Category: Blogiau gwadd

“Mae clywed y cyfieithwyr ar y pryd wrth eu gwaith yn anhygoel. Am sgìl!”

ffion-e1469025276972

 

Cafodd Ffion Pritchard ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod yr wythnos diwethaf ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni ac am y ffordd y mae’r Cynulliad yn hyrwyddo dwyieithrwydd.

Ddydd Mawrth y 12fed o Orffennaf, ar ddiwrnod braf o haf, es i i Fae Caerdydd ar y trên i dreulio diwrnod o brofiad gwaith gydag Uned Gyfieithu y Cynulliad yn dilyn fy muddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Cyfieithu yr Urdd.

 

Roedd diwrnod prysur iawn wedi’i drefnu ar fy nghyfer. Yn rhan o’r diwrnod, bues i’n cwrdd â phennaeth yr uned gyfieithu, Mair, a beirniad y gystadleuaeth, Mari Lisa, yn ogystal â dysgu am yr uned fusnes, llunio’r Cofnod, cyfieithu deddfwriaethol a’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Diolch i Geth, Jodi, Llinos a Cai am eu holl gymorth. Dwi’n sicr y bydd yr wybodaeth a roeson nhw o gymorth mawr i mi yn y dyfodol!

Yn ogystal â chwrdd a gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr a chofnodwyr yr Uned Gyfieithu, roedd cyfarfodydd wedi’u trefnu ar fy nghyfer â dau berson pwysig yn y Senedd. Yn y bore, cefais gyfle i gael sgwrs (a llun!) â’r Llywydd, ac yn y prynhawn, rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, o’i amser i siglo’m llaw a chael sgwrs. Pobl brysur iawn ydyn nhw felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr!

FfionandPO1

Roedd y cyflwyniad gan Gruff ar gyfieithu peirianyddol o fudd mawr. Mae’n dda cael gweld bod cwmnïau mawr fel Microsoft yn buddsoddi mewn technoleg sy’n fuddiol i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg. O’i defnyddio’r gywir, mae’r dechnoleg yma’n cynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr ac yn rhoi’r cyfle i siaradwyr di-Gymraeg ddeall yr iaith. Wrth gwrs, fydd peiriant cyfieithu byth yn well na chyfieithwyr go iawn, ond mae’n braf cael gweld bod adnoddau ar gael yn gefn i’n gwaith ni.

ffion-a-gruff

A minnau’n berson sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol, yn ogystal â’r byd cyfieithu, da oedd gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr. Roedd hi’n braf teimlo’n rhan o’r broses wleidyddol a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan weinidogion . Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner!

Diolch i’r Urdd, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a’r Cynulliad am drefnu’r diwrnod. A diolch o galon i Iona a Sarah am fod yn dywyswyr penigamp! Hoffwn erfyn ar y rheiny ohonoch chi sy rhwng 19 a 25 oed ac sydd â diddordeb mewn cyfieithu i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd y flwyddyn nesaf. Os byddwch chi’n fuddugol, dwi’n addo y bydd treulio diwrnod gydag uned gyfieithu y Cynulliad yn brofiad gwerth chweil!

#SeneddAbertawe: Y Gyfraith yng Nghymru

Daeth Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe i’n seminar amser cinio yn ystod #SeneddAbertawe yr wythnos diwethaf. Dyma ei barn am y digwyddiad…

Seminar ddifyr yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, gyda David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel rhan o SeneddAbertawe. Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth, ymarferwyr cyfreithiol a gwesteion eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau a gadeiriwyd gan Jane Williams a Keith Bush Q.C. o’r Coleg.

Cafwyd trafodaethau ynghylch materion pwysig a heriol iawn, gan gynnwys yr agweddau cyfreithiol, cyfansoddiadol, gwleidyddol a dinesig ar ddatganoli, mynediad i gyfiawnder, hygyrchedd cyfraith Cymru, nodweddion y broses o ddeddfu i Gymru, cyfranogiad gwleidyddol, addysg ddinesig, pleidleisio a’r system etholiadol, mynediad i wybodaeth, awdurdodaeth ar wahân a beth yw ystyr ‘cyfraith dda’.

