Category: Ar grwydr

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy’n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed.

Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw.

Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma.

Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n nodi sut y bydd yn helpu’r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod.

BBC NEWS#

ITV NEWS

GUARDIAN

Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.

Buddsoddi ar y cyd a sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus yng Nghymru

Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Wrth ddisgwyl cael eu gweithredu’n llawn erbyn 2017, roedd y Pwyllgor Menter a Busnes am ddarganfod sut byddai hyn yn effeithio busnesau Cymru a darparwyr hyfforddiant. Byddai’r fframwaith newydd yn helpu cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru’n datblygu mantais gystadleuol wrth sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.

Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.

Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.

Dylan's, Porthaethwy - Ynys Môn
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.

Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am

Blog #SeneddWrecsam: Wythnos prysur iawn yn Wrecsam

Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau #SeneddWrecsam. Yma, mae Lowri Lloyd Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru yn rhedeg drwy ddigwyddiadau’r wythnos.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru bws

Dydd Llun 23 Mawrth 2015

Mi ddechreuodd #SeneddWrecsam gyda bws y Cynulliad wedi ei pharcio yn Sgwâr y Frenhines, ble cafwyd nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd. Mr Pugh oedd ein hymwelwr cyntaf, galwodd heibio ar ei ffordd i nôl llaeth i’w wraig i nodi materion yn ymwneud a thrafnidiaeth.  Roedd Mr Pugh yn poeni am gyflwr arwynebedd y ffordd yn ogystal ag effeithiau’r gwaith ar yr A55 ar yr ardal.  Roedd costau parcio hefyd yn bwynt yr hoffai Mr Pugh ei godi gyda’r Cynulliad.

Materion eraill a nodwyd yn ystod y dydd oedd cyflymder band llydan, codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad a materion yn ymwneud ag iechyd, yn benodol gwasanaethau cancr y fron.

Yn ogystal daeth Andrew Atkinson a Alex Jones o Grŵp Busnes Wrecsam i’r bws i drafod materion ynglŷn â threthi busnes.  Dyma fideo a gynhyrchwyd yn nodi eu pryderon.

Ymwelwyd â’r bws hefyd gan Dr Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  a John Gallenders, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a oedd yn annog eu staff i gymryd rhan yng ngweithgareddau #SeneddWrecsam.

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015

Yr ail ddiwrnod o #SeneddWrecsam ac roedd bws y Cynulliad yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, a phobl Wrecsam yn manteisio ar gael y Cynulliad yn eu hardal, ac yn parhau i ymweld â ni gyda digon o gwestiynau, sylwadau a materion i’w codi.

Roedd iechyd unwaith eto yn bwnc poblogaidd gydag amseroedd aros, gwasanaethau trawsffiniol a phresgripsiwn am ddim yn bynciau a drafodwyd.   Cyfeiriwyd y bobl a chododd y materion hyn at eu Haelodau Cynulliad i drafod y materion ymhellach ac i edrych ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Roedd yn bleser cael ymweliad gan fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru St Christopher’s School, Wrecsam yn ystod y bore. Yn dilyn cyflwyniad byr ynglŷn â’r Cynulliad, fe gafwyd dadl ynglŷn â gostwng yr oedran bleidleisio i 16 mlwydd oed fel rhan o ymgynghoriad Pleidleisio@16? Gellwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad ymaRoedd y bobl ifanc yn credu y dylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth a dylai Aelodau Cynulliad ymrwymo i gael pobl ifanc yn eu cysgodi.

Ysgol St. Christophers

Pobl ifanc St Christopher School, Wrexham yn mwynhau ar y bws.

Yn dilyn hyn, daeth Lynn Morris a Yvonne McCarroll o Grŵp Tenantiaid  Wrecsam ymlaen ar y bws i holi ynglŷn â ffyrdd y gallai tenantiaid gymryd rhan a dweud eu dweud ar faterion sydd yn effeithio arnynt.  Fel aelod o’r tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, mi roddodd hyn gyswllt newydd i ni yn ardal Wrecsam y gellir cysylltu wrth weithio ar ymgynghoriadau gyda Phwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.

