Mis Hanes Pobl Dduon: Mae’r mis Hydref hwn yn un arbennig

Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, ac mae eleni’n nodi 30 mlwyddiant. Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni.

Abi Lasebikan, Cyd-Gadeirydd rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol, yn sôn am hanes y mis…

Header

Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau pobl dduon a’u cyfraniadau at ddatblygiad cymdeithas; technoleg; yr economi; y celfyddydau a diwylliant ym Mhrydain.

A people without the knowledge of their past history, origin and culture is like a tree without roots” – Marcus Garvey

Hanes

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf erioed yn Llundain ym 1987.  Cydnabyddir mai Akyaaba Addai Sebo, sef cydlynydd Prosiectau Arbennig yng Nghyngor Llundain Fwyaf (y GLC) ar y pryd, a ddechreuodd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU gan ddod â phobl at ei gilydd i roi cychwyn cadarn iddo.

A colleague of mine, a woman, came to work one morning, looking very downcast and not herself. I asked her what the matter was, and she confided to me that the previous night when she was putting her son Marcus to bed he asked her, “Mum, why can’t I be white?”

The mother was taken aback. She said that she was so shocked that she didn’t know how to respond to her son. The boy that had been named after Marcus Garvey had asked why he couldn’t be white!

– Akyaaba Addai Sebbo

Black_History_Month_1987_002

Cydnabyddir mai Akyaaba Addai Sebo, sef cydlynydd Prosiectau Arbennig yng Nghyngor Llundain Fwyaf (y GLC) ar y pryd, a ddechreuodd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU gan ddod â phobl at ei gilydd i roi cychwyn cadarn iddo . Gellir dadlau bod y symbyliad ar gyfer y digwyddiad wedi dod ddeunaw mis cyn i’r GLC gael ei ddiddymu ym 1986. Yn ystod y misoedd yn arwain at ddiddymu’r GLC, gwelwyd ymdrech ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd o barhau â’i waith cydraddoldeb blaengar. Uned Bolisi Strategol Llundain, a oedd yn cynnwys 15 Awdurdod Lleol, a ysgwyddodd y cyfrifoldeb am y rhannau radical o’r GLC ar ôl ei ddiddymu.

 

Mae Linda Bellos, arweinydd Cyngor Lambeth ar y pryd, yn cofio Ansell Wong, Pennaeth yr Uned Lleiafrifoedd Ethnig ar y pryd, yn cysylltu â hi gyda’r syniad o ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU.

Dewiswyd mis Hydref, yn wahanol i UDA sy’n dathlu’r digwyddiad ym mis Chwefror, oherwydd mai dyma’r dyddiad a oedd yn addas ar gyfer y wraig wadd, Sally Mugabe, ac oherwydd mai dyma pryd yr oedd adeilad Sefydliad y Gymanwlad ar gael.

Cytunwyd ym mis Hydref 1988 y byddai Uned Bolisi Strategol Llundain yn cau, oherwydd cyfyngiadau ariannol, ond nid dyma ddiwedd Mis Hanes Pobl Dduon. Roedd y ddyletswydd dan Adran 71 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn caniatáu ar gyfer hyrwyddo cysylltiadau hiliol da ac roedd y Cynghorau blaengar, a oedd wedi cefnogi’r Uned Bolisi Strategol, yn tueddu i gymryd y ddyletswydd honno o ddifrif. O ganlyniad, parhawyd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon ar draws rhannau o Lundain.

Mae wedi ehangu i fod yn rhywbeth a gynhelir ledled y DU, gyda mwy na 6,000 o ddigwyddiadau yn cael eu dathlu ledled y DU bob mis Hydref. Mae gweithgareddau fel darlithoedd, cynadleddau, cyngherddau a rhaglenni arbenigol yn parhau i gael eu cynnal mewn canolfannau cymuned, ysgolion, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, gan ddathlu a thynnu sylw at lwyddiannau pobl dduon a’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud at ddatblygiad cymdeithas, technoleg, economi, celf a diwylliant Prydain.

Pa mor berthnasol yw Mis Hanes Pobl Dduon heddiw

Mae’r digwyddiad yn creu llawer o ddadl, a chreda rhai na ddylid ei gael o gwbl gan fod hanes pobl dduon yn rhan o hanes Prydain, ac y dylid ei astudio a’i ddathlu y tu hwnt i fis Hydref. Mae rhai yn teimlo ei bod yn amhosibl siarad am hanes Prydain heb sôn am bobl Affricanaidd, oherwydd bod hanes Affricanaidd yn rhan annatod o wead hanes Prydain ac i’r gwrthwyneb.

