Category: Pwyllgorau

Sicrhau Dyfodol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru

Erthygl gwadd gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gostwng bron 10 y cant mewn termau real, tra bod y Llywodraeth wedi galw ar y sector i ddibynnu llai ar wariant cyhoeddus.

Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ac fel Pwyllgor, roeddem yn teimlo mai dyma’r amser cywir i gynnal ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau i weld pa mor ymarferol yw galwad y Llywodraeth, ac i nodi camau ymarferol a fyddai’n galluogi’r sector i ymateb yn effeithiol iddo.

Mae angen cyllid ar y celfyddydau er mwyn sicrhau eu dyfodol, ond sut y gellir sicrhau’r cyllid hwnnw?

Pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach

Ni ellir gwadu pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach. Mae’r celfyddydau yn goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau, ac felly maent yn rhan anhepgor o gymdeithas iach. Mae manteision y celfyddydau ar gyfer unigolion a’r gymdeithas gyfan bellach yn cael eu cydnabod yn eang. O’r effaith economaidd i fanteision ym myd addysg, dylai llunwyr polisi gydnabod, hyrwyddo a manteisio ar botensial y celfyddydau o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y gymdeithas.

Cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru

Yn gynnar iawn yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau unigryw, amrywiol ac anodd iawn wrth geisio sicrhau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Oherwydd bod llawer o’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn fach o ran maint ac wedi’u lleoli’n bell o ganolfannau poblogaeth mawr, mae’n anodd iddynt godi arian nad yw’n refeniw cyhoeddus. Yn benodol, o edrych ar y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddyfernir ledled y DU, mae’n syfrdanol gweld faint o’r cyllid hwnnw a ddyfernir yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Canfu astudiaeth yn 2013 fod cyfraniadau gan unigolion a busnesau i’r celfyddydau yn Llundain yn cyfrif am 85 y cant o’r cyllid cyffredinol a ddyfarnwyd ledled Lloegr.  Er nad oedd Cymru’n rhan o’r astudiaeth, mae’n debyg nad yw ein sefyllfa ni’n wahanol i ranbarthau Lloegr y tu allan i Lundain.

Hyd nes i ni gydnabod a mynd i’r afael â’r sefyllfa anghytbwys hon, mae’n amhosibl gweld sut y gellir gwella’r sefyllfa’n ddigonol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod maint a lleoliad mor bwysig i gynhyrchu refeniw masnachol yn cymhlethu’r sefyllfa ymhellach, gan ei gwneud hi’n anoddach i sefydliadau godi refeniw y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr.

Mae’r rhain yn anawsterau sy’n benodol i Gymru, sy’n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu lefel ddigonol o gymorth effeithiol i gefnogi’r hyn y mae wedi gofyn i’r sector ei wneud.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymddiriedolaethau a sefydliadau’r DU o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd yna yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y sector yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol i alwad y Llywodraeth. Roedd prinder sgiliau priodol yn y sector yn thema gyffredin yn y dystiolaeth a gyflwynwyd. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu adnodd sy’n cynnig arbenigedd ar godi arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol bach, yn debyg i’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru.

Fel y gellid ei ddisgwyl, gwelsom fod sefydliadau mwy o faint yn fwy tebygol o lwyddo wrth wneud cais am grantiau gan fod ganddynt well fynediad at sgiliau priodol (er enghraifft, o ran ysgrifennu ceisiadau effeithiol). O ystyried cyn lleied o’r cyllid sydd ar gael ledled y DU a ddyfernir y tu allan i Lundain a’r de-ddwyrain, mae’n ddealladwy bod yna gystadlu ffyrnig am yr arian sy’n weddill.

Yn y fath hinsawdd, nid yw’n syndod bod sefydliadau llai yn ei chael hi’n anodd cystadlu.

Mae hyn yn pwysleisio’r angen am gymorth sydd wedi’i deilwra, sy’n cydnabod anghenion a galluoedd gwahanol y sefydliadau celfyddydol ledled Cymru.

Nid yw hynny’n golygu na ddylai’r rheini sy’n rhan o’r sector archwilio pob cyfle i gynyddu eu hincwm nad yw’n gyllid cyhoeddus. Cawsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth wneud ceisiadau am gyllid.

