Tag: Brexit

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach – Digwyddiad i randdeiliaid

Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf.

IMG_2254

Beth ddigwyddodd?

Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod â rhanddeiliaid sut y mae’r Pwyllgor wedi darparu o ran ei raglen waith, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu pethau, yn enwedig:

  • Beth oedd uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Pwyllgor? Beth y gallai’r Pwyllgor fod wedi’i wneud yn well?
  • Beth yw’r tueddiadau neu’r digwyddiadau allweddol dros y 12 i 18 mis nesaf?
  • A yw’r amseru yn iawn ac a oes unrhyw beth ar goll yn syniadau cychwynnol y Pwyllgor am waith yn y dyfodol?

Y themâu allweddol a oedd yn dod i’r amlwg o lawer o’r trafodaethau oedd effaith gadael yr UE a phwysigrwydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sydd ar fin cael ei chyhoeddi.

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:

“Flwyddyn ar ôl i ni wahodd amrywiaeth o randdeiliaid gyntaf i roi gwybod i ni am yr hyn y dylem ei wneud fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i glywed beth oedd eu barn am yr hyn a wnaed gennym. Ac i weld beth oedd eu barn am rai o’n syniadau sy’n datblygu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

“Ar ôl y trafodaethau heddiw, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn i ddatblygu rhaglen waith sy’n ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar y tair prif elfen o’n cylch gwaith, sef yr economi, seilwaith a sgiliau.”

IMG_2255

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y tîm clercio yn defnyddio’r syniadau a’r sylwadau a gafwyd gan randdeiliaid i lywio papur, a fydd yn nodi blaenoriaethau ac ymchwiliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried ym mis Medi.

 

Brexit yng Nghymru – Erthygl 50 a’r Uchel Lys: Beth mae’n ei olygu?

article-50-2-cy

Ar 3 Tachwedd 2016, penderfynodd Uchel Lys Lloegr a Chymru nad oes pŵer gan Brif Weinidog a Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad y Senedd.

Beth yw pwerau uchelfraint?

Mae sefydliadau’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor o “bwerau ar wahân“: y weithrediaeth, y ddeddfwrfa a’r farnwriaeth, ac maent yn gweithredu ar yr egwyddor honno.

  • Mae’r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a’r Llywodraeth (sy’n cynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion y Cabinet). Eu rôl yw cynnig cyfreithiau a gwneud polisïau;
  • Mae’r ddeddfwrfa yn cynnwys y Senedd, a’r holl Aelodau Seneddol nad ydynt yn rhan o Lywodraeth y DU. Eu rôl yw sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth y DU er budd pennaf y DU a’i phobl; ac
  • Mae’r farnwriaeth yn cynnwys yr holl farnwyr yn llysoedd y gyfraith, gan gynnwys llysoedd ynadon a thribiwnlysoedd. Penodir yr Uwch Farnwyr gan y Goron (neu’r Frenhines).

Mae’r egwyddor hon o “bwerau ar wahân” yn golygu y dylai ein Llywodraeth, ein Senedd a’n Barnwyr fod ar wahân o ran swyddogaethau.

Mae’r egwyddor yn awgrymu ei bod yn bwysig i’r holl bwerau hyn fod ar wahân rhag bod un o’r sefydliadau yn cael mwy o reolaeth dros y lleill – mae’n golygu dwyn i gyfrif a chadw cydbwysedd.

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, penderfynodd Llywodraeth y DU y byddai’n dechrau’r broses drwy ddefnyddio’i phŵer uchelfraint, a olygai na fyddai angen ymgynghori â’r Senedd yn y broses o wneud penderfyniadau. Roedd rhai yn dadlau bod canlyniad y refferendwm yn ddigon.

Pam oedd yr Uchel Lys yn rhan o hyn?  

Teimlai rhai pobl fod Llywodraeth y DU, drwy beidio ag ymgynghori â’r Senedd a chael Deddf Seneddol, yn gweithredu y tu allan i’w phwerau ac nad oedd yn rhoi cyfle i’r Senedd graffu ar ei dull o weithredu.

Gofynnwyd i’r Uchel Lys benderfynu, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol y DU, a ddylid caniatáu i’r Llywodraeth sbarduno Erthygl 50 fel hyn heb gyfeirio’r mater at y Senedd.

Heddiw, dyfarnodd yr Uchel Lys y byddai’n anghyfreithlon i Lywodraeth y DU sbarduno Erthygl 50 heb Ddeddf Seneddol. Gallwch ddarllen y dyfarniad llawn yma.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys drwy fynd â’r mater i’r Goruchaf Lys y mis nesaf.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, beth oedd sefyllfa Llywodraeth Cymru:

“Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson gydol yr amser – rydym yn derbyn penderfyniad y bobl ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.”

