Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ym Mangor

Bydd Pwyllgor y Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn cynnal cyfarfod i drafod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu economaidd.

Bydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 14 Gorffennaf o 10:00 tan 12:00 yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

FM Graphic CY

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu’r economi yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod materion amserol eraill gyda’r Prif Weinidog a byddem yn croesawu awgrymiadau gennych ynghylch materion o bwysigrwydd mawr yn y Gogledd i holi yn eu cylch. Os hoffech inni drafod mater penodol, gallwch awgrymu pwnc o flaen llaw.

Yr economi yng Nghymru – trosolwg

Cyn datblygu Strategaeth Economaidd newydd i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Pwyllgor yn trafod materion o bwys allweddol gyda’r Prif Weinidog. Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu ar adeg pan fo economi Cymru yn wynebu nifer o heriau, rhai ohonynt sy’n gyffredin â gweddill y DU ac eraill yn unigryw i Gymru:

  • Mae gan Gymru werth ychwanegol crynswth (GVA) is y pen o’i gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr.
  • Mae llawer o gymunedau’n parhau i gael trafferth yn ymdopi ag effeithiau dad-ddiwydiannu, ac mae tlodi ac anghydraddoldeb yn heriau parhaus.
  • Mae effeithiau tymor byr a thymor hwy gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr economi yn parhau’n ansicr iawn.

Economi Cymru: mewn rhifau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyhoeddi amrywiaeth o ddangosyddion lefel uchel i fonitro perfformiad cyffredinol economi Cymru. Y rhesymeg sy’n sail i’r dangosyddion yw eu bod yn adlewyrchu’r canlyniadau sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru, ac i roi darlun mwy cynhwysfawr nag y gall un dangosydd ei ddarparu.

8 Key Economic indicators cy

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ‘ffyniant i bawb’ yn flaenoriaeth allweddol yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2016-2021. Mae dwy ran o’r rhaglen hon yn cynnwys blaenoriaethau sy’n hanfodol i lwyddiant economi Cymru

  • Ffyniannus a diogel – sy’n cynnwys ymrwymiadau ynghylch busnes a menter, mewnfuddsoddi, cyflogaeth a’r economi wledig.
  • Unedig a chysylltiedig – sy’n cynnwys mesurau i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, i wella ffyrdd a chludiant cyhoeddus, i wella cysylltedd digidol ac i hyrwyddo cymdeithas ‘deg’.

Yn fuan ar ôl yr etholiad yn 2016, gwnaeth y Llywodraeth annog pobl a sefydliadau yng Nghymru i gynnig blaenoriaethau ar gyfer yr economi a syniadau a fyddai’n helpu i greu economi gryfach a mwy diogel. Mae’r elfennau hyn o raglen Llywodraeth Cymru o ran sicrhau cenedl sy’n ffyniannus a diogel ac sy’n unedig a chysylltiedig yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Er nid yw llawer o bwerau dros yr economi wedi’u datganoli i Gymru, bydd y Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn nifer o feysydd allweddol:

Strategaeth economaidd

Moneypenny

Yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi dweud eu bod am gefnogi “ystod o ffyniant â’i ganolbwynt yng Nghymru sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd o Gaergybi i Wrecsam ac ymlaen i Lerpwl, Manceinion, Leeds a thu hwnt”. Gallai’r gwaith i wneud hyn gynnwys nifer o fentrau fel: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, y ‘fargen dwf’ arfaethedig ar gyfer y Gogledd a chysylltiadau â menter Pwerdy Gogledd Lloegr Llywodraeth y DU.

Trafnidiaeth

Menai
Mae seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys ffyrdd a rheilffyrdd, yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r economi. Caiff pryderon eu mynegi’n rheolaidd ynghylch capasiti presennol yr A55 a chroesfannau’r Fenai yn y Gogledd a’r M4 yn y De. Nid yw seilwaith y rheilffyrdd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi ynddo i ddiwallu anghenion Cymru. Mae gwaith i drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y Gogledd a’r De, yn ogystal â’r prosiectau Metro arfaethedig yn y Gogledd a’r De, yn faterion allweddol.

