Category: Blogiau gwadd

Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni…

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad.

I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed.

urdd

Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi’r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad.

Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Continue reading “Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd”

Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad…

Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o’i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae’r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros roi pŵer i’r Cynulliad i wneud deddfau yng Nghymru.

Ond pa mor ymwybodol yw pobl o’r gwaith a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad, a chan ei aelodau unigol fel ACau? Rydym ni’n gwybod bod pobl weithiau’n drysu rhwng y ddeddfwrfa, sef y Cynulliad Cenedlaethol, a’r weithrediaeth, sef Llywodraeth Cymru. Ddiwedd y flwyddyn y llynedd, crëodd Llywydd y Cynulliad grŵp bach i drafod sut y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am ei waith mewn modd diddorol a hygyrch. Tasg fawr yw hynny, yn enwedig ar adeg pan mae sefydliadau newyddion o dan bwysau cynyddol ac yn canolbwyntio’n llai ar roi sylw i wleidyddiaeth.

Mae ein tasglu yn cynnwys pobl sy’n meddu ar arbenigedd yn y meysydd a ganlyn: y cyfryngau, prosiectau democratiaeth agored megis mySociety, sefydliadau cyhoeddus blaengar sydd wedi mynd ati i hybu cyfathrebu digidol, ac arbenigwyr mewn dysgu digidol a chyfathrebu gwleidyddol. Gofynnwyd i ni edrych ar y ffordd orau o gynyddu lefelau o ddealltwriaeth ac ymgysylltiad gan y cyhoedd ymhlith cynulleidfaoedd sydd ar hyn o bryd wedi ymddieithrio o wleidyddiaeth a materion Cymreig.

Mae’r tasglu yn ystyried y ffordd orau o gyflawni’r hyn a ganlyn:

  • sicrhau ei bod yn haws i ddefnyddwyr gwasanaethau’r Cynulliad ddefnyddio’r fath wasanaethau, megis y wefan, neu Senedd TV, sef y darllediadau byw ac wedi’u recordio o drafodion y Cynulliad, neu’r fersiwn argraffedig o Gofnod y Trafodion, yn ogystal â chymryd a defnyddio data oddi wrthynt, addasu cynnwys fideo a chynnwys arall at eu dibenion eu hunain, a rhoi gwell profiad i ddefnyddwyr yn gyffredinol;
  • sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn gallu helpu’r Cynulliad i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a chwsmeriaid;
  • sut y mae pwyllgorau’r Cynulliad yn rhoi gwybod am y gwaith y maent yn ei wneud.

Mae llawer o bobl yn ymddiddori yn y materion a drafodir yn y Cynulliad, sy’n amrywio o faes iechyd i dai, ac o faes addysg i’r amgylchedd – ond o bosibl nid yw’r Cynulliad yn cyflwyno’r materion hyn mewn ffordd sy’n galluogi pobl i ddarganfod pethau mewn modd syml a hygyrch. Yn rhy aml, mae’r Cynulliad yn ymddangos yn sefydliadol wrth gyflwyno materion, yn hytrach na rhoi’r materion yn gyntaf. Y dyddiau hyn, mae pobl yn poeni’n fwy am faterion nag y maent yn poeni am sefydliadau.

Efallai bod pethau eraill y mae angen i’r Cynulliad eu gwneud i sicrhau ei fod yn cyfathrebu’n effeithiol â phobl Cymru. Mae pobl bellach yn cael gwybodaeth a newyddion am wleidyddiaeth mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol, yn bennaf drwy lwyfannau digidol. Mae’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn yn cael eu newyddion ar-lein ac ar eu ffonau symudol, ac yn fwyfwy aml drwy ffrydiau newyddion megis Facebook. Mae pobl ifanc gan amlaf yn cael eu newyddion ar lwyfannau symudol,  drwy gyfryngau cymdeithasol megis Snapchat. Sut all y Cynulliad gyflwyno ei newyddion mewn modd mwy cyfleus gan ddefnyddio’r llwyfannau hyn – neu alluogi eraill i wneud hyn?

