Category: Amrywiaeth a Chynnwys

Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Neges gan y Prif Weithredwr

Manon Anotniazzi, Prif Weithredwr a ChlercMae’r uwch dîm a minnau yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn enghreifftiol o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant, cydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynllun gweithredu cysylltiedig a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a’n gwerthoedd o ran amrywiaeth a chynhwysiant:

Gweledigaeth

Rydym eisiau parhau i fod yn sefydliad enghreifftiol o ran gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant ac ymgorffori cydraddoldeb, fel cyflogwr a sefydliad seneddol. Mae ein sefydliad yn hygyrch ac yn parchu ac ymgysylltu â phobl Cymru a thu hwnt.

Gwerthoedd

Gan ddefnyddio ein gwerthoedd corfforaethol sy’n diffinio’r ffordd yr ydym yn gweithio, rydym wedi nodi ein gwerthoedd Amrywiaeth a Chynhwysiant ac rydym yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb yn rhan annatod o’n sefydliad ac yn sail i’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, recriwtio a rheoli staff, cefnogi Aelodau’r Cynulliad ac ymgysylltu â phobl Cymru;
  • herio a cheisio dileu achosion o aflonyddu a gwahaniaethu;
  • cydnabod a chwalu rhwystrau rhag cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad;
  • ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol a sefydliad seneddol hygyrch;
  • anelu at sicrhau bod ein gweithlu yn gynrychiadol o’n cymdeithas amrywiol, gan gynnwys ar lefel uwch;
  • annog ac ehangu cyfranogiad yng ngweithgareddau’r Cynulliad ac ymgysylltiad â’r Cynulliad gan bobl ledled Cymru; a
  • hybu agweddau positif tuag at amrywiaeth a chynhwysiant, a meithrin perthnasoedd da rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

Mae’r Strategaeth yn nodi sut mae ein staff yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gwasanaethau cynhwysol, hygyrch ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl. [1]Bydd y strategaeth hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a hefyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gwmpasu pob un o’r nodweddion gwarchodedig a materion eraill fel cyfrifoldebau gofalu, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldebau eraill.

Fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau, mae ein sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb dan anfantais nac yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn ar y sail hon: bydd ymddygiad gwahaniaethol yn cael ei drin drwy ein gweithdrefnau disgyblu. Hefyd, fel cyflogwr, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg tra’n darparu ar gyfer ein hanghenion busnes.

Yn unol â nodau strategol Comisiwn y Cynulliad, mae’n bwysig i ni bod y Cynulliad yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt: gan ei gwneud yn berthnasol, hawdd ac ystyrlon i bobl ryngweithio ag ef a chyfrannu at ei waith. Mae hefyd yn bwysig i ni ein bod yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent, a galluogi pawb a gyflogwn i wireddu eu llawn botensial.

Byddaf yn sicrhau bod ein staff yn deall y rhan y maent yn ei chwarae wrth helpu ein sefydliad i gyflawni ein hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant a gwireddu ein gweledigaeth amrywiaeth a chynhwysiant.

Ein nod yw cyflawni’r canlyniadau cydraddoldeb gorau posibl ar gyfer ein gweithlu a phawb sy’n rhyngweithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn gwneud popeth y gallwch i weithio mewn ffordd sy’n parhau i gyflawni gwelliannau amrywiaeth a chynhwysiant go iawn a mesuradwy y gallwn fod yn falch ohonynt.

Manon Antoniazzi

Prif Weithredwr a Chlerc

[1] Nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a thueddfryd rhywiol.