Porthladdoedd 

HolyheadMae’r Prif Weinidog wedi mynegi pryder yn y gorffennol ynghylch y goblygiadau i borthladdoedd Cymru ar ôl i’r DU adael yr UE, gan awgrymu y gallai ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a chynnal archwiliadau tollau mewn mannau eraill rhwng y DU ac Iwerddon, olygu bod porthladdoedd Cymru o dan anfantais o ran cystadleurwydd.

 Ynni

Turbine

Roedd y Datganiad ar Ynni gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Rhagfyr 2016 yn amlinellu blaenoriaethau ac uchelgeisiau’r Llywodraeth ynghylch ynni, gan gynnwys pontio i economi carbon isel. Mae’r rhaglen Ynys Ynni Môn yn cwmpasu ystod eang o brosiectau, gan gynnwys gwynt ar y môr, niwclear, biomas a pharc gwyddoniaeth. Uchelgais y rhaglen yw creu swyddi, twf a ffyniant ar gyfer y rhanbarth, ac i Gymru yn fwy cyffredinol.

Polisi sgiliau

board

Rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru bwyslais cryf ar sgiliau, gan gyhoeddi cynllun sgiliau a mesurau perfformiad dros 10 mlynedd. O fis Ebrill 2018, bydd rhaglen sgiliau cyflogadwyedd newydd i bob oedran yn dwyn ynghyd rhaglenni sgiliau cyflogadwyedd blaenorol, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru, ReAct a Hyfforddeiaethau. Cafodd dogfen strategaeth ar brentisiaethau wedi’i diweddaru hefyd ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2017, gyda tharged o greu o leiaf 100,000 o brentisiaid o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Sut gallaf wylio?

Mae croeso ichi ddod i wylio trafodion y pwyllgor yn fyw. Ffoniwch ein llinell archebu i roi gwybod eich bod am fod yn bresennol. Os nad ydych yn gallu dod i’r Ganolfan Rheolaeth, gallwch weld y cyfarfod yn fyw ar Senedd.TV neu gallwch wylio’r trafodion yn ôl ar ôl y digwyddiad.

Os ydych yn byw neu’n gweithio yn y Gogledd, pa faterion sydd bwysicaf i chi? Gallwch drydar awgrymiadau @CynulliadCymru, gwneud sylw ar ein tudalen Facebook neu anfon e-bost at y pwyllgor yn uniongyrchol – CraffuPW@Cynulliad.Cymru.

Beth mae’r pwyllgor yn ei wneud?

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru nifer o bwyllgorau sy’n cynnwys Aelodau Cynulliad o wahanol bleidiau gwleidyddol, a’u nod yw ymchwilio’n fanwl i wahanol bynciau fel iechyd, addysg a diwylliant. Un o’u swyddogaethau yw cynnal ymchwiliadau manwl i bolisïau a pherfformiad Llywodraeth Cymru.

Mae pwyllgorau’n gwneud hyn drwy ofyn barn y cyhoedd a thrwy gael mewnbwn gan arbenigwyr a sefydliadau cydnabyddedig. Maent hefyd yn holi Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif y Gweinidog yn cyfarfod unwaith bob tymor i drafod yn benodol yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei wneud yn ei rôl o oruchwylio swyddogaethau a pherfformiad Llywodraeth Cymru.

Dyma Aelodau’r Cynulliad sy’n rhan o’r Pwyllgor. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau eraill y Cynulliad.

Ann Jones AM (Cadeirydd) Llafur Cymru  Jayne Bryant AM Llafur Cymru
Huw Irranca-Davies AM Llafur Cymru Russell George AM Ceidwadwyr Cymreig
John Griffiths AM Llafur Cymru Mike Hedges AM Llafur Cymru
Bethan Jenkins AM Plaid Cymru Dai Lloyd AM Plaid Cymru
Lynne Neagle AM Llafur Cymru Nick Ramsay AM Ceidwadwyr Cymreig
David Rees AM Llafur Cymru Simon Thomas AM Plaid Cymru

Beth mae’r Prif Weinidog yn ei wneud?

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd.

press-conference

Mae cyfrifoldebau’r Prif Weinidog yn cynnwys:

  • penodi Cabinet sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
  • arwain ar ddatblygu a chyflwyno polisïau;
  • rheoli’r cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
  • cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol, a
  • staff Llywodraeth Cymru.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s