“Rydym yn gweithio’n ddiwyd i gael y telerau gorau posibl i Gymru ar gyfer gadael yr UE. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod pobl y pedair cenedl yn bwrw pleidlais er mwyn cryfhau sefyllfa negodi’r DU.”

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn edrych ar y goblygiadau i Gymru pan fydd y DU yn gadael yr UE. O fodelau masnach, y gyfraith ryngwladol a’r goblygiadau i amaeth ac ymchwil a buddsoddiad, mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed barn arbenigwyr i’w helpu i ddeall y materion y gallai Cymru eu hwynebu.

Bellach, mae’r Pwyllgor am glywed eich barn ynghylch beth ddylai fod y brif flaenoriaeth i Gymru cyn y broses ffurfiol o adael yr UE. Gallwch gyflwyno eich barn yma neu gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddMADY

Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

Wythnos diwethaf, canolbwyntiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar Amaethyddiaeth a Physgodfeydd a’r goblygiadau i Gymru wrth gefn penderfyniad y DU i  ymadael â’r UE.

Gallwch wylio’r sesiwn cyfan ar  Senedd.TV.

Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddwyd yr Aelodau banel o arbenigwyr i drafod eu barn ar y meysydd i’w blaenoriaethau yn y sectorau amaeth a physgodfeydd yn y negodi wrth i’r DU ymadael â’r UE, a’r heriau ar ôl i hyn ddigwydd.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Y prif faterion i Amaethyddiaeth

sheepview

Caiff y polisïau sy’n effeithio ar ffermio yng Nghymru a’r gadwyn cyflenwi bwyd eu pennu i raddau helaeth gan yr UE drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), deddfwriaeth diogelwch bwyd a lles anifeiliaid a hefyd yn anuniongyrchol gan reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Y PAC yw mecanwaith yr UE ar gyfer darparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr, ar gyfer diogelu cefn gwlad ac i gefnogi datblygiad ardaloedd gwledig. Mae’r PAC yn rhedeg am gyfnod o saith mlynedd. O dan rownd bresennol PAC, 2014-2020, bydd Cymru’n derbyn tua £322 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €355 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.

Llywodraeth Cymru sy’n uniongyrchol gyfrifol am weithredu’r PAC yng Nghymru, ac mae’n ofynnol iddi gydymffurfio â gwahanol Reoliadau’r UE sy’n gosod fframwaith cyfreithiol y polisi. Yn achos ffermwyr sy’n gymwys ar gyfer y PAC, mae hyn yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r taliadau uniongyrchol a gânt.

Sut fyddai’r DU yn tynnu allan o’r PAC? A fyddai’n cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser neu’n dod i ben yn syth ar  ôl i’r DU adael?

Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn dibynnu’n drwm ar y cymorthdaliadau presennol y mae’n ei dderbyn o dan y PAC i wneud elw. Mae hyn yn arbennig o wir i ffermydd ucheldir. Croesawyd cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn parchu’r lefelau presennol o daliadau uniongyrchol i ffermwyr tan 2020 gan yr undebau ffermio.

Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am eglurder ynghylch sut mae unrhyw gronfa ddosbarthu ar ôl ymadael â’r UE, sydd yno’n cael ei ddyrenni i Lywodraeth Cymru ac wedyn gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr Cymru. Yn ogystal, ceisiwyd eglurhad ynghylch y lefelau a’r mathau o unrhyw arian sydd ar gael ar ôl 2020.

Continue reading “Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd”

Brexit yng Nghymru – Cyllid yr UE, Ymchwil a Buddsoddi

Wythnos yma, canolbwytiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar gyllid yr UE, ymchwil a buddosddi a’r goblygiadau i Gymru.

Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV.

Amcanion y sesiwn oedd ystyried:

  • y goblygiadau i Gymru wrth i’r DU adael yr UE, o safbwynt y gallu i fanteisio ar nifer o ffynonellau cyllid allweddol yr UE;
  • yr effaith bosibl ar addysg uwch yng Nghymru;
  • deall y goblygiadau a’r effeithiau posibl ar y cyfleoedd i fanteisio ar gyllid ar gyfer datblygiadau seilwaith allweddol yng Nghymru.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Diweddariad

Ar 2 Hydref, rhoddodd Prif Weinidog y DU araith ar Brexit yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol a chwmpasodd nifer o faterion:

