Category: Pobl y Cynulliad

Ugain dyfyniad i nodi ugain mlynedd ers i Gymru ddweud ie

Ugain mlynedd yn ôl, ar 18 Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru i weld a oedd cefnogaeth i greu cynulliad i Gymru gyda phwerau datganoledig. Yma rydym yn edrych ar y diwrnod hwnnw a’r daith a ddechreuwyd gydag ugain dyfyniad…

“Devolution is about harnessing the power of community – the diverse community that is the United Kingdom, and the national communities that through devolution can take their futures in their own hands.”

Dyfyniad gan Tony Blair a arweiniodd y blaid Lafur yn ôl i bŵer yn 1997 am y tro cyntaf ers 1979 mewn buddugoliaeth ysgubol. Roedd maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad i gynnal refferendwm ar greu Cynulliad i Gymru.

Tony Blair Neil Jenkins

“There are some variations across social groups in Wales. Women clearly support a Welsh Assembly – by 37 to 29 – while men oppose one by 43 to 38.

There is strong majority support for devolution among those aged 18 to 34, while a majority of those voters aged over 65 oppose an assembly.”

Detholiad o ganlyniadau arolwg barn y Guardian/ICM a wnaed wythnos cyn pleidlais y refferendwm.

Ron Davies

“Good morning, and it is a very good morning in Wales.”

Dyma sut y gwnaeth Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1997 ac arweinydd ymgyrch Ie, ddechrau ei araith pan gyhoeddwyd y canlyniad. Gallwch wylio clip o’i araith yma. Hefyd, disgrifiodd Ron Davies ddatganoli yng Nghymru fel “proses nid digwyddiad.”

“When you win a national campaign by less than seven thousand votes it makes every last leaflet, every last foot-step, every last door knocked, worthwhile.”

Leighton Andrews, cyn Aelod Cynulliad a Gweinidog Llywodraeth Cymru yn trafod Ymgyrch Ie mewn blog diweddar ar gyfer yr IWA. Roedd 50.3 y cant o’r rhai a bleidleisiodd yn y refferendwm o blaid datganoli – mwyafrif bychan o 6,721 pleidlais.

Yn dilyn y refferendwm, pasiodd Senedd y DU Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Roedd y Ddeddf yn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol fel corff corfforaethol – gyda’r weithrediaeth (y Llywodraeth) a’r ddeddfwrfa (y Cynulliad) yn gweithredu fel un. Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad ar 6 Mai 1999.

Siambr Hywel

“Roedd Monwysion yn chwareli llechi Sir Gaernarfon yn arfer cael eu galw yn Bobol y Medra, oherwydd mai eu hateb hwy i’r cwestiwn, ‘Fedri di wneud hyn?’ oedd ‘Medra.’ A dyna fydd ein neges ni ledled Cymru. Gadewch i Gymru gyfan fod yn Bobol y Medra.”

Alun Michael, a oedd newydd ddod yn Brif Ysgrifennydd Cymru ar 12 Mai 1999. Darllenwch drawsgrifiad llawn o’r Cyfarfod Llawn lle draddododd ei araith.

Continue reading “Ugain dyfyniad i nodi ugain mlynedd ers i Gymru ddweud ie”

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Interniaethau polisi ar gyfer myfyrwyr PhD

A oeddech chi’n gwybod bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yng nghynllun Interniaethau Polisi i Fyfyrwyr PhD Cynghorau Ymchwil y DU (Saesneg yn unig).

Darllenwch am brofiad Eleanor Warren Thomas fel intern yng Ngwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei herthygl ar ‘Pigion’, sef blog y Gwasanaeth.


Rydym yn cyflogi pobl ag amrywiaeth o sgiliau yn holl adrannau’r sefydliad, gan gynnwys Cyfleusterau, Cysylltiadau Ymwelwyr, Cyfathrebu, Cyllid, TGCh, Gwasanaethau Ymchwil, Diogelwch a Chyfieithu:

Lleoliadau Gwaith

Swyddi Gwag

Gweithio i Aelod

Woman writes in a notebook at an informal meeting

Mae datganoli digidol wedi cyrraedd – rhowch help llaw wrth inni fynd i’r afael â dyfodol digidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae datganoli digidol wedi cyrraedd – rhowch help llaw wrth inni fynd i’r afael â dyfodol digidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma farn Claire Scantlebury, pennaeth y Tîm Cyfathrebu Digidol, pam y byddai gweithio i’r Cynulliad yn berffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn digidrwydd.

