Author: Blog Author

Dechreuwch eich gyrfa mewn diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i’n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.

Swyddogion Diogelwch

Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’n ymweld ag ef a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r ystad.

Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael, cysylltwch â ni.

A oes gennych ddiddordeb? 

Ein Swyddogion Diogelwch Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle i chi.

Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?

“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy’n hoffi siarad â’r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane

“Mae’n wych i deuluoedd ac mae’r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol.”
Dean

Agoriad swyddogol y pumed Cynulliad

Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru – y Senedd a’r Pierhead – a gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio i’r Cynulliad?

“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy’r amser.”
Shane

Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Olympiaid a pharalympiaid Cymreig

Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?

Yn ogystal â monitro’r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae’r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau Trip Advisor a Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:

“… swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr …”

 “… swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog …”

“Mae’r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw’n dweud “Croeso i adeilad Cynulliad Cymru … ” gyda gwên gyfeillgar y mae’n cael effaith dda.”

 Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?

“Yr Agoriad Brenhinol – bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog”. Dean

“Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae’n un o fy arwyr”. Shane

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am y swydd?

“Mae’r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein Tudalennau Recriwtio.

 

Recriwitio ar gyfer Swyddogion Diogelwch ar hyn o bryd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.

Cor meibion yn y Senedd

Gwlad mewn Geiriau

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, gwnaethom ofyn i gannoedd o bobl ddisgrifio beth y mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw mewn dim ond un gair…

Gwnaethom wahodd ymwelwyr â’r Senedd i ysgrifennu eu geiriau ar gerdyn post a’i adael gyda ni. Gwnaethom hefyd ffilmio rhai gwirfoddolwyr hynod o wladgarol…

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o eiriau yn dangos ystod o emosiynau, cysylltiadau a safbwyntiau. Mae’n ein hatgoffa am yr holl leisiau gwahanol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cynrychioli.

Gwlad mewn geiriau / Wales in your words

Efallai ei fod hefyd wedi cadarnhau ambell beth yr oeddem ni’n ei wybod yn barod…


Nid yw’r tywydd yn dda iawn yng Nghymru… 

Roedd llawer o eiriau yn cyfeirio at hinsawdd enwog Cymru, gydag oer, llwyd, glawiog a gwlyb oll yn cael eu cynnig. Roedd un cerdyn post yn nodi’r gair cynnes, gyda nodyn ar ôl hynny’n egluro ‘ond nid y tywydd’. Rhag ofn i ni gamddeall.

warmcard

rainy-grey-cards

…ond mae’n brydferth ac rydych yn falch ohoni.

Ymhlith y geiriau mwyaf poblogaidd roedd amrywiadau ar y geiriau prydferth a balchder. Rhoddwyd geiriau fel trawiadol, golygfaol, mynyddoedd a gwyrdd hefyd, gan gyfeirio at dirwedd unigryw’r wlad.

stunning-green

pride-balchder

Mae Cymru yn wlad llawn hanes, diwylliant a chân… 

Roedd llawer o eiriau’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Cymru, gyda nifer ohonoch yn dewis diwylliant, hanes, iaith, chwedlau, rygbi a cherddoriaeth.

Er na ddewisodd neb pêl-droed, fe ddewisodd rhywun Bale!

culture-rugby

Cymru yw eich cartref…

Cartref, adref a home yn Saesneg oedd y gair mwyaf poblogaidd ym mhob iaith. Cawsom lawer o eiriau cysylltiedig sy’n creu ymdeimlad o gartref a pherthyn, gan gynnwys: cymuned, hiraeth, ynghyd, croeso, etifeddiaeth, unedig, cariad, undod a gwreiddiau.

home-circle

Continue reading “Gwlad mewn Geiriau”

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin

Bydd y Pwyllgor Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn archwilio’r strategaeth i leihau tlodi yng Nghymru a materion eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru.

blog-header-cy

Bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 17 Chwefror am 11.00 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin.

Beth mae’r pwyllgor yn ei wneud?

Mae gan y Cynulliad sawl pwyllgor sy’n cynnwys Aelodau’r Cynulliad o’r gwahanol bleidiau gwleidyddol i edrych yn fanwl ar wahanol bynciau, h.y. iechyd, addysg a diwylliant. Un o’u swyddogaethau yw ymchwilio i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da.

