Category: Pwyllgorau

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin

Bydd y Pwyllgor Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn archwilio’r strategaeth i leihau tlodi yng Nghymru a materion eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru.

blog-header-cy

Bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 17 Chwefror am 11.00 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin.

Beth mae’r pwyllgor yn ei wneud?

Mae gan y Cynulliad sawl pwyllgor sy’n cynnwys Aelodau’r Cynulliad o’r gwahanol bleidiau gwleidyddol i edrych yn fanwl ar wahanol bynciau, h.y. iechyd, addysg a diwylliant. Un o’u swyddogaethau yw ymchwilio i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da.

Maent yn gwneud hyn drwy ofyn am farn y cyhoedd a thrwy gael mewnbwn gan arbenigwyr, elusennau a sefydliadau eraill. Maent hefyd yn mynd ati’n rheolaidd i holi Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet Llywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cwrdd unwaith bob tymor yn unig, ac (fel y mae’r enw yn ei awgrymu) mae’n edrych ar yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei wneud. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae pob un o’r Aelodau Cynulliad sy’n aelodau o’r pwyllgor hwn hefyd yn gadeirydd ar bwyllgorau eraill.

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog – Aelodaeth

Ann Jones AM (Cadeirydd) Llafur Cymru  Jayne Bryant AM Llafur Cymru
Huw Irranca-Davies AM Llafur Cymru Russell George AM Ceidwadwyr Cymreig
John Griffiths AM Llafur Cymru Mike Hedges AM Llafur Cymru
Bethan Jenkins AM Plaid Cymru Dai Lloyd AM Plaid Cymru
Lynne Neagle AM Llafur Cymru Nick Ramsay AM Ceidwadwyr Cymreig
Mark Reckless AM UKIP Cymru David Rees AM Llafur Cymru
 Simon Thomas AM Plaid Cymru

Beth mae’r Prif Weinidog yn ei wneud?

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd.

press-conference

Mae cyfrifoldebau’r Prif Weinidog yn cynnwys:

  • penodi Cabinet sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
  • arwain ar ddatblygu a chyflwyno polisïau;
  • rheoli’r cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
  • cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol, a
  • staff Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn cael ei drafod gan y Pwyllgor y tro hwn?

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar weledigaeth a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru. Darllenwch fwy am y mater.

Hoffai’r Pwyllgor hefyd drafod materion pwysig eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru. Os oes mater yr ydych am iddo gael ei drafod, gallwch awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Sut gallaf wylio?

statue-blog

Mae croeso i chi ddod i wylio trafodion y Pwyllgor. Cysylltwch â ni drwy ein llinell archebu. Os ydych yn byw yng Nghaerfyrddin neu yng ngorllewin Cymru, gallwch hefyd awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Os na allwch fod yno eich hun, bydd modd gwylio’r cyfarfod yn fuan iawn wedyn ar Senedd.tv.

Continue reading “Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin”

Beth all Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd.  Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

strip

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda’r galon.

Felly mae’n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth – mae modd profi’r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i’r gwrthwyneb.

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r broblem yn flaenoriaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei ‘nodau lles’ ac un ohonynt yw monitro ‘canran y bobl sy’n unig’.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a’r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.

Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i’r afael â’r broblem helpu unigolion i deimlo’n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i’w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter – @SeneddIechyd.

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i bobl Cymru benderfynu ar y materion y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt.

paint-halfsize-twitter-1-cy

Er bod Pwyllgorau’r Cynulliad yn ceisio cynnwys y cyhoedd yn eu gwaith yn rheolaidd, ac wedi gwneud hynny drwy ddulliau amrywiol (gan gynnwys cynnal digwyddiadau, grwpiau ffocws, sgyrsiau ar y we, arolygon barn, cyfweliadau fideo a gweithdai, ynghyd â defnyddio aps ceisio barn torfol), dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad ofyn i bobl Cymru benderfynu ar destun ymchwiliad.

Sut y cafodd y syniadau eu casglu?

Cynhaliodd James Williams o BBC Cymru Wales gyfweliad â Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, ar Facebook Live—y digwyddiad cyntaf o’r fath yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol. Anogodd Bethan bobl i gysylltu â hi ac i awgrymu meysydd blaenoriaeth.