Roeddem yn falch o glywed am effaith cenhadaeth fasnachu Llywodraeth Cymru i Tsieina, a oedd yn cynnwys dirprwyaeth ddiwylliannol a drefnwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cwmni theatr sy’n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu yw Hijinx, a dywedodd wrthym fod y daith hon wedi agor drysau i deithiau rhyngwladol a chydweithio yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil ar farchnadoedd rhyngwladol sy’n cynnig potensial o ran twf i artistiaid Cymru, a lle bo modd, i gynnwys elfen ddiwylliannol ar deithiau masnach, ochr yn ochr â strategaeth i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol.

Ar ôl galw ar y sector celfyddydol i ddibynnu llai ar gyllid cyhoeddus, yr hyn sy’n glir yw bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig lefel briodol o gymorth goleuedig sydd wedi’i deilwra os yw’n disgwyl i’w galwad gael effaith gadarnhaol yn y sector.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor a’i argymhellion yma.

Dilynwch Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Twitter @SeneddDGCH

Isafbris am Alcohol – Ai Dyma’r Ateb Cywir?

Fel rhan o’n hymchwiliad pwyllgor i’r isafbris am alcohol, gofynnwyd i bobl ifanc a phobl ddigartref am eu barn. Ymhlith y nifer o syniadau a gynigwyd oedd bod posibilrwydd y gallai canlyniadau anfwriadol ddeillio o godi isafbris am alcohol.

Y cefndir i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Ym mis Hydref 2017, gofynnwyd i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ystyried manylion Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn bwriadu gosod isafbris am uned o alcohol yng Nghymru, a’i gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw.

Nod y Bil yw diogelu iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus drwy gynyddu pris alcohol rhad, cryf fel seidr gwyn. Fel rhan o’i waith, roedd y Pwyllgor eisiau darganfod a fyddai’r newidiadau hyn yn effeithio ar bobl ifanc a hefyd a allai unrhyw ganlyniadau anfwriadol ddeillio o’r Bil ar gyfer pobl sy’n ddibynnol ar alcohol, yn enwedig pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Canlyniadau anfwriadol?

Roedd y Pwyllgor wedi clywed trwy ei hymgynghoriad na fyddai cynnydd yn y defnydd o gyffuriau yn un o ganlyniadau anfwriadol y Bil, fel y byddai pris cyffuriau penodol dal i fod yn ddrutach na phrisiau alcohol uwch. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod pris cyffuriau megis spice yn “…rhywbeth fel £20 ym Manceinion, a rhywbeth tebyg i £35 yn Llundain”.

Fel rhan o’r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor grwpiau ffocws gyda’r gymuned ddi-gartref a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys Tŷ Croeso yn Wrecsam, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Canolfan Huggard yng Nghaerdydd a Choleg Llandrillo.

Rhoddodd y bobl hynny a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws y Pwyllgor, yn benodol aelodau’r gymuned ddi-gartref, barn gyferbyniol i’r hyn roedd y Pwyllgor wedi clywed yn flaenorol. Roeddent yn meddwl y byddai prisiau alcohol uwch yn cael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gwthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol, gan byddai cyffuriau fel spice yn rhatach.

“Gallwch brynu potel o fodca am £ 15 ond gallwch gael pilsen am £ 7 – £ 10, a bydd ei effaith yn para drwy’r nos”

Myfyriwr coleg, Conwy

Oherwydd y wybodaeth cyferbyniol a dderbyniodd y Pwyllgor, gofynwyd am fwy o wybodaeth am brisiau rhai cyffuriau yng Nghymru yn benodol, a chanfuont gall brynu spice ar strydoedd De Cymru am £5-10, a atgyfnerthodd beth a glywodd y Pwyllgor drwy’r grwpiau ffocws.

Beth arall dywedodd pobl ifanc a’r gymuned ddi-gartref?

Roedd pwyntiau ychwanegol a godwyd drwy’r grwpiau ffocws yn cynnwys:

  • Yn hytrach na’u hatal rhag prynu rhai mathau o alcohol, y byddai pobl ifanc, yn syml iawn, yn aberthu rhywbeth arall yn eu cyllideb, neu’n dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael mynediad at yr alcohol y maent fel arfer yn ei brynu.