Maent yn gwneud hyn drwy ofyn am farn y cyhoedd a thrwy gael mewnbwn gan arbenigwyr, elusennau a sefydliadau eraill. Maent hefyd yn mynd ati’n rheolaidd i holi Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet Llywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cwrdd unwaith bob tymor yn unig, ac (fel y mae’r enw yn ei awgrymu) mae’n edrych ar yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei wneud. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae pob un o’r Aelodau Cynulliad sy’n aelodau o’r pwyllgor hwn hefyd yn gadeirydd ar bwyllgorau eraill.

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog – Aelodaeth

Ann Jones AM (Cadeirydd) Llafur Cymru  Jayne Bryant AM Llafur Cymru
Huw Irranca-Davies AM Llafur Cymru Russell George AM Ceidwadwyr Cymreig
John Griffiths AM Llafur Cymru Mike Hedges AM Llafur Cymru
Bethan Jenkins AM Plaid Cymru Dai Lloyd AM Plaid Cymru
Lynne Neagle AM Llafur Cymru Nick Ramsay AM Ceidwadwyr Cymreig
Mark Reckless AM UKIP Cymru David Rees AM Llafur Cymru
 Simon Thomas AM Plaid Cymru

Beth mae’r Prif Weinidog yn ei wneud?

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd.

press-conference

Mae cyfrifoldebau’r Prif Weinidog yn cynnwys:

  • penodi Cabinet sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
  • arwain ar ddatblygu a chyflwyno polisïau;
  • rheoli’r cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
  • cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol, a
  • staff Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn cael ei drafod gan y Pwyllgor y tro hwn?

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar weledigaeth a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru. Darllenwch fwy am y mater.

Hoffai’r Pwyllgor hefyd drafod materion pwysig eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru. Os oes mater yr ydych am iddo gael ei drafod, gallwch awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Sut gallaf wylio?

statue-blog

Mae croeso i chi ddod i wylio trafodion y Pwyllgor. Cysylltwch â ni drwy ein llinell archebu. Os ydych yn byw yng Nghaerfyrddin neu yng ngorllewin Cymru, gallwch hefyd awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Os na allwch fod yno eich hun, bydd modd gwylio’r cyfarfod yn fuan iawn wedyn ar Senedd.tv.

Continue reading “Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin”

Beth all Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd.  Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

strip

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda’r galon.

Felly mae’n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth – mae modd profi’r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i’r gwrthwyneb.

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r broblem yn flaenoriaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei ‘nodau lles’ ac un ohonynt yw monitro ‘canran y bobl sy’n unig’.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a’r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.

Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i’r afael â’r broblem helpu unigolion i deimlo’n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i’w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter – @SeneddIechyd.

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i bobl Cymru benderfynu ar y materion y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt.

paint-halfsize-twitter-1-cy

Er bod Pwyllgorau’r Cynulliad yn ceisio cynnwys y cyhoedd yn eu gwaith yn rheolaidd, ac wedi gwneud hynny drwy ddulliau amrywiol (gan gynnwys cynnal digwyddiadau, grwpiau ffocws, sgyrsiau ar y we, arolygon barn, cyfweliadau fideo a gweithdai, ynghyd â defnyddio aps ceisio barn torfol), dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad ofyn i bobl Cymru benderfynu ar destun ymchwiliad.

Sut y cafodd y syniadau eu casglu?

Cynhaliodd James Williams o BBC Cymru Wales gyfweliad â Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, ar Facebook Live—y digwyddiad cyntaf o’r fath yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol. Anogodd Bethan bobl i gysylltu â hi ac i awgrymu meysydd blaenoriaeth.

Gwahoddodd y Pwyllgor bobl i awgrymu syniadau ar Facebook a Twitter a thrwy e-bost. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn parhau â’r sgwrs.

Beth ddywedodd pobl?

Cafwyd nifer o awgrymiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, a chafodd y syniadau hyn eu grwpio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor. Yna, gwiriodd yr Aelodau yr eitemau ar y rhestr gyhoeddus hon yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a oedd wedi dod i’r amlwg mewn sesiwn gynllunio flaenorol.

