Author: Blog

Sicrhau Dyfodol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru

Erthygl gwadd gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gostwng bron 10 y cant mewn termau real, tra bod y Llywodraeth wedi galw ar y sector i ddibynnu llai ar wariant cyhoeddus.

Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ac fel Pwyllgor, roeddem yn teimlo mai dyma’r amser cywir i gynnal ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau i weld pa mor ymarferol yw galwad y Llywodraeth, ac i nodi camau ymarferol a fyddai’n galluogi’r sector i ymateb yn effeithiol iddo.

Mae angen cyllid ar y celfyddydau er mwyn sicrhau eu dyfodol, ond sut y gellir sicrhau’r cyllid hwnnw?

Pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach

Ni ellir gwadu pwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas iach. Mae’r celfyddydau yn goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau, ac felly maent yn rhan anhepgor o gymdeithas iach. Mae manteision y celfyddydau ar gyfer unigolion a’r gymdeithas gyfan bellach yn cael eu cydnabod yn eang. O’r effaith economaidd i fanteision ym myd addysg, dylai llunwyr polisi gydnabod, hyrwyddo a manteisio ar botensial y celfyddydau o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y gymdeithas.

Cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru

Yn gynnar iawn yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau unigryw, amrywiol ac anodd iawn wrth geisio sicrhau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Oherwydd bod llawer o’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn fach o ran maint ac wedi’u lleoli’n bell o ganolfannau poblogaeth mawr, mae’n anodd iddynt godi arian nad yw’n refeniw cyhoeddus. Yn benodol, o edrych ar y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddyfernir ledled y DU, mae’n syfrdanol gweld faint o’r cyllid hwnnw a ddyfernir yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Canfu astudiaeth yn 2013 fod cyfraniadau gan unigolion a busnesau i’r celfyddydau yn Llundain yn cyfrif am 85 y cant o’r cyllid cyffredinol a ddyfarnwyd ledled Lloegr.  Er nad oedd Cymru’n rhan o’r astudiaeth, mae’n debyg nad yw ein sefyllfa ni’n wahanol i ranbarthau Lloegr y tu allan i Lundain.

Hyd nes i ni gydnabod a mynd i’r afael â’r sefyllfa anghytbwys hon, mae’n amhosibl gweld sut y gellir gwella’r sefyllfa’n ddigonol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod maint a lleoliad mor bwysig i gynhyrchu refeniw masnachol yn cymhlethu’r sefyllfa ymhellach, gan ei gwneud hi’n anoddach i sefydliadau godi refeniw y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr.

Mae’r rhain yn anawsterau sy’n benodol i Gymru, sy’n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu lefel ddigonol o gymorth effeithiol i gefnogi’r hyn y mae wedi gofyn i’r sector ei wneud.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymddiriedolaethau a sefydliadau’r DU o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd yna yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y sector yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol i alwad y Llywodraeth. Roedd prinder sgiliau priodol yn y sector yn thema gyffredin yn y dystiolaeth a gyflwynwyd. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu adnodd sy’n cynnig arbenigedd ar godi arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol bach, yn debyg i’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru.

Fel y gellid ei ddisgwyl, gwelsom fod sefydliadau mwy o faint yn fwy tebygol o lwyddo wrth wneud cais am grantiau gan fod ganddynt well fynediad at sgiliau priodol (er enghraifft, o ran ysgrifennu ceisiadau effeithiol). O ystyried cyn lleied o’r cyllid sydd ar gael ledled y DU a ddyfernir y tu allan i Lundain a’r de-ddwyrain, mae’n ddealladwy bod yna gystadlu ffyrnig am yr arian sy’n weddill.

Yn y fath hinsawdd, nid yw’n syndod bod sefydliadau llai yn ei chael hi’n anodd cystadlu.

Mae hyn yn pwysleisio’r angen am gymorth sydd wedi’i deilwra, sy’n cydnabod anghenion a galluoedd gwahanol y sefydliadau celfyddydol ledled Cymru.

Nid yw hynny’n golygu na ddylai’r rheini sy’n rhan o’r sector archwilio pob cyfle i gynyddu eu hincwm nad yw’n gyllid cyhoeddus. Cawsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth wneud ceisiadau am gyllid.

Roeddem yn falch o glywed am effaith cenhadaeth fasnachu Llywodraeth Cymru i Tsieina, a oedd yn cynnwys dirprwyaeth ddiwylliannol a drefnwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cwmni theatr sy’n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu yw Hijinx, a dywedodd wrthym fod y daith hon wedi agor drysau i deithiau rhyngwladol a chydweithio yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil ar farchnadoedd rhyngwladol sy’n cynnig potensial o ran twf i artistiaid Cymru, a lle bo modd, i gynnwys elfen ddiwylliannol ar deithiau masnach, ochr yn ochr â strategaeth i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol.

