Category: Y tu ôl i’r llenni

Diwrnod #ShwmaeSumae – Ein canllaw i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle

Unwaith eto eleni, bydd Aelodau a staff y Cynulliad yn nodi Diwrnod Shwmae/Su’mae gydag wythnos o weithgareddau. Bydd pawb yn cael eu hannog i gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’, a bydd taflenni a sticeri yn cael eu dosbarthu drwy’r adeilad i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod.

Dysgu Learn 2

Bydd llawer o’r gweithgareddau yn cael eu hanelu at y nifer fawr o ddysgwyr yn y sefydliad. Yn wir, mae’r Cynulliad ar flaen y gad wrth ddarparu gwersi Cymraeg yn y gweithle. Mae tîm o dri thiwtor mewnol sy’n darparu gwersi ar bob lefel i Aelodau’r Cynulliad a’u staff ac i staff Comisiwn y Cynulliad.

Byddwch yn hyblyg o ran eich staff a’u hanghenion

Mae’r tîm yn gallu cynnig hyblygrwydd yn ei ddarpariaeth: yn ogystal â chynnig gwersi ffurfiol sy’n dilyn y gwerslyfrau arferol, mae hefyd yn gallu cynnig sesiynau un-i-un i ddysgwyr. Gall rhai o’r sesiynau hyn ganolbwyntio ar elfennau penodol megis ynganu neu loywi sgiliau siaradwyr Cymraeg rhugl. Cynhelir sesiynau penodol i wasanaethau cyfan o fewn y Cynulliad fel y gwasanaeth diogelwch neu’r gwasanaeth TGCh, gyda’r sesiynau yn cael eu teilwra i anghenion penodol y gwasanaethau hynny.

Dysgu Learn

Hwyl yw’r nod!

Mae’r tîm hefyd yn trefnu digwyddiadau mwy anffurfiol o bryd i’w gilydd – er enghraifft, adeg Diwrnod Shwmae/Su’mae neu o amgylch Gŵyl Ddewi, trefnir cwis, helfa drysor ac ati. Yn ddiweddar, ffurfiwyd Côr y Cynulliad, a hynny’n rhannol er mwyn cynnig cyfle i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg.

Er mwyn sicrhau bod mwy o sgyrsiau yn dechrau’n Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, rydym yn darparu cortynnau gwddf iaith gwaith neu’r cortynnau gwddf arbennig i ddysgwyr y gwnaeth y Cynulliad eu cynhyrchu rai blynyddoedd yn ôl.

Yn gryno …

Llyfrau Books

Y nod yn y pendraw yw cynyddu gallu’r holl sefydliad i weithredu fel sefydliad naturiol ddwyieithog. Mae cynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg sy’n gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn un ffordd o gyflawni’r nod hwnnw.

Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud i annog dysgwyr yn y Cynulliad:

  • cynhyrchu adnoddau ar ffurf cardiau wedi’u lamineiddio neu siâp toblerôn ar wahanol faterion: cyfarchion ac ymadroddion cyffredinol; cadeirio cyfarfodydd; ateb y ffôn;
  • defnyddio siaradwyr Cymraeg eraill yn y sefydliad i fod yn fentoriaid i ddysgwyr;
  • trefnu digwyddiadau anffurfiol fel ‘coffi a chlonc’;
  • cynnal sesiynau blasu i ddechreuwyr pur ar bynciau penodol fel cyfarchion cyffredinol neu’r anthem genedlaethol;
  • digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth fel stondin adeg Gŵyl Ddewi, Diwrnod Shwmae neu Ddiwrnod Santes Dwynwen;
  • perswadio staff i ddweud ‘Shwmae’ i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae/Su’mae.

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored

Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead


Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma le mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd


Yn adeilad dirnod eiconig  ym Mae Caerdydd, y Senedd yw galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?

Mae dwy daith yn cael eu cynnal ar 30 Medi am 11:00 a 14.00.

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Mae’r daith am 11:00 yn LLAWN ond mae llefydd ar gael ar y daith 14.00.

Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 30 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Yr Hawl i Brynu: dyma beth y mae angen ichi’i wybod am y newidiadau arfaethedig yng Nghymru

Ydy cynlluniau Hawl i Brynu yn helpu tenantiaid fod yn berchen ar gartref neu effeithio ar gymunedau lleol yn negyddol? Dylid eu diddymu neu eu hatal?

Dyma rai o’r cwestiynau trafodwn gyda thenantiaid ledled Cymru fel rhan o’n hymchwiliad y gyfraith arfaethedig i Ddiddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig yng Nghymru.

Beth yw’r Hawl i Brynu?

