD AC AM DDIM, ac mae tocynnau ar gael yma.

 

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored

Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead


Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma le mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd


Yn adeilad dirnod eiconig  ym Mae Caerdydd, y Senedd yw galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?

Mae dwy daith yn cael eu cynnal ar 30 Medi am 11:00 a 14.00.

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Mae’r daith am 11:00 yn LLAWN ond mae llefydd ar gael ar y daith 14.00.

Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 30 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i’r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae’r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw’r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o’r tu mewn a’r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae’r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae’n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch:

“Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai’r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio’u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau’r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy’r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o’r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i’r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi’r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio’r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi’r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o’r Bae drwy ffenestri’r Senedd. Y drws nesaf i’r caffi mae siop y Senedd, sy’n cynnwys detholiad o’r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy’n gysylltiedig â’r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​

Nid oes tâl i fynd i mewn i’r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio’ch penwythnos yma. Ewch i’r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Sioe Frenhinol 2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 24-27 Gorffennaf gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau, a chyfle i’r cyhoedd gyfarfod ag Aelodau a staff y Cynulliad a chael gwybod mwy am ein gwaith. Byddwn yn y Pafiliwn Gwyrdd, ac mae croeso i bawb ymweld â’n stondin i roi eich barn ac opsiynau ar ein gwaith.

Yn digwydd drwy gydol yr wythnos

Ar y stondin

P’un a ydych yn gyfarwydd â’n gwaith ai peidio, erbyn diwedd eich ymweliad â stondin y Cynulliad byddwch wedi dysgu rhywbeth newydd amdanom ni a’r hyn rydym yn ei wneud. Mwynhewch baned a dysgu am eich Aelodau Cynulliad, sut y maent yn eich cynrychioli chi a sut y gallwch gysylltu â hwy i fynegi eich barn a’ch pryderon. Gallwch gael gwybod mwy am ein hymholiadau presennol a’n gwaith sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi neu eich cymuned.

I blant

Tra bod rhieni yn cael hoe, gall plant gymryd rhan mewn gwahanol gemau a gweithgareddau o amgylch y stondin i’w helpu i ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddant yn gallu dod i wybod am ddeddfu a rhoi cynnig ar bleidleisio dros y diddordebau a’r gweithgareddau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae yna hefyd gemau i’w chwarae a lliwio ar gyfer ymwelwyr iau.

Dywedwch wrthym beth sy’n eich gwneud yn falch o Gymru

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwlad. Ein hanes, ein diwylliant, ein harwyr, ein hiaith, ein tir – ein cartref. Yn bennaf oll rydym yn falch i’ch cynrychioli chi, bobl Cymru, ac i wneud penderfyniadau a chreu deddfau a fydd yn llunio dyfodol bywyd Cymru. Rydym am i chi ddweud wrthym beth ydych yn ei garu fwyaf am fywyd yng Nghymru a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n falch. Rhannwch eich barn gyda ni ar y stondin neu dywedwch wrthym ar Twitter gan ddefnyddio #fyNghymru.

Sesiynau a Digwyddiadau

Dydd Mercher 26 Gorffennaf

09.00-10.00 Digwyddiad Brecwast Llais Cryfach i Gymru i Randdeiliaid (Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol), stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y cyfansoddiad i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol. Mae Aelodau y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn edrych ar sut mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill ac yn awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau sydd â phrofiad o roi tystiolaeth ar lefel y DU a Chymru a pha rwystrau y gallant fod wedi’u hwynebu. Trwy ofyn y cwestiynau hyn a chlywed eu profiadau, bydd y Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o weithio i’r dyfodol.

 

Dydd Iau 27 Gorffennaf

10.30-11.30 Lansio Ymchwiliad i Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru (Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig), Neuadd Bwyd a Diod

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd a diod yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn? Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyfarfod â stondinwyr i lansio a thrafod ei ymchwiliad newydd i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Drwy gyfarfod â chynhyrchwyr ac arddangoswyr bwyd mae’r Pwyllgor yn gobeithio dysgu mwy am sut y gallai Cymru greu diwydiant bwyd arloesol sy’n cynnal swyddi o ansawdd uchel, a dod yn gyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy’n hoff o fwyd.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn Sioe Frenhinol Cymru. Dilynwch ni ar Facebook, Twitter a Instagram drwy gydol yr wythnos am y newyddion diweddaraf o’r Cynulliad o faes y sioe.

