Tag: Cymru

Craffu ar Gyfrifon – Beth yw hyn?

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn treulio rhan sylweddol o dymor yr Hydref yn ymgymryd â gwaith craffu ar gyfrifon ar gyfer Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.

Beth yw Craffu ar Gyfrifon?

Mae gwaith craffu blynyddol ar gyfrifon gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnwys ystyried cyfrifon ac adroddiadau blynyddol gwahanol gyrff sy’n cael eu hariannu gan y cyhoedd, i weld a oes unrhyw eitemau o wariant arian cyhoeddus anarferol neu aneglur.  Yn ogystal ag edrych ar sut y mae’r sefydliadau hyn yn gwario arian, mae’r Pwyllgor hefyd yn ystyried sut y cânt eu rhedeg ac a yw eu trefniadau llywodraethu yn briodol ac yn atebol.

Pam ein bod yn gwneud hyn?

Er y gall y dull hwn ymddangos ychydig yn ddiflas, mae hwn yn ddarn pwysig o waith oherwydd ei fod yn sicrhau bod gwaith craffu’n digwydd i weld sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddwyn y rhai sy’n gyfrifol am oruchwylio gwariant arian cyhoeddus i gyfrif.

Mae Cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol, nid yn unig yn rhoi cipolwg pwysig ar sefyllfa ariannol y sefydliadau hyn a ariennir gan y cyhoedd, maent hefyd yn adrodd stori am sut y mae’r sefydliad yn cael ei redeg ac a oes strwythurau llywodraethu ac arferion gwaith cadarn ar waith ai peidio.

Drwy ymgymryd â’r gwaith craffu hwn yn flynyddol, mae’r Pwyllgor wedi gallu cynnwys ffactor ataliol yn ei waith, gyda sefydliadau sy’n gyfrifol am wario ein harian yn gwybod y gallent gael eu galw gerbron y Pwyllgor i wynebu gwaith craffu cyhoeddus.

A yw’n gweithio?

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gwneud y gwaith hwn ers nifer o flynyddoedd bellach, ac yn gyffredinol, rydym wedi gweld gwelliant yn y wybodaeth sydd ar gael, ac o ran sicrhau ei fod yn fwy hygyrch. Yn benodol, mae llawer o sefydliadau wedi ymateb i’r her o gyflwyno’r wybodaeth hon, sydd yn aml yn gymhleth, mewn fformat mwy dealladwy.

Yn ogystal â’r gwelliannau mwy cyffredinol, mae’r Pwyllgor hefyd wedi dod â nifer o feysydd sy’n peri pryder i’r amlwg a bu’r rhain yn destun mwy o waith craffu ac, yn y pen draw, gwelliant o ran arferion – ac maent wedi denu sylw’r cyfryngau fel:

Pam ein bod yn ystyried y cyrff hyn?

Ar ddechrau’r pumed Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i ystyried cyfrifon ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn flynyddol. Daeth i’r penderfyniad hwn oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru gyllideb flynyddol o fwy na £15 biliwn, sy’n swm sylweddol o arian cyhoeddus. Comisiwn y Cynulliad yw’r corff corfforaethol sy’n darparu cefnogaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i Aelodau, (felly yn y pen draw y Pwyllgor) – ac felly teimlai’r Pwyllgor ei bod yn bwysig peidio â bod uwchlaw gwaith craffu.

Ar gyfer 2017-18, bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol a chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.  Mae’r Pwyllgor wedi ystyried Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol y ddau sefydliad hyn yn flaenorol.  Gobeithio y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol wedi helpu’r sefydliadau hyn i wneud gwelliannau ac y bydd stori gadarnhaol i’w hadrodd bellach.

Cymryd rhan

A oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn ynglŷn â sut y cafodd y sefydliadau hyn eu rhedeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

A oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut y cafodd arian ei ddyrannu?

Pa gwestiwn fyddech chi’n ei ofyn i’r rhai sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus?

Rhowch wybod inni: @seneddpac / @seneddarchwilio
SeneddArchwilio@cynulliad.cymru

Mae ein gwaith o graffu ar y cyfrifon yn dechrau ddydd Llun 8 Hydref 2018 pan fyddwn yn edrych ar Gyfrifon ac Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn y Cynulliad.