Mae holl sefydliadau’r cyfryngau o dan bwysau, ac mae un o’r papurau newydd a fu’n gohebu ar faterion y Cynulliad, drwy gyflogi gohebydd penodedig, erbyn hyn wedi dileu’r swydd honno. Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael eu newyddion teledu a radio gan sianeli a ddarlledir drwy’r DU ac sy’n rhoi ychydig iawn o sylw i Gymru. Yn anaml iawn maent yn egluro am y gwahaniaethau sy’n bodoli rhwng polisïau yng Nghymru ac yn Lloegr, ar wahân i grybwyll y ffaith yma ac acw. Yn anaml iawn mae’r papurau newydd Llundeinig, sy’n cael eu darllen yn eang yng Nghymru, yn sôn am wleidyddiaeth Cymru neu’r Cynulliad. Felly, a oes angen i’r Cynulliad ddarparu ei lwyfan newyddion digidol ei hun drwy greu tîm bach o newyddiadurwyr i ddarparu newyddion am y straeon sydd yn dod allan o’r Cynulliad? Gallai llwyfan o’r fath hefyd ddarparu deunydd ar gyfer ugeiniau o gyhoeddiadau newyddion lleol a hyperleol o amgylch Cymru. Ni fyddai’n gweithredu fel llefarydd y ‘llywodraeth’ – i’r gwrthwyneb. Byddai’n llwyfan ar gyfer yr hyn sy’n digwydd yn y man lle gwneir y gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru – y Cynulliad Cenedlaethol – ac o dan arweiniad golygydd diduedd.

Bwriad dyluniad ffisegol y Senedd oedd bod yn symbol o’i rôl fel man cyhoeddus tryloyw ar gyfer pobl Cymru. Mae’n un o’r adeiladau sy’n cael y nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, sef mwy na 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Sut gellir gwella profiad yr ymwelydd, a sut all pobl gadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad ar ôl eu hymweliad? Mae miloedd o fyfyrwyr ysgol yn ymweld â’r Cynulliad bob blwyddyn: sut ddylai’r Cynulliad gysylltu â myfyrwyr, athrawon ac ysgolion, o bosibl gan ddefnyddio llwyfan dysgu dwyieithog Llywodraeth Cymru, sef Hwb+, sy’n hynod o lwyddiannus ac yn  cynnal 580,000 o athrawon a dysgwyr? Dyna rywbeth rydym ni’n gofyn i’r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol roi sylw iddo.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio deall barn a safbwyntiau pobl Cymru drwy ddefnyddio dulliau gwahanol – ceisio cael ymatebion torfol i Brexit a materion eraill, cynnal arolygon barn ynghylch ymholiadau a chael miloedd o ymatebion. Bydd gwaith y tasglu yn ategu hyn, gan geisio sicrhau bod y Cynulliad yn ymddwyn fel fforwm democrataidd arloesol.

Yn y pen draw – eich Cynulliad chi ydyw. Rydym ni’n awyddus i glywed eich barn ar sut y gall y Cynulliad gyfathrebu orau â phobl Cymru. Anfonwch e-bost atom ni ar digisenedd@assembly.wales gan roi eich barn. Rydym yn awyddus i glywed gennych – wedi’r cyfan, mae’n flwyddyn fawr ar gyfer y Cynulliad. Ym mis Mai, bydd y Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed. Dyna garreg filltir mewn unrhyw fywyd.

Mae Leighton Andrews yn cadeirio Tasglu Newyddion Digidol y Llywydd.

Blog Gwadd – Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Dr Andy Williamson, Hydref 2016

Mae’n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lywio’r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol a gwreiddiol.

Dyma stamp o ddeddfwrfa fodern, un sydd wedi buddsoddi mewn democratiaeth gref a buddiannau gorau y bobl y mae’n gwasanaethu.

Senedd Siambr

Deddfwrfeydd agored, tryloyw a hygyrch yw’r dyfodol a gallwn weld hyn yn digwydd ledled y byd:

  • yn San Steffan, mae’r Pwyllgor Deisebau yn denu cynulleidfaoedd newydd i wylio’r hyn y mae eu senedd yn gwneud a chymryd rhan mewn dadleuon;
  • yn Brazil a Chile, mae deddfwriaeth yn cael ei rhannu ar-lein â’r cyhoedd, a all roi sylwadau, diwygio a phleidleisio ar y newidiadau hynny cyn iddynt gael eu cyfeirio’n ôl at aelodau;
  • mae deddfwrfeydd mor eang â Georgia, Paraguay a Ffrainc yn gweithredu strategaethau i gynyddu cyfraniad y cyhoedd yn yr hyn maent yn gwneud i sicrhau eu bod yn dryloyw a hygyrch;
  • Mae’r Alban, yr Eidal a’r Weriniaeth Tsiec yn enghreifftiau o seneddau sy’n darparu mynediad agored amser real i’w data, tra bod seneddau’r Iseldiroedd a Seland Newydd yn darparu archifau ar-lein y gellir chwilio drwyddynt yn llawn o gofnodion eu seneddau; ac
  • mae Serbia a Periw ymysg y deddfwrfeydd o amgylch y byd sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil, gan chwilio am ffyrdd newydd o agor i fyny, estyn allan, gwrando a rhannu.

