Tag: Biliau’r Cynulliad

Newid enw’r Cynulliad a phleidlais i bobl 16 oed: Mae’r Bil Senedd ac Etholiadau wedi cyrraedd Cyfnod 3

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

13 Tachwedd 2019

Heddiw mae ein Haelodau yn cynnal dadl ar Fil  Senedd ac Etholiadau (Cymru), a allai gyflwyno pleidleisiau yn 16 oed yng Nghymru a newid enw’r Cynulliad, wrth iddo gyrraedd Cyfnod 3 ei hynt i ddod yn gyfraith.

Ond beth yw ystyr hynny? Beth fydd yn digwydd nesaf?

O ble y mae cyfraith newydd yn dod?

Mae pob cyfraith newydd yn dechrau fel syniad i newid sut y mae rhywbeth yn gweithio neu i wneud rhywbeth yn well. Pan fydd cyfraith yn dechrau ei thaith, fe’i gelwir yn Fil – mae’n fersiwn ddrafft o’r gyfraith.

Sut y mae Bil yn dod yn Ddeddf?  

Rhaid i Fil fynd drwy bedwar cyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol a chael Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn Ddeddf Cynulliad, sef yn gyfraith newydd i Gymru.

Taith Bill: Cyfnod 1

Mae Aelodau’r Cynulliad rydych chi yn eu hethol yn penderfynu a oes angen y gyfraith newydd ar Gymru.

Mae’r Bil yn dechrau ei daith gyda phwyllgor. Mae pwyllgorau yn grwpiau bach o Aelodau Cynulliad sy’n edrych ar bynciau penodol.Mae’n bosibl y bydd mwy nag un pwyllgor yn gweithio ar y Bil cyn iddo ddod i’r Cyfarfod Llawn.

Mae’r pwyllgor sy’n edrych ar y Bil yn cwrdd ag arbenigwyr pwnc, sy’n helpu i lunio’r Bil. Efallai y bydd y pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, lle gallech roi eich barn.

Mae rhestr o ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd i’w gweld yn www.cynulliad.cymru/ymgynghoriadau.

Mae Cyfnod 1 yn caniatáu i’r pwyllgor gasglu tystiolaeth gan bawb y maen nhw’n siarad â nhw, ac maent yn cynnwys y dystiolaeth mewn adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn yn dweud a yw’r pwyllgor yn cytuno â phrif nod y Bil. Gallai hefyd awgrymu newidiadau i eiriad y Bil. Y

n olaf, mae Aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar yr holl adroddiadau a ysgrifennwyd am y Bil. Maent yn pleidleisio i benderfynu a oes angen y gyfraith newydd hon ar Gymru. Os bydd y mwyafrif o Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ‘na’, mae’r Bil yn dod i ben yn y cyfnod hwn.

Yng Nghyfnod 1:Mmae Aelodau’r Cynulliad yn edrych ar y pethau sylfaenol. Maent yn cwrdd ac yn penderfynu, mewn egwyddor, a oes angen y gyfraith newydd hon ar Gymru.

Mae un neu fwy o bwyllgorau yn edrych ar y Bil ac yn ysgrifennu adroddiadau Cyfnod 1.
– Mae Aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn am bob adroddiad sydd wedi’i ysgrifennu am y Bil.
– Mae Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn i benderfynu a oes angen y Gyfraith newydd ar Gymru.

Taith Bil: Cyfnod 2

Mae Aelodau’r Cynulliad yn cyfarfod mewn pwyllgor.

Maent yn edrych ar y Bil, iac yn wneud newidiadau i’w eiriad. Gall pob Aelod Cynulliad adolygu’r Bil, ac awgrymu newidiadau. Efallai y byddant yn gweld ffordd y gallent ei wella. Efallai eu bod yn meddwl y byddai’n well pe bai Bil hefyd yn gwneud rhywbeth arall, neu ei fod yn gwneud gormod a bod angen iddo fod yn fwy penodol.