Y Cynulliad wedi’i cydnabod unwaith eto efo enwebiad ar gyfer Gwobrau Gwychder Cymru Gweithredu ar Golled Clyw Cymru

Logo Gwobrau Gwychder Action on Hearing Loss CymruRydym yn falch iawn ein bod ar y rhestr fer unwaith eto yng Ngwobrau Gwychder Gweithredu ar Golled Clyw Cymru. Eleni rydym ar y rhestr fer ar gyfer y categori Rhagoriaeth Gwasanaeth ac wedi cael ein cynnig ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i ragori yn ein ddarpariad o wasanaethau i bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i wella’r gwasanaeth hwnnw. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau i bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw drwy:

  • Ymgysylltu â sefydliadau byddar ledled Cymru. Rydym yn rhoi cyflwyniadau i annog ymgysylltiad democrataidd ac wedi defnyddio fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chymorth i gyfathrebu pan fo angen.
  • Sicrhau bod gennym systemau dolen ar gael ar draws ein hystâd a dolenni chwyddo sŵn cludadwy i bobl ar deithiau.
  • Darparu BSL ac is-deitlau ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog – dyma’r agwedd fwyaf poblogaidd o Fusnes y Cynulliad.
  • Defnyddio fforymau ymgynghori ar-lein fel Diolog a Loomio i gynyddu ymgysylltu democrataidd ar-lein.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod gan ein staff hyder a chefnogaeth i gyfathrebu’n effeithiol â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Rydym wedi gwneud hyn drwy:

  • Cyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein gorfodol sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o anabledd ac addasiadau rhesymol wrth gyfathrebu â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Yn ogystal, mae llawer o staff, gan gynnwys ein staff sy’n wynebu’r cyhoedd, wedi dilyn hyfforddiant Hyder Anabledd i sicrhau y gallant ymateb yn effeithiol i anghenion pobl. Mae nifer o staff wedi ychwanegu at hyn gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod drwy gyflawni cwrs BSL i lefel 2.
  • Datblygu taflenni ffeithiau ar hyrwyddo hyder anabledd, gwneud addasiadau rhesymol, cyngor ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol a threfnu cymorth cyfathrebu. Rhannwyd y rhain gyda’n holl staff trwy ein mewnrwyd.

Gallwch bleidleisio dros y Cynulliad i ennill Gwobr Dewis y Bobl yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/excellencewales

 

Blog-CTA-CY


Os ydych chi wedi ymweld â’r Cynulliad ac am wneud adolygiad, gallwch wneud hynny ar wefan Euan’s Guide.

Os ydych chi wedi ymweld â’r Cynulliad, defnyddio ein gwefan neu gysylltu â ni mewn ffordd arall ac yr hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy:

Mis Hanes LGBT – Pwysigrwydd Modelau Rôl

Gall cael modelau rôl LGBT gweladwy gael effaith drawsnewidiol ar greu gweithle a chymdeithas wirioneddol gynhwysol.

Mae canllaw diweddaraf Stonewall, Modelau Rôl: bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru, yn cynnwys straeon ysbrydoledig gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol. Fe fyddwch yn adnabod un neu ddau ohonynt!

Mae Stonewall hefyd wedi cyhoeddi LGBT voices, sef casgliad o straeon personol gan bobl LGBT sydd wedi byw drwy anghydraddoldeb a phrofiadau nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu’n aml ar y teledu, mewn llyfrau, mewn ffilmiau neu mewn ysgolion.

Wrth gwrs, mae’n bwysig nodi y bydd gan grwpiau LGBT gwahanol fodelau rôl gwahanol. Mae’r Pride Power List 2016 yn cynnwys detholiad amrywiol o fodelau rôl LGBT: dynion, menywod, anneuaidd, traws, anabl, Du, Asiaidd, pobl o ffydd, pobl hŷn a phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a gyrfaoedd.

Yma, mae rhai aelodau o’n rhwydwaith LHDT yn y gweithle yn egluro pam mae modelau rôl yn bwysig iddyn nhw:

“Y bobl mae gen’ i lawer o barch atyn nhw yw’r bobl sy’n barod i fynd un cam ymhellach ac i roi eu pen uwchben y parapet a herio’r status quo. Ni ddylech danbrisio’r gwahaniaeth y mae modelau rôl amlwg yn ei wneud i bobl. Mae’n gwneud gwahaniaeth i bobl pan mae’n peidio â bod yn rhywbeth haniaethol. Mae llawer o syniadau ystrydebol yn dal i fod, felly mae’n bwysig cael ystod amrywiol o fodelau rôl. Rwyf am gyfrannu at greu Cymru fodern, Cymru sy’n gynrychiadol.” Hannah Blythyn AC

