Ariannu’r Dyfodol – newidiadau i’r ffordd mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru

Simon Thomas AC/AMSut gallwn ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau ariannol cywir? Yn ddiweddar, bu Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad,  yn annerch cynhadledd ‘Dyfodol Diamod’ Swyddfa Archwilio Cymru.

Mewn tirwedd sy’n newid o hyd o ran cyllid yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed fod gennym weithwyr proffesiynol dawnus yn ein gwlad sy’n gweithio ar y cyd i graffu’n effeithiol ar wariant yng Nghymru.

Ar 1 Tachwedd cefais fy ngwahodd gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i siarad yng nghynhadledd Dyfodol Diamod 2016.  Yn ystod y gynhadledd lansiwyd cynllun newydd arloesol i gynyddu sgiliau’r sector cyhoeddus ym maes cyllid gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae mwy o luniau o Ddyfodol Diamod 2016 ar gael ar Facebook

Bûm yn siarad yn y gynhadledd yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwyllgor trawsbleidiol yw’r Pwyllgor Cyllid sy’n bennaf gyfrifol am adrodd ar wariant gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol. Y Pwyllgor Cyllid blaenorol wnaeth gymeradwyo’r cyllid ar gyfer ehangu’r Cynllun Hyfforddeion Ariannol a gafodd ei lansio yn y  gynhadledd ar 1 Tachwedd 2016.

Fy araith yn llawn ar gael i’w ddarllen yma:

Wrth siarad â’r hyfforddeion roeddwn yn awyddus i bwysleisio’r newidiadau i ddatganoli cyllidol wrth inni weld dechrau cyfnod pwysig mewn datganoli yng Nghymru. Gyda dyfodiad y trethi cyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd mae rôl y Pwyllgor Cyllid wrth sicrhau bod gwaith craffu effeithiol a meithrin hyder y cyhoedd yn digwydd yn bwysicach fyth. Eglurais sut yr ydym, fel Pwyllgor, ar hyn o bryd, yn craffu ar y ‘Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig’ a fydd yn disodli treth dir y Dreth Stamp ac yn disgwyl y ‘Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi’ cyn bo hir.

Bydd y trethi hyn ynghyd â datganoli cyfran o dreth incwm yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi tua £3 biliwn, gan greu cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng yr arian a gaiff ei godi a’i wario yng Nghymru.  Y newid hwn mewn grym cyllidol sy’n gyrru f’awydd i’n gweld ni yn meithrin ein talent gartref i raddau llawer helaethach.

Yn ystod fy araith, soniais am y rhwymedigaethau newydd sy’n ymwneud â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Daeth y Ddeddf i rym yn ystod y Cynulliad diwethaf. Ei nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn meddwl rhagor am:

  • gynllunio ar gyfer y tymor hir,
  • gweithio’n well gyda phobl a chymunedau,
  • edrych ar atal problemau.

Gan fod yr Archwilydd Cyffredinol yn meddu ar rôl mor allweddol wrth roi’r Ddeddf hon ar waith, roeddwn o’r farn ei bod yn bwysig i esbonio’r broses i’r hyfforddeion. Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol i lunio adroddiad ar sut mae cyrff cyhoeddus wedi cymhwyso’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy yn y ffordd y maent yn pennu eu hamcanion a’r camau y maent yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.  Mae’n ofynnol iddo gyflwyno’r adroddiad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o leiaf unwaith ymhob cylch etholiadol o bum mlynedd.

Gyda hynt datganoli yng Nghymru, cyflwyno ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ a ‘Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’, ni ellir bychanu’r pwysigrwydd o graffu effeithiol gan weithwyr proffesiynol dawnus ein gwlad.  Dyna pam rwyf yn ddiolchgar i’r Archwilydd Cyffredinol nid yn unig am fy ngwahodd i siarad yn y gynhadledd ar gyfer hyfforddeion ariannol, ond am sicrhau datblygiad a dilyniant y cynllun hwn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cyllid y Cynulliad drwy ymweld â cynulliad.cymru/seneddcyllid. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter – @SeneddCyllid.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Eu nod yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Gallwch ddarganfod rhagor am eu gwaith yn www.wao.gov.uk

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s