Taro’r Tant: Ymchwiliad i Ariannu Addysg Cerddoriaeth a Gwella Mynediad Ati

Cyfweliad gyda Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Cyflwynwch eich hunan ac esboniwch yn fras gylch gorchwyl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Fy enw i yw Bethan Sayed, ac rwy’n cadeirio’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad yn nigwyddiad lansio'r adroddiad.
Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad yn nigwyddiad lansio’r adroddiad.

Rydym yn craffu ar weinidogion y llywodraeth mewn perthynas â’u portffolio. Er enghraifft, rydym wedi gwneud ymchwiliad i radio yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym wedi edrych ar y Gymraeg ac rydym hefyd wedi edrych ar yr amgylchedd hanesyddol, yn ogystal â chyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y Celfyddydau.

Mae wedi bod yn dda i ni allu cael cylch gwaith sy’n cynnwys cyfathrebu fel y gallwn edrych ar dirwedd darlledu Cymru a chraffu ar honno’n effeithiol hefyd.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd gyhoeddi ei adroddiad ar ei ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth yng Nghymru a mynediad ati. Dewiswyd pwnc yr ymchwiliad hwn trwy ffordd eithaf arloesol ac ychydig yn anarferol.  A allech esbonio’r cefndir a’r hyn a arweiniodd y Pwyllgor i edrych ar y mater penodol hwn?

Ar ôl bod ar bwyllgorau ers cryn amser, gwn fod gan Aelodau’r Cynulliad eu syniadau eu hunain ac yn cynnig syniadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol, sy’n ddilys, ond gallent fod yn seiliedig ar ein hoff bynciau ein hunain.

Roeddwn yn meddwl y byddai’n ddiddorol mynd at aelodau’r cyhoedd i ofyn iddynt yn union pa fath o ymchwiliad yr hoffent i ni ei ystyried a’r hyn roedd y boblogaeth am i ni ganolbwyntio arno, a’r hyn oedd y meysydd blaenoriaeth allweddol.

Cynaliasom arolwg cyhoeddus a’r canlyniad oedd bod pobl am i ni ystyried cerddoriaeth mewn addysg. Hynny yw addysg cerddoriaeth a gaiff pobl mewn ysgolion ac yn ein cymunedau a sut y gellir ei gwella a’i datblygu.

Roedd yn syniad eithaf da cynnal yr arolwg cyhoeddus hwn oherwydd y gallai pobl ymgysylltu â phwyllgor mewn ffordd wahanol iawn. Felly, roeddwn yn fodlon mai ein pwyllgor ni oedd y cyntaf i roi cynnig ar hyn ac efallai y gallem ei wneud eto i feddwl am syniadau eraill ar gyfer y dyfodol.

Beth oedd y themâu allweddol yn yr ymchwiliad?

Roeddent yn awyddus iawn i ni edrych ar wasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion. Roedd etholwyr yn dod i’n swyddfeydd yn dweud bod problemau gyda chyllid y sector hwn. Roeddem yn gweld toriadau i wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol.

Felly, roeddem am fynd i’r afael â’r hyn oedd yn bwysig a meddwl am atebion i weld sut y gallem gynorthwyo’r sector.

Ni wnaethom ystyried y cwricwlwm, oherwydd bod addysg cerddoriaeth o ran darparu gwasanaeth tiwtora’n wahanol iawn i hynny. Mae hynny’n rhywbeth y gallem ei ystyried yn y dyfodol. Ond nid dyna’r hyn roeddem yn canolbwyntio arno y tro hwn.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan ystod eang o dystion ac, o ystyried eich profiadau eich hunan fel cerddor, mae’n rhaid bod y pwnc hwn yn agos iawn at eich calon – oedd unrhyw beth a gododd yn ystod yr ymchwiliad a oedd yn syndod arbennig?

 Pan aethom i Ysgol Pengam, canfuom fod gwaith strwythuredig iawn yn cael ei wneud ym maes roc a phop, a’u bod yn cystadlu mewn cystadlaethau yn Lloegr, ond nid oeddent yn gallu gwneud hynny yng Nghymru ac nid oedd dim ensemble. Mae ensemble ar gyfer y gerddorfa, yma yng Nghymru ond dim ensembles roc a phop.