Gwahoddodd y Pwyllgor bobl i awgrymu syniadau ar Facebook a Twitter a thrwy e-bost. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn parhau â’r sgwrs.

Beth ddywedodd pobl?

Cafwyd nifer o awgrymiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, a chafodd y syniadau hyn eu grwpio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor. Yna, gwiriodd yr Aelodau yr eitemau ar y rhestr gyhoeddus hon yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a oedd wedi dod i’r amlwg mewn sesiwn gynllunio flaenorol.

Roedd tipyn o dir cyffredin rhwng meysydd blaenoriaeth Aelodau’r Pwyllgor a’r rhestr gyhoeddus, gan gynnwys:

  • sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • rôl radio yng Nghymru
  • cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Continue reading “Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad”

Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ar 17 Tachwedd 2016, estynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad i ystod eang o randdeiliaid i drafod rhai o’r materion allweddol o ran sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Comisiwn – a fydd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf – yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gadarnhau ei drefniadau o ran cylch gorchwyl a llywodraethiant. Bwriedir i waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau lywio’r ymgynghoriad ar y Comisiwn, a chyfrannu ato.

Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn cynnal y gwaith hwn gan nifer o wahanol gyrff yn ystod ymgynghoriad yr haf ar ei flaenraglen waith.

picture10

Beth ddigwyddodd?

Bu aelodau’r Pwyllgor a rhanddeiliaid – o’r sectorau busnes, amgylchedd a chymdeithasol – yn trafod tri maes allweddol y bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio arnynt:

  • Sut ddylai’r Comisiwn gael ei sefydlu?
    Beth ddylai trefniadau’r Comisiwn fod o ran strwythur, statws, cylch gorchwyl a llywodraethiant?
  • Sut ddylai’r Comisiwn weithredu’n ymarferol?
    Sut ddylai’r Comisiwn weithio â Llywodraeth Cymru, a beth yw natur y berthynas rhwng y DU a’r Comisiwn?
  • Sut ddylai’r Comisiwn fynd i’r afael â datblygu cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
    A ddylai’r Comisiwn fabwysiadu datblygu cynaliadwy fel ei brif egwyddor drefniadol, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? Sut ddylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol effeithio ar waith y Comisiwn?

picture6

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:

“Yn yr ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal yn ystod yr haf, roedd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru’n rhywbeth a gododd yn aml ac, o’r herwydd, rydym ni fel Pwyllgor wedi dewis mai hwnnw fydd testun ein gwaith sylweddol cyntaf.

“Rydym yn awyddus i edrych ar enghreifftiau o arferion da yn rhyngwladol, ond rydym hefyd am glywed beth yw’r anghenion penodol sydd gennym yng Nghymru, a sut y gall y Comisiwn ddiwallu’r anghenion hynny orau. Bydd gan y Comisiwn ddylanwad mawr ar ddatblygiad Cymru, felly rydym wedi cydamseru gwaith y Pwyllgor i fwydo i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.”

picture1

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y sectorau adeiladu a pherianneg ar 17 Tachwedd, ac mae wrthi’n clywed gan Gomisiwn Seilwaith y DU, cynrychiolwyr o ranbarthau dinasoedd, a’r Gweinidog Ken Skates y mis hwn. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi ysgrifennu at gyrff seilwaith eraill o bob cwr o’r byd yn gofyn am enghreifftiau o arferion da.

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cyfrannu at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (sy’n dod i ben ar 9 Ionawr), a bydd yn cyhoeddi adroddiad yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

Ariannu’r Dyfodol – newidiadau i’r ffordd mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru

Simon Thomas AC/AMSut gallwn ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau ariannol cywir? Yn ddiweddar, bu Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad,  yn annerch cynhadledd ‘Dyfodol Diamod’ Swyddfa Archwilio Cymru.

Mewn tirwedd sy’n newid o hyd o ran cyllid yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed fod gennym weithwyr proffesiynol dawnus yn ein gwlad sy’n gweithio ar y cyd i graffu’n effeithiol ar wariant yng Nghymru.