Ar ôl galw ar y sector celfyddydol i ddibynnu llai ar gyllid cyhoeddus, yr hyn sy’n glir yw bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig lefel briodol o gymorth goleuedig sydd wedi’i deilwra os yw’n disgwyl i’w galwad gael effaith gadarnhaol yn y sector.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor a’i argymhellion yma.

Dilynwch Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Twitter @SeneddDGCH

Dathlu Ymrwymiad y Cynulliad i Gynaliadwyedd ar gyfer Awr Ddaear

‘Gwnewch addewid i’r blaned’ yw’r thema ar gyfer Awr Ddaear eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn 24 Mawrth rhwng 20:30 a 21:30. Bydd y Cynulliad yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni drwy ddiffodd goleuadau’r Senedd, Ty Hywel a’r Pierhead. Mae llawer o’n Haelodau hefyd wedi gwneud addewid i WWF (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd) i gefnogi’r ymgyrch.

Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni yn y Cynulliad, ac rydym wedi gosod cyfrifoldeb i ni leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol yn ein holl weithgareddau. Darllenwch fwy am sut yr ydym yn ymdrechu i wneud y Cynulliad yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Sut rydym yn sicrhau bod y Senedd yn gynaliadwy

Gwresogi

System gwresogi geothermig sy’n cael ei defnyddio i helpu i wresogi’r Senedd. Mae dŵr yn cael ei bwmpio 100 metr i lawr drwy 27 o dyllau turio lle mae gwres naturiol y ddaear yn ei dwymo. Yna, caiff y dŵr ei bwmpio yn ôl i help i yn ein system gwresogi. Cefnogir y broses hon gan boeler biomas sy’n defnyddio pren sy’n gynaliadwy o bob cwr o’r DU i ddarparu ffynhonnell tanwydd gymharol garbon niwtral.

Ym misoedd twymaf y flwyddyn, mae’r system yn gweithio fel arall. Wrth i’r dŵr gael ei bwmpio i lawr, mae’r ddaear yn gweithredu fel dalfa gwres. Yna, bydd y dŵr oer yn cael ei bwmpio’n ôl i oeri’r adeilad.

Casglu dŵr glaw

Mae system casglu dŵr glaw y Senedd yn cael ei defnyddio yn y toiledau ac i lanhau’r adeilad. Mae hyn yn gweithio mor dda bod yr adeilad angen gwerth tua £40 o ddŵr y prif gyflenwad yn unig bob mis.

Caiff dŵr glaw sy’n disgyn ar do’r Senedd ei sianelu i du blaen yr adeilad. Yna mae dwy bibell yn ei gludo i danc lle mae’n cael ei hidlo trwy oleuadau uwchfioled (UV). Yna mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y toiledau neu i lanhau’r ffenestri.

Mae rhagor o wybodaeth am ein harferion cynaliadwy ar gael yma.

Ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig

Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae defnyddio llai o blastig yn fater byd-eang pwysig ac mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cwpanau coffi plastig ar ystâd y Cynulliad, tra’n ymrwymo i gael gwared â phlastigau tafladwy eraill dros y 6 mis nesaf lle bynnag y bo modd.

Prif bwyntiau cynaliadwyedd y Senedd

  • Dyfarnwyd safon ardderchog BREEAM i’r Senedd am ei nodweddion amgylcheddol yn y cyfnod dylunio.
  • Caiff y Senedd ei gwresogi gan gyfuniad o bwmp gwres o’r ddaear a sglodion pren a geir yn gynaliadwy, gyda nwy wrth gefn.
  • Mae’r pwmp gwres o’r ddaear yn y Senedd yn cynnwys 27 o dyllau turio wedi’u drilio 100m i’r ddaear – maent yn caniatáu i ni dynnu rhywfaint o wres ar ddiwedd yr haf, a gwrthdroi’r broses i helpu i oeri’r adeilad yn y gwanwyn.
  • Mae’r system casglu dŵr glaw yn golygu bod angen prynu gwerth tua £40 o ddŵr o’r prif gyflenwad yn unig bob mis.
  • Mae defnyddio’r system gwresogi biomas wedi arbed mwy na 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu cynhyrchu ers adeiladu’r Senedd.
  • Mae’r Senedd yn cael ei hawyru’n naturiol; mae’r ffenestri’n agor eu hunain i newid tymheredd yr aer neu roi mwy o ocsigen i’r ystafelloedd.
  • Mae’r cwfl ar do’r Senedd yn creu gwasgedd aer negyddol. Mae hyn yn caniatáu i awyr iach gael ei dynnu i fyny drwy’r adeilad, ac yn golygu nad oes angen ei oeri’n artiffisial yn ystod y misoedd cynhesach.
  • Mae gosod goleuadau LED yn lle llawer o hen oleuadau’r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi arbed mwy na 50 tunnell o CO2.
  • Mae’r ffaith bod llawer o wydr ac arwynebau adlewyrchol yn y Senedd yn golygu bod angen llai o oleuadau artiffisial. Os edrychwch i fyny pan fyddwch chi’n ymweld â’r Neuadd neu’r Oriel, ac mae’n eithaf tebygol y gwelwch fod y goleuadau i ffwrdd yn ystod y dydd.