Tra roedd rhai o’r tîm ar fws y Cynulliad, roedd eraill yn y Foyer Wrecsam yn siarad ag aelodau’r clwb brecwast.   Roeddynt yn awyddus i glywed pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant fynegi eu pryderon. Roeddynt hefyd yn awyddus i ddysgu am y broses bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio.  Gellwch glywed Courtney ag Amy yn siarad amdano yma:

Nos Fawrth aethom i weld bobl ifanc yn y Vic yn Wrecsam i gynnal sesiwn oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth yw’r Cynulliad, pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut maent yn eu cynrychioli. Roedd aelodau eraill o’r tîm gyda Dynameg Wrecsam yn cynnal sesiwn ryngweithiol debyg.

Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

Roeddem wedi trefnu i gael presenoldeb y Cynulliad yn adeilad Galw Wrecsam ar gyfer #SeneddWrexham dydd Mercher ac fe gymerodd pobl y cyfle i siarad â staff y Cynulliad wrth iddynt ymweld â Chyngor Wrecsam ar gyfer materion eraill.

Rydym gennym hefyd bresenoldeb yn siop Info Wrecsam i roi cyfle i bobl ifanc gwblhau’r Ymgynghoriad Pleidleisio@16.  Cawsom gyfarfod gyda phobl ifanc hynod ddiddorol oedd a safbwyntiau a barn gref am y pwnc.  Treuliwyd cryn amser gyda Lacey, 22, o Wrecsam, sydd yn erbyn gostwng yr oed pleidleisio gan nad yw pobl ifanc yn derbyn digon o addysg ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio.

Ymwelwyd hefyd â BAWSO yn ystod y bore i gynnal sesiwn yn egluro’r meysydd sy’n effeithio ar eu bywyd y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant godi materion gyda’r Cynulliad.

Sesiwn BAWSO

Sesiwn gyda BAWSO

Parhau gyda’r sesiynau wnaeth y tîm ar brynhawn dydd Mercher gan ymweld â sefydliad Chymorth i Fenywod Cymru yn Wrecsam gan gynnal sesiwn ar ddealltwriaeth ac ymgysylltu â’r Cynulliad.  Roedd yn sesiwn diddorol gyda digon o drafodaeth yn codi o’r pwyntiau a godwyd. Dyma’r hyn oedd gan Alison Hamlington i ddweud yn dilyn y sesiwn:

Dydd Iau 26 Mawrth 2015

Pedwerydd diwrnod #SeneddWrecsam ac roedd y gweithgareddau a’r digwyddiadau  yn parhau ym mhob rhan o’r dref.  Roeddem yn Coleg Cambria ble roedd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16 drwy’r dydd. Cafodd dros 300 o holiaduron ymgynghori eu cwblhau yn ystod y dydd. Ewch i’n gwefan Dy Gynulliad am ddiweddariad o ddatblygiad y gwaith hwn.

Yn ogystal, roeddem wedi sefydlu gorsaf ffilmio yn llyfrgell Coleg Cambria, ble roedd myfyrwyr cyfryngau yn cyfweld a’u cyfoedion yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16.  Roedd y myfyrwyr yn gwneud yr holl ffilmio eu hunain, ac roedd cyfle i drafod materion eraill hefyd, gan gynnwys a ddylid gwneud pleidleisio yn orfodol i bobl ifanc ac yw pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth.  Gallwch weld fideos hyn drwy’r rhestr chwarae yma:

Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd awenau ein gwefan Dy Gynulliad hefyd, gan sicrhau bod cynnwys y wefan sy’n anelu at bobl ifanc. Gallwch weld lluniau o’r diwrnod yn ein halbwm Flickr.

Draw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ystod y prynhawn, roedd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC yn cwrdd â phobl ifanc ardal Wrecsam i drafod y sgwrs genedlaethol Pleidleisio@16. Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Senedd yr Ifanc Wrecsam.

Mi wnaethom hefyd lwyddo i wasgu mewn dau sesiwn ymgysylltu arall- un ag  aelodau staff Cyngor Wrecsam ac un arall gyda grŵp Jig-so Parc Caia ble ymunodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC a ni.