Maya Morris o Ysgol Lewis Pengam yn perfformio yn ystod y digwyddiad lansio
Maya Morris o Ysgol Lewis Pengam yn perfformio yn ystod y digwyddiad lansio

Felly, rwy’n tybio mai’r hyn a wnaeth fy synnu, efallai oherwydd fy mod wedi dod o’r ochr fwy clasurol, yw bod cymaint o frwdfrydedd i sefydlu’r ensemble hwn fel y gallai pobl a oedd am fynd i’r diwydiant roc neu bop wneud hynny trwy eu strwythurau ysgol.

Felly, roedd hynny’n agoriad llygad, ond hefyd yn bleser ei weld, oherwydd nad yw cerddorfeydd ac ensembles bob amser yn addas i bawb. Nid oes rhaid i chi allu darllen cerddoriaeth i gymryd rhan yn y mathau hynny o weithgareddau, felly byddai’n agor llwybr newydd.

O ran y ffrydiau ariannu, nid oedd hynny’n fy synnu, oherwydd bod fy chwaer yn 18 oed ac mae wedi mynychu cerddorfeydd ac rwy’n gwybod, o’m diddordeb cyson yn y mater hwn, nad peth newydd yw’r gostyngiad cynyddol hwn yn narpariaeth gwasanaethau.

Mae’r adroddiad yn dweud bod yn rhaid i wasanaethau cerddoriaeth gael eu diogelu a’u meithrin a bod yn hygyrch i bawb.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi gweithgarwch creadigol ar sail gyfartal â meysydd dysgu a phrofiad eraill.  Pam mae addysg cerddoriaeth mor bwysig? Beth yw’r manteision?

 Rwy’n credu bod llawer o ysgolion yn deall y drefn o ran cerddoriaeth oherwydd eu bod yn deall ei bod yn sgil y gellir ei drosglwyddo – mae’n ymwneud â gweithio fel tîm, mae’n ddisgyblaeth, mae’n galluogi pobl i fod yn greadigol ac i’w nodau llesiant gael eu diwallu. Ond, mewn rhai ysgolion, oni bai bod y pennaeth wir yn deall gwerth cerddoriaeth, efallai na fydd yn treiddio trwy’r ysgol.

Fel rhywun sydd wedi canu’r piano, y fiola a’r feiolin ers i mi fod yn ifanc, rwy’n credu bod yn rhaid ystyried nad yw’n rhywbeth arbenigol nac yn unigryw, a’i fod yn hygyrch – oherwydd y gall eich helpu mewn cynifer o ffyrdd gwahanol mewn bywyd.

Er enghraifft, byddai cwrs cerddorfa yn fy ngalluogi i ddod yn annibynnol. Byddai’n gyfle i mi wneud ffrindiau newydd. Rhaid i chi ddysgu gwrando ar eraill a gallu eu parchu, felly nid yw’r cyfan yn ymwneud â’r gerddoriaeth sydd ar y papur – mae’n ymwneud â sut rydych am ddatblygu fel unigolyn.

Gall pobl sy’n mynd i fyd cerddoriaeth yn ifanc fynd â’u sgiliau i gyfeiriadau eraill a byddwch yn cwrdd â meddygon, gwyddonwyr a gwleidyddion sydd wedi defnyddio cerddoriaeth mewn ffyrdd iddynt ganolbwyntio ar yr hyn y maent am ei wneud mewn bywyd.

Rwy’n credu bod angen i ni annog mwy o ysgolion i ddeall nad yw’n rhywbeth dibwys, lle mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth neu’n ei chwarae am awr y dydd. Mae’n ymwneud â sut y gellir ystyried hynny’n rhan greiddiol o’r cwricwlwm ym mhob lliw a llun. Trwy’r adroddiad hwn, rwy’n gobeithio y gallwn argyhoeddi pobl y gallwn dyfu a datblygu cerddoriaeth yn ein hysgolion.