Rydym wedi cael gwared â chwpanau coffi tafladwy, ac rydym yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy gan gynnwys biomas, pwmp gwres ddaearol, ac yn fuan yn newid i drydan tariff gwyrdd.

Rydym yn gosod pwyntiau codi cerbydau trydan yr wythnos hon, ac yn archwilio’r posibilrwydd o gar pwll trydan.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r plastig tafladwy yn raddol lle bynnag y bo modd dros y 6 mis nesaf, a chompostio ein holl wastraff bwyd, gan gynnwys hynny o ddigwyddiadau.

Ymunwch â’r sgwrs yn ystod Awr Ddaear eleni gan ddefnyddio #AwryDdaear / #EarthHourWales a chadwch lygad am y diffodd byd-eang am 8.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr agweddau amgylcheddol ar waith y Cynulliad, ewch i dudalennau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG.

Isafbris am Alcohol – Ai Dyma’r Ateb Cywir?

Fel rhan o’n hymchwiliad pwyllgor i’r isafbris am alcohol, gofynnwyd i bobl ifanc a phobl ddigartref am eu barn. Ymhlith y nifer o syniadau a gynigwyd oedd bod posibilrwydd y gallai canlyniadau anfwriadol ddeillio o godi isafbris am alcohol.

Y cefndir i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Ym mis Hydref 2017, gofynnwyd i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ystyried manylion Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn bwriadu gosod isafbris am uned o alcohol yng Nghymru, a’i gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw.

Nod y Bil yw diogelu iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus drwy gynyddu pris alcohol rhad, cryf fel seidr gwyn. Fel rhan o’i waith, roedd y Pwyllgor eisiau darganfod a fyddai’r newidiadau hyn yn effeithio ar bobl ifanc a hefyd a allai unrhyw ganlyniadau anfwriadol ddeillio o’r Bil ar gyfer pobl sy’n ddibynnol ar alcohol, yn enwedig pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Canlyniadau anfwriadol?

Roedd y Pwyllgor wedi clywed trwy ei hymgynghoriad na fyddai cynnydd yn y defnydd o gyffuriau yn un o ganlyniadau anfwriadol y Bil, fel y byddai pris cyffuriau penodol dal i fod yn ddrutach na phrisiau alcohol uwch. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod pris cyffuriau megis spice yn “…rhywbeth fel £20 ym Manceinion, a rhywbeth tebyg i £35 yn Llundain”.

Fel rhan o’r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor grwpiau ffocws gyda’r gymuned ddi-gartref a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys Tŷ Croeso yn Wrecsam, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Canolfan Huggard yng Nghaerdydd a Choleg Llandrillo.

Rhoddodd y bobl hynny a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws y Pwyllgor, yn benodol aelodau’r gymuned ddi-gartref, barn gyferbyniol i’r hyn roedd y Pwyllgor wedi clywed yn flaenorol. Roeddent yn meddwl y byddai prisiau alcohol uwch yn cael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gwthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol, gan byddai cyffuriau fel spice yn rhatach.

“Gallwch brynu potel o fodca am £ 15 ond gallwch gael pilsen am £ 7 – £ 10, a bydd ei effaith yn para drwy’r nos”

Myfyriwr coleg, Conwy

Oherwydd y wybodaeth cyferbyniol a dderbyniodd y Pwyllgor, gofynwyd am fwy o wybodaeth am brisiau rhai cyffuriau yng Nghymru yn benodol, a chanfuont gall brynu spice ar strydoedd De Cymru am £5-10, a atgyfnerthodd beth a glywodd y Pwyllgor drwy’r grwpiau ffocws.

Beth arall dywedodd pobl ifanc a’r gymuned ddi-gartref?

Roedd pwyntiau ychwanegol a godwyd drwy’r grwpiau ffocws yn cynnwys:

  • Yn hytrach na’u hatal rhag prynu rhai mathau o alcohol, y byddai pobl ifanc, yn syml iawn, yn aberthu rhywbeth arall yn eu cyllideb, neu’n dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael mynediad at yr alcohol y maent fel arfer yn ei brynu.