Mae hwn yn arfer sy’n tarfu ar y gwaith ac mae tarfu mewn ffordd gadarnhaol, hyd yn oed, yn gallu golygu heriau. Gall aelodau deimlo bod mwy o gyfraniad yn tresmasu ar eu rôl fel democratiaeth gynrychioliadol, ac mae rhai hyd yn oed yn dweud ei fod yn bygwth hynny. Mewn gwirionedd, mae profiad yn dangos i ni ei fod yn gwneud y gwrthwyneb. Ac mae’n rhaid i ni roi datblygiadau fel hyn yn eu cyd-destun; mae aelodau yn dal i fod yn gwneud y penderfyniadau, maent yn dal i benderfynu ar y rhan fwyaf o fusnes pwyllgorau. Ond, ym myd y cyfryngau cymdeithasol a newyddion cyson, mae’n amlwg bod ymgysylltu’n fwy a chysylltu’n well o fudd sylweddol i aelodau sydd am deimlo’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau. Ledled y byd, mae’n rhaid i’n cynrychiolwyr dderbyn gwneud eu gwaith nid yn unig yn llygad craff y cyhoedd ond gyda rhagor o gyfraniad gan y cyhoedd. Mae’n beth da; nid yw democratiaeth yn golygu pleidlais bob pum mlynedd; mae’n golygu cael llais bob dydd.

Mae’r byd wedi newid, gan ein gorfodi i ail-lunio gwaith deddfwrfeydd wrth i fwy a mwy o gyfryngau amrywiol o gyfraniad cyhoeddus a rhyngweithio ddod i’r amlwg. Er mwyn deall pam bod hyn yn bwysig, i ddechrau mae’n rhaid i ni dderbyn y manteision o ymgysylltu mwy â’r cyhoedd, ac mae’r manteision hynny yn niferus. Mae yna heriau logistaidd hefyd, gwybod pa offer i’w defnyddio a cheisio peidio â berchen arnynt neu eu rheoli (neu’r drafodaeth). Mae’n rhaid i ni ddatblygu parodrwydd i fynd lle mae pobl, defnyddio’r offer maen nhw’n eu defnyddio, dewis beth sydd orau i’r swydd dan sylw.

Mae cyhoedd mwy gwybodus ac sy’n cymryd rhan yn creu democratiaeth gryfach.

Mae creu ffyrdd newydd i roi llais i bobl a chael mwy o ran yn yr hyn mae eu cynrychiolwyr yn ei wneud yn dechrau goresgyn y rhwystrau o ddiffyg ymddiriedaeth sydd wedi datblygu ar draws nifer o’n sefydliadau cyhoeddus. Nid yw’n ateb i bob problem. Does dim ateb syml ac mae pobl yn cymryd amser i ymddiried, yn gyflym i wthio eu hagenda eu hunain, i fynegi rhwystredigaeth pan nad ydynt yn cael eu ffordd eu hunain. Ni allwn ddisgwyl i system y mae pobl wedi bod yn ddrwgdybus ohoni ac sy’n cael ei gweld fel peth caeedig sy’n rheoli newid dros nos ac ni ddylem ddisgwyl i agweddau cyhoeddus newid yn syth ychwaith. Byddai hynny’n naïf. Proses barhaus yw hon. Mae angen i ni fod yn ofalus a goddefgar ond hefyd i fwrw ymlaen â’r hyder o wybod fod bod yn fwy agored yn well i bawb yn y pen draw.

Gall agor pwyllgorau i fyny deimlo’n galed am ei fod yn galed. Ond dyna’r peth iawn i’w wneud ac mae’n angenrheidiol. Mae’n adlewyrchiad o’r newid cymdeithasol parhaus yn ein hagweddau at ddemocratiaeth, a fydd yn haws i’w groesawu os gallwn siarad yn agored a gonest am yr hyn mae’n golygu i gynrychiolwyr etholedig, staff a’r cyhoedd.

