Tag: Cymraeg

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Canllaw i Ymwelwyr â’r Senedd

Canllaw i Ymwelwyr â’r Senedd

Fyddwch chi’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA? Bydd croeso cynnes ichi ym mhrifddinas Cymru. Mae Cymru’n wlad llawn diwylliant a threftadaeth, ac mae Caerdydd yn lle bendigedig i ymdeimlo ag awyrgylch y digwyddiad rhyfeddol hwn.

Os byddwch chi ym Mae Caerdydd ar gyfer Gwŷl Cynghrair Pencampwr UEFA, beth am ymweld â’r Senedd ac ymweld ag un o adeiladau pwysicaf a mwyaf modern Cymru? Rydyn ni wedi llunio canllaw defnyddiol i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich ymweliad.

Am wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: link

Para información en español: link

IMG_7851

Beth yw’r Senedd?

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’n ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru. Yn adeilad seneddol modern a ddathlodd ei phen-blwydd yn ddeg oed llynedd, mae’r Senedd hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru.

Mae hefyd yn adeilad cyhoeddus, sy’n croesawu ymwelwyr saith diwrnod yr wythnos, ac yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi derbyn Tystysgrif Ragoriaeth gan Trip Advisor.

Yn bwysicaf oll, mae’r ymweliad yn rhad ac am ddim ac mae gan y Senedd rai o’r golygfeydd gorau ym Mae Caerdydd, felly dewch i mewn i gael gweld y cwbl.

Beth sydd y tu mewn?

Y siambr drafod

Yn y Senedd mae siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os edrychwch i lawr o dan y twndis enfawr, gallwch chi weld lle mae ein gwleidyddion yn eistedd yn ystod dadleuon seneddol. Ewch ar un o’n teithiau rhad ac am ddim i ddarganfod rhagor am yr adeilad a’r hyn sy’n digwydd yma.

chamber-agleCaffi a Siop Anrhegion

Mae gan y Senedd gaffi (gweler rhagor am hwnnw isod) a siop hefyd, sy’n gwerthu cynnyrch lleol, cofroddion ac anrhegion. Mae yno wisgi Cymreig, cynnyrch Melin Tregwynt a chofroddion gyda brand y Cynulliad arnynt i gofio am eich ymweliad.

Arddangosfeydd

Wrth ymyl y caffi mae man arddangos lle cynhelir gwahanol ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn. Dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Ewch ar daith dywysedig

Y ffordd orau i ddod i adnabod y Senedd yw trwy fynd ar daith dywysedig. Bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes a phensaernïaeth unigryw yr adeilad ac yn dysgu rhagor am y gwaith a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r teithiau yn RHAD AC AM DDIM. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw dod i’r Senedd a byddwn yn rhoi gwybod ichi faint o’r gloch bydd y daith nesaf yn dechrau.

Mwynhewch flas o Gymru

Mae caffi y Senedd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer, neu fe allwch chi gael blas ar rai o danteithion traddodiadol Cymreig – gallwch chi fwynhau cacen Gymreig neu sleisen o fara brith gyda photed o de.

Mae’r golygfeydd o’r man eistedd yn odidog – gwyliwch y cychod hwylio ar ddŵr disglair Bae Caerdydd, neu edrychwch ar fwrlwm gŵyl Cynghrair y Pencampwyr o dan ganopi trawiadol y Senedd.

Cyfleusterau a mynediad

Fel gydag unrhyw adeilad y llywodraeth, mae’n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy’r system ddiogelwch ar ei ffordd i mewn i’r Senedd. Mae ein tîm diogelwch wedi’u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr sydd ag anableddau, neu’r rhai a allai fod ag anghenion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Mae’r Senedd yn gwbl hygyrch gan fod mynediad ramp ar flaen yr adeilad a lifftiau i bob llawr y tu mewn. Mae system dolen glyw ar gael i ddefnyddwyr teclynnau cymorth clyw.

Mae gan yr adeilad gyfleusterau newid a gynorthwyir yn llawn ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau sy’n addas i bawb.

Tynnwch hunlun gyda’n Snapchat GeoFilter

Os ydych chi ar Snapchat – cadwch lygad allan am ein ffilter arbennig a rhannwch eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol!

Linciau defnyddiol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: linc

Para información en español: linc

Tudalen Trip Advisor ar gyfer  Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

Blog Gwadd – Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Dr Andy Williamson, Hydref 2016

Mae’n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lywio’r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol a gwreiddiol.

Dyma stamp o ddeddfwrfa fodern, un sydd wedi buddsoddi mewn democratiaeth gref a buddiannau gorau y bobl y mae’n gwasanaethu.