Rwy’n ystyried fy hun yn dipyn o anorac o ran ymgysylltu digidol, ac mae’n deg dweud bod holl botensial y byd digidol yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi.

Ystyriwch y posibiliadau o ran y gynulleidfa, ymgysylltu mewn amser real, llunio deunydd gwreiddiol, sgwrsio dros y we, ennyn emosiynau, datblygiadau anhygoel technoleg, trendiau, platfformau, yr hyn sy’n dal sylw cynulleidfaoedd, data enfawr, gwybodaeth agored i bawb, profiad y defnyddiwr…mae’r rhestr yn ddiddiwedd!  Rwy’n deall yn iawn mor lwcus ydw i’n cael gweithio bob dydd ar rywbeth sy’n rhoi cymaint o bleser i mi.

Mae mwynhau’r gwaith yr ydw i’n ei wneud yn un peth, ond mae’n well byth gwybod fy mod yn chwarae fy rhan ar gyfer sefydliad mor arbennig a phwysig.  Â minnau’n aelod newydd o staff yn y Cynulliad, ac wedi imi fod yn gweithio yn y sector preifat yn flaenorol, rwy’n credu mai dyma’r amser mwyaf cyffrous i fod yn rhan o’r byd gwlidyddol ym Mhrydain. Ond tra bo pobl yn ddigon parod i ymgysylltu yn nemocratiaeth ein gwlad yn sgil rhai pynciau (awn ni ddim ar ôl yr hen air hwnnw ‘Brexit’ yn fan hyn!), mae ymgysylltu â gwleidyddiaeth yng Nghymru yn rhywbeth sy’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

untitled-design-1

Mae’r byd gwleidyddol sydd ohoni ynghyd â’r ffordd y mae pobl yn darllen gwybodaeth yn her newydd, cyffrous ac mae’r byd digidol yn bwysig iawn yn hynny o beth.  Mae rôl sefydliadau gwleidyddol yn newid yn gyson.  Mae’r rheolau’n newid, mae’r ffiniau’n newid ac mae’r cyfleoedd a ddaw yn sgil e-ddemocratiaeth a’i botensial yn fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas wrth inni geisio ymgysylltu â phobl nad ydynt yn ymwneud rhyw lawer â gwleidyddiaeth.

Mae bod yn rhan o’r tîm digidol yma yn y Cynulliad yn gyfle i ni gyfrannu er lles Cymru trwy arloesi a defnyddio gwahanol foddau o ymgysylltu’n greadigol.  Mae’n swydd mor gyffrous a llawn o fwynhad, ond mae’r llwyth gwaith yn cynyddu’n gyson…felly, dyma benderfynu recriwtio dau Reolwr ar y Cyfryngau Digidol i fod yn rhan o’n tîm.

At hynny, mae’r iaith Gymraeg wedi hen ennill ei phlwy yn yr oes ddigidol. Dyna pam rydym yn recriwtio arbenigwyr digidol i arwain y ffordd o ran arloesedd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer ceisio am un o’r swyddi hyn, wrth inni weithio er lles Cymru a’r iaith Gymraeg.

Os oes angen rheswm arall arnoch i weithio i’r Cynulliad, ni chewch chi lefydd gwell i weithio ynddynt na’r Senedd a’r Pierhead ym Mae Caerdydd.

Beth yw’r rôl?

Rydym yn dîm newydd yn y Cynulliad, ac rydym yn gweithio i lywio presenoldeb y Cynulliad ar y we wrth inni ddangos i bobl Cymru beth rydym yn ei wneud yma ym Mae Caerdydd, gan ysbrydoli pobl yn sgil hynny.

