Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: stori a chanddi ddau hanner gwahanol iawn.

Cyfweliad gydag Adam Price AC, aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus newydd gyhoeddi ei adroddiad ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Yn yr adroddiad, mae’r Pwyllgor wedi dweud ei fod yn pryderu’n arw am y modd y deliodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru. A allwch chi roi trosolwg o’r ymchwiliad a rhai o’r prif bethau a ddysgodd y pwyllgor?

Ar un ystyr, mae’n bosibl rhannu’r adroddiad yn ddau, ac mae’n debyg bod hynny’n amlygu rhai o’r gwirioneddau mawr sydd wrth wraidd yr hyn a ddysgodd y Pwyllgor am y modd deliodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylch Cymru.

Yn y bôn, mae gennych chi’r cyfnod cychwynnol pan oedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i’r prosiect. Mae adroddiad gwreiddiol Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyllid cychwynnol a roddwyd i Gylchffordd Cymru a’r rhan gyntaf o’n hadroddiad ni’n sôn am yr ymdeimlad o dorri corneli. Er enghraifft, pryderon rhai swyddogion am y broses o brynu FTR Moto a’r ffordd y cafodd y pryderon hynny eu diystyru, ac i ba raddau roedd y Gweinidog yn cadw golwg ar y penderfyniadau hynny.

Y teimlad cyffredinol a gewch yw mai’r cyfeiriad polisi oedd cefnogi’r prosiect a, chan hynny, gwnaed unrhyw beth yr oedd angen ei wneud i gyflawni’r nod hwnnw. Ac yna, gwelwn y Llywodraeth yn troi yn ei thresi, fel petai, wrth symud i ail hanner yr adroddiad sy’n arwain at y penderfyniad terfynol – y trydydd mewn cyfres o benderfyniadau i wrthod gwarantu’r prosiect; heb hynny, nid oedd modd bwrw ymlaen â’r gwaith. Felly mae’r sefyllfa’n debyg i stori’r ‘grand old Duke of York’ gyda Llywodraeth Cymru yn gorchymyn ei swyddogion i orymdeithio i ben y bryn ac yna i orymdeithio’n ôl i lawr eto.

Nawr, wrth gwrs gall llywodraethau, fel unrhyw un arall, newid eu meddwl, ac mae hynny’n digwydd, ond y peth pwysig yw nad yw’r prosesau’n cael eu pennu ar sail y polisi. Mae prosesau, trefniadau llywodraethu da, tryloywder, rheolau, i gyd yn cael eu creu am reswm – i ddiogelu arian cyhoeddus ac, yn y pen draw, i amddiffyn enw da’r llywodraeth ac i sicrhau uniondeb. Dyna’n wir yw diben y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – i sicrhau nad yw brwdfrydedd gwleidyddion i gyflawni nod polisi penodol yn eu harwain i dorri corneli, gan fod hynny’yn arwain at benderfyniadau gwael.

Yn yr achos hwn, rwy’n credu bod brwdfrydedd sylweddol ac agwedd hynod gadarnhaol wedi gyrru’r Llywodraeth i un cyfeiriad ac yna’n sydyn, am ryw reswm, mae’r hinsawdd wleidyddol yn newid, ac mae’n ymddangos bod popeth yn cael ei wneud i atal y prosiect.

 

Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn seilio’i benderfyniad ar fater cyfrifyddu technegol a dosbarthiad y fantolen. A yw’r Pwyllgor yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r wybodaeth am y penderfyniad i beidio ag ariannu’r prosiect yn y ffordd orau bosibl?

Mae pryder gwirioneddol nad oedd y Llywodraeth mor dryloyw a chynhwysfawr ag y gallasent fod wrth esbonio eu penderfyniad i wneud tro pedol enfawr, i bob pwrpas. Rhaid ichi gofio bod agwedd Llywodraeth Cymru tuag at natur gyffredinol y prosiect yn dal yn gefnogol iawn a gosododd feini prawf penodol y byddai’n seilio’i phenderfyniad terfynol arnynt. Roedd penderfyniad y Cabinet i wrthod y prosiect yn gryn syndod i’r rhan fwyaf o bobl.