Mae pob newid y maent yn ei awgrymu yn welliant.

Mae’r pwyllgor sy’n gweithio ar y Bil yn edrych ar yr holl welliannau a awgrymwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Maent yn cyfarfod ac yn trafod beth fyddai’r gwelliannau yn ei wneud i’r Bil, ac yn pleidleisio i benderfynu a ddylid eu cynnwys. Dim ond os yw mwyafrif aelodau’r pwyllgor yn pleidleisio y dylai gael ei gynnwys y bydd gwelliant yn cael ei gynnwys.

Yng Nghyfnod 2: Mae Aelodau’r Cynulliad yn llunio’r Bil. Mae grŵp bach o Aelodau’r Cynulliad yn cyfarfod fel pwyllgor ac yn edrych ar awgrymiadau i ddiwygio’r Bil.

– Gall pob Aelod Cynulliad awgrymu gwelliant i’r Bil.
– Mae’r pwyllgor sy’n gweithio ar y Bil yn edrych ar yr hyn y bydd pob gwelliant yn ei wneud i’r Bil.
– Mae aelodau’r pwyllgor yn pleidleisio ar ba ddiwygiadau y dylid eu cynnwys yn y Bil.

Taith Bil: Cyfnod 3

Mae Aelodau’r Cynulliad yn casglu yn y Cyfarfod Llawn. Y Cyfarfod Llawn yw’r cyfarfod sy’n cynnwys yr holl Aelodau Cynulliad yn y Siambr, y siambr trafod. Maent yn edrych ar y Bil, yn adolygu awgrymiadau ac yn gwneud newidiadau terfynol i’w eiriad. Gall pob Aelod Cynulliad adolygu’r Bil, ac awgrymu gwelliannau.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn, gall pob Aelod Cynulliad a awgrymodd welliant esbonio ei welliant, a rhoi ei resymau dros yr awgrym. Gall Aelodau eraill y Cynulliad ddweud a ydynt yn cytuno â’r gwelliant arfaethedig. Mae’n bwysig bod pob Aelod Cynulliad sydd am siarad yn y Cyfarfod Llawn yn gallu dweud ei ddweud. Weithiau bydd angen gwneud rhagor o waith ar Fil.

Mae yna opsiwn i gynnal rhagor o ddadleuon ar y Bil ac i bleidleisio arnynt. Rydym yn galw’r cyfnodau ychwanegol hyn yn Gyfnod 3 Pellach, yn Gyfnod Adrodd ac yn Gyfnod Adrodd Pellach. Er hynny, nid yw’r rhan fwyaf o’r Biliau yn mynd drwy’r cyfnodau hyn. Âr ôl i bob Aelod Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn drafod a phleidleisio ar y gwelliant terfynol, mae geiriad y Bil wedi’i gwblhau.

Bellach mae gan y Bil ei eiriad terfynol ac mae’n barod i symud ymlaen i’w gyfnod olaf yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yng Nghyfnod 3: Mae Aelodau’r Cynulliad yn mireinio’r Bil. Mae’r Bil yn mynd yn ôl i’r Siambr i Aelodau’r Cynulliad wneud newidiadau terfynol.

– Gall pob Aelod Cynulliad awgrymu gwelliant i’w drafod ac i ddadlau yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn.
– Gall Aelodau’r Cynulliad a gynigiodd welliant esbonio pam eu bod yn ei awgrymu.
– Mae Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ar ba welliannau y dylid eu cynnwys yn y Bil terfynol.