Rwy’n chwilio am weithwyr proffesiynol digidol sy’n frwdfrydig dros ymgysylltu ar-lein â phobl Cymru  Dylech fod yn hyderus i lunio deunydd a’i rannu ar sawl platfform digidol, a bod yn ymwybodol o’r dull gorau ar gyfer gwahanol dasgau drwy eich gwybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu dysgu trwy brofiadau mewn rolau eraill a oedd yn ymwneud â marchnata digidol a chynnwys digidol.

Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi fod yn arloesol, gwthio ffiniau a helpu gosod y Cynulliad ymysg sefydliadau digidol gorau’r byd, gwnewch gais ar unwaith!

Ydych chi’n cofio haf ‘99? Yma, bydd rhai sydd wedi gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol o’r dechrau yn cael cipolwg yn ôl ar y dyddiau cynnar hynny

Ym mis Mai 1999, yn dilyn refferendwm a gynhaliwyd ym 1997 a phasio Deddf Llywodraeth Cymru ym 1998, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei Gyfarfod Llawn cyntaf yn yr hyn a elwid bryd hynny’n Dŷ Crucywel ym Mae Caerdydd.

Mae llawer wedi digwydd dros y 17 mlynedd diwethaf, ond mae rhai pethau wedi aros yr un fath. Yn ystod Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad yn 2016, tynnwyd llun naw o Aelodau’r Cynulliad a oedd yn dychwelyd i gynrychioli eu hetholaethau am y pumed tro, gyda’i gilydd. Maent wedi gwasanaethu fel Aelodau’r Cynulliad ers y Cynulliad cyntaf ym 1999.

ams-of-1999
O’r chwith i’r dde: David Melding AC, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, Y Dirprwy Llywydd Ann Jones AC, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Jane Hutt AC, Kirsty Williams AC, Y Llywydd Elin Jones AC, Lynne Neagle AC a John Griffiths AC.

Yn ogystal ag Aelodau’r Cynulliad, mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflogi staff i gefnogi ei waith. Fe ysbrydolodd y llun hwn ni i feddwl ac i hel atgofion am y staff a oedd yn gweithio yma yn ystod y flwyddyn gyntaf hanesyddol honno yn y Cynulliad, ac sy’n parhau i weithio yma hyd heddiw.

class-of-1999-1

Dywedodd Adrian Crompton, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, ei fod yn falch o’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi tyfu ac aeddfedu i fod yn “senedd bwerus, gydag adnoddau da sy’n gosod safonau y mae deddfwrfeydd eraill o bob cwr o’r byd yn anelu i’w cyrraedd”. Ychwanegodd: “Mae gweithio yn y Cynulliad yn wir yn fraint, – ffaith a gaiff ei chadarnhau, yn fy marn i, gan y gwaith rwy’n ei wneud yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica gyda seneddau sy’n awyddus i ddatblygu’r rhyddid a’r diwylliant democrataidd yr ydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml.”

Mae Ioan Bellin yn gweithio i Simon Thomas AC a dywedodd: “Y newid mwyaf yn y Cynulliad Cenedlaethol yn fy amser i yma fu gwahanu’r ddeddfwrfa a’r weithrediaeth”. Digwyddodd y gwahanu hwn yn 2007 pan wahanwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn a oedd ar y pryd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Ioan hefyd wedi sylwi bod cerdded drwy’r Senedd yn rhoi balchder mawr iddo, oherwydd mae’n cofio’r broses adeiladu ac agoriad swyddogol yr adeilad ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.

Bu Nia Percy yn recordio ac yn ffilmio cyfarfodydd pwyllgor a’r Cyfarfodydd Llawn o’r dechrau, ar gyfer y contractwyr darlledu Barcud Derwen a Bow Tie.  Dywedodd Nia: “Mae technoleg wedi datblygu cryn dipyn yn y ddwy flynedd ar bymtheg ers 1999. Ni allem ddychmygu ar y pryd sut y mae gwe-ffrydio o ran Senedd TV wedi datblygu cymaint, i’r graddau ei fod wedi disodli darlledu traddodiadol ar sianelau teledu daearol i raddau helaeth.” Drwy ei gwaith yn y maes darlledu yn y Cynulliad, mae hi’n teimlo’n falch ei bod hi “..yn chwarae rhan yn y broses ddemocrataidd, gan sicrhau bod y Cynulliad yn hygyrch ac ar gael i bobl Cymru.”

