Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Y cyhoedd yn penderfynu ar destun ymchwiliad un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i bobl Cymru benderfynu ar y materion y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt.

paint-halfsize-twitter-1-cy

Er bod Pwyllgorau’r Cynulliad yn ceisio cynnwys y cyhoedd yn eu gwaith yn rheolaidd, ac wedi gwneud hynny drwy ddulliau amrywiol (gan gynnwys cynnal digwyddiadau, grwpiau ffocws, sgyrsiau ar y we, arolygon barn, cyfweliadau fideo a gweithdai, ynghyd â defnyddio aps ceisio barn torfol), dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad ofyn i bobl Cymru benderfynu ar destun ymchwiliad.

Sut y cafodd y syniadau eu casglu?

Cynhaliodd James Williams o BBC Cymru Wales gyfweliad â Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, ar Facebook Live—y digwyddiad cyntaf o’r fath yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol. Anogodd Bethan bobl i gysylltu â hi ac i awgrymu meysydd blaenoriaeth.

Gwahoddodd y Pwyllgor bobl i awgrymu syniadau ar Facebook a Twitter a thrwy e-bost. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn parhau â’r sgwrs.

Beth ddywedodd pobl?

Cafwyd nifer o awgrymiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, a chafodd y syniadau hyn eu grwpio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor. Yna, gwiriodd yr Aelodau yr eitemau ar y rhestr gyhoeddus hon yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a oedd wedi dod i’r amlwg mewn sesiwn gynllunio flaenorol.

Roedd tipyn o dir cyffredin rhwng meysydd blaenoriaeth Aelodau’r Pwyllgor a’r rhestr gyhoeddus, gan gynnwys:

  • sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • rôl radio yng Nghymru
  • cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Penderfynodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad i’r iaith Gymraeg, a gwnaeth ymrwymiad i ymchwilio i’r materion sydd wedi’u rhestru uchod yn y dyfodol.

O ran yr awgrymiadau eraill a wnaed gan y cyhoedd ond nad ydynt wedi’u rhestru uchod, cafodd y cyhoedd gyfle i bleidleisio arnynt mewn arolwg barn. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad i’r pwnc a ddenodd y lefel uchaf o gefnogaeth, a hynny cyn gynted â phosibl.

This slideshow requires JavaScript.

Pwy wnaeth ymateb i’r arolwg barn?

Cafodd yr arolwg barn ei hyrwyddo mewn nifer o wahanol ffyrdd. Cynhaliwyd gweithdai allgymorth a chyflwyniadau gan staff y Cynulliad i’r perwyl hwn. Cafodd pobl ifanc o grwpiau ieuenctid ac ysgolion, yn ogystal ag oedolion o grwpiau cymunedol, busnesau and sefydliadau, gyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ac i ymateb i’r arolwg barn. Yn ogystal, cafodd ymwelwyr i’r Senedd ym Mae Caerdydd wybodaeth am y fenter hon ac fe’u hanogwyd i gymryd rhan.

Ynghyd â’r gwaith a wnaed all-lein, cafodd yr arolwg barn ei hyrwyddo ar-lein ar sianelu cyfryngau cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol ac ar gyfrifon cymdeithasol personol Aelodau’r Pwyllgor. Yn ogystal, cawsom gymorth gan nifer o sefydliadau, grwpiau a rhwydweithiau, a fu’n rhannu’r wybodaeth hon gyda’u haelodau a’u dilynwyr drwy ei rhoi ar eu gwefannau, eu cylchlythyrau, a’u sianelu cyfryngau cymdeithasol.

Ymatebodd cyfanswm o 2,660 o bobl i’r arolwg barn. Cafwyd 903 o’r ymatebion hynny drwy’r gweithgareddau all-lein a nodir uchod, a chafwyd 1,757 o ymatebion ar-lein.

Lleoliad

Cafwyd ymatebion gan ddinasyddion o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Un o’r pryderon a fynegwyd ar ddechrau’r broses oedd y posibilrwydd y byddai nifer fach o ymatebion yn dod i law o ardaloedd gwledig a lled-wledig sydd, yn draddodiadol, yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu yn ddigidol.

Er bod peth amrywiaeth ymhlith y gwahanol rannau o Gymru wedi dod i’r amlwg, ni chafodd y pryder hwn ei wireddu. Roedd y ganran o ymatebion a ddaeth i law o lefydd fel Gwynedd, Powys a Sir Fôn (18.67% at ei gilydd), yn uwch na chanran y boblogaeth sy’n byw yn yr ardaloedd hynny (10.58%). O gyfeiriad Caerdydd, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot y daeth y nifer fwyaf o ymatebion i law, sef 37.56% o gyfanswm yr ymatebion a gafwyd i’r arolwg barn.

Oed

Ar gyfartaledd, cafwyd mwy o ymatebion i’r arolwg barn gan bobl hyd at 18 oed (39.47% o gyfanswm yr ymatebion) na chanran y boblogaeth yng Nghymru sydd yn y grŵp oedran hwn (21.95%)

Ar gyfartaledd, cafwyd llai o ymatebion i’r arolwg barn gan bobl sydd rhwng 19 a 25 oed na chanran y boblogaeth yng Nghymru sydd yn y grŵp oedran hwn (5.87% yn erbyn 9.6%)

Ar gyfartaledd, cafwyd llai o ymatebion i’r arolwg barn gan bobl a oedd yn 60 oed neu’n hŷn na chanran y boblogaeth yng Nghymru sydd yn y grŵp oedran hwn (10.94% yn erbyn 25.05%)

Daeth 43.72% o’r ymatebion a gafwyd i’r arolwg barn gan bobl rhwng  26 a 59 oed, o’i gymharu â chanran y boblogaeth yng Nghymru sydd yn y grŵp oedran hwn, sef 43.33%.

Crefydd

Ar gyfartaledd, roedd canran yr ymatebion a gafwyd i’r arolwg barn gan bobl a nododd eu bod yn dilyn crefydd ar wahân i Gristnogaeth bron yn union yr un peth â chanran y boblogaeth yng Nghymru sy’n rhan o’r grŵp hwn (2.52% o ymatebion i’r arolwg barn, yn erbyn 2.7% o’r boblogaeth).

Aelodaeth o sefydliadau

Dywedodd 11% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg barn eu bod yn aelod o sefydliad, grŵp, elusen neu ysgol, neu fod ganddynt gysylltiadau perthnasol.

Manylion y bleidlais

Roedd 11 o opsiynau ar gael ar y ddewislen, ac roedd pob un ohonynt yn deillio o’r set wreiddiol o awgrymiadau a wnaed ar ddechrau’r broses. Yr awgrym mwyaf poblogaidd oedd ‘Ariannu addysg gerddoriaeth a mynediad ati’, a ddenodd 19.63% o’r bleidlais. Daeth ‘Cymorth dwyieithog i bobl fyddar, pobl drwm eu clyw a phobl ag anawsterau cyfathrebu’ yn ail (12.41%), a daeth ‘Cryfhau cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol’ yn drydydd (11.40%).

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i lansio ymchwiliad i ‘Ariannu addysg gerddoriaeth a mynediad ati’ (insert date). Yn ogystal, wrth drafod y materion y dylai ymchwilio iddynt dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, bydd hefyd yn ystyried yr opsiynau eraill a gafodd eu hawgrymu ac a fu’n destun pleidlais yn yr arolwg barn.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran ac i’r rai a fu’n helpu gyda’r gwaith o hyrwyddo’r arolwg barn. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ddilyn ei gyfrif Twitter thrwy fynd i dudalen y Pwyllgor ar wefan y Cynulliad.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s