Taith Bil: Cyfnod 4

 Mae Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn i gytuno ar eiriad terfynol y Bil. Ar ôl i’r Bil gyrraedd Cyfnod 4, mae ei eiriad yn derfynol. Ni all Aelodau’r Cynulliad ddiwygio’r Bil ymhellach. Yn ystod dadl Cyfnod 4, mae Aelodau’r Cynulliad yn edrych ar destun terfynol y Bil, ac yn penderfynu a ddylai ddod yn gyfraith newydd. Ar ôl y ddadl, maent yn pleidleisio – ‘a ddylai’r Bil hwn ddod yn Ddeddf, sef yn gyfraith newydd i Gymru? Os bydd mwyafrif Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio yn erbyn pasio’r Bil, mae’r Bil yn methu. Ni all unrhyw beth pellach ddigwydd gyda Bil unwaith y bydd wedi methu. Os bydd mwyafrif Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid pasio’r Bil, yna mae wedi llwyddo ar ei hynt drwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Gall fynd ymlaen i’w gyfnod terfynol i ddod yn gyfraith newydd (Deddf Cynulliad) – cyn belled nad oes unrhyw her gyfreithiol iddo.

Yng Nghyfnod 4: Mae Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio’n derfynol ar y Bil. Mae Bil llwyddiannus yn cwblhau ei daith drwy’r Cynulliad Cenedlaethol

– Mae Aelodau’r Cynulliad yn trafod geiriad terfynol y Bil.
– Cynhelir pleidlais derfynol i gytuno ar eiriad terfynol y Bil.
– Os na fydd Bil yn pasio’r cyfnod hwn, mae’n methu.

Cydsyniad Brenhinol

Mae’r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i’r Bil. Mae hwn yn gytundeb ffurfiol y gall y Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad.

Er mwyn cyrraedd y cyfnod hwn, mae Aelodau’r Cynulliad wedi ysgrifennu’r Bil, craffu arno, ei ddiwygio a phleidleisio arno. Maent wedi siarad ag arbenigwyr ar y pwnc, ac efallai eich bod chi eich hun wedi cael dweud eich dweud, drwy ymateb i ymgynghoriad pwyllgor.

Mae’r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i bob Bil sy’n mynd ar ei hynt yn llwyddiannus drwy’r pedwar cyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cytundeb ffurfiol y gall y Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad yw Cydsyniad Brenhinol. Rhaid i bob deddfwriaeth sylfaenol sy’n cael ei gwneud gan bob Senedd a Chynulliad yn y DU gael Cydsyniad Brenhinol.

Gallwch weld pa gyfreithiau a wnaed yng Nghymru ers 2016, a sut yr aed ati i’w gwneud drwy fynd i www.cynulliad.cymru/deddfau.

Cydsyniad Brenhinol: y cyfnod olaf ar y daith, pan fydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cynulliad.

– Mae’r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i’r Bil.
– Mae’r Bil yn dod yn Ddeddf Cynulliad

Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan Rygbi’r Byd yn anhygoel.

Ond ta waeth am hynny – dyma sôn am Filiau Aelod. Cynigir y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru. Ond os bydd Aelod Unigol yn ennill y balot ar gyfer cyflwyno Bil Aelod (a benderfynir ar sail tynnu enwau allan o het), bydd cyfle ganddo i gyflwyno ei ddeddfwriaeth arfaethedig ei hun.

Gall unrhyw un gynnig syniadau i Aelod Cynulliad ynghylch cyflwyno deddfwriaeth. Mae gennych 5 Aelod Cynulliad yn eich cynrychioli: ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw?

Yna, bydd yr Aelod Cynulliad sy’n ennill y balot yn gallu galw ar Aelodau eraill i gefnogi ei gynnig, gan wneud hynny drwy bleidlais. Os cefnogir ei gynnig, bydd gan enillydd y balot 13 mis i ddatblygu ei ddeddfwriaeth arfaethedig, a’i gyflwyno gerbron y Cynulliad i’w graffu a’i ddiwygio.

Yn ystod y broses hon, bydd enillydd y balot fel arfer yn cael ei gefnogi gan dîm bychan o bobl – rydw i’n rhan o’r tîm hwnnw – er mwyn datblygu eu deddfwriaeth arfaethedig. Rydym yn helpu trwy ddarparu cyngor o ran gweithdrefnau, ymchwil a chyfraith.

