Craffu ar Gyfrifon – Beth yw hyn?

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn treulio rhan sylweddol o dymor yr Hydref yn ymgymryd â gwaith craffu ar gyfrifon ar gyfer Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.

Beth yw Craffu ar Gyfrifon?

Mae gwaith craffu blynyddol ar gyfrifon gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnwys ystyried cyfrifon ac adroddiadau blynyddol gwahanol gyrff sy’n cael eu hariannu gan y cyhoedd, i weld a oes unrhyw eitemau o wariant arian cyhoeddus anarferol neu aneglur.  Yn ogystal ag edrych ar sut y mae’r sefydliadau hyn yn gwario arian, mae’r Pwyllgor hefyd yn ystyried sut y cânt eu rhedeg ac a yw eu trefniadau llywodraethu yn briodol ac yn atebol.

Pam ein bod yn gwneud hyn?

Er y gall y dull hwn ymddangos ychydig yn ddiflas, mae hwn yn ddarn pwysig o waith oherwydd ei fod yn sicrhau bod gwaith craffu’n digwydd i weld sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddwyn y rhai sy’n gyfrifol am oruchwylio gwariant arian cyhoeddus i gyfrif.

Mae Cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol, nid yn unig yn rhoi cipolwg pwysig ar sefyllfa ariannol y sefydliadau hyn a ariennir gan y cyhoedd, maent hefyd yn adrodd stori am sut y mae’r sefydliad yn cael ei redeg ac a oes strwythurau llywodraethu ac arferion gwaith cadarn ar waith ai peidio.

Drwy ymgymryd â’r gwaith craffu hwn yn flynyddol, mae’r Pwyllgor wedi gallu cynnwys ffactor ataliol yn ei waith, gyda sefydliadau sy’n gyfrifol am wario ein harian yn gwybod y gallent gael eu galw gerbron y Pwyllgor i wynebu gwaith craffu cyhoeddus.

A yw’n gweithio?

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gwneud y gwaith hwn ers nifer o flynyddoedd bellach, ac yn gyffredinol, rydym wedi gweld gwelliant yn y wybodaeth sydd ar gael, ac o ran sicrhau ei fod yn fwy hygyrch. Yn benodol, mae llawer o sefydliadau wedi ymateb i’r her o gyflwyno’r wybodaeth hon, sydd yn aml yn gymhleth, mewn fformat mwy dealladwy.

Yn ogystal â’r gwelliannau mwy cyffredinol, mae’r Pwyllgor hefyd wedi dod â nifer o feysydd sy’n peri pryder i’r amlwg a bu’r rhain yn destun mwy o waith craffu ac, yn y pen draw, gwelliant o ran arferion – ac maent wedi denu sylw’r cyfryngau fel:

Pam ein bod yn ystyried y cyrff hyn?

Ar ddechrau’r pumed Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i ystyried cyfrifon ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn flynyddol. Daeth i’r penderfyniad hwn oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru gyllideb flynyddol o fwy na £15 biliwn, sy’n swm sylweddol o arian cyhoeddus. Comisiwn y Cynulliad yw’r corff corfforaethol sy’n darparu cefnogaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i Aelodau, (felly yn y pen draw y Pwyllgor) – ac felly teimlai’r Pwyllgor ei bod yn bwysig peidio â bod uwchlaw gwaith craffu.

Ar gyfer 2017-18, bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol a chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.  Mae’r Pwyllgor wedi ystyried Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol y ddau sefydliad hyn yn flaenorol.  Gobeithio y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol wedi helpu’r sefydliadau hyn i wneud gwelliannau ac y bydd stori gadarnhaol i’w hadrodd bellach.

Cymryd rhan

A oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn ynglŷn â sut y cafodd y sefydliadau hyn eu rhedeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

A oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut y cafodd arian ei ddyrannu?

Pa gwestiwn fyddech chi’n ei ofyn i’r rhai sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus?

Rhowch wybod inni: @seneddpac / @seneddarchwilio
SeneddArchwilio@cynulliad.cymru

Mae ein gwaith o graffu ar y cyfrifon yn dechrau ddydd Llun 8 Hydref 2018 pan fyddwn yn edrych ar Gyfrifon ac Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn y Cynulliad.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.