Tag: Biliau’r Cynulliad

Blog y Cadeirydd: Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Keys

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Ar 26 Mehefin 2015, cyhoeddwyd ein Hadroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (PDF 1.22 MB). Mae’n cynnwys 37 o argymhellion ar gyfer y Gweinidog, sy’n angenrheidiol yn ein barn ni i gryfhau’r Bil.

Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod cefnogaeth i amcanion cyffredinol y Bil, yn enwedig o ran symleiddio’r gyfraith bresennol am rentu. Ond, clywsom bryderon penodol am nifer o rannau o’r Bil, ac mae ein hargymhellion i’r Gweinidog yn adlewyrchu’r pryderon hyn.

Ymhlith materion eraill, mae ein hargymhellion yn ymwneud â:

  • chyflwr eiddo ar rent – h.y. y gofyniad ar landlord i sicrhau bod yr eiddo y mae’n ei gynnig i’w rentu yn ‘addas i bobl fyw ynddo’ ac mewn cyflwr da;
  • y cynigion ar gyfer pobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed er mwyn gallu cynnal ‘contract meddiannaeth’ (y term newydd am denantiaeth);
  • y cynigion sy’n caniatáu i landlordiaid wahardd rhywun sydd â chontract safonol â chymorth o’u cartref am hyd at 48 awr heb orchymyn llys.

Mae’r manylion llawn am ein holl argymhellion, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd atynt uchod, i’w gweld yn ein hadroddiad.

Y cam nesaf o ran cynnydd y Bil yw’r ddadl Cyfnod 1. Trefnwyd y ddadl hon ar gyfer 7 Gorffennaf yn Siambr ddadlau’r Cynulliad, a bydd yn cynnwys trafodaeth ar y Bil gan yr Aelodau, a chytuno ynghylch a fydd y Bil yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ddeddfu.

Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor

Fideo byr o’r Cadeirydd yn trafod adroddiad y Pwyllgor:

Blog y Cadeirydd: Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

DavidReesAM

Prif nod y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yw sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal nyrsio diogel i gleifion drwy’r amser. Cafodd ei gyflwyno gan Kirsty Williams AC ym mis Rhagfyr 2014 ac mae wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod misoedd cyntaf 2015. Gwnaethom adrodd ar y Bil ym mis Mai 2015:

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)

Bydd y Cynulliad yn ystyried y Bil hwn yn @SeneddSiambr ar 3 Mehefin. Ar ddiwedd y ddadl ar y Bil, gofynnir i Aelodau’r Cynulliad benderfynu a ddylid caniatáu iddo symud i’r camau nesaf o’r broses graffu ai peidio.

Beth mae’r Bil yn cynnig ei wneud?

Diben y Bil yw ei gwneud yn ofynnol bod cyrff gwasanaethau iechyd yn sicrhau’r canlynol:

  • bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal diogel i gleifion drwy’r amser; a
  • bod y gwaith o reoli a chynllunio’r gweithlu o nyrsys yng Nghymru yn dda, yn ddiogel ac yn effeithlon.

Beth oeddem yn ei feddwl o’r Bil?

Ein gwaith fel Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r nodau a bennir gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu a oes ffyrdd gwell o wneud hynny.

Er mwyn ein helpu i gael ateb i’r cwestiwn hwn, gwnaethom ofyn am gymaint o safbwyntiau â phosibl. Cawsom 34 o ymatebion ysgrifenedig ac estynnwyd gwahoddiad i 32 o unigolion, gan gynnwys Kirsty Williams AC a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu tystiolaeth lafar yn y Senedd.

Ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys gwybodaeth gan feddygon, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a chleifion, daethom i’r casgliad y gallai deddfwriaeth helpu i wella lefelau diogel staff nyrsio yng Nghymru. Er ein bod yn unfryd o blaid amcan y Bil, rydym wedi gwneud 19 o argymhellion y credwn y dylid eu rhoi ar waith cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Mae llawer o’n hargymhellion yn canolbwyntio ar ein pryderon y gallai’r Bil achosi nifer o ganlyniadau anfwriadol. Un o’r rheini ydy’r risg y gallai staff nyrsio gael eu symud o un maes ysbyty i faes arall er mwyn cynnal y lefelau staffio. Rydym hefyd yn pryderu y gallai prinder nyrsys fod yn rhwystr sylweddol i allu gweithredu’r Bil yn llwyddiannus.