Ar 25 Ionawr 2017, tynnir enw Aelod allan o het yn y balot, a chaiff yr enillydd gyfle i gynnig deddfwriaeth newydd, a allai effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled Cymru. Dysgwch ragor.

Gan Tom Jackson, Clerc, y Tîm Cymorth Craffu

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Tatŵio, addasu’r corff a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, blog Pigion

Ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015 bydd y Cynulliad yn cynnal ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd yn gyfrifol am graffu’r cynnig ddeddf, eu Adroddiad ar y Bil wythnos diwethaf â oedd yn cynnig nifer o argymhellion a gwelliannau.

Ar ddechrau’r ymgynghoriad, cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad holiadur cenedlaethol er mwyn gofyn i bobl Cymru beth oedd eu barn ar gynnigion Llywodraeth Cymru ar deddfu e-sigaréts, triniaethau arbennig a tyllu man personol o’r corff.

Mae llawer o’r sylw ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi bod ar e-sigaréts. Fodd bynnag, mae rhan ddiddorol arall o’r Bil yn ymwneud â thriniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff (Rhannau 3 a 4 o’r Bil).

Triniaethau arbennig

Bydd y Bil fel y cafodd ei ddrafftio yn creu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru. Y triniaethau arbennig sydd ynddo ar hyn o bryd yw aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio, ond byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr hon drwy is-ddeddfwriaeth.

Yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd llawer o randdeiliaid fod diffyg sylweddol ar hyn o bryd o ran rheoli ansawdd yn y diwydiannau tatŵio a thyllu. Clywodd y Pwyllgor adroddiadau brawychus fod llawer o driniaethau’n cael eu rhoi gan bobl sydd ag ychydig, os o gwbl, o wybodaeth am anatomeg, rheoli heintiau neu brosesau iachau.

Hefyd, tynnodd rhanddeiliaid sylw at driniaethau ychwanegol a ddylai fod yn rhan o’r Bil yn eu barn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys addasu’r corff (creithio, mewnblaniadau croen, llosgnodi a hollti’r tafod), pigiad o hylif i mewn i’r corff (botox neu lenwyr croen), a thriniaethau laser (cael gwared ar datŵ neu gael gwared ar flew).

Gwnaeth tîm Allgymorth y Cynulliad fideo byr am driniaethau arbennig drwy gyfweld ag ymarferwyr ledled Cymru:

Mae artistiaid tatŵ yn y fideo yn mynegi pryder yn arbennig am frandio, creithio, addasu eithafol o’r corff (fel hollti’r tafod a hollti’r pidyn) a mewnblaniadau croen. Maent yn egluro bod creithio (lle caiff rhan o’r croen ei dynnu i adael craith) yn aml yn digwydd mewn ffordd beryglus.

Mae’r tatwyddion hefyd yn dweud bod brandio yn cael ei wneud gyda lampau llosgi, bachau hongian dillad a heyrn sodro sydd wedi’u haddasu, ac yn sôn am bryderon ynghylch mewnblaniadau croen, fel gosod cyrn a sêr o dan y croen:

Dyw gosod gwrthrychau yn eich corff ddim yn beth da heb ryw fath o bwysau deddfwriaethol tu ôl iddo i ddweud, ‘Dyw hynny ddim yn ddiogel’, neu ‘A yw’r deunydd yn ddiogel?’ neu ‘Oes rhywun wedi’i archwilio?’; ‘A yw’n gwbl lân? Ydych chi wedi’i awtoclafio cyn i chi ei roi mewn yna? O ble mae’n dod? Ydy hwn wedi dod allan o beiriant pêl pum ceiniog rownd y gornel?’

Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Mae’r Bil yn cynnig gosod trothwy oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Mae’n diffinio’r rhannau personol o’r corff fel yr anws, y fron, y folen, rhych y pen ôl, y pidyn, y perinëwm, y mons pubis, y ceillgwd a’r fwlfa.

Er bod cefnogaeth i’r egwyddor o osod trothwy o’r fath, mae llawer o randdeiliaid yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol yn achos mannau personol. Er enghraifft, mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol, gan fod hyn yn cyd-fynd â’r oedran isaf ar gyfer tatŵio, ac yn adlewyrchu’r aeddfedrwydd sydd ei angen i wneud penderfyniadau o’r fath. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn rhesymu bod unigolyn 16 oed yn dal i dyfu ac felly bod mwy o risg o niwed i’r croen. Nodwyd hefyd fod rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn gofyn am safon uwch o ôl-ofal na thatŵs, gan ei fod o bosibl yn fwy agored i haint.

Mae Dr Ncube yn cefnogi trothwy oedran uwch, gan nodi bod goblygiadau hirdymor yn sgil tyllu’r organau cenhedlu. Rhoddodd enghraifft o astudiaeth achos o dad â thwll mewn organ cenhedlu, a oedd yn chwarae gyda’i ferch. Cafodd ei gicio’n ddamweiniol gan ei ferch.

Arweiniodd y trawma a achoswyd gan y tyllu at fadredd (gangrene) yn ei bidyn. Cyflwr Fournier yw’r enw ar hyn. Oherwydd hynny, cafodd greithiau sylweddol. Felly, mae risgiau sylweddol ynghlwm â thyllu organau cenhedlu, sy’n golygu bod goblygiadau hirdymor tyllu yn bwysig, yn ogystal â’r tyllu ei hun.

Cafwyd neges gref hefyd gan randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dylid cynnwys tyllu’r tafod yn y Bil, gyda thystion yn nodi risg uchel o gymhlethdodau, niwed a haint.

Dadl Cyfarfod Llawn

Bydde chi’n gallu gwylio’r ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fyw ar  senedd.tv neu dal lân yn hwyrach ymlaen. Am ragor o wybodaeth ar waith y Pwyllgor, ewch i wefan y Pwyllgor ar www.cynulliad.cymru/seneddiechyd.

Sut dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei redeg yn y Pumed Cynulliad?

 

Senedd during Plenary, showing AMs in their seats

Ydych chi erioed wedi pendroni pam mai un pwyllgor fu’n craffu ar Fil yn lle un arall? Ydych chi’n meddwl bod nifer yr Aelodau Cynulliad ar bwyllgorau’r Cynulliad yn briodol? A yw’r ffordd y caiff busnes y Cynulliad ei amserlennu yn caniatáu i chi ymgysylltu’n llawn yn y ffordd y byddech chi’n dymuno?

Y Llywydd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Busnes, ac mae’n cynnwys Aelodau Cynulliad o bob un o’r grwpiau gwleidyddol â chynrychiolaeth yn y Cynulliad.

Ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, bydd angen i’r Pwyllgor Busnes newydd wneud nifer o benderfyniadau allweddol, gan gynnwys:

  • Faint o bwyllgorau ddylai fodoli, gan gynnwys eu henwau, eu maint, a’r hyn y maent yn gyfrifol amdano. Mae rhestr gyfredol o’r pwyllgorau a’r hyn y maent yn gyfrifol amdano i’w gweld yma.
  • Mae’r amserlen wythnosol yn pennu pryd y caiff pwyllgorau gwrdd, pryd caiff grwpiau plaid gwrdd a pha Weinidogion sy’n ateb cwestiynau ym mhob Cyfarfod Llawn yn Siambr y Senedd.
  • Mae’r Pwyllgor Busnes hefyd yn chwarae rôl weithdrefnol a gall argymell diwygio Rheolau Sefydlog, sy’n gosod y rheolau a’r gofynion o ran y ffordd y mae’r Cynulliad yn cynnal ei fusnes, er mwyn newid arferion a gweithdrefnau’r Cynulliad. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2013, newidiwyd y Rheolau Sefydlog i fyrhau’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru er mwyn i’r Aelodau gael cyflwyno cwestiynau mwy amserol. Mae fersiwn gyda newidiadau wedi eu nodi (PDF, 1.54 MB) o’r Rheolau Sefydlog a newidiwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad ar gael ar wefan y Cynulliad.
  • Mae’r Llywydd a’r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cyflwyno diwygiadau gweithdrefnol ers ei sefydlu, gan gynnwys Dadleuon rheolaidd gan Aelodau Unigol a chyfle i arweinwyr y pleidiau a llefarwyr y pleidiau holi cwestiynau heb rybudd yn ystod cwestiynau i Weinidogion.