  • Erthygl 50: bydd Llywodraeth y DU yn ysgogi hyn dim hwyrach na diwedd mis Mawrth 2017. Ni fydd y Llywodraeth yn ymgynghori gyda Senedd y DU wrth wneud hyn, gan fynnu hawl yr Uchelfraint Frenhinol, ac y bydd Llywodraeth y DU yn amddiffyn ei sefyllfa yn y llysoedd.
  • Y Bil Diddymu: i’w gyflwyno yn araith y Frenhines, bydd y Bil yn dileu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 o’r llyfr statud a chynnwys pob cyfraith yr UE sydd eisoes yn bodoli mewn i gyfraith Prydain.
  • Rheolaeth dros fewnfudo: bydd y DU yn penderfynu rheolau ei hun ar fewnfudo ar ymadael â’r UE.
  • Hawliau gweithwyr: Ymrwymodd y Prif Weinidog i warchod hawliau gweithwyr presennol swydd wedi’u hymgorffori o dan gyfraith yr UE ac i wella’r rhain ymhellach.
  • Dim eithriadau, un Deyrnas Unedig: bydd trafodaethau Brexit yn cael ei roi ar waith fel y DU ac fel un Deyrnas Unedig – ni fydd unrhyw eithriad i Brexit a dywedodd y Prif Weinidog ‘Fydda i byth yn caniatáu cenedlaetholwyr rhwygol i danseilio ein Hundeb gwerthfawr rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig”.
  • Dim atgynhyrchu modelau: Ni fydd trafodaethau gyda’r UE am gopïo model – Norwy neu’r Swistir. Bydd y ffocws ar fasnach rydd, mewn nwyddau a gwasanaethau wedi’u hanelu at roi’r rhyddid mwyaf i gwmnïau Prydeinig i fasnachu gydag a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un fath yn y DU.

 

Cyllid yr UE

Mae Cymru yn parhau, ac yn gymwys i gael cymryd rhan yn rhaglenni’r UE ac ariannu nes bod y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael swm sylweddol o arian gan yr UE.

Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru ymchwil, cyn y refferendwm ar yr UE, a oedd yn awgrymu bod Cymru – yn wahanol i’r DU cyfan – yn cael budd net o gronfeydd yr UE.

Dyma rhai o’r cronfeydd perthnasol i arian yr UE i Gymru: 

Cronfeydd Strwythurol: o dan rownd bresennol 2014-2020, dyrannwyd bron £2 biliwn i Gymru gan yr UE – gydag £1.6 biliwn i Orllewin Cymru a’r Cymoedd a thros £325 miliwn i Ddwyrain Cymru.

Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: o dan y cylch 2014-2020, mae Cymru’n derbyn tua £250 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €655 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.

Horizon 2020: dyma raglen yr UE i gefnogi ymchwil a datblygu ac arloesi. Hyd at fis Mai 2016, roedd Cymru wedi sicrhau tua €45 miliwn o gyllid Horizon 2020 ar gyfer 95 o brosiectau, gan gynnwys tua €10 miliwn ar gyfer Menter COFUND, gydag addysg uwch Cymru yn cyfrif am tua €28.5 miliwn o’r cyfanswm hwn.

Erasmus+: rhaglen yr UE i gefnogi symudedd ym maes addysg a hyfforddiant. Mae hyn yncynnwys symudedd mewn addysg uwch ar gyfer myfyrwyr a staff, sy’n flaenoriaeth uchel i

brifysgolion Cymru. Mae hefyd yn cynnwys symudedd mewn mathau eraill o addysg: addysg bellach, hyfforddiant galwedigaethol ac addysg ysgol, yn ogystal ag ymgysylltiad â phobl ifanc. Mae’r rhain yn feysydd y mae Cymru yn draddodiadol wedi cymryd rhan weithgar ynddynt.

Cyfleoedd i fanteisio ar gyllid yr UE ar ôl gadael

O gofio bod gwledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau o’r UE yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni’r UE, bydd diddordeb cryf yn y trafodaethau mewn ystyried (i) a fydd Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i’r gallu i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni’r UE ar ôl gadael a (ii) os ydyw, pa feysydd fydd ar ei rhestr flaenoriaeth.

Dylid rhoi ystyriaeth i rôl Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad o ran nodi pa raglenni fyddai o’r diddordeb mwyaf i randdeiliaid yng Nghymru a lobïo Llywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i’r rhain yn ei thrafodaethau.

Yr hyn y gallwn fod yn eithaf sicr yn ei gylch yw na fydd Cymru yn gallu cael cymorth gan raglenni’r Cronfeydd Strwythurol a reolir yn rhanbarthol na thrwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (gan gynnwys, wrth gwrs, y Rhaglen Datblygu Gwledig).