Adolygu’r gorffennol a chynnig gweledigaeth oleuedig o’r dyfodol – cafwyd trafodaeth ardderchog o hyn oll, a chinio, mewn rhyw ddwy awr! Diolch i’n gwesteion a phawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad ac a ddaeth yma heddiw. Rydym yn benderfynol o wneud gynnal digwyddiadau fel hyn yn amlach!

Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gyfreithiol, yn cyflwyno seminar ar faterion sy’n berthnasol i bobl sy’n ystyried gweithio fel cyfreithwyr yng Nghymru, a themâu cyfansoddiadol a pholisi ehangach.

Diwrnod Dathlu Deurywioldeb

Bi visibility day logo

Erthygl gan Emma Wilson, lleoliad profiad gwaith

Mae diwrnod dathlu deurywioldeb yn ddyddiad pwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb. Sefydlwyd y diwrnod ym 1999 gan yr ymgyrchwyr o’r Unol Daleithiau BiNET er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeurywioldeb.

Nod y diwrnod yw addysgu’r cyhoedd ar faterion sydd o bwys i bobl ddeurywiol, dileu rhagdybiaethau negyddol a rhoi terfyn ar wahaniaethu sy’n deillio o’r tu mewn i’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’r tu allan iddi.

Yn ôl erthygl ddiweddar gan YouGov llai na hanner y bobl ifanc (18-24) a holwyd sy’n nodi eu bod yn 100% heterorywiol, gyda nifer fawr yn nodi eu bod ar y sbectrwm deurywiol.

Ceir effaith negyddol ar les cymdeithasol a meddyliol pobl ddeurywiol trwy wthio deurywioldeb i gyrion cymdeithas. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2012 bod 5% o ddynion deurywiol wedi ceisio cyflawni hunanladdiad mewn cyfnod o flwyddyn o’i gymharu â 0.4% o ddynion yn gyffredinol. Dyma pam mae diwrnodau fel y rhain yn eithriadol bwysig.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi cael ei restru’n bedwerydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a’i enwi’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Gwnaethom ofyn i Mia Rees, arweinydd deurywioldeb ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol beth mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu iddi hi:

“Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’

Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro.

Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaeth rhywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?’ – Beth allwn i’i ddweud?!

Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny.

I gael gwybod mwy am ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, cysylltwch â Craig Stephenson.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr gefnogi aelodau staff deurywiol yn well, darllenwch ganllaw Stonewall Bisexual people in the Workplace: Practical Advice for Employers

Mae rhagor o gefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer pobl ddeurywiol ar gael oddi wrth BiCymru neu Stonewall Cymru.

Stonewall LGBT Assembly staff network logoStonewall top 100 employers 2015 logo

Blog Gwedd: Digwyddiad Ymgynghori i Graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Fy enw i ydy Claire Blakeway a fi ydy Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ddydd Mercher 18 Mawrth, cymerais ran mewn digwyddiad ymgynghori i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd hyn yn golygu bod Aelodau’r Cynulliad yn siarad ag amrywiaeth eang o denantiaid am eu profiadau yn rhentu eiddo gan y cyngor, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat. Cafodd tenantiaid o wahanol sectorau rhentu eu rhoi mewn grwpiau ffocws o dan arweiniad Aelodau’r Cynulliad. Yn fy grŵp ffocws i, roeddwn i’n cynrychioli barn myfyrwyr ynglŷn â tenantiaeth.

Ar y cyfan, roeddwn yn cytuno a syniadau’r Bil Cartrefi newydd, ond fod angen rhagor o fanylion ynghylch cytundebau atgyweirio. Er enghraifft, mae angen amserlen fanwl yn y cytundeb sy’n amlinellu pa mor gyflym y bydd landlordiaid yn ymateb i gydnabod ac anelu at gyflawni atgyweiriad y mae tenant yn tynnu sylw ato. Dwi’n teimlo y gall tenantiaid aros yn hir iawn ar hyn o bryd cyn i atgyweiriadau gael eu gwneud, ac maent, felly, yn talu rhent ar eiddo nad yw o’r safon y gwnaethant dalu rhent amdano’n wreiddiol. Drwy weithredu cytundeb atgywirio gydag amserlen benodol, bydd y landlord a’r tenant yn gwybod yn union beth fydd y disgwyliadau arnynt o ran atgywiriadau, a gall y landlord weithio tuag at gyflawni’r atgyweiriad o fewn amser y cytunwyd arno, a bodloni disgywliadau eu tenant.

