Tag: Cydraddoldeb

Y Cynulliad Cynhwysol: Amrywiaeth a Chynhwysiant

Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cynulliad, sef cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth eraill i hyrwyddo a dathlu ein bod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Byddwn yn cyhoeddi blog newydd bob dydd yr wythnos hon. Fel rhan o’r wythnos, felly, ymddengys bod hwn yn amser addas i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni i feithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol ers sefydlu’r Cynulliad. Wrth inni ddechrau datblygu Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a Chynllun ar gyfer y Pumed Cynulliad, edrychwn ar sut y gallwn barhau i gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein rôl fel cyflogwr ac fel sefydliad sy’n rhyngweithio â phobl Cymru .

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy’n dangos esiampl yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol. Mae ein gwerthoedd yn cynnwys y syniad bod cyfle cyfartal i bawb yn hawl ddynol sylfaenol ac rydym yn gwrthwynebu pob ffurf ar wahaniaethu. Rydym yn anelu at greu corff seneddol hygyrch, sy’n ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac sy’n eu parchu.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  “Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb.”

Meithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol a chydweithredol

Yma, rydym yn awyddus i sicrhau y gall pobl wireddu eu potensial llawn a gwneud cyfraniadau lle gallant fod yn hwy eu hunain yn eu hamgylchedd gwaith. I’r perwyl hwn, rydym yn trefnu gwybodaeth a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn rheolaidd er mwyn ysgogi trafodaeth a hyrwyddo diwylliant cynhwysol lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi. Mae’r Cynulliad wedi rhoi arwydd i’w weithlu ei fod wedi ymrwymo i wneud hyn trwy annog sefydlu rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle hunan-reoledig. Mae gennym rwydweithiau ar gyfer pobl LGBT a’u cynghreiriaid; pobl anabl a’u cynghreiriaid, pobl sy’n nodi eu bod yn Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a’u cynghreiriaid; pobl sy’n nodi eu bod yn rhieni a gofalwyr sy’n gweithio; a menywod a dynion. Mae pobl sy’n cyfrannu i’r rhwydweithiau yn gwneud hynny yn ychwanegol at eu swyddi dydd. Mae’n ddiogel dweud bod bodolaeth rhwydweithiau yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, meithrin cysylltiadau da a chynnig atebion os bydd rhwystrau i gynhwysiant yn codi neu bosibilrwydd y byddant yn codi. Mae’r cysyniadau o gefnogaeth gan gymheiriaid a darparu ‘lle diogel’ lle gall pobl godi materion neu gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella yn amhrisiadwy ac mae gennym enghreifftiau lle cafodd polisïau ac arferion yn y gweithle eu gwella. I gael rhagor o wybodaeth am rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle’r Cynulliad, cysylltwch â diversity@cynulliad.wales

Ymgysylltu ag ystod amrywiol o bobl y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad

Mae cael tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant hynod weladwy sydd wedi ymrwymo i gydlynu’r gwaith hwn ar draws y Cynulliad wedi bod o fudd am ddau reswm yn benodol. Yn gyntaf, gall arfer da a chydweithio â chydweithwyr ar draws y gwahanol dimau sicrhau ein bod yn ymdrechu’n barhaus fel sefydliad i gynnal a gwella diwylliant sefydliadol cynhwysol. Yn ail, rydym wedi gallu gweithio gyda thimau ar draws y Cynulliad a chynnwys pobl o’r tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad i wneud y gorau o’n hygyrchedd i bobl Cymru. Mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau o gymunedau ledled Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad ac annog pobl i gymryd rhan yn ei waith.

Fel Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, rydym yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gawsom i rannu arfer gorau a dysgu gan eraill y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad. Mae’n hanfodol bod sefydliadau’n rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn na weithiodd cystal; mae’n arbed amser ac egni a gall helpu i ail-ganolbwyntio blaenoriaethau.

Os hoffech chi helpu i lunio Cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Cynulliad, cwblhewch ein harolwg byr iawn neu cysylltwch â’r Tîm Amrywiaeth ar 0300 200 7455 neu  diversity@cynulliad.cymru

 

 

Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia – dathliad o amrywiaeth rhywiol a rhywedd

fflag enfys

Ross Davies

Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Bob blwyddyn ar 17 Mai, mae pobl ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia er mwyn dathlu amrywiaeth o hunaniaethau o ran rhywedd a chyfeiriadeddau rhywiol. Caiff y diwrnod ei ddefnyddio gan ymgyrchwyr i dynnu sylw llunwyr polisi, arweinwyr, y cyhoedd a’r cyfryngau at faterion pwysig er mwyn helpu i ymgyrchu yn erbyn casineb, rhagfarn a gwahaniaethu.

