Tag: culture

‘The Soldier’s Own Diary’ – darlun llawn cyfrinachau

Mae’r artistiaid Scarlett Raven a Marc Marot ymhlith yr artistiaid cyntaf yn y byd i arbrofi â realiti estynedig, wrth iddynt gymysgu celf gain â thechnoleg er mwyn adrodd straeon dwys ynghylch y Rhyfel Mawr drwy farddoniaeth, animeiddiadau a cherddoriaeth.

“The Soldiers Own Diary”

Mae Scarlett yn angerddol ynglŷn â lliw, ac mae ei dull dynamig yn aml yn golygu ei bod yn defnyddio ei dwylo yn hytrach na brwsh i baentio paent olew. Mae ei llinellau ysgubol yn creu symudiad a chyfeiriad, gyda’r artist yn cael ei chymharu ag Anselm Kiefer a Jackson Pollock. Dywed Scarlett:

“Mae’r paent yn cael ei daflu, ei dasgu a’i fflicio. Pan fydd yn glanio, mae’n dal y blodau sy’n chwythu yn y gwynt. Rhaid i’r symudiad fod ym mhob haen, felly pan fyddwch chi’n camu’n ôl, byddwch chi’n teimlo bod y tirlun yn fyw. Mae’n creu byd o hud a lledrith.”

Dywed Marc Marot, a gafodd yrfa lwyddiannus fel rheolwr label cyn ymuno â’r peintiwr olew Scarlett:

“Mae ein gwaith yn cael ei yrru’n fawr gan emosiwn, a’r pŵer yw galluogi ein cynulleidfa i ymdrochi ei hun mewn teimladau pwerus iawn. Mae’n eu cymryd nhw allan o’r presennol. Nid arddangosfa sydd gennym, ond profiad gweledol.”

Eu creadigaeth ddiweddaraf yw ‘The Soldier’s Own Diary’, sef paentiad olew unigryw sydd, wrth edrych arno drwy app Blippar, yn adrodd stori arbennig carcharor rhyfel o’r enw Robert Phillips o Gwmbrân.

Bydd derbyniad byr a chyfle i weld y ddwy arddangosfa sy’n ategu ein Darlith Goffa:

Ganed Robert Phillips yn Nhredegar Newydd ym 1893. Ymunodd â’r Gatrawd Gymreig ym 1914, ond wedi ymosodiad nwy cafodd ei ddal yn Ypres a’i anfon i weithio mewn gwersyll 200 milltir i ffwrdd yn Homburg yng Ngorllewin yr Almaen.

Ym 1916, ar ôl cael ei ddal yn yr Almaen am 15 mis, fe lwyddodd i ddianc gan gychwyn cerdded tuag adref i Gymru. Roedd un o’i gyd-garcharorion yn astrolegydd, a dysgodd Robert sut i wneud ei ffordd am y gogledd tua’r Iseldiroedd gan ddefnyddio’r sêr i’w arwain.  Bu wrthi am fisoedd yn cerdded gyda’r nos, gan ddwyn ieir a wyau i oroesi’r siwrne, cyn cyrraedd Cymru o’r diwedd yng ngaeaf 1916.

Hoffai’r artistiaid Scarlett a Marc ddiolch i wyres Robert, Lynda Osbourne, am ganiatau iddynt ymweld â’i chartref er mwyn dysgu amdano a chymryd ffotograffau o arteffactau grweiddiol. Ymhlith yr arteffactau oedd ei ddyddiadur, yr ysgrifennodd ynddo ym 1917 ar ôl dychwelyd i Gymru ac a esgorodd ar enw’r paentiad.

Roedd mam Marc yn hanu o Wrecsam, a chyn iddi farw yn 2015 gofynnodd i Marc addo y byddai’n creu paentiad â Chymru’n ganolbwynt iddo, ac felly mae ‘The Soldier’s Own Diary’ er cof amdani hi ac am aberth y gwŷr dewr o Gymru.

Mae Castle Fine Art yng Nghaerdydd, sy’n cynrychioli’r artistiaid, yn garedig iawn wedi benthyg y darn i ni yn barod ar gyfer Dydd y Cofio i’w weld gan bobl Cymru, y gall llawer ohonynt uniaethu â stori’r Milwr Phillips.

____________________________________________

Mae ‘The Soldier’s Own Diary’ yn rhan o’n rhaglen Dydd y Cofio 2018, ynghyd â ‘Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru’.