 

Llywodraeth y DU: Diweddariad gwarant cyllid gan yr UE

Ar 3 Hydref cyhoeddodd Canghellor y DU, Philip Hammond AS gwarant Llywodraeth y DU wedi’i ddiweddaru i gefnogi prosiectau sy’n derbyn cyllid o dan y cylch cyfredol o raglenni’r UE.

Roedd datganiad Hydref yn ymestyn y terfyn amser gwreiddiol i ‘y pwynt y bydd y DU yn gadael yr UE’, yn dilyn pwysau gan y Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ar gyfer ymestyn y dyddiad cau.

Mae datganiad yr Hydref yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU:

  • gwarantu cyllid yr UE ar gyfer cronfeydd strwythurol a phrosiectau buddsoddiad, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd, wedi’i lofnodi ar ôl y datganiad yr hydref a fydd yn parhau ar ôl inni adael yr UE.
  • bydd amodau hyn yn cael eu cymhwyso yn y fath modd nad ydynt yn amharu ar brosiectau sydd wedi’u hymrwymo, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd i ddechrau ym mis Ionawr.
  • lle mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno i brosiectau gronfa strwythurol a buddsoddi o dan eu dyraniad cyllideb yr UE presennol cyn Brexit, bydd y Llywodraeth yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.

Mae’r cyfeiriadau penodol at gynlluniau amaeth-amgylchedd sydd yn dechrau ym mis Ionawr yn lleddfu pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru am yr ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y rhain.

Addysg Uwch

Ceir cefnogaeth gyson a chryf gan sector addysg uwch Cymru dros barhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus +. Gwelir y ddwy raglen yn elfennau pwysig o agwedd ryngwladol ac allblyg y sector. Hefyd, roedd gallu academyddion i symud swyddi o fewn yr UE yn rhydd gwerthfawr iawn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sector addysg uwch Cymru wedi nodi bod diffyg ariannu capasiti ymchwil yng Nghymru yn rhwystr sylweddol i lwyddiant Cymru yn Horizon 2020. Yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Arweinyddiaeth adroddiad sy’n nodi prinder o oddeutu 600 o ymchwilwyr yng Nghymru.

Mae addysg uwch Cymru wedi tanlinellu pwysigrwydd cyllid yr UE i’r sector, gyda Chronfeydd Strwythurol yr UE yn cael eu gweld fel ffynhonnell bwysig i helpu i ‘lenwi’ y bwlch cyllido, a galluogi buddsoddiadau allweddol na fyddai wedi digwydd fel arall. Mae Campws Gwyddoniaeth Bae Abertawe yn enghraifft dda o hyn, gan gyfuno Cronfeydd Strwythurol yr UE gyda chyllid Banc Buddsoddi Ewrop.

Myfyrwyr o’r UE ac addysg uwch Cymru

Dengys data yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) fod 7,095 o fyfyrwyr o’r UE wedi’u cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2013/14 (cynnydd o 4% o’i gymharu â 2012/13). Roedd y rhan fwyaf yn dod o’r Almaen (18%), Ffrainc (13%), y DU yn hanu o’r UE (11%), Sbaen ac Iwerddon (8% yr un), Gwlad Groeg (7%), Gwlad Pwyl (6%), yr Eidal a Bwlgaria (4% yr un), a Rwmania (3%).

O ran y pynciau mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yr UE yng Nghymru, roedd y cofrestriadau fel a ganlyn:

  • Busnes a rheoli – 1,105
  • Dyniaethau – 1,691
  • Peirianneg a thechnoleg – 988
  • Gwyddoniaeth – 926
  • Gwyddorau cymdeithasol – 688

Amcangyfrifir bod myfyrwyr yr UE yn darparu o leiaf £24m i brifysgolion Cymru ar hyn o bryd, ac mai’r effaith gyffredinol i Gymru y gellir ei phriodoli i incwm o fyfyrwyr yr UE oedd £47m. Ar gyfartaledd, mae myfyriwr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn cynhyrchu £19,700 ar gyfer Cymru, £9,800 o werth ychwanegol gros Cymru a 0.19 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Hefyd, ceir effaith ychwanegol yng ngweddill y DU o fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru. Mae hwn yn debygol o fod yn amcangyfrif ceidwadol yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Buddsoddiad yr UE yng Nghymru

Banc Buddsoddi Ewrop yw banc yr Undeb Ewropeaidd, sy’n eiddo i’r Aelod-wladwriaethau ac yn cynrychioli eu buddiannau. Mae’r DU yn meddu ar gyfran o 16 y cant: yr un faint â’r Eidal, Ffrainc a’r Almaen. Er bod Banc Buddsoddi Ewrop yn buddsoddi y tu allan i’r UE, mae 90 y cant o fenthyciadau yn digwydd o fewn yr Undeb.