Daeth y diwrnod i ben gyda derbyniad #SeneddWrecsam gyda thua 70 o bobl lleol yn bresennol i ddathlu gwaith Hyrwyddwyr Cymunedol Wrecsam.  I sain gerddorion Coleg Cambria fe gafwyd ddigon o rwydweithio rhwng gwleidyddion, arweinwyr dinesig ac arweinwyr cymunedol yn ystod y noson.

Dydd Gwener 27 Mawrth 2015

A dyma gyrraedd diwrnod olaf #SeneddWrexham gyda diwrnod prysur arall i’r tîm.

Dechreuodd Dydd Gwener gydag ein swyddogion addysg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ble roedd dros 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr  ymgynghoriad Pleidleisio@16. Dilynwyd y sesiwn hyn â sesiwn gyda Chyngor yr Ysgol, ble ymunodd y Dirprwy Lywydd David Melding AC â’r cyfarfod i drafod materion yr oeddynt wedi ymdrin â nhw o fewn y cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ysgol Uwchradd Rhosnesi

Y Cyngor Ysgol yn nodi eu barn i Pleidleisio@16.

Ar ôl treulio’r bore ar ein stondin ym Mhrifysgol Glyndŵr, treuliais y prynhawn gyda grŵp Hafal yn Wrecsam gan gynnal gweithdy olaf yr wythnos.  Yr oedd yn sesiwn ryngweithiol gyda digon o drafodaeth ac ymunodd Aled Roberts AC a ni i siarad am ei rôl fel Aelod Cynulliad.

Cyflwyniad Grwp Hafal

Criw Hafal ar ôl y cyflwyniad.

Yn y cyfamser, draw ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Phrifysgol Caerdydd yn cwrdd â myfyrwyr,  blogwyr lleol a newyddiadurwyr.  Roedd y digwyddiad yn rhan o waith Diffyg Democrataidd y Llywydd, i geisio helpu newyddiadurwyr cymunedol o amgylch Cymru i gael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad yn haws.

Mae’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC wedi ymrwymo i weithio tuag at fynd i’r afael a’r “Diffyg Democrataidd” sydd wedi ei achosi gan y nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n darllen neu’n gwylio newyddion a materion cyfoes gan ddarlledwyr a sefydliadau cyfryngau’r DU sydd yn aml yn anwybyddu’r gwahaniaethau ym mholisi cyhoeddus Cymru o’i gymharu â Lloegr.

Cafodd newyddiadurwyr, gan gynnwys llawer o’r Ysgol Newyddiaduraeth Glyndŵr y cyfle i gyfweld â’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd.  Fe gafwyd hefyd gyfle i fynychu digwyddiad ar ffurf arddull gynhadledd i’r wasg gyda’r Llywydd.

Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â ni yn ystod yr wythnos ac am y croeso cynnes a gawsom yn Wrecsam.

Mae roedd yn wythnos wych gyda llawer o waith a chysylltiadau da wedi eu gwneud yn yr ardal.

Gallwch weld lluniau o’r wythnos yn ein halbwm Flickr.

Os hoffech chi i ddysgu mwy am waith y tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, yna gallwch gysylltu â’r Cynulliad ar 0300 200 6565 neu cysylltu@cynulliad.cymru.

Rhannu arfer da wrth graffu (2)

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…

Croeso nôl! Gosododd fy mlog cyntaf y cyd-destun ac egluro sut a pham y daeth Pwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod syniadau ynghylch ymgysylltu â’r cyhoedd ar graffu.

Ynddo, eglurais ein bod yn awyddus i chwilio am ffyrdd o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, boed hynny i helpu’r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, neu i helpu cynghorau lleol i graffu ar waith arweinwyr cynghorau. Rŷm yn rhannu’r un her… weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl y byddem yn hoffi clywed ganddyn nhw. I ddarllen pennod gyntaf fy mlog, cliciwch yma.

Yn y bennod hon, byddaf yn egluro sut rŷm ni yn y Cynulliad yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn, gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos.