“Mae’n bwysig cael modelau rôl amrywiol; ni all un person gynrychioli’r profiad hoyw yn ei gyfanrwydd.” Rhys Morgan, y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

“Mae’n bwysig iawn bod pobl LHDT yn weladwy yn y sefydliad, bod pobl yn gweld nad yw gallu pobl i gyrraedd lefelau uwch wedi’i lesteirio oherwydd eu bod yn aelod o grŵp lleiafrifol. Mae gennym bobl ifanc sy’n dweud iddi gymryd tair blynedd iddynt ddod allan yn eu sefydliad blaenorol, a thair wythnos yma. Os ydych chi wedi cyrraedd sefyllfa lwyddiannus, os gallwch chi ysbrydoli rhywun arall, os gallwch arwain drwy esiampl, fe ddylech chi wneud hynny.” Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn a chyd-Gadeirydd OUT-NAW

“Rwy’n credu bod modelau rôl yn helpu i ddangos ei bod yn iawn bod yn chi eich hun.  Maen nhw’n dangos ichi na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar bwy y gallwch fod a’r hyn y gallwch ei gyflawni.  Po fwyaf o fodelau rôl sydd yna a pho fwyaf yr amrywiaeth maen nhw’n ei chynrychioli, y mwyaf y gallwn chwalu rhwystrau a herio camsyniadau.” Lisa Bowkett, Pennaeth Cyllid a chyd-Gadeirydd OUT-NAW

Mis Hanes LGBT – rydym wedi gwneud cynnydd da!

Ffotograff o Claire Clancy yn gwisgo coron o flodau’r enfys i baratoi ar gyfer Pride Cymru

gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc

Ers i mi ymuno â’r Cynulliad yn 2007, rwyf wedi gweld llawer iawn o newid o ran sicrhau bod y Cynulliad yn fwy cynhwysol.

Gan mai hwn yw fy Mis Hanes LGBT olaf tra’n gweithio i’r Cynulliad rwyf wedi bod yn ystyried, yn wir, pa mor bell yr ydym wedi dod o ran cefnogi pobl LGBT a hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill gwobrau niferus am y gwaith hwn, wedi cynyddu ein gwaith allgymorth, wedi bod yn bresennol mewn rhagor o ddigwyddiadau, wedi adolygu ein polisïau a’u gwella, ac wedi darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i sicrhau ein bod yn gyflogwr mwy cynhwysol.

Rydym yn ffodus iawn i gael rhwydwaith gweithle rhagorol yn OUT-NAW a Thîm Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddedig sy’n gweithio’n eithriadol o galed i wella cydraddoldeb LGBT ymhellach. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt yn gyhoeddus am eu gwaith.

Yn ystod fy amser yma, rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau â Craig, cyd-gadeirydd OUT-NAW, ynghylch sut y gallwn barhau i wneud cynnydd. Rwy’n hapus iawn i ddweud mai fi oedd y person cyntaf i gofrestru ar gyfer y rhaglen Cyfeillion LGBT.

Yr haf diwethaf, cefais hwyl fawr wrth ymuno â’r Rhwydwaith a’r Cyfeillion LGBT ar yr orymdaith Pride drwy strydoedd Caerdydd. Roedd yn brofiad hyfryd gweld cymaint o bobl yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.

Rwy’n falch o bopeth yr ydym wedi’i gyflawni, ac rwy’n falch o fod yn gyfaill. Edrychaf ymlaen at ddilyn llwyddiant parhaus y Cynulliad. Welwn ni chi yn Pride!

logo gyda enfys - "proud to be an ally"logo mis hanes LGBTLogo - Stonewall 100 Cyflogwr Gorau  Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad

Assembly staff at Pride  photo - LGBT staff and allies with the rainbow flag

Mis Hanes LHDT – Yn falch o fod yn Gyfaill LHDT

logo gyda enfys - "proud to be an ally"

Gwelwyd newidiadau cymdeithasol enfawr sydd wedi arwain at warchod cyfreithiol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn y DU. Fodd bynnag, mae heriau a brwydrau yn parhau, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd. Mae pobl LHDT yn dal i ddioddef gwahaniaethu a rhagfarn, ac mae anawsterau penodol o amgylch cefnogi a gwarchod pobl drawsrywiol, mewn ysgolion, mewn carchardai, mewn gweithleoedd ac ar y stryd.

