Tag: Celf

GWLAD – deg peth y mae angen i chi eu gwybod

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

1. Beth ydyw?

I ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal gŵyl GWLAD, sef, pum niwrnod o ddigwyddiadau ym Mae Caerdydd, ac yna tair gŵyl fach yn ystod Hydref 2019.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i greu digwyddiadau sy’n cynnig rhywbeth i bawb: celf, cerddoriaeth, comedi a chwaraeon, yn ogystal â darlithoedd sy’n ysgogi’r meddwl a thrafodaethau panel ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a diwylliant.

2. Pryd mae e?

25-29 Medi 2019
Mae gennym hefyd ddwy ŵyl ranbarthol ar y gweill ar gyfer Hydref 2019 – dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael manylion.

3. Ble mae e?

Bydd digwyddiadau’r wythnos hon yn cael eu cynnal naill ai yn adeiladau’r Senedd neu’r Pierhead ym Mae Caerdydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn ne Cymru, gan bod gennym dair gŵyl fach ar y gweill ledled y wlad yn ddiweddarach eleni. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael manylion amdanynt.

4. Pwy fydd yno?

Bydd Charlotte Church a Rhys Ifans gyda ni i sgwrsio am eu gyrfaoedd, am yr hyn sy’n eu hysbrydoli ac am ddatganoli yng Nghymru.

Bydd Carole Cadwalladr, y newyddiadurwr, yn siarad am ddatgelu stori Cambridge Analytica, tra bydd Colin Charvis, Tanni Grey Thompson a’r Athro Laura McAllister, yr arwyr chwaraeon o Gymru, yn trafod sut i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arwyr chwaraeon.

5. Beth sy’n newydd?

Bydd Question Time, rhaglen rwydwaith y BBC yn cael ei darlledu o’r Senedd am y tro cyntaf erioed. Bydd gwesteion o fyd gwleidyddiaeth a’r cyfryngau yn ateb cwestiynau amserol a ofynnir gan y cyhoedd yn y gynulleidfa.
Oes gennych chi gwestiwn? Gwnewch gais drwy’r BBC i fod yn rhan o’r gynulleidfa.

Gig GWLAD
Rhywbeth arall fydd yn digwydd am y tro cyntaf, bydd y Senedd yn gartref i noson wych o gerddoriaeth i ddathlu’r sin gerddoriaeth lewyrchus ac amrywiol sydd gennym yng Nghymru.
Dewch draw ar 28 Medi i weld Geraint Jarman, Eädyth & Jukebox, Gwilym, Rachel K Collier ac Afro Cluster.

6. Dwi ddim yn hoffi gwleidyddiaeth – beth sydd ymlaen i mi?

Beth am gomedi?

Bydd Little Wander, y tîm sy’n trefnu Gŵyl Gomedi Machynlleth yn dod â rhai o’n digrifwyr Cymreig gorau i’r Senedd am y tro cyntaf.
Yn camu ar lwyfan y Senedd am y tro cyntaf bydd: Tudur Owen, Lloyd Langford, Kiri Pritchard-McLean, Mike Bubbins, Matt Rees ac Esyllt Sears.



Neu rywfaint o chwaraeon?

Os mai rygbi sy’n mynd â’ch bryd, dewch draw i’r Pierhead lle byddwn ni’n dangos gêm Cymru yn erbyn Awstralia ar sgrin fawr – byddwch hyd yn oed yn cael cynnig brechdan gig moch a phaned fel gwobr am eich ymdrech i ddod yma’n gynnar yn y bore.

Gallwch hefyd ddathlu cyflawniadau chwaraeon Cymru gyda Colin Charvis, Tanni Grey Thompson a’r Athro Laura McAllister wrth iddyn nhw drafod ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arwyr.

7. Beth am faterion cyfoes?

Ymunwch â Materion Cyhoeddus Cymru ar 29 Medi wrth iddynt edrych ar gynnydd newyddion ffug a’i effaith ar adrodd hanes gwleidyddiaeth. Mae’r panelwyr yn cynnwys Guto Harri, cyn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, Ruth Mosalski o Wales Online a James Williams, Gohebydd Gwleidyddol y BBC.

Sut fydd Brexit yn effeithio ar Gymru? Bydd Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, sef Jeremy Miles (Llafur Cymru), Leanne Wood (Plaid Cymru) a Nick Ramsey (Ceidwadwyr Cymru) yn trafod Brexit, tlodi ac awtomeiddio yng Nghymru.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn edrych ar sut mae’r cyfryngau prif ffrwd a darlledwyr yn ymdrin â materion datganoledig yng Nghymru, ar 28 Medi.

Bydd Dr Justin Lewis o Brifysgol Caerdydd yn gofyn a oes angen newyddiadurwyr arnom? yn ystod ei sesiwn ar adrodd a chyfleu newyddion yn yr oes ddigidol.