Dros y degawd blaenorol, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi bron £2 biliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn dweud ei fod yn benthyca mwy nag erioed i’r DU ac yn cefnogi ystod fwy amrywiol o brosiectau na llawer o wledydd eraill yr UE.

Yn dilyn ymadawiad o’r UE, ni fyddai rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop a gytunwyd eisoes yn y DU yn newid. Fodd bynnag, mae Erthygl 308 TFEU yn nodi “Members of the European Investment Bank “shall” (i.e. must) be Member States”. Felly, heb newid y Cytuniad, byddai gadael yr UE yn golygu na fyddai’r DU bellach yn aelod o Fanc Buddsoddi Ewrop.

Mae’r Banc yn ffynhonnell arall o gyllid y mae sefydliadau yng Nghymru yn gymwys i wneud cais iddi am gymorth. Roedd nifer o brosiectau yn llwyddiannus yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys, Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd y Bae ym Mhrifysgol Abertawe, a agorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2015, ac a gafodd fuddsoddiad o €60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Yn ystod 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru nifer o syniadau am brosiectau i gael cymorth o dan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strwythurol a reolir gan yr EIB, gan gynnwys prosiect Metro De Cymru.

Cyllid yr UE yng Nghymru yn dilyn gadael yr UE

Nid yw o reidrwydd yn wir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu na fyddai’r DU bellach yn cyfrannu at gyllideb yr UE, nac yn derbyn arian ohoni. Fel y trafodwyd yn y blogiau blaenorol ar fodelau amgen i aelodaeth o’r UE, mae gwledydd y tu allan i’r UE sydd ar hyn o bryd â mynediad helaeth at y Farchnad Sengl (fel Norwy a’r Swistir) yn cyfrannu at gyllideb yr UE ac yn cyfranogi i raddau yn ffrydiau cyllid yr UE.

Mae Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn sicrhau cyfranogiad Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy mewn nifer o raglenni eraill yr UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ymchwil ac arloesi) ac 40 Erasmus+ (addysg a hyfforddiant). Er nad yw aelodau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyffredinol yn gymwys ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae Norwy a Liechtenstein yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Nid oes unrhyw wledydd o’r tu allan i’r UE yn rhan o’r PAC ar hyn o bryd.

Yn y bôn, bydd mynediad y DU i raglenni ariannu’r UE yn y dyfodol – yn y cyfnod rhaglennu presennol (2014-2020) a thu hwnt – yn amodol ar drafodaethau yn ystod y broses i dynnu allan.

Camau nesaf

Wythnos nesa ar 10 Hydref, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y goblygiadau i Gymru o ran amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig hefyd yn edrych ar y goblygiadau hyn. Mae modd i chi rannu eich syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r materion hyn ar ein tudalen dialogue.

Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ddarllen ein blogiau ar fasnach a’r gyfraith ryngwladol a’r datblygiadau diweddaraf.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru – Datblygiadau yng Nghymru

Yn dilyn pleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru.

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael ac yn y perthnasoedd domestig, Ewropeaidd a rhyngwladol sy’n dilyn. Mae o hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd ac yn nhrefniadau gwledydd y Deyrnas Unedig. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru.

brexit-cy

Y stori hyd yma

Ymddangosodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC o flaen y Pwyllgor ar 12 Medi 2016. Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV neu ddarllen trawsgrifiad o’r sesiwn. Yma, rhoddodd diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru ar gamau ers canlyniad y refferendwm, gan amlinellu chwe blaenoriaeth yn sgil yr amgylchiadau newydd i amddiffyn buddiannau Cymru, sef:

  • i amddiffyn swyddi yng Nghymru a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd;
  • i chwarae rhan llawn mewn trafodaethau am amseriad a thelerau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd;
  • i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl;
  • i gynnal trafodaethau ar barhau i gymryd rhan ym mhrif raglenni’r Undeb Ewropeaidd fel y PAC a’r Cronfeydd Strwythurol, yn unol â’r telerau presennol, hyd at ddiwedd 2020 tra bod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir;
  • mae Cymru’n elwa ar gannoedd o filiynau o bunnoedd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae achos aruthrol nawr dros ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol ar unwaith gan ystyried yr anghenion sy’n codi yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd;
  • mae gadael yr Unded Ewropeaidd yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r Deyrnas Unedig ac mae gan hynny oblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol i’r setliad datganoli. Rhaid i’r berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr gael ei gosod ar sylfaen gwbl wahanol.