Mae agor pwyllgorau i fyny yn golygu cynhwysiant. Mae’n golygu cynrychiolaeth gryfach, gwneud democratiaeth yn fwy cyfranogol a sut mae hyn o fudd i aelodau a’r cyhoedd. Mae democratiaeth agored yn arwain at well ddeddfwriaeth, deddfwriaeth sy’n ystyrlon a phriodol, sy’n seiliedig ar safbwyntiau ehangach, wedi’u trochi ym mhrofiadau pobl go iawn. Deddfwriaeth sy’n adlewyrchu’n well pwy ydym ni. Mae’r byd yn gymhleth, a bydd dod o hyd i ffyrdd newydd, dibynadwy o ddatrys problemau yn haws pan fyddwn yn gallu harneisio’r gronfa enfawr o dalent, gwybodaeth a syniadau sydd heb ei gyffwrdd am lawer rhy hir. I gyrraedd yno, mae angen mwy o addysg arnom, mwy o wybodaeth a mwy o bartneriaid i hybu gwell aeddfedrwydd gwleidyddol ac ymgysylltu’n effeithiol.

Mae angen mwy o bobl arnom, lleisiau gwahanol i gael eu clywed a’u clywed yn amlach. Mae gwahodd pobl i bwyllgorau, gofyn iddynt helpu i lunio’r agenda a rhoi mwy o le iddynt gael eu clywed yn gamau cadarnhaol ymlaen. Y llwybr hwn tuag at ymgysylltu’n effeithiol yw hanfod democratiaeth fodern.

Dr Andy Williamson yw Sylfaenydd Democratise a Llywodraethwr The Democratic Society . Yn ddiweddar, ysgrifennodd World e-Parliament Report 2016 ac mae’n gyd-awdur ‘From Arrogance to Intimacy – A Handbook for Active Democracies’.

Diwrnod Pensaernïaeth y Byd 2016: ymweliad yr Athro Thomas Herzog â’r Senedd

Lucy Hodson, Arbenigwr Gwybodaeth

Adeilad eiconig y Senedd yw cartref democratiaeth yng Nghymru ac mae ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd.  Mae wedi ennill sawl gwobr am bensaernïaeth a hefyd  wedi cyflawni’r sgôr Dull Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) uchaf a gyflawnwyd erioed yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, cafodd y Senedd ymweliad gan yr Athro Thomas Herzog, pensaer enwog o’r Almaen sy’n diddori mewn technolegau cyfoes a chyflenwi ynni o ffynonellau ecogyfeillgar. Mae wedi cael ei anrhydeddu ar hyd ei yrfa am ei waith, gan gynnwys gwobr PLEA 2013 am ragoriaeth ym maes pensaernïaeth ynni goddefol ac ynni isel a’r Wobr Fyd-eang am Bensaernïaeth Gynaliadwy yn 2009.

herzog-full1
Ch – Dd Matthew Jones (Rheolwr Cynaliadwyedd) , Thomas Herzog (Pensaer, Thomas Herzog Architects), Ester Coma Bassas (Pensaer, Ysgol Pensaerniaeth Cymru), Werner Lang (Pensaer, Prifysgol Munich), Richard Gwyn Jones (Rheolwr Teithiau i Ymwelwyr)

Cafodd yr Athro Herzog daith o amgylch y Senedd gan Matthew Jones, ein Rheolwr Cynaliadwyedd. Ar ôl y daith, dywedodd:

“Dros y degawdau diwethaf, anaml y mae darn o bensaernïaeth fodern fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd wedi creu cymaint o argraff arnaf.

Mae’n adeilad sydd wedi’i ddiogelu rhag y tywydd sy’n defnyddio’r panorama amlwg o’i gwmpas, sef porthladd y ddinas, fel cefndir i ddiffinio’r gofod. Mae’r gofod cyhoeddus sydd i fyny lefel – sy’n cael ei fywiogi a’i ddefnyddio gan ddinasyddion a gwleidyddion – yn cyferbynnu â Siambr y Cyfarfod Llawn, sy’n ofod geometrig â threfn gofodol ac sy’n llawn golau. Er bod yr ystafell ymgynnull yn llwyfan i archwilio cyhoeddus, mae’n sicrhau bod pellter priodol ac yn cael ei ddiffinio gan y golau naturiol cryf sy’n dod o’r canol oddi uwch.