Roedd mudiad y bleidlais i fenywod yn gweithredu am dros 60 mlynedd ym Mhrydain, ac enillwyd etholfraint rannol ym 1918 a hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o’r diwedd, 10 mlynedd yn ddiweddarach.  Nod yr arddangosfa hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hirfaith, amlbwrpas hon, y ffotograffau, y delweddau a’r arteffactau sy’n ceisio dangos rhai o’i phrif elfennau.

Arddangosfeydd: ‘The Soldier’s Own Diary’ gan Scarlett Raven a Marc Marot / ‘Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru’

Dyddiad: 1-25 Tachwedd 2018

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918
O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918. Copyright: MediaWales

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

 

Menywod Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

 

Blog gwadd gan Dr Dinah Evans

Dr Dinah Evans
Dr Dinah Evans

Eleni bydd y Cynulliad yn croesawu Dr Dinah Evans i gyflwyno ein Darlith Goffa flynyddol ar bwnc ‘Ymateb Menywod Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf’.

Roedd Dr Dinah Evans yn dysgu Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Bangor tan 2016. Mae’n aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddwy ryfel byd ar Gymru a’i chymdeithas.

Cyhoeddwyd ei gwaith ymchwil ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod Cymru yn un o benodau’r llyfr ‘Creithiau’ yn 2016, ac ar hyn o bryd mae’n paratoi i gyhoeddi gwaith ymchwil yn gynnar yn 2019 ar ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel.

Yma mae’n cyflwyno rhai o’r materion a drafodir yn ei darlith, gan edrych ar rôl a chyfraniad menywod Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod.

Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n deall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan mai dim ond wedyn y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a’u haberth.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfle i lawer o bobl ledled y wlad ganolbwyntio ar erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd nifer o ysgolion fynd â’u disgyblion i Ffrainc a Gwlad Belg i ymweld â mynwentydd enfawr yno fel y gallent werthfawrogi maint yr aberth a wnaed. Mae realiti creulon y rhyfel hefyd wedi’i gyflwyno’n fanwl mewn arddangosfeydd, rhaglenni dogfen a ffilmiau. Mae seremonïau wedi cael eu cynnal ac mae arddangosfeydd mawr i gynrychioli’r caeau o babis wedi cael eu codi ledled y wlad.

Mae llawer o’r sylw wedi canolbwyntio ar brofiad dynion yn ystod y rhyfel; roedd llawer ohonynt prin yn fwy na bechgyn ar y pryd. Ond roedd gan y milwyr, y morwyr a’r awyrluwyr hyn famau, gwragedd, chwiorydd a merched, ac mae eu hanes hwy yn ystod y rhyfel yn bwysig iawn hefyd. Er gwaetha rhwystrau’r adeg o ran dosbarth cymdeithasol a grŵp oedran, chwaraeodd menywod eu rhan yn yr ymgyrch hefyd. Roedd rhai yn gweithio er mwyn rhyddhau’r dynion i fynd i’r gad ac eraill yn trefnu ysbytai ategol neu’n codi arian.  Yn achos nifer o fenywod, roedd eu profiad o waith yn ystod y rhyfel yn beryglus iawn. Roedd miloedd o fenywod a merched yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau ledled Cymru, gan beryglu eu hiechyd a’u bywydau wrth lenwi sieliau â ffrwydron (fel arfer â llaw). Hyfforddwyd menywod ifanc eraill o Gymru fel nyrsys, gan deithio wedyn i gadfeysydd ledled Ewrop mor bell ag Alexandria yn yr Aifft a Mesopotamia (Irac heddiw), lle roeddent yn nyrsio milwyr a oedd yn sâl ac yn marw, yn aml o dan amodau erchyll a chan beryglu eu bywydau.

Dim ond drwy ddeall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod ym mhob agwedd ar ymgyrch y rhyfel y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a’u haberth, ar faes y gad ac yma yng Nghymru.

O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918
O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918

Ar ôl y Ddarlith Goffa bydd sesiwn holi ac ateb wedi’i chadeirio gan Dr Elin Royles. Mae Dr Elin Royles yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr Adran yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2019 hefyd, gan iddi gael ei sefydlu’n fuan ar ôl diwrnod y cadoediad fel ffordd o ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ddarlith yn rhad ac am ddim i’w mynychu ond bydd angen cofrestru i gadw lle. Ewch i’r dudalen Eventbrite neu ffoniwch 0300 200 6565.

Bydd derbyniad byr a chyfle i weld y ddwy arddangosfa sy’n ategu ein Darlith Goffa:

Arddangosfa ‘Y Mudiad i roi’r Bleidlais i Fenywod yng Nghymru’ a ‘The Soldier’s Own Diary’ gan Scarlet Raven a Marc Marot.

"A Soldiers Own Diary"
“A Soldiers Own Diary”