“Ni fyddai cynyddu pris alcohol yn newid y diwylliant yfed ond gallai arwain at fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dwyn”

Myfyriwr coleg, Abertawe

  • Dywedodd rhai bod y cynigion yn y Bil yn rhy eithafol, a defnyddiwyd Awstralia fel enghraifft o rywle na ellid gweini alcohol ar ôl 10 o’r gloch yr hwyr; tra bod awgrymiadau eraill yn cynnwys cyfyngu ar faint o alcohol y gellid ei brynu mewn diwrnod, a fyddai’n fwy effeithiol na newid y pris.

“Nid yw’r llywodraeth wedi rhoi cynnig ar unrhyw ffordd arall o fynd i’r afael â’r mater.”

Myfyriwr Prifysgol, Caerdydd

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

“Argymhelliad 1. Rydym yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).”

Yn gyffredinol, mae’r Pwyllgor yn teimlo y byddai’r Bil yn helpu i wella ac amddiffyn iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, yn dilyn ei hymgynghoriad, ac wedi ystyried y safbwyntiau a roddwyd gan aelodau o’r gymuned ddi-gartref a’r bobl ifanc hynny a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws, maent wedi mynegi pryderon y gallai’r Bil yn ei ffurf bresennol gael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gallai wthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol.

Mae’r Pwyllgor yn awgrymu “dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno”.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dweud yr hoffent weld isafbris am alcohol fel rhan o becyn ehangach o gamau a gwasanaethau cymorth i leihau dibyniaeth ar alcohol, a chodi ymwybyddiaeth o yfed cyfrifol.

Y camau nesaf

Caiff y Bil ei drafod heddiw (13 Mawrth 2018) yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yna cynhelir pleidlais i benderfynu a all fynd ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfu’r Cynulliad. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd.TV.

Gallwch ddarllen Adroddiad llawn y Pwyllgor a’r Crynodeb o dystiolaeth y grwpiau ffocws ar wefan y Cynulliad.

Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â’r tîm Allgymorth: TimAllgymorth@Cynulliad.Cymru

Clywed Lleisiau Pobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal

Ar #DyddGofal18, roeddem yn meddwl y buasem yn edrych ar y sesiynau tystiolaeth diweddar o’n hymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal. Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc a oedd wedi cael profiad o fod mewn gofal ac roeddem yn falch iawn bod dau grŵp wedi cytuno i siarad â ni, a rhannu eu profiadau.

Roeddem yn arbennig o awyddus i glywed am:

  • y cymorth a’r gefnogaeth a gawsant mewn gofal;
  • faint o Weithwyr Cymdeithasol a lleoliadau a gawsant, a faint o ddewis, os o gwbl, oedd ganddynt yn y penderfyniadau hyn;
  • A oedd bod mewn gofal wedi effeithio ar eu haddysg;
  • A oeddent yn barod pan ddaeth yn amser gadael gofal; a
  • Beth y byddent yn ei newid i wneud y profiad o fod mewn gofal yn well i eraill

Roedd y bobl ifanc yn wirioneddol agored a didwyll gyda ni am eu profiadau a chawsom ddigon ganddynt i gnoi cil drosto. Y negeseuon allweddol a gododd yn y sesiynau oedd bod angen i blant fod yn ganolog i’r system, ac ei bod yn hanfodol nad yw gofal yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i bobl ifanc, ond yn cael ei wneud gyda phobl ifanc.

Yr angen am sefydlogrwydd ym mywyd pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Roedd pawb a ddaeth i siarad â’r Pwyllgor wedi cael nifer o leoliadau, rhai ohonynt yn ormod i’w cofio.  Roeddent hefyd wedi cael nifer o Weithwyr Cymdeithasol.  Clywsom nad oedd y penderfyniad i newid gweithwyr cymdeithasol neu hyd yn oed leoliadau (eu cartrefi mewn gwirionedd) y bobl ifanc yn cael ei drafod gyda nhw. Dywedodd un person ifanc wrthym ei bod wedi darganfod ddydd Gwener y byddai’n cael ei symud ddydd Llun, ond bod y maethwyr yn gwybod ers dros fis ei bod yn dod.  Dywedodd un arall wrthym sut roedd wedi cael pum newid i’w thîm cefnogi yn ystod y mis diwethaf – a oedd yn golygu ei bod wedi gorfod ailadrodd ei stori ar sawl achlysur, a oedd yn peri gofid a chryn drawma iddi.  Mae’r angen am gysondeb ym mywydau’r rhai sydd mewn gofal yn hanfodol, a dylid ystyried yr hawl i ymgynghori a chyfathrebu am eu bywydau yn hawl sylfaenol.