Mae cyfeillion yn cydnabod nad dim ond cyfrifoldeb pobl LHDT yw creu diwylliant cynhwysol. Gall y camau y maent yn eu cymryd amrywio o fod yn arweinydd sefydliad sy’n rhoi cydraddoldeb LHDT wrth wraidd ei waith i fod yn aelod iau o staff sy’n herio cellwair homoffobig ymysg cydweithwyr.

Isod, mae rhai o’n cydweithwyr yn amlinellu pam mae bod yn gyfaill LHDT yn bwysig iddynt.

“Mae gen i frawd hoyw ac rwy’ wedi gweld rhai o’r brwydrau y mae ef wedi’u cael trwy’r ysgol ac wrth ddod yn oedolyn.  Rwy’ wedi meddwl erioed ei fod yn annheg bod rhai pobl yn ceisio defnyddio rhywioldeb rhywun yn ei erbyn. Rwy’n falch o gyflawniadau’r Cynulliad ar gydraddoldeb LHDT a sut y gall diwylliant gwaith cynhwysol ac amrywiol greu lle gwych i weithio. Am yr holl resymau hyn, yr wyf wedi dod yn Gyfaill.”

“Mae’n bwysig i mi gefnogi fy nghydweithwyr trwy fod yn Gyfaill OUT-NAW oherwydd credaf fod pawb yn haeddu’r hawl i fod yn hapus ac yn gyfforddus yn eu gweithle. Dod yn gyfaill y rhwydwaith LHDT oedd y peth naturiol i’w wneud i mi, gan nad oes angen llwyfan arnom ni i fod yn ni’n hunain. Nid clyweliad yw bywyd, ac i ddyfynnu corws y gân gofiadwy honno o La Cage Aux Folles: Life’s not worth a damn ‘til you can say, Hey World, I am what I am.”

“Nid oedd angen i mi feddwl am gofrestru ar y rhaglen cyfeillion. I mi, mae’n ymwneud â gwerthoedd personol a gwers a ddysgwyd yn gynnar am drin pobl eraill yn y ffordd y byddech chi am gael eich trin. Nid yw pobl yn gadael pwy ydyn nhw wrth y drws pan fyddant yn dod i’r gwaith, a dyna’r cymhelliant i mi a pham ei bod yn bwysig i fod yn gyfaill. Rydym i gyd yn mabwysiadu personas yn y gweithle i ryw raddau, ond nid yw methu â bod yn chi eich hun, ar lefel sylfaenol, yn rhywbeth y byddwn yn dymuno ei oddef. Felly, rwy’n cefnogi cydraddoldeb LHDT oherwydd ni allaf feddwl am unrhyw reswm i beidio. “

“Pobl LHDT yw ein meddygon, ein nyrsys, ein swyddog yr heddlu, ein teulu, ein ffrindiau. Maent yn Fwslimiaid, yn Gristnogion, yn anffyddwyr. Maent yn Ddu, yn Wyn, yn Asiaidd. Maent yn anabl. Maent yn hen ac ifanc. Maent yn ddynion, yn ferched a phopeth yn y canol. Fel y dywedodd y diweddar AS Jo Cox, “rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin na’r pethau sy’n ein rhannu”, a thra bod brwydr dros gydraddoldeb LHDT, byddaf yn sefyll wrth eu hochr fel cyfaill.”