Senedd Siambr

Deddfwrfeydd agored, tryloyw a hygyrch yw’r dyfodol a gallwn weld hyn yn digwydd ledled y byd:

  • yn San Steffan, mae’r Pwyllgor Deisebau yn denu cynulleidfaoedd newydd i wylio’r hyn y mae eu senedd yn gwneud a chymryd rhan mewn dadleuon;
  • yn Brazil a Chile, mae deddfwriaeth yn cael ei rhannu ar-lein â’r cyhoedd, a all roi sylwadau, diwygio a phleidleisio ar y newidiadau hynny cyn iddynt gael eu cyfeirio’n ôl at aelodau;
  • mae deddfwrfeydd mor eang â Georgia, Paraguay a Ffrainc yn gweithredu strategaethau i gynyddu cyfraniad y cyhoedd yn yr hyn maent yn gwneud i sicrhau eu bod yn dryloyw a hygyrch;
  • Mae’r Alban, yr Eidal a’r Weriniaeth Tsiec yn enghreifftiau o seneddau sy’n darparu mynediad agored amser real i’w data, tra bod seneddau’r Iseldiroedd a Seland Newydd yn darparu archifau ar-lein y gellir chwilio drwyddynt yn llawn o gofnodion eu seneddau; ac
  • mae Serbia a Periw ymysg y deddfwrfeydd o amgylch y byd sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil, gan chwilio am ffyrdd newydd o agor i fyny, estyn allan, gwrando a rhannu.

Mae hwn yn arfer sy’n tarfu ar y gwaith ac mae tarfu mewn ffordd gadarnhaol, hyd yn oed, yn gallu golygu heriau. Gall aelodau deimlo bod mwy o gyfraniad yn tresmasu ar eu rôl fel democratiaeth gynrychioliadol, ac mae rhai hyd yn oed yn dweud ei fod yn bygwth hynny. Mewn gwirionedd, mae profiad yn dangos i ni ei fod yn gwneud y gwrthwyneb. Ac mae’n rhaid i ni roi datblygiadau fel hyn yn eu cyd-destun; mae aelodau yn dal i fod yn gwneud y penderfyniadau, maent yn dal i benderfynu ar y rhan fwyaf o fusnes pwyllgorau. Ond, ym myd y cyfryngau cymdeithasol a newyddion cyson, mae’n amlwg bod ymgysylltu’n fwy a chysylltu’n well o fudd sylweddol i aelodau sydd am deimlo’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau. Ledled y byd, mae’n rhaid i’n cynrychiolwyr dderbyn gwneud eu gwaith nid yn unig yn llygad craff y cyhoedd ond gyda rhagor o gyfraniad gan y cyhoedd. Mae’n beth da; nid yw democratiaeth yn golygu pleidlais bob pum mlynedd; mae’n golygu cael llais bob dydd.

Mae’r byd wedi newid, gan ein gorfodi i ail-lunio gwaith deddfwrfeydd wrth i fwy a mwy o gyfryngau amrywiol o gyfraniad cyhoeddus a rhyngweithio ddod i’r amlwg. Er mwyn deall pam bod hyn yn bwysig, i ddechrau mae’n rhaid i ni dderbyn y manteision o ymgysylltu mwy â’r cyhoedd, ac mae’r manteision hynny yn niferus. Mae yna heriau logistaidd hefyd, gwybod pa offer i’w defnyddio a cheisio peidio â berchen arnynt neu eu rheoli (neu’r drafodaeth). Mae’n rhaid i ni ddatblygu parodrwydd i fynd lle mae pobl, defnyddio’r offer maen nhw’n eu defnyddio, dewis beth sydd orau i’r swydd dan sylw.

Mae cyhoedd mwy gwybodus ac sy’n cymryd rhan yn creu democratiaeth gryfach.

Mae creu ffyrdd newydd i roi llais i bobl a chael mwy o ran yn yr hyn mae eu cynrychiolwyr yn ei wneud yn dechrau goresgyn y rhwystrau o ddiffyg ymddiriedaeth sydd wedi datblygu ar draws nifer o’n sefydliadau cyhoeddus. Nid yw’n ateb i bob problem. Does dim ateb syml ac mae pobl yn cymryd amser i ymddiried, yn gyflym i wthio eu hagenda eu hunain, i fynegi rhwystredigaeth pan nad ydynt yn cael eu ffordd eu hunain. Ni allwn ddisgwyl i system y mae pobl wedi bod yn ddrwgdybus ohoni ac sy’n cael ei gweld fel peth caeedig sy’n rheoli newid dros nos ac ni ddylem ddisgwyl i agweddau cyhoeddus newid yn syth ychwaith. Byddai hynny’n naïf. Proses barhaus yw hon. Mae angen i ni fod yn ofalus a goddefgar ond hefyd i fwrw ymlaen â’r hyder o wybod fod bod yn fwy agored yn well i bawb yn y pen draw.