Ar 1 Tachwedd cefais fy ngwahodd gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i siarad yng nghynhadledd Dyfodol Diamod 2016.  Yn ystod y gynhadledd lansiwyd cynllun newydd arloesol i gynyddu sgiliau’r sector cyhoeddus ym maes cyllid gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae mwy o luniau o Ddyfodol Diamod 2016 ar gael ar Facebook

Bûm yn siarad yn y gynhadledd yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwyllgor trawsbleidiol yw’r Pwyllgor Cyllid sy’n bennaf gyfrifol am adrodd ar wariant gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol. Y Pwyllgor Cyllid blaenorol wnaeth gymeradwyo’r cyllid ar gyfer ehangu’r Cynllun Hyfforddeion Ariannol a gafodd ei lansio yn y  gynhadledd ar 1 Tachwedd 2016.

Fy araith yn llawn ar gael i’w ddarllen yma:

Wrth siarad â’r hyfforddeion roeddwn yn awyddus i bwysleisio’r newidiadau i ddatganoli cyllidol wrth inni weld dechrau cyfnod pwysig mewn datganoli yng Nghymru. Gyda dyfodiad y trethi cyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd mae rôl y Pwyllgor Cyllid wrth sicrhau bod gwaith craffu effeithiol a meithrin hyder y cyhoedd yn digwydd yn bwysicach fyth. Eglurais sut yr ydym, fel Pwyllgor, ar hyn o bryd, yn craffu ar y ‘Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig’ a fydd yn disodli treth dir y Dreth Stamp ac yn disgwyl y ‘Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi’ cyn bo hir.

Bydd y trethi hyn ynghyd â datganoli cyfran o dreth incwm yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi tua £3 biliwn, gan greu cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng yr arian a gaiff ei godi a’i wario yng Nghymru.  Y newid hwn mewn grym cyllidol sy’n gyrru f’awydd i’n gweld ni yn meithrin ein talent gartref i raddau llawer helaethach.

Yn ystod fy araith, soniais am y rhwymedigaethau newydd sy’n ymwneud â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Daeth y Ddeddf i rym yn ystod y Cynulliad diwethaf. Ei nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn meddwl rhagor am:

  • gynllunio ar gyfer y tymor hir,
  • gweithio’n well gyda phobl a chymunedau,
  • edrych ar atal problemau.

Gan fod yr Archwilydd Cyffredinol yn meddu ar rôl mor allweddol wrth roi’r Ddeddf hon ar waith, roeddwn o’r farn ei bod yn bwysig i esbonio’r broses i’r hyfforddeion. Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol i lunio adroddiad ar sut mae cyrff cyhoeddus wedi cymhwyso’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy yn y ffordd y maent yn pennu eu hamcanion a’r camau y maent yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.  Mae’n ofynnol iddo gyflwyno’r adroddiad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o leiaf unwaith ymhob cylch etholiadol o bum mlynedd.

Gyda hynt datganoli yng Nghymru, cyflwyno ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ a ‘Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’, ni ellir bychanu’r pwysigrwydd o graffu effeithiol gan weithwyr proffesiynol dawnus ein gwlad.  Dyna pam rwyf yn ddiolchgar i’r Archwilydd Cyffredinol nid yn unig am fy ngwahodd i siarad yn y gynhadledd ar gyfer hyfforddeion ariannol, ond am sicrhau datblygiad a dilyniant y cynllun hwn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cyllid y Cynulliad drwy ymweld â cynulliad.cymru/seneddcyllid. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter – @SeneddCyllid.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Eu nod yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Gallwch ddarganfod rhagor am eu gwaith yn www.wao.gov.uk

Angen mwy o gysondeb a thryloywder – Busnesau Cymru’n rhoi eu barn ynghylch Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau‘n treulio llawer o amser yn siarad â phobl yn y byd busnes yng Nghymru. Ardrethi busnes yw un o’r materion sy’n codi ei ben yn aml gan ennyn ymateb cryf.

Roedd hefyd yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ein hymgynghoriad yn ystod yr haf wrth inni ofyn i bobl pa waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Am y rheswm hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal sesiwn undydd cynnar yn edrych ar ardrethi busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn ar 5 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi manylion ailbrisio ardrethi busnes yng Nghymru.