Roedd tipyn o dir cyffredin rhwng meysydd blaenoriaeth Aelodau’r Pwyllgor a’r rhestr gyhoeddus, gan gynnwys:

  • sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • rôl radio yng Nghymru
  • cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Continue reading “Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad”

#CadwTrefn: Y Llywydd a’r Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn ateb eich cwestiynau

Sut mae cadeirio cyfarfod o Aelodau Cynulliad neu Aelodau Seneddol? Beth ydych chi eisiau ei wybod am fywyd mewn siambr drafod?

Dau berson sy’n gwybod yn union beth mae’r swydd yn ei olygu yw Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r Gwir Anrhydeddus John Bercow AS, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Ar 2 Rhagfyr, byddwn yn rhoi cyfle unigryw i chi ddeall eu rolau pan fyddant gyda’i gilydd mewn sesiwn drafod fin nos yng nghwmni Adrian Masters o ITV Cymru Wales, yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

grey-2-cy

Caiff y gynulleidfa gyfle i glywed trafodaeth ddiddorol iawn, a holi’r Llywydd a’r Llefarydd yn bersonol.

Mae’r digwyddiad am ddim ac os hoffech gadw lle ffoniwch y Llinell Archebu ar 0300 200 6565, neu e-bostiwch cysylltu@cynulliad.cymru.

Anfonwch eich cwestiynau atom ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #CadwTrefn. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Facebook er mwyn ichi ofyn cwestiynau ar y pryd hefyd. Bydd y drafodaeth yn dechrau am 17.00.

Felly, beth allwn ni ei ddysgu gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, a beth allai ef ei ddysgu gennym ni? Oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei ofyn i’r Llywydd?

Rôl y Llywydd yw’r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi’i phennu yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Mae’r Llywydd yn cadeirio’r Cyfarfod Llawn, ac yn cadw trefn yn y Siambr gan fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Cyfarfod o’r 60 Aelod Cynulliad yw’r Cyfarfod Llawn.  Caiff ei gynnal yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd.

chamber-agle
‘Y Siambr’, siambr drafod y Senedd

Mae’r Llywydd yn cymryd rhan weithgar wrth gynrychioli buddiannau’r Cynulliad a buddiannau Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Cynulliad. Comisiwn y Cynulliad yw’r corff sy’n sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad y staff a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith yn effeithiol ar ran pobl Cymru.

Continue reading “#CadwTrefn: Y Llywydd a’r Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn ateb eich cwestiynau”

Ariannu’r Dyfodol – newidiadau i’r ffordd mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru

Simon Thomas AC/AMSut gallwn ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau ariannol cywir? Yn ddiweddar, bu Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad,  yn annerch cynhadledd ‘Dyfodol Diamod’ Swyddfa Archwilio Cymru.

Mewn tirwedd sy’n newid o hyd o ran cyllid yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed fod gennym weithwyr proffesiynol dawnus yn ein gwlad sy’n gweithio ar y cyd i graffu’n effeithiol ar wariant yng Nghymru.

Ar 1 Tachwedd cefais fy ngwahodd gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i siarad yng nghynhadledd Dyfodol Diamod 2016.  Yn ystod y gynhadledd lansiwyd cynllun newydd arloesol i gynyddu sgiliau’r sector cyhoeddus ym maes cyllid gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae mwy o luniau o Ddyfodol Diamod 2016 ar gael ar Facebook

Bûm yn siarad yn y gynhadledd yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwyllgor trawsbleidiol yw’r Pwyllgor Cyllid sy’n bennaf gyfrifol am adrodd ar wariant gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol. Y Pwyllgor Cyllid blaenorol wnaeth gymeradwyo’r cyllid ar gyfer ehangu’r Cynllun Hyfforddeion Ariannol a gafodd ei lansio yn y  gynhadledd ar 1 Tachwedd 2016.

Fy araith yn llawn ar gael i’w ddarllen yma:

Wrth siarad â’r hyfforddeion roeddwn yn awyddus i bwysleisio’r newidiadau i ddatganoli cyllidol wrth inni weld dechrau cyfnod pwysig mewn datganoli yng Nghymru. Gyda dyfodiad y trethi cyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd mae rôl y Pwyllgor Cyllid wrth sicrhau bod gwaith craffu effeithiol a meithrin hyder y cyhoedd yn digwydd yn bwysicach fyth. Eglurais sut yr ydym, fel Pwyllgor, ar hyn o bryd, yn craffu ar y ‘Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig’ a fydd yn disodli treth dir y Dreth Stamp ac yn disgwyl y ‘Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi’ cyn bo hir.