Ailadroddodd ei awydd i weld safbwynt negodi’r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar ddull pedair cenedl, sy’n cynnwys yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr, ac un o linellau coch Llywodraeth Cymru byddai mynediad heb dariff i’r Farchnad Sengl.

Dywedodd nad oedd aelodaeth yn opsiwn gan fod pleidlais refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod hyn, ond ei fod yn hyblyg ar ba fodel amgen byddai’n cael ei ddilyn, ar yr amod bod o’n darparu sicrwydd mynediad i gynifer o sectorau ag y bo modd i’r Farchnad Ewropeaidd.

Datblygiadau yng Nghymru

Wythnos yma, mae Aelodau’r Pwyllgor wedi bod yn ymweld â Brwsel am gyfres o gyfarfodydd i helpu llywio eu gwaith ar y goblygiadau i Gymru ac yn benodol, yr opsiynau modelau amgen i aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd gydag Aelodau Senedd Ewrop, teithiau masnach Canada a’r Swistir i’r Undeb Ewropeaidd, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i’r Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd a swyddogion o Dŷ Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Beth yw’r Modelau amgen i aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd?

Mae yna nifer o fodelau amgen y gall y DU eu hystyried ar gyfer ei pherthynas yn y dyfodol â’r UE.

Model Norwy

Mae Norwy yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), ond nid yn yr UE. Mae’r AEE yn farchnad fewnol sy’n darparu ar gyfer symud rhydd o ran personau, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf, ac yn cynnwys y 28 o Aelod-wladwriaethau’r UE yn ogystal â Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Dyma’r model y tu allan i’r UE sydd wedi’i integreiddio fwyaf gyda’r Farchnad Sengl. Mae’r tair gwlad hyn yn cyfrannu at gyllideb yr UE, ac yn cymryd rhan mewn peth gweithgaredd nad yw’n economaidd megis gwrthderfysgaeth. Er bod rhaid iddynt ddilyn y rhan fwyaf o reolau’r Farchnad Sengl, nid oes ganddynt unrhyw bleidlais neu feto yn y modd y mae’r rheolau hyn yn cael eu gwneud.

Nid yw Aelodau o’r AEE nad ydynt yn yr UE yn gwneud cyfraniadau i arian CAP nac yn derbyn yr arian hwnnw. Er nad ydynt yn gyffredinol yn gymwys ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae Norwy a Liechtenstein yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Mae Cytundeb yr AEE yn sicrhau cyfranogiad Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy mewn nifer o raglenni eraill yr UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ymchwil ac arloesi) ac Erasmus+ (addysg a hyfforddiant).

Cytuniadau dwyochrog wedi’u trafod

Mae nifer o wledydd wedi trafod gwahanol lefelau o fynediad i Farchnad Sengl yr UE, sy’n dod â nifer penodol o rwymedigaethau aelodaeth o’r UE gyda hwy.

Cytundeb y Swistir â’r UE sy’n dod agosaf at ddyblygu telerau aelodaeth o’r UE, a hynny o ran cyfleoedd a rhwymedigaethau. Yn gyfnewid am fynediad rhannol at y Farchnad Sengl, rhaid i’r Swistir dderbyn symudiad rhydd pobl, cyfrannu at wariant yr UE a chydymffurfio â’r rhan fwyaf o reolau’r Farchnad Sengl. Yn yr un modd â gwledydd yr AEE nad ydynt yn aelodau o’r UE, nid oes gan y Swistir ddim pleidlais na feto ar sut y mae rheolau’r Farchnad Sengl yn cael eu gwneud.

Nid yw’r Swistir yn cymryd rhan yn PAC, mae’n ymwneud yn rhannol â Horizon 2020, ac er nad yw’n gymwys yn gyffredinol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae’n gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol.

Canada

Ar ben arall y sbectrwm hwn, mae Canada yn ddiweddar wedi gorffen trafod Cytundeb Masnach Rydd â’r Undeb Ewropeaidd – y Cytundeb Economaidd a Masnachol Cynhwysfawr (CEMC), sydd yn mynd trwy’r camau terfynol o gadarnhad. Mae’r trafodaethau hyn wedi cymryd oddeutu saith mlynedd. Mae model Canada yn golygu llai o fynediad at y Farchnad Sengl nac sydd gan y Swistir, ac yn unol â hynny yn golygu llai o rwymedigaethau. Gyda Chytundeb Masnach Rydd, mae gwledydd yn cytuno ar fynediad i farchnadoedd, lefelau tariff a chwotâu ar gyfer masnach rhyngddynt a’r UE.

