Tag: Bae Caerdydd

Gofalu am wenyn y Pierhead: ein staff sy’n gwirfoddoli

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Awst 2019

Mae Pierhead y Cynulliad wedi bod yn gartref i ddau gwch gwenyn ar y to ers mis Gorffennaf 2018, lle mae tîm bach o staff sy’n gwirfoddoli yn eu monitro ac yn gofalu amdanynt yn rheolaidd.

Er gwaethaf eu lleoliad ar y to mae’r cychod gwenyn mewn man diogel, cysgodol sy’n eu hamddiffyn rhag y gwaethaf o dywydd Bae Caerdydd. O dan lygaid craff ein gwirfoddolwyr gwnaethant ymgartrefu drwy’r hydref a goroesi eu gaeaf cyntaf. Nawr mae’n haf eto, mae’r gwenyn yn gweithio’n galed ac wedi dechrau cynhyrchu mêl.

Yma, mae dau o’n gwirfoddolwyr yn siarad am eu profiadau:

Emily

Mae’r haf wedi cyrraedd ac mae gwenyn y Pierhead yn brysurach nag erioed yn chwilota ardaloedd cyfagos y Pierhead i adeiladu storfeydd o’u mêl euraidd bendigedig.

Er bod un o’r cychod gwenyn wedi cael dechrau cymharol araf yr haf hwn, mae’r gwenyn wedi gwneud iawn amdano ac maen nhw bellach wedi cronni ffrâm ar ôl ffrâm o fêl a fydd yn cael ei gynaeafu yn yr hydref. Nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor galed y mae’r gwenyn yn gweithio…i wneud dim ond 1KG o fêl, bydd ein gwenyn wedi hedfan 145,000km a gallent fod wedi ymweld â hyd at 2000 o flodau’r dydd! Fel y gallwch weld o’r lluniau isod, maen nhw wedi bod yn brysur iawn.

Felly sut mae’r gwenyn yn gwneud mêl? Mae ein gwenyn wedi bod yn brysur yn chwilota’r ardal leol am neithdar a geir mewn planhigion a blodau gwyllt. Cesglir y neithdar, yna unwaith y bydd y tu mewn i’r cwch gwenyn, bydd y gwenyn gweithgar yn bwyta, yn treulio ac yn ailgyfogi’r neithdar i’r celloedd. Pan fydd y cysondeb cywir, caiff y mêl ei selio, sef yr hyn y gallwch chi ei weld yn y lluniau isod.

Dyma’r tymor cyntaf lle byddwn ni’n gallu cynaeafu mêl, ac fel gwenynwr newydd rwy’n edrych ymlaen at weld y broses. Mae mêl wedi’i gynaeafu ers miloedd o flynyddoedd am ei fuddion amrywiol. Nid yn unig y mae’n flasus a byth yn difetha, ond mae ganddo hefyd lawer o briodweddau meddyginiaethol hefyd. Mae’n wrthfacterol ac yn wrthlidiol a gellir ei ddefnyddio hyd yn oed i helpu i leddfu symptomau clefyd y gwair. Gobeithio y bydd y gwenyn yn ddigon caredig i rannu peth o’u mêl gyda ni yn ddiweddarach yn y flwyddyn!

Oeddech chi’n gwybod?
Daethpwyd o hyd i fêl ym meddrodau Pharoaid yr Aifft hynafol a phan gawsant eu cloddio roeddent yn dal i fod yn fwytadwy 3000 o flynyddoedd yn ddiweddarach! Profi’r theori nad yw mêl byth yn difetha!

Sian D


Fel carwr natur, rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o brosiect mor gyffrous yn y Cynulliad.

Pwy ag ŵyr bod cymaint i’w ddysgu am wenyn?! Rydw i wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers ychydig dros flwyddyn bellach ac rydw i’n dal i ddysgu yn gyson am eu ffyrdd a’u triciau. Rydw i bron bob amser yn cael fy synnu pan fydda i’n codi’r caead oddi ar gwch gwenyn ac yn edrych i mewn – yn enwedig ar y cyflymder rhyfeddol y mae’r cychod gwenyn yn newid ac yn datblygu.