Mae’r pwyllgor presennol wedi penderfynu lansio ymgynghoriad i adolygu’r hyn a fu’n llwyddiannus a’r hyn na fu’n llwyddiannus dros y pum mlynedd diwethaf i helpu i lywio penderfyniadau’r pwyllgor newydd. Os oes gennych farn ar yr uchod, ac os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol (yn dda neu’n ddrwg) yr hoffech dynnu ein sylw atynt, byddem yn falch iawn o gael clywed gennych. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio SeneddBusiness@cynulliad.cymru.

Os hoffech wybod mwy am yr ymgynghoriad, ewch i dudalen ymgynghoriad adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes. Yma fe welwch gylch gorchwyl yr ymgynghoriad a gwybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 13 Tachwedd. Bydd y Pwyllgor yn trafod eich sylwadau a byddant yn helpu wrth iddo lunio’i adroddiad etifeddiaeth.

Sut i gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan

Blog y Cadeirydd: #TrethiCymru – digwyddiad i randdeiliaid

Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i’r Cynulliad ei drafod a’i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr ‘egwyddorion cyffredinol’ neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015.

Digwyddiad i randdeiliaid: 23 Medi 2015

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad defnyddiol yn llawn gwybodaeth i randdeiliaid yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).

Jocelyn Davies AM at the workshop

Diben y digwyddiad oedd rhoi’r cyfle i randdeiliaid â diddordeb rannu eu barn ar y Bil gydag aelodau’r Pwyllgor. Roedd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau grŵp gyda chyfranogwyr ac Aelodau, yn ogystal â sesiwn adborth ar y diwedd.

People speaking at the workshop

Roedd yn fraint i’r Pwyllgor siarad â chymaint o weithwyr proffesiynol o safon a chlywed eu barn, a fydd yn amhrisiadwy ar gyfer sesiynau craffu ffurfiol y Pwyllgor sydd i ddod gyda thystion, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Revenue Scotland a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn gwneud y digwyddiad yn un llwyddiannus. Mae’r math hwn o ymgysylltu yn eithaf newydd i’r Pwyllgor ac yn bersonol roedd yn ddefnyddiol iawn imi o ran deall y materion a chael amrywiaeth eang o safbwyntiau mewn ffordd anffurfiol. Rydym wedi llunio nodyn o’r cyfarfod os hoffech ei ddarllen.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf

Blog y Cadeirydd: Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)

Jocelyn Davies Aelod Cynulliad

Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i’r Cynulliad ei drafod a’i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr ‘egwyddorion cyffredinol’ neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015.

Cefndir y Bil

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Cymru ym mis Mawrth 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2014. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu mewn meysydd datganoledig o ran treth ac yn rhoi fframwaith clir ar gyfer yr opsiynau polisi mewn perthynas â threthi newydd, gan gynnwys treth ar drafodion sy’n cynnwys buddiannau mewn tir a threth ar waredu i safleoedd tirlenwi.