Cyflwynwyd y cynllun Hawl i Brynu yn y DU yn 1980 i ganiatáu rhai tenantiaid i brynu eu tai cyngor am ddisgownt.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig newidiadau a fyddai’n dod a’r cynllun Hawl i Brynu i ben yng Nghymru.

Drwy gyflwyno’r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r farchnad dai i brynu neu rentu cartref.

Mae ein Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig y gyfraith hon i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a’i chymunedau.

Beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu?

Byddai’r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno’r gyfraith.

Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi.

Byddai’r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru.


Eisiau gwybod ein hargymhellion i
Lywodraeth Cymru ar newidiadau i Hawl i Brynu?

Cael yr adroddiad »


Sut gallai’r newidiadau effeithio arnaf i?

Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o’r newidiadau, mae’r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i’r diddymu digwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu’r wybodaeth honno i’r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i’r gyfraith arfaethedig ddod i rym.

Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i’r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau’n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny.

Eich barn chi

Ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus, roedd rhan allweddol o’r ymchwiliad hwn yn cynnwys ymgysylltu a gweithio gyda thenantiaid ledled Cymru i helpu i ddeall beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu iddynt hwy.

Drwy gynnal trafodaethau yng Nghaerdydd, Castell Newydd Emlyn, Bae Colwyn ac Ynys Môn, yn ogystal ag ar-lein ar Dialogue a Facebook, cafodd tenantiaid ledled Cymru gyfle i gymryd rhan, trafod a rhannu eu barn ar y gyfraith arfaethedig ac a ydynt yn teimlo bod angen gwelliannau.

Dylai tai cyngor fod ar gyfer y rhai mewn angen” – Tenant, Grŵp Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Sir Fôn

Cafwyd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer y Bil gan denantiaid a sefydliadau, a’r angen i ddiddymu’r Hawl i Brynu er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael mynediad at dai fforddiadwy, ac atal y golled bellach o ran y stoc tai cymdeithasol.

Wedi derbyn yr holl dystiolaeth, mae’r Pwyllgor wedi cytuno bydd diddymu’r Hawl i Brynu yn sicrhau bod y stoc tai cymdeithasol newydd a’r stoc sydd eisoes yn bodoli yn parhau i gael i’w defnyddio ar gyfer ei diben gwreiddiol, sef fel modd o ddarparu llety fforddiadwy ar rent gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf.

Yr effaith ar denantiaid cymwys a pherchentyaeth

Roedd y mwyafrif o denantiaid yn cydnabod y wasgfa y mae pobl yn teimlo bellach yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai.

Mae’r cyflog cyfartalog mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn llai na’r isafswm cyflog sydd eu hangen i fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau Cymorth I Brynu ac mae nifer o denantiaid yn cael eu cyflogi drwy gontractau dim oriau.

Dywedodd tenantiaid Ynys Môn fod y cyflog cyfartalog yn £14,000 i drigolion.

O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth o’r mentrau i gynorthwyo perchentyaeth ymhlith tenantiaid cyn y diddymu.  

Dyletswydd i roi gwybodaeth i denantiaiad

Mynegodd llawer o denantiaid eu pryderon ynghylch cyfathrebu’r newidiadau hyn gyda thenantiaid. Nad oes unrhyw fanylion yn y Bil ynghylch sut y dylai’r wybodaeth ofynnol gael ei chyfleu i denantiaiad neu ei haddasu i ddiwallu eu hanghenion amrywiol.

O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Bil I sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei gyfleu i denantiaiad yn y ffordd fwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu anghenion amrywiol. Dylai’r Llywodraeth profi’r wybodaeth ddraft gyda thenantiaid cyn iddi gael ei chwblhau er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.

“…mae pob dim angen mynediad at y cyfryngau cymdeithasol a’r we nawr… mae unrhyw beth sy’n digwydd nawr yn dyfynnu gwefan am ragor o wybodaeth… bydd pobl yn anwybodus os nad yw’r wybodaeth yn hygyrch” – Tenant, Rhwydwaith Tenantiaid De Cymru TPAS Cymru

Beth yw’r camau nesaf?

Nawr bod y Pwyllgor wedi rhoi ei argymhellion I Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella’r gyfraith arfaethedig, bydd Llywodraeth Cymru yn cael y cyfle i ymateb.

Cyn gwneud y newidiadau i’r gyfraith arfaethedig, bydd argymhellion y Pwyllgor yn cael eu trafod ymhlith holl Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli pobl Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

I gael yr holl wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, gellwch

  • Dilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCLlLCh; a
  • Mynd i dudalen y Pwyllgor ar y gyfraith arfaethedig

Deialog â’n democratiaeth

Ugain mlynedd yn ôl i fis Medi eleni, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain.

Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio i’w gael erioed. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyfnhau ei berthynas â phobl Cymru drwy ddulliau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.

tasglu-digidol-cyfryngau-cymdeithasol-yng-nghynulliad-cenedlaethol-cymru

Mae ein ffocws wedi bod ar y dinesydd Cymreig, sef defnyddiwr posibl llwyfan a gwasanaethau’r Cynulliad.

Ein man cychwyn yw y dylai pob gohebiaeth y Cynulliad gael ei chynllunio gyda buddiannau dinasyddion / defnyddwyr yn ganolog iddi, a dylai’r wybodaeth ynddi fod yn agored, er mwyn ceisio datblygu perthynas hirdymor â dinasyddion Cymru.

Yn ein hadroddiad rydym yn dangos sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio’r sianelau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol modern i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl ac yn poeni amdano, i gasglu tystiolaeth, gwybodaeth a barn, i gymryd rhan mewn amser real â phobl mewn cymunedau lleol a chymunedau o ddiddordeb.

Yna gall yr un cyfryngau ganiatáu i’r Cynulliad rannu gyda hwy yn uniongyrchol sut y mae eu cynrychiolwyr etholedig, yn unigol ac ar y cyd, yn ceisio ymateb i’r materion hynny.

Mewn rhai meysydd mae ein cynigion yn radical.

Rydym am i’r Cynulliad, ei Aelodau a’i staff, ddeall eu bod yn creu cynnwys: mae’r Cynulliad yn blatfform cynnwys sy’n casglu ffeithiau, gwybodaeth, data, sylwebaeth, barn, a dadansoddiadau, yn ysgrifenedig ac yn glyweledol, sydd naill ai’n arwain at weithredu neu weithiau – yn fwriadol – at beidio â gweithredu.

diwrnod-hacio-yn-y-senedd-bae-caerdydd

Senedd Lab (Diwrnod Hacio), fforio sut y gall arloesiad Digidol gwella’r ffordd mae’r Cynulliad yn ymgysylltu efo’r cyhoedd.

O’i drefnu’n iawn, mae hwn yn lle digidol dwys, gwerthfawr a democrataidd sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r genedl am y materion hynny sydd o’r pwys mwyaf iddi. Dylai fod yn arloesol, yn greadigol, ac yn ennyn ysbrydoliaeth.

Roedd ein grŵp yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau perthnasol, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, cynnwys digidol a datblygiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ein galluogi i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithredu.

Mae ein hargymhellion yn amrywiol.

Maent yn cynnwys yr awgrymiadau hyn:

  1. Dylai’r Cynulliad arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill (fel cylchlythyrau e-bost pwrpasol) i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.
  2. Dylai’r Cynulliad roi pobl, yn hytrach na’r sefydliad a’i brosesau, wrth wraidd straeon newyddion amserol ac anelu at wneud cysylltiad emosiynol â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
  3. Dylai’r Cynulliad greu cynnwys sy’n helpu pobl i ddeall y cysylltiadau, y gwahaniaethau a’r berthynas waith rhwng y Cynulliad a sefydliadau allweddol eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael â’r diffyg o ran gwybodaeth ddemocrataidd.
  4. Rhaid i Senedd TV fod yn haws ei ddefnyddio, gyda dull syml o alluogi pobl i ganfod a chlipio ffilmiau’n gyflym er mwyn eu cynnwys mewn pecynnau fideo neu eu mewnblannu ar dudalennau Aelodau’r Cynulliad, gwefannau allanol a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dylid mabwysiadu dulliau clyfar ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod sgyrsiau a chymunedau ar-lein, a chaniatáu i’r Cynulliad gymryd rhan ynddynt.
  6. Rhaid i’r Cynulliad fanteisio ar bob opsiwn amgen yn lle datganiad i’r wasg fel ffordd o hyrwyddo’i waith. Mae gan fapiau, ffeithluniau, blogiau, a chrynodebau byr y potensial i gyfleu negeseuon anodd mewn ffordd gofiadwy.
  7. Dylid cael adran benodedig hawdd ei defnyddio ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blatfform Hwb, gydag adnoddau ar gyfer addysgu sy’n gysylltiedig ag anghenion y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  8. Dylai’r Cynulliad feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i’w gwneud yn haws ymgysylltu â’r Cynulliad ac archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) am ei waith.
  9. Dylid mabwysiadu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf addas i ymgysylltu â phobl ifanc a dysgwyr. Dylai’r Cynulliad groesawu’r potensial ar gyfer ymgysylltu digidol gan ddefnyddio platfformau eraill fel Skype, Facetime, realiti rhith neu realiti estynedig.
  10. Dylid meddwl mwy am brofiad ymwelwyr yn ystâd y Cynulliad – y tu allan a’r tu mewn yn y Senedd a’r Pierhead – gan gynnwys tafluniadau, waliau fideo, realiti rhith a realiti estynedig ar yr ystâd.

