Author: chrisblogassembly

Yr Hawl i Brynu: dyma beth y mae angen ichi’i wybod am y newidiadau arfaethedig yng Nghymru

Ydy cynlluniau Hawl i Brynu yn helpu tenantiaid fod yn berchen ar gartref neu effeithio ar gymunedau lleol yn negyddol? Dylid eu diddymu neu eu hatal?

Dyma rai o’r cwestiynau trafodwn gyda thenantiaid ledled Cymru fel rhan o’n hymchwiliad y gyfraith arfaethedig i Ddiddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig yng Nghymru.

Beth yw’r Hawl i Brynu?

Cyflwynwyd y cynllun Hawl i Brynu yn y DU yn 1980 i ganiatáu rhai tenantiaid i brynu eu tai cyngor am ddisgownt.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig newidiadau a fyddai’n dod a’r cynllun Hawl i Brynu i ben yng Nghymru.

Drwy gyflwyno’r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r farchnad dai i brynu neu rentu cartref.

Mae ein Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig y gyfraith hon i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a’i chymunedau.

Beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu?

Byddai’r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno’r gyfraith.

Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi.

Byddai’r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru.


Eisiau gwybod ein hargymhellion i
Lywodraeth Cymru ar newidiadau i Hawl i Brynu?

Cael yr adroddiad »


Sut gallai’r newidiadau effeithio arnaf i?

Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o’r newidiadau, mae’r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i’r diddymu digwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu’r wybodaeth honno i’r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i’r gyfraith arfaethedig ddod i rym.

Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i’r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau’n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny.

Eich barn chi

Ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus, roedd rhan allweddol o’r ymchwiliad hwn yn cynnwys ymgysylltu a gweithio gyda thenantiaid ledled Cymru i helpu i ddeall beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu iddynt hwy.

Drwy gynnal trafodaethau yng Nghaerdydd, Castell Newydd Emlyn, Bae Colwyn ac Ynys Môn, yn ogystal ag ar-lein ar Dialogue a Facebook, cafodd tenantiaid ledled Cymru gyfle i gymryd rhan, trafod a rhannu eu barn ar y gyfraith arfaethedig ac a ydynt yn teimlo bod angen gwelliannau.

Dylai tai cyngor fod ar gyfer y rhai mewn angen” – Tenant, Grŵp Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Sir Fôn

Cafwyd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer y Bil gan denantiaid a sefydliadau, a’r angen i ddiddymu’r Hawl i Brynu er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael mynediad at dai fforddiadwy, ac atal y golled bellach o ran y stoc tai cymdeithasol.

Wedi derbyn yr holl dystiolaeth, mae’r Pwyllgor wedi cytuno bydd diddymu’r Hawl i Brynu yn sicrhau bod y stoc tai cymdeithasol newydd a’r stoc sydd eisoes yn bodoli yn parhau i gael i’w defnyddio ar gyfer ei diben gwreiddiol, sef fel modd o ddarparu llety fforddiadwy ar rent gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf.

Yr effaith ar denantiaid cymwys a pherchentyaeth

Roedd y mwyafrif o denantiaid yn cydnabod y wasgfa y mae pobl yn teimlo bellach yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai.

Mae’r cyflog cyfartalog mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn llai na’r isafswm cyflog sydd eu hangen i fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau Cymorth I Brynu ac mae nifer o denantiaid yn cael eu cyflogi drwy gontractau dim oriau.

Dywedodd tenantiaid Ynys Môn fod y cyflog cyfartalog yn £14,000 i drigolion.

O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth o’r mentrau i gynorthwyo perchentyaeth ymhlith tenantiaid cyn y diddymu.  

Dyletswydd i roi gwybodaeth i denantiaiad

Mynegodd llawer o denantiaid eu pryderon ynghylch cyfathrebu’r newidiadau hyn gyda thenantiaid. Nad oes unrhyw fanylion yn y Bil ynghylch sut y dylai’r wybodaeth ofynnol gael ei chyfleu i denantiaiad neu ei haddasu i ddiwallu eu hanghenion amrywiol.