Gyda’r holl fanteision posibl hynny, rhaid y bu’n anodd i’r Pwyllgor glywed rhai tystion yn disgrifio sefyllfa cerddoriaeth yn addysg Cymru fel ‘argyfwng’.  Ym mis Gorffennaf 2015, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad i wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru – Beth fu casgliad y Pwyllgor ynghylch y cynnydd a wnaed yn y 3 blynedd ers cyhoeddi’r adroddiad hwnnw – a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i atal yr ‘argyfwng’ hwn rhag datblygu?

Roedd yn anodd iawn clywed pobl megis Owain Arwel Hughes, sy’n arweinydd enwog, Tim Rhys-Evans, sy’n arwain Only Men Allowed, yn dweud y pethau hyn, oherwydd nad ar chwarae bach y byddent yn defnyddio’r gair ‘argyfwng’.

Tim Rhys-Evans
Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Rhys-Evans, sylfaenydd a chyfarwyddwr Only Men Allowed

Mae Cymru yn gysylltiedig â cherddoriaeth a chân, felly mae’n fy mhoeni i eu bod yn dweud ‘efallai nad gwlad y gân fyddwn mwyach os ydym yn caniatáu hyn, lle mae gwasanaethau cerddoriaeth yn cael eu torri, a gallant hyd yn oed ddiflannu mewn rhannau o Gymru’. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld gyda’r ensembles cenedlaethol fod llai o bobl wedi bod yn clyweld ar eu cyfer eleni, felly mae hynny’n bryder.

Hefyd, o ran yr adroddiad a gomisiynwyd, ar ôl i weinidogion penodol adael, rwy’n teimlo nad oedd yn flaenoriaeth i rai awdurdodau lleol. Rwy’n credu mai dyna pam ein bod wedi dweud mor amlwg yn yr adroddiad fod angen arweiniad cenedlaethol a strategaeth genedlaethol, oherwydd na allwch ddibynnu ar awdurdodau lleol.

Rwy’n credu bod rhai pobl, a bod yn deg, wedi dweud ‘wel efallai bod hynny’n mynd ychydig yn rhy bell, nid ydym am godi bwganod’. Ond eto, weithiau gall defnyddio’r mathau hynny o ymadroddion ddweud ‘wel nawr yw’r adeg i sicrhau nad ydym yn cyrraedd y sefyllfa lle nad yw’r gwasanaethau hynny yn bodoli mwyach’. Rwy’n gobeithio bod ein cymorth wedi golygu y gellir cynnal y drafodaeth honno ar yr adeg iawn cyn i fwy o wasanaethau cerdd gael eu torri neu ddiflannu’n gyfan gwbl’.

Mae’r adroddiad ei hun yn cynnwys 16 o argymhellion ond beth yw’r mater pwysicaf sy’n codi o’r canfyddiadau?

Wel, roeddem am ddod o hyd i atebion oherwydd bod hyn wedi bod yn agos at fy nghalon ers blynyddoedd lawer.  Mae’n bosibl bod diffyg cydweithredu yn y gorffennol gan bobl o gefndiroedd gwahanol yn y gwasanaeth cerddoriaeth i ddweud ‘wel mewn gwirionedd, sut gallwn wneud i hyn ddigwydd a sut y gallwn wella ar hyn?’

Croesawais fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o ran y gronfa waddol, mewn perthynas â’r amnest cerddoriaeth ac o ran rhoi cerddoriaeth ar yr agenda wleidyddol eto. Ond, heb newid strwythurol, nid yw pethau’n mynd i wella. Felly, yr argymhelliad pwysicaf i ni oedd dweud bod angen i ni sefydlu corff hyd braich cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru.  Ni allwn ddibynnu ar awdurdodau lleol unigol mwyach yn penderfynu a ydynt yn blaenoriaethu hyn ai peidio. Rhaid i ni sicrhau y câi ei ariannu’n briodol, ac y byddai elfen ranbarthol i’r dull cyflwyno ar lawr gwlad.

Ar hyn o bryd, rydych yn ystyried gwaith ensembles cenedlaethol mewn math gwahanol o dirwedd i’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Fe’i gelwir ‘y pyramid’, felly y cerddorfeydd ysgolion sydd gyntaf, yna mae’r cerddorfeydd cymunedol, yna mae’r ensembles cenedlaethol. Pe bai un corff cenedlaethol – byddai’n canfod pobl ifanc i ddod trwy’r system, a dyna’r hyn nad ydym yn ei weld ar hyn o bryd.

