Category: Amrywiaeth a Chynnwys

Diwrnod Gwelededd Deurywiol 2018

Gan Rhayna Mann

Ugain mlynedd yn ôl roeddwn i newydd orffen yn y brifysgol, roeddwn i’n teithio, yn cael anturiaethau, yn cwrdd â phobl newydd ac yn dechrau ystyried fy nyfodol. Onid yw hynny’n swnio’n ddelfrydol? Yr ochr arall i’r stori hon yw fy mod i hefyd yn dod allan fel menyw ddeurywiol. Pam ydw i’n rhoi arlliw negyddol ar hynny? Oherwydd ei fod yn ddigwyddiad dryslyd a heriol na ddigwyddodd dros nos.

Fel menyw ifanc, roeddwn i’n cael fy nenu i fenywod yn ogystal â dynion, ond yn tyfu i fyny mewn pentref cloddio bach yn y cymoedd, roedd y meddyliau hyn yn cael eu hystyried yn annaturiol. Roedd bod yn hoyw yn rhywbeth i wgu arno, ac roedd yn ofnus imi fel plentyn ifanc weld sut yr oedd rhai dynion hoyw (gan nad oedd dim menywod hoyw amlwg) yn cael eu hosgoi a’u trafod. Cefais fy magu yn meddwl bod rhywbeth o’i le gyda mi, ond parhaodd y teimladau a oedd gennyf tuag at ddynion a menywod.

Erbyn imi fod yn ddeunaw oed, roedd y naratif cyhoeddus o ran pobl hoyw yn newid. Roedd yn iawn bod yn hoyw – cyn belled â’ch bod yn byw mewn dinas gosmopolitaidd neu’n enwog! Ond yr hyn a’m tarodd i fwyaf oedd y bobl a oedd yn hysbys yn y cyfryngau fel pobl ddeurywiol, fel David Bowie, Marlon Brando, James Dean, Freddie Mercury a Janis Joplin. Roeddwn i’n edrych i fyny at y bobl hyn, roeddwn nhw’n fy llenwi ag ysbrydoliaeth…ac roedden nhw’n ddeurywiol.

Mae gallu uniaethu â rhywun y gallwch edrych i fyny iddo yn bwerus iawn.

Yn ddeunaw oed mi ddes allan. Roedd yn ddigynnwrf iawn, ac roeddwn i ychydig yn siomedig. Ymatebodd fy ffrindiau gyda ‘roeddwn i wedi amau’ a gwnaethant barhau i fod yn ffrindiau imi. Fodd bynnag, dangosodd fy rhieni imi beth yw deuffobia goddefol; roedden nhw’n credu nad yw bod yn ddeurywiol yn rhywbeth go iawn ac yn ei wfftio fel ‘rhywbeth a fyddai’n pasio’.

Digwyddodd fy ail brofiadau o ddeuffobia drwy gydol fy ugeiniau; wrth ddechrau perthynas newydd â dyn, roedden nhw’n aml yn gweld fy neurywioldeb yn fygythiad neu’n newyddbeth. Pan fyddwn i’n gweld menyw hoyw, byddwn i’n cael fy ystyried fel twyllwr.

Fy mhrofiad olaf o ddeuffobia yw fy anallu parhaus i gadw rhai ffrindiau benywaidd. Rwyf wedi canfod yn bersonol fod rhai menywod syth yn ystyried menywod deurywiol yn fygythiad, a dyna un o’r pethau sydd wedi peri’r gofid mwyaf i fi.

Fodd bynnag, unwaith i fi fod yn gyffyrddus gyda fy hunaniaeth, fe wnes i ganfod bod pobl eraill yn gyffyrddus hefyd gan fwyaf. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae agweddau cadarnhaol a chael fy nerbyn gan bobl wedi bod yn drech na’r profiadau negyddol. Wrth siarad â ffrindiau am rywioldeb, mae eu gonestrwydd a’u hiwmor wedi bod yn hyfryd ac wedi fy helpu i symud o fod yn fenyw ddeurywiol i fod yn fenyw… sy’n digwydd bod yn ddeurywiol.

Ond y profiad mwyaf arwyddocaol yr wyf wedi’i gael oedd cael derbyniad cadarnhaol heb ragfarn gan fy mhlant hyfryd, fy ffrindiau, fy nheulu a’m cydweithwyr. Mae hyn wedi rhoi’r nerth imi fod yn hapus ac yn gyfforddus gyda phwy ydw i.