Ar y pryd, roedd yn ymddangos bod y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno’r mater eithaf technegol ynghylch a fyddai’r prosiect yn cael ei gynnwys ar y fantolen fel y rheswm canolog dros beidio â bwrw ymlaen ag ef ond, yn ystod yr ymchwiliad hwn, llwyddwyd i ddatgelu nad hwn oedd yr unig reswm – roedd amheuon hefyd am y swyddi etc. Rwy’n credu bod dirgelwch o hyd ynghylch sut y gallai unrhyw Lywodraeth, a oedd wedi gwario cryn dipyn o arian cyhoeddus a buddsoddi amser nifer fawr o swyddogion dros gyfnod o flynyddoedd, ei chael ei hun mewn sefyllfa lle cafodd y cyfan ei droi a’i ben i’w wared yn ystod trafodaeth 20 munud yn y Cabinet, yn ôl pob golwg.

Rwy’n deall pam nad yw llywodraethau fel rheol am i gyngor swyddogol gael ei gyhoeddi ond, yn yr achos hwn, mae nifer o gwestiynau i’w hatebi.

Y peth arall y mae’r adroddiad yn cyfeirio ato yw’r ffaith bod y mater yn ymwneud â’r fantolen wedi’i ystyried yn broblem ers tro ond roedd y cwmni a’i chyllidwyr yn credu bod y broblem wedi’i ddatrys. Nid oedd neb yn credu mai hyn, yn anad dim arall yn y bôn, fyddai’n lladd y prosiect. Felly pam na fyddai neb wedi codi’r ffôn neu geisio gohirio’r penderfyniad i weld a ellid gwneud rhywbeth i achub y prosiect? Roedd y cwmni a’r Llywodraeth wedi cyfarfod dros 40 gwaith dros gyfnod o 12 i 18 mis – bron bob wythnos. Felly, o ystyried y swm enfawr o arian preifat a oedd yn y fantol, a’r miloedd o swyddi y byddai’r prosiect yn eu creu, yn ôl y cynigion, oni fyddai’n well gohirio’r penderfyniad am wythnos i weld a fyddai modd ad-drefnu pethau i gael y maen i’r wal.

Yr un gasgliad amlwg, yn fy marn i, yw bod Llywodraeth Cymru, am ba reswm bynnag, wedi penderfynu nad oedd am fwrw ymlaen â’r prosiect hwn. Pan gynigiwyd rheswm cyfleus i’r Llywodraeth a allai ei hesgusodi am droi cefn arno, penderfynodd ei groesawu â breichiau agored a dyna ddiwedd arni.

 

Rydych wedi sôn am bwysigrwydd llywodraethu, cyfathrebu a thryloywder – yn ddiweddarach yn yr ymchwiliad, daeth yn amlwg nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y Gweinidog dros Fenter Busnes a Gwyddoniaeth wedi cael gwybod am y cytundeb i brynu Moto FTA. Pa mor bryderus oedd y Pwyllgor wrth glywed nad oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan eu swyddogion, a pham mae hynny’n bwysig?

Mae’n ofidus iawn clywed nad oedd y Gweinidog wedi cael gwybod am y ffordd anghonfesiynol, dybiwn i, o ddefnyddio’r arian grant arbennig hwn. Oherwydd y diddordeb gwleidyddol yn y prosiect hwn – prosiect a gafodd gryn sylw, ac a gafodd ymrwymiad gwleidyddol ar lefel uchel yn ystod y cyfnod hwn – o’r Prif Weinidog i lawr – byddech wedi tybio y byddai’r Gweinidog yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Mae’r cyntaf yn destun pryder i mi gan nad oedd tystiolaeth i’w chael. Defnyddir y fformiwla hon yn aml mewn sefyllfaoedd anodd oherwydd nid yw diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, negeseuon e-bost etc yn golygu, o reidrwydd, nad oedd y Gweinidog wedi cael y wybodaeth briodol. Pam na all y Llywodraeth ddweud yn bendant na chafodd y Gweinidog y wybodaeth briodol? Pam dibynnu ar y math niwlog hwn o eiriau, sy’n creu ychydig o amheuaeth yn eich meddwl hefyd? Y pwynt allweddol yw, mewn amgylchiadau fel hyn, y dylid hysbysu Gweinidogion yn enwedig pan fo trafodaeth amlwg ymhlith swyddogion a rhai swyddogion yn rhybuddio rhag cymryd camau penodol.