Cafwyd trafodaeth a ellid ei wneud mewn ffordd wahanol ond, yn y pen draw, rwy’n credu y daethom i’r casgliad – yn enwedig gan ein bod yn galw am strategaeth gerddoriaeth genedlaethol – y byddai un corff cenedlaethol i ymdrin â’r elfen benodol hon o’r gweithlu addysgol yn rhan annatod o’i ddyfodol. Fel pwyllgor, rwy’n credu ein bod am iddo fod yn flaengar. Roeddem am wneud argymhelliad a fyddai’n herio syniadau pobl ac y byddent yn ystyried pethau ychydig yn wahanol i’r cyllid presennol a’r strwythurau presennol.

Hefyd, ni fyddem am adael unrhyw un o’r ardaloedd penodol hynny ar ôl. Nid oeddem am fod yn rhy argymhellol, ond roeddem am osod ein marc a dweud ‘rhaid i hyn fod yn system genedlaethol bellach’.

I lawrlwytho Taro’r Nodyn Cywir: Ymchwiliad i Arian Ar Gyfer a Mynediad i Addysg Cerddoriaeth, cliciwch yma

Am y diweddaraf gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dilynwch @SeneddDGch ar Twitter.

Sicrhau Dyfodol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru

Erthygl gwadd gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gostwng bron 10 y cant mewn termau real, tra bod y Llywodraeth wedi galw ar y sector i ddibynnu llai ar wariant cyhoeddus.

Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ac fel Pwyllgor, roeddem yn teimlo mai dyma’r amser cywir i gynnal ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau i weld pa mor ymarferol yw galwad y Llywodraeth, ac i nodi camau ymarferol a fyddai’n galluogi’r sector i ymateb yn effeithiol iddo.

Mae angen cyllid ar y celfyddydau er mwyn sicrhau eu dyfodol, ond sut y gellir sicrhau’r cyllid hwnnw?

Pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach

Ni ellir gwadu pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach. Mae’r celfyddydau yn goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau, ac felly maent yn rhan anhepgor o gymdeithas iach. Mae manteision y celfyddydau ar gyfer unigolion a’r gymdeithas gyfan bellach yn cael eu cydnabod yn eang. O’r effaith economaidd i fanteision ym myd addysg, dylai llunwyr polisi gydnabod, hyrwyddo a manteisio ar botensial y celfyddydau o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y gymdeithas.

Cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru

Yn gynnar iawn yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau unigryw, amrywiol ac anodd iawn wrth geisio sicrhau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Oherwydd bod llawer o’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn fach o ran maint ac wedi’u lleoli’n bell o ganolfannau poblogaeth mawr, mae’n anodd iddynt godi arian nad yw’n refeniw cyhoeddus. Yn benodol, o edrych ar y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddyfernir ledled y DU, mae’n syfrdanol gweld faint o’r cyllid hwnnw a ddyfernir yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Canfu astudiaeth yn 2013 fod cyfraniadau gan unigolion a busnesau i’r celfyddydau yn Llundain yn cyfrif am 85 y cant o’r cyllid cyffredinol a ddyfarnwyd ledled Lloegr.  Er nad oedd Cymru’n rhan o’r astudiaeth, mae’n debyg nad yw ein sefyllfa ni’n wahanol i ranbarthau Lloegr y tu allan i Lundain.

Hyd nes i ni gydnabod a mynd i’r afael â’r sefyllfa anghytbwys hon, mae’n amhosibl gweld sut y gellir gwella’r sefyllfa’n ddigonol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod maint a lleoliad mor bwysig i gynhyrchu refeniw masnachol yn cymhlethu’r sefyllfa ymhellach, gan ei gwneud hi’n anoddach i sefydliadau godi refeniw y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr.

