Ugain dyfyniad i nodi ugain mlynedd ers i Gymru ddweud ie

Ugain mlynedd yn ôl, ar 18 Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru i weld a oedd cefnogaeth i greu cynulliad i Gymru gyda phwerau datganoledig. Yma rydym yn edrych ar y diwrnod hwnnw a’r daith a ddechreuwyd gydag ugain dyfyniad…

“Devolution is about harnessing the power of community – the diverse community that is the United Kingdom, and the national communities that through devolution can take their futures in their own hands.”

Dyfyniad gan Tony Blair a arweiniodd y blaid Lafur yn ôl i bŵer yn 1997 am y tro cyntaf ers 1979 mewn buddugoliaeth ysgubol. Roedd maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad i gynnal refferendwm ar greu Cynulliad i Gymru.

Tony Blair Neil Jenkins

“There are some variations across social groups in Wales. Women clearly support a Welsh Assembly – by 37 to 29 – while men oppose one by 43 to 38.

There is strong majority support for devolution among those aged 18 to 34, while a majority of those voters aged over 65 oppose an assembly.”

Detholiad o ganlyniadau arolwg barn y Guardian/ICM a wnaed wythnos cyn pleidlais y refferendwm.

Ron Davies

“Good morning, and it is a very good morning in Wales.”

Dyma sut y gwnaeth Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1997 ac arweinydd ymgyrch Ie, ddechrau ei araith pan gyhoeddwyd y canlyniad. Gallwch wylio clip o’i araith yma. Hefyd, disgrifiodd Ron Davies ddatganoli yng Nghymru fel “proses nid digwyddiad.”

“When you win a national campaign by less than seven thousand votes it makes every last leaflet, every last foot-step, every last door knocked, worthwhile.”

Leighton Andrews, cyn Aelod Cynulliad a Gweinidog Llywodraeth Cymru yn trafod Ymgyrch Ie mewn blog diweddar ar gyfer yr IWA. Roedd 50.3 y cant o’r rhai a bleidleisiodd yn y refferendwm o blaid datganoli – mwyafrif bychan o 6,721 pleidlais.

Yn dilyn y refferendwm, pasiodd Senedd y DU Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Roedd y Ddeddf yn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol fel corff corfforaethol – gyda’r weithrediaeth (y Llywodraeth) a’r ddeddfwrfa (y Cynulliad) yn gweithredu fel un. Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad ar 6 Mai 1999.

Siambr Hywel

“Roedd Monwysion yn chwareli llechi Sir Gaernarfon yn arfer cael eu galw yn Bobol y Medra, oherwydd mai eu hateb hwy i’r cwestiwn, ‘Fedri di wneud hyn?’ oedd ‘Medra.’ A dyna fydd ein neges ni ledled Cymru. Gadewch i Gymru gyfan fod yn Bobol y Medra.”

Alun Michael, a oedd newydd ddod yn Brif Ysgrifennydd Cymru ar 12 Mai 1999. Darllenwch drawsgrifiad llawn o’r Cyfarfod Llawn lle draddododd ei araith.

“Yr ydym ar ddeall mai dyma’r unig ddeddfwrfa yn y byd sydd â chydbwysedd perffaith rhwng dynion a menywod. Dylem nodi hynny. Mae’n neges y dylid ei lledaenu ledled y byd.”

Rhodri Morgan, y Prif Ysgrifennydd ar y pryd, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2003 pan osodwyd record y byd yn y Cynulliad drwy fod y corff deddfwriaethol cyntaf oedd â nifer gyfartal o ddynion a menywod.

Building Senedd

“We popped in to admire the architecture and have a look around but were pleased to find that we could enter the public gallery and watch a live debate taking place. It was really interesting and enhanced our understanding of the place and the people working there. Definitely worth a visit.”

Adolygiad o’r Senedd ar TripAdvisor. Daeth y Senedd yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2006 ac mae wedi croesawu dros filiwn o ymwelwyr ers hynny.

“Rydym ar drothwy cyfnod newydd yn ein hanes, gyda’n pwerau newydd, ac mae gennym gyfle gwych i ddatblygu cyfansoddiad Cymru a symud yn ein blaenau i gam nesaf y broses ddatganoli.”

Dafydd Elis-Thomas AC, y Llywydd ar y pryd, yn siarad yn 2007 ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru gael eu gwahanu’n gyfreithiol wrth i Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006) ddod i rym.

Roedd Deddf 2006 hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol ennill pwerau i ddeddfu heb fod angen cydsyniad gan Senedd y DU, drwy bleidlais ie mewn refferendwm.

Logos

“The rest of the world can now sit up and take notice of the fact that our small nation, here on the western edge of the continent of Europe, has demonstrated pride in who we are, and what we all stand for.”

Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, yn dilyn refferendwm 2011 lle pleidleisiodd etholaeth Cymru o blaid pwerau pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Just fifteen years ago, it would have been unthinkable for politicians, elected by Welsh voters, to draft such legislation and put it on the statute books within such a short space of time.”

