Category: Y Senedd

Dathlu 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918

Er mwyn coffáu 100 mlynedd ers i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 gael Cydsyniad Brenhinol, mae’r Dirprwy Lywydd Ann Jones AC (@ann_jonesAM) yn trafod pwysigrwydd symudiad pleidleisio menywod yng Nghymru.

Mae 6 Chwefror 2018 yn nodi can mlynedd ers rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Rhoddodd y Ddeddf hon yr hawl fenywod bleidleisio, cyn belled â’u bod dros 30 oed a’u bod hwy neu eu gwŷr yn bodloni cymhwyster eiddo. Prin fod modd galw’r Ddeddf, a gynyddodd yr etholaeth gan fwy na 8 miliwn o bobl, yn gydraddoldeb, ond roedd yn gam mawr ymlaen ar y daith tuag at roi’r bleidlais lawn i fenywod, a ddaeth yn y pen draw yn 1928. I nodi’r canmlwyddiant, caiff rhaglen o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill ei chynnal ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Menywod, Cymru a Gwleidyddiaeth

Rwy’n teimlo’n angerddol dros ben ynglŷn â hyrwyddo rôl menywod mewn cymdeithas.  Felly, rwyf wedi sefydlu gweithgor Cymru, Menywod a Gwleidyddiaeth o Aelodau Cynulliad benywaidd. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, byddwn yn gweithio i gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymchwilio i hanes y mudiad pleidlais i fenywod yng Nghymru, ac yn sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r rôl y mae menywod yn ei chwarae mewn cymdeithas ddinesig yng Nghymru.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am hybu cydraddoldeb rhywiol. Yn 2003, dyma oedd y senedd gyntaf yn y byd â’r un nifer o ddynion a menywod.  Yn anffodus, mae’r Cynulliad wedi gweld dirywiad graddol yn nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd, gyda menywod yn eistedd mewn dim ond 26 o’r 60 sedd yn y siambr ar hyn o bryd. Er bod y Cynulliad yn parhau i fod yn arweinydd rhyngwladol ym maes cynrychiolaeth i fenywod, mae’r dirywiad yn nifer y menywod sy’n cynrychioli pobl Cymru yn peri pryder. Felly, roedd yn ddiddorol clywed yr Athro Laura McAllister a’i chyd-aelodau’n argymell cynnwys system cwota yn y system etholiadol yn yr adroddiad diweddar, “Senedd sy’n Gweithio i Gymru”.

Dathlu llwyddiannau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Bydd ein gweithgarwch yn canolbwyntio yn y tymor byr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), sef diwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu i symud yn gynt tuag at gydraddoldeb yn niferoedd y dynion a menywod. Bydd y Senedd yn cynnal arddangosfa sy’n adrodd hanes y mudiad pleidlais i fenywod yng Nghymru a darlith gan Dr Ryland Wallace, yr awdurdod blaenllaw ar y mudiad yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru i lansio ‘Rhondda Rips It Up!’, opera a gomisiynwyd o’r newydd i bortreadu bywyd Margaret Haig Thomas, un o ffigurau mwyaf amlwg y mudiad pleidlais i fenywod i Gymru.

Ann Jones AM                                                                                                                                                                Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sudan yn cwrdd â Chymru: Beth y gall Senedd Sudan ei ddysgu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru?

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â menter pwrpas cymdeithasol, Global Partners Governance (GPG), i rannu arfer gorau â Senedd Sudan. Fel rhan o’r berthynas hon, penderfynwyd y byddai ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru o fudd i grŵp bach o Aelodau Seneddol a staff o Sudan.

img_2168

Paratowyd rhaglen diwrnod a hanner o hyd ar gyfer y cynrychiolwyr. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau ar y meysydd pwnc canlynol:

Datblygiad Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad

Hyd yn hyn, nid yw Senedd Sudan wedi sefydlu Gwasanaeth Ymchwil. Atgyfnerthodd y sesiwn hon werth cael Gwasanaeth Ymchwil diduedd i gefnogi Aelodau’r Cynulliad yn eu rôl. Roedd gan y cynrychiolwyr ddiddordeb mawr yn y templedi a’r ‘rheolau euraid’ y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn eu defnyddio yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Defnyddiwyd enghreifftiau yn y sesiwn hon i ddangos sut y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth y Pwyllgorau i gefnogi ei waith. Roedd y cynrychiolwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am hyn a dangoswyd diddordeb mawr ym mhob agwedd ar y sesiwn.

Sut mae’r Cynulliad yn ymgysylltu â Dinasyddion Cymru a Chysylltu Ymgysylltiad Cyhoeddus â Busnes y Cynulliad

Dangosodd y sesiwn hon pa mor bwysig yw ymgysylltu â’r cyhoedd a chanfyddiad y cyhoedd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a pha ddulliau sy’n cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd targed.

Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Roedd hwn yn gyfle i gael ymweliad addysgol ac i gwrdd â phlant ysgol sy’n cymryd rhan. Rhoddwyd trosolwg hefyd iddynt o Wasanaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad. Dangoswyd diddordeb arbennig yn y gwaith o sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn cymryd rhan.

Continue reading “Sudan yn cwrdd â Chymru: Beth y gall Senedd Sudan ei ddysgu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru?”

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored

Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead


Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma le mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd


Yn adeilad dirnod eiconig  ym Mae Caerdydd, y Senedd yw galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?

Mae dwy daith yn cael eu cynnal ar 30 Medi am 11:00 a 14.00.

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Mae’r daith am 11:00 yn LLAWN ond mae llefydd ar gael ar y daith 14.00.

Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 30 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i’r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae’r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw’r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o’r tu mewn a’r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae’r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae’n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch:

“Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai’r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio’u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau’r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy’r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o’r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i’r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi’r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio’r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi’r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o’r Bae drwy ffenestri’r Senedd. Y drws nesaf i’r caffi mae siop y Senedd, sy’n cynnwys detholiad o’r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy’n gysylltiedig â’r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​

Nid oes tâl i fynd i mewn i’r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio’ch penwythnos yma. Ewch i’r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ugain dyfyniad i nodi ugain mlynedd ers i Gymru ddweud ie

Ugain mlynedd yn ôl, ar 18 Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru i weld a oedd cefnogaeth i greu cynulliad i Gymru gyda phwerau datganoledig. Yma rydym yn edrych ar y diwrnod hwnnw a’r daith a ddechreuwyd gydag ugain dyfyniad…

“Devolution is about harnessing the power of community – the diverse community that is the United Kingdom, and the national communities that through devolution can take their futures in their own hands.”

Dyfyniad gan Tony Blair a arweiniodd y blaid Lafur yn ôl i bŵer yn 1997 am y tro cyntaf ers 1979 mewn buddugoliaeth ysgubol. Roedd maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad i gynnal refferendwm ar greu Cynulliad i Gymru.

Tony Blair Neil Jenkins

“There are some variations across social groups in Wales. Women clearly support a Welsh Assembly – by 37 to 29 – while men oppose one by 43 to 38.

There is strong majority support for devolution among those aged 18 to 34, while a majority of those voters aged over 65 oppose an assembly.”

Detholiad o ganlyniadau arolwg barn y Guardian/ICM a wnaed wythnos cyn pleidlais y refferendwm.

Ron Davies

“Good morning, and it is a very good morning in Wales.”

Dyma sut y gwnaeth Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1997 ac arweinydd ymgyrch Ie, ddechrau ei araith pan gyhoeddwyd y canlyniad. Gallwch wylio clip o’i araith yma. Hefyd, disgrifiodd Ron Davies ddatganoli yng Nghymru fel “proses nid digwyddiad.”

“When you win a national campaign by less than seven thousand votes it makes every last leaflet, every last foot-step, every last door knocked, worthwhile.”

Leighton Andrews, cyn Aelod Cynulliad a Gweinidog Llywodraeth Cymru yn trafod Ymgyrch Ie mewn blog diweddar ar gyfer yr IWA. Roedd 50.3 y cant o’r rhai a bleidleisiodd yn y refferendwm o blaid datganoli – mwyafrif bychan o 6,721 pleidlais.

Yn dilyn y refferendwm, pasiodd Senedd y DU Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Roedd y Ddeddf yn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol fel corff corfforaethol – gyda’r weithrediaeth (y Llywodraeth) a’r ddeddfwrfa (y Cynulliad) yn gweithredu fel un. Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad ar 6 Mai 1999.

Siambr Hywel

“Roedd Monwysion yn chwareli llechi Sir Gaernarfon yn arfer cael eu galw yn Bobol y Medra, oherwydd mai eu hateb hwy i’r cwestiwn, ‘Fedri di wneud hyn?’ oedd ‘Medra.’ A dyna fydd ein neges ni ledled Cymru. Gadewch i Gymru gyfan fod yn Bobol y Medra.”

Alun Michael, a oedd newydd ddod yn Brif Ysgrifennydd Cymru ar 12 Mai 1999. Darllenwch drawsgrifiad llawn o’r Cyfarfod Llawn lle draddododd ei araith.

Continue reading “Ugain dyfyniad i nodi ugain mlynedd ers i Gymru ddweud ie”

Canllaw i Ymwelwyr â’r Senedd

Fyddwch chi’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA? Bydd croeso cynnes ichi ym mhrifddinas Cymru. Mae Cymru’n wlad llawn diwylliant a threftadaeth, ac mae Caerdydd yn lle bendigedig i ymdeimlo ag awyrgylch y digwyddiad rhyfeddol hwn.

Os byddwch chi ym Mae Caerdydd ar gyfer Gwŷl Cynghrair Pencampwr UEFA, beth am ymweld â’r Senedd ac ymweld ag un o adeiladau pwysicaf a mwyaf modern Cymru? Rydyn ni wedi llunio canllaw defnyddiol i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich ymweliad.