Pecyn cymorth ymgynghori

Cefais fy mhlesio gan barodrwydd Cyngor Abertawe i ystyried syniadau, a’u hawydd i gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith. Roeddwn yn deall rhai o’u pryderon (y mae pob sefydliad sector cyhoeddus arall yn ei rannu, rwy’n siŵr) yn ymwneud ag amser, ymdrech a’r adnoddau i’w wneud yn iawn. Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni yn y Cynulliad hefyd ei ystyried, ac mae’n saernïo’r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig a’u cyflwyno.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhyrchwyd ein pecyn cymorth ymgynghori (PDF 5.82MB). Rhestr o ddulliau ymgysylltu yw’r pecyn cymorth ymgynghori sydd wedi ei ddefnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei werthuso ar ôl ei ddefnyddio yn ôl cryfderau, gwendidau, awgrymiadau o amseroedd paratoi, costau ac ystyriaethau eraill. Mae’n rhestru’r gwahanol bethau y gall tîm Allgymorth y Cynulliad eu cyflawni wrth gynorthwyo pwyllgorau i ddod o hyd i fwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawer o opsiynau gwahanol, ffyrdd o gasglu barn (tystiolaeth) pobl gan gynnwys grwpiau ffocws, digwyddiadau, ffilmio cyfweliadau fideo, gwe-sgyrsiau ac arolygon.

Mae dod o hyd i bobl o wahanol gefndiroedd, a chlywed eu safbwyntiau yn helpu Aelodau’r Cynulliad i ddeall y materion a’r effaith y maen nhw’n ei gael ar fywydau pobl. Mae Aelodau Cynulliad (neu gynghorwyr o ran hynny) sydd a gwell gwybodaeth yn arwain at graffu gwell a pholisïau gwell, felly ni ddylid tanbrisio gwerth ymgysylltu â grŵp ehangach o bobl yn y broses hon.

Mae’r fideo hwn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gyda myfyrwyr ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Sgiliau Mathemateg yng Nghymru fel rhan o graffu pwyllgor:

Mae’r fideo hwn yn dangos pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo ar gyfer  ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc:

Efallai eich bod yn meddwl bod y pethau hyn yn costio llawer o arian. Mae defnyddio Google Hangouts i gynnal gwe-sgyrsiau yn rhad ac am ddim. Os ydych am ffilmio cyfweliadau fideo gyda phobl yn eich ardal chi, bydd iPad yn costio £200 i chi, a gallwch ei ddefnyddio i ffilmio pobl trwy dechnoleg manylder uwch, a gallwch ddefnyddio’r ap o’r enw iMovie i olygu’r ffilm. Gellir cynllunio, dylunio a hyrwyddo arolwg yn rhad iawn, trwy ddefnyddio Facebook, Twitter a chyfryngau eraill. Yn ddiweddar, rŷm wedi bod yn hyrwyddo ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru drwy bostiadau wedi eu hyrwyddo ar Facebook, a gostiodd £50 i ni dros gyfnod o bythefnos. Mae’r post hwn (hyd yn hyn) wedi ei rannu 117 o weithiau ac mae 39 o sylwadau wedi eu gwneud.

Dod o hyd i gyfranogwyr

Ystyriwch pwy ydych yn gweld/gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd drwy’r gweithgareddau/gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu o ddydd i ddydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae gennym staff cyfathrebu sy’n gweld pobl yn dod i’r Senedd, yn mynd i ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i esbonio beth mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rŷm ni’n defnyddio’r rhyngweithiadau hyn, y pethau yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd, i egluro materion sy’n cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, ac yn rhoi pobl â chyfleoedd uniongyrchol i ddweud eu dweud ar y pynciau hyn.

Pan fyddwn yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgor, byddwn yn cysylltu ag elusennau, mudiadau gwirfoddol, cyrff cynrychioliadol a grwpiau cymunedol yn rheolaidd. Mae cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, felly gallai ymgysylltu â’r grwpiau sy’n bodoli eisoes fod yn ffordd gyflym a hawdd iawn i ehangu’r ystod o bobl a allai gyfrannu at eu gwaith craffu. Un peth wnaethon ni ar gyfer yr ymchwiliad Bill Trawsblannu Dynol oedd gadael taflenni ym meddygfeydd meddygon teulu, gan dargedu pobl ag anghenion penodol mewn maes penodol.