Mae’r ymgyrch yn rhoi llais i bobl sy’n wynebu cael eu hymyleiddio oherwydd nad ydynt yn cydymffurfio â naratif heteronormadol (y dybiaeth bod heterorywioldeb yn normal a bod unrhyw beth heblaw heterorywioldeb yn annormal) na naratif cydryweddol (pobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfateb i’r rhyw y mae cymdeithas yn ei neilltuo iddynt pan gawsant eu geni).

Mae llawer o’r materion a gaiff sylw ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia yn deillio o drin grŵp yn wahanol oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd, sy’n seiliedig, yn aml, ar ragfarn a stereoteipiau.

Er bod y duedd i siarad am y gymuned LHDT+ fel endid unigol, mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, am amrywiaeth pobl LHDT+ yn y gymuned a dathlu hynny.

Yn amlwg, nid yw pobl sydd â thueddiadau rhywiol lleiafrifol, gan gynnwys pobl sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, anrhywiol, panrywiol, neu amlrywiol, yn grŵp unffurf – mae oedran, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, anabledd, crefydd a llawer o nodweddion eraill yn sail i’w hunaniaeth.

Mae’r un peth yn wir ar gyfer pobl draws, y mae’r modd y maent yn cyfleu eu hunain yn mynd y tu hwnt i’w hunaniaeth o ran rhywedd. Efallai bod gan bobl ddealltwriaeth gul o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn draws, a hynny yw rhywun sy’n cael llawdriniaeth er mwyn ailbennu rhywedd. Ond mae’r union gysyniad o hunaniaeth draws yn llawn amrywiannau a gwahanol brofiadau – ceir dynion traws, menywod traws, pobl sy’n nodi eu hunain yn ryweddhylifol, pobl nad ydynt yn nodi eu hunain yn wrywaidd na benywaidd a phobl sy’n androgynaidd.

Yn yr un modd ag y mae person anabl yn fwy na’u hanabledd a bod person du yn fwy na dim ond lliw eu croen, ni all pobl LHDT+ gael eu cyfyngu i un categori hunaniaeth. Byddai gwneud hynny’n symleiddio pethau ac yn peryglu cynhyrchu fersiynau cul o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn LHDT+.

Gall meddu ar fwy nag un hunaniaeth olygu bod enghreifftiau gwahanol o wahaniaethu yn digwydd ar yr un pryd. Er enghraifft, efallai y bydd lesbiad hŷn yn wynebu gwahaniaethu ar sawl sail – fel menyw, fel person hŷn ac fel rhywun o gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol. Fodd bynnag, fel cyfuniad o bob un o’r nodweddion hyn, gallai lesbiad hŷn wynebu gwahaniaethu unigryw a chymhleth.

Rhaid inni gofio hefyd ei bod yn bwysig i bobl gael eu cydnabod yn amrywiol wrth beidio â gwadu’r hyn sy’n gyffredin rhyngddynt ychwaith, oherwydd y pethau hyn sy’n uno pobl wrth iddynt ddathlu ‘Pride’ neu ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl LHDT+, yn enwedig yn ystod digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.

Wrth gydnabod amrywiaeth yn y gymuned LHDT+, mae hefyd yn bwysig nodi y bydd gan wahanol grwpiau LHDT+ wahanol fodelau rôl. Dyma lincs ar gyfer rhai o’r modelau rôl a nodwyd ar gyfer rhai o’r grwpiau hyn gan Gymdeithas LGBTUA+ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Warwick.

Modelau rôl pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig LHDT+

Modelau rôl Pobl Anabl LHDT+

Modelau rôl Menywod LHDT+

Mae Stonewall hefyd wedi cynhyrchu Lleisiau LHDT, casgliad o 25 o straeon gan bobl LHDT sydd wedi wynebu anghydraddoldeb.

Drwy gydnabod a gwerthfawrogi’r amrywiaeth sy’n bodoli o fewn y gymuned LHDT+, gallwn ddechrau gwerthfawrogi gwir drysori tapestri cyfoethog dynoliaeth, a bod y cysyniad o ‘arall’ yn gallu niweidio ein cymdeithas a’r unigolion o dan sylw.