Am wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: link

Para información en español: link

IMG_7851

Beth yw’r Senedd?

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’n ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru. Yn adeilad seneddol modern a ddathlodd ei phen-blwydd yn ddeg oed llynedd, mae’r Senedd hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru.

Mae hefyd yn adeilad cyhoeddus, sy’n croesawu ymwelwyr saith diwrnod yr wythnos, ac yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi derbyn Tystysgrif Ragoriaeth gan Trip Advisor.

Yn bwysicaf oll, mae’r ymweliad yn rhad ac am ddim ac mae gan y Senedd rai o’r golygfeydd gorau ym Mae Caerdydd, felly dewch i mewn i gael gweld y cwbl.

Beth sydd y tu mewn?

Y siambr drafod

Yn y Senedd mae siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os edrychwch i lawr o dan y twndis enfawr, gallwch chi weld lle mae ein gwleidyddion yn eistedd yn ystod dadleuon seneddol. Ewch ar un o’n teithiau rhad ac am ddim i ddarganfod rhagor am yr adeilad a’r hyn sy’n digwydd yma.

chamber-agleCaffi a Siop Anrhegion

Mae gan y Senedd gaffi (gweler rhagor am hwnnw isod) a siop hefyd, sy’n gwerthu cynnyrch lleol, cofroddion ac anrhegion. Mae yno wisgi Cymreig, cynnyrch Melin Tregwynt a chofroddion gyda brand y Cynulliad arnynt i gofio am eich ymweliad.

Arddangosfeydd

Wrth ymyl y caffi mae man arddangos lle cynhelir gwahanol ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn. Dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Ewch ar daith dywysedig

Y ffordd orau i ddod i adnabod y Senedd yw trwy fynd ar daith dywysedig. Bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes a phensaernïaeth unigryw yr adeilad ac yn dysgu rhagor am y gwaith a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r teithiau yn RHAD AC AM DDIM. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw dod i’r Senedd a byddwn yn rhoi gwybod ichi faint o’r gloch bydd y daith nesaf yn dechrau.

Mwynhewch flas o Gymru

Mae caffi y Senedd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer, neu fe allwch chi gael blas ar rai o danteithion traddodiadol Cymreig – gallwch chi fwynhau cacen Gymreig neu sleisen o fara brith gyda photed o de.

Mae’r golygfeydd o’r man eistedd yn odidog – gwyliwch y cychod hwylio ar ddŵr disglair Bae Caerdydd, neu edrychwch ar fwrlwm gŵyl Cynghrair y Pencampwyr o dan ganopi trawiadol y Senedd.

Cyfleusterau a mynediad

Fel gydag unrhyw adeilad y llywodraeth, mae’n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy’r system ddiogelwch ar ei ffordd i mewn i’r Senedd. Mae ein tîm diogelwch wedi’u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr sydd ag anableddau, neu’r rhai a allai fod ag anghenion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Mae’r Senedd yn gwbl hygyrch gan fod mynediad ramp ar flaen yr adeilad a lifftiau i bob llawr y tu mewn. Mae system dolen glyw ar gael i ddefnyddwyr teclynnau cymorth clyw.

Mae gan yr adeilad gyfleusterau newid a gynorthwyir yn llawn ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau sy’n addas i bawb.

Tynnwch hunlun gyda’n Snapchat GeoFilter

Os ydych chi ar Snapchat – cadwch lygad allan am ein ffilter arbennig a rhannwch eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol!

Linciau defnyddiol:

Pour plus d’informations en français: link

Per informazioni in italiano: linc

Para información en español: linc

Tudalen Trip Advisor ar gyfer  Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

Dechreuwch eich gyrfa mewn diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i’n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.

Swyddogion Diogelwch

Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’n ymweld ag ef a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r ystad.

Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael, cysylltwch â ni.

A oes gennych ddiddordeb? 

Ein Swyddogion Diogelwch Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle i chi.

Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?

“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy’n hoffi siarad â’r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane

“Mae’n wych i deuluoedd ac mae’r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol.”
Dean

Agoriad swyddogol y pumed Cynulliad

Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru – y Senedd a’r Pierhead – a gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio i’r Cynulliad?

“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy’r amser.”
Shane

Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Olympiaid a pharalympiaid Cymreig

Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?

Yn ogystal â monitro’r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae’r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau Trip Advisor a Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:

“… swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr …”

 “… swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog …”

“Mae’r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw’n dweud “Croeso i adeilad Cynulliad Cymru … ” gyda gwên gyfeillgar y mae’n cael effaith dda.”

 Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?

“Yr Agoriad Brenhinol – bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog”. Dean

“Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae’n un o fy arwyr”. Shane

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am y swydd?

“Mae’r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein Tudalennau Recriwtio.

 

Recriwitio ar gyfer Swyddogion Diogelwch ar hyn o bryd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.

Cor meibion yn y Senedd