Yr effaith y mae bod mewn gofal yn ei chael ar addysg

Clywsom am yr effaith negyddol a gafodd newid lleoliadau ar addysg un person ifanc, gan olygu ei bod wedi colli tua dwy flynedd a hanner o’r ysgol uwchradd. Dywedwyd wrthym hefyd am stigmateiddio disgyblion mewn gofal fel un achlysur pan gafodd un o’r bobl ifanc ei ddal yn camymddwyn yn yr ysgol gyda disgybl arall, a chanfod bod y disgybl arall wedi cael cosb, ac nid oedd hi wedi cael cosb am ei bod mewn gofal.  Fodd bynnag, clywsom hefyd mai atgofion da un o’r bobl ifanc oedd ennill 14 TGAU A* i C er gwaethaf awgrymiadau na fyddai hyn yn bosibl. Ysbrydolwyd y Pwyllgor gan yr hyn yr oedd y person ifanc yma wedi’i gyflawni, ond fe’i digalonwyd bod hyn y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ohono. Mae’n rhaid inni fel cymdeithas sicrhau bod y dyheadau a osodwn ar bobl ifanc yr un fath waeth pwy ydynt. Mae uchelgais plant mewn gofal yr un mor ddilys ag uchelgais unrhyw blentyn arall ac felly mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.

Cymorth ar gyfer y sawl sydd ar fin gadael gofal

Clywsom lawer am y ffaith mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sydd ar fin gadael gofal – dywedwyd wrthym:

“They are quick enough to take us off our parents but not quick enough to help us stand on our own two feet”.

Clywsom nad oedd llawer o bobl ifanc yn gwybod sut i ddefnyddio peiriant golchi, neu ariannu mynd i siopa am fwyd wrth adael gofal.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall y newid i fod yn oedolyn fod yn fwy anodd i bobl sy’n gadael gofal na llawer o’u cyfoedion o oed tebyg. Mewn system lle rydym yn disgwyl i’r grŵp hwn o bobl ifanc fynd allan ar eu pen eu hunain yn 18 oed (er bod hyn yn dechrau newid gyda’r cynllun ‘pan fydda i’n barod’), mae angen i garreg filltir o’r fath fod yn broses a gefnogir.

Camau nesaf ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Roedd y sesiynau tystiolaeth hyn yn rhan allweddol o’r ymchwiliad i sicrhau bod yr holl leisiau perthnasol yn cael eu clywed. Rydym am ymgorffori’r diwylliant fod pobl ifanc yn ganolog i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb barodrwydd yr unigolion hyn i dreulio amser yn siarad â ni, a helpu ein dealltwriaeth o’r materion y maent yn eu hwynebu.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn parhau a bydd yn ymestyn drwy gydol y Pumed Cynulliad, gan ein bod yn benderfynol o gadw’r grŵp hwn o blant a phobl ifanc yn uchel ar yr agenda wleidyddol, nes bod y canlyniadau y maent yn eu haeddu yn cael eu cyflawni.

Rhannu Heriau a Chyfleoedd Gweithio mewn Deddfwriaethol Llai â Senedd Bermuda

Ar 29 Ionawr 2018, daeth dirprwyaeth o Aelodau a Chlerc y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Senedd Bermwda i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Trefnwyd yr ymweliad gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) fel rhan o’i rhaglen dair blynedd gyda’r nod o atgyfnerthu craffu ariannol yn Nhiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig.  Mae CPA UK wedi ffurfio consortiwm gyda Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU ac Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth i gyflwyno prosiect tair blynedd o weithgareddau er mwyn dod â seneddwyr a swyddogion archwilio o’r tiriogaethau a’r DU ynghyd i drafod fframweithiau ar gyfer arfer da a blaenoriaethau ym maes rheolaeth ariannol gyhoeddus.