Mae’r rhain yn anawsterau sy’n benodol i Gymru, sy’n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu lefel ddigonol o gymorth effeithiol i gefnogi’r hyn y mae wedi gofyn i’r sector ei wneud.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymddiriedolaethau a sefydliadau’r DU o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd yna yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y sector yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol i alwad y Llywodraeth. Roedd prinder sgiliau priodol yn y sector yn thema gyffredin yn y dystiolaeth a gyflwynwyd. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu adnodd sy’n cynnig arbenigedd ar godi arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol bach, yn debyg i’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru.

Fel y gellid ei ddisgwyl, gwelsom fod sefydliadau mwy o faint yn fwy tebygol o lwyddo wrth wneud cais am grantiau gan fod ganddynt well fynediad at sgiliau priodol (er enghraifft, o ran ysgrifennu ceisiadau effeithiol). O ystyried cyn lleied o’r cyllid sydd ar gael ledled y DU a ddyfernir y tu allan i Lundain a’r de-ddwyrain, mae’n ddealladwy bod yna gystadlu ffyrnig am yr arian sy’n weddill.

Yn y fath hinsawdd, nid yw’n syndod bod sefydliadau llai yn ei chael hi’n anodd cystadlu.

Mae hyn yn pwysleisio’r angen am gymorth sydd wedi’i deilwra, sy’n cydnabod anghenion a galluoedd gwahanol y sefydliadau celfyddydol ledled Cymru.

Nid yw hynny’n golygu na ddylai’r rheini sy’n rhan o’r sector archwilio pob cyfle i gynyddu eu hincwm nad yw’n gyllid cyhoeddus. Cawsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth wneud ceisiadau am gyllid.

Roeddem yn falch o glywed am effaith cenhadaeth fasnachu Llywodraeth Cymru i Tsieina, a oedd yn cynnwys dirprwyaeth ddiwylliannol a drefnwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cwmni theatr sy’n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu yw Hijinx, a dywedodd wrthym fod y daith hon wedi agor drysau i deithiau rhyngwladol a chydweithio yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil ar farchnadoedd rhyngwladol sy’n cynnig potensial o ran twf i artistiaid Cymru, a lle bo modd, i gynnwys elfen ddiwylliannol ar deithiau masnach, ochr yn ochr â strategaeth i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol.

Ar ôl galw ar y sector celfyddydol i ddibynnu llai ar gyllid cyhoeddus, yr hyn sy’n glir yw bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig lefel briodol o gymorth goleuedig sydd wedi’i deilwra os yw’n disgwyl i’w galwad gael effaith gadarnhaol yn y sector.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor a’i argymhellion yma.

Dilynwch Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Twitter @SeneddDGCH

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, rydym yn dathlu Dydd Miwsig Cymru (Welsh Language Music Day), sef digwyddiad blynyddol a gynhelir ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth o Gymru. Eleni, bydd aelodau o staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, a hynny fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad. Drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, mae dysgwyr Cymraeg yn y Cynulliad wedi bod yn dysgu’r geiriau i Hen Wlad fy Nhadau, sef yr anthem genedlaethol.

Rhestr o hoff ganeuon Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel rhan o’n dathliadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi creu rhestr o’i hoff ganeuon Cymraeg er mwyn rhoi blas o’r arlwy cyfoethog sy’n bodoli yn y diwydiant.

1. Ethiopia Newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
2. Tyrd Olau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog
3. Sebona Fi – Yws Gwynedd
4. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff
5. Cwcwll – Beganifs
6. Rhedeg i Paris – Yr Anhrefn
7. Harbwr Diogel – Elin Fflur
8. Julia Gitar – Jess
9. Cân i Gymry – Datblygu
10. Coffi Du – Gwibdaith Hen Frân

Wrth siarad am ei detholiad, dywedodd y Llywydd:

“Rwy’n hynod falch o gefnogi’r ymdrech hon i sicrhau y gall pobl Cymru glywed y gerddoriaeth amrywiol sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Tyfais i fyny yn gwrando ar fandiau Cymraeg, ac rwyf wedi llunio detholiad o’m hoff gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys rhai o’r caneuon yr oeddwn yn gwrando arnynt pan oeddwn yn ifanc iawn, a rhai o’r caneuon mwy diweddar yn niwydiant bywiog cerddoriaeth bop Cymru”.