O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Bil I sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei gyfleu i denantiaiad yn y ffordd fwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu anghenion amrywiol. Dylai’r Llywodraeth profi’r wybodaeth ddraft gyda thenantiaid cyn iddi gael ei chwblhau er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.

“…mae pob dim angen mynediad at y cyfryngau cymdeithasol a’r we nawr… mae unrhyw beth sy’n digwydd nawr yn dyfynnu gwefan am ragor o wybodaeth… bydd pobl yn anwybodus os nad yw’r wybodaeth yn hygyrch” – Tenant, Rhwydwaith Tenantiaid De Cymru TPAS Cymru

Beth yw’r camau nesaf?

Nawr bod y Pwyllgor wedi rhoi ei argymhellion I Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella’r gyfraith arfaethedig, bydd Llywodraeth Cymru yn cael y cyfle i ymateb.

Cyn gwneud y newidiadau i’r gyfraith arfaethedig, bydd argymhellion y Pwyllgor yn cael eu trafod ymhlith holl Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli pobl Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

I gael yr holl wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, gellwch

  • Dilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCLlLCh; a
  • Mynd i dudalen y Pwyllgor ar y gyfraith arfaethedig

Deialog â’n democratiaeth

Ugain mlynedd yn ôl i fis Medi eleni, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain.

Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio i’w gael erioed. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyfnhau ei berthynas â phobl Cymru drwy ddulliau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.

tasglu-digidol-cyfryngau-cymdeithasol-yng-nghynulliad-cenedlaethol-cymru

Mae ein ffocws wedi bod ar y dinesydd Cymreig, sef defnyddiwr posibl llwyfan a gwasanaethau’r Cynulliad.

Ein man cychwyn yw y dylai pob gohebiaeth y Cynulliad gael ei chynllunio gyda buddiannau dinasyddion / defnyddwyr yn ganolog iddi, a dylai’r wybodaeth ynddi fod yn agored, er mwyn ceisio datblygu perthynas hirdymor â dinasyddion Cymru.

Yn ein hadroddiad rydym yn dangos sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio’r sianelau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol modern i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl ac yn poeni amdano, i gasglu tystiolaeth, gwybodaeth a barn, i gymryd rhan mewn amser real â phobl mewn cymunedau lleol a chymunedau o ddiddordeb.

Yna gall yr un cyfryngau ganiatáu i’r Cynulliad rannu gyda hwy yn uniongyrchol sut y mae eu cynrychiolwyr etholedig, yn unigol ac ar y cyd, yn ceisio ymateb i’r materion hynny.

Mewn rhai meysydd mae ein cynigion yn radical.

Rydym am i’r Cynulliad, ei Aelodau a’i staff, ddeall eu bod yn creu cynnwys: mae’r Cynulliad yn blatfform cynnwys sy’n casglu ffeithiau, gwybodaeth, data, sylwebaeth, barn, a dadansoddiadau, yn ysgrifenedig ac yn glyweledol, sydd naill ai’n arwain at weithredu neu weithiau – yn fwriadol – at beidio â gweithredu.

diwrnod-hacio-yn-y-senedd-bae-caerdydd

Senedd Lab (Diwrnod Hacio), fforio sut y gall arloesiad Digidol gwella’r ffordd mae’r Cynulliad yn ymgysylltu efo’r cyhoedd.

O’i drefnu’n iawn, mae hwn yn lle digidol dwys, gwerthfawr a democrataidd sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r genedl am y materion hynny sydd o’r pwys mwyaf iddi. Dylai fod yn arloesol, yn greadigol, ac yn ennyn ysbrydoliaeth.

Roedd ein grŵp yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau perthnasol, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, cynnwys digidol a datblygiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ein galluogi i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithredu.

