Ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf

Ar benwythnos 19 – 21 Gorffennaf, ymgasglodd 58 o’r 60 o bobl a ddewiswyd fel rhai sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru yn Neuadd Gregynog, yn y Canolbarth, i gymryd rhan yn ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf. Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad gynnal y Cynulliad Dinasyddion hwn fel rhan o’i ddathliadau 20 mlynedd.

Roedd gan y Cynulliad Dinasyddion ddau gwestiwn i’w ystyried:

  • Sut y gall pobl yng Nghymru lywio eu dyfodol?
  • Pa feysydd datganoledig sy’n gweithio’n arbennig o dda a pha rai sy’n herio Cymru?

Cyfranogwyr y Cynulliad Dinasyddion

Dewiswyd chwe deg o gyfranogwyr, o blith ymgeiswyr o 10,000 o aelwydydd a ddewiswyd ar hap, i gymryd rhan. Roeddent yn gynrychioliadol o safbwynt demograffig o’r boblogaeth yng Nghymru. Nid oedd gan oddeutu 75 y cant radd prifysgol, nid oedd gan 25 y cant unrhyw TGAU neu gymhwyster cyfwerth, ac ni phleidleisiodd 60 y cant yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) yn 2016. Gan hynny, roedd y gymanfa wleidyddol hon yn wahanol i unrhyw un arall a gafwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf yng Nghymru.

Roedd y 60 unigolyn a ddewiswyd i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru 16 oed a hŷn o ran:

Oedran:

  • 16-29 – 23.5 y cant (14-15)
    • 39-44 – 22.4 y cant (13-14)
    • 45-59 – 23.9 y cant (14-15)
    • 60+ – 30.2 y cant (18)

Lefel addysg:

  • Dim cymwysterau – 25.9 y cant (15-16)
    • Lefel 1 neu 2 – 29 y cant (17-18)
    • Lefel 3 neu brentisiaeth neu arall – 20.5 y cant (12-13)
    • Lefel 4 neu uwch – 24.5 y cant (14-15)

Daearyddiaeth:

  • 12 o bobl o bob un o’r 5 rhanbarth etholiadol.

Ethnigrwydd:

  • Gwyn – 95.6 y cant (50)
  • BAME – 4.4 y cant (10 – penderfynwyd gor-gynrychioli’r categori hwn)

Nifer a bleidleisiodd yn etholiad 2016

  • Wedi pleidleisio – 40.7 y cant (24-25)
    • Anghymwys neu heb bleidleisio – 59.3 y cant (35-36)

Sgiliau Cymraeg (siarad, darllen, ysgrifennu, deall neu ryw gyfuniad o’r fath):

  • Oes – 26.7 y cant (16)
    • Nac oes – 73.3 y cant (44)

Rhyw (hunan-ddynodedig):

  • Gwryw – 51 y cant (30-31)
    • Benyw – 49 y cant (29-30)
    • Arall – 0 y cant (ni ddewisodd neb y categori hwn)

Penwythnos y Cynulliad Dinasyddion

Dechreuodd y Cynulliad Dinasyddion gyda chyfranogwyr yn ystyried y meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Cyflwynodd panel o siaradwyr wybodaeth gefndirol am y Cynulliad, ei gyllideb, ei bwerau a’i rôl. Yna gofynnwyd i’r cyfranogwyr nodi ar bapur:

Daeth y cyfranogwyr i gasgliadau ar y meysydd yr oeddent yn teimlo bod Cymru yn gwneud yn dda mewn perthynas â hwy, a’r meysydd yr oeddent o’r farn eu bod yn cynnig yr her fwyaf i Gymru.

“Clywais lawer o safbwyntiau diddorol ac amrywiol o amgylch y bwrdd – hoffwn weld rhai o’r rhain yn cael eu gweithredu”.


Niz, aelod o’r Cynulliad Dinasyddion.

Yna, canolbwyntiodd y cyfranogwyr ar y prif gwestiwn yr oedd Cynulliad Dinasyddion hwn i fod i roi sylw iddo, sef sut y maen nhw – pobl Cymru – am allu llywio eu dyfodol drwy waith y Cynulliad.

Clywodd y cyfranogwyr gan siaradwyr arbenigol a gyflwynodd dystiolaeth i’r Cynulliad Dinasyddion ynghylch y ffyrdd y gallant wneud hyn eisoes. Yn dilyn hynny, gwnaethant ganolbwyntio ar y ffyrdd ychwanegol y gallai pobl yng Nghymru wneud hyn yn y dyfodol.

Canolbwyntiodd y cyfranogwyr ar y swyddogaethau a ganlyn:

  1. Ffyrdd o lywio’r dyfodol drwy ddylanwadu ar waith pwyllgorau.
  2. Ffyrdd o lywio’r dyfodol drwy ymgysylltu â’r broses ar gyfer cymeradwyo’r gyllideb ddrafft.
  3. Ffyrdd o lywio’r dyfodol drwy ofyn cwestiynau i’r Llywodraeth.
  4. Ffyrdd o lywio’r dyfodol drwy helpu i osod agenda’r Cynulliad (e.e. y broses ddeisebau, Senedd Ieuenctid Cymru).

Adborth gan gyfranogwyr:

Llenwodd yr holl gyfranogwyr ffurflen adborth ar ddiwedd penwythnos y Cynulliad Dinasyddion, gan roi eu barn ynghylch a oedd cymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion wedi newid eu teimladau neu beidio o ran cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau yn fwy cyffredinol.

  • Cytunodd 91 y cant o’r cyfranogwyr yn gryf fod cymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion hwn wedi eu gwneud yn fwy awyddus i gymryd rhan mewn agweddau eraill ar y broses o wneud penderfyniadau.
  • Cytunodd 93 y cant yn gryf eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol yn sgil cymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion.

“Roedd y profiad o ddod yma, cwrdd â llawer o bobl wahanol, a gwrando ar safbwyntiau gwahanol yn wych – roedd yn benwythnos da iawn.”

Sarah, aelod o’r Cynulliad Dinasyddion

Yr adroddiad

Mae adroddiad ynghylch y Cynulliad Dinasyddion wrthi’n cael ei ddrafftio. Bydd yr adroddiad yn ystyried y materion a ganlyn:

1. Yr hyn y mae cyfranogwyr yn ei werthfawrogi fwyaf am Gymru fel y mae ar hyn o bryd;

2. Yr hyn y mae cyfranogwyr yn ei ystyried fel yr heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru;

3. Manteision ac anfanteision pob ffordd ychwanegol o lywio’r dyfodol;

4. Trefn dewis y cyfranogwyr o ran datblygiadau arloesol ym mhob un o’r pedair swyddogaeth a drafodwyd, a pham;

5. Trefn dewis y cyfranogwyr o ran yr holl ddatblygiadau arloesol, a pham;

6. Barn y cyfranogwyr ynghylch a ddylid ystyried mabwysiadu pob datblygiad arloesol ai peidio, a pham.

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth ragorol i’r Cynulliad o’r hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei ystyried fel yr heriau mwyaf a sut yr hoffai pobl yng Nghymru allu llywio eu dyfodol drwy waith y Cynulliad.

Y nod yw cyhoeddi’r adroddiad mewn digwyddiad cyhoeddus yn ystod Gŵyl Wleidyddiaeth Gwlad ddiwedd mis Medi, a bydd Comisiwn y Cynulliad yn trafod ei ymateb yn nhymor yr hydref.

Y tîm sy’n gyfrifol am y Cynulliad Dinasyddion

Casglwyd y dystiolaeth a’r wybodaeth i’r cyfranogwyr gan arweinwyr arbenigol y Cynulliad Dinasyddion, sef: Yr Athro Graham Smith, Athro Gwleidyddiaeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Democratiaeth ym Mhrifysgol Westminster a Dr Huw Pritchard, darlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Helpodd Huw drwy gasglu gwybodaeth gefndirol ar gyfer y Cynulliad Dinasyddion.

Hefyd, cydlynodd grŵp llywio Comisiwn y Cynulliad waith craffu a dadansoddi mewnol, ac fe roddodd Cymdeithas Hansard feirniadaeth ddiduedd allanol.

Yn ogystal â hynny, rhoddodd y siaradwyr arbenigol, sy’n academyddion ac ymarferwyr blaenllaw yn y maes hwn, gyngor ar ba mor gynhwysfawr, cywir a chytbwys oedd y dystiolaeth yr oedd y Cynulliad i’w chlywed ar y cyfleoedd sydd i’w cael nawr ac yn y dyfodol i bobl yng Nghymru lywio eu dyfodol. 

Roedd siaradwyr gwadd y Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys yr arweinwyr arbenigol, ynghyd â Dr Alan Renwick, Coleg Prifysgol Llundain, Dr Diana Stirbu, Prifysgol Metropolitan Llundain, Dr Clodagh Harris, Coleg Prifysgol Corc, yr Athro Cristina Leston-Bandeira, Prifysgol Leeds a Rebecca Rumbul, Ymchwilydd Arweiniol gyda My Society.

Comisiynodd Comisiwn y Cynulliad ddau sefydliad blaenllaw i gyflwyno a recriwtio’r Cynulliad Dinasyddion, sef y Sortition Foundation, sy’n darparu datrysiadau haenedig dethol ar hap, a’r Involve Foundation, prif elusen cyfranogiad cyhoeddus y DU.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.