 

 

 

 

Canllaw i Ymwelwyr â’r Senedd

Fyddwch chi’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA? Bydd croeso cynnes ichi ym mhrifddinas Cymru. Mae Cymru’n wlad llawn diwylliant a threftadaeth, ac mae Caerdydd yn lle bendigedig i ymdeimlo ag awyrgylch y digwyddiad rhyfeddol hwn.

Os byddwch chi ym Mae Caerdydd ar gyfer Gwŷl Cynghrair Pencampwr UEFA, beth am ymweld â’r Senedd ac ymweld ag un o adeiladau pwysicaf a mwyaf modern Cymru? Rydyn ni wedi llunio canllaw defnyddiol i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich ymweliad.

Am wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: link

Para información en español: link

IMG_7851

Beth yw’r Senedd?

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’n ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru. Yn adeilad seneddol modern a ddathlodd ei phen-blwydd yn ddeg oed llynedd, mae’r Senedd hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru.

Mae hefyd yn adeilad cyhoeddus, sy’n croesawu ymwelwyr saith diwrnod yr wythnos, ac yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi derbyn Tystysgrif Ragoriaeth gan Trip Advisor.

Yn bwysicaf oll, mae’r ymweliad yn rhad ac am ddim ac mae gan y Senedd rai o’r golygfeydd gorau ym Mae Caerdydd, felly dewch i mewn i gael gweld y cwbl.

Beth sydd y tu mewn?

Y siambr drafod

Yn y Senedd mae siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os edrychwch i lawr o dan y twndis enfawr, gallwch chi weld lle mae ein gwleidyddion yn eistedd yn ystod dadleuon seneddol. Ewch ar un o’n teithiau rhad ac am ddim i ddarganfod rhagor am yr adeilad a’r hyn sy’n digwydd yma.

chamber-agleCaffi a Siop Anrhegion

Mae gan y Senedd gaffi (gweler rhagor am hwnnw isod) a siop hefyd, sy’n gwerthu cynnyrch lleol, cofroddion ac anrhegion. Mae yno wisgi Cymreig, cynnyrch Melin Tregwynt a chofroddion gyda brand y Cynulliad arnynt i gofio am eich ymweliad.

Arddangosfeydd

Wrth ymyl y caffi mae man arddangos lle cynhelir gwahanol ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn. Dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Ewch ar daith dywysedig

Y ffordd orau i ddod i adnabod y Senedd yw trwy fynd ar daith dywysedig. Bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes a phensaernïaeth unigryw yr adeilad ac yn dysgu rhagor am y gwaith a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r teithiau yn RHAD AC AM DDIM. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw dod i’r Senedd a byddwn yn rhoi gwybod ichi faint o’r gloch bydd y daith nesaf yn dechrau.

Mwynhewch flas o Gymru

Mae caffi y Senedd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer, neu fe allwch chi gael blas ar rai o danteithion traddodiadol Cymreig – gallwch chi fwynhau cacen Gymreig neu sleisen o fara brith gyda photed o de.

Mae’r golygfeydd o’r man eistedd yn odidog – gwyliwch y cychod hwylio ar ddŵr disglair Bae Caerdydd, neu edrychwch ar fwrlwm gŵyl Cynghrair y Pencampwyr o dan ganopi trawiadol y Senedd.

Cyfleusterau a mynediad

Fel gydag unrhyw adeilad y llywodraeth, mae’n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy’r system ddiogelwch ar ei ffordd i mewn i’r Senedd. Mae ein tîm diogelwch wedi’u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr sydd ag anableddau, neu’r rhai a allai fod ag anghenion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Mae’r Senedd yn gwbl hygyrch gan fod mynediad ramp ar flaen yr adeilad a lifftiau i bob llawr y tu mewn. Mae system dolen glyw ar gael i ddefnyddwyr teclynnau cymorth clyw.

Mae gan yr adeilad gyfleusterau newid a gynorthwyir yn llawn ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau sy’n addas i bawb.

Tynnwch hunlun gyda’n Snapchat GeoFilter

Os ydych chi ar Snapchat – cadwch lygad allan am ein ffilter arbennig a rhannwch eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol!

Linciau defnyddiol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: linc

Para información en español: linc

Tudalen Trip Advisor ar gyfer  Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.