“Ni fyddai cynyddu pris alcohol yn newid y diwylliant yfed ond gallai arwain at fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dwyn”

Myfyriwr coleg, Abertawe

  • Dywedodd rhai bod y cynigion yn y Bil yn rhy eithafol, a defnyddiwyd Awstralia fel enghraifft o rywle na ellid gweini alcohol ar ôl 10 o’r gloch yr hwyr; tra bod awgrymiadau eraill yn cynnwys cyfyngu ar faint o alcohol y gellid ei brynu mewn diwrnod, a fyddai’n fwy effeithiol na newid y pris.

“Nid yw’r llywodraeth wedi rhoi cynnig ar unrhyw ffordd arall o fynd i’r afael â’r mater.”

Myfyriwr Prifysgol, Caerdydd

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

“Argymhelliad 1. Rydym yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).”

Yn gyffredinol, mae’r Pwyllgor yn teimlo y byddai’r Bil yn helpu i wella ac amddiffyn iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, yn dilyn ei hymgynghoriad, ac wedi ystyried y safbwyntiau a roddwyd gan aelodau o’r gymuned ddi-gartref a’r bobl ifanc hynny a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws, maent wedi mynegi pryderon y gallai’r Bil yn ei ffurf bresennol gael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gallai wthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol.

Mae’r Pwyllgor yn awgrymu “dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno”.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dweud yr hoffent weld isafbris am alcohol fel rhan o becyn ehangach o gamau a gwasanaethau cymorth i leihau dibyniaeth ar alcohol, a chodi ymwybyddiaeth o yfed cyfrifol.

Y camau nesaf

Caiff y Bil ei drafod heddiw (13 Mawrth 2018) yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yna cynhelir pleidlais i benderfynu a all fynd ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfu’r Cynulliad. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd.TV.

Gallwch ddarllen Adroddiad llawn y Pwyllgor a’r Crynodeb o dystiolaeth y grwpiau ffocws ar wefan y Cynulliad.

Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â’r tîm Allgymorth: TimAllgymorth@Cynulliad.Cymru

“Carreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn” – Joyce Watson AC

Blog gwadd gan Joyce Watson AC

Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant menywod yn cael y bleidlais. Ond nid pob menyw: y rhai ag eiddo a’r rhai oedd yn hŷn na 30. Trwy osod y bar hwnnw, roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn gwahardd menywod o’r dosbarth gweithiol yn fwriadol rhag pleidleisio, ac yn rhoi hawliau menywod yn is na rhai dynion. Felly wrth i ni ddathlu llwyddiant hanesyddol y swffragetiaid, rydym hefyd yn ystyried sut mae pob buddugoliaeth i fenywod wedi bod yn garreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn.

Pwrpas y gweithgor Cymru, Menywod a Gwleidyddiaeth yw cadw Cymru’n symud ymlaen ar y ffordd honno. Mae llawer i’w wneud. Ar fater sylfaenol cynrychiolaeth wleidyddol, er enghraifft: er bod gan y Cynulliad hanes da ar gydbwysedd rhwng y rhywiau (er hynny, rydym wedi llithro’n ôl ers 2003), mae’n ddarlun cymysg mewn mannau eraill. Cyn i mi gael fy ethol i’r Cynulliad yn 2007, roeddwn i’n gynghorydd sir yn Sir Benfro. Ar y pryd, roedd ychydig dros chwarter y cynghorwyr yng Nghymru yn fenywod. Heddiw, nid yw llawer wedi newid: mae 28 y cant o gynghorwyr yng Nghymru yn fenywod. Mewn gwirionedd, mae cynnydd wedi bod yn eithaf segur ers 20 mlynedd. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi.

Mae arnom angen mwy o fenywod yn gwneud mwy o benderfyniadau, a hynny  oherwydd y dylai democratiaeth gynrychioliadol fod yn union hynny: yn gynrychioliadol. Ond mae mwy o amrywiaeth hefyd yn arwain at well penderfyniadau. Er enghraifft, ar ddechrau datganoli, yn 1999, roedd gan Aelodau Benywaidd y Cynulliad fel Val Feld o Ddwyrain Abertawe ran ganolog wrth sicrhau darpariaethau cydraddoldeb pwysig yn Neddf Llywodraeth Cymru. Gwnaethant sicrhau bod pob Cyllideb Gymreig – pob ymrwymiad gwario – yn amodol ar asesiad effaith cydraddoldeb. Yn drist iawn, bu farw Val yn 2001. Mae ei hetifeddiaeth yn dal yn fyw, fodd bynnag, ac ar ddydd Mawrth (6 Mawrth), bydd plac sy’n coffáu cyfraniad enfawr Val yn cael ei ddadorchuddio yn y Senedd. Dyma’r Plac Porffor cyntaf yn anrhydeddu ‘Menywod Nodedig yng Nghymru’. Gobeithio y bydd llawer mwy.