Bydd y trethi hyn ynghyd â datganoli cyfran o dreth incwm yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi tua £3 biliwn, gan greu cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng yr arian a gaiff ei godi a’i wario yng Nghymru.  Y newid hwn mewn grym cyllidol sy’n gyrru f’awydd i’n gweld ni yn meithrin ein talent gartref i raddau llawer helaethach.

Yn ystod fy araith, soniais am y rhwymedigaethau newydd sy’n ymwneud â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Daeth y Ddeddf i rym yn ystod y Cynulliad diwethaf. Ei nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn meddwl rhagor am:

  • gynllunio ar gyfer y tymor hir,
  • gweithio’n well gyda phobl a chymunedau,
  • edrych ar atal problemau.

Gan fod yr Archwilydd Cyffredinol yn meddu ar rôl mor allweddol wrth roi’r Ddeddf hon ar waith, roeddwn o’r farn ei bod yn bwysig i esbonio’r broses i’r hyfforddeion. Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol i lunio adroddiad ar sut mae cyrff cyhoeddus wedi cymhwyso’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy yn y ffordd y maent yn pennu eu hamcanion a’r camau y maent yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.  Mae’n ofynnol iddo gyflwyno’r adroddiad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o leiaf unwaith ymhob cylch etholiadol o bum mlynedd.

Gyda hynt datganoli yng Nghymru, cyflwyno ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ a ‘Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’, ni ellir bychanu’r pwysigrwydd o graffu effeithiol gan weithwyr proffesiynol dawnus ein gwlad.  Dyna pam rwyf yn ddiolchgar i’r Archwilydd Cyffredinol nid yn unig am fy ngwahodd i siarad yn y gynhadledd ar gyfer hyfforddeion ariannol, ond am sicrhau datblygiad a dilyniant y cynllun hwn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cyllid y Cynulliad drwy ymweld â cynulliad.cymru/seneddcyllid. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter – @SeneddCyllid.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Eu nod yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Gallwch ddarganfod rhagor am eu gwaith yn www.wao.gov.uk

Brexit yng Nghymru – Erthygl 50 a’r Uchel Lys: Beth mae’n ei olygu?

article-50-2-cy

Ar 3 Tachwedd 2016, penderfynodd Uchel Lys Lloegr a Chymru nad oes pŵer gan Brif Weinidog a Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad y Senedd.

Beth yw pwerau uchelfraint?

Mae sefydliadau’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor o “bwerau ar wahân“: y weithrediaeth, y ddeddfwrfa a’r farnwriaeth, ac maent yn gweithredu ar yr egwyddor honno.

  • Mae’r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a’r Llywodraeth (sy’n cynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion y Cabinet). Eu rôl yw cynnig cyfreithiau a gwneud polisïau;
  • Mae’r ddeddfwrfa yn cynnwys y Senedd, a’r holl Aelodau Seneddol nad ydynt yn rhan o Lywodraeth y DU. Eu rôl yw sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth y DU er budd pennaf y DU a’i phobl; ac
  • Mae’r farnwriaeth yn cynnwys yr holl farnwyr yn llysoedd y gyfraith, gan gynnwys llysoedd ynadon a thribiwnlysoedd. Penodir yr Uwch Farnwyr gan y Goron (neu’r Frenhines).

Mae’r egwyddor hon o “bwerau ar wahân” yn golygu y dylai ein Llywodraeth, ein Senedd a’n Barnwyr fod ar wahân o ran swyddogaethau.

Mae’r egwyddor yn awgrymu ei bod yn bwysig i’r holl bwerau hyn fod ar wahân rhag bod un o’r sefydliadau yn cael mwy o reolaeth dros y lleill – mae’n golygu dwyn i gyfrif a chadw cydbwysedd.

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, penderfynodd Llywodraeth y DU y byddai’n dechrau’r broses drwy ddefnyddio’i phŵer uchelfraint, a olygai na fyddai angen ymgynghori â’r Senedd yn y broses o wneud penderfyniadau. Roedd rhai yn dadlau bod canlyniad y refferendwm yn ddigon.

Pam oedd yr Uchel Lys yn rhan o hyn?  