8. Beth arall sydd ymlaen?

Celf a diwylliant

Yn ystod mis Medi mae’r Senedd yn cynnal arddangosfa Nifer o Leisiau, Un Genedl, sy’n cynnwys gwaith gan Ed Brydon, Luce + Harry, Zillah Bowes, John Poutney, James Hudson a Huw Alden Davies.
Dewch draw ar 28 Medi ar gyfer digwyddiad “sgwrs” unigryw gyda rhai o’r artistiaid wrth iddynt siarad am eu dylanwadau a’u hysbrydoliaeth.


A all defnyddio fformat nofel graffig sicrhau bod hanes yn fwy hygyrch? Bydd ein sgwrs am Siartiaeth a gwrthryfel Casnewydd yn edrych ar ffyrdd newydd o gael pobl i ymgysylltu â hanes, ar 28 Medi 14.00-15.00.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol a’r hyn y gallai Cymru ei ddysgu o brofiadau cenhedloedd eraill fel Catalwnia, Iwerddon, Canada a Seland Newydd.

Gwleidyddiaeth

Bydd Adrian Masters o ITV Cymru yn cadeirio trafodaeth a fydd yn edrych yn ôl ar 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, ddydd Mercher 25 Medi.
Bydd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC a chyflwynydd ar Radio Wales hefyd yn edrych ar effaith datganoli yng Nghymru yn ystod ei sesiwn fel siaradwr gwadd, wrth i ni groesawu darlith flynyddol Patrick Hannan BBC Cymru ar 27 Medi.

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn edrych tuag at y dyfodol yn ystod ei sesiwn: Datganoli: beth yw barn pobl Cymru?

Mae’r Cynulliad bob amser wedi brolio cynrychiolaeth gref o fenywod, ac yn 2003 daeth y senedd gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau. Ymunwch â Chwarae Teg ar gyfer trafodaeth ysbrydoledig ar greu Senedd sy’n gyfartal i bob merch.

Yr economi

Cyn dechrau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru, ymunwch â Chyngor Hil Cymru i gael golwg ar yr heriau i gydraddoldeb yn economi Cymru. Mae’r panel arbenigol yn cynnwys Chantal Patel, Pennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe, Sahar Al Faifi o MEND (Ymgysylltu a Datblygu Mwslimaidd), yr Athro Parvaiz Ali, cyn bennaeth Meddygaeth Niwclear yn Ysbyty Singleton, Abertawe a’r Athro Emmanuel Ogbonna o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Bydd Sefydliad Materion Cymru yn edrych ar yr economi sylfaen – beth ydyw a pha wahaniaeth y gall ei wneud i gymunedau Cymru?

9. Beth yw cost tocynnau?

Mae pob tocyn i ddigwyddiadau GWLAD am ddim. Ni ellir eu hailgyhoeddi na’u gwerthu.

10. Beth sy’n digwydd os nad oes gen i docyn?

Mae gennym nifer gyfyngedig iawn o docynnau ychwanegol, a fydd ar gael yr wythnos hon, ar gyfer digwyddiadau poblogaidd iawn.
Bydd nifer o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu ffrydio’n fyw ar Senedd TV ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Edrychwch ar ein sianeli Twitter a Facebook i gael rhagor o fanylion am docynnau a darllediadau.

Llond Gwlad o Dalent Greadigol

Steve Knapik MBE sy’n sôn am ei arddangosfa, ‘Cerdyn Post o Gymru’, sy’n agor yn y Senedd ar 27 Gorffennaf 2019.

Rwy’n artist, ond rwyf hefyd yn angerddol am fy ngwaith gyda’r elusen i blant, Blue Balloon. Drwy’r elusen hon, mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i wella bywydau plant yng Nghymru.  Ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i am helpu Blue Balloon drwy drefnu prosiect celf enfawr i greu tirlun mawr, mawr iawn; mor fawr, a dweud y gwir, roeddwn i’n gobeithio torri Record Guinness y Byd am y tirlun parhaus hiraf erioed. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n llawer o waith, felly gofynnais am help gan lawer o wahanol bobl, gan gynnwys disgyblion ysgolion cynradd, grwpiau sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia, a disgyblion ysgolion sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd hi’n bwysig i mi gynnwys amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod y prosiect yn cynnwys ac yn croesawu pawb.

Gwnaethom ni weithio’n galed am bum mlynedd. Roedd trefnu popeth yn dipyn o waith, ond roedd e’n werth chweil i weld y cyffro a’r mwynhad ar wynebau pawb. Er mwyn torri Record Guinness y Byd, roedd angen o leiaf 30,000 o ddarluniadau arnom, felly roedd llawer o waith i’w wneud! Roedd llinellau ar bob darlun yn dangos ble roedd y mynyddoedd a’r awyr, ac roedd hyn yn golygu bod modd cyfuno’r lluniau i greu un gwaith celf mawr. Gwelais lawer o dalent greadigol a ffyrdd llawn dychymyg o feddwl am ein tirweddau. Er enghraifft, defnyddiodd rhai o’r plant ysgol gynradd flociau o streipiau lliw i gynrychioli caeau.