Rydym hefyd yn argymell bod dathlu 20 mlynedd, yn 2019, ers sefydlu’r Cynulliad yn cael lle canolog mewn ymgyrch i hyrwyddo straeon datganoli, ac  yn argymell i’r Llywydd y dylai ystyried trefnu Gŵyl Ddemocratiaeth Cymru i gyd-fynd â’r pen-blwydd hwnnw.

person-yn-defnyddio-iphone-am-gyfryngau-cymdeithasol

Wrth bleidleisio dros Gynulliad Cenedlaethol ugain mlynedd yn ôl, creodd pobl Cymru sefydliad democrataidd newydd sy’n gweithredu, mae’n deg dweud, mewn byd cyhoeddus darniog.

Er i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau    pan oedd ein cyfryngau yn datblygu dulliau digidol, aethom ati mewn gwirionedd i greu llywodraeth gyhoeddus newydd yng Nghymru heb fod gan Gymru fyd cyhoeddus cydgysylltiedig. Nid ein gwaith ni fel grŵp oedd ystyried y cyfryngau yng Nghymru a’u heriau strwythurol – mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn ystyried hynny eu hunain.

Ein tasg ni oedd helpu’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu sut orau i feithrin deialog ddwys, ddiffuant a pharhaus gyda phobl Cymru.

Dyma’n hadroddiad. Ymlaen â’r drafodaeth!

lawrlwytho-adroddiad-tasglu-digidol

Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydgysylltydd a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle’r Cynulliad ar Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol

National Day for Staff networks log
Y logo ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff

Bydd y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff y diwrnod cyntaf erioed yn y DU sy’n ymroddedig i ddathlu pob rhwydwaith yn y gweithle, gan gydnabod gwerth a chyfraniad rhwydweithiau i sefydliadau a’r ffaith bod rhwydweithiau yn gwneud gwaith yn well.

Nod y diwrnod yw annog rhwydweithiau staff i ddathlu ar y cyd a sôn am eu cyflawniadau, ac i newid y sgwrs am rwydweithiau yn y gweithle fel eu bod yn cael eu hystyried yn hanfodol i fusnes ac yn fecanweithiau effeithiol o ran arloesedd a chynhwysiant.

Cyfeirir at ein rhwydweithiau fel Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle i adlewyrchu’r ffaith eu bod yn agored i holl Aelodau’r Cynulliad, staff cymorth, staff y Comisiwn a chyflogeion ein contractwyr ar y safle i ymuno fel aelodau neu fel cyfeillion. Maent yn lle i bobl sy’n uniaethu â grŵp nodwedd warchodedig a/neu sydd â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud â mater amrywiaeth penodol, ddod at ei gilydd. Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un, nid dim ond y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, fod â diddordeb mewn mater cydraddoldeb penodol.

Mae’r Cynulliad yn cydnabod bod y Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn allweddol wrth helpu’r sefydliad i gyrraedd ei nod o sicrhau amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol ac amrywiol i bawb ac i fod yn sefydliad democrataidd a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pawb yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod cyfranogiad ein rhwydweithiau felly yn rhan hanfodol o’r gydberthynas gyflogaeth ac nid yn swyddogaeth ychwanegol i ddisgrifiad swydd cyflogai.

Felly, rydym yn falch o gael cymryd rhan yn y dydd, gyda’r Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn trefnu gweithgareddau ac erthyglau i hyrwyddo’r rhwydweithiau a’n cydnabyddiaeth o’u gwerth inni.

Continue reading “Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017”

Dechreuwch eich gyrfa mewn diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i’n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.

Swyddogion Diogelwch

Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’n ymweld ag ef a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r ystad.

Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael, cysylltwch â ni.

A oes gennych ddiddordeb? 

Ein Swyddogion Diogelwch Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle i chi.

Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?

“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy’n hoffi siarad â’r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane

“Mae’n wych i deuluoedd ac mae’r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol.”
Dean

Agoriad swyddogol y pumed Cynulliad

Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru – y Senedd a’r Pierhead – a gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio i’r Cynulliad?

“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy’r amser.”
Shane

Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Olympiaid a pharalympiaid Cymreig

Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?

Yn ogystal â monitro’r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae’r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau Trip Advisor a Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:

“… swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr …”

 “… swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog …”

“Mae’r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw’n dweud “Croeso i adeilad Cynulliad Cymru … ” gyda gwên gyfeillgar y mae’n cael effaith dda.”

 Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?

“Yr Agoriad Brenhinol – bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog”. Dean

“Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae’n un o fy arwyr”. Shane

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am y swydd?

“Mae’r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein Tudalennau Recriwtio.

 

Recriwitio ar gyfer Swyddogion Diogelwch ar hyn o bryd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.

Cor meibion yn y Senedd