Dyma gyfweliad a wnaeth Claire ar ôl y digwyddiad:

Siaradais gyda’r grwp ffocws hefyd am fy syniadau ynghylch sut mae angen gweithredu cosbau gadarnach yn erbyn landlordiaid a thenantiaid sy’n torri eu contractau. Y mwyaf llym yw’r cosbau, y mwyaf tebygol yw y bydd y contractau yn cael eu cadw a’u parchu.

Wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn y grwpiau ffocws, ac roeddwn wrth fy modd clywed Aelod oedd â chymaint o ddiddordeb mewn clywed barn myfyrwyr. Dwi’n edrych ymlaen at pan gaiff y Bil Cartrefi ei ryddhau, a gobeithio y bydd fy marn yn cael ei hystyried. Diolch i Gynulliad Cymru am y gwahoddiad!

Y cam nesaf fydd i’r Pwyllgor glywed barn pobl eraill am y Bil, mewn cyfarfodydd ffurfiol yn y Senedd. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Mercher, pan fydd y Pwyllgor yn siarad â Lesley Griffiths AC, sef Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Bil. Gallwch wylio’r cyfarfod hwn yn fyw ar Senedd TV.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod yma.

Lleoliad gwaith Stonewall Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

blog2

Bûm yn ffodus i gael lleoliad profiad gwaith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith Stonewall Cymru. Mae’r cynllun yn ceisio rhoi’r profiad i bobl gael gweithio mewn gweithleoedd sy’n gyfeillgar i’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae’r Cynulliad yn esiampl i eraill, ar ôl ennill ei le ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall fel y cyflogwr Sector Cyhoeddus gorau yng Nghymru.

Fore Llun, ar ôl cael blas ar ‘fyw fel oedolyn’ (y daith foreol i’r gwaith ym Mae Caerdydd!), cefais groeso cynnes gan Craig, fy mentor am yr wythnos a Chadeirydd OUT-NAW (rhwydwaith LGBT y Cynulliad), cyn cael gwibdaith o labyrinth Tŷ Hywel, y Senedd a’r Pierhead.

Ar ôl cael fy ngwynt ataf, cefais gyfarfod â’r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, gan eistedd yn rhai o’i chyfarfodydd ac arsylwi ar ei chyfraniad i waith y Cynulliad. Yn gynharach yn y mis, cyflwynodd hi araith wych i Gynhadledd Gweithleoedd Stonewall Cymru (sy’n gyfle i sefydliadau rannu arfer gorau eu gwaith cydraddoldeb) a phwysleisiodd bwysigrwydd diffuantrwydd yn y gweithle, a sut y mae pobl ar eu gorau pan gallant fod yn driw i bwy ydyn nhw: ethos y mae’r Cynulliad, o dan arweiniad y Llywydd, yn llwyr ymrwymedig iddo.

Ar ôl cinio, cwrddais â Natalie Drury-Styles, Pennaeth y Swyddfa Breifat a chyfaill LGBT, a thrafod rôl ei thîm wrth gefnogi gweledigaeth y Llywydd. Yna, cefais fod yn bresennol yn ogystal â chyfrannu i gyfarfod tîm digwyddiadau’r Swyddfa Breifat, a oedd yn edrych ar Ymgyrch y Llywydd ‘Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus’(neu #POWiPL i chi drydarwyr!), sy’n edrych yn strategol ar rôl bwysig y cyfryngau cymdeithasol wrth ymgysylltu â’r cyhoedd.

Yna, disgrifiodd y tîm gwasanaethau cyfreithiol, dan arweiniad Elisabeth Jones, i mi yn fras sut y gwneir deddfwriaeth yng Nghymru. Yn hytrach nag ailadrodd hynny, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses yma: Canllaw i’r broses ddeddfu (peidiwch â phoeni, mae’n syml iawn!). Wrth gwrs, all deddfwriaeth ddim gweithio ar ei phen ei hun, ac mae angen rhaglenni addysg a pholisi ehangach i gefnogi ei gweithrediad a’i heffaith, pwynt a bwysleisiwyd gan Elisabeth a’r tîm yn ystod fy amser yn y Cynulliad.