Adborth

Un o’r meysydd yr oedd gan griw Cyngor Abertawe ddiddordeb mawr ynddo oedd sut rŷm ni’n rhoi adborth i bobl sydd wedi cyfrannu drwy gydol y broses. Fe ddangoson ni rai enghreifftiau o sut rŷm wedi gwneud hyn, fel y fideo hwn sy’n esbonio beth wnaed â chanlyniadau arolwg i ailgylchu yng Nghymru , a’r fideo hwn sy’n esbonio sut y dylanwadodd yr hyn a ddywedodd pobl ifanc am entrepreneuriaeth ieuenctid ar adroddiad pwyllgor .

Mae ymrwymo i roi adborth i gyfranogwyr yn bwysig iawn, neu gallech ddadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod gweithgarwch ymgysylltu, drwy beidio â diweddaru pobl ar yr hyn yr arweiniodd eu cyfranogiad ato. Yn y Cynulliad, rŷm ni ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’r cyhoedd, yn arbennig sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am waith y pwyllgorau. Fel rhan o’r broses hon byddwn yn ystyried sut rŷm ni’n rhoi gwybod i bobl am y broses ymchwilio y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni, a pha lwyfannau (boed hynny drwy ddefnyddio fideo, Storify neu e-bost syml) y dylem eu defnyddio wrth wneud hyn. Mae’n ymddangos bod Cyngor Abertawe a’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y gwaith o grynhoi taith y cwsmer ar hyn o bryd, a gobeithio y gallwn gydweithio i wneud hyn. Mwy o newyddion i ddod.

Dyma le da i ddod â’r  blog hwn i ben. Bydd y cofnod nesaf yn edrych ar y broses gynllunio, a sut mae’r gwaith hwn yn digwydd tu ôl i’r llenni yn y Cynulliad er mwyn gwneud yr holl gyfleoedd ymgysylltu hyn yn bosibl.

Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Ar 9 Hydref, ymunodd plant ysgol, cynghorwyr a thrigolion lleol â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn i weld Prif Weinidog Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif.

Cyn y cyfarfod, bu cyfle i Aelodau’r Pwyllgor siarad â’r bobl ifanc ac eraill am y materion pwysig roedd y Pwyllgor yn eu trafod.

Scrutiny of FM 1

Yna, holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar faterion yn ymwneud â newid cyfansoddiadol yn dilyn y refferendwm ar Annibyniaeth yn yr Alban, yn ogystal â nifer o faterion lleol.

Scrutiny of FM 2.png

Gyda’u croeso cynnes a’u cacennau cri blasus, dangosodd staff gwirfoddol y ganolfan y math o letygarwch sy’n ategu cred rhai pobl mai ‘West is best’.

Dyma aelodau o dîm y Pwyllgor yn paratoi ar gyfer y digwyddiad!

Scrutiny of FM 3

Yn ogystal â chwestiynau gan bedwar Aelod y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog a ddaeth i law gan aelodau’r cyhoedd drwy Twitter, yn ogystal â chan ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru.

Dyma Aelodau’r Pwyllgor gyda rhai o’r bobl a oedd yn bresennol ar y diwrnod.

Scrutiny of FM 4

Roedd hwn yn achlysur cofiadwy oedd yn arddangos y Cynulliad yn gweithio y tu allan i’r brifddinas, yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cynnwys cymunedau mewn sesiwn graffu agored a bywiog.

Digwyddiadau Haf y Cynulliad: fy Sioe Frenhinol gyntaf

Croeso

Gan Julian Price, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol

Nawr bod y digwyddiadau haf blynyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dod i ben, pa well amser i fyfyrio ar fy mhrofiad yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi fod yn y Sioe Frenhinol, ac roedd y tywydd yn hyfryd. Roedd hi’n gynnes iawn gyda’r tymheredd yn codi i ganol yr ugeiniau drwy gydol yr amser yr oeddem yno, felly roedd yn rhaid yfed digon o ddŵr. Roedd hi’n BOETH!