Y Fonesig Rosemary Butler, y Llywydd ar y pryd, yn trafod deddf gyntaf y Cynulliad i ddod yn gyfraith yn dilyn y pwerau newydd a gafwyd yn sgil refferendwm 2011. Roedd y gyfraith, a gyflwynwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol, yn cydnabod Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd swyddogol yn nhrafodion y Cynulliad.

Act

“Mae angen ffurfio deddfau da drwy gyfraniadau a sylwadau gan bobl Cymru os byddant yn wirioneddol ddemocrataidd, tryloyw ac atebol.”

David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd. Gallwch ddarllen eu hadroddiad ‘Deddfu yng Nghymru’ yn llawn yma. Yn union fel Pwyllgorau Dethol yn San Steffan, mae Pwyllgorau’r Cynulliad yn agwedd annatod o sut mae’r Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, darllenwch ragor am eu gwaith.

“An impressive feature of this Chamber has always been your commitment to accountability and transparency through electronic communication and the broadcasting of your proceedings. I know that the way you have addressed this commitment has stimulated interest in other and older parliaments.”

EM Y Frenhines Elizabeth II yn sôn am dechnoleg y Siambr yn ystod un o’r pum seremoni agoriadol swyddogol. Mae Siambr y Senedd yn siambr ddadlau gwbl electronig. Mae gan bob Aelod derfynell cyfrifiadur unigol i’w galluogi i ymchwilio i bynciau i’w trafod ac i wneud gwaith pan na chânt eu galw i siarad. Gallant hefyd ddefnyddio clustffonau i chwyddo’r sain yn y Siambr neu i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd a ddarperir.

Control

“It’s modern democracy. There aren’t traditions, we’re not bound by anything that’s gone before but we’re trying to create the right processes that suit a modern democracy – getting the business done, making things happen.”

Y Fonesig Claire Clancy, Clerc a Phrif Weithredwr y Cynulliad rhwng 2007 a 2017.

“Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ag awtistiaeth yn gallu cymryd rhan lawn mewn bywyd dinesig ac yn eu cymunedau. Gall hyfforddiant a chynlluniau i godi ymwybyddiaeth wneud gwahaniaeth enfawr a gobeithio y bydd y Cynulliad yn ysbrydoli rhagor o adeiladau cyhoeddus a sefydliadau eraill Cymru i weithio gyda ni i fod yn fwy ystyriol o awtistiaeth.”

Mark Lever, Prif Weithredwr y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, yn sôn am waith y Cynulliad i sicrhau bod ei waith ac adeiladau yn ystyriol o awtistiaeth.

“We’ve got to be world class and we mustn’t settle for anything else.”

Peter Hain, Gweinidog Swyddfa Cymru ar adeg refferendwm 1997 yn trafod cynnydd datganoli yng Nghymru yn 2014.

Funnel

“You don’t come out the one time, you have to do it over and over again because there is still that assumption you are straight. Like somebody once said about devolution, coming out is more of a process than an event.”

Hannah Blythyn AC yw’r fenyw lesbaidd agored gyntaf i gael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn etholiad y Cynulliad yn 2016 cafodd dau ddyn hoyw eu hethol hefyd – Jeremy Miles AC ac Adam Price AC.

Fel cyflogwr, mae’r Cynulliad wedi’i gynnwys ym mhump uchaf Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT ledled y Deyrnas Unedig dros y tair blynedd diwethaf.

“Nawr mae’n bryd i Gymru uno a meddwl yn glir am ein dyfodol. Hyd yn oed cyn pleidlais ddoe dywedais nad oedd un blaid yn medru hawlio’r syniadau da i gyd, a nawr yn fwy nag erioed, rhaid i ni ddibynnu ar allu pob un.”

Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog presennol, yn dilyn canlyniad y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

Yp

“Bydd ‘na seneddau ieuenctid eraill ar draws y byd eisiau cydweithio gyda ni a falle yn y dyfodol i ddod, byddwn ni, y bobl ifanc, yn arwain y ffordd ym myd gwleidyddiaeth.”

Siwan Richards yn sôn pam ei bod yn credu y dylid cael Senedd Ieuenctid i Gymru sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae ymgysylltu â phobl ifanc wedi bod yn flaenoriaeth i’r Cynulliad gan gyrraedd dros 30,000 o bobl ifanc drwy ymweliadau ag ysgolion, rhaglenni allgymorth a gweithgareddau eraill.

“We are entering a period when fundamental changes will be made to the constitutional arrangements of the UK, the place of the devolved nations within it, and the ability of the Assembly to deliver for the people of Wales. As that process unfolds, I am determined to demonstrate and secure the Assembly’s role as a strong, effective Parliament for Wales.”

Y Llywydd presennol, Elin Jones AC, yn ymateb i Lywodraeth y DU yn tanio Erthygl 50.

boed i anodd ddod yn syml,
a’r heriol ddod yn hwyl;
a boed i ni gofio’r wireb hon beunydd:
‘cynt y cyferfydd dau ddyn
na dau fynydd’

Detholiad o ‘Y Tŷ Hwn’, cerdd gan Ifor ap Glyn a gomisiynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad.

Flag

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s