Tag: Caerdydd

Yn falch o fod yn gorymdeithio gyda’r Cynulliad yn Pride Cymru

gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Ffotograff o Claire Clancy yn gwisgo coron o flodau’r enfys i baratoi ar gyfer Pride Cymru
Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru

Ddydd Sadwrn, byddaf yn ymuno â chyd-gyfeillion ac aelodau o OUT-NAW, ein rhwydwaith LGBT yn y gweithle, wrth orymdeithio yng ngorymdaith Pride Cymru drwy Gaerdydd. Er ein bod yn mynychu Pride ers blynyddoedd lawer, dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad fod yn rhan o’r orymdaith ac rwyf wrth fy modd o gael ymuno â chydweithwyr i hyrwyddo ac annog cydraddoldeb ym maes LGBT.

Credaf ei bod yn bwysig i’r Cynulliad gael ei gynrychioli mewn digwyddiadau fel hyn er mwyn dangos ein bod wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cynhwysol. Rydym yn falch iawn o’n llwyddiant ym Mynegai Gweithleoedd Stonewall, lle’r ydym yn drydydd ar y rhestr o sefydliadau mwyaf cynhwysol y DU o safbwynt LGBT.

Bydd aelodau eraill o’r Bwrdd Rheoli, yn ogystal â staff o bob rhan o’r sefydliad, yn ymuno â mi yn yr orymdaith.

Os ydych yng nghanol y ddinas ond na allwch ymuno â ni ar gyfer yr orymdaith, cofiwch godi llaw i’n cefnogi. Hefyd, os ydych yn mynd i’r digwyddiad Pride cofiwch ymweld â bws allgymorth y Cynulliad.

Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i dîm rygbi’r Cynulliad y penwythnos hwn, yn y pencampwriaeth 7 bob ochr cynhwysol, Enfys 7s. Rwy’n siŵr y byddent yn ddiolchgar am eich cefnogaeth y penwythnos hwn.

Mae datganiad i’r wasg y Llywydd yn rhoi mwy o wybodaeth am ein dathliadau ar gyfer Pride Cymru.

Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Digwyddiad Cyflwyno Rhanddeiliaid

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid.

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor.

I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio.

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’.

Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor.

Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor.

Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.

Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad.

Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddESS

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy’n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed.

Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw.

Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma.

Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n nodi sut y bydd yn helpu’r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod.

BBC NEWS#

ITV NEWS

GUARDIAN

Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.

Buddsoddi ar y cyd a sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus yng Nghymru

Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Wrth ddisgwyl cael eu gweithredu’n llawn erbyn 2017, roedd y Pwyllgor Menter a Busnes am ddarganfod sut byddai hyn yn effeithio busnesau Cymru a darparwyr hyfforddiant. Byddai’r fframwaith newydd yn helpu cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru’n datblygu mantais gystadleuol wrth sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.

Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.

Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.

Dylan's, Porthaethwy - Ynys Môn
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.

Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am

Blog Gwedd: Digwyddiad Ymgynghori i Graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Fy enw i ydy Claire Blakeway a fi ydy Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ddydd Mercher 18 Mawrth, cymerais ran mewn digwyddiad ymgynghori i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd hyn yn golygu bod Aelodau’r Cynulliad yn siarad ag amrywiaeth eang o denantiaid am eu profiadau yn rhentu eiddo gan y cyngor, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat. Cafodd tenantiaid o wahanol sectorau rhentu eu rhoi mewn grwpiau ffocws o dan arweiniad Aelodau’r Cynulliad. Yn fy grŵp ffocws i, roeddwn i’n cynrychioli barn myfyrwyr ynglŷn â tenantiaeth.

Ar y cyfan, roeddwn yn cytuno a syniadau’r Bil Cartrefi newydd, ond fod angen rhagor o fanylion ynghylch cytundebau atgyweirio. Er enghraifft, mae angen amserlen fanwl yn y cytundeb sy’n amlinellu pa mor gyflym y bydd landlordiaid yn ymateb i gydnabod ac anelu at gyflawni atgyweiriad y mae tenant yn tynnu sylw ato. Dwi’n teimlo y gall tenantiaid aros yn hir iawn ar hyn o bryd cyn i atgyweiriadau gael eu gwneud, ac maent, felly, yn talu rhent ar eiddo nad yw o’r safon y gwnaethant dalu rhent amdano’n wreiddiol. Drwy weithredu cytundeb atgywirio gydag amserlen benodol, bydd y landlord a’r tenant yn gwybod yn union beth fydd y disgwyliadau arnynt o ran atgywiriadau, a gall y landlord weithio tuag at gyflawni’r atgyweiriad o fewn amser y cytunwyd arno, a bodloni disgywliadau eu tenant.

Dyma gyfweliad a wnaeth Claire ar ôl y digwyddiad:

Siaradais gyda’r grwp ffocws hefyd am fy syniadau ynghylch sut mae angen gweithredu cosbau gadarnach yn erbyn landlordiaid a thenantiaid sy’n torri eu contractau. Y mwyaf llym yw’r cosbau, y mwyaf tebygol yw y bydd y contractau yn cael eu cadw a’u parchu.

Wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn y grwpiau ffocws, ac roeddwn wrth fy modd clywed Aelod oedd â chymaint o ddiddordeb mewn clywed barn myfyrwyr. Dwi’n edrych ymlaen at pan gaiff y Bil Cartrefi ei ryddhau, a gobeithio y bydd fy marn yn cael ei hystyried. Diolch i Gynulliad Cymru am y gwahoddiad!

Y cam nesaf fydd i’r Pwyllgor glywed barn pobl eraill am y Bil, mewn cyfarfodydd ffurfiol yn y Senedd. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Mercher, pan fydd y Pwyllgor yn siarad â Lesley Griffiths AC, sef Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Bil. Gallwch wylio’r cyfarfod hwn yn fyw ar Senedd TV.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod yma.

Gweithdy UNSAIN

Ddydd Sadwrn 3 Tachwedd, trefnodd Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth De Cymru weithdy ar gyfer aelodau UNSAIN. Cymerodd yr aelodau ran mewn gweithgareddau a oedd â’r nod o egluro’r hyn sy’n dod o dan reolaeth awdurdodau lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a San Steffan. Cawsant hefyd gyflwyniad ar hanes y Cynulliad, eglurhad o bwy yw eu Haelodau a sut y gallant ddod ynghlwm â gwaith y Cynulliad a chodi materion.

Ar ôl y sesiwn, dywedodd Ryan Williams, Trefnydd Ardal UNSAIN: “Roedd aelodau ifanc UNSAIN ledled Cymru’n falch o gael y cyfle i allu ymgysylltu a chael gwybodaeth am eu Llywodraeth a’u Cynulliad Cenedlaethol a’r ffordd y gall datganoli eu helpu yn eu gwaith a sut y mae’n chwarae rhan yn ein bywydau bob dydd. Roeddent yn teimlo bod y gweithdy’n ddiddorol, yn addysgiadol ac yn hawdd i’w ddeall a chawsant hwyl ar yr un pryd. Mae aelodau ifanc UNSAIN yng Nghymru’n edrych ymlaen at roi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith yn y flwyddyn newydd.”

Mae Tîm Allgymorth y Cynulliad yn darparu’r gwasanaeth hwn ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth De Cymru ar 02920 898 145 / kevin.davies2@cymru.gov.uk, neu Lowri Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru ar 01492 523 220 / lowri.williams@cymru.gov.uk.