Diwrnod Cofio’r Holocost 2018 – Grym Geiriau

logo Diwrnod Cofio’r Holocost
Logo Diwrnod Coffáu’r Holocost

Yr wythnos hon, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, sy’n ddigwyddiad a nodir ar 27 Ionawr bob blwyddyn. Cydlynir y trefniadau gan yr Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocaust, yr elusen a sefydlwyd ac a ariennir gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo a chefnogi Diwrnod Cofio’r Holocost yn y DU.

Nodi Diwrnod Cofio’r Holocost

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser i gofio’r miliynau o bobl a gollodd eu bywydau fel rhan o’r Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r hil-laddiadau pellach yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Y 27 Ionawr oedd y diwrnod y rhyddhawyd Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl, sef gwersyll rhyfel mwyaf y blaid Natsïaidd.

Eleni, mae Diwrnod Cofio’r Holocost hefyd yn nodi 25 mlynedd ers Hil-laddiad Rwanda, a 40 mlynedd ers diwedd Hil-laddiad Cambodia.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cynnig y cyfle i anrhydeddu goroeswyr y digwyddiadau hyn, i ddysgu gwersi o’u profiadau, ac i ddylanwadu ar ein cymdeithas heddiw. Gyda’u gwreiddiau wedi’u plannu mewn casineb, gwahaniaethu a hiliaeth, gwyddwn fod y rhain yn bethau y gellir eu hatal, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau dyfodol mwy diogel i bawb. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i ddechrau’r gwaith hwn.

Cipio o Gartref

Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw ‘Cipio o Gartref’. Mae cartref, wrth gwrs, yn fan cynnes a diogel sy’n bwysig iawn i’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau hyn, fel i bawb, ac mae colli ‘cartref’ yn un o’r ffyrdd y gall effeithiau trychinebus yr hil-laddiadau a’r erledigaeth hon ddylanwadu ar unigolion, ar gymunedau ac ar deuluoedd.

Mae’r thema eleni yn gofyn i bobl fyfyrio ar ganlyniadau posibl ‘cipio o gartref’  i’r rheiny yr effeithir arnynt, yn ogystal â’r rhwystrau a wynebwyd wrth iddynt geisio dychwelyd adref, neu geisio dechrau o’r dechrau i greu bywydau a chartrefi newydd, ar ôl i’r digwyddiadau ddod i ben.

“Ni ddylem byth anghofio erchyllterau’r Holocost”

Yr wythnos hon, casglodd Aelodau’r Cynulliad a staff ar risiau’r Senedd i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Amlygodd y Datganiad 90 Eiliad gan Dawn Bowden AC ymdrechion pobl o un o gymunedau Merthyr Tudful, a gasglodd ynghyd yr wythnos hon i nodi cwblhau gardd goffa’r Holocost, gyda chymorth Ymddiriedolaeth Goffa’r Holocost. Eglurodd fod yr hyn a ddechreuodd fel menter gan gymuned a chnewyllyn o  wirfoddolwyr bellach yn rhan o’r ymdrech goffa ryngwladol, o’r ymchwil ac o’r addysg yn ymwneud â’r Holocost. Dywedodd “ni ddylem byth anghofio erchyllterau’r Holocost, a dylem ddefnyddio’r amser hwn i fyfyrio ar amodau a oedd yn caniatáu i weithredoedd barbaraidd fel hyn ddigwydd.” 

Datganiad 90 Eiliad Dawn Bowden AC

Aelodau Cynulliad, staff ac aelodau’r cyhoedd yn ymgynyll ar steps y Senedd
Julie Morgan AC mewn digwyddiad ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost yn y Senedd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad cynhwysol, lle mae ein cyfleoedd cyflogaeth yn agored i bawb a lle gall pobl Cymru gymryd rhan weithredol yn ein gwaith. Drwy nodi dyddiau fel Diwrnod Cofio’r Holocost, cawn ein hysbrydoli i barhau i ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant i mewn i bopeth a wnawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar ein gwefan.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn: www.hmd.org.uk.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.