Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd – Cefnogi Athrawon a Phobl Ifanc

Lynne Neagle AC

Mae hunanladdiad yn bwnc anodd iawn ac yn rhy aml mae’n bwnc sy’n croesi meddwl llawer o bobl ifanc, gan gynnwys plant ysgol. Dyna pam, heddiw – ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd – rwy’n falch o groesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chanllaw cyntaf erioed i gefnogi athrawon ynghylch hunanladdiad a hunan-niweidio.

Hunanladdiad a phobl ifanc

Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc. Mae’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos cynnydd amlwg yn nifer y bobl ifanc sy’n marw trwy hunanladdiad a chynnydd sy’n peri pryder yn nifer y merched sy’n marw trwy hunanladdiad.

Gellir atal hunanladdiad, a dyna pam rwyf wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o atal hunanladdiad. Credaf fod yn rhaid i ni, fel gwlad, wneud popeth o fewn ein gallu i ymyrryd a rhoi stop ar farwolaethau ataliadwy.

Cynorthwyo pobl ifanc, athrawon ac ysgolion

Y ffaith drasig yw, yn 2017, bu farw tua 226 o blant ysgol ledled y DU drwy hunanladdiad. Mae’n amlwg bod angen canllawiau ar ysgolion i gefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad yn rheolaidd â phlant a phobl ifanc.

Yn wir, yn ein hadroddiad pwysig, Cadernid Meddwl, gelwais i yn fy rôl fel cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol am i ganllawiau o’r fath ar siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio gael eu cyhoeddi ar gyfer ysgolion. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando arnom ac y bydd, yr wythnos hon, yn lansio canllawiau i gynorthwyo staff ysgolion i ymateb i bobl ifanc sy’n meddwl am hunanladdiad neu sy’n hunan-niweidio.

Yr her nawr fydd gweithredu a mynd ymhellach fyth. Mae’r canllawiau’n gadarn ynghylch sut y dylai ysgolion ymateb i bobl ifanc lle mae’n glir eu bod yn mynd drwy’r felin, ond mae’n hynod bwysig ein bod ni’n codi pont i helpu ysgolion i gyrraedd y bobl ifanc hynny nad oes neb yn gweld eu bod yn mynd drwyddi, sef y rhai na wyddys amdanynt hyd nes ei bod yn rhy hwyr.

Mae dwys angen inni fod mewn sefyllfa lle ein bod nid yn unig yn ymateb i bobl ifanc mewn trallod amlwg, ond ein bod hefyd yn sicrhau bod trafodaethau sensitif a phriodol am hunanladdiad yn digwydd ym mhob ysgol.

Rwyf wedi credu ers tro mai busnes pawb yw iechyd meddwl mewn ysgol, felly, wrth groesawu’r canllawiau newydd, byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dull sensitif ynghylch atal hunanladdiad yn dod yn rhan arferol o amserlenni ysgolion.

Mae gan ysgolion a’r system addysg rôl allweddol i’w chwarae o ran creu gwytnwch emosiynol. Roedd yr adroddiad Cadernid Meddwl, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018, yn cynnwys map ar gyfer newid sylweddol o ran cefnogi iechyd emosiynol ac iechyd meddyliol plant.

Wrth wraidd ein hargymhellion roedd galwadau am fwy o bwyslais ar feithrin gwytnwch, ac ymyrraeth gynnar – i ymgorffori strategaethau iechyd meddwl a strategaethau ymdopi da a fydd yn aros gyda phobl ifanc am weddill eu hoes. 

Gwella’r dyfodol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion

Credaf yn gryf, os cawn ni hyn yn iawn i’n plant a’n pobl ifanc, bydd cymaint o bethau eraill yn disgyn i’w lle. Byddant yn dysgu’n well, byddant yn cyflawni mwy, a byddant yn cael swyddi gwell, ond byddant hefyd yn oedolion mwy gwydn. Rwy’n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwneud hyn yn iawn a rhwystro’r cynnydd a welir mewn problemau iechyd meddwl ac yn nifer yr hunanladdiadau ymhlith oedolion hefyd.

Nid ydym yn awgrymu y dylai athrawon ddod yn arbenigwyr iechyd meddwl. Ond hoffem weld bod pawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, sy’n gwirfoddoli, neu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, i helpu i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da a gallu dangos y ffordd at wasanaethau cymorth lle bo angen.

Yn ystod yr ymchwiliad Cadernid Meddwl, dywedwyd wrthym fod llawer o athrawon yn ofni dweud y peth anghywir. Rwyf wedi siarad ag athrawon sydd wedi dweud wrthyf eu bod yn ofni mynd adref gyda’r nos am mai nhw yw’r unig bobl sydd ar ôl a all helpu rhywun ifanc sy’n hunan-niweidio, ac nid ydynt yn gwybod beth i’w wneud.

Dyna pam yr ydym yn pwyso am i hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol – gan gynnwys sut i siarad am hunanladdiad – fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a rhan o eu datblygiad proffesiynol parhaus. Mae gwir angen i ni alluogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i deimlo’n gyffyrddus am gynnal sgyrsiau anodd.

Mae galluogi pobl i siarad am hunanladdiad yn allweddol. Fel aelod o’r grŵp gweinidogol ar y cyd a sefydlwyd mewn ymateb i Gadernid Meddwl er mwyn cyflymu’r gwaith ar ddull ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl plant, caf fy hun yn aml yn dweud os ydym yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd tosturiol â phobl ifanc, yna mae’n dilyn bydd iechyd meddwl yn fusnes pawb mewn ysgolion.

Rwy’n croesawu’r canllawiau newydd hyn fel cam ymlaen tuag at feithrin y dull tosturiol a charedig hwnnw, a gobeithio y bydd yn annog i bawb weld bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth atal hunanladdiad.

2 thoughts on “Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd – Cefnogi Athrawon a Phobl Ifanc

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.