Mae’r adeilad yn wers – hyd yn oed mewn democratiaeth hunan-hyderus sy’n canolbwyntio ar y dinesydd – ac yn wych o ran ei gysyniad gofodol clir a’r sylw at fanylion technegol. Mae’r Senedd yn dangos pa mor ystyrlon y gall pensaernïaeth fod yn ein bywyd modern, mae’n bensaernïaeth sy’n cyfathrebu drwy dryloywder ar raddfeydd gwahanol rhwng agor a chanolbwyntio. Strôc o lwc ar gyfer y wlad a’i phobl.”

 

untitled-design-6
Enter a caption

I ddathlu Diwrnod Pensaernïaeth y Byd, 3 Hydref 2016, mae’r Senedd yn cynnal taith bensaernïol arbennig a fydd yn arddangos y Senedd yn ei holl ogoniant. Bydd y daith newydd hon yn cyflwyno manylion ynghylch y cysyniad o un o adeiladau mwyaf eiconig Richard Rogers, a dylunio’r Senedd, a byddwch yn darganfod nodweddion cynaliadwy anhygoel y Senedd sy’n ei wneud yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy yng Nghymru. Bydd y tywysydd yn eich arwain i rannau o’r Senedd nad ydynt, hyd yma, wedi bod yn weledig, er mwyn ychwanegu at y profiad ‘untro’ hwn.

Fel rhan o’r ymweliad, rhoddir llyfr y Senedd am ddim i bawb ar y daith, sy’n wobr werthfawr ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth ac adeiladu.

Os hoffech fod yn bresennol ar gyfer un o’n teithiau, sydd wedi’u teilwra’n arbennig, cysylltwch â ni ar 0300 200 6565 neu anfonwch neges e-bost at: cysylltuâ@cynulliad.cymru

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys ein horiau agor a sut i’n cyrraedd, ewch i wefan y Cynulliad.

Rhagor o wybodaeth am y Senedd, gan gynnwys ei hanes, lluniau cysyniadol a’i nodweddion amgylcheddol.

“Mae clywed y cyfieithwyr ar y pryd wrth eu gwaith yn anhygoel. Am sgìl!”

ffion-e1469025276972

 

Cafodd Ffion Pritchard ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod yr wythnos diwethaf ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni ac am y ffordd y mae’r Cynulliad yn hyrwyddo dwyieithrwydd.

Ddydd Mawrth y 12fed o Orffennaf, ar ddiwrnod braf o haf, es i i Fae Caerdydd ar y trên i dreulio diwrnod o brofiad gwaith gydag Uned Gyfieithu y Cynulliad yn dilyn fy muddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Cyfieithu yr Urdd.

 

Roedd diwrnod prysur iawn wedi’i drefnu ar fy nghyfer. Yn rhan o’r diwrnod, bues i’n cwrdd â phennaeth yr uned gyfieithu, Mair, a beirniad y gystadleuaeth, Mari Lisa, yn ogystal â dysgu am yr uned fusnes, llunio’r Cofnod, cyfieithu deddfwriaethol a’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Diolch i Geth, Jodi, Llinos a Cai am eu holl gymorth. Dwi’n sicr y bydd yr wybodaeth a roeson nhw o gymorth mawr i mi yn y dyfodol!

Yn ogystal â chwrdd a gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr a chofnodwyr yr Uned Gyfieithu, roedd cyfarfodydd wedi’u trefnu ar fy nghyfer â dau berson pwysig yn y Senedd. Yn y bore, cefais gyfle i gael sgwrs (a llun!) â’r Llywydd, ac yn y prynhawn, rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, o’i amser i siglo’m llaw a chael sgwrs. Pobl brysur iawn ydyn nhw felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr!

FfionandPO1

Roedd y cyflwyniad gan Gruff ar gyfieithu peirianyddol o fudd mawr. Mae’n dda cael gweld bod cwmnïau mawr fel Microsoft yn buddsoddi mewn technoleg sy’n fuddiol i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg. O’i defnyddio’r gywir, mae’r dechnoleg yma’n cynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr ac yn rhoi’r cyfle i siaradwyr di-Gymraeg ddeall yr iaith. Wrth gwrs, fydd peiriant cyfieithu byth yn well na chyfieithwyr go iawn, ond mae’n braf cael gweld bod adnoddau ar gael yn gefn i’n gwaith ni.

ffion-a-gruff

A minnau’n berson sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol, yn ogystal â’r byd cyfieithu, da oedd gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr. Roedd hi’n braf teimlo’n rhan o’r broses wleidyddol a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan weinidogion . Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner!