Y prif bwynt yw bod angen bod mor dryloyw â phosibl, a hynny er lles pawb. Os yw gwaith craffu Llywodraeth Cymru wedi bod yn llac eto, nid yw hynny’n arwain at benderfyniadau da.

Mae’n od, oherwydd roedd nifer fawr iawn o swyddogion ynghlwm wrth y prosiect hwn. Yr unig gasgliad sy’n cynnig ei hun wrth ddilyn yr hanes hwn hwn lle’r ymddengys bod swyddogion, yn y bôn, wedi’u darbwyllo bod cefnogaeth wleidyddol ar lefel Weindogol i’r prosiect ac, felly, roeddent wedi buddsoddi cryn dipyn ynddo, yn yr ystyr llythrennol a throsiadol. Gan hynny, yn achos y prosiect hwn, ymddengys na lwyddodd y swyddogion hyn i gadw at y safonau llym arferol oherwydd y nod, ym marn pawb, oedd cael y maen i’r wal. Ond hyd yn oed os oes ymrwymiad gwleidyddol, mae’n well dilyn y drefn briodol bob amser. Ac yna, wrth gwrs, yn rhyfedd ddigon, yr hyn sy’n digwydd yw bod popeth yn troi ai ben i waered a chaiff pob dadl bosibl dan yr haul ei defnyddio i ladd y prosiect.

Anaml iawn y gwelwn y ddwy broses hyn ar waith mewn un prosiect, lle mae Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yn gwneud popeth yn ei gallu i roi’r prosiect hwn ar waith ac yna, yn ddiweddarach, yn gwneud popeth i geisio’i atal. Mae’n codi amheuon, yn wir, am allu’r Gwasanaeth Sifil i ddelio â phrosiectau technegol gymhleth o’r natur hwn, sy’n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, neu’n galw am fuddsoddiad mewn busnes, ac mae cwestiynau’n codi hefyd am yr egwyddor ‘hyd braich’.

Fe drodd y prosiect yn rhy wleidyddol. Prosiect datblygu economaidd oedd hwn, a dylai fod wedi cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau a’i ddiffygion. Llwyddodd y wleidyddiaeth a oedd ynghlwm wrth y prosiect i gymylu barn ac atal swyddogion rhag dilyn y rheolau a’r drefn briodol. Cynhaliwyd proses diwydrwydd dyledus wrth gwrs ond daeth y dehongliad o’r broses honno â ni’n ôl at yr un pwynt – sef yr ymdeimlad bod y dystiolaeth wrthrychol ynghlwm wrth y polisi. Yn y bôn, roedd y swyddogion yn gweithredu’n ôl yr hyn y teimlent roedd y Gweinidog am iddynt ei wneud ar unrhyw adeg benodol. Cyn gynted ag y newidiodd y dehongliad hwnnw, newidiodd popeth. Nid dyna sut y dylid ymdrin â phrosiectau o’r math hwn.

 

Mae’n bwysig nodi bod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y modd y cafodd y cyllid ei drin ac nid ar yr egwyddor bod prosiect y gylchffordd ynddi’i hun yn cynnig manteision. A yw’r Pwyllgor yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru?

Rwy’n credu bod y saga drist hon yn tanlinellu pa mor wael ydym ni wrth ymdrin â phrosiectau buddsoddi mawr o’r natur hwn. Mae’n ychydig o ystrydeb, ond mae ystrydebau’n bod am reswm da fel arfer, sef bod olwynion y Llywodraeth yn troi’n araf iawn ac, yn achos y prosiect hwn, cymerodd 7-8 mlynedd i benderfynu mai ‘na’ oedd yr ateb. Ym myd busnes, mae’n well cael penderfyniad, y naill fordd neu’r llall, yn gyflym. Y peth gwaethaf yw’r hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn, sef saith mlynedd o ‘efallai’. Mae angen i lywodraethau wella’r broses o wneud penderfyniadau er mwyn rhoi ateb yn gynt, oherwydd nid yw gohirio penderfyniadau o fudd i neb. Mae’r rhaid inni wneud penderfyniadau’n gynt a bod yn fwy hyblyg wrth wneud hynny. Y gwir berygl yw bod y penderfyniad hwn nid yn unig wedi peryglu enw da Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, ond hefyd enw da Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo.