Fel rhan o’r tîm cyfathrebu, rwy’n cofio trafod y digwyddiad yn y gwanwyn cynnar i drefnu pwy fyddai’n teithio i’r sioe a sut y gallem hyrwyddo ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwirfoddolais i deithio gyda fy nghydweithwyr i Lanelwedd. Roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol gynradd pan ymwelais â maes y sioe y tro diwethaf, pan oedd Adam Ant a’r Human League ar frig y siartiau! Ie, dyna pa mor bell yn ôl oedd hi.

Fe wnaethom gyrraedd ar y dydd Sul i baratoi’r stondin ar gyfer y diwrnod canlynol. Roedd yr adeilad yn edrych yn anhygoel. Roeddwn yn falch iawn o’r gwaith yr oedd y tîm Cyfathrebu wedi ei wneud i hyrwyddo ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. (Gweler y llun)

Fe wnaethom sicrhau bod yr holl lenyddiaeth, cadeiriau, byrddau a lluniaeth wrth law ar gyfer y diwrnod agoriadol. Roeddem yn rhagweld tynnu lluniau o Aelodau’r Cynulliad a Gweinidogion a fyddai’n ymweld â ni yn ystod y digwyddiad; fodd bynnag, ni allai dim fod wedi ein paratoi ar gyfer y llun cyntaf.

Fore Llun, roeddem newydd agor drysau’r stondin i’r cyhoedd. Galwodd fy nghydweithiwr Rhian arnaf i fachu’r camera ar frys a rhedeg y tu allan.

“Brysia” meddai, “Rwy’n meddwl bod y Prif Weinidog yn dod!”

Rhedais y tu allan ac yn sicr ddigon roedd y Prif Weinidog, David Cameron, gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Stephen Crabbe, yn pasio ein drws. Cerddais yn gyflym o’u blaen i gael llun wyneb yn wyneb.

Roeddwn yn nerfus braidd gan fod staff diogelwch y Prif Weinidog yn amlwg wedi cymryd diddordeb ynof. Diolch byth roeddwn yn gwisgo crys-t brand llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda thocyn swyddogol.

Llwyddais i gael llun o’r Prif Weinidog a dim ond ar ôl edrych ar y lluniau wedyn y sylweddolais ei fod wedi edrych yn syth tuag at y camera. Fe wnaethom drydar y llun ar ein cyfrif Twitter @CynulliadCymru, a chredaf mai ni oedd y sefydliad neu’r unigolyn cyntaf i wneud hynny. Fel y gwyddoch efallai, ef yw’r Prif Weinidog cyntaf mewn grym i ymweld â’r Sioe Frenhinol. Hanes yn cael ei greu!

Fy unig ofid oedd na wnes ei wahodd i mewn i stondin y Cynulliad ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn wir ddifaru na wnes ei wneud.

 

Ar ôl dychwelyd i stondin y Cynulliad, bûm yn siarad â chyn Faer Castell-nedd Port Talbot, Marian Lewis, am gryn amser ynglŷn â’r bwriad i gau Cyffordd 41 o’r M4, campws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian a’r stiwdios ffilm sydd wedi eu lleoli cau yn hen ffatri Ford / Visteon.

Roedd yn sgwrs dreiddgar a dysgais lawer mewn cyfnod mor fyr am rai o’r problemau parhaus yn y rhanbarth hwnnw.