Dysgu o un o seneddiaethau hynaf y byd

Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus i ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gyffredin i waith deddfwrfeydd llai.  Mae Senedd Bermwda ymhlith yr hynaf yn y byd; fe’i sefydlwyd ym 1620, ac mae’n ganddi 36 Aelod.

Gwnaethom drafod rôl y rhai sydd â’r dasg o gefnogi pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus fel rhan o’u gwaith.  Roeddem yn falch o groesawu Anthony Barrett, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, i siarad am y berthynas rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Roedd gan y ddirprwyaeth ddiddordeb hefyd yn y ffordd y caiff rhaglen waith y Pwyllgor ei phenderfynu, ei chynllunio a’i blaenoriaethu a sut y mae’r Pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliadau.  Roedd yn ddiddorol i bawb ohonom, ac yn gysur hefyd, gael clywed am yr heriau cyffredin o ran dal y Llywodraeth i gyfrif gyda nifer gyfyngedig o Aelodau etholedig.

Yn y trafodaethau, canolbwyntiwyd hefyd ar yr hyn sy’n gwneud Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus effeithiol ac ar yr angen am gonsensws yn y Pwyllgor, am annibyniaeth, a’r angen i greu canlyniadau adeiladol.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Roeddem yn falch o groesawu’r ddirprwyaeth o Fermwda gan ein bod yn cydnabod y ffaith bod gwerth mewn archwilio arfer da rhyngwladol o ran goruchwyliaeth seneddol o gyllid cyhoeddus.  Dysgwyd llawer trwy archwilio’r hyn sy’n wahanol a’r hyn sy’n debyg yn nulliau Bermwda a Chymru a thrafod dulliau o gynnal effeithiolrwydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth weithio mewn deddfwrfa fach “.

Roedd yr ymweliad yn ddefnyddiol iawn i bawb a gymerodd ran ac fe gyfrannodd at ddyfnhau’r ddealltwriaeth o arfer da rhyngwladol ym maes goruchwylio cyllid cyhoeddus.  Hefyd, cyfrannodd yr ymweliad at feithrin gallu a hyder Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermwda i weithio’n fwy effeithiol, ac roedd yn fraint i’r Cynulliad Cenedlaethol gael bod yn rhan o hynny.

Y gobaith yw ein bod wedi sefydlu perthynas hirdymor â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermwda ac y byddwn yn parhau i rannu cymorth ac arfer da am flynyddoedd i ddod.

Cyfrifon Cyhoeddus: Sicrhau bod llywodraethau’n gwario eich arian yn ddoeth.

Adeilad y Pierhead ar fachlud haul ym Mae Caerdydd

Heb waith craffu ar gyfrifon cyhoeddus, ni fyddai achosion o osgoi treth fel gan Amazon a Starbucks wedi cael eu dwyn i oleuni.

Yn ogystal â bod yn berthnasol i swyddogion ac archwilwyr, mae hefyd yn rhywbeth sy’n bwysig i bawb.

Mae’n fater o fynd ar drywydd ble a sut y caiff eich trethi eu gwario.

Mae’r arian hwn yn cael ei wario ar ran pawb, a hynny ar lefel genedlaethol, drwy weinyddiaethau datganoledig, drwy lywodraethau rhanbarthol ac ar lefel leol. Yn yr holl achosion hyn, mae gwleidyddion etholedig yn penderfynu sut i wario ein harian, ac mae’n hanfodol bod y gwariant hwn yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn effeithlon

Mae’r rôl hon yn golygu bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan yn dwyn y teitl ‘Brenhines y Pwyllgorau Dethol’, ac fel y dywedodd Margaret Hodge AS mewn gohebiaeth â Gus O’Donell (Pennaeth Gwasanaeth Sifil y DU gynt), ‘Mae’n ddyletswydd ar y Pwyllgor i weithio er budd y cyhoedd a’r trethdalwr yn ddi-ofn, pryd bynnag a lle bynnag yr ydym yn credu bod hynny’n angenrheidiol’.