Mae ein hargymhellion yn amrywiol.

Maent yn cynnwys yr awgrymiadau hyn:

  1. Dylai’r Cynulliad arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill (fel cylchlythyrau e-bost pwrpasol) i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.
  2. Dylai’r Cynulliad roi pobl, yn hytrach na’r sefydliad a’i brosesau, wrth wraidd straeon newyddion amserol ac anelu at wneud cysylltiad emosiynol â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
  3. Dylai’r Cynulliad greu cynnwys sy’n helpu pobl i ddeall y cysylltiadau, y gwahaniaethau a’r berthynas waith rhwng y Cynulliad a sefydliadau allweddol eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael â’r diffyg o ran gwybodaeth ddemocrataidd.
  4. Rhaid i Senedd TV fod yn haws ei ddefnyddio, gyda dull syml o alluogi pobl i ganfod a chlipio ffilmiau’n gyflym er mwyn eu cynnwys mewn pecynnau fideo neu eu mewnblannu ar dudalennau Aelodau’r Cynulliad, gwefannau allanol a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dylid mabwysiadu dulliau clyfar ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod sgyrsiau a chymunedau ar-lein, a chaniatáu i’r Cynulliad gymryd rhan ynddynt.
  6. Rhaid i’r Cynulliad fanteisio ar bob opsiwn amgen yn lle datganiad i’r wasg fel ffordd o hyrwyddo’i waith. Mae gan fapiau, ffeithluniau, blogiau, a chrynodebau byr y potensial i gyfleu negeseuon anodd mewn ffordd gofiadwy.
  7. Dylid cael adran benodedig hawdd ei defnyddio ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blatfform Hwb, gydag adnoddau ar gyfer addysgu sy’n gysylltiedig ag anghenion y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  8. Dylai’r Cynulliad feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i’w gwneud yn haws ymgysylltu â’r Cynulliad ac archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) am ei waith.
  9. Dylid mabwysiadu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf addas i ymgysylltu â phobl ifanc a dysgwyr. Dylai’r Cynulliad groesawu’r potensial ar gyfer ymgysylltu digidol gan ddefnyddio platfformau eraill fel Skype, Facetime, realiti rhith neu realiti estynedig.
  10. Dylid meddwl mwy am brofiad ymwelwyr yn ystâd y Cynulliad – y tu allan a’r tu mewn yn y Senedd a’r Pierhead – gan gynnwys tafluniadau, waliau fideo, realiti rhith a realiti estynedig ar yr ystâd.

Rydym hefyd yn argymell bod dathlu 20 mlynedd, yn 2019, ers sefydlu’r Cynulliad yn cael lle canolog mewn ymgyrch i hyrwyddo straeon datganoli, ac  yn argymell i’r Llywydd y dylai ystyried trefnu Gŵyl Ddemocratiaeth Cymru i gyd-fynd â’r pen-blwydd hwnnw.

person-yn-defnyddio-iphone-am-gyfryngau-cymdeithasol

Wrth bleidleisio dros Gynulliad Cenedlaethol ugain mlynedd yn ôl, creodd pobl Cymru sefydliad democrataidd newydd sy’n gweithredu, mae’n deg dweud, mewn byd cyhoeddus darniog.

Er i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau    pan oedd ein cyfryngau yn datblygu dulliau digidol, aethom ati mewn gwirionedd i greu llywodraeth gyhoeddus newydd yng Nghymru heb fod gan Gymru fyd cyhoeddus cydgysylltiedig. Nid ein gwaith ni fel grŵp oedd ystyried y cyfryngau yng Nghymru a’u heriau strwythurol – mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn ystyried hynny eu hunain.

Ein tasg ni oedd helpu’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu sut orau i feithrin deialog ddwys, ddiffuant a pharhaus gyda phobl Cymru.

Dyma’n hadroddiad. Ymlaen â’r drafodaeth!

lawrlwytho-adroddiad-tasglu-digidol