Gofal Mam? Rhianta a chyflogaeth yn Hen Wlad fy Nhadau

 

 

Heddiw, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lansio’i adroddiad, ‘Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru’. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru, aethom ati i gasglu barn a phrofiadau pobl o bob cwr o Gymru. Wedi’u hysgogi gan y cyfle i ddylanwadu ar newid agwedd mor emosiynol ar fywyd bob dydd, roedd y cipolwg a gynigiwyd gan y nifer o fenywod a rannodd eu barn a’u profiadau yn allweddol wrth helpu’r Pwyllgor i gyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Yn angerddol, weithiau’n ofidus, yn aml yn frawychus, ond bob amser yn hollbwysig, roedd y safbwyntiau a rannwyd yn allweddol wrth dynnu sylw at brofiadau amrywiol mamau o bob cwr o Gymru.

Nid dyma’r amser i gadw’n dawel.

Y sefyllfa bresennol

Yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2016, roedd 87 y cant o gyflogwyr yng Nghymru o’r farn ei bod yn fuddiol i sefydliadau gefnogi menywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth. Ond, canfu hefyd fod 71 y cant o famau wedi cael profiadau negyddol neu wahaniaethol o ganlyniad i gael plant, dywedodd 15 y cant eu bod wedi profi colled ariannol, ac roedd 10 y cant yn teimlo eu bod wedi eu gorfodi i adael eu swydd hyd yn oed.

Tynnwyd sylw at yr effaith gysylltiedig ar economi’r DU mewn ymchwil a gyhoeddwyd gan Gyngor Busnes Menywod Llywodraeth y DU, a amcangyfrifodd y gallai cydraddoli cyfraddau cyflogaeth menywod a dynion dyfu economi’r DU gan fwy na 10 y cant erbyn 2030.

Fel rhan o’i waith, roedd y Pwyllgor yn awyddus i gasglu safbwyntiau, profiadau a syniadau ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion sydd o fewn ei rheolaeth, fel cefnogaeth cyflogadwyedd, datblygu economaidd, dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru, gweithluoedd y sector cyhoeddus a gofal plant.

Yr hyn a glywsom

“Pan o’n i’n feichiog ‘da mhlentyn cyntaf, ro’n i’n gweithio fel glanhawraig a wnes i orfod stopo gweithio pan o’n i tua 3 mis yn feichiog oherwydd pwysedd gwaed uchel. ‘Doedd fy nghyflogwr i ddim yn fy nghefnogi a rhoddodd e’r gorau i fy nhalu. ‘Doedd fy mos i ddim yn credu bo fi’n feichiog i ddechrau am nad oeddwn wedi cael fy sgan gyntaf. Ddaeth y mater i ben yn y llys yn y diwedd, ac er bo fi wedi ennill, wnes i ddim cael lot fawr o arian am nad oedd fy mos i wedi cofnodi’n gywir yr holl oriau oeddwn wedi gweithio.”

  • Mam, Sir Gaerfyrddin

Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda mamau yng Nghaerdydd a chrëwyd fforwm ar-lein gan ddefnyddio Senedd Dialogue – dull sy’n caniatáu trafodaeth agored a didwyll lle gall cyfranogwyr rannu eu barn a’u syniadau, yn ddienw neu fel arall. Mae hefyd yn gyfle i gyfranogwyr ddarllen syniadau a phrofiadau pobl eraill rhoi eu barn a gwneud sylwadau arnynt.

Roedd ehangder y safbwyntiau a rennir – rhai ohonynt yn gadarnhaol ac yn tynnu sylw at arfer da gan rai cyflogwyr – yn adlewyrchu amrywiaeth y cyfranogwyr. Cyflwynwyd cyfraniadau gan famau o Flaenau Gwent i Sir Gaerfyrddin, ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Sir y Fflint. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys mamau ifanc, mamau sengl, mamau o gartrefi ag incwm isel a rhai ohonynt mewn gwaith, rhai’n rhan-amser a rhai ar gontractau dim oriau, ac eraill yn ddi-waith. O ran y rhai a oedd yn gyflogedig, rhannwyd barn gan famau’n gweithio yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg a lywiodd y sesiynau tystiolaeth dilynol yn ogystal â’r argymhellion a wneir i Lywodraeth Cymru yn adroddiad y Pwyllgor.

Mae strwythur anhyblyg y gweithle a’r rhagdybiaethau gofal plant a wneir o ran rhywedd, yn ogystal â’r gwahaniaethu cyffredin sy’n digwydd yn themâu a godwyd yn aml gan nifer o fenywod fel rheswm pam mae mamau yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu i waith rhan-amser â chyflog isel gyda llai o gyfleoedd am gynnydd gyrfaol.

“Mae swyddi rhan-amser neu swyddi hyblyg yn bwysig i lawer o rieni fel y gallant ddal y ddysgl yn wastad rhwng gofal plant a gwaith. Mae diffyg difrifol o swyddi rhan-amser ar gael, ac mae’r mwyafrif ar gyflog isel a heb fod angen llawer o sgiliau. Mae llawer o bobl sydd â sgiliau a gyrfaoedd gwych yn methu gweithio yn syml am nad yw’r swyddi ar gael.”

  • Mam, Caerdydd

Roedd y farn a rannwyd am weithio’n hyblyg yn llywio briff aelodau’r Pwyllgor ar gyfer sesiynau tystiolaeth ffurfiol, a oedd yn dilyn grwpiau ffocws a chasgliad y fforwm ar-lein. Dangoswyd hyn orau yn ystod sesiwn dystiolaeth lle roedd Anna Whitehouse, a elwir hefyd yn Mother Pukka, sylfaenydd gwefan y ffordd o fyw eponymaidd i rieni ac ymgyrchydd cadarn dros weithio’n hyblyg, wedi rhannu ei phrofiad hi a rhai ei dilynwyr.

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion amrywiol a phellgyrhaeddol a oedd yn cynnwys ailasesu Cynnig Gofal Plant newydd Llywodraeth Cymru, gan annog newid diwylliant, a sicrhau bod cyrff cyhoeddus, busnesau ac elusennau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb dros ddileu gwahaniaethu, ac wrth gwrs, hyrwyddo gweithio’n hyblyg.

I ddarllen yr holl argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor, gallwch weld yr adroddiad llawn yma.

Beth nesaf?

Byddwn yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed, cyn iddynt gael eu trafod yn ystod Cyfarfod Llawn. Byddwch yn gallu gwylio’r sesiwn ar Senedd TV.

Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â’r tîm Allgymorth – SeneddAllgymorth@Cynulliad.Cymru

 

 

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.