Yn ogystal ag anrhydeddu’r merched fu’n arwain y ffordd, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn golygu edrych i’r dyfodol. Dyna pam yr wyf yn falch o fod yn cymryd rhan yng nghynllun mentora y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru 2018. Y nod yw cael mwy o fenywod i mewn i fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr, bydd 25 o fenywod uchelgeisiol yn cysgodi mentor, gan ennill profiad gwerthfawr iawn. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’m mentorai yn ddiweddarach y mis hwn.

Nid yw cynrychiolaeth wleidyddol yn broblem yng Nghymru yn unig, wrth gwrs. Ac fel y mae’r teitl yn esbonio, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud â phryderon ffeministaidd ledled y byd. Y llynedd, fe’m hetholwyd yn is-gadeirydd Seneddwragedd y Gymanwlad. Fel gwleidyddion benywaidd, rydym yn gweithio i wella bywydau y mwy na biliwn o fenywod a merched yr ydym yn eu cynrychioli. Yn amlwg, mae’r rhwystrau a’r heriau y maent yn eu hwynebu yn amrywio’n fawr ar draws y Gymanwlad. Ond, ochr yn ochr â chynrychiolaeth wleidyddol, mae mynediad i iechyd, addysg a phŵer ennill arian yn rhagofyniad i gydraddoldeb ymhobman.

Joyce Watson AC

 

 

Clywed Lleisiau Pobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal

Ar #DyddGofal18, roeddem yn meddwl y buasem yn edrych ar y sesiynau tystiolaeth diweddar o’n hymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal. Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc a oedd wedi cael profiad o fod mewn gofal ac roeddem yn falch iawn bod dau grŵp wedi cytuno i siarad â ni, a rhannu eu profiadau.

Roeddem yn arbennig o awyddus i glywed am:

  • y cymorth a’r gefnogaeth a gawsant mewn gofal;
  • faint o Weithwyr Cymdeithasol a lleoliadau a gawsant, a faint o ddewis, os o gwbl, oedd ganddynt yn y penderfyniadau hyn;
  • A oedd bod mewn gofal wedi effeithio ar eu haddysg;
  • A oeddent yn barod pan ddaeth yn amser gadael gofal; a
  • Beth y byddent yn ei newid i wneud y profiad o fod mewn gofal yn well i eraill

Roedd y bobl ifanc yn wirioneddol agored a didwyll gyda ni am eu profiadau a chawsom ddigon ganddynt i gnoi cil drosto. Y negeseuon allweddol a gododd yn y sesiynau oedd bod angen i blant fod yn ganolog i’r system, ac ei bod yn hanfodol nad yw gofal yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i bobl ifanc, ond yn cael ei wneud gyda phobl ifanc.

Yr angen am sefydlogrwydd ym mywyd pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Roedd pawb a ddaeth i siarad â’r Pwyllgor wedi cael nifer o leoliadau, rhai ohonynt yn ormod i’w cofio.  Roeddent hefyd wedi cael nifer o Weithwyr Cymdeithasol.  Clywsom nad oedd y penderfyniad i newid gweithwyr cymdeithasol neu hyd yn oed leoliadau (eu cartrefi mewn gwirionedd) y bobl ifanc yn cael ei drafod gyda nhw. Dywedodd un person ifanc wrthym ei bod wedi darganfod ddydd Gwener y byddai’n cael ei symud ddydd Llun, ond bod y maethwyr yn gwybod ers dros fis ei bod yn dod.  Dywedodd un arall wrthym sut roedd wedi cael pum newid i’w thîm cefnogi yn ystod y mis diwethaf – a oedd yn golygu ei bod wedi gorfod ailadrodd ei stori ar sawl achlysur, a oedd yn peri gofid a chryn drawma iddi.  Mae’r angen am gysondeb ym mywydau’r rhai sydd mewn gofal yn hanfodol, a dylid ystyried yr hawl i ymgynghori a chyfathrebu am eu bywydau yn hawl sylfaenol.

Yr effaith y mae bod mewn gofal yn ei chael ar addysg

Clywsom am yr effaith negyddol a gafodd newid lleoliadau ar addysg un person ifanc, gan olygu ei bod wedi colli tua dwy flynedd a hanner o’r ysgol uwchradd. Dywedwyd wrthym hefyd am stigmateiddio disgyblion mewn gofal fel un achlysur pan gafodd un o’r bobl ifanc ei ddal yn camymddwyn yn yr ysgol gyda disgybl arall, a chanfod bod y disgybl arall wedi cael cosb, ac nid oedd hi wedi cael cosb am ei bod mewn gofal.  Fodd bynnag, clywsom hefyd mai atgofion da un o’r bobl ifanc oedd ennill 14 TGAU A* i C er gwaethaf awgrymiadau na fyddai hyn yn bosibl. Ysbrydolwyd y Pwyllgor gan yr hyn yr oedd y person ifanc yma wedi’i gyflawni, ond fe’i digalonwyd bod hyn y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ohono. Mae’n rhaid inni fel cymdeithas sicrhau bod y dyheadau a osodwn ar bobl ifanc yr un fath waeth pwy ydynt. Mae uchelgais plant mewn gofal yr un mor ddilys ag uchelgais unrhyw blentyn arall ac felly mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.