Roedd pawb yn gyffrous am ein hymdrech i dorri Record y Byd. Roedd hyd yn oed Stadiwm Liberty yn Abertawe yn barod i ni arddangos dros bum milltir o ddarluniadau gwreiddiol wedi’u cyfuno…

Ac yna, newyddion gwael! Gwnaethom ni glywed nad oedd modd cofrestru ein prosiect fel record byd. Roeddwn i’n drist ac yn siomedig iawn. Beth oeddwn i’n mynd i’w wneud â’r holl ddarluniau gwych? Ond roeddwn i’n benderfynol na fyddwn i’n cael fy nhrechu. Roedd y gweithiau celf anhygoel hyn yn haeddu cael eu harddangos. Roedd angen adeilad eiconig a phwysig arnaf i arddangos y dalent a’r creadigrwydd a welais gan blant ledled Cymru.

Cysylltais â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chwrdd ag Alice sy’n guradur yno. Mae hi’n gweithio gydag artistiaid i drefnu arddangosfeydd. Pa le gwell i arddangos y gweithiau celf gwych hyn na’r Senedd, cartref democratiaeth yng Nghymru, lle mae pobl yn gwneud penderfyniadau pwysig am yr hyn sy’n digwydd yn ein gwlad? Cwrddais i ag Alice a buom yn siarad am greu arddangosfa o’r tirluniau yn y Senedd. Fe dreuliom ni lawer o amser yn cynllunio, ac o’r diwedd, roeddem ni’n barod i roi’r arddangosfa at ei gilydd er mwyn i bawb ei mwynhau.

Rwy’n teimlo mai’r Senedd fydd y lle perffaith i ddangos ein gwaith celf, ac rwy’n edrych ymlaen at gael hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan, drwy annog ymwelwyr â’r Senedd i wneud cardiau post i’w hanfon, ac i ddathlu llawer o bethau cyffrous sy’n digwydd yn y Cynulliad eleni…

Ugainmlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd yn gymaint o anrhydedd cael fy newis i fod yn rhan o’r dathliad pwysig hwn. Crëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 mlynedd yn ôl, ac mae’r adeilad hardd hwn yn lle gwych ar gyfer dathliad mawr. Mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd, ac rwy’n falch iawn i’ch gwahodd CHI, y cyhoedd, i fentro mewn a chymryd rhan wrth greu eich tirlun unigryw eich hun. Rwy’n gobeithio y cewch chi gymaint o hwyl â dros 30,000 o blant ac oedolion o’ch blaen wrth gymryd rhan yn ein prosiect.

Senedd Ieuenctid Cymru

Ym mis Chwefror eleni, cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys 60 o bobl ifanc 11-18 oed, am y tro cyntaf. Rydym ni am helpu i ddathlu’r digwyddiad gwych hwn a sefyll ochr yn ochr â’r 60 aelod sy’n cynrychioli pob rhan o Gymru. Mae gan bob aelod ddiddordeb mawr mewn elfennau o fywyd sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Mae mor bwysig i’n pobl ifanc gael llais, ac mae’r Senedd Ieuenctid yn gweithio’n galed i sicrhau bod y llais hwnnw’n cael ei glywed. Fe wnaeth rhai aelodau o’r Senedd Ieuenctid hyd yn oed gymryd rhan yn fy mhrosiect pan oedden nhw yn yr ysgol!

Arwyddair yr elusen i blant, Blue Balloon, yw ‘Gobaith heddiw am well yfory’, ac mewn sawl ffordd, mae’n berthnasol i’r bobl ifanc hyn sy’n cynrychioli lleisiau holl bobl ifanc Cymru ac yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Y celfyddydau fel rhan o’n Cymreictod

Mae gan Gymru fel cenedl ymdeimlad cryf o berthyn a hunaniaeth. Mae hyn i’w weld mewn sawl ffordd, yn enwedig drwy’r celfyddydau. Rydym ni’n dathlu Cymru fel gwlad y gân, felly mae cerddoriaeth yn rhan gref o’n treftadaeth; ond mae barddoniaeth, drama a’r celfyddydau gweledol yn bwysig iawn hefyd. Gall pob math o bethau ein hysbrydoli. Mae artistiaid wedi eu swyno gan dirweddau Cymru ers canrifoedd: y mynyddoedd, y môr a’r awyr.

Mae’n bwysig i ni edrych yn fanwl ar ein hamgylchedd agos, ac wrth siarad â phobl ifanc a phobl nad oedden nhw mor ifanc yn ystod y prosiect, gwnaethom drafod llawer o bethau sy’n effeithio ar ble rydym ni’n byw. Gall yr amgylchedd o’n cwmpas helpu i ddechrau trafodaeth, a gwnaethom ddangos ein teimladau am ein hamgylchedd drwy ein tirluniau. Rhaid i ni beidio byth â cholli golwg ar bwysigrwydd y celfyddydau mewn cymdeithas a sut gallan nhw fod yn bositif iawn i’n llesiant a’n synnwyr o bwy ydym ni.