Heb y gwaith hwn o alw i gyfrif, ni fyddai’r achosion diweddar o osgoi trethi gan gorfforaethau mawr wedi cael eu dwyn i’r parth cyhoeddus, ac efallai na fyddai’r cyfle wedi codi i holi unrhyw un am fethiannau prosiectau a ariannwyd yn gyhoeddus fel Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

‘Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n mwynhau gwaith a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos i fod yn waith archwilio sych iawn, yn monitro gwariant y llywodraeth’ – Y Fonesig Margaret Hodge AS

Y Senedd ym Mae Caerdydd

Digwyddiad y Rhwydwaith Cyfrifon Cyhoeddus

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o fod yn cynnal cyfarfod cyntaf y rhwydwaith cyfrifon cyhoeddus.

Mae bod yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifoldeb mawr, ac felly rydym ni fel Pwyllgor eisiau sicrhau ein bod yn barod am yr her, ac yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich arian chi’n cael ei wario mewn ffordd gyfrifol.

Ddydd Llun 18 Medi, byddwn yn dod ag ystod eang o bobl ynghyd sydd â diddordeb mewn pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, datblygu sgiliau newydd a rhannu arfer gorau. Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt yn trafod sut rydym yn gwneud y gwaith pwysig hwn ar hyn o bryd, a’r hyn y mae modd ei wneud yn well.

Bydd gennym nifer o wahanol sesiynau yn ystod y dydd, gan gynnwys:

  • Prif araith gan y Fonesig Margaret Hodge AS – Beth sy’n gwneud Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus effeithiol?
    Bydd Margaret Hodge yn trafod ei phum mlynedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan, a’i hymdrech i geisio ailgysylltu’r Senedd â phobl fel pleidleiswyr, trethdalwyr a dinasyddion drwy roi llais i’r materion sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Trafodaeth panel – ‘Perthynas sy’n gweithio’ – Rôl yr Archwilwyr yng ngwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
    Cadeirydd: Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru
  • Astudiaeth Achos Academaidd –‘Effeithiolrwydd cymharol Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus datganoledig y DU’
    Helen Foster, FCA, BA(Anrh), MPA, FHEA Darlithydd mewn Cyfrifeg – Ysgol Fusnes Prifysgol Ulster
  • Ochr arall Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Safbwynt tyst
    James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Mae’r agenda llawn ar gael yma.

Cymryd rhan

Cyn y digwyddiad, mae croeso i chi anfon y cwestiynau am gyfrifon cyhoeddus yr hoffech eu gweld yn cael eu hateb, fel:

  • Sut mae pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus yn gweithio?
  • Pa adroddiadau sy’n cael eu llunio gan archwilwyr cyffredinol neu bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus?
  • Pa dechnegau a dulliau y dylid eu defnyddio i fonitro gwariant gan lywodraethau?
  • Neu unrhyw gwestiynau yr hoffech eu holi i’r rheini sy’n gyfrifol am wario eich arian.

Anfonwch eich cwestiynau ar Twitter drwy ddefnyddio #SeneddPAC neu e-bostiwch SeneddArchwilio@cynulliad.cymru

Yna byddwn yn gallu mynd â’ch cwestiynau i’r digwyddiad ar 18 Medi a’u bwydo i’r trafodaethau.

Digwyddiad

Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd
Dyddiad: 18 Medi 2017
Amser: 9:30 – 4:00pm

Os oes gennych ddiddordeb yn y digwyddiad, mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael. I gadw lle, y manylion cyswllt yw:

SeneddArchwilio@cynulliad.cymru

Gallwch weld y diweddaraf ar y dydd ar ein ffrwd Twitter a gallwch ymuno â’r sgwrs drwy ddefnyddio #SeneddPAC

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach – Digwyddiad i randdeiliaid

Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf.

IMG_2254

Beth ddigwyddodd?

Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod â rhanddeiliaid sut y mae’r Pwyllgor wedi darparu o ran ei raglen waith, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu pethau, yn enwedig:

  • Beth oedd uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Pwyllgor? Beth y gallai’r Pwyllgor fod wedi’i wneud yn well?
  • Beth yw’r tueddiadau neu’r digwyddiadau allweddol dros y 12 i 18 mis nesaf?
  • A yw’r amseru yn iawn ac a oes unrhyw beth ar goll yn syniadau cychwynnol y Pwyllgor am waith yn y dyfodol?