Felly dyma ddathlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol. Beth am barhau i gwestiynu stereoteipiau a helpu i greu amgylchedd lle’r ydym yn cael cyfle i ffynnu ac esblygu i’r bobl yr ydym ni mewn gwirionedd.

2018-WEI-graphic-welsh

Bi_flag

2018 top-employer-black-bilingual

Out-Naw

Fel aelod o leiafrif – a yw eich hanes o bwys?

Fel rhan o’n gwaith i goffáu mis Hanes LGBT, mae ein blog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Norena Shopland (@NorenaShopland), awdur Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales.

Pan gyhoeddwyd fy llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales ddiwedd y llynedd, un o’r cweistynau a ofynnwyd i mi oedd pam wnes i ei ysgrifennu.

Ni ofynnwyd y cwestiwn fel mater o ragfarn, ond oherwydd pryder am ba mor ddefnyddiol oedd gwaith a oedd yn canolbwyntio ar leiafrif o fewn lleiafrif gyda chynulleidfa yr oedd pobl yn tybio iddi fod yn gyfyngedig.

Ar yr olwg gyntaf, roedd yn ymddangos bod ganddynt bwynt – mae Cymru yn wlad fechan, gyda 4.8 y cant o boblogaeth y DU yn unig; ac o ystyried hanes, a yw hyd yn oed yn angenrheidiol diffinio bob person neud digwyddiad i fod yn Gymreig neu’n Seisnig? Wedi’r cyfan, mae cyfreithiau’r DU yn effeithio ar bawb, ac mae pawb mwy neu lai yn cael yr un profiadau o dan y cyfreithiau hynny.

Gellir gofyn yr un cwestiwn i leiafrifoedd eraill sy’n fwy, sydd prin yn fwy nag 20 y cant o’r boblogaeth megis pobl dduon a phobl o dras Asiaidd sydd tua 13 y cant. Er y gallwn gysylltu hanesion amrywiol ynddynt eu hunain, a oes angen trafod, er enghraifft, bobl Gymreig a phobl Seisnig sy’n ddu neu o dras Asiaidd mewn categorïau gwahanol?

Cyn ateb, hwyrach ei bod yn ddefnyddiol ystyried sut y gellid mynd o amgylch canfod yr unigolion ar y cofnod ysgrifenedig, a all fod yn dasg fawr ynddi’i hun, ac mae hyn yn rhywbeth y gwnes i daro arno wrth ysgrifennu Forbidden Lives. Un o’r rhesymau y mae gennyf ddiddordeb yn hanes LGBT fy ngwlad, sy’n 6-10 y cant o’r boblogaeth yn dibynnu ar ba ystadegau a gaiff eu defnyddio, yw gan i bobl o Gymru gael eu defnyddio yn hanes y DU heb unrhyw gyfeiriad at eu gwlad brodorol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg wrth ddathlu Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror wrth i bobl fel Ivor Novello, Menywod Llangollen, Leo Abse, a nifer o bobl eraill gael eu cynnwys yn y DU, neu’n amlach na hynny, y cyd-destun Seisnig.

Prin y mae llyfrau hanes LGBT yn cynnwys gwlad frodorol unigolyn, nac unrhyw gyfeiriad at Gymru neu bobl Cymru – rhywbeth sydd hefyd yn wir am wledydd eraill. Er enghraifft, bydd hanes LGBT llawer o wledydd yn cynnwys cyfeiriadau at, er enghraifft, waith ar rywoleg a wnaed yn yr Almaen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ni fydd yr Almaen yn ymddangos yn y mynegai fel y cyfryw. Pe hoffech sefydlu hanes yr Almaen o hanes yn gyffredinol, ni ellid gwneud hynny.

Y benbleth o ran hanes LGBT Cymru

Oll y mae hyn yn ei olygu yw bod rhaid chwilio ymhell a thrwy sawl cyfrwng i sefydlu hanes LGBT Cymru. Rhywbeth arall sy’n anodd mewn perthynas â Chymru, yn annhebyg i wledydd eraill megis yr Almaen, yw bod pobl Cymru am lawer o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a thu hwnt wedi cael eu cyfeirio atynt i fod yn Saeson.