“Ni wnes i feddwl ddwywaith cyn dod yn Gyfaill. Roeddwn i’n mynd i ddweud ‘Rwy’n meddwl bod gan bawb yr hawl i fod yn nhw’u hunain’, ond nid wyf yn meddwl hynny, rwy’n gwybod hynny! Mae gan bawb yr hawl i fod yn nhw’u hunain. Nid yw rhywioldeb yn eich diffinio fel person, mae perthnasoedd a chyfeillgarwch yn ymwneud â chariad, nid rhyw. Ac yng ngeiriau Lady Gaga – “No matter gay, straight, or bi, lesbian, transgendered life, I’m on the right track baby, I was born to survive.”

“Rwy’n falch o weithio yn y Cynulliad, oherwydd y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac oherwydd y cyfraniad a wnawn i bobl Cymru. Deuthum yn gyfaill OUT-NAW yn fy wythnos gyntaf yn y Cynulliad oherwydd ei fod yn bwysig i mi fod y bobl rwy’n gweithio gyda nhw yn gallu bod yn nhw’u hunain, heb ofn na rhagfarn, ac yn gallu teimlo yr un mor falch o’r Cynulliad fel cyflogwr cynhwysol, croesawgar. Mae gweithio yma yn teimlo’n onest, yn amrywiol, ac yn llawn dathlu – sy’n wych!”

Am fwy o wybodaeth am ein rhwydwaith LHDT, ein cyfeillion neu am gynhwysiant LHDT yn y Cynulliad, ffoniwch y tîm Cynhwysiant ac Amrywiaeth.

Mae gwybodaeth bellach a chyngor ar sut gall cyfeillion helpu i greu gweithle LHDT gynhwysol yng nghanllaw gweithle Stonewall.

Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad

Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ar 17 Tachwedd 2016, estynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad i ystod eang o randdeiliaid i drafod rhai o’r materion allweddol o ran sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Comisiwn – a fydd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf – yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gadarnhau ei drefniadau o ran cylch gorchwyl a llywodraethiant. Bwriedir i waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau lywio’r ymgynghoriad ar y Comisiwn, a chyfrannu ato.

Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn cynnal y gwaith hwn gan nifer o wahanol gyrff yn ystod ymgynghoriad yr haf ar ei flaenraglen waith.

picture10

Beth ddigwyddodd?

Bu aelodau’r Pwyllgor a rhanddeiliaid – o’r sectorau busnes, amgylchedd a chymdeithasol – yn trafod tri maes allweddol y bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio arnynt:

  • Sut ddylai’r Comisiwn gael ei sefydlu?
    Beth ddylai trefniadau’r Comisiwn fod o ran strwythur, statws, cylch gorchwyl a llywodraethiant?
  • Sut ddylai’r Comisiwn weithredu’n ymarferol?
    Sut ddylai’r Comisiwn weithio â Llywodraeth Cymru, a beth yw natur y berthynas rhwng y DU a’r Comisiwn?
  • Sut ddylai’r Comisiwn fynd i’r afael â datblygu cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
    A ddylai’r Comisiwn fabwysiadu datblygu cynaliadwy fel ei brif egwyddor drefniadol, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? Sut ddylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol effeithio ar waith y Comisiwn?

picture6

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:

“Yn yr ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal yn ystod yr haf, roedd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru’n rhywbeth a gododd yn aml ac, o’r herwydd, rydym ni fel Pwyllgor wedi dewis mai hwnnw fydd testun ein gwaith sylweddol cyntaf.

“Rydym yn awyddus i edrych ar enghreifftiau o arferion da yn rhyngwladol, ond rydym hefyd am glywed beth yw’r anghenion penodol sydd gennym yng Nghymru, a sut y gall y Comisiwn ddiwallu’r anghenion hynny orau. Bydd gan y Comisiwn ddylanwad mawr ar ddatblygiad Cymru, felly rydym wedi cydamseru gwaith y Pwyllgor i fwydo i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.”

picture1

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y sectorau adeiladu a pherianneg ar 17 Tachwedd, ac mae wrthi’n clywed gan Gomisiwn Seilwaith y DU, cynrychiolwyr o ranbarthau dinasoedd, a’r Gweinidog Ken Skates y mis hwn. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi ysgrifennu at gyrff seilwaith eraill o bob cwr o’r byd yn gofyn am enghreifftiau o arferion da.