Cymorth ar gyfer y sawl sydd ar fin gadael gofal

Clywsom lawer am y ffaith mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sydd ar fin gadael gofal – dywedwyd wrthym:

“They are quick enough to take us off our parents but not quick enough to help us stand on our own two feet”.

Clywsom nad oedd llawer o bobl ifanc yn gwybod sut i ddefnyddio peiriant golchi, neu ariannu mynd i siopa am fwyd wrth adael gofal.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall y newid i fod yn oedolyn fod yn fwy anodd i bobl sy’n gadael gofal na llawer o’u cyfoedion o oed tebyg. Mewn system lle rydym yn disgwyl i’r grŵp hwn o bobl ifanc fynd allan ar eu pen eu hunain yn 18 oed (er bod hyn yn dechrau newid gyda’r cynllun ‘pan fydda i’n barod’), mae angen i garreg filltir o’r fath fod yn broses a gefnogir.

Camau nesaf ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Roedd y sesiynau tystiolaeth hyn yn rhan allweddol o’r ymchwiliad i sicrhau bod yr holl leisiau perthnasol yn cael eu clywed. Rydym am ymgorffori’r diwylliant fod pobl ifanc yn ganolog i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb barodrwydd yr unigolion hyn i dreulio amser yn siarad â ni, a helpu ein dealltwriaeth o’r materion y maent yn eu hwynebu.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn parhau a bydd yn ymestyn drwy gydol y Pumed Cynulliad, gan ein bod yn benderfynol o gadw’r grŵp hwn o blant a phobl ifanc yn uchel ar yr agenda wleidyddol, nes bod y canlyniadau y maent yn eu haeddu yn cael eu cyflawni.

Fel aelod o leiafrif – a yw eich hanes o bwys?

Fel rhan o’n gwaith i goffáu mis Hanes LGBT, mae ein blog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Norena Shopland (@NorenaShopland), awdur Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales.

Pan gyhoeddwyd fy llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales ddiwedd y llynedd, un o’r cweistynau a ofynnwyd i mi oedd pam wnes i ei ysgrifennu.

Ni ofynnwyd y cwestiwn fel mater o ragfarn, ond oherwydd pryder am ba mor ddefnyddiol oedd gwaith a oedd yn canolbwyntio ar leiafrif o fewn lleiafrif gyda chynulleidfa yr oedd pobl yn tybio iddi fod yn gyfyngedig.

Ar yr olwg gyntaf, roedd yn ymddangos bod ganddynt bwynt – mae Cymru yn wlad fechan, gyda 4.8 y cant o boblogaeth y DU yn unig; ac o ystyried hanes, a yw hyd yn oed yn angenrheidiol diffinio bob person neud digwyddiad i fod yn Gymreig neu’n Seisnig? Wedi’r cyfan, mae cyfreithiau’r DU yn effeithio ar bawb, ac mae pawb mwy neu lai yn cael yr un profiadau o dan y cyfreithiau hynny.

Gellir gofyn yr un cwestiwn i leiafrifoedd eraill sy’n fwy, sydd prin yn fwy nag 20 y cant o’r boblogaeth megis pobl dduon a phobl o dras Asiaidd sydd tua 13 y cant. Er y gallwn gysylltu hanesion amrywiol ynddynt eu hunain, a oes angen trafod, er enghraifft, bobl Gymreig a phobl Seisnig sy’n ddu neu o dras Asiaidd mewn categorïau gwahanol?

Cyn ateb, hwyrach ei bod yn ddefnyddiol ystyried sut y gellid mynd o amgylch canfod yr unigolion ar y cofnod ysgrifenedig, a all fod yn dasg fawr ynddi’i hun, ac mae hyn yn rhywbeth y gwnes i daro arno wrth ysgrifennu Forbidden Lives. Un o’r rhesymau y mae gennyf ddiddordeb yn hanes LGBT fy ngwlad, sy’n 6-10 y cant o’r boblogaeth yn dibynnu ar ba ystadegau a gaiff eu defnyddio, yw gan i bobl o Gymru gael eu defnyddio yn hanes y DU heb unrhyw gyfeiriad at eu gwlad brodorol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg wrth ddathlu Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror wrth i bobl fel Ivor Novello, Menywod Llangollen, Leo Abse, a nifer o bobl eraill gael eu cynnwys yn y DU, neu’n amlach na hynny, y cyd-destun Seisnig.