Brecwast Busnes i glywed sylwadau pobl o bob cwr o Gymru

50committeepic

Gwahoddodd y Pwyllgor drawstoriad o gynrychiolwyr busnes am frecwast yn y Byd Cychod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i glywed eu barn ar y pwnc.

I sicrhau ein bod yn cael y darlun llawn gan fusnesau ledled Cymru, gwnaethom ffilmio cyfweliadau â busnesau ledled y wlad, er mwyn dangos fideo byr i’r sawl oedd yn bresennol, gan grynhoi rhai o’r materion allweddol i ysgogi trafodaeth.

Trafododd y busnesau yr anawsterau iddynt eu profi, gan awgrymu ffyrdd o wella’r system ar gyfer busnesau bach a chanolig. Dyma rai o’r materion a godwyd yn y fideo:

Byddai wedi bod o gymorth pe byddem wedi cael mymryn o seibiant, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu. Nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn, dim ond arian yn cael ei wario a ninnau’n dal i dalu ardrethi busnes…

Katia Fatiadou, Quantum Coffee Roasters Cyf, Bae Caerdydd

Pan rydym yn talu ardrethi busnes, nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl…felly mae ardrethi busnes yn gost i’r busnesau heb gael unrhyw beth yn ôl o gwbl.

Robert Griffiths, Ruggers Carpets, Merthyr Tudful

Byddai polisi ardrethi busnes llwyddiannus yn cael ei seilio ar gyfrifiad o broffidioldeb cwmni yn hytrach na gwerth ardrethadwy’r eiddo y maent yn gweithio ynddo ar hyn o bryd neu’r lleoliad y maent yn dymuno symud i mewn iddo.

Joshua Weaver, We are Promotional Products, Y Trallwng

Yn ystod y digwyddiad, y pynciau trafod mwyaf oedd sut mae ardrethi’n cael eu cyfrifo; yr hyn y caiff yr arian ei wario arno; p’un a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny; materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur); gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i’r dref; a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu.

Beth ddigwyddodd ar ôl y sesiwn frecwast?

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cynhaliodd y pwyllgor gyfarfod ffurfiol yn y Senedd, gan gymryd tystiolaeth yn gyntaf gan banel o arbenigwyr, ac yna gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy’n gyfrifol am ardrethi busnes yng Nghymru. Roedd y sesiwn, sydd ar gael i’w gwylio ar Senedd.tv yn pwysleisio’r angen am fwy o gysondeb a thryloywder mewn ardrethi busnes, ynghyd â system apelio well, ac eglurder ynghylch unrhyw newidiadau a allai godi yn y dyfodol.

Yn ystod y sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog, cyfeiriodd yr Aelodau sawl gwaith at yr hyn iddynt ei glywed gan fusnesau dros frecwast ac yn y cyfweliadau fideo.

Y camau nesaf

Yn y sesiwn frecwast, mynegodd rhai o’r cyfranogwyr fod ganddynt ragor o wybodaeth yr hoffent ei rannu â’r pwyllgor. Maent wedi cael gwahoddiad i fynegi hynny’n ysgrifenedig.

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd yn trafod ei gasgliadau, ac yna’n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gydag argymhellion ar gyfer gwella’r drefn bresennol.

Cadwch mewn cysylltiad

Aelodau'r Pwyllgor yr Econoi, Seilwaith a Sgiliau

Sefydlwyd y Pwyllgor i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion fel datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ni ar Twitter @SeneddESS.

Brexit yng Nghymru – Cyllid yr UE, Ymchwil a Buddsoddi

Wythnos yma, canolbwytiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar gyllid yr UE, ymchwil a buddosddi a’r goblygiadau i Gymru.

Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV.