Fodd bynnag, wedi imi oresgyn sawl rhwystr i sefydlu’r bywydau a’r digwyddiadau sydd i’w cael yn Forbidden Lives, beth am y cwestiwn gwreiddiol sef ‘pam mynd i’r holl drafferth’? Wedi’r cyfan, mae rhai o’r bobl yr wyf yn eu cynnwys eisoes yn ymddangos yn hanes y DU a, thra bod nifer o fy storïau i naill ai’n amlygu hanesion na wyddys amdanynt yn eang, neu sy’n gwbl newydd, pam na allent gael eu hychwanegu yn syml at hanes y DU?

Wel, mi ellid gwneud hynny. Ond mae cwestiynau llawer pellach i’w cael. Dangosodd y llyfr fod pobl o Gymru wedi bod yn hynod o ddylanwadol wrth siapio hanes LGBT, megis Wolfenden a’r Ddeddf Troseddau Rhywiol – dau beth a newidiodd y gymdeithas gyfan. Beth a achosodd y Cymry hyn i fod mor ddylanwadol? Mewn gwirionedd, mae’r llyfr wedi codi cyfres gyfan o gwestiynau na ellir eu trafod yn fanwl yma, ond sy’n ymwneud â phrofiadau gwahanol i’r rhai a gafwyd yn Lloegr.

Mae hefyd angen inni ymgysylltu’n fwy ag amgueddfeydd, archifdai, ysgolion a gyda phobl sy’n rhan o hanes LGBT, ac mae angen inni gael unigolion lleol i wneud hynny – po fwyaf o Gymry LGBT y gallwn ymgysylltu â nhw y gorau. Mae rhagor o ymgysylltu yn arwain at ddealltwriaeth well o amrywiaeth a llai o wahaniaethu.

Felly, yn y diwedd, beth oedd fy ateb – pam mynd i’r holl drafferth?

Oherwydd ar wahân i’r hanes a’r wleidyddiaeth, maent yn storïau da iawn – ac wedi’r cyfan, mae pawb yn hoff o stori dda!

**********************************************************************************

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Rydym wedi cael ein henwi gan Stonewall fel y Prif Gyflogwr yn y DU i bobl LGBT, Prif Gyflogwr i bobl Trawsryweddol, ac mae ein rhwydwaith gweithle wedi cael Cymeradwyaeth Uchel am eu gwaith. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, cysylltwch â’r Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Logo Stonewall - Cyflogwr Y Flwyddyn Logo stonewall - Prif Gyflogwr Traws

Logo Stonewall - Canmoliaeth Perfformwyr Disglair Logo Stonewall - Grwp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, rydym yn dathlu Dydd Miwsig Cymru (Welsh Language Music Day), sef digwyddiad blynyddol a gynhelir ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth o Gymru. Eleni, bydd aelodau o staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, a hynny fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad. Drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, mae dysgwyr Cymraeg yn y Cynulliad wedi bod yn dysgu’r geiriau i Hen Wlad fy Nhadau, sef yr anthem genedlaethol.

Rhestr o hoff ganeuon Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel rhan o’n dathliadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi creu rhestr o’i hoff ganeuon Cymraeg er mwyn rhoi blas o’r arlwy cyfoethog sy’n bodoli yn y diwydiant.

1. Ethiopia Newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
2. Tyrd Olau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog
3. Sebona Fi – Yws Gwynedd
4. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff
5. Cwcwll – Beganifs
6. Rhedeg i Paris – Yr Anhrefn
7. Harbwr Diogel – Elin Fflur
8. Julia Gitar – Jess
9. Cân i Gymry – Datblygu
10. Coffi Du – Gwibdaith Hen Frân

Wrth siarad am ei detholiad, dywedodd y Llywydd:

“Rwy’n hynod falch o gefnogi’r ymdrech hon i sicrhau y gall pobl Cymru glywed y gerddoriaeth amrywiol sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Tyfais i fyny yn gwrando ar fandiau Cymraeg, ac rwyf wedi llunio detholiad o’m hoff gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys rhai o’r caneuon yr oeddwn yn gwrando arnynt pan oeddwn yn ifanc iawn, a rhai o’r caneuon mwy diweddar yn niwydiant bywiog cerddoriaeth bop Cymru”.