Mae natur brysur y gwenyn yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn cynnal archwiliadau wythnosol yn ystod misoedd yr haf, tra bod y blodau’n blodeuo a bod gweithgarwch peillio yn mynd rhagddo. Rydyn ni’n gweithio fel pâr yn ystod yr arolygiadau, gan sganio bob ffrâm yn drylwyr wrth inni weithio ein ffordd drwy’r cwch gwenyn. Wrth inni sganio rydyn ni’n edrych am fêl (eu cyflenwad bwyd); paill; celloedd nythaid wedi’u capio; larfa; wyau; a’r frenhines anamlwg fel arfer.

Yn ystod arolygiad efallai y byddwch yn dod o hyd i rai o’r gwenyn yn codi eu cefnau yn yr awyr ac yn gwyntyllu eu hadenydd yn wyllt. Os ydych chi’n ddigon dewr i roi’ch wyneb yn agos atyn nhw, yna byddwch chi’n arogli arogl ffres hyfryd lemwn. Mae’r arogl hwn a ryddheir yn helpu’r gwenyn sy’n chwilota am fwyd i ddod o hyd i’w ffordd adref.

Wrth ichi sganio drwy’r cychod gwenyn fe welwch hefyd fod y celloedd wedi’u capio yn dod mewn gwahanol feintiau. Bydd y rhai mawr sydd wedi codi yn cynnwys gwenyn drôn (gwryw) ac mae’r celloedd mwy gwastad yn cynnwys gwenyn benywaidd llai.

Oeddech chi’n gwybod y gall y frenhines ddewis rhyw ei phlant? Pan fydd brenhines forwyn yn gadael y cwch gwenyn am y tro cyntaf bydd hi’n cael sawl pariad gyda gwenyn drôn yn ystod ei hediad. Yna mae hi’n storio’r sberm gan ei ddefnyddio fesul tipyn wrth iddi ddodwy ei hwyau. Bydd ei chyflenwad fel arfer yn para tua thair blynedd. Os bydd hi’n ffrwythloni ŵy â sberm yna bydd gwenynen fenyw yn dod i’r amlwg, a bydd drôn yn dod allan o ŵy heb ei ffrwythloni. Mae’r ‘dewis’ hwn yn cael ei bennu gan faint y celloedd haid a wneir gan y gwenyn gweithgar. A dim ond ychydig o’r ffeithiau hynod ddiddorol am y gwenyn rhyfeddol yw’r rhain!

Sian C

Manteisiais ar y cyfle i fod yn rhan o’r tîm cadw gwenyn yma yn y Cynulliad ac nid yw fy mhrofiad hyd yma wedi siomi.

Mae cadw gwenyn yn hynod ddiddorol ac rwy’n teimlo bod yr amser a dreulir ar ben y Pierhead mor hamddenol. Mae gofalu am y gwenyn a gwylio’r cychod gwenyn yn tyfu ac yn newid wedi bod yn addysg, ac rwy’n llawn parch tuag at y cytrefi a’r ffordd y mae natur yn gweithio.

Rydw i wedi dysgu cymaint, nid yn unig am y gwenyn, ond hefyd mae hefyd wedi ennyn fy niddordeb mewn materion amgylcheddol ymhellach ac o hyn rydw i wedi gwneud rhai newidiadau mawr i’m harferion fel defnyddiwr, fy neiet ac yn yr ardd! Nid yn unig rydw i wedi dysgu sgil newydd, rydw i hefyd wedi cwrdd â phobl newydd anhygoel o bob rhan o fywyd y Cynulliad, na fyddwn i wedi cael y cyfle i ddweud mwy na ‘helo’ cyflym iddyn nhw yn y coridor fel arall.

Diolch am y cyfle i fod yn rhan o brosiect mor arloesol – dwi wrth fy modd!”

Katy

Rwyf bob amser yn synnu gweld y llythrennau ‘Dr.’ o flaen fy enw. Ond, doctor ydw i. Nid y math y byddech chi am gael yn gwmni ar awyren pan fo’r stiwardiaid yn gweiddi ‘a oes meddyg yma?!’, efallai, oherwydd fy mod i’n ‘Ddoctor Gwenyn’ (yn ôl fy nghyfeillion, ta beth). Roedd fy noethuriaeth yn seiliedig ar astudio pryfed peillio gwyllt, a oedd yn cynnwys nodi rhywogaethau gwenyn a’r blodau y maen nhw’n bwydo arnyn nhw.

