Mae angen trawsnewid y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru o ran eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl

Cyfweliad â Lynne Neagle, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad

Mae’r Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar y newid mawr sydd ei angen o ran y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru o ran eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl. Pam wnaeth y Pwyllgor benderfynu craffu ar y mater hwn ar yr adeg hon?

Gwyddom fod iechyd meddwl yn broblem enfawr i bobl ifanc. Gwyddom fod un o bob deg person yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a bod y rhan fwyaf o’r problemau iechyd meddwl hynny’n dechrau yn gymharol gynnar, pan mae’r bobl o dan sylw yn eu harddegau.

Dyma’r prif bryder sy’n cael ei godi gyda’r Comisiynydd Plant. Mae hefyd yn bryder mawr sy’n cael ei godi gyda gwasanaethau fel llinell gymorth ChildLine, ac roedd yn fater a ddaeth i’r amlwg yn glir pan wnaethom ofyn i randdeiliaid rannu eu blaenoriaethau â ni.

Beth oedd prif amcanion y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn?

Roeddent yn ddeublyg: Roeddem am ailedrych ar waith y Pwyllgor a’n rhagflaenodd, a wnaeth ddarn mawr o waith ar y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol a ddarperir i blant a phobl ifanc yn 2014.

O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, buddsoddwyd swm sylweddol o arian ychwanegol yn y gwasanaethau arbenigol hynny gan Lywodraeth Cymru. Felly, roeddem am weld a oedd cynnydd wedi’i wneud yn y maes hwn.

Roeddem hefyd am edrych yn benodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud ynghylch yr angen i feithrin gwydnwch emosiynol ymhlith ein pobl ifanc, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol. Mae rhan helaeth o’n hymchwiliad wedi canolbwyntio ar geisio canfod a yw’r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo a pha mor effeithiol ydyw.

Beth yw prif ganfyddiadau’r Pwyllgor yn yr adroddiad hwn?

Mae’n adroddiad swmpus, sy’n cynnwys 27 o argymhellion. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud un argymhelliad allweddol sy’n bwysicach na’r lleill, yn ein barn ni—sef, bod angen gwneud llawer mwy o ran ymyrraeth gynnar a meithrin gwydnwch emosiynol ymhlith ein plant a’n pobl ifanc.

Credwn fod ysgolion a’r system addysg yn gwbl allweddol i’r nod hwnnw.

Yn sgil diwygio’r cwricwlwm newydd, mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ymwreiddio’r broses o ddysgu am wydnwch emosiynol yn ein hysgolion. Ond, nid yw hwn yn fater i’r cwricwlwm yn unig. Mae’n ymwneud hefyd â sicrhau bod pawb sy’n ymgysylltu â phobl ifanc yn deall pwysigrwydd gwydnwch emosiynol ac yn teimlo’n gyfforddus yn trafod y mater â phobl ifanc.

Credwn ei bod yn hollbwysig bod gwasanaethau iechyd yn cydweithio’n agos ag ysgolion i gefnogi’r newid hwn. Ni ellir disgwyl i athrawon ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn ar eu pen eu hunain.

A gawsoch eich synnu gan unrhyw rai o’r canfyddiadau?

Yn bersonol, roeddwn wedi disgwyl y byddai’r angen am ymyrraeth gynnar yn thema allweddol. Fodd bynnag, roedd yn werth nodi cryfder y neges hon, ynghyd â nifer y rhanddeiliaid amrywiol a’i mynegodd.

Roedd y rhanddeiliaid hynny’n cynnwys sefydliadau trydydd sector fel y Samariaid, yn ogystal â’r heddlu, a awgrymodd yn ystod yr ymchwiliad y dylid cynnwys iechyd meddwl yn y cwricwlwm.

Credaf mai dyna’r prif fater sydd wedi dod i’r amlwg, ac oni bai ein bod yn mynd i’r afael ag ef, ni fydd yn bosibl mynd i’r afael â rhannau eraill o’r system.


Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Dylai mynd i’r afael â materion iechyd meddwl ymysg plant
a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth genedlaethol.