Y Senedd yn paratoi i gynnal gig arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi


Gan barhau â thema Dydd Miwsig Cymru, rydym yn cyfri’r dyddiau tan 1 Mawrth, pan fydd y Senedd yn cynnal gig arbennig iawn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd GDSD yn gyfle gwych i ddathlu talent gerddorol orau Cymru, gyda pherfformiadau gan:

Adwaith
Hannah Grace
Mellt
Reuel Elijah a Mace
Roughion (set DJ)

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â phrosiect Horizons y BBC a’r Selar.

I gael rhagor o wybodaeth am y gig, cliciwch yma.

Bydd mynediad i’r gig yn RHAD AC AM DDIM, ac mae tocynnau ar gael yma.

 

Rydym ar frig Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ar gyfer 2018

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr blaenllaw y DU ar gyfer 2018 ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle diweddaraf Stonewall.

Dyma’r tro cyntaf inni fod ar frig y rhestr a daw ddeng mlynedd ers inni gael ein cynnwys yn y mynegai am y tro cyntaf. Ers hynny, rydym wedi gweithio’n ffordd i fyny’n raddol ac wedi ymddangos yn y deg uchaf am y pedair blynedd diwethaf.

Logo Stonewall - Cyflogwr Y Flwyddyn    Logo stonewall - Prif Gyflogwr Traws

Logo Stonewall - Canmoliaeth Perfformwyr Disglair        Logo Stonewall - Grwp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel

Arweinydd ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle

Mae Stonewall hefyd wedi canmol ein gwaith yn hyrwyddo, cydnabod a chefnogi cydraddoldeb trawsryweddol, gan ein nodi fel un o ddim ond 11 o sefydliadau enghreifftiol yn y DU.

At hynny, mae ein rhwydwaith gweithle LHDT, OUT-NAW, wedi cael Cymeradwyaeth Uchel fel Grŵp Rhwydwaith ac rydym wedi sicrhau statws sefydliad sy’n Perfformio’n Rhagorol oherwydd ein perfformiad rhagorol cyson yn y Mynegai.

Rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.

Gweithio tuag at ffyrdd mwy blaengar o weithio

Cawsom ein cynnwys yn y mynegai am y tro cyntaf yn 2008, lle’r oeddem yn safle 208 yn y DU. Ers hynny, rydym wedi gwneud newidiadau cynyddol i’n polisïau a’n gweithgareddau ymgysylltu sydd wedi arwain at ein gwelliant parhaus a’n hymagwedd tuag at gynhwysiant LHDT ac felly, ein cynnydd yn y Mynegai.

2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018
208 73 47 42 20 26 11 4 3 5 1

Rydym yn senedd fodern ac rydym yn croesawu ffyrdd creadigol o feddwl. Rydym wedi bod yn rhagweithiol ac yn flaengar yn ein hymagwedd tuag at gydraddoldeb LHDT erioed, gan greu amgylchedd a diwylliant cynhwysol drwy wneud newidiadau ystyrlon bach.

Rydym wedi defnyddio dull cynyddol tuag at gynhwysiant LHDT, gan ddefnyddio adborth gan Stonewall ac arfer gorau i fod yn sefydliad blaengar. Mae bod yn gynhwysol yn ein DNA. Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a sefydlodd Comisiwn y Cynulliad fel corff corfforaethol yn nodi bod yn rhaid i’r Cynulliad wneud trefniadau priodol o ran cadarnhau bod ei swyddogaethau’n cael eu harfer gan ystyried yr egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Felly mae’n rhan o bopeth rydym yn ei wneud.

Arwain newid drwy arweinyddiaeth gref

Rydym yn falch o gael arweinyddiaeth ymroddedig a chadarn ar draws y sefydliad ac ar wahanol lefelau yn y sefydliad, o’r Llywydd, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr, i’n tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynghreiriad ac aelodau’r rhwydwaith ar draws y Cynulliad.

Mae ein hymagwedd gynhwysol yn weladwy i staff ac ymwelwyr. Rydym yn chwifio baner yr enfys ar adegau penodol drwy gydol y flwyddyn, mae ein tystysgrif a’n gwobrau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle gan Stonewall wedi’u harddangos yn ein derbynfa, mae cynghreiriad ac aelodau’r rhwydwaith yn gwisgo cortynnau gwddf lliwiau’r enfys ac mae gan ein cynghreiriad arwydd ar eu desg sy’n cyhoeddi eu cefnogaeth i Gydweithwyr LHDT.