Mae allforwyr sy’n dymuno gwerthu i’r Farchnad Sengl yn cael eu gorfodi yn gyffredinol i gydymffurfio â’i rheolau. Un o’r manteision o gytundeb masnach rydd fel y CEMC yw ei fod yn cynnwys cyd-gydnabyddiaeth o safonau. Unwaith eto, nid oes gan bartïon i Gytundeb Masnach Rydd bleidlais neu feto ar sut mae’r rheolau hyn yn cael eu gwneud. Nid yw Canada yn cyfrannu at gyllideb yr UE, ac nid yw’n derbyn cyllid uniongyrchol o’i ffrydiau ariannu. Nid oes symud rhydd o ran pobl rhwng Canada a’r UE, er bod trefniadau ar gyfer symud dros dro penodol o ran rhai gweithwyr proffesiynol.

Model Sefydliad Masnach y Byd yn unig

Mae’r DU, ynghyd â phob Aelod-wladwriaeth arall yr UE, hefyd yn aelod o Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Yn absenoldeb trefniadau amgen, byddai’r DU yn disgyn yn ôl ar ei haelodaeth o WTO i ddarparu telerau ei pherthynas â’r UE. Dyma’r unig fodel ffurfiol o berthynas yn y dyfodol sydd ar gael ar hyn o bryd i’r DU na fyddai’n gofyn am unrhyw drafodaethau pellach.

O dan y model hwn, byddai mynediad y DU i’r Farchnad Sengl yn destun yr un tariffau â phob un o’r 161 aelod arall o WTO nad ydynt wedi trafod eu trefniadau eu hunain. Ynghyd â mynediad cyfyngedig i’r Farchnad Sengl, mae’r model hwn yn cynnwys ychydig yn unig o rwymedigaethau i’r UE. Nid yw’n ofynnol i wledydd WTO gyfrannu at gyllideb yr UE, neu dderbyn symud rhydd o ran pobl. Eto, mae busnesau sy’n masnachu dan reolau WTO yn unig sy’n dymuno gwerthu i’r Farchnad Sengl yn cael eu gorfodi yn gyffredinol i gydymffurfio â’i rheolau. Unwaith eto, nid oes gan aelodau WTO bleidlais neu feto ar sut mae’r rheolau hyn yn cael eu gwneud. Nid oes gan wledydd WTO o reidrwydd fynediad uniongyrchol at ffrydiau ariannu yr UE. 

Y camau nesaf

Mae’n angenrheidiol bod llais Cymru yn cael ei glywed a’i chynrychioli yn y drafodaeth ynghlwm y berthynas o fasnachu rhwng y DU a’r UE, a bod ni’n deal yn llawn y cyfleoedd positif a negatif beth bynnag fo’r model amgen i aelodaeth. Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor yn cynnal ail seminar ar themau arbenigol: Cyllido, Ymchwil a Chyllid, yn benodol canolbwyntio ar ymchwil a symudedd ac effaith ymadael â’r UE ar y sector Addysg Uwch yng Nghymru.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru Y Gyfraith a Masnach Ryngwladol

Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru.

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael. Mae o hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd ac yn nhrefniadau gwledydd y Deyrnas Unedig.

brexit-cy

Pob wythnos dros y misoedd nesaf, bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o seminarau a fydd yn canolbwyntio ar faterion gwahanol a gwahodd arbenigwyr i rannu gwybodaeth a’u syniadau, gan helpu Aelodau’r Pwyllgor i ddeall sut bydd penderfyniad y refferendwm yn effeithio ar Gymru. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru.

Unwaith y byddant wedi casglu’r wybodaeth a’r arbenigedd hyn, bydd angen help pobol Cymru – i ofyn beth yw eu barn a’u blaenoriaethau am ein dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a pa fuddiannau yw’r rhai mwyaf pwysig i ddiogelu.

Cynhaliwyd y seminar cyntaf ar 19 Medi 2016 a chanolbwyntiodd ar y gyfraith ryngwladol a masnach. Gallwch wylio’r sesiwn lawn ar SeneddTV.

Y gyfraith ryngwladol

Beth yw’r gyfraith ryngwladol?

Mae cyfraith ryngwladol yn disgrifio’r corff o reolau sy’n llywodraethu unrhyw berthynas rhwng gwladwriaethau ar lwyfan y byd.  Maent wedi tyfu trwy ddefod ac arfer, neu wedi’u cytuno rhwng gwahanol wledydd. Ystyrir rhai rheolau fel rhai sy’n rhwymo’r holl wledydd (e.e. rhai rheolau ar hil-laddiad), a rhai eraill dim ond yn rhwymo’r gwledydd hynny sydd wedi cytuno iddynt mewn cytuniadau.