Logo 100 Cyflogwr Gorau StonewallCynulliad Cynhwysol

Fel sefydliad cynhwysol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i herio trais a gwahaniaethu ac i hyrwyddo diwylliant o degwch, urddas a pharch. Rydym yn falch o fod wedi cael ein rhestru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob blwyddyn ers 2009, gan godi i’r trydydd safle ym Mynegai 2016. Cawsom ein henwi’n Brif Gyflogwr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf.

Mae OUT-NAW, ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle LHDT, sydd wedi ennill gwobrwyon am ei gwaith, yn cefnogi pobl LHDT ar draws y sefydliad drwy gefnogaeth cymheiriaid, mentora a hyfforddi. Mae’r rhwydwaith hefyd yn ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb LHDT ac i ystyried cydraddoldeb LHDT yn ein gwaith.

Os hoffech wybod rhagor am weithio i’r Cynulliad neu weld ein swyddi gwag cyfredol, ewch i www.Cynulliad.Cymru/swyddi

Mis Hanes pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) 2016

Thema Mis Hanes LGBT eleni yw Crefydd, Cred ac Athroniaeth.

Logo ar gyfer Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol 2016

Mae llawer o’r sgwrs ynghylch cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd yn awgrymu bod hawliau credinwyr crefyddol ar y naill law, a hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) ar y llaw arall fel petaen nhw’n gwbl annibynnol ar ei gilydd. Ond eto bob dydd, mae miliynau o bobl LGBT yn cyfuno eu ffydd â’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Ym mis Tachwedd 2013, cynhaliodd Rhyng-grŵp Senedd Ewrop ar Hawliau LGBT drafodaeth ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys fideo 5 munud o hyd yn dangos tystiolaeth bersonol gan bobl lesbiaidd a hoyw crefyddol o bob cwr o’r byd. Hefyd yn y digwyddiad, cyflwynwyd adroddiad gan Human Rights Without Frontiers o’r enw LGBT People, the Religions & Human Rights in Europe. Er gwaethaf yr hyn y mae dadl mor rhanedig yn ei awgrymu, dadleuwyd bod gwerthoedd fel rhyddid, cydraddoldeb ac urddas dynol yn dir cyffredin rhwng credinwyr crefyddol a’r rhai sy’n amddiffyn hawliau dynol pobl LGBT.

Drwy gydol mis Chwefror, bydd Stonewall, elusen yn y DU sy’n hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, yn cyflwyno proffiliau o bobl LGBT ysbrydoledig sydd â gwahanol grefyddau/credoau. Bydd y proffiliau yn cynnwys pobl sy’n Sikhaidd, Mwslimaidd, Catholig, Cristnogol, Iddewig, Hindŵ a Dyneiddwyr.

Gallwch ddarllen mwy am Fis Hanes LGBT a thema crefydd, cred ac athroniaeth yng  Nghylchgrawn Mis Hanes LGBT neu ewch i wefan swyddogol Mis Hanes LGBT am fanylion yr holl weithgareddau, digwyddiadau a newyddion.

Logo 100 Cyflogwr Gorau Stonewall         Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad

Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT
Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT

Yn y Cynulliad Cenedlaethol rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Yn hynny o beth, rydym yn falch iawn o fod yn y trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2016 o’r sefydliadau LGBT-gyfeillgar gorau yn y DU. Rydym hefyd yn falch iawn o gael eu henwi fel Cyflogwr Gorau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer pobl LGBT am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Gallwch gael gwybod mwy am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT mewn mannau eraill ar ein blog, lle mae gennym nifer o erthyglau perthnasol, gan gynnwys Mis Hanes LGBT 2015, aelodau o’n staff sy’n Fodelau Rôl Stonewall Cymru, lleoliad gwaith i fyfyrwyr Stonewall Cymru, dathlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol, a hyrwyddo cydraddoldeb trawsrywiol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn gwerthfawrogi ein pobl ac i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith cyfredol, ewch i: www.cynulliad.cymru/swyddi

Gallech hefyd ymweld â’r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weld arddangosfa o rai o fodelau rôl LGBT Cymru Stonewall Cymru.

Rydym yn falch o fod wedi cadw Gwobr Mynediad @Autism am yr ail flwyddyn yn olynol!