Felly, roeddwn i wedi cyffroi’n lân i glywed bod y Cynulliad wedi dechrau cadw gwenyn. Erbyn hyn, rwy’n aelod o’r tîm Gwenyn, ac mae’n fraint o’r mwyaf. Er fy mod i wedi astudio cymunedau o bryfed peillio gwyllt, nid oedd gennyf ddim profiad o gadw gwenyn mêl. Rwyf wedi dysgu cymaint gan Nature’s Little Helpers a fy nghyfeillion ar y tîm, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud hynny.

Maen nhw’n anifeiliaid anhygoel. Maen nhw’n gweithio fel grŵp go iawn, ac mae i bob un aelod o’r grŵp ei rôl arbenigol yn dibynnu ar ei oedran, gan fynd ati i’w chyflawni’n ddiwyd. Y gwenyn ieuengaf yw’r glanhawyr. Maen nhw’n symud ymlaen i fwydo’r larfâu sy’n frodyr ac yn chwiorydd iddyn nhw, adeiladu’r crwybrau a gwarchod y cwch gwenyn cyn hedfan i ffwrdd i gasglu paill a neithdar. Gyda’i gilydd, maen nhw’n creu’r grŵp mwyaf trylwyr a rhyfeddol. Ac, wrth gwrs, mae yna Frenhines. Fodd bynnag, nid yw hi’n teyrnasu fel y byddech chi’n dychmygu, oherwydd y gwenyn gweithgar sy’n penderfynu beth yw beth. Drwy arwyddion, maen nhw’n rheoli gweithgarwch y frenhines – maen nhw hyd yn oed yn penderfynu a yw hi’n dodwy cynrhonyn gwrywaidd neu fenywaidd!


Oherwydd eu lleoliad ar y to a pheidio â bod eisiau aflonyddu ar y gwenyn, nid yw’r cychod gwenyn ar agor i’r cyhoedd, er efallai y byddwch chi’n gweld un o’n gwenyn yn casglu paill o amgylch Bae Caerdydd.

10 rheswm i ymweld â’r Senedd yr haf hwn

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd?

O wleidyddiaeth i bensaernïaeth, o gelf i gynhyrchion Cymreig, mae gan y Senedd rywbeth at ddant pawb.

1. Y bensaernïaeth a’r dyluniad sydd wedi ennill gwobrau

Mae’r Senedd yn wirioneddol unigryw. Mae’n well edrych ar y twmffat a’r canopi enfawr o bren cedrwydd Canada cynaliadwy o’r tu mewn i’r adeilad, lle gallwch archwilio ar ddwy lefel.

2. Archwilio llwybr y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau difyr, rhad ac am ddim i blant i’w mwynhau’r penwythnos hwn? Gall fforwyr bach deithio drwy’r canrifoedd ar ein llwybrau i blant.  Chwiliwch y Senedd a chasglwch y cliwiau – a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol ar hyd y ffordd. Rhowch eich cerdyn wedi’i orffen yn ôl i’r Dderbynfa a chewch gynnig yn y raffl i ennill gwobr!

3. Gweld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni

Dros yr haf mae ein teithiau tywys arferol yn cynnwys mynediad unigryw i ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd ein tywyswyr cyfeillgar, arbenigol yn mynd â chi ar daith drwy hanes y Bae i bensaernïaeth y Senedd a Chymru heddiw.
Gorau oll, mae’r teithiau am ddim ac yn rhedeg yn ddyddiol am 11.00 / 14.00 / 15.00

4. Mwynhau blas o Gymru yn ein caffi a’n siop

Mae diwrnod o archwilio’r Bae yn galw am baned a chacen yn ein caffi. Dewiswch o amrywiaeth o luniaeth a mwynhewch olygfeydd hyfryd o’r Bae drwy ffenestri enfawr y Senedd. Wrth ymyl y caffi mae’r siop, sy’n cadw cynnyrch, llyfrau ac anrhegion Cymreig.

5. Edrych ar gelf

Bydd y Senedd yn cynnal arddangosfeydd newydd gwych drwy gydol yr Haf.