Yn ogystal â threulio amser gyda’r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol, roeddwn hefyd yn bresennol yn ail ddarlleniad Bil Addysg Uwch (Cymru) a Chwestiynau’r Prif Weinidog. Gadewais y Cynulliad gyda dealltwriaeth gliriach o sut y gwneir deddfwriaeth, sut mae’r Comisiwn yn cefnogi’r Cynulliad yn hyn, a sut gall y cyhoedd gymryd rhan. Er enghraifft, wyddoch chi mai dim ond deg llofnod sydd ei angen ar ddeiseb cyn y gellir gofyn i bwyllgor ei hystyried?

Yr hyn nad yw’r cyhoedd yn ei weld yw’r adnoddau a’r ymdrech sydd yn mynd at y gwaith y tu ôl i’r llenni. Mae Aelodau’r Cynulliad yn cael cefnogaeth gan y tîm Cymorth Busnes i Aelodau a thîm Datblygu Proffesiynol yr Aelodau. Mae’r timau hyn yn darparu hyfforddiant a chymorth i Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth er mwyn sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ymgymryd â dyletswyddau heriol iawn.

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth, yng ngwir ystyr y geiriau hynny, yn ganolbwynt pwysig i’r Cynulliad. Mae’n allweddol i gyflawni gweledigaeth y Cynulliad; ac mae’r Tîm Cydraddoldebau yn gweithio’n strategol i sicrhau bod adrannau wastad yn meddwl am y materion hyn. Yn benodol, ar gyfer cydweithwyr LGBT, roedd yn wych gweld y Cynulliad yn ymfalchïo cymaint yn ei safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall; yn arwain drwy esiampl i weddill y sector cyhoeddus.

Uchafbwynt olaf fy wythnos oedd gweithio gyda’r tîm cyfathrebu. Yn y bore, bûm mewn symposiwm gyda Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu a Chyfaill LGBT, a phenaethiaid adrannau cyfathrebu Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Thŷ’r Cyffredin. Bwriad y symposiwm oedd rhannu arfer da wrth gyfathrebu mewn ffordd gydweithredol a chyfannol. Treuliais y prynhawn yn trafod defnyddioldeb a phwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol gyda Julian Price, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, a amlinellodd sut y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y modd y mae’r Cynulliad yn cyfathrebu â’r cyhoedd. Daeth fy wythnos yn y Cynulliad i ben â chyfarfod gyda Mari Gooberman, y Rheolwr Addysg, pan fuom yn trafod datblygiadau cyffrous iawn ar gyfer pobl ifanc, ddaw yn gliriach yn ystod yr wythnosau nesaf. Cadwch eich llygaid ar agor!

Os na allwch ddweud eisoes, cefais wythnos wych yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae pawb y cefais gyfarfod â nhw, pob sgwrs, pob cyfarfod a phob sesiwn yr es iddi wedi bod o fudd personol i mi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Dylai pob aelod o staff fod yn falch o awyrgylch ac ethos y sefydliad, ac ar ddiwedd yr wythnos roeddwn yn drist o orfod dychwelyd fy mhàs a gadael Tŷ Hywel am y tro olaf (diolch yn fawr i’r staff diogelwch hyfryd a’m croesawodd gyda gwên bob dydd, ac a ddymunodd y gorau i mi yn y dyfodol wrth adael brynhawn dydd Gwener!). Dewisodd Stonewall Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn beilot ar gyfer ei gynllun lleoliadau gwaith am mai dyma gyflogwr sector cyhoeddus gorau’r gymuned LGBT yng Nghymru, ac nid ydwyf yn credu y gallai fod wedi dod o hyd i enghraifft well o weithle lle mae pobl yn cael bod yr hyn y maen nhw’n dymuno ei fod, dathlu gwahaniaethau a chyflawni canlyniadau gwych: mae’r argraff honno’n amlwg o’r eiliad y cerddwch i mewn i Dŷ Hywel, lle gwelwch dystysgrif Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall Cymru wedi’i harddangos yn falch ar y wal.