Teimlai rhai pobl fod Llywodraeth y DU, drwy beidio ag ymgynghori â’r Senedd a chael Deddf Seneddol, yn gweithredu y tu allan i’w phwerau ac nad oedd yn rhoi cyfle i’r Senedd graffu ar ei dull o weithredu.

Gofynnwyd i’r Uchel Lys benderfynu, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol y DU, a ddylid caniatáu i’r Llywodraeth sbarduno Erthygl 50 fel hyn heb gyfeirio’r mater at y Senedd.

Heddiw, dyfarnodd yr Uchel Lys y byddai’n anghyfreithlon i Lywodraeth y DU sbarduno Erthygl 50 heb Ddeddf Seneddol. Gallwch ddarllen y dyfarniad llawn yma.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys drwy fynd â’r mater i’r Goruchaf Lys y mis nesaf.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, beth oedd sefyllfa Llywodraeth Cymru:

“Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson gydol yr amser – rydym yn derbyn penderfyniad y bobl ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.”

“Rydym yn gweithio’n ddiwyd i gael y telerau gorau posibl i Gymru ar gyfer gadael yr UE. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod pobl y pedair cenedl yn bwrw pleidlais er mwyn cryfhau sefyllfa negodi’r DU.”

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn edrych ar y goblygiadau i Gymru pan fydd y DU yn gadael yr UE. O fodelau masnach, y gyfraith ryngwladol a’r goblygiadau i amaeth ac ymchwil a buddsoddiad, mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed barn arbenigwyr i’w helpu i ddeall y materion y gallai Cymru eu hwynebu.

Bellach, mae’r Pwyllgor am glywed eich barn ynghylch beth ddylai fod y brif flaenoriaeth i Gymru cyn y broses ffurfiol o adael yr UE. Gallwch gyflwyno eich barn yma neu gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddMADY

Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

Wythnos diwethaf, canolbwyntiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar Amaethyddiaeth a Physgodfeydd a’r goblygiadau i Gymru wrth gefn penderfyniad y DU i  ymadael â’r UE.

Gallwch wylio’r sesiwn cyfan ar  Senedd.TV.

Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddwyd yr Aelodau banel o arbenigwyr i drafod eu barn ar y meysydd i’w blaenoriaethau yn y sectorau amaeth a physgodfeydd yn y negodi wrth i’r DU ymadael â’r UE, a’r heriau ar ôl i hyn ddigwydd.

Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Y prif faterion i Amaethyddiaeth

sheepview

Caiff y polisïau sy’n effeithio ar ffermio yng Nghymru a’r gadwyn cyflenwi bwyd eu pennu i raddau helaeth gan yr UE drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), deddfwriaeth diogelwch bwyd a lles anifeiliaid a hefyd yn anuniongyrchol gan reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Y PAC yw mecanwaith yr UE ar gyfer darparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr, ar gyfer diogelu cefn gwlad ac i gefnogi datblygiad ardaloedd gwledig. Mae’r PAC yn rhedeg am gyfnod o saith mlynedd. O dan rownd bresennol PAC, 2014-2020, bydd Cymru’n derbyn tua £322 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €355 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.

Llywodraeth Cymru sy’n uniongyrchol gyfrifol am weithredu’r PAC yng Nghymru, ac mae’n ofynnol iddi gydymffurfio â gwahanol Reoliadau’r UE sy’n gosod fframwaith cyfreithiol y polisi. Yn achos ffermwyr sy’n gymwys ar gyfer y PAC, mae hyn yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r taliadau uniongyrchol a gânt.

Sut fyddai’r DU yn tynnu allan o’r PAC? A fyddai’n cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser neu’n dod i ben yn syth ar  ôl i’r DU adael?

Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn dibynnu’n drwm ar y cymorthdaliadau presennol y mae’n ei dderbyn o dan y PAC i wneud elw. Mae hyn yn arbennig o wir i ffermydd ucheldir. Croesawyd cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn parchu’r lefelau presennol o daliadau uniongyrchol i ffermwyr tan 2020 gan yr undebau ffermio.

Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am eglurder ynghylch sut mae unrhyw gronfa ddosbarthu ar ôl ymadael â’r UE, sydd yno’n cael ei ddyrenni i Lywodraeth Cymru ac wedyn gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr Cymru. Yn ogystal, ceisiwyd eglurhad ynghylch y lefelau a’r mathau o unrhyw arian sydd ar gael ar ôl 2020.