Mae Ray Jones, sydd hefyd yn gweithio fel darlledwr ar ei liwt ei hun, ac i’r Tîm Cyswllt Cyntaf, hefyd yn canmol y Cynulliad am “y ffordd y mae wedi croesawu technoleg, ac a’i cynorthwyodd i estyn allan at yr etholwyr”, ac mae’n nodi hwn fel un o’r datblygiadau pwysicaf.

Soniodd llawer o’r staff gwreiddiol ym 1999 am natur gyfeillgar ac agored y Cynulliad.  Dywedodd Joanne Thomas, sydd bellach yn gweithio i Rhiannon Passmore AC ei bod yn “mwynhau cyfeillgarwch y bobl yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r ffordd y mae’r gwahanol adrannau o fewn Comisiwn y Cynulliad mor barod i helpu.”

Soniodd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn, mai’r amser mwyaf cofiadwy iddo ef oedd yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr Etholiad ym 1999, pan gyrhaeddodd Aelodau’r Cynulliad yn rhy gynnar!

“Roeddem wedi gofyn, ychydig yn ddiniwed wrth edrych yn ôl, i’r Aelodau etholedig ddod i’r Bae ddydd Llun, 10 Mai 1999. Fodd bynnag, dechreusant gyrraedd ar 7 ac 8 Mai – a ninnau ddim yn barod amdanynt. Er fy mod yn cofio ei fod yn ddiwrnod hanesyddol a hynod gyffrous, roedd yn bendant yn ddiwrnod a oedd yn mynnu bod pob copa walltog ohonom yn bwrw ati gyda’n gilydd. Pan fyddaf yn cymharu y diwrnod hwnnw gyda sut y gwnaethom groesawu ein Haelodau i’r Senedd yn 2016, mae’n amlwg ein bod ni fel sefydliad wedi datblygu i fod yn llawer mwy soffistigedig o ran y ffordd y mae ein gwasanaethau wedi esblygu. Rwyf yr un mor falch o weithio i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw ag yr oeddwn ym mis Mai 1999”.

Hoffem ddiolch i’r holl Aelodau a’r Staff am eu cyfraniadau parhaus i waith y Cynulliad dros y blynyddoedd, ac estynnwn groeso i’r rhai sydd wedi ymuno’n fwy diweddar ac a fydd yn cyfrannu at waith y pum Cynulliad nesaf.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith y Cynulliad a chael yr holl newyddion diweddaraf drwy fynd i’n gwefan.

Hwyl yr Haf yn y Senedd

 

Gareth Coombes, rheolwr teithiau tywys yn y Senedd, yn sôn am bleserau a heriau’r gwaith o drefnu penwythnos o Hwyl i’r Teulu yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.

Y peth cyntaf a ddaw i’r meddwl, mae’n debyg, wrth feddwl am y Senedd yw’r Cyfarfod Llawn, y cyfarfod lle mae’r 60 o Aelodau’r Cynulliad yn gwneud deddfau yng Nghymru, yn trafod materion Cymru, yn holi’r Prif Weinidog ac yn gwneud yn siwr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith. Yr ail beth y byddech yn meddwl amdano, o bosibl, yw’r tywysydd golygus sy’n gweithio yno (haha!), ond efallai mai’r peth olaf y byddech yn ei ddychmygu yw y gallai’r Senedd hefyd droi’n fan chwarae enfawr ar gyfer plant a phobl ifanc.

Capture

 

Wel, dyna’n union a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf! I ddathlu Gŵyl Harbwr Bae Caerdydd ac fel parhad o ddathliadau 10fed pen-blwydd y Senedd eleni, cynhaliwyd penwythnos o Hwyl i’r Teulu i gyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys chwarae meddal, gorsaf Lego, sgitls, paentio wynebau ac ardal gwneud crefftau.