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cyfrannu at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (sy’n dod i ben ar 9 Ionawr), a bydd yn cyhoeddi adroddiad yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl – 3 Rhagfyr

gan Ross Davies, Rheolwr Amrywiaeth ac aelod o Embrace, rhwydwaith anabledd y Cynulliad.

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl bob blwyddyn i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, i helpu i chwalu rhwystrau a hybu urddas, hawliau a lles pobl anabl.

Yn y Cynulliad, rydym yn falch o fod yn gyflogwr ac yn ddarparwr gwasanaethau hygyrch. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff anabl ac yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ymwneud â phobl anabl ar hyd a lled Cymru wrth i ni ymgymryd â’n gwaith.

Fel cyflogwr, rydym yn rhoi pob cefnogaeth i’n staff anabl drwy addasu’r gweithle e.e. cynnig oriau gwaith hyblyg, darparu offer penodol sy’n diwallu eu hanghenion neu newid eu trothwy absenoldeb salwch. Mae gennym hefyd bolisïau i helpu staff, fel ein polisi iechyd meddwl, cyfle i weld Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle, rhwydwaith anabledd yn y gweithle, sef EMBRACE, a’r cyfle i fanteisio ar wasanaethau cwnsela a chynghori.

Dyma y mae rhai o’n staff anabl wedi’i ddweud am y cymorth a gânt:

  • “Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan fydda’ i yn y gwaith, gan fy mod yn cael fy nhrin â pharch ac mae fy sgiliau’n cael eu gwerthfawrogi.”
  • “Mae parodrwydd y Cynulliad i ymwneud â’n rhwydwaith ar gyfer staff anabl yn gwneud i mi deimlo bod fy marn a’m profiadau’n bwysig. Rwy’n teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r sefydliad a’i staff.”
  • “Mae’r cymorth a gaf bob amser gan y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi’i gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith.”

Mae ein hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl anabl wedi cael cydnabyddiaeth gan nifer o gyrff allanol. Rydym wedi:

img_0231

Rydym yn falch iawn o’r dystysgrif Ystyriol o Awtistiaeth a gawsom yn ddiweddar a chaiff hon ei dangos yn ein derbynfa. Dywedodd Joyce Watson AC, yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb yng Nghomisiwn y Cynulliad:

“Unwaith eto, rydym yn falch o gael ein cydnabod fel sefydliad sy’n cymryd cydraddoldeb o ran mynediad o ddifrif. Rydym yma i gynrychioli pawb yng Nghymru ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb.”

Comisiwn y Cynulliad yw’r corff sy’n darparu eiddo, staff a gwasanaethau i helpu Aelodau’r Cynulliad.

Dywedodd Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd,

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gweithio gydag Embrace a’n partneriaid allanol gan fod hynny’n ein helpu ni fod yn ymwybodol o’r arfer gorau diweddaraf o ran chwalu’r rhwystrau sy’n ein gwneud yn llai hygyrch a chynhwysol. Mae hyn yn ein helpu ni, fel sefydliad, i sicrhau ein bod yn cyflwyno newidiadau cynaliadwy ac ystyrlon i’n staff ac i bobl Cymru.”

Logo Embrace, rhwydwaith anabledd y Cynulliad         Logo ‘Hyderus o ran Anabledd’

Logo ‘Awtistiaeth Gyfeillgar’ y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth              Logo Nod Siarter ‘Yn Uwch na Geiriau’ Action on Hearing Loss Cymru

Os hoffech wybod rhagor am y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook. Mae gwybodaeth am weithio yn y Cynulliad hefyd ar gael ar ein gwefan. Mae gwybodaeth i ymwelwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig ar gael ar ein tudalennau gwe.

Os hoffech gysylltu â’r Tîm Amrywiaeth, gallwch anfon e-bost at Amrywiaeth@cynulliad.cymru neu ffoniwch 0300 200 7455. Rydym yn croesawu galwadau drwy gyfrwng y gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun a gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformatau gwahanol ar gais.