Continue reading “Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd”

Angen mwy o gysondeb a thryloywder – Busnesau Cymru’n rhoi eu barn ynghylch Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau‘n treulio llawer o amser yn siarad â phobl yn y byd busnes yng Nghymru. Ardrethi busnes yw un o’r materion sy’n codi ei ben yn aml gan ennyn ymateb cryf.

Roedd hefyd yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ein hymgynghoriad yn ystod yr haf wrth inni ofyn i bobl pa waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Am y rheswm hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal sesiwn undydd cynnar yn edrych ar ardrethi busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn ar 5 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi manylion ailbrisio ardrethi busnes yng Nghymru.

Brecwast Busnes i glywed sylwadau pobl o bob cwr o Gymru

50committeepic

Gwahoddodd y Pwyllgor drawstoriad o gynrychiolwyr busnes am frecwast yn y Byd Cychod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i glywed eu barn ar y pwnc.

I sicrhau ein bod yn cael y darlun llawn gan fusnesau ledled Cymru, gwnaethom ffilmio cyfweliadau â busnesau ledled y wlad, er mwyn dangos fideo byr i’r sawl oedd yn bresennol, gan grynhoi rhai o’r materion allweddol i ysgogi trafodaeth.

Trafododd y busnesau yr anawsterau iddynt eu profi, gan awgrymu ffyrdd o wella’r system ar gyfer busnesau bach a chanolig. Dyma rai o’r materion a godwyd yn y fideo:

Byddai wedi bod o gymorth pe byddem wedi cael mymryn o seibiant, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu. Nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn, dim ond arian yn cael ei wario a ninnau’n dal i dalu ardrethi busnes…

Katia Fatiadou, Quantum Coffee Roasters Cyf, Bae Caerdydd

Pan rydym yn talu ardrethi busnes, nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl…felly mae ardrethi busnes yn gost i’r busnesau heb gael unrhyw beth yn ôl o gwbl.

Robert Griffiths, Ruggers Carpets, Merthyr Tudful

Byddai polisi ardrethi busnes llwyddiannus yn cael ei seilio ar gyfrifiad o broffidioldeb cwmni yn hytrach na gwerth ardrethadwy’r eiddo y maent yn gweithio ynddo ar hyn o bryd neu’r lleoliad y maent yn dymuno symud i mewn iddo.

Joshua Weaver, We are Promotional Products, Y Trallwng

Yn ystod y digwyddiad, y pynciau trafod mwyaf oedd sut mae ardrethi’n cael eu cyfrifo; yr hyn y caiff yr arian ei wario arno; p’un a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny; materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur); gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i’r dref; a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu.

Beth ddigwyddodd ar ôl y sesiwn frecwast?

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cynhaliodd y pwyllgor gyfarfod ffurfiol yn y Senedd, gan gymryd tystiolaeth yn gyntaf gan banel o arbenigwyr, ac yna gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy’n gyfrifol am ardrethi busnes yng Nghymru. Roedd y sesiwn, sydd ar gael i’w gwylio ar Senedd.tv yn pwysleisio’r angen am fwy o gysondeb a thryloywder mewn ardrethi busnes, ynghyd â system apelio well, ac eglurder ynghylch unrhyw newidiadau a allai godi yn y dyfodol.

Yn ystod y sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog, cyfeiriodd yr Aelodau sawl gwaith at yr hyn iddynt ei glywed gan fusnesau dros frecwast ac yn y cyfweliadau fideo.

Y camau nesaf

Yn y sesiwn frecwast, mynegodd rhai o’r cyfranogwyr fod ganddynt ragor o wybodaeth yr hoffent ei rannu â’r pwyllgor. Maent wedi cael gwahoddiad i fynegi hynny’n ysgrifenedig.

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd yn trafod ei gasgliadau, ac yna’n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gydag argymhellion ar gyfer gwella’r drefn bresennol.

Cadwch mewn cysylltiad

Aelodau'r Pwyllgor yr Econoi, Seilwaith a Sgiliau

Sefydlwyd y Pwyllgor i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion fel datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ni ar Twitter @SeneddESS.