Y Senedd yn paratoi i gynnal gig arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi


Gan barhau â thema Dydd Miwsig Cymru, rydym yn cyfri’r dyddiau tan 1 Mawrth, pan fydd y Senedd yn cynnal gig arbennig iawn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd GDSD yn gyfle gwych i ddathlu talent gerddorol orau Cymru, gyda pherfformiadau gan:

Adwaith
Hannah Grace
Mellt
Reuel Elijah a Mace
Roughion (set DJ)

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â phrosiect Horizons y BBC a’r Selar.

I gael rhagor o wybodaeth am y gig, cliciwch yma.

Bydd mynediad i’r gig yn RHAD AC AM DDIM, ac mae tocynnau ar gael yma.

 

Deddf Cymru 2017 – Pennod newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru

Bydd pwerau newydd yn cael eu rhoi i Gymru yn 2018, ond pa wahaniaeth y gallai hyn ei wneud i chi ac i fywyd yng Nghymru? 

SeneddInk

Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, mae datganoli yng Nghymru wedi bod drwy nifer o newidiadau (a bu cynifer o wahanol setliadau ag a fu o gampau llawn ym maes rygbi Cymru – cyfnod arbennig o lwyddiannus ym maes rygbi Cymru!). Cafodd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru eu gwahanu’n ffurfiol, cymerodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol, roedd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn mynd a dod, daeth y pŵer i basio Mesurau yn bŵer i basio Deddfau, a chafodd Cymru bwerau i godi trethi a benthyca arian.

Ar 31 Ionawr eleni, cafodd Deddf Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol, gan nodi dechrau cyfnod nesaf datganoli yng Nghymru. Beth yw goblygiadau hyn i Gymru?

Mae’r testun rhagarweiniol i’r Ddeddf yn ei disgrifio fel “Deddf i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2014 ac i wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac am dribiwnlysoedd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig”. Goblygiadau hyn yn ymarferol yw bod y Ddeddf:

  • Yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddatganiad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhannau parhaol o dirwedd gyfansoddiadol a gwleidyddol y DU;
  • Yn cyflwyno model newydd o ddatganoli: model cadw pwerau (sy’n debyg i’r hyn sydd wedi’i sefydlu yn yr Alban);
  • Yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn meysydd fel ynni, cynllunio, ffyrdd a phorthladdoedd;
  • Yn rhoi i’r Cynulliad bwerau newydd dros ei drefniadau mewnol, trefniadol ac etholiadol ei hun;
  • Yn sefydlu cysyniad tribiwnlysoedd Cymru a Llywydd tribiwnlysoedd Cymru.

Yn amlwg, bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o reolaeth i’r Cynulliad dros rai meysydd, yn arbennig etholiadau’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae hefyd yn cadw rheolaeth dros feysydd polisi eraill i San Steffan, gan gynnwys, yn arbennig, awdurdodaeth gyfreithiol Cymru.

Daw’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar y diwrnod penderfynwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sef ar y Prif Ddiwrnod Penodedig, sef 1 Ebrill 2018. Bydd pwerau codi treth a ddarperir gan Ddeddf Cymru 2014 ddod i rym ar yr un diwrnod.

Felly pa newidiadau allwn ni eu disgwyl o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017?

Yn naturiol, bydd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad am ddefnyddio pwerau newydd a gafwyd i ddeddfu i wella bywydau pobl yng Nghymru. Un posibilrwydd arall yw y gallai’r Cynulliad ei hun newid. Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’n bwrw ymlaen â gwaith i archwilio sut y gellid defnyddio’r pwerau newydd yn y Ddeddf i ddiwygio’r Cynulliad. Yna, cafwyd cyhoeddiad ym mis Mehefin 2017, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, y byddai’r Comisiwn yn ceisio newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru.

Yn ychwanegol at hyn, mae Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a gafodd y dasg o edrych ar nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, sut y dylid eu hethol, a’r hyn y dylai’r oedran pleidleisio isaf fod, wedi cyflwyno ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2018. Darllenwch yr adroddiad yma.

Beth bynnag fydd canlyniad gwaith y Panel, mae’n amlwg bod cam nesaf datganoli yng Nghymru yn ddim ond megis dechrau.