Mae ystad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r Wobr yn safon arfer gorau ar gyfer adeiladau a chyfleusterau, a gynlluniwyd er mwyn rhoi sicrwydd i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n dangos bod y cyfleusterau’n hylaw i bobl ag awtistiaeth, a bod yna ymrwymiad i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu eu defnyddio.

Autism Award photo - PO and SM
Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, a Sandy Mewies AC yn dal Gwobr Mynediad Awtistiaeth y Gymedeithas Awtistiaeth Genedlaethol

“Mae hyn yn gydnabyddiaeth arall eto bod y Cynulliad Cenedlaethol o ddifrif am y mater o gydraddoldeb mynediad,” meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC.

“Er mwyn i ddemocratiaeth weithio’n iawn yng Nghymru, rhaid i’w sefydliad deddfu ymgysylltu â phawb yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb.”

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb:

“Mae’r Wobr Mynediad Awtistiaeth yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i fod yn lleoliad hygyrch ar gyfer ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.

Isod mae rhai o’r pethau a wnaeth y Cynulliad er mwyn cyflawni’r achrediad:

  • Creu adran ar ein gwefan yn benodol ymwelwyr sydd ag awtistiaeth.  Mae’r adran hon yn darparu lincs at adnoddau gwybodaeth a gynlluniwyd yn benodol mewn fformatau gwahanol;
  • Sefydlwyd ardaloedd tawel dynodedig ar gyfer pobl ag awtistiaeth i orffwys ac ymlacio;
  • Derbyniodd staff perthnasol hyfforddiant hyder o ran anabledd, sy’n cynnwys adran ar awtistiaeth;
  • Nodwyd Pencampwyr Awtistiaeth ar draws y sefydliad;
  • Sefydlwyd cysylltiadau gyda’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol;
  • Crëwyd ffurflen adborth, er mwyn galluogi adborth parhaus gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

 

Bwriadu ymweld â’r Cynulliad? Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn, ar 0300 200 6565, neu e-bostiwch: cysylltu@cynulliad.cymru.

 

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl – 3 Rhagfyr

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, rydym am eich hysbysu am rywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael gennym ar gyfer pobl anabl.

Rydym yn arddel y model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model cymdeithasol yn edrych ar y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod rhwng pobl anabl a’u mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Mae’n ceisio dileu rhwystrau diangen sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan yn y gymdeithas, rhag cael gwaith a rhag byw’n annibynnol. Mae’r model cymdeithasol yn ceisio ffyrdd o gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant. Mae hefyd yn cydnabod y gall agweddau at anableddau greu rhwystrau diangen i gynhwysiant ac mae’n mynnu bod pobl yn cymryd camau i ddileu’r rhwystrau hyn.

Logo yn gadarn o blaid pobl anabl
Logo yn gadarn o blaid pobl anabl

Er mwyn annog pobl anabl i wneud cais, rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer pobl anabl. Mae’r cynllun yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i’r ymgeiswyr anabl sy’n cael cyfweliad.

 

 

 

Ar gyfer ein staff anabl:

  • Mae ein polisïau staff yn cynnwys pobl anabl. Er enghraifft, mae ein polisi urddas yn y gweithle yn un cadarn er mwyn delio ag ymddygiad amhriodol.
  • Mae gennym rwydwaith staff anabledd gweithgar o’r enw EMBRACE. Mae EMBRACE yn rhoi cefnogaeth cymheiriaid i staff anabl ac mae’n ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Mae hefyd yn ein helpu i ystyried anghenion pobl anabl yn ein penderfyniadau ac wrth gynllunio polisïau.
  • Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud ag anabledd, gan gynnwys hyfforddiant i gefnogi staff ac ymwelwyr anabl, ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a hyfforddiant BSL, hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a hyfforddiant dementia-gyfeillgar.
  • Mae gennym Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle a mynediad i Raglen Cymorth i Weithwyr sy’n gallu darparu gwasanaethau cwnsela i staff.