Darllen mwy >


Yn 2014, clywodd y Pwyllgor a’n rhagflaenodd fod gormod o blant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio yn amhriodol at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a bod angen darparu cymorth iddynt mewn rhannau eraill o’r system. Pedair blynedd yn ddiweddarach, a yw’r sefyllfa honno wedi newid?

Bu gwelliant mewn rhai meysydd, ond rwy’n credu bod gormod o bobl ifanc yn parhau i gael eu hatgyfeirio yn amhriodol.

Mae hynny’n arwydd o’r ffaith nad oes gennym wasanaethau ymyrraeth gynnar priodol.

Os nad oes gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gael, bydd pobl yn parhau i frwydro er mwyn cael eu hatgyferirio at wasanaethau arbenigol ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS). Felly, er y bu cynnydd, nid wyf o’r farn bod y cynnydd hwnnw wedi bod yn ddigon cadarn.

Er bod y system addysg yn rhan allweddol o’r broses o wneud gwelliannau yn y maes hwn, rydym hefyd yn bryderus iawn am ofal iechyd meddwl sylfaenol. Daethom i’r casgliad nad yw’r gwelliannau y dylem fod wedi’u gweld yn y maes hwn erbyn hyn wedi dod i’r amlwg.

Nid ydym o’r farn bod hyn yn dderbyniol.

Yn 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru y rhaglen ‘Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc’ er mwyn gwella’r gwasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru. A yw’r Pwyllgor yn hyderus bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth sydd o fewn ei gallu yn y maes hwn?

Yn amlwg, rydym yn croesawu’r rhaglen yn fawr. Mae wedi rhoi pwyslais ar wasanaethau arbenigol ym maes CAMHS ac adnoddau ychwanegol, ac rydym yn croesawu hynny’n fawr.

Fodd bynnag, nid wyf o’r farn bod pwyslais digonol wedi’i roi ar ymyrraeth gynnar a gwydnwch cyffredinol. Y bwriad oedd y byddai hon yn ffrwd waith glir o fewn y rhaglen, ac nid wyf o’r farn ein bod wedi gweld y cynnydd y dylem fod wedi’i weld yn y maes hwnnw.

Y maes arall lle’r oeddwn wedi dymuno gweld mwy o gynnydd oedd gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol i blant a phobl ifanc.

Clywsom y byddai pwyslais ar yr agwedd hon o fewn y rhaglen yn ystod y misoedd nesaf. Fy nghwestiwn i, felly, yw: pam nad ydyw wedi bod yn un o brif nodweddion y rhaglen dros y tair blynedd diwethaf?

Beth y mae’r Pwyllgor yn gobeithio ei weld yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn?

Rydym wedi gwneud un argymhelliad allweddol a 27 o argymhellion manwl eraill. O ystyried y dystiolaeth sy’n sail iddynt, rydym yn disgwyl i’r Llywodraeth roi ystyriaeth ddifrifol iddynt, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd yn derbyn pob un ohonynt.

Yn ogystal â’r gwaith ymyrraeth gynnar, mae yr un mor bwysig bod pobl ifanc y mae angen gwasanaeth arbenigol arnynt yn cael y gwasanaeth arbenigol hwnnw mewn modd amserol.

Felly, rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol cadarn ar bob un o’r argymhellion hynny.

Byddwn yn dychwelyd i’r mater hwn yn barhaus, a byddwn yn parhau i graffu ar y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn yn sgil y ffaith bod hon yn sefyllfa y mae’n rhaid inni ei hunioni. Mae’r adroddiad yn datgan bod angen trawsnewid y sefyllfa.

Nid wyf am fod yn aelod o bwyllgor mewn pum mlynedd yn gwrando ar ragor o dystiolaeth am y ffaith nad yw’r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc yn ddigon da. Mae’n rhaid inni unioni’r sefyllfa y tro hwn.

__

Gallwch ddarllen yr adroddiad cyfan a chael mwy o wybodaeth am waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter – @SeneddPPIA.

__

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am eich llesiant emosiynol a’ch iechyd meddwl, gallwch gysylltu â:
Meic Cymru ar 080880 23456 neu drwy neges destun ar 84001 neu drwy ei wasanaeth negeseua ar-lein
Llinell gymorth CALL ar 0800 132 737 neu drwy decstio ‘help’ i 81066

 

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.