Gall agor pwyllgorau i fyny deimlo’n galed am ei fod yn galed. Ond dyna’r peth iawn i’w wneud ac mae’n angenrheidiol. Mae’n adlewyrchiad o’r newid cymdeithasol parhaus yn ein hagweddau at ddemocratiaeth, a fydd yn haws i’w groesawu os gallwn siarad yn agored a gonest am yr hyn mae’n golygu i gynrychiolwyr etholedig, staff a’r cyhoedd.

Mae agor pwyllgorau i fyny yn golygu cynhwysiant. Mae’n golygu cynrychiolaeth gryfach, gwneud democratiaeth yn fwy cyfranogol a sut mae hyn o fudd i aelodau a’r cyhoedd. Mae democratiaeth agored yn arwain at well ddeddfwriaeth, deddfwriaeth sy’n ystyrlon a phriodol, sy’n seiliedig ar safbwyntiau ehangach, wedi’u trochi ym mhrofiadau pobl go iawn. Deddfwriaeth sy’n adlewyrchu’n well pwy ydym ni. Mae’r byd yn gymhleth, a bydd dod o hyd i ffyrdd newydd, dibynadwy o ddatrys problemau yn haws pan fyddwn yn gallu harneisio’r gronfa enfawr o dalent, gwybodaeth a syniadau sydd heb ei gyffwrdd am lawer rhy hir. I gyrraedd yno, mae angen mwy o addysg arnom, mwy o wybodaeth a mwy o bartneriaid i hybu gwell aeddfedrwydd gwleidyddol ac ymgysylltu’n effeithiol.

Mae angen mwy o bobl arnom, lleisiau gwahanol i gael eu clywed a’u clywed yn amlach. Mae gwahodd pobl i bwyllgorau, gofyn iddynt helpu i lunio’r agenda a rhoi mwy o le iddynt gael eu clywed yn gamau cadarnhaol ymlaen. Y llwybr hwn tuag at ymgysylltu’n effeithiol yw hanfod democratiaeth fodern.

Dr Andy Williamson yw Sylfaenydd Democratise a Llywodraethwr The Democratic Society . Yn ddiweddar, ysgrifennodd World e-Parliament Report 2016 ac mae’n gyd-awdur ‘From Arrogance to Intimacy – A Handbook for Active Democracies’.

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Llwyddiannau newydd o ran ymgysylltu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Am y tro cyntaf, mae’r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyfathrebu, diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, darlledu a’r cyfryngau.

Mae’r materion hyn yn cyfoethogi ein bywydau, yn llywio ac yn egluro ein naratif fel cenedl, yn sail i’n diwylliant a’n treftadaeth unigryw, ac yn helpu i ddiffinio sut beth yw bod yn Gymry.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd yn cynnwys wyth o Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o Gymru, sy’n cynrychioli’r pum plaid wleidyddol yn y Cynulliad. Yn ystod yr haf, rhoddodd y Pwyllgor gyfle i bobl gysylltu â ni i ddweud wrthym ba waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu.

Aelodau'r Pwyllgor

Ym mis Gorffennaf, bu’r Cynulliad yn darlledu drwy gyfrwng Facebook Live am y tro cyntaf erioed. Gwyliodd dros 2,700 o bobl Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn siarad am ei gobeithion ar gyfer y Pwyllgor. Cawsom lawer o syniadau drwy’r ffrwd Facebook Live, drwy Twitter a thrwy e-bost.

Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad yn yr Eisteddfod i’r sawl a oedd yn bresennol gyflwyno eu syniadau a’u blaenoriaethau. Un o’r awgrymiadau hynny oedd y dylai’r Pwyllgor edrych ar y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan ystyried y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o ran sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gan ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd yr amser i gysylltu, dyma’r blaenoriaethau a nodwyd gennych…

Y Gymraeg

  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gan gynnwys y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc
  • Y Gymraeg mewn addysg uwchradd, gan gynnwys cynnig i gael gwared ar y cysyniad o addysg ail iaith a’i ddisodli gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg
  • Annog pobl i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol
  • Cymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw

Diwylliant

  • Cyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth a mynediad at yr addysg honno
  • Strategaeth i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru
  • Ffioedd a thelerau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol
  • Ariannu’r celfyddydau ar lawr gwlad ac yn lleol, a mynediad at y celfyddydau hynny
  • Sut y mae Cymru yn cefnogi ei chelfyddydau diwylliannol traddodiadol ac unigryw
  • Datblygu’r Adolygiad Arbenigol i’r adroddiad Amgueddfeydd Lleol
  • Brand Cymru

Treftadaeth

  • Cadw treftadaeth leol yng Nghymru
  • Addysg ddiwylliannol a hanesyddol yng Nghymru