Ymhlith ein hargymhellion roedd y canlynol:

  • sicrhau nad yw cydymffurfiad cyrff iechyd â chymarebau staffio mewn “wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai acíwt” yn cael effaith andwyol ar lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau eraill y GIG yng Nghymru;
  • gofyn i’r Gweinidog sicrhau bod canllawiau ar waith i ddiogelu yn erbyn y canlyniadau anfwriadol posibl a ddaw yn sgil y ddeddfwriaeth hon;
  • sicrhau cydbwysedd rhwng y defnydd o staff parhaol a staff dros dro wrth gydymffurfio â’r cymarebau staffio;
  • ystyried cynnwys cyfeiriad ar wyneb y Bil at drefniadau ar gyfer cynllunio’r gweithlu’n gynhwysfawr, i sicrhau bod digon o nyrsys hyfforddedig ar gael yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol; a
  • darparu eglurder ynghylch y lleoliadau lle bydd y Bil yn gymwys.

Gallwch ddarllen ein rhestr lawn o argymhellion, a’r dystiolaeth sy’n tanategu’r casgliadau rydym wedi’u llunio, yn ein hadroddiad:

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)

Addroddiad - Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1

Beth nesaf?

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 3 Mehefin, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 2. Bydd Cyfnod 2 yn dechrau ar 4 Mehefin. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd aelodau’r pwyllgor yn ystyried pob llinell o’r Bil ac yn cynnig unrhyw welliannau y mae angen eu gwneud i’w wella, yn eu barn hwy. Caiff y gwelliannau hyn eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor, sydd wedi’i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer 9 Gorffennaf 2015.

Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd y ddeddfwriaeth yn methu ac ni chymerir unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Bil.

Os hoffech ddysgu mwy am sut y caiff deddfwriaeth ei hystyried gan y Cynulliad, mae gwybodaeth am y broses ar gael ar ein tudalennau gwe ar ddeddfwriaeth.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Blog y Cadeirydd, 21 Mai 2015

Christine Chapman, Committee Chair

Rydym bellach wedi gorffen cymryd tystiolaeth lafar gan dystion. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i’n cynorthwyo wrth ystyried y Bil hyd yn hyn – mae wedi bod yn broses ddiddorol iawn.

Yn ein cyfarfod yr wythnos hon clywsom gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai. Rydym hefyd wedi holi’r Gweinidog am y Bil am yr ail dro – hwn fydd y tro olaf. Roedd hwn yn gyfle i ni holi’r Gweinidog am y prif bwyntiau sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Yn olaf, buom yn trafod yr holl dystiolaeth a glywsom yn ystod ein hymchwiliad a chytunwyd ar y materion sydd i’w cynnwys yn ein hadroddiad Cyfnod 1. Byddwn yn awr yn paratoi ein hadroddiad, ac yn ei gyhoeddi erbyn 26 Mehefin.

Os na weloch chi’r cyfarfod neu os hoffech ei wylio eto, mae ar gael ar Senedd.tv:
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, 20 Mai 2015

Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor

Blog y Cadeirydd: Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Christine Chapman in Committee

Rydym bellach dros hanner ffordd drwy’r broses o gasglu tystiolaeth. Cychwynnwyd y broses hon ar 22 Ebrill, pan gynhaliwyd sesiwn gyda’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil. Yn ystod yr wythnos ganlynol, ar 30 Ebrill, clywsom gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, Tenantiaid Cymru, UCM Cymru a Let Down in Wales.

Yr wythnos diwethaf, ar 6 Mai, daeth y Sefydliad Tai Siartredig, Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymorth Cymru, Tai Pawb a’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i’n cyfarfod i roi sylwadau ar y Bil.

Yr wythnos hon, byddwn yn clywed gan gynrychiolwyr landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, yn ogystal â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru.

Bydd y broses o gasglu tystiolaeth yn dod i ben ar 20 Mai, pan fyddwn yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai ac yn clywed tystiolaeth am yr ail dro gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Yn ogystal â’r dystiolaeth lafar a geir yn ystod ein cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol, wrth ffurfio barn ar y Bil byddwn hefyd yn ystyried y 41 o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’r safbwyntiau a’r sylwadau amrywiol a fynegwyd yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd i randdeiliaid ym mis Mawrth.

Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 14 Mai. Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw ar Senedd.tv.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor

Blog y Cadeirydd: Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

DavidReesAM

David Rees ydw i  (@DavidReesAM), Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ym mis Medi 2014, dechreuodd y Pwyllgor drafod sylweddau seicoweithredol newydd (“NPS”). Erbyn hyn, rydyn ni wedi gorffen ein hymchwiliad, ac rydyn ni wedi ysgrifennu adroddiad (PDF, 1MB) yn gwneud 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae crynodeb (PDF, 252KB) ar gael hefyd.