Y diwrnod cynt, roeddwn i’n nerfus iawn, yn meddwl na fyddai neb yn dod i’r digwyddiad ac y byddwn i’n chwarae Lego ar fy mhen fy hun drwy’r dydd! Bûm yn cadw’n brysur drwy osod yr holl weithgareddau, gwneud yn siŵr bod y teganau yn y lle cywir, bod gan y paentwyr wynebau fyrddau a bod y cacennau cri yn ddigon blasus (cymerais y swydd hon yn ddifrifol iawn, a blasu llawer ohonynt, dim ond i wneud yn siŵr eu bod yn iawn wrth gwrs!) a bod popeth arall yn iawn. Y noson cynt, pan oedd pawb bron wedi mynd adref, cerddais o gwmpas i gael cip olaf yr hyn yr oeddem wedi’i greu yn yr adeilad, a theimlwn yn gyffrous am y dyddiau a oedd i ddod.

Dechreuodd y penwythnos yn dawel, ac roedd y tywydd yn ddigon diflas. Cyn gynted ag y daeth yr haul i’r golwg, fodd bynnag, gwyddwn y byddai Bae Caerdydd yn prysuro, ac wrth gwrs, fe ddaeth heidiau o bobl yma!

FullSizeRender (2)

Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd dros y penwythnos (ac am reswm da) oedd y pwll peli yng nghanol yr ystafell. Un o’n cyfrifoldebau ni’r staff oedd sicrhau nad oedd y peli yn rholio’n rhy bell, a’u rhoi’n ôl yn y pwll peli. Gwaith digon anodd ac ailadroddus, cofiwch! Ar ddiwrnod ola’r penwythnos, fe es ati i dacluso’r pwll peli am y tro olaf, a rhoi dwy neu dair pêl ar y tro yn ôl yn eu priod le, pan welais, o gornel fy llygaid, fachgen bach yn rhedeg mor gyflym ag y gallai tuag at y man chwarae meddal o ben draw’r ystafell. Roedd popeth, ar yr adeg hon, yn digwydd fel cyfres o symudiadau araf. Roedd y bachgen bach yn agosáu, nid oedd dim y gallwn i ei wneud, a chyn y gallwn ymateb o gwbl, fe neidiodd, mor uchel ag y gallai, a glanio, fel neidiwr mewn cystadleuaeth naid hir yn y Gemau Olympaidd, yng nghanol y pwll peli. Eto, fel pe baent mewn ffilm wedi’i harafu, gwelwn oddeutu 50 o beli yn tasgu allan o’r pwll i bob cyfeiriad posibl ar y llawr llechi Cymreig, a chan wybod fy mod wedi colli’r frwydr, ‘doedd dim i’w wneud ond rhoi fy mhen yn fy nwylo, gorffwys ar y man chwarae meddal, a chwerthin!

IMG_3520Ar gyfer hunluniau amrywiol, defnyddiwyd #SeneddSelfie ar Twitter ac Instagram drwy gydol y penwythnos, fel y gallai ein gwesteion rannu eu profiadau gyda ni a phawb. Tynnwyd lluniau gwych, ac roedd yn hyfryd gweld pawb yn gwenu’n braf ynddynt. Dringodd nifer o bobl i’r gadair lan môr enfawr y tu allan i’r Senedd, a gwelwyd lluniau gwych o blant gyda’u hwynebau wedi’u paentio, yn Llewod a glöynnod byw rif y gwlith!

Yn gyffredinol roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr, gyda thros 3,500 o bobl yn ymweld â’r Senedd dros y tri diwrnod! Roedd yn ymddangos bod pawb yn mwynhau cymaint ag y gwnes i.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am ddod draw – welwn ni chi eto y flwyddyn nesaf!

 


Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos, ac mae ei dyluniad unigryw a’i phensaernïaeth anhygoel yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac yn 2015 dyfarnwyd Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i’r adeilad.

Mae teithiau o amgylch y Senedd ar gael am ddim bob dydd, ac mae dewis o ddiodydd a lluniaeth ar gael i’w prynu o Gaffi’r Oriel.