Prin y mae llyfrau hanes LGBT yn cynnwys gwlad frodorol unigolyn, nac unrhyw gyfeiriad at Gymru neu bobl Cymru – rhywbeth sydd hefyd yn wir am wledydd eraill. Er enghraifft, bydd hanes LGBT llawer o wledydd yn cynnwys cyfeiriadau at, er enghraifft, waith ar rywoleg a wnaed yn yr Almaen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ni fydd yr Almaen yn ymddangos yn y mynegai fel y cyfryw. Pe hoffech sefydlu hanes yr Almaen o hanes yn gyffredinol, ni ellid gwneud hynny.

Y benbleth o ran hanes LGBT Cymru

Oll y mae hyn yn ei olygu yw bod rhaid chwilio ymhell a thrwy sawl cyfrwng i sefydlu hanes LGBT Cymru. Rhywbeth arall sy’n anodd mewn perthynas â Chymru, yn annhebyg i wledydd eraill megis yr Almaen, yw bod pobl Cymru am lawer o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a thu hwnt wedi cael eu cyfeirio atynt i fod yn Saeson.

Fodd bynnag, wedi imi oresgyn sawl rhwystr i sefydlu’r bywydau a’r digwyddiadau sydd i’w cael yn Forbidden Lives, beth am y cwestiwn gwreiddiol sef ‘pam mynd i’r holl drafferth’? Wedi’r cyfan, mae rhai o’r bobl yr wyf yn eu cynnwys eisoes yn ymddangos yn hanes y DU a, thra bod nifer o fy storïau i naill ai’n amlygu hanesion na wyddys amdanynt yn eang, neu sy’n gwbl newydd, pam na allent gael eu hychwanegu yn syml at hanes y DU?

Wel, mi ellid gwneud hynny. Ond mae cwestiynau llawer pellach i’w cael. Dangosodd y llyfr fod pobl o Gymru wedi bod yn hynod o ddylanwadol wrth siapio hanes LGBT, megis Wolfenden a’r Ddeddf Troseddau Rhywiol – dau beth a newidiodd y gymdeithas gyfan. Beth a achosodd y Cymry hyn i fod mor ddylanwadol? Mewn gwirionedd, mae’r llyfr wedi codi cyfres gyfan o gwestiynau na ellir eu trafod yn fanwl yma, ond sy’n ymwneud â phrofiadau gwahanol i’r rhai a gafwyd yn Lloegr.

Mae hefyd angen inni ymgysylltu’n fwy ag amgueddfeydd, archifdai, ysgolion a gyda phobl sy’n rhan o hanes LGBT, ac mae angen inni gael unigolion lleol i wneud hynny – po fwyaf o Gymry LGBT y gallwn ymgysylltu â nhw y gorau. Mae rhagor o ymgysylltu yn arwain at ddealltwriaeth well o amrywiaeth a llai o wahaniaethu.

Felly, yn y diwedd, beth oedd fy ateb – pam mynd i’r holl drafferth?

Oherwydd ar wahân i’r hanes a’r wleidyddiaeth, maent yn storïau da iawn – ac wedi’r cyfan, mae pawb yn hoff o stori dda!

**********************************************************************************

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Rydym wedi cael ein henwi gan Stonewall fel y Prif Gyflogwr yn y DU i bobl LGBT, Prif Gyflogwr i bobl Trawsryweddol, ac mae ein rhwydwaith gweithle wedi cael Cymeradwyaeth Uchel am eu gwaith. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, cysylltwch â’r Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Logo Stonewall - Cyflogwr Y Flwyddyn Logo stonewall - Prif Gyflogwr Traws

Logo Stonewall - Canmoliaeth Perfformwyr Disglair Logo Stonewall - Grwp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel

‘Methiant cenedl’ i ddathlu a nodi cyfraniad merched – Y Llywydd, Elin Jones AC

Cyhoeddwyd yr ethygl hon yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw ar 6 Chwefror 2018. Mae’r erthygl wreiddiol ar gael yma.

Mae gen i deimladau cymysg wrth nodi’r canmlwyddiant pwysig hwn.

Cymysg yn yr ystyr ei bod hi’n dal i fod yn gwbl anghredadwy i mi mai dim ond canrif sydd ers i fenywod gael unrhyw lais yn y broses ddemocrataidd – a hyd yn oed wedyn, dim ond rhai menywod enillodd y bleidlais ym 1918.

Mae’n fy rhyfeddu hefyd bod menywod yn dal yn gorfod brwydro a gwrthdystio dros gydraddoldeb yn y byd gwleidyddol.