Cyfathrebu

  • Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd yng Nghymru
  • Cyflwr newyddiaduraeth leol yng Nghymru
  • Cynrychiolaeth Cymru yn y cyfryngau ar lefel y DU
  • Cyllid ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru
  • Goblygiadau Siarter y BBC i S4C
  • Cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr awgrymiadau hyn wrth drafod y materion mawr y maent yn awyddus i fynd i’r afael â nhw yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Roedd llawer o dir cyffredin rhwng yr awgrymiadau a ddaeth i law a rhai o flaenoriaethau’r Pwyllgorau, gan gynnwys:

  • Sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • Diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • Rôl radio yng Nghymru
  • Cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Rydym wedi grwpio’r syniadau sy’n weddill gyda’i gilydd, ac rydym am i’r cyhoedd benderfynu pa faterion yr ydych chi’n credu y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn ystod y misoedd nesaf, unwaith y bydd y Pwyllgor wedi gorffen ei waith ar strategaeth y Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad alluogi’r cyhoedd i benderfynu ar ei raglen waith mewn modd mor uniongyrchol.

Cymerwch ran drwy gwblhau a rhannu’r arolwg hwn.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn anwybyddu’r holl ymatebion heblaw am y materion mwyaf poblogaidd.   Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y tymor hwy, boed hynny drwy ymchwiliad ffurfiol, drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion neu drwy geisio dadleuon yn y Cyfarfod Llawn.

Mae’r Pwyllgor wedi ymrwymo i gynnwys ystod o unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yn ei waith, yn y gobaith ei fod yn cynrychioli diddordebau Cymru a’i phobl yn effeithiol drwy gynnig cyfleoedd i effeithio’n uniongyrchol ar y gwaith hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gael yma.

“Mae clywed y cyfieithwyr ar y pryd wrth eu gwaith yn anhygoel. Am sgìl!”

ffion-e1469025276972

 

Cafodd Ffion Pritchard ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod yr wythnos diwethaf ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni ac am y ffordd y mae’r Cynulliad yn hyrwyddo dwyieithrwydd.

Ddydd Mawrth y 12fed o Orffennaf, ar ddiwrnod braf o haf, es i i Fae Caerdydd ar y trên i dreulio diwrnod o brofiad gwaith gydag Uned Gyfieithu y Cynulliad yn dilyn fy muddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Cyfieithu yr Urdd.

 

Roedd diwrnod prysur iawn wedi’i drefnu ar fy nghyfer. Yn rhan o’r diwrnod, bues i’n cwrdd â phennaeth yr uned gyfieithu, Mair, a beirniad y gystadleuaeth, Mari Lisa, yn ogystal â dysgu am yr uned fusnes, llunio’r Cofnod, cyfieithu deddfwriaethol a’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Diolch i Geth, Jodi, Llinos a Cai am eu holl gymorth. Dwi’n sicr y bydd yr wybodaeth a roeson nhw o gymorth mawr i mi yn y dyfodol!

Yn ogystal â chwrdd a gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr a chofnodwyr yr Uned Gyfieithu, roedd cyfarfodydd wedi’u trefnu ar fy nghyfer â dau berson pwysig yn y Senedd. Yn y bore, cefais gyfle i gael sgwrs (a llun!) â’r Llywydd, ac yn y prynhawn, rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, o’i amser i siglo’m llaw a chael sgwrs. Pobl brysur iawn ydyn nhw felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr!

FfionandPO1

Roedd y cyflwyniad gan Gruff ar gyfieithu peirianyddol o fudd mawr. Mae’n dda cael gweld bod cwmnïau mawr fel Microsoft yn buddsoddi mewn technoleg sy’n fuddiol i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg. O’i defnyddio’r gywir, mae’r dechnoleg yma’n cynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr ac yn rhoi’r cyfle i siaradwyr di-Gymraeg ddeall yr iaith. Wrth gwrs, fydd peiriant cyfieithu byth yn well na chyfieithwyr go iawn, ond mae’n braf cael gweld bod adnoddau ar gael yn gefn i’n gwaith ni.

ffion-a-gruff

A minnau’n berson sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol, yn ogystal â’r byd cyfieithu, da oedd gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr. Roedd hi’n braf teimlo’n rhan o’r broses wleidyddol a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan weinidogion . Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner!

Diolch i’r Urdd, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a’r Cynulliad am drefnu’r diwrnod. A diolch o galon i Iona a Sarah am fod yn dywyswyr penigamp! Hoffwn erfyn ar y rheiny ohonoch chi sy rhwng 19 a 25 oed ac sydd â diddordeb mewn cyfieithu i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd y flwyddyn nesaf. Os byddwch chi’n fuddugol, dwi’n addo y bydd treulio diwrnod gydag uned gyfieithu y Cynulliad yn brofiad gwerth chweil!