Gallech greu eich cerdyn post eich hun o Gymru wedi’i ysbrydoli gan osodiad enfawr Steve Knapik MBE a’i bostio yn ein blwch post.
Dysgwch am hanes Bae Caerdydd drwy hen luniau du a gwyn Jack K Neale o longau yn hwylio allan o Ddociau Bute, gan gludo glo De Cymru yn ôl i Ffrainc.
Neu meddyliwch am yr hyn y byddech chi’n ei ychwanegu at Drawn Together, prosiect cenedlaethol a oedd yn gwahodd pobl i gymryd pum munud i dynnu llun rhywbeth y gallent ei weld. Cyfrannodd dros 4,500 o bobl gyda lluniau wedi dod o bob sir yng Nghymru.

6. Y tîm diogelwch mwyaf cyfeillgar yng Nghaerdydd

Fel gydag unrhyw adeilad seneddol, mae’n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy broses ddiogelwch fel yn y maes awyr ar ei ffordd i mewn i’r Senedd. Fodd bynnag, mae ein tîm diogelwch yn gwneud eu gorau i greu argraff gyntaf dda. Dyma ddetholiad bach iawn o’r nifer fawr o sylwadau a gawsom amdanynt ar Trip Advisor:

“Wedi gorfod mynd drwy broses ddiogelwch, ond roedden nhw y mwyaf cyfeillgar imi ddod ar eu traws (Heathrow, cymerwch sylw)”
Celticfire

“Yr adeilad llywodraeth mwyaf cyfeillgar imi ymweld ag ef erioed! Adeilad hardd a diddorol gyda’r staff mwyaf cyfeillgar imi ddod ar eu traws erioed. Roedd hyd yn oed y tîm diogelwch yn hyfryd, gan sicrhau trosglwyddiad hawdd, diogel i’r adeilad.”
Gillyflower58


“Proses ddiogelwch fel yn y maes awyr yn cael ei chyflawni gan staff hapus a chyfeillgar iawn.”
138Paul138

Wnaethom ni sôn bod gennym hefyd Dystysgrif Ragoriaeth Trip Advisor?

7. Mwynhau dyluniad amgylcheddol y Senedd

Poeth ym Mae Caerdydd? Mae dyluniad unigryw y Senedd yn ei chadw’n hyfryd ac yn oer ar ddyddiau’r haf. Mae ei ffenestri yn agor ac yn cau’n awtomatig er mwyn helpu i reoleiddio’r tymheredd y tu mewn.

8. Helpu ni i ddathlu 20 mlynedd

Eleni rydym yn dathlu 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhannwch eich dyheadau ar gyfer Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf ar ein bwrdd.

9. Mae gennym Lego®, Duplo® a gweithgareddau ar gyfer y rhai bach

Os ydych chi’n teimlo’n ysbrydoledig ar ôl gweld dreigiau, tywysogesau a dewiniaid Bright Bricks, dewch draw i ychwanegu eich creadigaeth Lego® eich hun i’n map o Gymru. Drwy gydol y gwyliau mae gennym hefyd daflenni lliwio a chrefftau ar gael i ddiddanu’r rhai bach wrth ichi fwynhau egwyl fach.

10. Mae am ddim!

A faint mae’n ei gostio i gael mynediad at hyn i gyd, fe’ch clywaf yn gofyn? Dim byd. Mae’r Senedd yn adeilad cyhoeddus – eich adeilad chi – ac rydyn ni ar agor 7 diwrnod yr wythnos. P’un a ydych chi’n ymweld â Chaerdydd am y penwythnos neu’n rhywun lleol nad ydych erioed wedi mentro y tu mewn, ewch i lawr i’r Senedd yr haf hwn wrth inni ddathlu 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llond Gwlad o Dalent Greadigol

Steve Knapik MBE sy’n sôn am ei arddangosfa, ‘Cerdyn Post o Gymru’, sy’n agor yn y Senedd ar 27 Gorffennaf 2019.

Rwy’n artist, ond rwyf hefyd yn angerddol am fy ngwaith gyda’r elusen i blant, Blue Balloon. Drwy’r elusen hon, mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i wella bywydau plant yng Nghymru.  Ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i am helpu Blue Balloon drwy drefnu prosiect celf enfawr i greu tirlun mawr, mawr iawn; mor fawr, a dweud y gwir, roeddwn i’n gobeithio torri Record Guinness y Byd am y tirlun parhaus hiraf erioed. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n llawer o waith, felly gofynnais am help gan lawer o wahanol bobl, gan gynnwys disgyblion ysgolion cynradd, grwpiau sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia, a disgyblion ysgolion sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd hi’n bwysig i mi gynnwys amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod y prosiect yn cynnwys ac yn croesawu pawb.