Pan ymunodd un cydweithiwr â’r sefydliad, roedd yn falch iawn o’n hymagwedd tuag at gynhwysiant LHDT, gan nodi “cymerodd dair blynedd imi ddod allan yn fy hen swydd; ac fe gymerodd lai na thair wythnos imi wneud yr un peth yma. Roedd hi’n glir ar unwaith fod pawb yn derbyn pawb arall fel y maen nhw.”

photo - LGBT staff and allies with the rainbow flag

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae’n anrhydedd mawr cael ein cydnabod gan Stonewall fel cyflogwr blaenllaw y DU ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

“Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ei rôl yn cynrychioli pobl Cymru.

“Rydym yn falch o gefnogi ein rhwydwaith staff LHDT a pharhau i weithio i greu diwylliant cynhwysol – nid yn unig i’r bobl sy’n gweithio yma ond i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ar draws cymunedau amrywiol Cymru gyfan.

“Fel senedd Cymru, mae’n iawn y dylem arwain drwy esiampl i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda’r agweddau, yr arweinyddiaeth a’r penderfyniad cywir.

“Mae hwn nid yn unig yn ddiwrnod gwych i’r Cynulliad, ond mae hefyd yn newyddion da i staff yn y nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru a gynrychiolir yn y 100 o gyflogwyr gorau. Mae hyn yn dangos bod Cymru yn amlwg yn deall gwerth darparu gwasanaethau a pholisïau cynhwysol ac rwy’n llongyfarch pawb.”

Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant:

“Mae hwn yn gyflawniad rhagorol sy’n dod ddeng mlynedd ers i’r Cynulliad gael ei gydnabod am y tro cyntaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.

“Mae’n brawf o ymroddiad ein staff, yn enwedig ein tîm amrywiaeth a chynhwysiant, yn croesawu ac yn cynnwys cydraddoldeb LHDT ym mhob agwedd ar ein gwaith yn cynrychioli pobl Cymru.

“Mae ein llwyddiant yn dangos y gall newidiadau cynyddol mewn polisi ac ymagwedd barod tuag at newid agweddau gyflawni llawer iawn a bod yn enghraifft i eraill.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n tudalennau Recriwtio.

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl – 3 Rhagfyr

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (IDDP) bob blwyddyn i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, i helpu i dorri rhwystrau ac i gefnogi urddas, hawliau a lles pobl anabl.

Yn y Cynulliad, rydym yn falch o fod yn gyflogwr hygyrch ac yn ddarparwr gwasanaethau hygyrch. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff anabl ac yn cydnabod manteision ymgysylltu â phobl anabl ledled Cymru wrth wneud ein gwaith.

Eleni, rydym yn ymfalchïo y byddwn yn ymuno â chymuned o weithwyr anabl, rhwydweithiau a sefydliadau anabledd, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl drwy oleuo’r Senedd yn borffor.

Y Senedd wedi'i goleuo'n borffor
Y Senedd wedi’i goleuo’n borffor

Fel cyflogwr, rydym yn cefnogi anghenion ein staff anabl yn llawn drwy ddarparu addasiadau yn y gweithle, fel amrywiol opsiynau ar gyfer gweithio’n hyblyg, yn darparu offer penodol i ddiwallu eu hanghenion neu’n addasu eu sbardunau absenoldeb oherwydd salwch. Mae gennym hefyd bolisïau staff cefnogol fel y polisi iechyd meddwl, a mynediad at Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle, rhwydwaith staff anabledd prysur, sef EMBRACE, a mynediad at wasanaethau cwnsela a chynghori.

Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, gan gynnwys y Diwrnod Mynediad i Bobl Anabl a’r Diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl. Lansiwyd ein Rhwydwaith Iechyd Meddwl yn ddiweddar i’n helpu i hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn ein sefydliad.

Llun o Karen, cyd-Gadeirydd Rhwydwaith Mindful y Cynulliad, gydag Alex a Dora, y ci therapi.
Llun o Karen, cyd-Gadeirydd Rhwydwaith Mindful y Cynulliad, gydag Alex a Dora, y ci therapi.