Mae yna nifer o lysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol sy’n datrys anghydfodau rhwng gwledydd, gan gynnwys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, gyda’r cylch gwaith ehangaf, ac wrth gwrs Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Ni does unrhyw rym plismona i orfodi dyfarniadau llys ar lefel ryngwladol.

Mae gwledydd hefo cymhelliant i ufuddhau i gyfraith ryngwladol oherwydd yr eisiau i genhedloedd eraill i gydymffurfio gyda hwy. Weithiau, fodd bynnag, mae gwledydd yn torri cyfraith ryngwladol am eu bod yn teimlo bod mwy o fantais iddynt wneud hynny nag ufuddhau. Pan ddigwydd hynny, mae gan wledydd eraill ystod eang o opsiynau cyfreithiol a gwleidyddol i geisio perswadio neu “cosbi” y drwgweithredwr, gan gynnwys sancsiynau masnachu a hyd yn oed y defnydd o rym. Mae system yr UE ar gyfer ymdrin ag achosion o dorri gan un wlad yn, fwy na thebyg, un o’r systemau fwyaf datblygedig yn y byd.

Masnach ryngwladol

Yn rhinwedd ei safle fel aelod o’r UE, mae’r Deyrnas Unedig yn rhan ar hyn o bryd o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd. Undeb tollau yw’r Farchnad Sengl. Mae aelodau undeb tollau’n cytuno ran amlaf i drin eu gwledydd drwyddi draw fel un diriogaeth at ddibenion masnach gan symud nwyddau a gwasanaethau’n ddirwystr. Mae yna fasnach rydd yn gyffredinol rhwng aelodau’r undeb hab dariffau na rhwystrau rheoleiddiol i atal masnach. Mae’r Farchnad Sengl yn mynd yn bellach nag hyn, gan galluogi symudiad rhydd o bobl, nwyddau, gwasanaethau, arian a llafur rhwng aelodau’r Farchnad Sengl. Mae perthynas y DU gyda’r Farchnad Sengl yn ansicr, a bydd yn destun i negodiadau yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Er na all y Cynulliad ddeddfu ynghylch masnach ryngwladol, ac ni all Llywodraeth Cymru ymrwymo i gytundebau ffurfiol â gwledydd eraill, mae Llywodraeth Cymru yn weithgar o ran hybu allforion Cymru a buddsoddiadau o’r tu allan, o fewn ei chymhwysedd cyffredinol ynglŷn â datblygu economaidd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau bod penderfyniadau amdano allforion Cymru a mewnfuddsoddiad er budd pennaf Cymru a’i phobl.

Pa mor bwysig yw masnach ryngwladol i Gymru?

Yn Mehefin 2016 –

– Roedd 1,370 o fusnesau’n allforio nwyddau o Gymru

– Roedd 1,789 o fusnesau’n mewnforio nwyddau i Gymru

O edrych yn ôl dros y 10 mlynedd diwethaf o ddata ar Gymru, hyd at Fehefin 2016, gellir gweld:

– gwerth allforion o Gymru oedd £12.1 biliwn – ac o hynny aeth £4.7 biliwn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd  a £7.3 biliwn i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

– gwerth y mewnforion i Gymru oedd £6.9 biliwn, ac o hynny daeth £3.5 biliwn o wledydd yr Undeb Ewropeaidd  a £3.4 biliwn o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

– aeth ychydig o dan 40% o allforion Cymru I wledydd yr Undeb Ewropeaidd

[Ystadegau masnach rhanbarthol CThEM yw prif ffynhonnell data masnach Cymru.]

Er mai mewnforiwr nwyddau net yw’r Deyrnas Unedig, allforiwr net yw Cymru, sydd â gwerth ei hallforion hyd at ddwywaith yn fwy na’i mewnforion yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hyn yn golygu bod Cymru yn gwerthu a masnachu mwy o nwyddau nag y mae’n ei brynu.

Mae’n angenrheidiol bod llais Cymru yn cael ei glywed a’i chynrychioli yn y drafodaeth ynghlwm masnachu y tu allan i’r farchnad sengl, a bod ni’n deal yn llawn y cyfleoedd positif a negatif beth bynnag fo’r model perthynas masnach.

Wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor yn teithio i Frwsel i gyfarfod swyddogion i fonitro a dylanwadu’r trafodaethau a chael rhagor o arbenigaeth. Ar 3 Hydref 2016, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod eto yn y Senedd i gynnal seminar a fydd yn edrych ar y goblygiadau o adael yr Undeb Ewropeaidd, ar effaith ar gyllid, ymchwil a Banc Buddsoddi Ewrop.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.