Gwnaethom ni weithio’n galed am bum mlynedd. Roedd trefnu popeth yn dipyn o waith, ond roedd e’n werth chweil i weld y cyffro a’r mwynhad ar wynebau pawb. Er mwyn torri Record Guinness y Byd, roedd angen o leiaf 30,000 o ddarluniadau arnom, felly roedd llawer o waith i’w wneud! Roedd llinellau ar bob darlun yn dangos ble roedd y mynyddoedd a’r awyr, ac roedd hyn yn golygu bod modd cyfuno’r lluniau i greu un gwaith celf mawr. Gwelais lawer o dalent greadigol a ffyrdd llawn dychymyg o feddwl am ein tirweddau. Er enghraifft, defnyddiodd rhai o’r plant ysgol gynradd flociau o streipiau lliw i gynrychioli caeau.

Roedd pawb yn gyffrous am ein hymdrech i dorri Record y Byd. Roedd hyd yn oed Stadiwm Liberty yn Abertawe yn barod i ni arddangos dros bum milltir o ddarluniadau gwreiddiol wedi’u cyfuno…

Ac yna, newyddion gwael! Gwnaethom ni glywed nad oedd modd cofrestru ein prosiect fel record byd. Roeddwn i’n drist ac yn siomedig iawn. Beth oeddwn i’n mynd i’w wneud â’r holl ddarluniau gwych? Ond roeddwn i’n benderfynol na fyddwn i’n cael fy nhrechu. Roedd y gweithiau celf anhygoel hyn yn haeddu cael eu harddangos. Roedd angen adeilad eiconig a phwysig arnaf i arddangos y dalent a’r creadigrwydd a welais gan blant ledled Cymru.

Cysylltais â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chwrdd ag Alice sy’n guradur yno. Mae hi’n gweithio gydag artistiaid i drefnu arddangosfeydd. Pa le gwell i arddangos y gweithiau celf gwych hyn na’r Senedd, cartref democratiaeth yng Nghymru, lle mae pobl yn gwneud penderfyniadau pwysig am yr hyn sy’n digwydd yn ein gwlad? Cwrddais i ag Alice a buom yn siarad am greu arddangosfa o’r tirluniau yn y Senedd. Fe dreuliom ni lawer o amser yn cynllunio, ac o’r diwedd, roeddem ni’n barod i roi’r arddangosfa at ei gilydd er mwyn i bawb ei mwynhau.

Rwy’n teimlo mai’r Senedd fydd y lle perffaith i ddangos ein gwaith celf, ac rwy’n edrych ymlaen at gael hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan, drwy annog ymwelwyr â’r Senedd i wneud cardiau post i’w hanfon, ac i ddathlu llawer o bethau cyffrous sy’n digwydd yn y Cynulliad eleni…

Ugainmlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd yn gymaint o anrhydedd cael fy newis i fod yn rhan o’r dathliad pwysig hwn. Crëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 mlynedd yn ôl, ac mae’r adeilad hardd hwn yn lle gwych ar gyfer dathliad mawr. Mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd, ac rwy’n falch iawn i’ch gwahodd CHI, y cyhoedd, i fentro mewn a chymryd rhan wrth greu eich tirlun unigryw eich hun. Rwy’n gobeithio y cewch chi gymaint o hwyl â dros 30,000 o blant ac oedolion o’ch blaen wrth gymryd rhan yn ein prosiect.

Senedd Ieuenctid Cymru

Ym mis Chwefror eleni, cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys 60 o bobl ifanc 11-18 oed, am y tro cyntaf. Rydym ni am helpu i ddathlu’r digwyddiad gwych hwn a sefyll ochr yn ochr â’r 60 aelod sy’n cynrychioli pob rhan o Gymru. Mae gan bob aelod ddiddordeb mawr mewn elfennau o fywyd sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Mae mor bwysig i’n pobl ifanc gael llais, ac mae’r Senedd Ieuenctid yn gweithio’n galed i sicrhau bod y llais hwnnw’n cael ei glywed. Fe wnaeth rhai aelodau o’r Senedd Ieuenctid hyd yn oed gymryd rhan yn fy mhrosiect pan oedden nhw yn yr ysgol!