“I don’t want Black History Month. Black history is American History”.
– Morgan Freeman

Mae eraill yn haeru ei bod yr un mor wir heddiw ag ym 1987 nad yw union gyfraniad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig at ddatblygiad Prydain yn cael ei gynrychioli’n gywir ym mhrif ffrwd hanes Prydain. Hyd nes y caiff cyfraniad pobl dduon ei astudio, ei ddathlu a’i ddangos fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol, gweithgareddau addysgol ychwanegol, rhaglenni artistig, astudiaethau coleg a phrifysgol ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd ac orielau 365 diwrnod o’r flwyddyn, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dal i fod yn berthnasol.

Cymru

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn sicrhau bod y llwyddiannau a’r cyfraniadau y mae pobl o dras Affricanaidd wedi’u gwneud i dreftadaeth, diwylliant a hanes Cymru yn cael eu dathlu a’u lledaenu, a hynny drwy ystod eang o weithgareddau creadigol ar gyfer pobl o bob oedran.

BHMWales_Logo

Mae gan Gymru orffennol cyfoethog ac amrywiol y gellir, i ryw raddau, ei briodoli i’r ffaith bod gennym nifer o borthladdoedd pwysig, yn enwedig yng Nghaerdydd, Casnewydd, y Barri a Dociau Abertawe, a ddenodd bobl o bob cwr o’r byd i Gymru. Dyma’n rhannol pam y mae Cymru’n wlad mor amlddiwylliannol, sy’n gartref i amrywiaeth o hiliau a chyda’r porthladdoedd pwysig hynny yn nwfn yng ngwreiddiau teuluol nifer o’r bobl groenddu sy’n byw yng Nghymru.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, wedi’i leoli yng nghanol dociau Bae Caerdydd. Mae’n briodol felly ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein cymunedau ynghyd â’u cyfraniad i’n gwneud ni’n wlad mor fywiog a goddefgar. Dyna pam rydym yn anelu at greu corff seneddol hygyrch, sy’n ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac sy’n eu parchu.

Digwyddiadau

Mae’n bleser gennym gyhoeddi, fel rhan o’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth ynghylch ein gwaith a gwella ein hymgysylltiad â chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd, inni fod yn rhan o lansiad swyddogol Mis Hanes Pobl Dduon Cymru a Gwobrau Ieuenctid 2017, ddydd Gwener 29 Medi yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Awards

Thema’r digwyddiad, a gynhaliwyd gan Mark Drakeford, Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd, oedd “ein sêr, ein dyfodol, ein hanes” ac roedd yn cynnig cyfle nid yn unig i edrych yn ôl a dathlu’r effaith y mae pobl dduon wedi’i chael ar ein cymdeithas yng Nghymru, ond i edrych tua’r dyfodol ar ein darpar arloeswyr a chyfrannwyr. Roedd y gwobrau ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad pobl ifanc o dras Affricanaidd yn Nghymru. Profiad arbennig tu hwnt oedd gweld wynebau’r bobl ifanc yn eu helfen wrth iddynt dderbyn eu gwobrau. Joyce Watson, Comisiynydd y Cynulliad â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, a gyflwynodd y Gwobrau Cymunedol, a oedd yn cydnabod llwyddiannau sylfaenwyr a chyfrannwyr sy’n bobl dduon neu o leiafrifoedd ethnig dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Soniodd Joyce, fel un o’r prif siaradwyr, am bwysigrwydd Mis Hanes Pobl Dduon, gan ei fod yn rhoi cyfle inni ystyried ein hanes a, gan aralleirio Morgan Freeman, y modd y mae “Hanes Pobl Dduon yn Hanes Cymru”. Gan bwysleisio mor bwysig yw i’n sefydliad ni adlewyrchu’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu, fe anogodd bawb i ymgyfarwyddo a chyfrannu at waith y Cynulliad ac ystyried y Cynulliad i fod yn lle y mae arnynt eisiau gweithio.

Drwy gydol y dydd, roedd bwrlwm yn sgil y cyffro a’r dathlu. Cafwyd adloniant gwych, â cherddoriaeth gan Ysgol Gymraeg Bryn-y-Môr a’r storïwr a’r cerddor Bevin Magama, yng nghwmni Amas Gbubemi, a berfformiodd ddarn bywiog a llawn egni. Hyn oll gyda golygfa hyfryd y Pierhead yn y cefndir. Roedd hwn yn leoliad addas gan ei fod yng nghanol Bae Caerdydd, sef un o’r ardaloedd â’r mwyaf o amrywiaeth yng Nghymru yn hanesyddol a lle bo dynion a menywod o’r gymuned o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi helpu i siapio a datblygu Cymru.

We will also be attending/hosting:

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s