Y Bil

Un o Filiau’r Llywodraeth yw hwn a chafodd ei gyflwyno gan Jane Hutt AC, sef y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (a elwir yr Aelod sy’n gyfrifol). Diben y Bil yw rhoi’r fframwaith cyfreithiol sydd ei angen ar waith ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Yn benodol, mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a fydd yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yn bennaf;
  • cyflwyno’r dyletswyddau a’r pwerau priodol i Awdurdod Cyllid Cymru (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol i drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal archwiliadau ac asesiadau er mwyn galluogi’r Awdurdod i nodi a chasglu’r swm priodol o dreth ddatganoledig sy’n ddyledus gan drethdalwyr;
  • pwerau gorfodi ac ymchwilio sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy’n caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru ofyn am wybodaeth a dogfennau a chael mynediad  at safleoedd a mathau eraill o eiddo er mwyn eu harchwilio;
  • dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog mewn amgylchiadau penodol;
  • hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau Awdurdod Cyllid Cymru ac i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o’r fath; a
  • chyflwyno pwerau gorfodi troseddol ar Awdurdod Cyllid Cymru.

Gwaith y Pwyllgor – Cyfnod 1

Mae Cyfnod 1 yn cynnwys y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, yna bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny mewn pleidlais yn y Cyfarfod Llawn.

Gwaith y Pwyllgor Cyllid yw canolbwyntio ar brif ddiben y Bil, yn hytrach nag yn edrych ar y manylion (sy’n fater ar gyfer y cyfnodau diweddarach). Dros yr haf, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad yn gofyn i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor. Cafwyd 15 o ymatebion ac maent ar gael i’w darllen ar ein gwefan.

Rhan nesaf ein gwaith fydd gwahodd cynrychiolwyr o grwpiau sydd â diddordeb i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar y Bil ar 17 Medi 2015. Yn y cyfarfod hwn, clywsom gan yr Aelod sy’n gyfrifol, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a gwnaethom ei holi  ynghylch y Bil a’i brif ddiben. Os hoffech weld y sesiwn, gallwch ei gwylio ar Senedd.TV.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf

Pound coins on a desk

 

Blog y Cadeirydd: Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Keys

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Ar 26 Mehefin 2015, cyhoeddwyd ein Hadroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (PDF 1.22 MB). Mae’n cynnwys 37 o argymhellion ar gyfer y Gweinidog, sy’n angenrheidiol yn ein barn ni i gryfhau’r Bil.

Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod cefnogaeth i amcanion cyffredinol y Bil, yn enwedig o ran symleiddio’r gyfraith bresennol am rentu. Ond, clywsom bryderon penodol am nifer o rannau o’r Bil, ac mae ein hargymhellion i’r Gweinidog yn adlewyrchu’r pryderon hyn.

Ymhlith materion eraill, mae ein hargymhellion yn ymwneud â:

  • chyflwr eiddo ar rent – h.y. y gofyniad ar landlord i sicrhau bod yr eiddo y mae’n ei gynnig i’w rentu yn ‘addas i bobl fyw ynddo’ ac mewn cyflwr da;
  • y cynigion ar gyfer pobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed er mwyn gallu cynnal ‘contract meddiannaeth’ (y term newydd am denantiaeth);
  • y cynigion sy’n caniatáu i landlordiaid wahardd rhywun sydd â chontract safonol â chymorth o’u cartref am hyd at 48 awr heb orchymyn llys.

Mae’r manylion llawn am ein holl argymhellion, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd atynt uchod, i’w gweld yn ein hadroddiad.

Y cam nesaf o ran cynnydd y Bil yw’r ddadl Cyfnod 1. Trefnwyd y ddadl hon ar gyfer 7 Gorffennaf yn Siambr ddadlau’r Cynulliad, a bydd yn cynnwys trafodaeth ar y Bil gan yr Aelodau, a chytuno ynghylch a fydd y Bil yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ddeddfu.

Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor

Fideo byr o’r Cadeirydd yn trafod adroddiad y Pwyllgor: