Category: Cymerwch ran

Annog y cyhoedd i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad

Mae gwella ymgysylltiad â phobl Cymru yn flaenoriaeth fawr i ni yn y Cynulliad. Rydym wedi bod yn gwneud hyn fwyfwy drwy gynnwys pobl mewn trafodaethau gyda phwyllgorau’r Cynulliad ar faterion sy’n agos at eu calon.

Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu pwyllgorau’r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn edrych ar ba effaith y mae’r prosiectau cyfranogi hyn yn ei chael ar y dinasyddion hynny sy’n cymryd rhan.

Fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Ardrethi Busnes, cymerodd busnesau bach o wahanol rannau o Gymru ran mewn cyfweliadau fideo gyda swyddogion allgymorth. Dangoswyd eu cyfraniadau i Aelodau’r Cynulliad a bu o gymorth i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor.

Ar ôl cymryd rhan yn y cyfweliad fideo, a chael y wybodaeth ddiweddaraf gan staff y Cynulliad am ganlyniadau eu cyfraniad, gofynnwyd i’r cyfranogwyr a oeddent yn teimlo eu bod wedi cael y cyfle i fynegi eu barn, a phe byddent yn cael y cyfle, a fyddent yn cymryd rhan mewn gweithgaredd fel hyn eto.

Gofynnwyd iddynt hefyd ddatgan faint yr oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol cyn iddynt gymryd rhan, a sut yr oeddent yn teimlo am yr un datganiadau ar ôl cymryd rhan:

  • Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud
  • Mae gennyf yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
  • Yr wyf yn gwybod pa rôl y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn
  • Yr wyf yn rhoi llawer o sylw i wleidyddiaeth Cymru
  • Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hanfodol i’n democratiaeth
  • Yr wyf yn gwybod pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Byddaf yn pleidleisio mewn etholiad sydd ar y gweill gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Hwn oedd y tro cyntaf inni fesur effaith cymryd rhan yn un o’n mentrau ymgysylltu o safbwynt y cyfranogwyr. Mae’r canlyniadau wedi dangos inni y byddai’r holl gyfranogwyr yn cymryd rhan eto pe byddent yn cael y cyfle, ac roeddent yn teimlo eu bod wedi cael y cyfle i fynegi eu barn. Roedd y  newid mwyaf arwyddocaol mewn canfyddiad wrth gymharu’r ymatebion cyn ac ar ôl cymryd rhan yn amlwg gyda’r datganiadau canlynol:

  • ‘Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud’: nid oedd dim un o’r cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, o’i gymharu â 67% a oedd yn anghytuno â’r datganiad ar ôl cymryd rhan.
  • ‘Mae gennyf yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth’: roedd hanner y cyfranogwyr yn anghytuno â’r datganiad hwn cyn cymryd rhan, tra roedd 88% yn cytuno â’r datganiad hwn ar ôl cymryd rhan.

Ein bwriad yw ceisio casglu’r math hwn o wybodaeth ar gyfer yr ystod o wahanol fentrau ymgysylltu yr ydym yn eu darparu yma, er mwyn inni ddeall eu heffeithiolrwydd a gwella ein cynnig yn y dyfodol.

Darllenwch fwy: Soniwyd am ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn neges yn ddiweddar gan Kevin Davies a Cristina Leston-Bandeira ar y blog Parliaments and Legislatures. [Saesneg yn unig]

Mae Kevin Davies yn Uwch Reolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y diweddaraf am y Cynulliad – dilynwch un o’m sianelau cyfryngau cymdeithasol.


Pa mor hawdd yw hi i gyfrannu at ein gwaith? Pa newidiadau y gallem eu gwneud i annog mwy o bobl i gymryd mwy o ran?

Rydym yn cynnal arolwg anghenion defnyddwyr tan ddydd Gwener 10 Chwefror 2017 a hoffem glywed eich syniadau.

Beth all Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd.  Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

strip

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda’r galon.

Felly mae’n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth – mae modd profi’r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i’r gwrthwyneb.

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r broblem yn flaenoriaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei ‘nodau lles’ ac un ohonynt yw monitro ‘canran y bobl sy’n unig’.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a’r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.

Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i’r afael â’r broblem helpu unigolion i deimlo’n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i’w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter – @SeneddIechyd.

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i bobl Cymru benderfynu ar y materion y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt.

paint-halfsize-twitter-1-cy

Er bod Pwyllgorau’r Cynulliad yn ceisio cynnwys y cyhoedd yn eu gwaith yn rheolaidd, ac wedi gwneud hynny drwy ddulliau amrywiol (gan gynnwys cynnal digwyddiadau, grwpiau ffocws, sgyrsiau ar y we, arolygon barn, cyfweliadau fideo a gweithdai, ynghyd â defnyddio aps ceisio barn torfol), dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad ofyn i bobl Cymru benderfynu ar destun ymchwiliad.

Sut y cafodd y syniadau eu casglu?

Cynhaliodd James Williams o BBC Cymru Wales gyfweliad â Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, ar Facebook Live—y digwyddiad cyntaf o’r fath yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol. Anogodd Bethan bobl i gysylltu â hi ac i awgrymu meysydd blaenoriaeth.

Gwahoddodd y Pwyllgor bobl i awgrymu syniadau ar Facebook a Twitter a thrwy e-bost. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn parhau â’r sgwrs.

Beth ddywedodd pobl?

Cafwyd nifer o awgrymiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, a chafodd y syniadau hyn eu grwpio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor. Yna, gwiriodd yr Aelodau yr eitemau ar y rhestr gyhoeddus hon yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a oedd wedi dod i’r amlwg mewn sesiwn gynllunio flaenorol.

Roedd tipyn o dir cyffredin rhwng meysydd blaenoriaeth Aelodau’r Pwyllgor a’r rhestr gyhoeddus, gan gynnwys:

  • sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • rôl radio yng Nghymru
  • cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Continue reading “Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad”

Pryderu am ddyfodol y BBC yng Nghymru? Gofynnwch eich cwestiwn i Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisiau clywed gennych cyn ei gyfarfod gyda Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.  Cynhelir y cyfarfod ar 2 Tachwedd a bydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar Senedd.TV. Y dyddiad cau ar gyfer cwestiynau yw 21 Hydref.

Ar Twitter gallwch ddefnyddio #HoliBBC neu gallwch drydar y pwyllgor @SeneddDGCh.

Gallwch hefyd adael sylw ar dudalen Facebook y Cynulliad neu e-bostiwch eich cwestiwn i SeneddDGCh@cynulliad.cymru.

7-put-your-question-cy

Pwy yw Tony Hall a beth mae’n ei wneud?

 Tony Hall – yr Arglwydd Hall o Benbedw – yw 16eg Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Y Cyfarwyddwr Cyffredinol yw Prif Swyddog Gweithredol y BBC, sef ei Brif Olygydd.

I gael gwybod mwy am Tony Hall a rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol gallwch ymweld â Gwefan y BBC.

Pam mae e’n dod i’r Cynulliad?

Mae Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu newydd y Cynulliad ar hyn o bryd yn edrych ar effaith Siarter y BBC a beth fydd ffurf rhaglenni’r BBC yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd y Pwyllgor yn ymdrin â meysydd sy’n cynnwys yr Adolygiad o Siarter y BBC a rôl y  ‘Cyfarwyddwr y Gwledydd a’r Rhanbarthau’ a benodwyd yn ddiweddar.

Mae gan BBC Cymru gyllideb flynyddol o dros £150 miliwn ac mae’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer Radio Wales, Radio Cymru, y teledu a gwasanaethau ar-lein. Mae BBC Cymru hefyd yn gwneud 10 awr yr wythnos o deledu ar gyfer S4C.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gostyngiad yn y cynnwys Saesneg a gynhyrchir yn benodol ar gyfer Cymru.

Neges gan Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

Mae’r BBC yn gonglfaen o ran cynnwys y cyfryngau i lawer o bobl a gallai fod ar fin mynd drwy nifer o newidiadau sylweddol o dan yr Adolygiad o’r Siarter.

 Mewn rhai ffyrdd mae Cymru’n elwa’n fawr ar y BBC oherwydd ei phentref drama yn Noc y Rhath lle mae Sherlock, Doctor Who a Casualty yn cael eu ffilmio. Dyma gynyrchiadau o’r radd flaenaf sydd yn ddiamau yn ein rhoi ni ar y map.

 Ond, mewn ffyrdd eraill, mae diffyg rhaglenni a chynnwys sy’n benodol i Gymru, ac mae toriadau diweddar yn y gyllideb yn peri pryder mawr.

 Felly, byddwn yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol sut, yn ei farn ef, y bydd y BBC yng Nghymru yn edrych yn y dyfodol.

 Beth yw pwyllgor? 

Mae pwyllgor yn cynnwys grŵp bach o Aelodau Cynulliad o wahanol bleidiau sy’n edrych ar faterion penodol yn fanylach. Maent yn aml yn gofyn am fewnbwn gan gynghorwyr arbenigol allanol ac aelodau o’r gymuned cyn gwneud penderfyniadau.