Dyma ddyfyniadau gan rai o’n staff anabl sy’n amlinellu’r gefnogaeth a gânt:

• “Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan rwy’n dod i’r gwaith am fy mod i’n cael fy mharchu ac mae fy sgiliau’n cael eu gwerthfawrogi.”
• “Mae parodrwydd y Cynulliad i ymgysylltu â’r rhwydwaith staff i bobl anabl yn gwneud imi deimlo ei fod wir yn gwerthfawrogi fy marn a’m profiadau. Rwy’n teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff.”
• “Mae cefnogaeth barhaus y tîm iechyd a diogelwch wedi ei gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith.”

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer pobl anabl wedi cael ei gydnabod gan nifer o gyrff allanol. Rydym wedi:

• ein henwi yn gyflogwr anabledd Hyderus,
• ennill y Marc Siarter yn Uwch na Geiriau gan Action on Hearing Loss, a chael un o’u Gwobrau Rhagoriaeth Cymru, a
• ein hachredu gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fel sefydliad Awtistiaeth Gyfeillgar.

 

Autisim-Friendly-Senedd-image
Llun o’r Senedd a logo bod yn ystyriol o bobl ag awtistiaeth’

Yn ddiweddar, cawsom ein hachredu fel sefydliad sy’n Gyfeillgar i Awtistiaeth. Dywedodd Joyce Watson AC, yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb yng Nghomisiwn y Cynulliad:

 

“Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod unwaith eto fel sefydliad sy’n mynd i’r afael â mynediad cyfartal yn ddifrifol iawn. Rydyn ni yma i gynrychioli holl bobl Cymru ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb. ”

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n darparu eiddo, staff a gwasanaethau ar gyfer y Cynulliad a’i Aelodau.

Meddai Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad:

“Mae cydweithio ag Embrace a’n partneriaid allanol yn hanfodol bwysig, gan ei fod yn ein helpu i gadw at yr arferion gorau o ran dileu rhwystrau o ran mynediad a chynhwysiant. Mae hyn yn ein helpu ni fel sefydliad i sicrhau y byddwn yn gwneud gwelliannau cynaliadwy ac ystyrlon ar gyfer ein staff a phobl Cymru.”

Os hoffech wybod mwy am y Cynulliad, gallwch edrych ar ein gwefan, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook. Mae gwybodaeth am weithio yn y Cynulliad ar gael hefyd ar ein gwefan. Mae gwybodaeth i ymwelwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth ar gael ar ein tudalennau pwrpasol.

Os hoffech gysylltu â’r Tîm Amrywiaeth, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn Amrywiaeth@cynulliad.cymru neu dros y ffôn ar 0300 200 7455. Rydym yn croesawu galwadau drwy gyfnewidfa testun a gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformatau eraill ar gais.

10 o ffeithiau ar gyfer 10 mlynedd o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, mae hefyd yn nodi 30 mlwyddiant eleni.

Map cy

Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau pobl dduon a’u cyfraniadau at ddatblygiad cymdeithas; technoleg; yr economi; y celfyddydau a diwylliant ym Mhrydain. Darllenwch fwy am hanes Mis Hanes Pobl Dduon.

Wrth ddathlu 10 mlynedd, dyma ichi 10 o ffeithiau nad oedd yn wybyddus i chi o bosibl:

1. Ym 1987, yn Llundain yn unig y dathlwyd BHM, ond mae bellach yn ddigwyddiad ledled y DU gyda dros 6,000 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y DU bob mis Hydref. Mae Canada ac America yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon ym mis Chwefror.

2. Cafodd y canlynol eu dyfeisio gan bobl o dras Du a Lleiafrifoedd Ethnig:

Miniwr pensiliau, system pŵer ceir troli, goleuadau traffig cyntaf, y tryc ysgubo, y rhaw lwch fach, y drws codi awtomatig, y sychwr dillad cyntaf, ysgol ddianc rhag tân, y diffoddwr tân, y ffilament carbon ar gyfer y bwlb, y bag plasma gwaed, y bwrdd smwddio, y brwsh gwallt, y sythwr gwallt, beic tri olwyn a mwy.

3. Daeth Betty Campbell yn brifathrawes ddu gyntaf Cymru yn y 1970au, gyda’i swydd yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, Caerdydd.

4. Mae gan Gymru un o’r cymunedau aml-ethnig hynaf yn y DU, sef yn ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd. Setlodd morwyr a gweithwyr o dros 50 o wledydd yma.