Y themâu allweddol a oedd yn dod i’r amlwg o lawer o’r trafodaethau oedd effaith gadael yr UE a phwysigrwydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sydd ar fin cael ei chyhoeddi.

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:

“Flwyddyn ar ôl i ni wahodd amrywiaeth o randdeiliaid gyntaf i roi gwybod i ni am yr hyn y dylem ei wneud fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i glywed beth oedd eu barn am yr hyn a wnaed gennym. Ac i weld beth oedd eu barn am rai o’n syniadau sy’n datblygu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

“Ar ôl y trafodaethau heddiw, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn i ddatblygu rhaglen waith sy’n ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar y tair prif elfen o’n cylch gwaith, sef yr economi, seilwaith a sgiliau.”

IMG_2255

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y tîm clercio yn defnyddio’r syniadau a’r sylwadau a gafwyd gan randdeiliaid i lywio papur, a fydd yn nodi blaenoriaethau ac ymchwiliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried ym mis Medi.

 

Llais Cryfach i Gymru mewn Prydain sy’n Newid

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr cyfansoddiadol i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut y mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill: y berthynas rhyngddynt, pa mor dda y maent yn cydweithio ac yn rhannu syniadau. Drwy ddeall y berthynas bresennol a’r berthynas yn y gorffennol, byddai’r Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o ran gweithio yn y dyfodol.

Different legislature buildings

Ond pa fath o berthynas y mae pobl Cymru am i’n sefydliad ei chael â seneddau a llywodraethau eraill?

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn cynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn canolbwyntio ar yr heriau cyfansoddiadol mwyaf dwys, yn ei marn ef, mae pobl Cymru wedi eu hwynebu ers sawl cenhedlaeth, fel gwlad – Cymru – ac fel teulu o wledydd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y ffordd mae Cymru yn ymateb i’r heriau hynny yn brawf diffiniol o’n cenhedlaeth ni.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs, yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig traddodiadol, y celfyddydau a’r iaith, ond mae hefyd yn fan lle caiff hunaniaeth Cymru a’i phobl ei dychmygu dro ar ôl tro. Mae hefyd yn fan lle mae gwleidyddiaeth a chyfansoddiad Cymru – a Chymru o fewn y Deyrnas Unedig – wedi cael eu trafod a’u dadlau’n frwd dros y degawdau, ar y Maes ac oddi arno.

Mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio trafod ffordd allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Lloegr wedi drysu ynghylch ei hunaniaeth – neu’r sawl hunaniaeth sydd ganddi – ac maen arbrofi â ffurfiau gwahanol o ddatganoli yn Llundain a bellach yn ei dinasoedd metropolitan a rhanbarthau mawr. Pleidleisiodd yr Alban mewn un refferendwm i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, mae ei llywodraeth yn chwarae â’r syniad o gael ail refferendwm, ond wedi rhoi’r syniad i’r neilltu – am y tro o leiaf. Ac mae sefydliadau Gogledd Iwerddon yn ei hunfan yn stond ac yn wynebu’r bygythiad o Reolaeth Uniongyrchol. Mae gan Gymru Fodel Cadw Pwerau yn debyg i’r Alban o’r diwedd, ond mae rhai sylwebwyr arbenigol – ac yn wir, Llywodraeth Cymru ei hun – yn dadlau bod perygl y bydd Deddf Cymru, ynghyd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn gam yn ôl i’r broses ddatganoli.

‘Ni ddylai Cymru ofni arwain y ffordd o ran datblygu cyfraith glir, gryno a dealladwy’

Yn yr amgylchedd tymhestlog a newidiol hwn, mae’n gwbl briodol i ofyn y cwestiwn sylfaenol: sut y gallwn sicrhau llais cryf i Gymru nawr, a llais cryfach yn y dyfodol? Ymysg yr holl stŵr, mae’n gwbl angenrheidiol sicrhau’r llais cryfaf posibl i Gymru yn yr undeb hon o wledydd.

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni

Dydd Llun 7 Awst

Pabell y Cymdeithasau 2

11.30 – 12.30

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn sôn am ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Llais Cryfach i Gymru’.

Yna, bydd cyfle i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor i drafod y materion hyn a fydd yn arbennig o bwysig wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.