Fydd y blog byr hwn fyth yn ddigon hir i mi allu ymhelaethu ar yr amser gwych a gefais yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ond rwy’n gobeithio i mi wneud yr ymdrech orau er mwyn i chi weld pa mor wych oedd yr amser a gefais yno. Alla i ddim â diolch digon i bob aelod o staff fu mor groesawgar, anogol, diddorol ac ysbrydoledig – bydd y profiad yma’n ffurfiannol yn fy ngyrfa a’m datblygiad personol: diolch yn fawr iawn, mi welai chi gyd yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Oes gennych ddiddordeb cael profiad gwaith gydag un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru? Anfonwch e-bost at dîm gweithle Stonewall Cymru.

Mae Christian yn trydar ar @MrChristianWebb. Mae’n llysgennad ar gyfer Step Up to Serve, yn wirfoddolwr gyda Stonewall Cymru, ac mae’n hyrwyddwr cyfranogiad ar gyfer Brook, elusen iechyd rhyw i bobl ifanc.

blog1

Ymweliad gan swyddogion Senedd yr Alban

Ty Hywel

Yn ôl ym mis Mehefin, daeth swyddogion datblygu Gaeleg Senedd yr Alban, Mark ac Alasdair, i Gaerdydd am ddeuddydd i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

gan Alasdair MacCaluim

Yn ystod ein hymweliad, roeddem am ddysgu am addysg, y cyfryngau cymdeithasol, allgymorth cymunedol, cyfieithu a lle’r Gymraeg yn y Cynulliad.

Addysg

Dechreuodd ein hymweliad yn Nhŷ Hywel yng nghwmni Mari Wyn Gooberman, Pennaeth y Tîm Addysg. Mae ystafell arbennig iawn yn yr adeilad hwn, sef Siambr Hywel. Hon oedd prif siambr drafod y Cynulliad o 1999 tan 2006 pan symudodd Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor y Cynulliad i’w cartref newydd yn adeilad y Senedd y drws nesaf.

Pan symudodd Aelodau’r Cynulliad allan o Dŷ Hywel, symudodd pobl ifanc i mewn. Dyma lle cynhelir ymweliadau addysgol yn awr, pan gaiff pobl ifanc gyfle i eistedd mewn siambr drafod go iawn mewn deddfwrfa go iawn lle gallant ddefnyddio botymau pleidleisio a microffonau – yn union fel yr Aelodau eu hunain.

Mae’r tîm yn gweithio yn y ddwy iaith, yn cyflwyno sesiynau i ysgolion Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Fel Senedd yr Alban, cynigir sesiynau addysg mewn ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn ogystal ag yn y Cynulliad ei hun.

 Mural

Ieithoedd a phwerau

Fel rhan o’n hymweliad, cawsom gyfle i gyfarfod â nifer o bobl sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg yn y Cynulliad. Cawsom gyfarfod â Mair Parry Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Sarah Dafydd, Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Clywsom fod gan y Cynulliad Cenedlaethol ran bwysig yn y gwaith o ddatblygu system cyfieithu peirianyddol ar gyfer y Gymraeg. Drwy hyn, gall cyfrifiadur gyfieithu Cymraeg syml. Bydd tîm cyfieithu’r Cynulliad wedyn yn prawf ddarllen ac yn cywiro’r drafft i greu dogfen orffenedig. Mae hwn yn brosiect mawr, pwysig ac arloesol iawn.

Yn ôl yr athroniaeth sydd wrth wraidd y Cynllun Iaith, mae gan bob aelod o staff ran yn y gwaith o ddatblygu’r Gymraeg – hyd yn oed os nad ydynt yn ei siarad hi – neu phrin yn ei siarad hi.

Dyma ddetholiad byr o ddatganiad uchelgais y cynllun:

Mae gan bawb yr hawl i ryngweithio â’r Cynulliad yn yr iaith swyddogol o’u dewis. Pan fydd rhwystrau yn atal hyn, byddwn yn gweithio i’w datrys fel bod y Cynulliad yn dangos dyhead parhaus i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog”.

Fel rhan o’r cynllun, mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg.

Mae’r cynllun cyfan i’w weld yn.