Arwyddair yr elusen i blant, Blue Balloon, yw ‘Gobaith heddiw am well yfory’, ac mewn sawl ffordd, mae’n berthnasol i’r bobl ifanc hyn sy’n cynrychioli lleisiau holl bobl ifanc Cymru ac yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Y celfyddydau fel rhan o’n Cymreictod

Mae gan Gymru fel cenedl ymdeimlad cryf o berthyn a hunaniaeth. Mae hyn i’w weld mewn sawl ffordd, yn enwedig drwy’r celfyddydau. Rydym ni’n dathlu Cymru fel gwlad y gân, felly mae cerddoriaeth yn rhan gref o’n treftadaeth; ond mae barddoniaeth, drama a’r celfyddydau gweledol yn bwysig iawn hefyd. Gall pob math o bethau ein hysbrydoli. Mae artistiaid wedi eu swyno gan dirweddau Cymru ers canrifoedd: y mynyddoedd, y môr a’r awyr.

Mae’n bwysig i ni edrych yn fanwl ar ein hamgylchedd agos, ac wrth siarad â phobl ifanc a phobl nad oedden nhw mor ifanc yn ystod y prosiect, gwnaethom drafod llawer o bethau sy’n effeithio ar ble rydym ni’n byw. Gall yr amgylchedd o’n cwmpas helpu i ddechrau trafodaeth, a gwnaethom ddangos ein teimladau am ein hamgylchedd drwy ein tirluniau. Rhaid i ni beidio byth â cholli golwg ar bwysigrwydd y celfyddydau mewn cymdeithas a sut gallan nhw fod yn bositif iawn i’n llesiant a’n synnwyr o bwy ydym ni.

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored

Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead


Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma le mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd


Yn adeilad dirnod eiconig  ym Mae Caerdydd, y Senedd yw galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?

Mae dwy daith yn cael eu cynnal ar 30 Medi am 11:00 a 14.00.

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Mae’r daith am 11:00 yn LLAWN ond mae llefydd ar gael ar y daith 14.00.

Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 30 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i’r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae’r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw’r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o’r tu mewn a’r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae’r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae’n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch:

“Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai’r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio’u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau’r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy’r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o’r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i’r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi’r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio’r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi’r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o’r Bae drwy ffenestri’r Senedd. Y drws nesaf i’r caffi mae siop y Senedd, sy’n cynnwys detholiad o’r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy’n gysylltiedig â’r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​

Nid oes tâl i fynd i mewn i’r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio’ch penwythnos yma. Ewch i’r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach – Digwyddiad i randdeiliaid

Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf.

IMG_2254

Beth ddigwyddodd?

Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod â rhanddeiliaid sut y mae’r Pwyllgor wedi darparu o ran ei raglen waith, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu pethau, yn enwedig:

  • Beth oedd uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Pwyllgor? Beth y gallai’r Pwyllgor fod wedi’i wneud yn well?
  • Beth yw’r tueddiadau neu’r digwyddiadau allweddol dros y 12 i 18 mis nesaf?
  • A yw’r amseru yn iawn ac a oes unrhyw beth ar goll yn syniadau cychwynnol y Pwyllgor am waith yn y dyfodol?

Y themâu allweddol a oedd yn dod i’r amlwg o lawer o’r trafodaethau oedd effaith gadael yr UE a phwysigrwydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sydd ar fin cael ei chyhoeddi.

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:

“Flwyddyn ar ôl i ni wahodd amrywiaeth o randdeiliaid gyntaf i roi gwybod i ni am yr hyn y dylem ei wneud fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i glywed beth oedd eu barn am yr hyn a wnaed gennym. Ac i weld beth oedd eu barn am rai o’n syniadau sy’n datblygu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

“Ar ôl y trafodaethau heddiw, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn i ddatblygu rhaglen waith sy’n ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar y tair prif elfen o’n cylch gwaith, sef yr economi, seilwaith a sgiliau.”

IMG_2255

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y tîm clercio yn defnyddio’r syniadau a’r sylwadau a gafwyd gan randdeiliaid i lywio papur, a fydd yn nodi blaenoriaethau ac ymchwiliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried ym mis Medi.