 

Logo Embrace, ein rhwydwaith staff ag anabledd
Logo Embrace, ein rhwydwaith staff ag anabledd

 

Dyma beth sydd gan rai aelodau anabl o’r staff i’w ddweud am eu profiad o weithio yma:

  • “Mae parodrwydd y Cynulliad i ymgysylltu ag Embrace yn gwneud imi deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a’m profiadau fel aelod anabl o’r staff. Rwy’n falch o fod yn aelod o’r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff.”
  • “Mae fy anabledd yn effeithio’n enfawr ar fy symudedd ac mae’n effeithio ar fy mywyd gwaith. Mae’r gefnogaeth mae’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch wedi ei rhoi i mi wedi bod yn rhagorol. Maen nhw wedi darparu cyfarpar ar fy nghyfer i wneud fy niwrnod gwaith yn llai poenus ac felly yn fwy cynhyrchiol. Mae’r gefnogaeth barhaus a gaf ganddynt yn fy helpu i gadw i weithio ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw.”
  • “Mae’r Nyrs Iechyd Galwedigaethol wedi fy nghefnogi i; cefais fy nghwnsela a therapi rheoli straen drwy’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae’r dosbarthiadau Techneg Alexander hefyd wedi bod yn fuddiol dros ben. Heb hyn oll, rwy’n amau a fyddwn yn dal i fod yn gweithio’n amser llawn, os o gwbl.”

Ar gyfer ymwelwyr, rydym yn sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch ac yn groesawgar i bobl anabl.

  • Mae gennym lifftiau ym mhob rhan o’n hadeiladau
  • Mae parcio hygyrch ar gael;
  • Mae systemau dolen ym mhob rhan o’n hadeiladau;
  • Mae pob un o’n staff Cyswllt Cyntaf a’n staff Diogelwch wedi cael hyfforddiant ynghylch cefnogi ymwelwyr anabl;
  • Mae gennym Hyrwyddwyr Awtistiaeth drwy’r sefydliad i groesawu pobl ag awtistiaeth;
  • Mae rhai o’n staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar ac Iaith Arwyddion Prydain;
  • Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau toiled, gan gynnwys cyfleuster Lleoedd Newid, gyda gwely a theclyn codi.

Yn ogystal, mae gennym dimau allgymorth, addysg ac ymgysylltu ag ieuenctid sy’n cyfarfod â phobl anabl ledled Cymru i’w hysbysu am waith y Cynulliad ac i wrando ar eu barn ar y materion sy’n bwysig iddynt.

Llun o aelodau’r Grŵp Cymysg, sef grŵp o bobl ifanc ag anableddau o Abertawe
Llun o aelodau’r Grŵp Cymysg, sef grŵp o bobl ifanc ag anableddau o Abertawe

Cawsom gydnabyddiaeth gan sefydliadau allanol sy’n dathlu ein hygyrchedd.

  • Mae Action on Hearing Loss wedi dyfarnu Marc Siartr Yn Uwch na Geiriau i ni oherwydd ein hymrwymiad i gefnogi staff ac ymwelwyr sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw. Rydym hefyd wedi ennill gwobr arian yng ngwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru.

 

Llun o bobl yn dathlu cyflwyno Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i’r Cynulliad
Llun o bobl yn dathlu cyflwyno Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i’r Cynulliad
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Y Cynulliad yn disgleirio yn Sparkle

Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, gyda Craig Stephenson, Cyfarwyddwr y Cynulliad a Chadeirydd ein rhwydwaith staff LGBT, es i a stondin i Swansea Sparkle i siarad â’r cyhoedd am waith y Cynulliad a sut y gallent gymryd rhan.

Cafodd Swansea Sparkle ei drefnu gan Tawe Butterflies a Heddlu De Cymru, ac roedd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Y nod oedd chwalu’r rhwystrau rhwng y cyhoedd a’r gymuned Drawsrywiol drwy ddod â sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r DU at ei gilydd i arddangos y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i’r gymuned.

Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn a chawsom lawer yn dangos diddordeb yn y Cynulliad. Roedd llawer o bobl nad oeddynt yn ymwybodol bod ganddynt bum Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am eu cynrychioli yn y Cynulliad, felly roedd yn gyfle perffaith i’w cyflwyno i Archwilio’r Cynulliad: Eich Aelodau Cynulliad Chi a sgwrsio am pa faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau. Daeth dau o Aelodau’r Cynulliad at y stondin i ddweud helo a chael tynnu eu lluniau gyda ni – Julie James (Etholaeth Gorllewin Abertawe) a Peter Black (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) – roedd yn wych cael eu cefnogaeth yn y digwyddiad.

Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â pherson ifanc sy’n trawsnewid ar hyn o bryd. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn fod yr unigolyn yma wedi rhannu ei stori gyda mi, ac yr oedd yn ddiddorol clywed am y profiadau y mae wedi’u cael – yr hapus a’r trist. Cymerwyd camau mawr i sicrhau bod lleisiau’r gymuned Drawsrywiol yn cael eu clywed, ond mae’n amlwg iawn bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Fe wnes yr ymdrech i sicrhau bod y person ifanc yn gwybod am yr holl ffyrdd gwahanol y gall gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, hyd yn oed pa mor galed mae’r Cynulliad yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu yn amrywiol ac yn hollol gynrychioliadol o gymunedau Cymru. Roedd yn wych cael adborth ar beth arall roedd yn credu y gallai’r Cynulliad weithio arno, a chaiff hyn ei gyfleu i’n Tîm Cydraddoldeb rhagorol.

Esboniais hefyd pwy yw Comisiynydd Plant Cymru a beth yw ei swydd, felly os bydd yn teimlo bod angen help rhywun yn y dyfodol, mae rhywun arall y gall gysylltu â hi. Mae’n bwysig i holl bobl ifanc Cymru wybod am y Comisiynydd Plant.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod ardderchog – wedi’i drefnu’n dda ac yn groesawgar iawn! Alla i ddim aros i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall
Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall

Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol: Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi gosod llwybr i eraill ei ddilyn

Black History Month Wales logoMis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, yr adeg o’r flwyddyn pan fydd diwylliant, hanes a llwyddiannau cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn cael eu cydnabod a’u dathlu.

Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi gallu cyfrannu at ddatblygiad cymdeithas, technoleg, yr economi a diwylliant ym Mhrydain drwy gyfraniad y dynion a’r menywod dewr hynny a osododd lwybr iddynt. Nhw arweiniodd y ffordd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill, fel modelau rôl ac esiamplau o’r hyn yr oedd modd ei gyflawni.

Mae Cymdeithas Hanes Pobl Dduon Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Unsain Cymru, Radio Cardiff a’r Prince’s Trust Cymru, wedi cyhoeddi mai’r thema eleni fydd ‘Menywod Duon Dylanwadol, Ddoe a Heddiw’. Yn unol â’r thema honno, dyma 12 o fenywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol sydd wedi gosod y llwybr i eraill ei ddilyn:

1.  Mary Prince: Y fenyw ddu gyntaf i ysgrifennu a chyhoeddi  hunangofiant ‘The History of Mary Prince: A West Indian Slave’,  hanes am erchyllterau bywyd o gaethwasiaeth ar y planhigfeydd,  a gyhoeddwyd ym Mhrydain oddeutu 1831. Mary Prince oedd y fenyw gyntaf hefyd i  gyflwyno deiseb gwrth-gaethwasiaeth i’r Senedd.

2.  Una Marson: Darlledwraig fenywaidd ddu gyntaf y BBC o 1939  i 1946.

3.  Elisabeth Welch: Un o’r bobl dduon gyntaf i gael chyfres radio ei hun ar y BBC  ym 1935, ‘Soft  Lights and Sweet Music’, a’i gwnaeth hi’n  enw cyfarwydd iawn ym Mhrydain.

4.  Sislin Fay Allen: WPC du cyntaf Prydain, gan ymuno â’r Heddlu Metropolitan  ym 1968.

5.  Lilian Bader: Un o’r menywod cyntaf yn yr Awyrlu Brenhinol i gymhwyso i  atgyweirio offerynnau, ar ôl ymuno â’r Awyrlu Ategol i Fenywod. Ewch i  flog  y Weinyddiaeth Amddiffyn i gael gwybod mwy am bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y lluoedd arfog.

6.  Moira Stuart, OBE: Y ddarllenwraig newyddion gyntaf o dras Affricanaidd-Caribïaidd  ar deledu Prydain.

7. Diane Abbott, AS: Yr Aelod Seneddol benywaidd du cyntaf adeg ei hethol i Dŷ’r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1987.

8.  Betty Campbell: Yn yr 1970au, hi oedd pennaeth du cyntaf y wlad, a hynny yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd.

9/10.  Y Farwnes Valerie Amos: Y gweinidog cabinet benywaidd du gyntaf a’r   fenyw ddu gyntaf     i fod yn arglwyddes, ochr yn ochr â’r Farwnes Patricia Scotland.

11. Y Fonesig Jocelyn Barrow: Y fenyw ddu gyntaf i fod yn un o Lywodraethwyr y BBC.

12. Claudia Jones:  Sylfaenydd papur newydd wythnosol du cyntaf Prydain “The   West Indian Gazette”, oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel mam Carnifal Notting Hill .