Beth yw sylweddau seicoweithredol newydd (NPS)?

Mae NPS yn cael eu marchnata’n aml fel cyffuriau cyfreithlon, sy’n fwy diogel na chyffuriau anghyfreithlon, ac sy’n cael eu cynhyrchu mewn labordai a’u gwerthu ar y rhyngrwyd neu mewn siopau arbennig ar y stryd fawr (“head shops”). Cyfeirir atyn nhw’n aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” (legal highs). Mae’r ffordd yma o’u marchnata’n gamarweiniol  – gall eu sgil-effeithiau fod yr un mor ddifrifol â sgil-effeithiau cyffuriau anghyfreithlon, a gallan nhw fod yr un mor gaethiwus hefyd. Yn aml iawn, maen nhw’n cynnwys olion sylweddau nad yw’n gyfreithlon eu gwerthu na’u cymryd.

Pam benderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn?

Fe wnaethon ni benderfynu ymchwilio i’r mater hwn oherwydd bod y nifer sy’n defnyddio NPS wedi cynyddu yng Nghymru, a lleoedd eraill, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu farw 60 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn 2013 oherwydd NPS. Roedd hyn 15 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Roedd yr Aelodau yn poeni am y niwed y mae NPS yn ei achosi i iechyd pobl ac i’r gymdeithas, ac roedden nhw am dynnu sylw at y camau ymarferol y mae angen eu cymryd er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio NPS.

Sut aeth y Pwyllgor ati i gasglu sylwadau gan bobl ar gyfer yr ymchwiliad?

Defnyddiodd y Pwyllgor nifer o wahanol ffyrdd o ofyn barn pobl am NPS, gan gynnwys:

  • gofyn i’r cyhoedd lenwi holiadur.  Aeth 1072 o bobl o bob rhan o Gymru ati i lenwi’r holiadur;
  •  gwahodd cynrychiolwyr o gyrff allweddol i siarad â’r Aelodau mewn cyfarfodydd swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd;
  • cynnal grwpiau ffocws ym Merthyr Tudful a Wrecsam i glywed gan staff rheng flaen yn uniongyrchol. Aeth aelodau’r Pwyllgor i ymweld â phrosiect LOTS, Clwb Ieuenctid Forsythia, DrugAid a phencadlys DAN 24/7, llinell gymorth Cymru i helpu pobl sy’n camddefnyddio sylweddau. 

Rydyn ni wedi ysgrifennu blog am yr ymweliadau hyn ac rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi lluniau o Wrecsam a Merthyr ynghyd â rhai fideos byr er mwyn ichi allu gweld beth y mae’r Pwyllgor wedi bod yn ei wneud:

NPS NPS

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi defnyddio Storify.

Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor a beth rydyn ni wedi’i wneud?

Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor

  • Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y mae sylweddau seicoweithredol newydd yn ei achosi.
  • Mae’r term ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn gwbl anaddas.  Mae’n awgrymu ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i ddefnyddio’r cyffuriau hyn. Mewn gwirionedd, maent yn aml yn niweidiol iawn ac yn cynnwys sylweddau anghyfreithlon;
  • Dylai Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am y polisi cyffuriau, wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol  newydd, a gwneud y siopau arbennig ar y stryd fawr, a’r stondinau marchnad sy’n eu gwerthu, yn anghyfreithlon;
  • Ni ddylid rhoi record droseddol i’r rhai sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd – gallai hynny wneud pethau’n waeth i ddefnyddwyr sy’n ceisio ailafael yn eu bywydau;
  • Nid ydym yn gwybod digon am nifer y bobl sy’n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd a’r niwed y gall y sylweddau ei achosi.

Beth ddywedodd y Pwyllgor yn ei adroddiad

  • Dylid ailedrych ar fyrder ar y rhaglen addysg cyffuriau mewn ysgolion, i’w gwella, ac i sicrhau cysondeb drwy Gymru, ac i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n ei chyflwyno wedi cael yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol.
  • Dylid datblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd i’r holl staff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus (e.e. meddygon, nyrsys, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion carchar ac ati);
  • Dylai ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd 2015 Llywodraeth Cymru ar sylweddau seicoweithredol newydd gynnwys gwybodaeth wedi’i thargedu ar gyfer pobl ifanc, a phwysleisio nad yw cyfreithlon yn golygu diogel;
  • Dylai’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys y cyfryngau, roi’r gorau i ddefnyddio’r term “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” gan ei fod yn gamarweiniol iawn.
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i gymryd camau cyn gynted â phosibl i wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol newydd fel yr awgrymwyd.