Amcanion y sesiwn oedd ystyried:

  • y goblygiadau i Gymru wrth i’r DU adael yr UE, o safbwynt y gallu i fanteisio ar nifer o ffynonellau cyllid allweddol yr UE;
  • yr effaith bosibl ar addysg uwch yng Nghymru;
  • deall y goblygiadau a’r effeithiau posibl ar y cyfleoedd i fanteisio ar gyllid ar gyfer datblygiadau seilwaith allweddol yng Nghymru.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Diweddariad

Ar 2 Hydref, rhoddodd Prif Weinidog y DU araith ar Brexit yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol a chwmpasodd nifer o faterion:

  • Erthygl 50: bydd Llywodraeth y DU yn ysgogi hyn dim hwyrach na diwedd mis Mawrth 2017. Ni fydd y Llywodraeth yn ymgynghori gyda Senedd y DU wrth wneud hyn, gan fynnu hawl yr Uchelfraint Frenhinol, ac y bydd Llywodraeth y DU yn amddiffyn ei sefyllfa yn y llysoedd.
  • Y Bil Diddymu: i’w gyflwyno yn araith y Frenhines, bydd y Bil yn dileu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 o’r llyfr statud a chynnwys pob cyfraith yr UE sydd eisoes yn bodoli mewn i gyfraith Prydain.
  • Rheolaeth dros fewnfudo: bydd y DU yn penderfynu rheolau ei hun ar fewnfudo ar ymadael â’r UE.
  • Hawliau gweithwyr: Ymrwymodd y Prif Weinidog i warchod hawliau gweithwyr presennol swydd wedi’u hymgorffori o dan gyfraith yr UE ac i wella’r rhain ymhellach.
  • Dim eithriadau, un Deyrnas Unedig: bydd trafodaethau Brexit yn cael ei roi ar waith fel y DU ac fel un Deyrnas Unedig – ni fydd unrhyw eithriad i Brexit a dywedodd y Prif Weinidog ‘Fydda i byth yn caniatáu cenedlaetholwyr rhwygol i danseilio ein Hundeb gwerthfawr rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig”.
  • Dim atgynhyrchu modelau: Ni fydd trafodaethau gyda’r UE am gopïo model – Norwy neu’r Swistir. Bydd y ffocws ar fasnach rydd, mewn nwyddau a gwasanaethau wedi’u hanelu at roi’r rhyddid mwyaf i gwmnïau Prydeinig i fasnachu gydag a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un fath yn y DU.

 

Cyllid yr UE

Mae Cymru yn parhau, ac yn gymwys i gael cymryd rhan yn rhaglenni’r UE ac ariannu nes bod y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael swm sylweddol o arian gan yr UE.

Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru ymchwil, cyn y refferendwm ar yr UE, a oedd yn awgrymu bod Cymru – yn wahanol i’r DU cyfan – yn cael budd net o gronfeydd yr UE.

Dyma rhai o’r cronfeydd perthnasol i arian yr UE i Gymru: 

Cronfeydd Strwythurol: o dan rownd bresennol 2014-2020, dyrannwyd bron £2 biliwn i Gymru gan yr UE – gydag £1.6 biliwn i Orllewin Cymru a’r Cymoedd a thros £325 miliwn i Ddwyrain Cymru.

Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: o dan y cylch 2014-2020, mae Cymru’n derbyn tua £250 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €655 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.

Horizon 2020: dyma raglen yr UE i gefnogi ymchwil a datblygu ac arloesi. Hyd at fis Mai 2016, roedd Cymru wedi sicrhau tua €45 miliwn o gyllid Horizon 2020 ar gyfer 95 o brosiectau, gan gynnwys tua €10 miliwn ar gyfer Menter COFUND, gydag addysg uwch Cymru yn cyfrif am tua €28.5 miliwn o’r cyfanswm hwn.

Erasmus+: rhaglen yr UE i gefnogi symudedd ym maes addysg a hyfforddiant. Mae hyn yncynnwys symudedd mewn addysg uwch ar gyfer myfyrwyr a staff, sy’n flaenoriaeth uchel i

brifysgolion Cymru. Mae hefyd yn cynnwys symudedd mewn mathau eraill o addysg: addysg bellach, hyfforddiant galwedigaethol ac addysg ysgol, yn ogystal ag ymgysylltiad â phobl ifanc. Mae’r rhain yn feysydd y mae Cymru yn draddodiadol wedi cymryd rhan weithgar ynddynt.

Cyfleoedd i fanteisio ar gyllid yr UE ar ôl gadael

O gofio bod gwledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau o’r UE yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni’r UE, bydd diddordeb cryf yn y trafodaethau mewn ystyried (i) a fydd Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i’r gallu i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni’r UE ar ôl gadael a (ii) os ydyw, pa feysydd fydd ar ei rhestr flaenoriaeth.