Mae datblygiadau cadarnhaol wedi bod wrth gwrs, a nifer yma yng Nghymru.

Roedd yr egwyddor o sicrhau cyfleoedd cyfartal wrth wraidd sefydlu’n Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, cymaint felly nes iddo gael ei ymgorffori yn neddfau a rheolau ein democratiaeth newydd.

Yn 2003, ein Cynulliad ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol yr un nifer o fenywod a dynion, ac er bod nifer y menywod etholedig wedi lleihau rhywfaint ers hynny, mae’r Cynulliad wedi cynnwys cyfran uwch o aelodau benywaidd na Thŷ’r Cyffredin, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar hyd y blynyddoedd.

Rwy’n weddol sicr y byddai’r ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf yng Nghymru, Millicent Mackenzie, yn falch iawn ohonom.

Millicent sefydlodd Cangen y Suffragettes yng Nghaerdydd, ac mi safodd, yn aflwyddiannus, fel ymgeisydd sedd Prifysgol Cymru ym 1918.

Mae’n destun embaras i mi mai dim ond yn ddiweddar ges i wybod amdani, ond efallai bod hynny’n adlewyrchu ein methiant fel cenedl i ddathlu cyfraniad ein merched ar hyd yr oesoedd.

Hyd yn oed nawr, yn oes newydd datganoli, pwy sy’n cofnodi neu’n ysgrifennu am gyfraniadau menywod i lywodraeth neu Senedd Cymru?

Oes, mae gennym resymau dros ddathlu ac mae angen gwneud hynny’n amlach.

Ond pam felly ydw i’n teimlo braidd yn ddigalon am elfennau o’n diwylliant gwleidyddol heddiw, o ran y modd y mae wedi esblygu a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar fenywod sy’n gweithio yn y maes yn 2018?

Yn un peth, mae’r hinsawdd wleidyddol ar lefel rhyngwladol wedi newid, a bellach, mae naratif cyhoeddus yn cael ei wthio gan rai carfanau gyda’r bwriad penodol o danseilio ymdrechion dros gydraddoldeb.

Alla i ddim, ac ni ddylem anghofio am yr hyn ddigwyddodd i’r Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, gafodd ei llofruddio yn 2016, nag ychwaith am y bygythiadau o drais yn erbyn gwleidyddion benywaidd blaenllaw eraill – yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ymgyrch Me Too

Ac yna mae’r broblem arall sydd wedi codi yn y penawdau’n ddiweddar – er nad problem newydd yw hi yn y byd gwleidyddol – sef achosion o aflonyddu, bwlio ac ymddygiad amhriodol.

Mae gwaith sylweddol ar droed yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn San Steffan er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau a pholisïau priodol mewn lle er mwyn delio â chwynion o’r fath.

Ein nod fydd ceisio sicrhau a hyrwyddo parch ac urddas yn ein Seneddau, ond mae’n destun siom a rhwystredigaeth ein bod ni heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn gorfod mynd i’r afael â hyn o gwbl.

Digon yw digon oedd neges yr ymgyrch “fi hefyd” neu #metoo – datganiad pwerus gan fenywod o gyd gefnogaeth a gwrthwynebiad.

Ac roedd ysbryd yr ymgyrch honno a’r brwdfrydedd dros sicrhau lle i fenywod yn ein Senedd yn bresennol yn y Siambr rhai wythnosau yn ôl hefyd mewn dadl ar gydraddoldeb yng ngwleidyddiaeth Cymru. Roedd hyn yn gyfle i Aelodau benywaidd a gwrywaidd fel ei gilydd i godi pen a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llais menywod yn ein gwleidyddiaeth genedlaethol.

A dyna yr ydw i am ei ddathlu heddiw, sef parodrwydd rheini heddiw ac ar hyd y ganrif ddiwethaf i ddal ati a gweithredu’n gadarnhaol er mwyn gwrthsefyll anghyfiawnder a rhagfarn.

Ac o wneud hynny, rydw i am achub ar y cyfle i ddiolch i fenywod o bob plaid a dim plaid – yr etholedig rai a’r rheiny na lwyddodd i gael eu hethol – am fod yn barod i roi eu henwau ar y papurau pleidleisio, i fod yn ymgeiswyr etholiad a gwneud gwahaniaeth yng ngwyneb lliaws o rwystrau.

Mae angen mwy o fenywod ar ein llwyfannau cyhoeddus lleol a chenedlaethol i ddilyn yr esiampl osododd Millicent Mackenzie ganrif yn ôl a gwireddu ei dyhead hi o herio rhagfarn gyda dewrder er mwyn newid ein diwylliant gwleidyddol a sicrhau cydraddoldeb go iawn i genedlaethau’r dyfodol.

Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru