Diwrnod Gwenyn y Byd: Gwenyn y Pierhead

Treuliodd y gwenyn yr hydref yn lleihau niferoedd a’n cynyddu eu stoc bwyd er mwyn sicrhau bod y broses aeafu mor effeithlon â phosibl.

Ar ôl bwrw golwg arnyn nhw’r tro diwethaf ym mis Tachwedd, roedd hi’n bwysig peidio ag agor y cwch gwenyn fel na fyddai’n oeri gormod.  Treuliodd y gwenyn y gaeaf yn defnyddio’r bwyd yr oedden nhw wedi’i storio yn y celloedd, sef mêl blasus gan fwyaf.  Mewn haid glos yn y cwch gwenyn, yn ysgwyd eu hadenydd i gadw’n gynnes, maen nhw’n llwyddo i gadw tymheredd craidd o 35 gradd!  Bydd y gwenyn hyd yn oed yn troi mewn cylch fel grŵp – i gadw’r frenhines yn gynnes yn y canol a sicrhau bod pob gwenynen yn treulio cyfnod teg o amser ar y tu allan.

Er mwyn helpu’r gwenyn drwy’r gaeaf hir a dechrau’r gwanwyn pan nad oes digon o fwyd naturiol ar gael, rhoesom rywfaint o ffondant iddyn nhw, sef math o fwyd siwgwraidd sy’n debyg i siwgr eisin .  Gallwch weld yn y lluniau isod sut y gwnaethon nhw ei ddefnyddio drwy fis Chwefror, mis Mawrth a dechrau mis Ebrill.

Cymerwyd rhai camau eraill hefyd i ofalu am y cychod gwenyn dros y gaeaf.  Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod digon o fwyd, clymwyd y cychod yn sownd yn eu lle i’w amddiffyn rhag gwyntoedd uchel, a gosodwyd gardiau llygod hefyd.  Byddai llygod wrth eu bodd mewn cwch gwenyn sych a chynnes yng nghanol y gaeaf, yn enwedig os yw’n llawn mêl!

Oherwydd ein hymdrechion bach ni a sgiliau naturiol y gwenyn, mae’r ddau gwch wedi goroesi’n ddiogel i fwynhau’r gwanwyn.  Rydym ni wedi bwrw golwg i wneud yn siŵr bod y gwenyn yn iach a bod ganddyn nhw ddigon o fwyd, gan aildrefnu rhywfaint ar y fframiau i sicrhau bod digon o le.  Maen nhw allan yn chwilota o gwmpas y Bae nawr – yn mwynhau’r cyfoeth o goed blodeuog a blodau sydd wedi blaguro ers iddi gynhesu.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.