Mae pwyllgorau yn argymell ffyrdd y gallai (er enghraifft) polisïau’r llywodraeth fod yn fwy cadarn a’i gwariant yn fwy effeithiol, effeithlon a darbodus. Mae pwyllgorau’n ymgysylltu’n rhagweithiol ac yn arloesol gydag unigolion a sefydliadau sy’n gallu mynegi llais a phrofiad pobl Cymru

Rhestr lawn o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Llwyddiannau newydd o ran ymgysylltu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Am y tro cyntaf, mae’r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyfathrebu, diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, darlledu a’r cyfryngau.

Mae’r materion hyn yn cyfoethogi ein bywydau, yn llywio ac yn egluro ein naratif fel cenedl, yn sail i’n diwylliant a’n treftadaeth unigryw, ac yn helpu i ddiffinio sut beth yw bod yn Gymry.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd yn cynnwys wyth o Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o Gymru, sy’n cynrychioli’r pum plaid wleidyddol yn y Cynulliad. Yn ystod yr haf, rhoddodd y Pwyllgor gyfle i bobl gysylltu â ni i ddweud wrthym ba waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu.

Aelodau'r Pwyllgor

Ym mis Gorffennaf, bu’r Cynulliad yn darlledu drwy gyfrwng Facebook Live am y tro cyntaf erioed. Gwyliodd dros 2,700 o bobl Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn siarad am ei gobeithion ar gyfer y Pwyllgor. Cawsom lawer o syniadau drwy’r ffrwd Facebook Live, drwy Twitter a thrwy e-bost.

Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad yn yr Eisteddfod i’r sawl a oedd yn bresennol gyflwyno eu syniadau a’u blaenoriaethau. Un o’r awgrymiadau hynny oedd y dylai’r Pwyllgor edrych ar y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan ystyried y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o ran sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gan ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd yr amser i gysylltu, dyma’r blaenoriaethau a nodwyd gennych…

Y Gymraeg

  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gan gynnwys y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc
  • Y Gymraeg mewn addysg uwchradd, gan gynnwys cynnig i gael gwared ar y cysyniad o addysg ail iaith a’i ddisodli gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg
  • Annog pobl i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol
  • Cymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw

Diwylliant

  • Cyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth a mynediad at yr addysg honno
  • Strategaeth i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru
  • Ffioedd a thelerau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol
  • Ariannu’r celfyddydau ar lawr gwlad ac yn lleol, a mynediad at y celfyddydau hynny
  • Sut y mae Cymru yn cefnogi ei chelfyddydau diwylliannol traddodiadol ac unigryw
  • Datblygu’r Adolygiad Arbenigol i’r adroddiad Amgueddfeydd Lleol
  • Brand Cymru

Treftadaeth

  • Cadw treftadaeth leol yng Nghymru
  • Addysg ddiwylliannol a hanesyddol yng Nghymru

Cyfathrebu

  • Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd yng Nghymru
  • Cyflwr newyddiaduraeth leol yng Nghymru
  • Cynrychiolaeth Cymru yn y cyfryngau ar lefel y DU
  • Cyllid ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru
  • Goblygiadau Siarter y BBC i S4C
  • Cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr awgrymiadau hyn wrth drafod y materion mawr y maent yn awyddus i fynd i’r afael â nhw yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Roedd llawer o dir cyffredin rhwng yr awgrymiadau a ddaeth i law a rhai o flaenoriaethau’r Pwyllgorau, gan gynnwys:

  • Sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • Diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • Rôl radio yng Nghymru
  • Cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Rydym wedi grwpio’r syniadau sy’n weddill gyda’i gilydd, ac rydym am i’r cyhoedd benderfynu pa faterion yr ydych chi’n credu y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn ystod y misoedd nesaf, unwaith y bydd y Pwyllgor wedi gorffen ei waith ar strategaeth y Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad alluogi’r cyhoedd i benderfynu ar ei raglen waith mewn modd mor uniongyrchol.

Cymerwch ran drwy gwblhau a rhannu’r arolwg hwn.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn anwybyddu’r holl ymatebion heblaw am y materion mwyaf poblogaidd.   Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y tymor hwy, boed hynny drwy ymchwiliad ffurfiol, drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion neu drwy geisio dadleuon yn y Cyfarfod Llawn.

Mae’r Pwyllgor wedi ymrwymo i gynnwys ystod o unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yn ei waith, yn y gobaith ei fod yn cynrychioli diddordebau Cymru a’i phobl yn effeithiol drwy gynnig cyfleoedd i effeithio’n uniongyrchol ar y gwaith hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gael yma.