Ar ddiwedd ein diwrnod cyntaf, cawsom gyfle i fynd i un o gyfarfodydd Tîm Cyfathrebu’r Cynulliad. Roedd yn ddiddorol iawn a chlywsom am y pwerau newydd a gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Fil Cymru 2014, i godi trethi.
Translationbooth

Yr adeilad, y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau

Ar ddiwrnod olaf ein hymweliad, cawsom ein tywys o amgylch adeilad y Senedd gan Richard, o’r Tîm Cyswllt Cyntaf, a chawson gyfle i fynd i’r Siambr ei hun ac ymweld â’r bwth cyfieithu. Gwelsom yr ystafelloedd pwyllgora a’r caffi cyhoeddus hefyd a chlywsom fod rhai o olygfeydd Dr Who a Sherlock wedi’u ffilmio yn y Senedd!

Yn ddiweddarach, gwelsom y Siambr ar waith yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog pan oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC (Lafur) yn ateb cwestiynau gan y gwrthbleidiau. Roedd rhai yn Saesneg ac eraill yn Gymraeg.

Fel yn Senedd yr Alban, mae gan bwyllgorau’r Cynulliad ran bwysig ym musnes y Cynulliad, gan weithio’n agos gyda’r timau Addysg ac Allgymorth i ymgynghori â’r cyhoedd yn ystod ymchwiliadau, gan gynnwys casglu barn plant a phobl ifanc.

Gwelsom rai o’r ffilmiau fideo roedd y tîm allgymorth wedi’u cynhyrchu ar gyfer ymchwiliadau’r pwyllgorau ac yna aethom i weld tîm y we a’r cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb ar-lein y Cynulliad.

Mae gan y Cynulliad, fel Senedd yr Alban, sianel YouTube sydd â llawer o glipiau fideo, nid yn unig am fusnes y Cynulliad ond hefyd i ennyn diddordeb y cyhoedd. Mae gan y sefydliad bresenoldeb cryf ar Twitter, Facebook ac mae’r holl negeseuon yn ddwyieithog.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol – fel Senedd yr Alban – yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni ac mae cyfres o fideos wedi’u paratoi, sef 15 mlynedd mewn 15 eiliad!

Er mai dim ond deuddydd oedd gennym i ddysgu am 15 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, cawsom lawer iawn o wybodaeth a nifer fawr o syniadau a ddylai fod yn ddefnyddiol i’n gwaith yn yr Alban.

Diolch yn fawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru!

Visitors

Gellir darllen cofnod blog gwreiddiol Alasdair mewn Gaeleg yma:
http://parlamaidalba.wordpress.com/2014/08/25/cymru/

Lluniau: Mark ac Alasdair

Blog gwadd – Sgiliau STEM

Mae rhoi grŵp o wyddonwyr, mathemategwyr, technegwyr a electronwyr ifanc yn yr un stafell yn syniad eithaf brawychus. Lwcus felly bod y cynulliad wedi trefnu i ni siarad dros y we.

Fy enw i yw Aled Illtud, dwi’n astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cefais i, a nifer o fyfyrwyr STEM eraill, y cyfle i drafod ein pynciau a sut y gallwn wella neu gynnal gwahanol agweddau ohonynt. Cynhaliwyd y sgwrs ar Google Hangouts a chafodd nifer o eitemau ei drafod.

Cychwynnodd y sgwrs gydag Aelodau’r Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn i ni pam dewisom ein cwrs, a ydy’r pwnc yn addo swydd ar ôl, a sut ydyn ni’n hoffi’r pwnc. Yn bennaf roeddwn i am ymladd am dwf yr iaith Gymraeg yn bynciau STEM sydd yn amlwg o’r we sgwrs sydd ar gael i chi ei ddarllen.

Beth synnodd fi’r mwyaf oedd pa mor frwdfrydig oedd y myfyrwyr eraill am gael eu lleisiau wedi clywed. Mae’n braf iawn cael gweld bod pobl yn poeni digon am ei bynciau i allu cael trafodaeth ddifyr am yr hyn sydd angen i newid neu gadw yn eu meysydd.

Final Blog Image

Braf oedd bod yn rhan o’r sgwrs hwn. Dwi’n awgrymu i bawb arall sy’n frwdfrydig am ei gwrs i gymryd mantais ar unrhyw gyfleoedd tebyg. Mynegwch farn, hybwch gynnydd yn eich pwnc!

Am rhagor o wybodaeth ar ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes i Sgiliau STEM yng Nghymru cliciwch yma:

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9156