Trwy gydol dydd Llun a dydd Mawrth ymwelodd amryw o Aelodau’r Cynulliad â stondin y Cynulliad ac roedd yn gyfle gwych i drafod hyrwyddo gwaith y Cynulliad ar y cyfryngau cymdeithasol. Achubais ar y cyfle i gael llun o bob Aelod Cynulliad a ymwelodd â ni, yn dal eu cardiau map etholaethol ac, yn ddiweddarach, fe wnaethom roi’r lluniau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar fy niwrnod olaf yn Sioe Frenhinol Cymru, cynhaliodd y Cynulliad, mewn partneriaeth â Nominet, ddigwyddiad i godi proffil yr enwau parth ar y we (.Wales a .Cymru) sydd i ddod. Bydd y Cynulliad yn ddefnyddiwr cychwynnol (.Cymru) ac mae’n falch iawn o gael ddefnyddio’r proffil newydd hwn.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn adeilad S4C ger y Prif Gylch, a defnyddiais y cyfle hwn i dynnu lluniau o’n Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler yn siarad am y lansiad sydd i ddod. Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda phobl o bob cwr o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad. Ieuan Evans oedd y gwesteiwr a siaradodd yn angerddol am fod yn Gymro a’r hyn y mae’n ei olygu iddo ef.

 

RosemaryButler

I gael rhagor o wybodaeth am lansiad .Wales a .Cymru, cliciwch yma .

Cadarnhaodd Sioe Frenhinol Cymru ei enw da fel y digwyddiad mwyaf o’i fath ym Mhrydain a’r gorau o ran presenoldeb hefyd. Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at fynd i’r digwyddiad y flwyddyn nesaf a byddaf yn sicrhau y bydd ein sylw yn y cyfryngau cymdeithasol yn fwy ac yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen.

Diolch yn fawr Llanelwedd.

Julian Price yw’r Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae wedi rheoli’r cynnydd yn ein gweithgaredd ar-lein yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo gwaith y Cynulliad. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn enghraifft wych o gydweithredu ar-lein ac all-lein rhwng timau i hyrwyddo ein presenoldeb mewn digwyddiad.

Am fwy o wybodaeth am y Cynulliad ar y cyfryngau cymdeithasol, gweler ein tudalen we:

http://www.cynulliadcymru.org/en/help/Pages/Social-media.aspx

Drysau Agored CADW 2014

Pierhead

Ar 20 Medi 2014 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored blynyddol CADW. Bydd cannoedd o atyniadau ledled Cymru yn cynnig mynediad, gweithgareddau neu ddigwyddiadau am ddim yn ystod mis Medi, gyda rhai adeiladau unigryw hyd yn oed yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Bydd ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad yn mynd ar daith drwy amser, yn darganfod hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda mynediad i rai ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Bydd y daith yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad:

  • Y Senedd, adeilad seneddol modern, un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru a chartref siambr drafod y Cynulliad;
  • Y Pierhead, adeilad Fictoraidd hwyr hanesyddol sydd bellach yn amgueddfa ac arddangosfa, a;
  • Tŷ Hywel, cartref gwreiddiol siambr drafod y Cynulliad ynghyd â swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad a staff.

Dyddiad: 20 Medi, 14:00

Mae’n hanfodol archebu gan mai dim ond i nifer gyfyngedig o bobl y gallwn gynnig y daith unigryw hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch 0845 0105500 neu 01492 523 200 i archebu eich lle.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
Gwybodaeth am deithio: Mae’r bws plygu yn gadael Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog bob deng munud. Mae gwasanaethau’r trên bob 12 munud o Orsaf Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig o funudau ar droed o’r Senedd a’r Pierhead. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33, dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar feic/ar droed, mae Taith yr Afon Taf o Aberhonddu drwy ganol dinas Caerdydd i Fae Caerdydd yn dod i ben yn y basn y tu allan i’r Senedd.

Os na allwch ddod ar 20 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead o hyd – maent ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Gallwch gael paned o goffi yn Oriel y Senedd ar y lefel uwch, a mynd o’r Neuadd ar y lefel ganol i’r orielau cyhoeddus. Ac nid dim ond ymwelwyr sy’n dod i weld y Senedd a’i mwynhau – mae gennym hefyd berfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a phob math o weithgareddau’n rheolaidd.

Mae Drysau Agored CADW yn ddathliad blynyddol o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o’r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir ym 50 o wledydd Ewrop bob blwyddyn ym mis Medi.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys atyniadau eraill ledled Cymru sy’n cymryd rhan, ewch i wefan CADW:
http://cadw.wales.gov.uk/opendoors/?skip=1&lang=cy

Style: "DEP 18:03:09 04"