#HoliLlywydd – Y Llywydd, Elin Jones AC, yn ateb eich cwestiynau

Ar 2 Awst, bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn sgwrsio â’r newyddiadurwraig Catrin Hâf Jones am yr heriau a chyfleoedd unigryw y mae’n eu hwynebu yn y Pumed Cynulliad. Bydd y Llywydd hefyd yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa a chwestiynau a ofynnir drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

1W

Gellir gofyn cwestiwn ymlaen llaw neu ar y diwrnod, naill ai drwy ddefnyddio #HoliLlywydd / #AskLlywydd ar Twitter, neu drwy gyfathrebu ar dudalen Facebook y Cynulliad, lle y caiff y sesiwn ei darlledu’n fyw am 11.00.

Sut gallaf wylio?

Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook:

Facebook Cynulliad Cymru

Facebook Assembly Wales

Hefyd, gallwch wylio’r cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau.

Sut gallaf gyflwyno cwestiwn?

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn i’r Llywydd:

  • Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ateb unrhyw drydariadau sy’n ymwneud â’r pwnc hwn, neu defnyddiwch y hashnod #HoliLlywydd. Hefyd, mae croeso i chi anfon Neges Uniongyrchol atom os hoffech ei chadw yn gyfrinachol.
  • Ar Facebook – Hoffwch Dudalen Facebook y Cynulliad a gadael sylw ar statws perthnasol. Os na allwch weld statws perthnasol, gadewch sylw ar y dudalen gyda’r hashnod #HoliLlywydd.
  • E-bost – Gallwch anfon eich cwestiynau drwy’r e-bost at: cyfathrebu@cynulliad.cymru
  • Ar Instagram – Os gallwch fynegi barn mewn ffordd weledol a chreadigol, byddem wrth ein bodd o’i gweld. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu defnyddiwch yr hashnod #HoliLlywydd. Fel arall, gadewch sylw ar un o’n heitemau ar Instagram, eto gyda’r hashnod #HoliLlywydd
  • Ar YouTube – Beth am i chi ffilmio eich hunan yn gofyn eich cwestiwn ac yna anfon y linc atom drwy un o’r sianeli uchod?
  • Sylwadau – Gallwch adael sylw ar y blog hwn yr eiliad hon!

Angen syniadau?

Gall Cynulliad Cymru ddeddfu mewn 21 o feysydd datganoledig:

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygu economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Gwasanaethau tân ac achub a diogelwch rhag tân
  • Bwyd
  • Iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Trethiant
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Y Gymraeg

Dyma ragor o lincs a all fod yn ddefnyddiol:

Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad – Yn y cyhoeddiad hwn mae detholiad o faterion sy’n debygol o fod o bwys yn y Pumed Cynulliad, o’r diwydiant dur i ddyfodol deddfu yng Nghymru.

Cymru a’r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru? – Mae ein Gwasanaeth Ymchwil yn egluro’r hyn a all ddigwydd yng Nghymru yn dilyn y bleidlais i Adael.

Comisiwn newydd y Cynulliad yn cychwyn arni gyda strategaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad – Erthygl newyddion am y strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Swyddogaeth y Llywydd – Gwybodaeth am swyddogaeth y Llywydd.

Rhagor am Elin Jones AC, y Llywydd

Elin Jones AC yw Llywydd presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Llywydd yw’r awdurdod pennaf yn y Cynulliad. Mae’n cadeirio cyfarfod y 60 Aelod Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Mae’r Llywydd hefyd yn weithredol o ran cynrychioli buddiannau’r Cynulliad a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Y Llywydd yw cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, sef y corff sy’n sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad y staff a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rolau yn effeithiol ar ran pobl Cymru.

Prif swyddogaethau y Llywydd yw:

  • cadeirio’r Cyfarfod Llawn;
  • penderfynu ar faterion ynglŷn â dehongli neu gymhwyso Rheolau Sefydlog;
  • cynrychioli’r Cynulliad mewn trafodaethau ag unrhyw gyrff eraill, pa un a ydynt y tu mewn i’r Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi, mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y Cynulliad.

Gweler hefyd:

Y Llywydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad – Newidiadau y mae’r Llywydd yn awyddus i’w gwneud i Fil Cymru.

Elin Jones yn egluro’r hyn y mae am ei gyflawni fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol – Cyfweliad â Wales Online ar yr hyn y mae’r Llywydd am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Y camau nesaf

Ar ôl casglu eich holl gwestiynau ynghyd, caiff rhai eu dewis i’r Llywydd eu hateb ar y dydd.