I weld yr 14 argymhelliad yn llawn darllenwch ein hadroddiad (PDF, 1MB) neu’r crynodeb (PDF, 252KB).

Beth oedd barn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ein hadroddiad?

Yn ei hymateb i’n hadroddiad mae Llywodraeth Cymru  (PDF, 295KB) yn derbyn pob un o’n hargymhellion yn llwyr. Mae Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU (PDF, 69KB) hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor i nodi ei bod yn croesawu ein gwaith a’i bod yn cefnogi pob un o’r 14 argymhelliad.

Beth nesaf?

Bydd ein hadroddiad yn cael ei drafod gan holl Aelodau’r Cynulliad ar 13 Mai yn y Siambr, prif le trafod y Cynulliad. Dyma gyfle i dynnu sylw at y mater pwysig hwn, ac i ofyn i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi ein hargymhellion ar waith.

Rydw i am ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn rhannu eu profiadau ym maes NPS ac am eu sylwadau ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y gall NPS ei achosi. Er mai’r cyfan y gall y Pwyllgor ei hun ei wneud yw argymell newidiadau, yn hytrach na gwneud y newidiadau ei hun, bydd yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ac eraill i roi’r camau y mae wedi’u nodi yn ei adroddiad ar waith.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf

Blog Gwedd: Digwyddiad Ymgynghori i Graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Fy enw i ydy Claire Blakeway a fi ydy Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ddydd Mercher 18 Mawrth, cymerais ran mewn digwyddiad ymgynghori i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd hyn yn golygu bod Aelodau’r Cynulliad yn siarad ag amrywiaeth eang o denantiaid am eu profiadau yn rhentu eiddo gan y cyngor, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat. Cafodd tenantiaid o wahanol sectorau rhentu eu rhoi mewn grwpiau ffocws o dan arweiniad Aelodau’r Cynulliad. Yn fy grŵp ffocws i, roeddwn i’n cynrychioli barn myfyrwyr ynglŷn â tenantiaeth.

Ar y cyfan, roeddwn yn cytuno a syniadau’r Bil Cartrefi newydd, ond fod angen rhagor o fanylion ynghylch cytundebau atgyweirio. Er enghraifft, mae angen amserlen fanwl yn y cytundeb sy’n amlinellu pa mor gyflym y bydd landlordiaid yn ymateb i gydnabod ac anelu at gyflawni atgyweiriad y mae tenant yn tynnu sylw ato. Dwi’n teimlo y gall tenantiaid aros yn hir iawn ar hyn o bryd cyn i atgyweiriadau gael eu gwneud, ac maent, felly, yn talu rhent ar eiddo nad yw o’r safon y gwnaethant dalu rhent amdano’n wreiddiol. Drwy weithredu cytundeb atgywirio gydag amserlen benodol, bydd y landlord a’r tenant yn gwybod yn union beth fydd y disgwyliadau arnynt o ran atgywiriadau, a gall y landlord weithio tuag at gyflawni’r atgyweiriad o fewn amser y cytunwyd arno, a bodloni disgywliadau eu tenant.

Dyma gyfweliad a wnaeth Claire ar ôl y digwyddiad:

Siaradais gyda’r grwp ffocws hefyd am fy syniadau ynghylch sut mae angen gweithredu cosbau gadarnach yn erbyn landlordiaid a thenantiaid sy’n torri eu contractau. Y mwyaf llym yw’r cosbau, y mwyaf tebygol yw y bydd y contractau yn cael eu cadw a’u parchu.

Wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn y grwpiau ffocws, ac roeddwn wrth fy modd clywed Aelod oedd â chymaint o ddiddordeb mewn clywed barn myfyrwyr. Dwi’n edrych ymlaen at pan gaiff y Bil Cartrefi ei ryddhau, a gobeithio y bydd fy marn yn cael ei hystyried. Diolch i Gynulliad Cymru am y gwahoddiad!

Y cam nesaf fydd i’r Pwyllgor glywed barn pobl eraill am y Bil, mewn cyfarfodydd ffurfiol yn y Senedd. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Mercher, pan fydd y Pwyllgor yn siarad â Lesley Griffiths AC, sef Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Bil. Gallwch wylio’r cyfarfod hwn yn fyw ar Senedd TV.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod yma.