Mae angen inni feithrin ein gallu ein hunain yng Nghymru i wneud penderfyniadau cyflym am brosiectau buddsoddi mawr a dylem fod yn cymryd camau pendant i chwilio am y cyfleoedd hyn. Mae angen buddsoddiad ar y wlad. Ar hyn o bryd nid oes gennym y gallu ariannol y byddem yn ei ddymuno. Nid ydym am i’r sefyllfa bresennol barhau, lle’r ydym yn dibynnu ar swm gymharol fach o gyllid sefydliadol mawr sydd wedi’u lleoli nid yma yng Nghymru yn anffodus, ond dros y ffin, ac yn ninas Llundain yn bennaf. Mae’r sefydliadau hyn yn siarad â’i gilydd a byddant yn gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn achos y prosiect hwn. Tybed beth mae Aviva yn ei ddweud wrth eu partneriaid, eu buddsoddwyr a’u rhanddeiliaid am y profiad a gawsant yn yr achos hwn. Nid ydynt yn buddsoddi mor aml â hynny ac, mewn gwirionedd, mae’n anarferol iawn i Aviva ddangos unrhyw ddiddordeb yn y math hwn o brosiect, a hwnnw wedi’i leoli ym Mlaenau’r Cymoedd. Hefyd, pan ddywedwn ein bod yn agored i fusnes, roedd hwn yn brofiad ofnadwy ac nid yw’n adlewyrchu’n dda ar Lywodraeth Cymru na, thrwy gysylltiad, ar Gymru.

Nid wyf yn beirniadu unigolion; systemau sy’n methu bob tro. Roedd Llywodraeth Cymru mewn dyfroedd dyfnion o’r dechrau un a rhaid sicrhau na fydd y math hwn o beth byth yn digwydd eto.

 

Pam mae’r math hwn o graffu yn bwysig i bobl Cymru?

Yn y pen draw, mae trefniadau craffu da yn arwain at Lywodraeth well. Mae’n amlwg yn boenus canolbwyntio ar gamgymeriadau ond dyna sut y byddwn yn dysgu a, drwy ddysgu, byddwn yn arloesi. Mewn gwirionedd, rhodd o’r gorffennol agos yw methiant, ac mae’n sylfaen y gallwn ei ddefnyddio i greu dyfodol gwell, a dyna sut y mae’n rhaid i ni weld pethau.

Nid beirniadu unigolion yw nod gwaith craffu. Mae’n ymwneud â cheisio deall pam mae’r system wedi’i chynllunio’n wael, pam mae’r system yn methu a sut y gallwn ei hailgynllunio er mwyn iddi sicrhau canlyniadau gwell nag y gall yr holl unigolion sy’n rhan ohoni eu sicrhau. Nid oes neb yn mynd i’r gwaith i wneud joben wael, mae pobl yn awyddus i wneud eu gorau. Byddwn yn methu pan fyddwn naill ai’n cynllunio systemau nad ydynt yn addas i’r diben neu pan fydd y system neu’r fframwaith wedi’u cynllunio ond nid yw’r diwylliant neu’r rheolau o fewn y system honno’n cael eu rhoi ar waith. Dyna pam mae angen gwaith craffu – i dynnu sylw at y problemau ac, os gallwn ni fod yn ddigon agored, tryloyw a gonest amdanynt, bydd yn arwain at ddyfodol sy’n well na’r gorffennol.

 


Darllen yr adroddiad llawn:
Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru (PDF, 949 KB)



Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am graffu ar wariant yr holl arian cyhoeddus yng Nghymru. Gall y Pwyllgor ymgymryd â’u hymholiadau eu hunain neu gallant ddilyn cyfarwyddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Swyddfa Archwilio. Mae’n briff eithaf eang gan y gallant edrych ar bob agwedd ar gyllid gan gynnwys iechyd, addysg, awdurdodau lleol a datblygu economaidd fel yn achos eu hadroddiad diweddaraf ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru a chael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn http://www.cynulliad.cymru/SeneddPAC, gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter yn @SeneddPAC.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.