Byddwn yn coladu’r rhain ac yn eu rhannu â Catrin Hâf Jones cyn y cyfweliad. Bydd hi yn ei thro yn eu defnyddio yn ei sgwrs ag Elin Jones AC, y Llywydd. Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch ddod i wylio’r cyfweliad yn fyw; fel arall gallwch ei wylio yn fyw ar ein tudalennau Facebook. Wedyn, bydd y sgwrs ar gael ar-lein ar Senedd.TV. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os caiff eich cwestiwn ei ateb.

Cynhelir sgwrs rhwng y Llywydd a Catrin Hâf Jones ar 2 Awst am 11.00 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook:

Facebook Cynulliad Cymru

Facebook Assembly Wales

Hefyd, gallwch weld y cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau.

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y Cynulliad Cynhwysol: Amrywiaeth a Chynhwysiant

Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cynulliad, sef cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth eraill i hyrwyddo a dathlu ein bod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Byddwn yn cyhoeddi blog newydd bob dydd yr wythnos hon. Fel rhan o’r wythnos, felly, ymddengys bod hwn yn amser addas i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni i feithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol ers sefydlu’r Cynulliad. Wrth inni ddechrau datblygu Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a Chynllun ar gyfer y Pumed Cynulliad, edrychwn ar sut y gallwn barhau i gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein rôl fel cyflogwr ac fel sefydliad sy’n rhyngweithio â phobl Cymru .

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy’n dangos esiampl yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol. Mae ein gwerthoedd yn cynnwys y syniad bod cyfle cyfartal i bawb yn hawl ddynol sylfaenol ac rydym yn gwrthwynebu pob ffurf ar wahaniaethu. Rydym yn anelu at greu corff seneddol hygyrch, sy’n ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac sy’n eu parchu.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  “Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb.”

Meithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol a chydweithredol

Yma, rydym yn awyddus i sicrhau y gall pobl wireddu eu potensial llawn a gwneud cyfraniadau lle gallant fod yn hwy eu hunain yn eu hamgylchedd gwaith. I’r perwyl hwn, rydym yn trefnu gwybodaeth a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn rheolaidd er mwyn ysgogi trafodaeth a hyrwyddo diwylliant cynhwysol lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi. Mae’r Cynulliad wedi rhoi arwydd i’w weithlu ei fod wedi ymrwymo i wneud hyn trwy annog sefydlu rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle hunan-reoledig. Mae gennym rwydweithiau ar gyfer pobl LGBT a’u cynghreiriaid; pobl anabl a’u cynghreiriaid, pobl sy’n nodi eu bod yn Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a’u cynghreiriaid; pobl sy’n nodi eu bod yn rhieni a gofalwyr sy’n gweithio; a menywod a dynion. Mae pobl sy’n cyfrannu i’r rhwydweithiau yn gwneud hynny yn ychwanegol at eu swyddi dydd. Mae’n ddiogel dweud bod bodolaeth rhwydweithiau yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, meithrin cysylltiadau da a chynnig atebion os bydd rhwystrau i gynhwysiant yn codi neu bosibilrwydd y byddant yn codi. Mae’r cysyniadau o gefnogaeth gan gymheiriaid a darparu ‘lle diogel’ lle gall pobl godi materion neu gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella yn amhrisiadwy ac mae gennym enghreifftiau lle cafodd polisïau ac arferion yn y gweithle eu gwella. I gael rhagor o wybodaeth am rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle’r Cynulliad, cysylltwch â diversity@cynulliad.wales

Ymgysylltu ag ystod amrywiol o bobl y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad

Mae cael tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant hynod weladwy sydd wedi ymrwymo i gydlynu’r gwaith hwn ar draws y Cynulliad wedi bod o fudd am ddau reswm yn benodol. Yn gyntaf, gall arfer da a chydweithio â chydweithwyr ar draws y gwahanol dimau sicrhau ein bod yn ymdrechu’n barhaus fel sefydliad i gynnal a gwella diwylliant sefydliadol cynhwysol. Yn ail, rydym wedi gallu gweithio gyda thimau ar draws y Cynulliad a chynnwys pobl o’r tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad i wneud y gorau o’n hygyrchedd i bobl Cymru. Mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau o gymunedau ledled Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad ac annog pobl i gymryd rhan yn ei waith.

Fel Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, rydym yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gawsom i rannu arfer gorau a dysgu gan eraill y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad. Mae’n hanfodol bod sefydliadau’n rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn na weithiodd cystal; mae’n arbed amser ac egni a gall helpu i ail-ganolbwyntio blaenoriaethau.

Os hoffech chi helpu i lunio Cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Cynulliad, cwblhewch ein harolwg byr iawn neu cysylltwch â’r Tîm Amrywiaeth ar 0300 200 7455 neu  diversity@cynulliad.cymru