Dylid rhoi ystyriaeth i rôl Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad o ran nodi pa raglenni fyddai o’r diddordeb mwyaf i randdeiliaid yng Nghymru a lobïo Llywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i’r rhain yn ei thrafodaethau.

Yr hyn y gallwn fod yn eithaf sicr yn ei gylch yw na fydd Cymru yn gallu cael cymorth gan raglenni’r Cronfeydd Strwythurol a reolir yn rhanbarthol na thrwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (gan gynnwys, wrth gwrs, y Rhaglen Datblygu Gwledig).

 

Llywodraeth y DU: Diweddariad gwarant cyllid gan yr UE

Ar 3 Hydref cyhoeddodd Canghellor y DU, Philip Hammond AS gwarant Llywodraeth y DU wedi’i ddiweddaru i gefnogi prosiectau sy’n derbyn cyllid o dan y cylch cyfredol o raglenni’r UE.

Roedd datganiad Hydref yn ymestyn y terfyn amser gwreiddiol i ‘y pwynt y bydd y DU yn gadael yr UE’, yn dilyn pwysau gan y Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ar gyfer ymestyn y dyddiad cau.

Mae datganiad yr Hydref yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU:

  • gwarantu cyllid yr UE ar gyfer cronfeydd strwythurol a phrosiectau buddsoddiad, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd, wedi’i lofnodi ar ôl y datganiad yr hydref a fydd yn parhau ar ôl inni adael yr UE.
  • bydd amodau hyn yn cael eu cymhwyso yn y fath modd nad ydynt yn amharu ar brosiectau sydd wedi’u hymrwymo, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd i ddechrau ym mis Ionawr.
  • lle mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno i brosiectau gronfa strwythurol a buddsoddi o dan eu dyraniad cyllideb yr UE presennol cyn Brexit, bydd y Llywodraeth yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.

Mae’r cyfeiriadau penodol at gynlluniau amaeth-amgylchedd sydd yn dechrau ym mis Ionawr yn lleddfu pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru am yr ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y rhain.

Addysg Uwch

Ceir cefnogaeth gyson a chryf gan sector addysg uwch Cymru dros barhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus +. Gwelir y ddwy raglen yn elfennau pwysig o agwedd ryngwladol ac allblyg y sector. Hefyd, roedd gallu academyddion i symud swyddi o fewn yr UE yn rhydd gwerthfawr iawn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sector addysg uwch Cymru wedi nodi bod diffyg ariannu capasiti ymchwil yng Nghymru yn rhwystr sylweddol i lwyddiant Cymru yn Horizon 2020. Yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Arweinyddiaeth adroddiad sy’n nodi prinder o oddeutu 600 o ymchwilwyr yng Nghymru.

Mae addysg uwch Cymru wedi tanlinellu pwysigrwydd cyllid yr UE i’r sector, gyda Chronfeydd Strwythurol yr UE yn cael eu gweld fel ffynhonnell bwysig i helpu i ‘lenwi’ y bwlch cyllido, a galluogi buddsoddiadau allweddol na fyddai wedi digwydd fel arall. Mae Campws Gwyddoniaeth Bae Abertawe yn enghraifft dda o hyn, gan gyfuno Cronfeydd Strwythurol yr UE gyda chyllid Banc Buddsoddi Ewrop.

Myfyrwyr o’r UE ac addysg uwch Cymru

Dengys data yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) fod 7,095 o fyfyrwyr o’r UE wedi’u cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2013/14 (cynnydd o 4% o’i gymharu â 2012/13). Roedd y rhan fwyaf yn dod o’r Almaen (18%), Ffrainc (13%), y DU yn hanu o’r UE (11%), Sbaen ac Iwerddon (8% yr un), Gwlad Groeg (7%), Gwlad Pwyl (6%), yr Eidal a Bwlgaria (4% yr un), a Rwmania (3%).