Huw Gapper, Uwch Swyddog Newid Cyfansoddiadol

Creu Senedd i Gymru

5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i’r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae’r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw’r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o’r tu mewn a’r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae’r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae’n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch:

“Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai’r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio’u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau’r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy’r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o’r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i’r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi’r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio’r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi’r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o’r Bae drwy ffenestri’r Senedd. Y drws nesaf i’r caffi mae siop y Senedd, sy’n cynnwys detholiad o’r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy’n gysylltiedig â’r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​

Nid oes tâl i fynd i mewn i’r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio’ch penwythnos yma. Ewch i’r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Sioe Frenhinol 2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 24-27 Gorffennaf gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau, a chyfle i’r cyhoedd gyfarfod ag Aelodau a staff y Cynulliad a chael gwybod mwy am ein gwaith. Byddwn yn y Pafiliwn Gwyrdd, ac mae croeso i bawb ymweld â’n stondin i roi eich barn ac opsiynau ar ein gwaith.

Yn digwydd drwy gydol yr wythnos

Ar y stondin

P’un a ydych yn gyfarwydd â’n gwaith ai peidio, erbyn diwedd eich ymweliad â stondin y Cynulliad byddwch wedi dysgu rhywbeth newydd amdanom ni a’r hyn rydym yn ei wneud. Mwynhewch baned a dysgu am eich Aelodau Cynulliad, sut y maent yn eich cynrychioli chi a sut y gallwch gysylltu â hwy i fynegi eich barn a’ch pryderon. Gallwch gael gwybod mwy am ein hymholiadau presennol a’n gwaith sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi neu eich cymuned.

I blant

Tra bod rhieni yn cael hoe, gall plant gymryd rhan mewn gwahanol gemau a gweithgareddau o amgylch y stondin i’w helpu i ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddant yn gallu dod i wybod am ddeddfu a rhoi cynnig ar bleidleisio dros y diddordebau a’r gweithgareddau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae yna hefyd gemau i’w chwarae a lliwio ar gyfer ymwelwyr iau.

Dywedwch wrthym beth sy’n eich gwneud yn falch o Gymru

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwlad. Ein hanes, ein diwylliant, ein harwyr, ein hiaith, ein tir – ein cartref. Yn bennaf oll rydym yn falch i’ch cynrychioli chi, bobl Cymru, ac i wneud penderfyniadau a chreu deddfau a fydd yn llunio dyfodol bywyd Cymru. Rydym am i chi ddweud wrthym beth ydych yn ei garu fwyaf am fywyd yng Nghymru a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n falch. Rhannwch eich barn gyda ni ar y stondin neu dywedwch wrthym ar Twitter gan ddefnyddio #fyNghymru.

Sesiynau a Digwyddiadau

Dydd Mercher 26 Gorffennaf

09.00-10.00 Digwyddiad Brecwast Llais Cryfach i Gymru i Randdeiliaid (Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol), stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y cyfansoddiad i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol. Mae Aelodau y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn edrych ar sut mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill ac yn awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau sydd â phrofiad o roi tystiolaeth ar lefel y DU a Chymru a pha rwystrau y gallant fod wedi’u hwynebu. Trwy ofyn y cwestiynau hyn a chlywed eu profiadau, bydd y Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o weithio i’r dyfodol.

 

Dydd Iau 27 Gorffennaf

10.30-11.30 Lansio Ymchwiliad i Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru (Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig), Neuadd Bwyd a Diod

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd a diod yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn? Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyfarfod â stondinwyr i lansio a thrafod ei ymchwiliad newydd i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Drwy gyfarfod â chynhyrchwyr ac arddangoswyr bwyd mae’r Pwyllgor yn gobeithio dysgu mwy am sut y gallai Cymru greu diwydiant bwyd arloesol sy’n cynnal swyddi o ansawdd uchel, a dod yn gyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy’n hoff o fwyd.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn Sioe Frenhinol Cymru. Dilynwch ni ar Facebook, Twitter a Instagram drwy gydol yr wythnos am y newyddion diweddaraf o’r Cynulliad o faes y sioe.