Diolch i’r Urdd, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a’r Cynulliad am drefnu’r diwrnod. A diolch o galon i Iona a Sarah am fod yn dywyswyr penigamp! Hoffwn erfyn ar y rheiny ohonoch chi sy rhwng 19 a 25 oed ac sydd â diddordeb mewn cyfieithu i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd y flwyddyn nesaf. Os byddwch chi’n fuddugol, dwi’n addo y bydd treulio diwrnod gydag uned gyfieithu y Cynulliad yn brofiad gwerth chweil!

#SeneddAbertawe: Y Gyfraith yng Nghymru

Daeth Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe i’n seminar amser cinio yn ystod #SeneddAbertawe yr wythnos diwethaf. Dyma ei barn am y digwyddiad…

Seminar ddifyr yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, gyda David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel rhan o SeneddAbertawe. Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth, ymarferwyr cyfreithiol a gwesteion eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau a gadeiriwyd gan Jane Williams a Keith Bush Q.C. o’r Coleg.

Cafwyd trafodaethau ynghylch materion pwysig a heriol iawn, gan gynnwys yr agweddau cyfreithiol, cyfansoddiadol, gwleidyddol a dinesig ar ddatganoli, mynediad i gyfiawnder, hygyrchedd cyfraith Cymru, nodweddion y broses o ddeddfu i Gymru, cyfranogiad gwleidyddol, addysg ddinesig, pleidleisio a’r system etholiadol, mynediad i wybodaeth, awdurdodaeth ar wahân a beth yw ystyr ‘cyfraith dda’.

Adolygu’r gorffennol a chynnig gweledigaeth oleuedig o’r dyfodol – cafwyd trafodaeth ardderchog o hyn oll, a chinio, mewn rhyw ddwy awr! Diolch i’n gwesteion a phawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad ac a ddaeth yma heddiw. Rydym yn benderfynol o wneud gynnal digwyddiadau fel hyn yn amlach!

Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gyfreithiol, yn cyflwyno seminar ar faterion sy’n berthnasol i bobl sy’n ystyried gweithio fel cyfreithwyr yng Nghymru, a themâu cyfansoddiadol a pholisi ehangach.

Diwrnod Dathlu Deurywioldeb

Bi visibility day logo

Erthygl gan Emma Wilson, lleoliad profiad gwaith

Mae diwrnod dathlu deurywioldeb yn ddyddiad pwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb. Sefydlwyd y diwrnod ym 1999 gan yr ymgyrchwyr o’r Unol Daleithiau BiNET er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeurywioldeb.

Nod y diwrnod yw addysgu’r cyhoedd ar faterion sydd o bwys i bobl ddeurywiol, dileu rhagdybiaethau negyddol a rhoi terfyn ar wahaniaethu sy’n deillio o’r tu mewn i’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’r tu allan iddi.

Yn ôl erthygl ddiweddar gan YouGov llai na hanner y bobl ifanc (18-24) a holwyd sy’n nodi eu bod yn 100% heterorywiol, gyda nifer fawr yn nodi eu bod ar y sbectrwm deurywiol.

Ceir effaith negyddol ar les cymdeithasol a meddyliol pobl ddeurywiol trwy wthio deurywioldeb i gyrion cymdeithas. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2012 bod 5% o ddynion deurywiol wedi ceisio cyflawni hunanladdiad mewn cyfnod o flwyddyn o’i gymharu â 0.4% o ddynion yn gyffredinol. Dyma pam mae diwrnodau fel y rhain yn eithriadol bwysig.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi cael ei restru’n bedwerydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a’i enwi’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Gwnaethom ofyn i Mia Rees, arweinydd deurywioldeb ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol beth mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu iddi hi:

“Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’

Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro.

Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaeth rhywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?’ – Beth allwn i’i ddweud?!

Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny.

I gael gwybod mwy am ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, cysylltwch â Craig Stephenson.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr gefnogi aelodau staff deurywiol yn well, darllenwch ganllaw Stonewall Bisexual people in the Workplace: Practical Advice for Employers

Mae rhagor o gefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer pobl ddeurywiol ar gael oddi wrth BiCymru neu Stonewall Cymru.

Stonewall LGBT Assembly staff network logoStonewall top 100 employers 2015 logo