Gallwch hefyd gael gwybod pwy yw eich Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli eich buddiannau yn y Senedd. Os byddwch yn ymweld yn ystod yr wythnos byddwch hyd yn oed yn gallu gwylio’r gweithgareddau gwleidyddol yn datblygu, fel y maent yn digwydd, o Oriel Gyhoeddus y Siambr, sef siambr drafod y Senedd.

Os hoffech drefnu taith (ni allaf warantu mai gyda Gareth y bydd y daith), ffoniwch 0300 200 6565, anfonwch neges e-bost at cysylltuâ@cynulliad.cymru neu galwch heibio’r Senedd i gael rhagor o fanylion.

Mae’r Senedd ar agor:

Dyddiau’r wythnos – yn ystod tymor y Cynulliad

Dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30, dydd Mawrth a dydd Mercher 8.00 – tan ddiwedd busnes

Dyddiau’r wythnos – yn ystod y toriad

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30 – 16.30

Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

 (Noder, bydd yr ymwelwyr olaf yn dod i mewn 30 munud cyn yr amser cau)

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i rai â chyflwr ar y sbectrwm awtistig i’w gweld ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

“Mae clywed y cyfieithwyr ar y pryd wrth eu gwaith yn anhygoel. Am sgìl!”

ffion-e1469025276972

 

Cafodd Ffion Pritchard ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod yr wythnos diwethaf ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni ac am y ffordd y mae’r Cynulliad yn hyrwyddo dwyieithrwydd.

Ddydd Mawrth y 12fed o Orffennaf, ar ddiwrnod braf o haf, es i i Fae Caerdydd ar y trên i dreulio diwrnod o brofiad gwaith gydag Uned Gyfieithu y Cynulliad yn dilyn fy muddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Cyfieithu yr Urdd.

 

Roedd diwrnod prysur iawn wedi’i drefnu ar fy nghyfer. Yn rhan o’r diwrnod, bues i’n cwrdd â phennaeth yr uned gyfieithu, Mair, a beirniad y gystadleuaeth, Mari Lisa, yn ogystal â dysgu am yr uned fusnes, llunio’r Cofnod, cyfieithu deddfwriaethol a’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Diolch i Geth, Jodi, Llinos a Cai am eu holl gymorth. Dwi’n sicr y bydd yr wybodaeth a roeson nhw o gymorth mawr i mi yn y dyfodol!

Yn ogystal â chwrdd a gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr a chofnodwyr yr Uned Gyfieithu, roedd cyfarfodydd wedi’u trefnu ar fy nghyfer â dau berson pwysig yn y Senedd. Yn y bore, cefais gyfle i gael sgwrs (a llun!) â’r Llywydd, ac yn y prynhawn, rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, o’i amser i siglo’m llaw a chael sgwrs. Pobl brysur iawn ydyn nhw felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr!

FfionandPO1

Roedd y cyflwyniad gan Gruff ar gyfieithu peirianyddol o fudd mawr. Mae’n dda cael gweld bod cwmnïau mawr fel Microsoft yn buddsoddi mewn technoleg sy’n fuddiol i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg. O’i defnyddio’r gywir, mae’r dechnoleg yma’n cynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr ac yn rhoi’r cyfle i siaradwyr di-Gymraeg ddeall yr iaith. Wrth gwrs, fydd peiriant cyfieithu byth yn well na chyfieithwyr go iawn, ond mae’n braf cael gweld bod adnoddau ar gael yn gefn i’n gwaith ni.

ffion-a-gruff

A minnau’n berson sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol, yn ogystal â’r byd cyfieithu, da oedd gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr. Roedd hi’n braf teimlo’n rhan o’r broses wleidyddol a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan weinidogion . Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner!

Diolch i’r Urdd, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a’r Cynulliad am drefnu’r diwrnod. A diolch o galon i Iona a Sarah am fod yn dywyswyr penigamp! Hoffwn erfyn ar y rheiny ohonoch chi sy rhwng 19 a 25 oed ac sydd â diddordeb mewn cyfieithu i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd y flwyddyn nesaf. Os byddwch chi’n fuddugol, dwi’n addo y bydd treulio diwrnod gydag uned gyfieithu y Cynulliad yn brofiad gwerth chweil!