O ran y pynciau mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yr UE yng Nghymru, roedd y cofrestriadau fel a ganlyn:

  • Busnes a rheoli – 1,105
  • Dyniaethau – 1,691
  • Peirianneg a thechnoleg – 988
  • Gwyddoniaeth – 926
  • Gwyddorau cymdeithasol – 688

Amcangyfrifir bod myfyrwyr yr UE yn darparu o leiaf £24m i brifysgolion Cymru ar hyn o bryd, ac mai’r effaith gyffredinol i Gymru y gellir ei phriodoli i incwm o fyfyrwyr yr UE oedd £47m. Ar gyfartaledd, mae myfyriwr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn cynhyrchu £19,700 ar gyfer Cymru, £9,800 o werth ychwanegol gros Cymru a 0.19 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Hefyd, ceir effaith ychwanegol yng ngweddill y DU o fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru. Mae hwn yn debygol o fod yn amcangyfrif ceidwadol yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Buddsoddiad yr UE yng Nghymru

Banc Buddsoddi Ewrop yw banc yr Undeb Ewropeaidd, sy’n eiddo i’r Aelod-wladwriaethau ac yn cynrychioli eu buddiannau. Mae’r DU yn meddu ar gyfran o 16 y cant: yr un faint â’r Eidal, Ffrainc a’r Almaen. Er bod Banc Buddsoddi Ewrop yn buddsoddi y tu allan i’r UE, mae 90 y cant o fenthyciadau yn digwydd o fewn yr Undeb.

Dros y degawd blaenorol, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi bron £2 biliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn dweud ei fod yn benthyca mwy nag erioed i’r DU ac yn cefnogi ystod fwy amrywiol o brosiectau na llawer o wledydd eraill yr UE.

Yn dilyn ymadawiad o’r UE, ni fyddai rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop a gytunwyd eisoes yn y DU yn newid. Fodd bynnag, mae Erthygl 308 TFEU yn nodi “Members of the European Investment Bank “shall” (i.e. must) be Member States”. Felly, heb newid y Cytuniad, byddai gadael yr UE yn golygu na fyddai’r DU bellach yn aelod o Fanc Buddsoddi Ewrop.

Mae’r Banc yn ffynhonnell arall o gyllid y mae sefydliadau yng Nghymru yn gymwys i wneud cais iddi am gymorth. Roedd nifer o brosiectau yn llwyddiannus yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys, Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd y Bae ym Mhrifysgol Abertawe, a agorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2015, ac a gafodd fuddsoddiad o €60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Yn ystod 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru nifer o syniadau am brosiectau i gael cymorth o dan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strwythurol a reolir gan yr EIB, gan gynnwys prosiect Metro De Cymru.

Cyllid yr UE yng Nghymru yn dilyn gadael yr UE

Nid yw o reidrwydd yn wir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu na fyddai’r DU bellach yn cyfrannu at gyllideb yr UE, nac yn derbyn arian ohoni. Fel y trafodwyd yn y blogiau blaenorol ar fodelau amgen i aelodaeth o’r UE, mae gwledydd y tu allan i’r UE sydd ar hyn o bryd â mynediad helaeth at y Farchnad Sengl (fel Norwy a’r Swistir) yn cyfrannu at gyllideb yr UE ac yn cyfranogi i raddau yn ffrydiau cyllid yr UE.

Mae Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn sicrhau cyfranogiad Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy mewn nifer o raglenni eraill yr UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ymchwil ac arloesi) ac 40 Erasmus+ (addysg a hyfforddiant). Er nad yw aelodau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyffredinol yn gymwys ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae Norwy a Liechtenstein yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Nid oes unrhyw wledydd o’r tu allan i’r UE yn rhan o’r PAC ar hyn o bryd.

Yn y bôn, bydd mynediad y DU i raglenni ariannu’r UE yn y dyfodol – yn y cyfnod rhaglennu presennol (2014-2020) a thu hwnt – yn amodol ar drafodaethau yn ystod y broses i dynnu allan.

Camau nesaf

Wythnos nesa ar 10 Hydref, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y goblygiadau i Gymru o ran amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig hefyd yn edrych ar y goblygiadau hyn. Mae modd i chi rannu eich syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r materion hyn ar ein tudalen dialogue.

Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ddarllen ein blogiau ar fasnach a’r gyfraith ryngwladol a’r datblygiadau diweddaraf.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.