5. Ganwyd Leonora Brito yng Nghaerdydd, cafodd ei magu a’i dylanwadu gan gymuned amlddiwylliannol Tiger Bay, a cheisiodd ail-greu gwerthoedd y gymdeithas honno yn ei hygrifennu. Roedd ei gwaith yn cynnig golwg unigryw ar y gymdeithas Gymreig Affro-Caribi, a gafodd ei thangynrychioli mewn ysgrifennu am Gymru nes i’w gwaith hi ymddangos. Enillodd ei stori ‘Dat’s Love’ gystadleuaeth stori fer Rhys Davies yn 1991. Bu farw yn 2007.

6. Mohammed Asghar (Oscar) AC oedd cynghorydd Mwslimaidd cyntaf Cymru, yn cynrychioli ward Victoria yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn 2004. Daeth yn aelod lleiafrifol ethnig a Mwslimaidd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan etholwyd ef yn 2007.

7. Adroddodd cyfrifiad 2011 fod 18,276 o bobl Affricanaidd yng Nghymru, sy’n gyfystyr â 0.6 y cant o boblogaeth Cymru.

8. Yn 2008 daeth Vaughan Gething AC yn Llywydd y TUC ieuengaf yng Nghymru, ac y person du cyntaf yn y rôl.

9. Daeth Eddie Parris, a aned ym Mhwllmeurig ger Cas-gwent, y chwaraewr pêl-droed du cyntaf i chwarae i Gymru, gan chwarae ei unig gêm ryngwladol yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Belfast ym 1931 – bron i hanner canrif cyn i chwaraewr rhyngwladol du cyntaf Lloegr ennill cap rhyngwladol.

10. Mae’r barnwr Ray Singh, CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, bellach wedi ymddeol fel Barnwr Rhanbarth. Ef oedd y barnwr cyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol i eistedd ar y fainc yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon ledled Cymru, ewch i wefan Mis Hanes Pobl Dduon.

Mis Hanes Pobl Dduon: Mae’r mis Hydref hwn yn un arbennig

Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, ac mae eleni’n nodi 30 mlwyddiant. Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni.

Abi Lasebikan, Cyd-Gadeirydd rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol, yn sôn am hanes y mis…

Header

Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau pobl dduon a’u cyfraniadau at ddatblygiad cymdeithas; technoleg; yr economi; y celfyddydau a diwylliant ym Mhrydain.

A people without the knowledge of their past history, origin and culture is like a tree without roots” – Marcus Garvey

Hanes

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf erioed yn Llundain ym 1987.  Cydnabyddir mai Akyaaba Addai Sebo, sef cydlynydd Prosiectau Arbennig yng Nghyngor Llundain Fwyaf (y GLC) ar y pryd, a ddechreuodd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU gan ddod â phobl at ei gilydd i roi cychwyn cadarn iddo.

A colleague of mine, a woman, came to work one morning, looking very downcast and not herself. I asked her what the matter was, and she confided to me that the previous night when she was putting her son Marcus to bed he asked her, “Mum, why can’t I be white?”

The mother was taken aback. She said that she was so shocked that she didn’t know how to respond to her son. The boy that had been named after Marcus Garvey had asked why he couldn’t be white!

– Akyaaba Addai Sebbo

Black_History_Month_1987_002

Cydnabyddir mai Akyaaba Addai Sebo, sef cydlynydd Prosiectau Arbennig yng Nghyngor Llundain Fwyaf (y GLC) ar y pryd, a ddechreuodd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU gan ddod â phobl at ei gilydd i roi cychwyn cadarn iddo . Gellir dadlau bod y symbyliad ar gyfer y digwyddiad wedi dod ddeunaw mis cyn i’r GLC gael ei ddiddymu ym 1986. Yn ystod y misoedd yn arwain at ddiddymu’r GLC, gwelwyd ymdrech ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd o barhau â’i waith cydraddoldeb blaengar. Uned Bolisi Strategol Llundain, a oedd yn cynnwys 15 Awdurdod Lleol, a ysgwyddodd y cyfrifoldeb am y rhannau radical o’r GLC ar ôl ei ddiddymu.

 

Mae Linda Bellos, arweinydd Cyngor Lambeth ar y pryd, yn cofio Ansell Wong, Pennaeth yr Uned Lleiafrifoedd Ethnig ar y pryd, yn cysylltu â hi gyda’r syniad o ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU. Continue reading “Mis Hanes Pobl Dduon: Mae’r mis Hydref hwn yn un arbennig”